- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ATODLEN 1 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 19 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):
(a gyflwynwyd gan adran 85)
1(1)Pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (mewn achosion ar wahân i’r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (8) [F1, ac mewn achosion pan fo codi ffioedd wedi ei wahardd gan neu o dan ddeddfiad]) rhaid iddo ystyried a ddylai adennill cyfraniadau tuag at gynhaliaeth y plentyn gan unrhyw berson sy’n atebol am gyfrannu (“cyfrannwr”).
(2)Dim ond pan fo awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn rhesymol y caniateir iddo adennill cyfraniadau gan gyfrannwr.
(3)Mae person yn atebol am gyfrannu os yw’n oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(4)Nid yw person yn atebol am gyfrannu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’n cael budd-dal sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.
(5)Yn is-baragraff (4) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.
(6)Nid yw person yn atebol am gyfrannu tuag at gynhaliaeth plentyn y mae awdurdod lleol yn gofalu amdano mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod y mae’r plentyn yn byw gydag un o rieni’r plentyn o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod yn unol ag adran 81.
(7)Nid oes rhaid i gyfrannwr wneud unrhyw gyfraniad tuag at gynhaliaeth plentyn ac eithrio fel a gytunir neu a ddyfernir yn unol â’r Atodlen hon.
(8)Yr achosion yw’r rhai lle y mae awdurdod lleol yn gofalu am blentyn o dan—
(a)adran 76;
(b)gorchymyn gofal interim o dan Ddeddf Plant 1989;
[F2(c)adran 260 o'r Cod Dedfrydu.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 1 para. 1(1) wedi eu mewnosod (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 49(5), 100(3); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3
F2Atod. 1 para. 1(8)(c) wedi ei amnewid (1.12.2020) gan Sentencing Act 2020 (c. 17), a. 416(1), Atod. 24 para. 306(2) (ynghyd ag Atod. 27); O.S. 2020/1236, rhl. 2
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Atod. 1 para. 1 wedi ei eithrio gan OS 2005/1313 rhl. 46A(2) (fel y'i eithirwyd) (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) a Chynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/216), rhlau. 1(2), 5(8)
C2Atod. 1 para. 1 wedi ei eithrio (6.4.2016) gan O.S. 2012/2813, rhl. 2A(c) (fel y'i mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 (O.S. 2016/211), rhl. 1(2), Atod. 3 para. 131)
C3Atod. 1 para. 1 wedi ei eithrio (6.4.2016) gan O.S. 2012/2813, rhlau. 2A(c), 5A (fel y'i mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 (O.S. 2016/211), rhl. 1(2), Atod. 3 parau. 131, 132)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)
2(1)Ni chaniateir i gyfraniadau tuag at gynhaliaeth plentyn gael eu hadennill ond os yw’r awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad (“hysbysiad cyfrannu”) i’r cyfrannwr yn pennu—
(a)y swm wythnosol y mae’n barnu y dylid ei gyfrannu, a
(b)trefniadau ar gyfer talu.
(2)Rhaid i’r hysbysiad cyfrannu fod yn ysgrifenedig ac wedi ei ddyddio.
(3)Rhaid i’r trefniadau ar gyfer talu gynnwys, yn benodol—
(a)y dyddiad y mae atebolrwydd am gyfrannu’n dechrau (y mae’n rhaid i’r dyddiad beidio â bod yn gynharach na dyddiad yr hysbysiad),
(b)y dyddiad y bydd atebolrwydd o dan yr hysbysiad yn dod i ben (os nad yw’r plentyn, cyn y dyddiad hwnnw, wedi peidio â bod yn un sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod), ac
(c)y dyddiad pryd y mae’r taliad cyntaf i’w wneud.
(4)Caiff yr awdurdod bennu, mewn hysbysiad cyfrannu, swm wythnosol sy’n gyfraniad safonol a ddyfernir gan yr awdurdod ar gyfer yr holl blant y mae’n gofalu amdanynt.
(5)Ni chaiff awdurdod bennu, mewn hysbysiad cyfrannu, swm wythnosol sy’n uwch na’r hyn y mae’n barnu—
(a)y byddai fel arfer yn barod i’w dalu pe bai wedi lleoli plentyn tebyg gyda rhieni maeth awdurdod lleol, a
(b)ei bod yn rhesymol ymarferol i’r cyfrannwr dalu (gan roi sylw i’w foddion byw).
(6)Caiff awdurdod dynnu hysbysiad cyfrannu yn ôl ar unrhyw bryd (heb effeithio ar ei bŵer i gyflwyno un arall).
(7)Pan fo’r awdurdod a’r cyfrannwr yn cytuno ar—
(a)y swm y mae’r cyfrannwr i’w gyfrannu, a
(b)trefniadau ar gyfer talu,
(p’un ai fel a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu neu fel arall) a bod y cyfrannwr yn hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig ei fod yn cytuno â hynny, caiff yr awdurdod adennill yn ddiannod, fel dyled sifil, unrhyw gyfraniad sy’n orddyledus a heb ei dalu.
(8)Nid yw is-baragraff (7) yn effeithio ar unrhyw ddull arall o adennill costau.
(9)Caiff cyfrannwr, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod, dynnu ei gytundeb yn ôl mewn perthynas ag unrhyw gyfnod atebolrwydd sy’n dod ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)
3(1)Pan fo hysbysiad cyfrannu wedi ei gyflwyno i gyfrannwr a bod—
(a)y cyfrannwr wedi methu â dod i unrhyw gytundeb gyda’r awdurdod lleol fel a grybwyllwyd ym mharagraff 2(7) o fewn cyfnod o fis sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad am gyfraniadau, neu
(b)y cyfrannwr wedi cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 2(9) yn tynnu ei gytundeb yn ôl,
caiff yr awdurdod wneud cais i’r llys am orchymyn o dan y paragraff hwn.
(2)Wrth gael cais o’r fath caiff y llys wneud gorchymyn (“gorchymyn cyfrannu”) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfrannwr gyfrannu swm wythnosol tuag at gynhaliaeth y plentyn yn unol â threfniadau ar gyfer talu a bennir gan y llys.
(3)O ran gorchymyn cyfrannu—
(a)ni chaiff bennu swm wythnosol sy’n uwch na’r hyn a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu, a
(b)rhaid ei wneud gan roi sylw i foddion byw y cyfrannwr.
(4)Ni chaiff gorchymyn cyfrannu—
(a)dod yn effeithiol cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu,
(b)cael effaith tra na bo’r cyfrannwr yn atebol am gyfrannu (yn rhinwedd paragraff 1), nac
(c)aros mewn grym ar ôl i’r plentyn beidio mwyach â bod yn un sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod a sicrhaodd y gorchymyn.
(5)Ni chaiff awdurdod wneud cais i’r llys o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â hysbysiad cyfrannu y mae wedi ei dynnu yn ôl.
(6)Pan fo—
(a)gorchymyn cyfrannu mewn grym,
(b)yr awdurdod yn cyflwyno hysbysiad cyfrannu arall, ac
(c)y cyfrannwr a’r awdurdod yn dod i gytundeb o dan baragraff 2(7) mewn perthynas â’r hysbysiad cyfrannu arall hwnnw,
effaith y cytundeb yw disodli’r gorchymyn o’r dyddiad y cytunir bod y cytundeb i ddod yn effeithiol.
(7)Pan ddeuir i gytundeb yn yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (6) rhaid i’r awdurdod hysbysu’r llys—
(a)am y cytundeb, a
(b)am y dyddiad y daeth yn effeithiol.
(8)Caniateir i orchymyn cyfrannu gael ei amrywio neu ei ddirymu ar gais y cyfrannwr neu’r awdurdod.
(9)Mewn achos cyfreithiol ar gyfer amrywio gorchymyn cyfrannu, rhaid i’r awdurdod bennu—
(a)y swm wythnosol, gan roi sylw i baragraff 2, y mae’n bwriadu y dylai’r cyfrannwr ei gyfrannu o dan y gorchymyn fel y bydd yn cael ei amrywio, a
(b)y trefniadau arfaethedig ar gyfer talu.
(10)Pan fo gorchymyn cyfrannu wedi ei amrywio—
(a)ni chaiff y gorchymyn bennu swm wythnosol sy’n uwch na’r un a bennwyd gan yr awdurdod yn yr achos cyfreithiol ar gyfer ei amrywio, a
(b)rhaid i’r gorchymyn gael ei wneud gan roi sylw i foddion byw y cyfrannwr.
(11)Ceir gwneud apêl yn unol â rheolau’r llys yn erbyn unrhyw orchymyn a wneir o dan y paragraff hwn.
[F3(12)Bydd gorchymyn cyfrannu mewn perthynas â phlentyn, pe byddai fel arall yn parhau mewn grym, yn peidio â chael effaith pan fydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed.]
Diwygiadau Testunol
F3Atod. 1 para. 3(12) wedi ei fewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 320
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)
4F4(1). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F4(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3)Pan fo cyfrannwr wedi cytuno, neu wedi cael ei orchymyn, i wneud cyfraniadau i awdurdod lleol , caiff unrhyw awdurdod lleol arall [F5neu awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r cyfrannwr yn byw yn ei ardal am y tro—
(a)ar gais yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfrannu, a
(b)yn ddarostyngedig i gytundeb ynghylch unrhyw swm sydd i’w ddidynnu mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddarparwyd,
gasglu oddi wrth y cyfrannwr unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus ar ran yr awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad.
(4)Mae’r pŵer i gasglu symiau o dan is-baragraff (3) yn cynnwys pŵer i—
(a)cael unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus a rhoi rhyddhad rhag eu talu, a
(b)(os yw’n angenrheidiol) gorfodi unrhyw gyfraniadau i gael eu talu,
er ei bod yn bosibl bod y cyfraniadau hynny wedi dod yn ddyledus ar adeg pan roedd y cyfrannwr yn byw yn rhywle arall.
(5)Mae unrhyw gyfraniad a gesglir o dan is-baragraff (3) i’w dalu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad y cytunwyd arno) i’r awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfraniadau.
(6)Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae dogfen—
(a)sy’n honni ei bod yn gopi o orchymyn a wnaed gan lys o dan neu yn rhinwedd paragraff 3, a
(b)sy’n honni ei bod wedi ei hardystio’n wir gopi gan y swyddog dynodedig i’r llys,
i’w derbyn fel tystiolaeth o’r gorchymyn.
(7)Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y clerc neu gan ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol a hwnnw’n swyddog i’r awdurdod lleol a sicrhaodd y gorchymyn cyfrannu, a
(c)sy’n nodi bod unrhyw swm sy’n ddyledus i’r awdurdod o dan y gorchymyn yn orddyledus a heb ei dalu,
i’w derbyn fel tystiolaeth bod y swm yn orddyledus a heb ei dalu.
Diwygiadau Testunol
F4Atod. 1 para. 4(1)(2) wedi eu hepgor (6.4.2016) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 321(a)
F5Geiriau yn Atod. 1 para. 4(3) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 321(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)
5Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—
(a)yr ystyriaethau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu—
(i)a yw’n rhesymol adennill cyfraniadau, a
(ii)yr hyn y dylai’r trefniadau ar gyfer talu fod;
(b)y gweithdrefnau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu dilyn wrth ddod i gytundeb â’r canlynol—
(i)cyfranwyr (o dan baragraffau 2 a 3), a
(ii)unrhyw awdurdod lleol arall (o dan baragraff 4).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)
6(1)Caniateir i hysbysiad cyfrannu y mae’n ofynnol ei gyflwyno i gyfrannwr o dan yr Atodlen hon gael ei gyflwyno i’r cyfrannwr—
(a)drwy ei ddosbarthu’n bersonol i’r cyfrannwr, neu
(b)drwy ei anfon at y cyfrannwr—
(i)drwy wasanaeth post cofrestredig (fel y diffinnir “registered post service” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000), neu
(ii)drwy wasanaeth post sy’n darparu i ddosbarthiad y ddogfen gael ei gofnodi.
(2)At ddibenion adran 7 o Ddeddf Ddehongli 1978 o ran ei chymhwyso i’r paragraff hwn, cyfeiriad priodol cyfrannwr yw cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfrannwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys