- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Tai (Cymru) 2014, Croes Bennawd: Atodol.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Nid yw Rhan 1 o’r Ddeddf hon yn rhwymo’r Goron.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 42A wedi ei fewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(6)
(1)Nid yw unrhyw rheol gyfreithiol sy’n ymwneud â dilysrwydd neu orfodadwyedd contractau mewn amgylchiadau sy’n cynnwys anghyfreithlondeb i effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd unrhyw ddarpariaeth mewn tenantiaeth ddomestig annedd y mae’r Rhan hon wedi ei thorri mewn perthynas â hi.
(2)Ond o ran taliadau cyfnodol—
(a)caniateir i rai sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth o’r fath gael eu hatal yn unol ag adran 30 (gorchmynion atal rhent), a
(b)caniateir i rai a delir mwn cysylltiad â thenantiaeth o’r fath gael eu hadfer yn unol ag adrannau 32 a 33 (gorchmynion ad-dalu rhent).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 43 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(v)
I3A. 43 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1066, ergl. 2
(1)Ni chaniateir rhoi [F2hysbysiad o fewn is-adran (1A)] mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig [F3sy’n gontract meddiannaeth safonol] os—
(a)nad yw’r landlord yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd, neu
(b)nad yw’r landlord yn drwyddedig o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi ac nad yw wedi penodi person sydd yn drwyddedig o dan y Rhan hon i ymgymryd â’r holl waith rheoli eiddo mewn perthynas â’r annedd ar ran y landlord.
[F4(1A)Mae hysbysiad o fewn yr is-adran hon os yw’n hysbysiad—
(a)a roddir o dan adran 173(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (hysbysiad y landlord);
(b)a roddir o dan adran 186(1) o’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);
(c)fel y’i disgrifir yn adran 194(1) o’r Ddeddf honno (cymal terfynu’r landlord);
(d)a roddir o dan baragraff 25B o Atodlen 12 i’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord i derfynu contract safonol cyfnod penodol wedi ei drosi).]
(2)[F5Nid yw] is-adran (1) yn gymwys am y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod pan fo buddiant y landlord yn yr annedd yn cael ei aseinio i’r landlord.
F6(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 44(1) wedi eu hamnewid (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(7)(a)(i)
F3Geiriau yn a. 44(1) wedi eu hamnewid (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(7)(a)(ii)
F4A. 44(1A) wedi ei fewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(7)(b)
F5Gair yn a. 44(2) wedi ei amnewid (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(7)(c)
F6A. 44(3) wedi ei hepgor (1.12.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(7)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I5A. 44 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1066, ergl. 2
I6A. 44 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(w)
Os ymddiriedolwyr yw’r landlord, caniateir i’r landlord fod yn gofrestredig neu’n drwyddedig at ddibenion y Rhan hon o dan enw sy’n ddisgrifiad ar y cyd o’r ymddiriedolwyr fel ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I8A. 45 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(v)
(1)Caiff rheoliadau a wneir o dan y Rhan hon sy’n rhagnodi swm ffi sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â cheisiadau i fod yn gofrestredig neu yn drwyddedig ddarparu —
(a)mai’r ffi fydd swm a nodir yn y rheoliadau;
(b)y caiff y ffi ei phenderfynu gan berson neu drwy ddull a bennir yn y rheoliadau.
(2)Caiff y cyfryw reoliadau ragnodi ffi wahanol ar gyfer gwahanol bersonau.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I10A. 46 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I11A. 46 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(x)
I12A. 46 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2
Rhaid i awdurdod trwyddedu gyhoeddi gwybodaeth am ei ofynion mewn perthynas ag—
(a)ffurf a chynnwys ceisiadau i fod yn gofrestredig ac yn drwyddedig;
(b)yr wybodaeth sydd i’w darparu wrth wneud ceisiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I14A. 47 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(w)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth o’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol neu’n ei awdurdodi (ym mha dermau bynnag) i—
(a)hysbysu person am rywbeth, neu
(b)rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).
(2)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i’r person o dan sylw—
(a)drwy ei draddodi neu ei thraddodi i’r person,
(b)drwy ei anfon neu ei hanfon drwy’r post i gyfeiriad cywir y person,
(c)drwy ei adael neu ei gadael yn nghyfeiriad cywir y person, neu
(d)os yw’r amodau yn is-adran (4) yn cael eu bodloni, drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig.
(3)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i gorff corfforaethol drwy ei roi neu ei rhoi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.
(4)Caiff person perthnasol anfon hysbysiad neu ddogfen yn electronig at berson dim ond os bodlonir y gofynion a ganlyn—
(a)rhaid i’r person y mae’r hysbysiad neu’r ddogfen i’w roi neu ei rhoi iddo fod wedi—
(i)nodi wrth y person perthnasol barodrwydd i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig, a
(ii)rhoi cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw i’r person perthnasol, a
(b)rhaid i’r person perthnasol anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen i’r cyfeiriad hwnnw.
(5)At ddibenion yr adran hon ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn ei gymhwysiad i’r adran hon, cyfeiriad cywir person yw—
(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
(b)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person.
(6)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person i’w drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel ei fod neu ei bod wedi ei roi neu ei rhoi ar yr amser y gadawyd ef neu hi yn y cyfeiriad.
(7)Mae pob un o’r canlynol yn “berson perthnasol” at ddibenion yr adran hon—
(a)awdurdod trwyddedu;
(b)awdurdod tai lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu;
(c)person sydd, yn rhinwedd awdurdodiad ysgrifenedig, yn arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ar ran awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol o’r math a grybwyllir ym mharagraff (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I16A. 48 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(x)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys