- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, RHAN 7.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)dynodi gweithgaredd y mae is-adran (2) yn gymwys iddo fel gweithgaredd rheoleiddiedig at ddibenion y Rhan hon, a
(b)awdurdodi i orchmynion gwahardd gael eu gwneud mewn cysylltiad â’r gweithgaredd rheoleiddiedig.
(2)Y gweithgareddau y mae’r is-adran hon yn gymwys iddynt yw—
(a)ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad rhagnodedig;
(b)cyflawni gweithgaredd rhagnodedig fel gweithiwr gofal cymdeithasol;
(c)y defnydd gan unigolyn o deitl rhagnodedig sy’n ymwneud â gweithgaredd o fewn paragraff (a) neu (b).
(3)Yn is-adran (2) nid yw’r cyfeiriadau at “gweithiwr gofal cymdeithasol” yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)gweithiwr cymdeithasol, neu
(b)gweithiwr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad a bennir am y tro drwy reoliadau o dan adran 80(1)(b) (disgrifiadau o weithiwr gofal cymdeithasol y mae GCC yn cadw rhan ychwanegol o’r gofrestr mewn cysylltiad â hwy).
(4)Yn y Rhan hon ystyr “gorchymyn gwahardd” yw gorchymyn a wneir gan panel addasrwydd i ymarfer sy’n gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig.
(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(6)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—
(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a
(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 165 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 165 ragnodi’r amgylchiadau pan gaiff panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn gwahardd.
(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu na chaiff panel wneud gorchymyn gwahardd mewn cysylltiad â pherson oni bai bod un neu ragor o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a)bod y person wedi ei gollfarnu o drosedd o fath rhagnodedig;
(b)bod y person wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd o fath rhagnodedig;
(c)bod y person wedi ei gynnwys ar restr wahardd;
(d)bod corff perthnasol wedi gwneud dyfarniad i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer;
(e)bod y panel wedi ei fodloni bod y person wedi methu â chyrraedd unrhyw safon ymddygiad a bennir o dan adran 173;
(f)bod y panel yn meddwl bod gwneud y gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd, neu fod hynny fel arall er budd y cyhoedd.
(3)Yn is-adran (2) mae i “corff perthnasol” a “rhestr wahardd” yr un ystyr ag yn adran 117 (seiliau amhariad ar addasrwydd i ymarfer).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I4A. 166 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i reoliadau o dan adran 165 awdurdodi i orchmynion gwahardd interim gael eu gwneud.
(2)Mae gorchymyn gwahardd interim yn orchymyn a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer sy’n gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig wrth aros am benderfyniad o ran pa un ai i wneud gorchymyn gwahardd ai peidio.
(3)Rhaid i’r rheoliadau ddarparu na chaiff panel wneud gorchymyn gwahardd interim oni bai ei fod yn meddwl bod gwneud gorchymyn ar frys yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd, neu fod hynny fel arall er budd y cyhoedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I6A. 167 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)gwneud darpariaeth o ran yr amser pan fydd gorchymyn gwahardd yn cymryd effaith;
(b)gwneud darpariaeth ynghylch yr adolygiad o orchymyn gwahardd gan banel addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys—
(i)yr amgylchiadau y caniateir i orchymyn gwahardd gael ei adolygu odanynt,
(ii)y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am adolygiad,
(iii)amseriad adolygiad, a
(iv)pwerau’r panel mewn adolygiad (gan gynnwys pŵer i neilltuo’r gorchymyn gwahardd);
(c)ei gwneud yn ofynnol i GCC gyhoeddi gwybodaeth ragnodedig ynghylch dyfarniadau a wneir gan baneli addasrwydd i ymarfer mewn cysylltiad â gorchmynion gwahardd a gorchmynion gwahardd interim;
(d)ei gwneud yn ofynnol i GCC roi gwybodaeth ragnodedig o’r fath ar gael—
(i)i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu
(ii)er mwyn i’r cyhoedd edrych arni.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I8A. 168 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu gorchymyn gwahardd interim cyn gynted ag y bo’n ymarferol—
(a)os yw’r person y gwneir y gorchymyn mewn cysylltiad ag ef yn gofyn am adolygiad, a
(b)os gofynnir am yr adolygiad heb fod yn gynharach na 3 mis ar ôl y dyddiad y gwnaed y gorchymyn.
(2)Os adolygir gorchymyn gwahardd interim o dan is-adran (1), rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu’r gorchymyn o fewn pob cyfnod dilynol o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad o dan yr is-adran honno.
(3)Caiff panel addasrwydd i ymarfer adolygu gorchymyn gwahardd interim ar unrhyw adeg os daw tystiolaeth newydd ar gael sy’n berthnasol i’r achos.
(4)Yn dilyn adolygiad, caiff y panel neilltuo gorchymyn gwahardd interim.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 169 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I10A. 169 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i reoliadau o dan adran 165 ddarparu ar gyfer hawl i apelio i’r tribiwnlys yn erbyn—
(a)gorchymyn gwahardd;
(b)penderfyniad i beidio â neilltuo gorchymyn gwahardd mewn adolygiad;
(c)penderfyniad i beidio â neilltuo gorchymyn gwahardd interim mewn adolygiad.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth o ran—
(a)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei gwneud ynddo;
(b)ar ba seiliau y caniateir i apêl gael ei gwneud;
(c)y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl;
(d)pwerau’r tribiwnlys ar apêl.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I12A. 170 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â—
(a)gorchymyn gwahardd, neu
(b)gorchymyn gwahardd interim.
(2)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau greu troseddau diannod sy’n ymwneud â chyflogi neu benodi person i wneud unrhyw beth y gwaherddir y person rhag ei wneud drwy—
(a)gorchymyn gwahardd, neu
(b)gorchymyn gwahardd interim.
(4)Ni chaiff rheoliadau sy’n creu trosedd ddarparu i’r drosedd fod yn drosedd y gellir ei chosbi ac eithrio drwy ddirwy (pa un a yw’r ddirwy yn ddirwy ddiderfyn neu’n ddirwy nad yw’n fwy na lefel benodedig ar y raddfa safonol).
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 171 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I14A. 171 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i GCC sefydlu a chynnal rhestr o bersonau y mae gorchymyn gwahardd neu orchymyn gwahardd interim yn cael effaith mewn cysylltiad â hwy.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ffurf a chynnwys y rhestr;
(b)pa un a yw’r rhestr, neu wybodaeth benodedig o’r rhestr, i’w chyhoeddi ai peidio;
(c)rhoi’r rhestr ar gael—
(i)i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu
(ii)er mwyn i’r cyhoedd edrych arni.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 172 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I16A. 172 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i GCC benderfynu ar y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth berson sy’n cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig.
(2)O ran GCC—
(a)rhaid iddo gadw’r safonau o dan adolygiad, a
(b)caiff newid neu ddisodli’r safonau.
(3)Rhaid i GCC gyhoeddi—
(a)y safonau, a
(b)os caiff y safonau eu newid neu eu disodli, y safonau sydd wedi eu newid neu’r safonau newydd.
(4)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn i’w dilyn wrth benderfynu ar y safonau.
(5)Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (4), yn benodol—
(a)gwneud darpariaeth ynghylch y meini prawf y penderfynir ar y safonau drwy gyfeirio atynt;
(b)gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cadw’r safonau o dan adolygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I18A. 173 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys