Chwilio Deddfwriaeth

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 14/07/2017. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Atodlen yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ATODLEN 1. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

(cyflwynir gan adran 61)

ATODLEN 1LL+CCODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Sancsiynau sifilLL+C

1(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth ynghylch sancsiynau sifil am dorri’r rheoliadau.

(2)At ddibenion yr Atodlen hon, mae person yn torri rheoliadau bagiau siopa os yw’r person, o dan yr amgylchiadau hynny y gellir eu pennu—

(a)yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir gan y rheoliadau hyn neu oddi tanynt, neu

(b)yn rhwystro gweinyddwr neu’n methu â rhoi cymorth iddo.

(3)Yn yr Atodlen hon, ystyr “sancsiwn sifil” yw—

(a)cosb ariannol benodedig, neu

(b)gofyniad yn ôl disgresiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Cosbau ariannol penodedigLL+C

2(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr i osod, drwy hysbysiad, gosb ariannol benodedig ar berson sy’n torri’r rheoliadau.

(2)Ni chaiff y rheoliadau ond rhoi pŵer o’r fath mewn perthynas ag achos pan fo’r gweinyddwr wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd fod y toriad wedi digwydd.

(3)At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “cosb ariannol benodedig” yw gofyniad i dalu cosb i weinyddwr o swm a bennir yn y rheoliadau neu a benderfynir yn unol â hwy.

(4)Ni chaiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer gosod cosb ariannol benodedig o fwy na £5,000.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Cosbau ariannol penodedig: y weithdrefnLL+C

3(1)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan baragraff 2 sicrhau—

(a)pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, bod rhaid i’r gweinyddwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) sy’n cydymffurfio ag is-baragraff (2),

(b)bod yr hysbysiad o fwriad hefyd yn cynnig y cyfle i’r person ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig drwy dalu swm penodedig (y mae’n rhaid iddo fod yn llai na swm y gosb neu’n gyfwerth ag ef),

(c)os nad yw’r person yn rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd—

(i)y caiff y person wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r gweinyddwr mewn perthynas â’r gosb ariannol benodedig y bwriedir ei gosod, a

(ii)ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau bod rhaid i’r gweinyddwr benderfynu a yw am osod y gosb ariannol benodedig ai peidio,

(d)pan fo’r gweinyddwr yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig, bod yr hysbysiad sy’n ei gosod (“yr hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac

(e)y caiff y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gosod.

(2)Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros y bwriad i osod y gosb ariannol benodedig,

(b)effaith talu’r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),

(c)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,

(d)o dan ba amgylchiadau na chaiff y gweinyddwr osod y gosb ariannol benodedig,

(e)o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn hwy na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, y caniateir rhyddhau rhag atebolrwydd i’r gosb ariannol benodedig, ac

(f)o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn hwy na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau.

(3)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c)(ii) gynnwys darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan all y gweinyddwr benderfynu peidio â gosod cosb ariannol benodedig.

(4)Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)sut y gellir talu,

(c)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu,

(d)unrhyw ddisgowntiau am dalu’n gynnar neu gosbau am dalu’n hwyr,

(e)hawliau i apelio, ac

(f)canlyniadau peidio â thalu.

(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn un afresymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Gofynion yn ôl disgresiwnLL+C

4(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr i osod, drwy hysbysiad, un gofyniad yn ôl disgresiwn neu ragor ar berson sy’n torri’r rheoliadau.

(2)Ni chaiff y rheoliadau ond rhoi pŵer o’r fath mewn perthynas ag achos pan fo’r gweinyddwr wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y toriad wedi digwydd.

(3)At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn” yw—

(a)gofyniad i dalu i weinyddwr gosb ariannol o’r swm hwnnw y caiff y gweinyddwr benderfynu arno, neu

(b)gofyniad i gymryd y camau hynny y caiff gweinyddwr eu pennu, o fewn y cyfnod hwnnw y caiff y gweinyddwr ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r toriad yn parhau neu’n digwydd eto.

(4)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cosb ariannol amrywiadwy” (“variable monetary penalty”) yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a), ac

  • ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol” (“non-monetary discretionary requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b).

(5)Rhaid i reoliadau bagiau siopa, mewn perthynas â phob math o doriad o’r rheoliadau y caniateir gosod cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas ag ef—

(a)pennu uchafswm y gosb y caniateir ei gosod am doriad o’r math hwnnw, neu

(b)darparu i’r uchafswm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.

(6)Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu gosod gofynion yn ôl disgresiwn ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Gofynion yn ôl disgresiwn: y weithdrefnLL+C

5(1)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan baragraff 4 sicrhau—

(a)pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn ar berson, bod rhaid i’r gweinyddwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) sy’n cydymffurfio ag is-baragraff (2),

(b)y caiff y person hwnnw wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r gweinyddwr mewn perthynas â’r bwriad i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

(c)ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau o’r fath, bod rhaid i’r gweinyddwr benderfynu a yw am—

(i)gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn, gydag addasiadau neu hebddynt, neu

(ii)gosod unrhyw ofyniad yn ôl disgresiwn arall y mae gan y gweinyddwr bŵer i’w osod o dan baragraff 4,

(d)pan fo’r gweinyddwr yn penderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn, bod yr hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac

(e)y caiff y person y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno apelio yn erbyn y penderfyniad i’w osod.

(2)Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

(b)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,

(c)o dan ba amgylchiadau na chaiff y gweinyddwr osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

(d)o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn llai na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y ceir yr hysbysiad o fwriad, y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau.

(3)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c) gynnwys darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan na chaniateir i’r gweinyddwr benderfynu gosod cosb ariannol benodedig.

(4)Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

(b)pan fo’r gofyniad yn ôl disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy—

(i)sut y gellir talu,

(ii)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu, a

(iii)unrhyw ddisgowntiau am dalu’n gynnar neu gosbau am dalu’n hwyr,

(c)hawliau i apelio, a

(d)canlyniadau methu â chydymffurfio.

(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;

(d)yn achos gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn un afresymol am unrhyw reswm arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Gofynion yn ôl disgresiwn: gorfodiLL+C

6(1)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 4, gallant roi’r pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol i berson dalu cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) i’r gweinyddwr os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol a osodir ar y person hwnnw.

(2)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio neu ddarparu i’r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau, neu

(b)darparu i’r swm gael ei benderfynu gan y gweinyddwr neu mewn rhyw fodd arall.

(3)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)(b), rhaid iddynt, mewn perthynas â phob math o fethiant y caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio mewn perthynas ag ef—

(a)pennu uchafswm y gosb yn caniateir ei gosod am fethiant o’r math hwnnw, neu

(b)darparu i’r uchafswm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.

(4)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau—

(a)bod y gosb am beidio â chydymffurfio yn cael ei gosod drwy hysbysiad a gyflwynir gan y gweinyddwr, a

(b)y caiff y person y gosodir y gosb am beidio â chydymffurfio arno apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.

(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol â pharagraff (b) o is-baragraff (4) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm (gan gynnwys, mewn achos pan fo swm y gosb am beidio â chydymffurfio wedi ei benderfynu gan y gweinyddwr, bod y swm yn afresymol).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Cyfuniad o sancsiynauLL+C

7(1)Ni chaiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth o dan baragraffau 2 a 4 sy’n rhoi pwerau i weinyddwr mewn perthynas â’r un math o doriad o’r rheoliadau oni chydymffurfir â’r gofynion a ganlyn.

(2)Rhaid i’r rheoliadau sicrhau na chaiff y gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas â’r un toriad.

(3)Rhaid i’r rheoliadau sicrhau na chaiff y gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo—

(a)cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â’r un toriad, neu

(b)y person wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â’r toriad hwnnw yn unol â pharagraff 3(1)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Cosbau ariannolLL+C

8(1)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn rhoi pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol i berson dalu cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio, gallant gynnwys darpariaeth—

(a)ar gyfer disgowntiau am dalu’n gynnar;

(b)ar gyfer talu llog neu gosbau ariannol eraill am dalu’r gosb yn hwyr, y llog hwnnw neu’r cosbau ariannol eraill hynny nad ydynt gyda’i gilydd i fod yn fwy na swm y gosb honno;

(c)ar gyfer gorfodi’r gosb.

(2)Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)(c) gynnwys—

(a)darpariaeth i’r gweinyddwr adennill cosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu’n hwyr, fel dyled sifil;

(b)darpariaeth i’r gosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu’n hwyr fod yn adenilladwy, ar orchymyn gan lys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Adennill costauLL+C

9(1)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 4, gallant roi’r pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i berson y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno i dalu’r costau yr aed iddynt gan y gweinyddwr mewn perthynas â gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn hyd at amser ei osod.

(2)Yn is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad at gostau yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(3)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan y paragraff hwn sicrhau, mewn unrhyw achos pan gyflwynir hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol talu costau—

(a)bod yr hysbysiad yn pennu’r swm y mae’n ofynnol ei dalu;

(b)y gallai fod yn ofynnol i’r gweinyddwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm hwnnw;

(c)nad yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen;

(d)y caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau apelio yn erbyn—

(i)penderfyniad y gweinyddwr i osod y gofyniad i dalu costau;

(ii)penderfyniad y gweinyddwr o ran swm y costau hynny.

(4)Caiff darpariaeth o dan y paragraff hwn gynnwys y ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 8(1)(b) ac (c) a (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

ApelauLL+C

10(1)Ni chaiff rheoliadau bagiau siopa ddarparu ar gyfer gwneud apêl ac eithrio i’r canlynol—

(a)y Tribiwnlys Haen Gyntaf, neu

(b)tribiwnlys arall a grëir o dan ddeddfiad.

(2)Yn is-baragraff (1)(b), nid yw “tribiwnlys” yn cynnwys llys barn arferol.

(3)Os yw’r rheoliadau’n gwneud darpariaeth ar gyfer apêl mewn perthynas â gosod unrhyw ofyniad neu gyflwyno unrhyw hysbysiad, cânt gynnwys—

(a)darpariaeth sy’n atal dros dro y gofyniad neu’r hysbysiad tra disgwylir dyfarniad yr apêl;

(b)darpariaeth ynghylch pwerau’r tribiwnlys y gwneir yr apêl iddo;

(c)darpariaeth ynghylch sut y mae unrhyw swm sy’n daladwy yn unol â phenderfyniad y tribiwnlys hwnnw i gael ei adennill.

(4)Mae’r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (3)(b) yn cynnwys darpariaeth sy’n rhoi i’r tribiwnlys y gwneir yr apêl iddo y pŵer i wneud y canlynol—

(a)tynnu’r gofyniad neu’r hysbysiad yn ôl;

(b)cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(c)cymryd y camau hynny y gallai’r gweinyddwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anwaith a roes fod i’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(d)dychwelyd y penderfyniad ai cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, yn ôl at y gweinyddwr;

(e)dyfarnu costau.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Cyhoeddusrwydd ar gyfer gosod sancsiynau sifilLL+C

11(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i berson y gosodwyd sancsiwn sifil arno yn unol â’r rheoliadau.

(2)Ystyr “hysbysiad cyhoeddusrwydd” yw hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi cyhoeddusrwydd i—

(a)y ffaith y gosodwyd y sancsiwn sifil, a

(b)yr wybodaeth arall honno a all gael ei phennu yn y rheoliadau,

yn y dull hwnnw a all gael ei bennu yn yr hysbysiad.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu bod hysbysiad cyhoeddusrwydd—

(a)yn pennu’r amser ar gyfer cydymffurfio â’r hysbysiad, a

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person y rhoddir yr hysbysiad iddo ddarparu tystiolaeth o gydymffurfio i weinyddwr o fewn yr amser hwnnw y caniateir ei bennu yn yr hysbysiad.

(4)Caiff y rheoliadau ddarparu, os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cyhoeddusrwydd, y caiff gweinyddwr—

(a)rhoi cyhoeddusrwydd i’r wybodaeth y mae’n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad, a

(b)adennill y costau o wneud hynny oddi wrth y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Personau sy’n atebol i sancsiynau sifilLL+C

12(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth ynghylch y personau sy’n atebol i sancsiynau sifil o dan y rheoliadau.

(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd y paragraff hwn yn cynnwys darpariaeth—

(a)i swyddogion corff corfforaethol fod yn atebol yn y modd hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol ei hun, a

(b)i’r partneriaid o fewn partneriaeth fod yn atebol yn ogystal â’r bartneriaeth ei hun,

o dan yr amgylchiadau hynny a all gael eu pennu.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Canllawiau ynghylch defnyddio pwerau i osod sancsiynau sifil ac adennill costauLL+C

13(1)Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, rhaid iddynt sicrhau—

(a)bod rhaid i’r gweinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch defnydd y gweinyddwr o’r sancsiwn sifil,

(b)bod rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol,

(c)bod rhaid i’r gweinyddwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol,

(d)bod rhaid i’r gweinyddwr ymgynghori â’r personau hynny y caiff y rheoliadau eu pennu cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig, ac

(e)bod rhaid i’r gweinyddwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer swyddogaethau’r gweinyddwr.

(2)Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth ynghylch—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,

(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei gosod,

(c)swm y gosb,

(d)sut y gall atebolrwydd am y gosb gael ei ryddhau ac effaith rhyddhad, ac

(e)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.

(3)Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â gofyniad yn ôl disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth ynghylch—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gofyniad yn debygol o gael ei osod,

(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod,

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r gweinyddwr yn debygol o’u hystyried wrth ddyfarnu swm y gosb (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio), a

(d)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.

(4)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 9, rhaid iddynt sicrhau ei bod yn ofynnol i’r gweinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y bydd y gweinyddwr yn arfer y pŵer a roddir gan y ddarpariaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Cyhoeddi camau gorfodiLL+C

14(1)Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, rhaid iddynt sicrhau bod rhaid i’r gweinyddwr gyhoeddi adroddiadau o bryd i’w gilydd sy’n pennu—

(a)yr achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt, a

(b)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y rhyddhawyd atebolrwydd rhag cosb ynddynt yn unol â pharagraff 3(1)(b).

(2)Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.

(3)Nid oes angen i’r rheoliadau sicrhau’r canlyniad yn is-adran (1) mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n amhriodol gwneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Cydymffurfio ag egwyddorion rheoleiddiolLL+C

15Ni chaiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd y gweinyddwr yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion—

(a)y dylid cynnal gweithgareddau rheoleiddiol mewn modd tryloyw, atebol, cymesur a chyson;

(b)y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol yn unig ar achosion y mae angen gweithredu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

AdolyguLL+C

16(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau bagiau siopa sy’n rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau.

(2)Rhaid i’r adolygiad cyntaf ddigwydd cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl 1 Hydref 2017; a rhaid i bob adolygiad dilynol ddigwydd cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cynhaliwyd yr adolygiad blaenorol.

(3)Rhaid i adolygiad o dan y paragraff hwn ystyried yn benodol a yw’r ddarpariaeth wedi cyflawni ei amcanion mewn modd effeithlon ac effeithiol.

(4)Wrth gynnal adolygiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi canlyniadau adolygiad o dan y paragraff hwn, a

(b)gosod copi o’r adolygiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Atal dros droLL+C

17(1)Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r gweinyddwr—

(a)pan fo’r pŵer yn bŵer i osod cosb ariannol benodedig, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad o fwriad pellach y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw, a

(b)pan fo’r pŵer yn bŵer i osod gofyniad yn ôl disgresiwn, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad o fwriad pellach y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw.

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau bagiau siopa os ydynt wedi eu bodloni bod y gweinyddwr wedi methu â gwneud y canlynol ar fwy nag un achlysur—

(a)cydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir arno o dan yr Atodlen hon, neu yn rhinwedd yr Atodlen hon, mewn perthynas a thoriad o’r math hwnnw,

(b)gweithredu’n unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd ganddo mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw (yn benodol, y canllawiau a gyhoeddwyd o dan baragraff 13), neu

(c)gweithredu’n unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt ym mharagraff 15 neu ag egwyddorion arferion gorau eraill mewn perthynas â gorfodi toriad o’r math hwnnw.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, ddirymu cyfarwyddyd a roddwyd ganddynt o dan is-baragraff (1) os ydynt wedi eu bodloni bod y gweinyddwr wedi cymryd y camau priodol i unioni’r methiant yr oedd y cyfarwyddyd hwnnw’n ymwneud ag ef.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) neu (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y gweinyddwr, a

(b)y personau eraill hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan y paragraff hwn, rhaid iddynt osod copi o’r cyfarwyddyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Rhaid i’r gweinyddwr gymryd camau i ddwyn cyfarwyddyd o dan y paragraff hwn i sylw personau eraill y mae’r cyfarwyddyd yn debygol o effeithio arnynt; a rhaid iddo wneud hynny yn y fath fodd (os o gwbl) y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Talu cosbau i Gronfa Gyfunol CymruLL+C

18Pan fo gweinyddwr yn cael y canlynol yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr Atodlen hon—

(a)cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio,

(b)unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu cosb o’r fath yn hwyr, neu

(c)swm a delir er mwyn rhyddhau rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig yn unol â pharagraff 3(1)(b),

rhaid i’r gweinyddwr ei dalu neu ei thalu i Gronfa Gyfunol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Mynegai o dermau wedi eu diffinioLL+C

19Yn yr Atodlen hon, mae’r ymadroddion a ganlyn yn cael eu diffinio neu eu hegluro fel arall yn y darpariaethau a nodir—

  • “cosb am beidio â chydymffurfio” (“non-compliance penalty”): paragraff 6(1);

  • “cosb ariannol amrywiadwy” (“variable monetary penalty”): paragraff 4(4) a (3)(a);

  • “cosb ariannol benodedig” (“fixed monetary penalty”): paragraff 2(3);

  • “gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol” (“non-monetary discretionary requirement”): paragraff 4(4) a (3)(b);

  • “gofyniad yn ôl disgresiwn” (“discretionary requirement”): paragraff 4(3);

  • “hysbysiad cyhoeddusrwydd” (“publicity notice”): paragraff 11(2);

  • “hysbysiad o fwriad” (“notice of intent”) (mewn perthynas â chosb ariannol benodedig arfaethedig): paragraff 3(1)(a);

  • “hysbysiad o fwriad” (“notice of intent”) (mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn arfaethedig): paragraff 5(1)(a);

  • “sancsiwn sifil” (“civil sanction”): paragraff 1(3);

  • “torri” a “toriad” (“breach”) (mewn perthynas â rheoliadau bagiau siopa): paragraff 1(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

Yn ôl i’r brig

Options/Help