Newidiadau dros amser i: Adran 181D
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 07/02/2023.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Adran 181D.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
[181DCais hwyr i ohirioLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Pan fo person—
(a)yn gwneud cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 174, a
(b)yn gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig â’r adolygiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw,
ni chaiff ACC ystyried y cais i ohirio onid yw’n fodlon bod yr amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.
(2)Pan fo person—
(a)yn gwneud apêl cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179, a
(b)yn gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig â’r apêl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw,
ni chaiff ACC ystyried y cais i ohirio onid yw’n fodlon bod yr amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.
(3)Yr amodau yw—
(a)bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio esgus rhesymol dros beidio â gwneud y cais yn ystod y cyfnod a bennir yn adran 174 neu 179, yn ôl y digwydd, a
(b)wedi hynny, bod y person sy’n gwneud y cais i ohirio wedi gwneud y cais heb oedi afresymol.]
Yn ôl i’r brig