Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F1181DCais hwyr i ohirioLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Pan fo person—

(a)yn gwneud cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 174, a

(b)yn gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig â’r adolygiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw,

ni chaiff ACC ystyried y cais i ohirio onid yw’n fodlon bod yr amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.

(2)Pan fo person—

(a)yn gwneud apêl cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179, a

(b)yn gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig â’r apêl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw,

ni chaiff ACC ystyried y cais i ohirio onid yw’n fodlon bod yr amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.

(3)Yr amodau yw—

(a)bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio esgus rhesymol dros beidio â gwneud y cais yn ystod y cyfnod a bennir yn adran 174 neu 179, yn ôl y digwydd, a

(b)wedi hynny, bod y person sy’n gwneud y cais i ohirio wedi gwneud y cais heb oedi afresymol.]