19Cydnabyddiaeth ddibynnolLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ddibynnol, mae swm neu werth y gydnabyddiaeth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar y rhagdybiaeth y bydd canlyniad y digwyddiad dibynnol yn golygu bod y gydnabyddiaeth yn daladwy neu, yn ôl y digwydd, nad yw’n peidio â bod yn daladwy.
(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “dibynnol”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw—
(a)nad yw i’w thalu neu i’w darparu oni cheir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol, neu
(b)y peidir â’i thalu neu ei darparu os ceir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 19 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3