Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

20Cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfodLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ansicr neu heb ei chanfod, mae ei swm neu ei gwerth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar sail amcangyfrif rhesymol.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “ansicr”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw bod ei swm neu ei gwerth yn dibynnu ar ddigwyddiadau ansicr yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 20 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3