Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 87

 Help about opening options

No versions valid at: 01/02/2018

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/02/2018. Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn ddilys ar gyfer y pwynt hwn mewn amser. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 87 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 06 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Yn ddilys o 29/11/2024

87Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediadLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd adran 84, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 85 neu 86, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 85 neu 86 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant—

(a)rhaid rhoi enw’r swyddog i’r meddiannydd;

(b)rhaid i’r swyddog gyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig;

(c)rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant i’r meddiannydd;

(d)rhaid i’r swyddog gyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd.

(3)Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 85 neu 86 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

(4)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth