
Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/02/2018. Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn ddilys ar gyfer y pwynt hwn mewn amser.

Statws
Nid yw'n ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn yn golygu yn gyffredinol nad oedd darpariaeth mewn grym ar gyfer y pwynt mewn amser rydych wedi dewis.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Adran 87 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 08 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.

Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Yn ddilys o 29/11/2024
87Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediadLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd adran 84, neu yn rhinwedd gwarant o dan adran 85 neu 86, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)Os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 85 neu 86 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant—
(a)rhaid rhoi enw’r swyddog i’r meddiannydd;
(b)rhaid i’r swyddog gyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig;
(c)rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant i’r meddiannydd;
(d)rhaid i’r swyddog gyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd.
(3)Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi drwy warant o dan adran 85 neu 86 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
(4)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
Yn ôl i’r brig