Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2018
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/01/2018.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Yn ddilys o 01/04/2018
(a gyflwynir gan adran 15)
1Mae’r Tabl yn nodi—
(a)yn yr ail golofn, y deunyddiau sydd wedi eu pennu at ddibenion gofyniad 1 yn adran 15;
(b)yn y drydedd golofn, yr amodau (os oes rhai) sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunyddiau at ddibenion gofyniad 2 yn yr adran honno.
Grŵp | Deunyddiau | Amodau |
---|---|---|
1 | Creigiau a phridd | Eu bod yn digwydd yn naturiol |
2 | Deunydd cerameg neu goncrit | |
3 | Mwynau | Eu bod wedi eu prosesu neu eu paratoi |
4 | Slag ffwrnais | |
5 | Lludw | |
6 | Cyfansoddion anorganig actifedd isel | |
7 | Calsiwm sylffad | 1. Bod y drwydded amgylcheddol sy’n ymwneud â’r safle y gwaredir y deunydd ynddo yn awdurdodi gwarediadau tirlenwi o wastraff nad yw’n beryglus yn unig. 2. Bod y deunydd yn cael ei waredu mewn cell nad yw’n cynnwys unrhyw wastraff bioddiraddadwy. |
8 | Calsiwm hydrocsid a heli | Ei fod wedi ei waredu mewn ceudod heli |
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
2Mae’r Tabl i’w ddehongli yn unol â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
3Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 1—
(a)creigiau;
(b)clai;
(c)tywod;
(d)grafel;
(e)tywodfaen;
(f)calchfaen;
(g)malurion cerrig;
(h)caolin;
(i)cerrig adeiladu;
(j)cerrig o ddymchwel adeiladau neu strwythurau;
(k)llechi;
(l)isbridd;
(m)silt;
(n)sorod.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
4Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 2—
(a)gwydr, gan gynnwys enamel wedi ei ffritio;
(b)cerameg, gan gynnwys brics, brics a morter, teils, nwyddau clai, crochenwaith, tseini a deunyddiau anhydrin;
(c)concrit, gan gynnwys blociau concrit cyfnerthedig, brisblociau a blociau aercrit.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
5Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 2 yn cynnwys—
(a)ffeibr gwydr na phlastig a gyfnerthwyd â gwydr;
(b)golchion gweithfeydd concrit.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
6Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 3—
(a)tywod mowldio, gan gynnwys tywod ffowndri defnyddiedig;
(b)clai, gan gynnwys clai mowldio ac amsugnyddion clai (gan gynnwys pridd pannwr a bentonit);
(c)amsugnyddion mwynol;
(d)ffeibrau mwynol o waith dyn, gan gynnwys ffeibrau gwydr;
(e)silica;
(f)mica;
(g)treulyddion mwynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
7Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 3 yn cynnwys—
(a)tywod mowldio sy’n cynnwys glynwyr organig;
(b)ffeibrau mwynol o wneuthuriad dyn a wnaed o—
(i)plastig a gyfnerthwyd â gwydr, neu
(ii)asbestos.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
8Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 4—
(a)gwastraff a gweddillion gwydredig o brosesu mwynau yn thermol pan fo’r gwastraff neu’r gweddillion yn ymdoddedig ac yn anhydawdd;
(b)slag o losgi gwastraff.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
9Yr unig ddeunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yw lludw sy’n codi a lludw gwaelod—
(a)o hylosgi pren neu wastraff, neu
(b)o hylosgi glo neu olosg petrolewm (gan gynnwys lludw sy’n codi a lludw gwaelod a gynhyrchir pan gaiff glo neu olosg petrolewm ei hylosgi gyda biomas).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
10Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yn cynnwys lludw sy’n codi—
(a)o slwtsh carthion, neu
(b)o losgyddion gwastraff trefol, gwastraff clinigol neu wastraff peryglus.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
11Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 6—
(a)gwastraff adwaith seiliedig ar galsiwm, a’r gwastraff hwnnw’n deillio o gynhyrchu titaniwm deuocsid;
(b)calsiwm carbonad;
(c)magnesiwm carbonad;
(d)magnesiwm ocsid;
(e)magnesiwm hydrocsid;
(f)haearn ocsid;
(g)fferrig hydrocsid;
(h)alwminiwm ocsid;
(i)alwminiwm hydrocsid;
(j)sirconiwm deuocsid.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
12Mae Grŵp 7 yn cynnwys calsiwm sylffad, gypswm a phlastrau sy’n seiliedig ar galsiwm sylffad ond nid yw’n cynnwys bwrdd plastr.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
13Yn nhrydedd golofn y Tabl, ystyr “gwastraff nad yw’n beryglus” yw gwastraff nad yw’n wastraff peryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff dyddiedig 18 Tachwedd 2008.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
(a gyflwynir gan adran 34(3))
1Rhaid i gofnod person yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw’r person;
(b)unrhyw enw masnachu a ddefnyddir gan y person;
(c)datganiad ynghylch pa un a yw’r person cofrestredig yn gorff corfforaethol, yn unigolyn, yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig;
(d)cyfeiriad busnes y person;
(e)cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn weithredwr arno;
(f)y rhif cofrestru a aseinir i’r person gan ACC.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I15Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)
2Os yw’r person cofrestredig yn aelod cynrychiadol grŵp o gyrff corfforaethol a ddynodir o dan adran 77, rhaid i gofnod y person yn y gofrestr gynnwys—
(a)datganiad o’r ffaith honno;
(b)enw a chyfeiriad busnes pob corff corfforaethol arall sy’n aelod o’r grŵp;
(c)cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae unrhyw aelod o’r grŵp yn weithredwr arno;
(d)enw a chyfeiriad busnes unrhyw gorff corfforaethol neu unigolyn nad yw’n aelod o’r grŵp ond sy’n rheoli (naill ai’n unigol neu mewn partneriaeth) ei holl aelodau (gweler adran 78).
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I17Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)
3Pan fo partneriaeth neu gorff anghorfforedig wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn enw’r bartneriaeth neu’r corff, rhaid i’r cofnod amdani neu amdano yn y gofrestr gynnwys enwau a chyfeiriadau pob un o’i aelodau.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I19Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)
4At ddibenion yr Atodlen hon, cyfeiriad busnes corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I21Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(y)
Yn ddilys o 01/04/2018
(a gyflwynir gan adran 41(8))
1LL+CRhaid i anfoneb dirlenwi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)rhif adnabod;
(b)dyddiad dyroddi’r anfoneb;
(c)enw a chyfeiriad y person sy’n dyroddi’r anfoneb;
(d)y rhif cofrestru a aseinir i’r person hwnnw gan ACC;
(e)enw a chyfeiriad y person y dyroddir yr anfoneb iddo;
(f)dyddiad gwneud y gwarediad trethadwy;
(g)disgrifiad o’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;
(h)cyfradd y dreth sydd i’w chodi ar y deunydd yn y gwarediad trethadwy;
(i)pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy;
(j)unrhyw ddisgownt a gymhwysir o dan adran 19(3) mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd;
(k)unrhyw ryddhad a hawlir mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy;
(l)swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad trethadwy;
(m)cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r anfoneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
2LL+CPan ddyroddir anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, rhaid iddi ddangos, mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy, yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1(f) i (l).
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
(a gyflwynir gan adran 90)
Yn ddilys o 01/04/2018
1LL+CMae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Yn ddilys o 01/04/2018
2LL+CYn adran 39 (storio gwybodaeth etc. yn ddiogel) (fel y’i diwygir gan baragraff 7 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);
(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—
“(2)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Yn ddilys o 01/04/2018
3LL+CYn adran 40 (ystyr “dyddiad ffeilio”) (fel y’i diwygir gan baragraff 9 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle’r geiriau o “y “dyddiad ffeilio”” i’r diwedd rhodder “—
(a)ystyr “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth trafodiadau tir, yw’r diwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol dychwelyd y ffurflen o dan DTTT;
(b)mae i “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, yr ystyr a roddir gan adran 39(4) o DTGT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
4LL+CYn adran 104 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: darpariaeth bellach)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(b)yn is-adran (1), ar ôl “103,” mewnosoder “103A neu 103B,”;
(c)yn is-adran (2), hepgorer “busnes”.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 4 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I28Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)
5LL+CYn adran 105 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: defnyddio offer a deunyddiau)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(b)yn is-adran (1) yn lle “103 i’r fangre busnes” rhodder “103, 103A neu 103B i’r fangre”;
(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—
“(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).”
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 4 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I30Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)
6LL+CYn adran 107 (dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadau), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A, 103B”.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 4 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I32Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)
7LL+CYn adran 108 (cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre)—
(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “103“ mewnosoder “, 103A, 103B”;
(b)yn is-adran (1)(b), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(c)yn is-adran (2), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(d)yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “103” i ddiwedd paragraff (a) (ond heb gynnwys y gair “a” ar ôl y paragraff hwnnw) rhodder “103, 103A neu 103B—
(a)onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni,”;
(e)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)Y gofyniad cymwys yw—
(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;
(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;
(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.”
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I34Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)
8LL+CYn adran 111 (dehongli Pennod 4)—
(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);
(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—
“(2)At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.”
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I36Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(i)
Yn ddilys o 01/04/2018
9LL+CYn adran 118 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny) (fel y’i diwygir gan baragraff 39 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);
(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—
“(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.”
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 4 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Yn ddilys o 01/04/2018
10LL+CYn adran 121 (gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu), yn is-adran (1), ar ôl “adran 118,” mewnosoder “118A,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 4 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Yn ddilys o 01/04/2018
11LL+CYn adran 122 (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (fel y’i hamnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).”;
(b)yn is-adran (3), yn lle “adran 122A” rhodder “adrannau 122ZA a 122A”.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Yn ddilys o 01/04/2018
12LL+CYn adran 122A (cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig) (a fewnosodir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), ar ôl “adran 122” mewnosoder “neu 122ZA”.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 4 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Yn ddilys o 01/04/2018
13LL+CYn adran 126 (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth) (fel y’i diwygir gan baragraff 45 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (2), yn lle “adran 122 neu 122A” rhodder “adrannau 122 i 122A”.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 4 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Yn ddilys o 01/04/2018
14LL+CYn adran 127 (asesu cosbau) (fel y’i diwygir gan baragraff 46 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)yn is-adran (5), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”;
(b)yn is-adran (6), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 4 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
Yn ddilys o 01/04/2018
15LL+CYn adran 157A (llog taliadau hwyr ar gosbau) (a fewnosodir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), yn lle “y mae’n ofynnol ei dalu o dan Ran 5 o’r Ddeddf hon” rhodder “sy’n ymwneud â threth ddatganoledig”.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 4 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
16LL+CYn adran 172 (penderfyniadau apeliadwy) (fel y’i diwygir gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 4 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I45Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(ii)
Yn ddilys o 01/04/2018
17LL+CYn adran 182 (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl) (fel y’i diwygir gan baragraff 64 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)yn is-adran (2), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;
(b)yn is-adran (4), ym mharagraff (a), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;
(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—
“(7)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—
(a)adran 154, neu
(b)adran 70 o DTGT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 4 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
18LL+CYn adran 190 (dyroddi hysbysiadau gan ACC) (fel y’i diwygir gan baragraff 68 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (9)(a), ar ôl “103(4) neu 105(3)” mewnosoder “(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5))”.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 4 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I48Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)
19LL+CYn adran 192 (dehongli) (fel y’i diwygir gan baragraff 70 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)yn is-adran (2), mewnosoder yn y lleoedd priodol—
““ystyr “DTGT” (“LDTA“) yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3);”;
““mae i “treth gwarediadau tirlenwi” (“landfill disposals tax”) yr un ystyr ag yn DTGT;”;
(b)yn yr is-adran honno, yn y diffiniad o “Deddfau Trethi Cymru”—
(i)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);
(ii)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, ac
(c)DTGT.”
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 4 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I50Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)
20LL+CYn adran 193 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir) (fel y’i diwygir gan baragraff 71 o Atodlen 23 i DTTT), yn Nhabl 1, mewnosoder yn y lleoedd priodol—
DTGT (“LDTA”) | adran 192(2) |
Treth gwarediadau tirlenwi (“landfill disposals tax”) | adran 192(2) |
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 4 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I52Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys