Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 72

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 72 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 30 Hydref 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

72Hawliau o ran apelio: personau sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)i benderfyniadau awdurdod cartref yng Nghymru o dan adran 40;

(b)i gynlluniau datblygu unigol a gedwir gan awdurdod cartref o dan adran 42.

(2)Caiff person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac, yn achos person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, rhiant y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y materion a ganlyn—

(a)penderfyniad gan yr awdurdod cartref o ran a oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol;

(b)penderfyniad gan yr awdurdod cartref o ran a fydd angen i gynllun datblygu unigol gael ei gynnal ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff y person ei ryddhau;

(c)y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person mewn cynllun datblygu unigol;

(d)y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun datblygu unigol neu’r ffaith nad yw darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun (gan gynnwys a yw’r cynllun yn pennu y dylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg);

(e)y ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn cynllun datblygu unigol o dan adran 40(7) neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan o dan yr adran honno yn y cynllun;

(f)yr ysgol a enwir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48;

(g)os nad enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48, y ffaith honno;

(h)gwrthodiad i wneud penderfyniad o dan adran 40(2) ar y sail bod adran 41(2)(b) yn gymwys (dim newid sylweddol mewn anghenion a dim gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad).

(3)Mae arfer hawliau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adrannau 74, 75, 83 ac 85(8);

(b)adran 85(4).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 72 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(f)

Yn ôl i’r brig

Options/Help