Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019
2019 dccc 4
Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hybu hygyrchedd cyfraith Cymru; i ddarparu ar gyfer dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
[10 Medi 2019]
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
RHAN 1LL+CHYGYRCHEDD CYFRAITH CYMRU
1Dyletswydd i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiadLL+C
(1)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad.
(2)Yn y Rhan hon, ystyr “hygyrchedd” cyfraith Cymru yw’r graddau y mae—
(a)ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg;
(b)wedi ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith (sy’n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wneir iddynt);
(c)wedi ei threfnu’n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau);
(d)yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.
(3)Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith Cymru” yw—
(a)Deddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad;
(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad;
(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(d)unrhyw ddeddfiad arall, neu unrhyw reol gyfreithiol arall, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru ac y mae’n ymwneud â phwnc y gellid darparu ar ei gyfer mewn Deddf Cynulliad.
2Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith CymruLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
(2)Rhaid llunio rhaglen ar gyfer pob un o dymhorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n dechrau ar ôl i’r adran hon ddod i rym.
(3)Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt—
(a)cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;
(b)cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio);
(c)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru;
(d)hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
(4)Caiff y rhaglen hefyd gynnwys gweithgareddau arfaethedig—
(a)y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith (yn unol â Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (p. 22)), neu
(b)o unrhyw fath arall y mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei fod yn briodol.
(5)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 mis i benodi Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen ar unrhyw adeg, ac os gwnânt hynny rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(7)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd a wneir o dan y rhaglen.
(8)Yn is-adran (3), mae codeiddio cyfraith Cymru yn cynnwys—
(a)mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd;
(b)trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.
RHAN 2LL+CDEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Cymhwyso’r Rhan a’i heffaithLL+C
3Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddiLL+C
(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i—
(a)y Ddeddf hon;
(b)Deddfau’r Cynulliad sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar [1 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw];
(c)is-offerynnau Cymreig a wneir ar [1 Ionawr 2020] neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2)Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—
(a)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;
(b)is-ddeddfwriaeth—
(i)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir,
(ii)nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a
(iii)nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.
(3)Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
4Effaith darpariaethau’r Rhan honLL+C
(1)Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—
(a)y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.
(2)Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).
(3)Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—
(a)adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);
(b)adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);
(c)adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).
Deddfwriaeth ddwyieithog CymruLL+C
5Statws cyfartal y testunau Cymraeg a SaesnegLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad yn cael ei deddfu, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
(2)Mae i’r testun Cymraeg a’r testun Saesneg statws cyfartal at bob diben.
Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn neddfwriaeth CymruLL+C
6Diffiniadau o eiriau ac ymadroddionLL+C
(1)Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—
(a)mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;
(b)dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;
(c)diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).
7Mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog ac fel arallLL+C
Mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig—
(a)mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog;
(b)mae geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.
8Nid yw geiriau sy’n dynodi rhywedd yn gyfyngedig i’r rhywedd hwnnwLL+C
Mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, nid yw geiriau sy’n dynodi personau o rywedd penodol i’w darllen fel pe baent yn gyfyngedig i bersonau o’r rhywedd hwnnw.
9Amrywio geiriau ac ymadroddion oherwydd gramadeg etc.LL+C
Pan fo deddfiad yn rhoi ystyr i air neu ymadrodd mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, mae rhannau ymadrodd eraill a ffurfiau neu oleddfiadau gramadegol ar y gair neu’r ymadrodd i’w dehongli yn unol â’r ystyr hwnnw.
10Cyfeiriadau at amser o’r dyddLL+C
Mae cyfeiriad at amser o’r dydd mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at amser safonol Greenwich; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 3 o Ddeddf Amser Haf 1972 (p. 6) (pwyntiau o amser yn ystod amser haf).
11Cyfeiriadau at y SofrenLL+C
Mae cyfeiriad at y Sofren mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.
12Mesur pellterLL+C
Mae cyfeiriad at bellter mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at y pellter hwnnw wedi ei fesur mewn llinell syth ar blân llorweddol.
Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C
13Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C
(1)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen drwy’r post i berson arall (“B”), mae A yn cyflwyno’r ddogfen os yw A yn cyfeirio’n briodol lythyr sy’n cynnwys y ddogfen, yn talu ymlaen llaw am ei bostio, ac yn ei bostio at B.
(2)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen i berson arall (“B”) yn electronig, mae A yn cyflwyno’r ddogfen—
(a)os yw A yn cyfeirio’n briodol gyfathrebiad electronig sy’n ffurfio’r ddogfen neu’n cynnwys y ddogfen, neu y mae’r ddogfen ynghlwm wrtho, ac yn ei anfon at B, a
(b)os yw’r ddogfen yn cael ei hanfon ar ffurf electronig y gall B ei chyrchu a’i chadw.
(3)Mae’r adran hon yn gymwys pa un a yw’r Ddeddf Cynulliad neu’r is-offeryn Cymreig yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu unrhyw ymadrodd arall (megis “anfon” neu “rhoi”) i gyfeirio at gyflwyno’r ddogfen.
14Y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwynoLL+C
Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy’r post neu’n electronig o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb—
(a)yn achos dogfen a gyflwynir drwy’r post, ar y diwrnod y byddai’r llythyr sy’n cynnwys y ddogfen yn cyrraedd yn nhrefn arferol y post;
(b)yn achos dogfen a gyflwynir yn electronig, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.
Pwerau a dyletswyddauLL+C
15Parhad pwerau a dyletswyddauLL+C
(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig ar fwy nag un achlysur.
(2)Mae dyletswydd a osodir gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn ddyletswydd barhaus a rhaid ei chyflawni yn ôl y gofyn.
(3)Pan roddir pŵer gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig i ddeiliad swydd neu pan osodir dyletswydd ar ddeiliad swydd gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, mae i’w arfer neu i’w harfer gan ddeiliad y swydd ar y pryd.
16Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grymLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—
(a)gan ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad a ddaw i rym—
(i)ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a
(ii)mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu
(b)gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.
(2)Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—
(a)sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf Cynulliad y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr is-offeryn Cymreig, a
(b)sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.
(3)Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—
(a)i’r Ddeddf Cynulliad neu i’r is-offeryn Cymreig sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu
(b)i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,
ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.
(4)Pan fo darpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym—
(a)yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a
(b)yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,
mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.
(5)Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf Cynulliad neu’r is-offeryn Cymreig sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).
17Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaethLL+C
(1)Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan Ddeddf Cynulliad fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).
(2)Yn yr adran hon—
(a)ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;
(b)ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;
(c)ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.
(3)Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.
(4)Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.
(5)Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.
18Dirymu, diwygio ac ailddeddfu is-ddeddfwriaethLL+C
(1)Caniateir arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir gan Ddeddf Cynulliad i ddiwygio, dirymu neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y pŵer.
(2)Mae dyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gan Ddeddf Cynulliad yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) y caniateir ei arfer i ddiwygio, dirymu a disodli, neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y ddyletswydd (neu o dan y pŵer a ddarperir gan yr is-adran hon).
19Diwygio is-ddeddfwriaeth gan Ddeddf CynulliadLL+C
Nid yw diwygio na dirymu is-ddeddfwriaeth gan Ddeddf Cynulliad yn cyfyngu nac yn effeithio fel arall ar y pŵer neu’r ddyletswydd y gwnaed yr is-ddeddfwriaeth odano neu odani.
20Amrywio cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôlLL+C
(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan Ddeddf Cynulliad neu gan is-offeryn Cymreig i roi cyfarwyddydau i amrywio unrhyw gyfarwyddydau neu dynnu’n ôl unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y pŵer.
(2)Mae dyletswydd i roi cyfarwyddydau a osodir gan Ddeddf Cynulliad neu gan is-offeryn Cymreig yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) i amrywio, neu dynnu’n ôl a disodli, unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y ddyletswydd.
Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraillLL+C
21Cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau, offerynnau a dogfennauLL+C
(1)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig—
(a)yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a
(b)yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),
mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.
(2)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
22Argraffiadau o Ddeddfau’r Cynulliad neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atyntLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf Cynulliad (gan gynnwys Deddf Cynulliad nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—
(a)gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
23Argraffiadau o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig y cyfeirir atyntLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—
(a) gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
(3)Ond—
(a)pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;
(b)pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.
24Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig ar ôl ymadael â’r UELL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)Deddf Cynulliad yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl [diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu], a
(b)y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).
(3)Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—
“cyfraith ddomestig” (“domestic law”);
“deddfwriaeth drydyddol gan yr UE” (“EU tertiary legislation”);
“penderfyniad gan yr UE” (“EU decision”);
“rheoliad gan yr UE” (“EU regulation”).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
25Mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwydLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a
(b)pan fo A yn cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan ddeddfiad (”B”) ar unrhyw adeg (pa un ai cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf Cynulliad y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr is-offeryn Cymreig ei wneud).
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.
(4)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
26Cyfeiriadau at offerynnau’r UELL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a
(b)pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf Cynulliad y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr is-offeryn Cymreig ei wneud.
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Gweler hefyd reoliad 2 o Reoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau Canlyniadol a Diddymiadau a Dirymiadau) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/628) ....
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Dyblygu troseddauLL+C
27Troseddau dyblygLL+C
(1)Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—
(a)o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,
(b)yn ôl y gyfraith gyffredin, neu
(c)o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,
mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).
Cymhwyso i’r GoronLL+C
28Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r GoronLL+C
(1)Mae Deddf Cynulliad yn rhwymo’r Goron.
(2)Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.
(3)Nid yw Deddf Cynulliad nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.
Deddfwriaeth yn dod i rymLL+C
29Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rymLL+C
Pan fo—
(a)Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, neu
(b)darpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig,
yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.
30Y diwrnod y daw Deddf Cynulliad i rymLL+C
Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod Deddf Cynulliad neu ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
31Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn Deddfau’r Cynulliad i rymLL+C
Pan fo Deddf Cynulliad yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—
(a)y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu
(b)y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,
caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.
Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaethLL+C
32Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth CymruLL+C
(1)Pan fo deddfiad yn diwygio Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.
(2)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.
(3)Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir sy’n cael ei diwygio gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).
33Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoesLL+C
Pan fo—
(a)Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a
(b)A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),
nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.
34Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadauLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.
(2)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—
(a)yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;
(b)yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.
(3)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—
(a)unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;
(b)unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;
(c)unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,
a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.
35Effaith ailddeddfuLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—
(a)yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, a
(b)yn cael ei ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) gan ddeddfiad (“B”) sy’n Ddeddf Cynulliad neu’n is-offeryn Cymreig neu’n ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.
(2)Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.
(3)I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.
(4)I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.
36Cyfeirio at Ddeddf Cynulliad yn ôl ei henw byr ar ôl iddi gael ei diddymuLL+C
Caniateir parhau i gyfeirio at Ddeddf Cynulliad yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.
37Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan honLL+C
(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—
(a)amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);
(b)cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;
(c)darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.
(2)At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—
(a)pan ddaw Deddf dros dro gan y Cynulliad i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig;
(b)pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.
RHAN 3LL+CAMRYWIOL
38Pŵer i ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau ac amseroedd yn neddfwriaeth CymruLL+C
(1)Pan fo darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r ddarpariaeth drwy reoliadau fel ei bod yn cyfeirio at y gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd—
(a)diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn cynnwys esboniad o’r dyddiad neu’r amser y maent yn ei fewnosod;
(b)gwneud diwygiad canlyniadol sy’n diwygio, yn diddymu, neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.
(3)Mae’r adran hon yn gymwys i’r ddeddfwriaeth a ganlyn (pryd bynnag y’i deddfir neu i’i gwneir)—
(a)Deddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad;
(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad;
(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) nad yw ond yn gymwys o ran Cymru;
(d)unrhyw ddeddfiad arall, i’r graddau y caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c).
39Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanolLL+C
(1)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, cânt arfer y pŵer neu’r ddyletswydd drwy wneud yr is-ddeddfwriaeth ar unrhyw un o’r ffurfiau eraill hynny drwy offeryn statudol.
(2)Nid yw hyn yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth.
(3)Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen at reoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir odano neu odani mewn unrhyw ffurf arall drwy ddibynnu ar is-adran (1).
(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i is-ddeddfwriaeth—
(a)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, a
(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.
40Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y CynulliadLL+C
(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, offeryn statudol a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y Cynulliad o ganlyniad i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys, mae pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny yn y Cynulliad a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) yn gymwys i’r offeryn (ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y Cynulliad yn gymwys).
(2)Yn yr adran hon, ystyr “gweithdrefn yn y Cynulliad” yw gweithdrefn sy’n cael yr effaith—
(a)na chaniateir gwneud offeryn statudol (neu’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad,
(b)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl iddo gael ei wneud a rhaid iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys ddod i rym neu barhau mewn grym,
(c)bod offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
(d)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl iddo gael ei wneud, neu
(e)nad yw’n ofynnol i offeryn statudol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar unrhyw adeg.
(3)Nid yw’r ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol y mae is-adran (1) yn gymwys iddo yn—
(a)eu hatal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na
(b)effeithio ar y weithdrefn yn y Cynulliad sy’n gymwys i offeryn o’r fath.
(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth—
(a)a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, a
(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.
RHAN 4LL+CCYFFREDINOL
41Diwygiadau canlyniadol a diddymiadauLL+C
Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
42Pŵer i wneud darpariaeth ychwanegol i roi effaith lawn i’r Ddeddf honLL+C
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon).
43Rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honLL+C
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
(a)rheoliadau o dan adran 6(2);
(b)rheoliadau o dan adran 42(1) sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran 42(1) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
44Y Ddeddf hon yn dod i rymLL+C
(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)Rhan 1;
(b)adran 6(2) a (3);
(c)y darpariaethau eraill yn Rhan 2, i’r graddau y maent yn gymwys i’r Ddeddf hon;
(d)Rhan 3;
(e)y Rhan hon.
(2)I’r graddau nad yw wedi cael ei dwyn i rym gan is-adran (1), daw Rhan 2 i rym ar ddiwrnod a benodir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)rhaid ei wneud drwy offeryn statudol;
(b)caiff gynnwys ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
45Enw byrLL+C
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
(A gyflwynir gan adran 6)
ATODLEN 1LL+CDIFFINIADAU O EIRIAU AC YMADRODDION
TABL
Aelod-wladwriaeth (member State) | ystyr “Aelod-wladwriaeth” yw Gwladwriaeth sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd |
Arglwydd Ganghellor (Lord Chancellor) | ystyr “Arglwydd Ganghellor” yw Arglwydd Uchel Ganghellor Prydain Fawr |
Awdurdod Cyllid Cymru (Welsh Revenue Authority) | ystyr “Awdurdod Cyllid Cymru” yw’r awdurdod a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) |
Banc Lloegr (Bank of England) | ystyr “Banc Lloegr”, yn unol â gofynion y cyd-destun, yw—
(a) Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr, neu
(b) banc Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr
|
blwyddyn ariannol (financial year) | ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn sy’n gorffen â 31 Mawrth |
Bwrdd Iechyd Lleol (Local Health Board) | ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) |
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales Commission) | ystyr “Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
Comisiwn Elusennau (Charity Commission) | ystyr “Comisiwn Elusennau” yw Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, a barheir gan adran 13 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25) |
Cwnsler Cyffredinol (Counsel General) | ystyr “Cwnsler Cyffredinol” yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, a benodir o dan adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
Cyfoeth Naturiol Cymru (Natural Resources Wales) | ystyr “Cyfoeth Naturiol Cymru” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru, a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy. 230)) |
cyfraith UE a ddargedwir (retained EU law) | mae i “cyfraith UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained EU law” gan adran 6(7) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [(gweler hefyd paragraff 7 of Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020)] |
y Cyfrin Gyngor (the Privy Council) | ystyr “y Cyfrin Gyngor” yw’r Arglwyddi ac eraill o Dra Anrhydeddus Gyfrin Gyngor Ei Mawrhydi |
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (Her Majesty’s Revenue and Customs) | mae i “Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ” yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (a gweler adrannau 3(5) ac 11(4) o Ddeddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 (p. 11), sy’n darparu i gyfeiriadau at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gynnwys swyddogion penodol sydd wedi eu dynodi o dan y Ddeddf honno) |
Cymru (Wales) | ystyr ”Cymru” yw—
(b) y môr sy’n gyfagos i Gymru o fewn terfynau atfor y môr tiriogaethol,
ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)
|
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales) | ystyr “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yw’r Cynulliad ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
[cytundeb ymadael â'r UE (EU withdrawal agreement) | mae i “cytundeb ymadael â'r UE” yr ystyr a roddir i “withdrawal agreement” yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (gweler adran 39(1) a (6) o'r Ddeddf honno)] |
cytundeb yr AEE (EEA agreement) | ystyr “cytundeb yr AEE” yw’r cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, ynghyd â’r Protocol sy’n amrywio’r Cytundeb hwnnw a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, fel y’i haddesir neu yr ychwanegir ato o bryd i’w gilydd; ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl [diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu] nid yw’n cynnwys unrhyw deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir |
y Cytuniadau (the Treaties) neu Cytuniadau’r UE (the EU Treaties) | mae i “y Cytuniadau” neu “Cytuniadau’r UE”—
(a) [mewn perthynas ag amser cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018;
(b) mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan Ddeddf y Cymuendau Ewropeaidd 1972 fel yr oedd ganddi effaith yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, ac mae'n cyfeirio at y Cytuniadau neu Gytuniadau'r UE fel yr oeddent yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu]
|
datganiad statudol (statutory declaration) | ystyr “datganiad statudol” yw datganiad a wneir yn rhinwedd Deddf Datganiadau Statudol 1835 (p. 62) |
Deddf Cynulliad (Assembly Act) | ystyr “Deddf Cynulliad” yw Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
deddfiad (enactment) | ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol neu ddarpariaeth mewn unrhyw un o’r canlynol—
(c) Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,
(d) unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, neu
(e) unrhyw is-ddeddfwriaeth
|
deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct EU legislation) | mae i “deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct EU legislation” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [(gweler hefyd paragraff 7 of Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020)] |
y Deyrnas Unedig (United Kingdom) | ystyr “y Deyrnas Unedig” yw Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon |
[diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (implementation period completion day) | mae i “diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu” yr ystyr sydd i “IP completion day” o fewn ystyr Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hynny (gweler adran 39(1) i (5) o'r Ddeddf honno)] |
diwrnod gwaith (working day) | ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p. 80) |
diwrnod ymadael (exit day) | mae “diwrnod ymadael” ac ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol ag “exit day” yn adran 20(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) |
Goruchaf Lys (Supreme Court) | ystyr “Goruchaf Lys”yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig a sefydlwyd gan adran 23 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p. 4) |
graddfa safonol (standard scale) | mae i “graddfa safonol”, mewn perthynas â dirwy neu gosb am drosedd ddiannod, yr ystyr a roddir i “standard scale” gan adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48) |
Gweinidog y Goron (Minister of the Crown) | ystyr “Gweinidog y Goron” yw deiliad swydd yn Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys y Trysorlys |
Gweinidogion Cymru (the Welsh Ministers) | mae “Gweinidogion Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru a benodir o dan adran 48 o’r Ddeddf honno) |
gwladwriaeth AEE (EEA state) | ystyr “gwladwriaeth AEE”, mewn perthynas ag unrhyw bryd, yw—
(a) gwladwriaeth sydd ar y pryd yn Aelod-wladwriaeth, neu
(b) unrhyw wladwriaeth arall sydd ar y pryd yn barti i gytundeb yr AEE
|
is-ddeddfwriaeth (subordinate legislation) | ystyr “is-ddeddfwriaeth” yw rheoliadau, gorchmynion, rheolau, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, cynlluniau, gwarantau, isddeddfau ac offerynnau eraill a wneir o dan—
(c) Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, neu
(d) deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir
|
Lloegr (England) | mae i “Lloegr” yr ystyr a roddir i “England” gan Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) |
llw (oath), affidafid (affidavit), a tyngu llw (swear) | mae “llw” ac “affidafid” yn cynnwys cadarnhad a datganiad; ac mae “tyngu llw” yn cynnwys cadarnhau a datgan |
Llys Apêl (Court of Appeal) | ystyr “Llys Apêl” yw Llys Apêl Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr |
Llys Ewropeaidd (European Court) | ystyr “Llys Ewropeaidd” yw Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd |
Llys y Goron (Crown Court) | ystyr “Llys y Goron” yw Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr a sefydlwyd yn wreiddiol gan adran 4 o Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 23) (a ddiddymwyd gan Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54)) |
Llys Gwarchod (Court of Protection) | ystyr “Llys Gwarchod” yw’r Llys Gwarchod a sefydlwyd gan adran 45 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9) |
llys sirol (county court) | ystyr “llys sirol” yw’r llys sirol yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran A1 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984 (p. 28) |
llys teulu (family court) | ystyr “llys teulu” yw’r llys teulu yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran 31A o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42) |
llys ynadon (magistrates’ court) | ystyr “llys ynadon” yw llys ynadon, o fewn yr ystyr a roddir i “magistrates’ court” gan adran 148 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), yng Nghymru a Lloegr |
Llywodraeth Cymru (Welsh Government) | mae “Llywodraeth Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
mân ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct minor EU legislation) a | mae i “mân ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct minor EU legislation”ac mae i “prif ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct principal EU legislation” gan adran 7(6) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [(gweler hefyd paragraff 7 of Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020)] |
prif ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct principal EU legislation |
Mesur Cynulliad (Assembly Measure) | ystyr “Mesur Cynulliad” yw Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a beidiodd â chael effaith yn rhinwedd adran 106 o’r Ddeddf honno, yn ddarostyngedig i’r arbediad a barheir gan baragraff 5 o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4)) |
mis (month) | ystyr “mis” yw mis calendr |
offeryn UE (EU instrument) | ystyr “offeryn UE” yw unrhyw offeryn a ddyroddir gan sefydliad UE, ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl [diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu] nid yw’n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir |
person (person) | mae “person” yn cynnwys corff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig |
Prif Weinidog (First Minister) | ystyr “Prif Weinidog” yw Prif Weinidog Cymru a benodir o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 45(2) o’r Ddeddf honno, sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog) |
rheolau llys (rules of court) | ystyr “rheolau llys”, mewn perthynas ag unrhyw lys, yw rheolau a wneir gan yr awdurdod a chanddo’r pŵer i wneud rheolau neu orchmynion sy’n rheoleiddio arferion a threfniadaeth y llys hwnnw |
rhwymedigaeth UE a ddargedwir (retained EU obligation) | ystyr “rhwymedigaeth UE a ddargedwir” yw rhwymedigaeth—
(a) a grëwyd neu a gododd gan neu o dan Gytuniadau UE cyn [diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu], a
(b) sy’n ffurfio rhan o gyfraith UE a ddargedwir,
fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd
|
sefydliad UE (EU institution) | ystyr “sefydliad UE” yw unrhyw un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd |
tir (land) | mae “tir” yn cynnwys adeiladau a strwythurau eraill, tir a orchuddir â dŵr, ac unrhyw ystad, buddiant, hawddfraint, gwasanaethfraint, hawl mewn tir neu hawl dros dir |
tribiwnlys Cymreig (Welsh tribunal) | mae i “tribiwnlys Cymreig” yr ystyr a roddir i “Welsh tribunal” gan adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) |
trosedd ddiannod (summary offence) | ystyr “trosedd ddiannod” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, na ellir ei rhoi ar brawf ond yn ddiannod—
|
trosedd dditiadwy (indictable offence) | ystyr “trosedd dditiadwy” yw—
(a) trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf ar dditiad yn unig, neu
|
trosedd neillffordd (offence triable either way) | ystyr “trosedd neillffordd” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf naill ai ar dditiad neu’n ddiannod—
(b) gan anwybyddu adran 22 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) (sy’n ei gwneud yn ofynnol bod troseddau neillffordd penodol i’w rhoi ar brawf yn ddiannod os yw’r gwerth sydd ynghlwm yn fach)
|
y Trysorlys (the Treasury) | ystyr “y Trysorlys” yw Comisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi |
Uchel Lys (High Court) | ystyr “Uchel Lys”yw Uchel Lys Barn Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr |
yr UE (the EU) neu yr Undeb Ewropeaidd (the European Union) | ystyr “yr UE” neu “yr Undeb Ewropeaidd” yw’r Undeb a sefydlwyd gan y Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a lofnodwyd yn Maastricht ar 7 Chwefror 1992, fel y’i diwygiwyd gan unrhyw Gytuniad diweddarach; ac mae’n cynnwys, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn ei chaniatáu neu’n ei gwneud yn ofynnol, Cymuned Ynni Atomig Ewrop |
Uwchlysoedd (Senior Courts) | ystyr “Uwchlysoedd” yw Uwchlysoedd Cymru a Lloegr (gweler adran 1 o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54)) |
ysgrifennu (writing) | mae “ysgrifennu” yn cynnwys teipio, argraffu, lithograffi, ffotograffiaeth a dulliau eraill o gynrychioli neu atgynhyrchu geiriau ar ffurf weladwy |
Ysgrifennydd Gwladol (Secretary of State) | ystyr “Ysgrifennydd Gwladol”yw un o Brif Ysgrifenyddion Gwladol Ei Mawrhydi |
(A gyflwynir gan adran 41)
ATODLEN 2LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU
1Yn lle adran 23B o Ddeddf Dehongli 1978 (cymhwyso’r Ddeddf at Fesurau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Deddfau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru etc.) rhodder—
“23BApplication of this Act to Welsh legislation
(1)The provisions of this Act, except sections 1 to 3, apply to the following as they apply to an Act—
(a)a Measure of the National Assembly for Wales, and
(b)an Act of the National Assembly for Wales, other than the Legislation (Wales) Act 2019, which receives Royal Assent before the day on which Part 2 of that Act (interpretation and operation of Welsh legislation) comes fully into force.
(2)The provisions of this Act apply to an instrument—
(a)made under a Measure or Act of the National Assembly for Wales, and
(b)made before the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force,
as they apply to other subordinate legislation.
(3)The provisions of this Act apply to an instrument made under an Act of Parliament or retained direct EU legislation, and made by the Welsh Ministers or any other devolved Welsh authority, only if—
(a)the instrument is made before the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force,
(b)the instrument is made (at any time) with any other person who is not a devolved Welsh authority, or
(c)the instrument contains any provision that applies otherwise than in relation to Wales.
(4)Nothing in subsection (2) or (3) limits the operation of sections 12 to 14A in relation to a power or duty to make an instrument to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies, but section 11 does not apply in relation to such an instrument.
(5)In the application of this Act to a Measure or Act of the National Assembly for Wales, references to the passing of an Act or an enactment are to be read as references to the enactment of the Measure or Act.
(6)In this section, “devolved Welsh authority” and “Wales” have the same meanings as in the Government of Wales Act 2006 (see sections 157A and 158 of that Act).
23CInterpretation of this Act in relation to Welsh legislation
(1)In this Act, references to an enactment include an enactment comprised in—
(a)a Measure of the National Assembly for Wales,
(b)an Act of the National Assembly for Wales (whenever the Act receives Royal Assent),
(c)an instrument made under such an Act or Measure (whenever the instrument is made), or
(d)an instrument made under an Act of Parliament or retained direct EU legislation, and made by the Welsh Ministers or any other devolved Welsh authority (whenever the instrument is made, and whether or not it is made with any other person),
but the reference in section 16(2) to a temporary enactment does not include an enactment comprised in legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies (see section 3(1) of that Act).
(2)In section 17(2)(b), the reference to subordinate legislation includes an instrument to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies.
(3)In section 18, the reference to an act or omission which constitutes an offence under two or more Acts includes an act or omission which constitutes an offence under—
(a)any legislation to which that section applies, and
(b)any legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies,
and the reference to “those Acts” is to be read accordingly.
(4)In section 19(1), references to “another Act” include—
(a)a Measure of the National Assembly for Wales, and
(b)any Act of the National Assembly for Wales (whenever the Act receives Royal Assent),
and the reference in paragraph (c) to “Acts” is to be read accordingly.”
2(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 156 (testunau Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth)—
(a)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Subsection (1) does not apply to any legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies (but section 5 of that Act makes corresponding provision in relation to legislation to which that Part applies).”;
(b)hepgorer is-adrannau (2) i (5).
(3)Yn Atodlen 7B, ym mharagraff 7(2)(e), hepgorer is-baragraff (ii).
(4)Yn Atodlen 10, hepgorer paragraff 11.
3(1)Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 19, hepgorer is-adrannau (3) a (4).
(3)Yn adran 20, hepgorer is-adrannau (4) a (5).