Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 23/01/2021
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad.
(2)Yn y Rhan hon, ystyr “hygyrchedd” cyfraith Cymru yw’r graddau y mae—
(a)ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg;
(b)wedi ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith (sy’n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wneir iddynt);
(c)wedi ei threfnu’n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau);
(d)yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.
(3)Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith Cymru” yw—
(a)[F1Deddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;
(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [F1Ddeddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;
(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(d)unrhyw ddeddfiad arall, neu unrhyw reol gyfreithiol arall, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru ac y mae’n ymwneud â phwnc y gellid darparu ar ei gyfer mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru].
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(9)
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(a)
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
(2)Rhaid llunio rhaglen ar gyfer pob un o dymhorau [F3Senedd Cymru] sy’n dechrau ar ôl i’r adran hon ddod i rym.
(3)Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt—
(a)cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;
(b)cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio);
(c)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru;
(d)hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
(4)Caiff y rhaglen hefyd gynnwys gweithgareddau arfaethedig—
(a)y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith (yn unol â Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (p. 22)), neu
(b)o unrhyw fath arall y mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei fod yn briodol.
(5)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen gerbron [F4Senedd Cymru] o fewn 6 mis i benodi Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen ar unrhyw adeg, ac os gwnânt hynny rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron [F5Senedd Cymru].
(7)Rhaid [F6i Senedd Cymru] adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd a wneir o dan y rhaglen.
(8)Yn is-adran (3), mae codeiddio cyfraith Cymru yn cynnwys—
(a)mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd;
(b)trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn a. 2(2) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(a)
F4Geiriau yn a. 2(5) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(b)
F5Geiriau yn a. 2(6) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(b)
F6Geiriau yn a. 2(7) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(a)
(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i—
(a)y Ddeddf hon;
(b)[F1Deddfau Senedd Cymru] sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar [F71 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw];
(c)is-offerynnau Cymreig a wneir ar [F81 Ionawr 2020] neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2)Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—
(a)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;
(b)is-ddeddfwriaeth—
(i)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir,
(ii)nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a
(iii)nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.
(3)Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(9)
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F7Geiriau yn a. 3(1)(b) wedi eu hamnewid (11.10.2019) gan Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019 (O.S. 2019/1333), erglau. 1(2), 3(a)
F8Geiriau yn a. 3(1)(c) wedi eu hamnewid (11.10.2019) gan Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019 (O.S. 2019/1333), erglau. 1(2), 3(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 3 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I4A. 3 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—
(a)y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.
(2)Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).
(3)Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—
(a)adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);
(b)adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);
(c)adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 4 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I6A. 4 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] yn cael ei deddfu, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
(2)Mae i’r testun Cymraeg a’r testun Saesneg statws cyfartal at bob diben.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 5 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I8A. 5 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—
(a)mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;
(b)dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;
(c)diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 6(1) mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I10A. 6(2)(3) mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(b)
I11A. 6(1) mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig—
(a)mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog;
(b)mae geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 7 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I13A. 7 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, nid yw geiriau sy’n dynodi personau o rywedd penodol i’w darllen fel pe baent yn gyfyngedig i bersonau o’r rhywedd hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 8 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I15A. 8 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Pan fo deddfiad yn rhoi ystyr i air neu ymadrodd mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae rhannau ymadrodd eraill a ffurfiau neu oleddfiadau gramadegol ar y gair neu’r ymadrodd i’w dehongli yn unol â’r ystyr hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 9 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I17A. 9 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Mae cyfeiriad at amser o’r dydd mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at amser safonol Greenwich; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 3 o Ddeddf Amser Haf 1972 (p. 6) (pwyntiau o amser yn ystod amser haf).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 10 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I19A. 10 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Mae cyfeiriad at y Sofren mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 11 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I21A. 11 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Mae cyfeiriad at bellter mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at y pellter hwnnw wedi ei fesur mewn llinell syth ar blân llorweddol.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I22A. 12 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I23A. 12 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen drwy’r post i berson arall (“B”), mae A yn cyflwyno’r ddogfen os yw A yn cyfeirio’n briodol lythyr sy’n cynnwys y ddogfen, yn talu ymlaen llaw am ei bostio, ac yn ei bostio at B.
(2)Pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen i berson arall (“B”) yn electronig, mae A yn cyflwyno’r ddogfen—
(a)os yw A yn cyfeirio’n briodol gyfathrebiad electronig sy’n ffurfio’r ddogfen neu’n cynnwys y ddogfen, neu y mae’r ddogfen ynghlwm wrtho, ac yn ei anfon at B, a
(b)os yw’r ddogfen yn cael ei hanfon ar ffurf electronig y gall B ei chyrchu a’i chadw.
(3)Mae’r adran hon yn gymwys pa un a yw’r Ddeddf F9... neu’r [F10offeryn] yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu unrhyw ymadrodd arall (megis “anfon” neu “rhoi”) i gyfeirio at gyflwyno’r ddogfen.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F9Gair yn a. 13(3) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(a)
F10Gair yn a. 13(3) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(b)(4)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I24A. 13 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I25A. 13 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy’r post neu’n electronig o dan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb—
(a)yn achos dogfen a gyflwynir drwy’r post, ar y diwrnod y byddai’r llythyr sy’n cynnwys y ddogfen yn cyrraedd yn nhrefn arferol y post;
(b)yn achos dogfen a gyflwynir yn electronig, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I26A. 14 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I27A. 14 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ar fwy nag un achlysur.
(2)Mae dyletswydd a osodir gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn ddyletswydd barhaus a rhaid ei chyflawni yn ôl y gofyn.
(3)Pan roddir pŵer gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig i ddeiliad swydd neu pan osodir dyletswydd ar ddeiliad swydd gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae i’w arfer neu i’w harfer gan ddeiliad y swydd ar y pryd.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I28A. 15 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I29A. 15 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—
(a)gan ddarpariaeth mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] a ddaw i rym—
(i)ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a
(ii)mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu
(b)gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.
(2)Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—
(a)sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf F11... y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr [F12offeryn], a
(b)sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.
(3)Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—
(a)i’r Ddeddf F13... neu i’r [F14offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu
(b)i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,
ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.
(4)Pan fo darpariaeth mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym—
(a)yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a
(b)yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,
mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.
(5)Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf F15... neu’r [F16offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F11Gair yn a. 16(2)(a) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)
F12Gair yn a. 16(2)(a) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(b)(4)(b)
F13Gair yn a. 16(3)(a) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)
F14Gair yn a. 16(3)(a) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(b)(4)(b)
F15Gair yn a. 16(5) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)
F16Gair yn a. 16(5) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(b)(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I30A. 16 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I31A. 16 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).
(2)Yn yr adran hon—
(a)ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;
(b)ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;
(c)ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.
(3)Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.
(4)Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.
(5)Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I32A. 17 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I33A. 17 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Caniateir arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] i ddiwygio, dirymu neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y pŵer.
(2)Mae dyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) y caniateir ei arfer i ddiwygio, dirymu a disodli, neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y ddyletswydd (neu o dan y pŵer a ddarperir gan yr is-adran hon).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I34A. 18 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I35A. 18 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Nid yw diwygio na dirymu is-ddeddfwriaeth gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] yn cyfyngu nac yn effeithio fel arall ar y pŵer neu’r ddyletswydd y gwnaed yr is-ddeddfwriaeth odano neu odani.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I36A. 19 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I37A. 19 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu gan is-offeryn Cymreig i roi cyfarwyddydau i amrywio unrhyw gyfarwyddydau neu dynnu’n ôl unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y pŵer.
(2)Mae dyletswydd i roi cyfarwyddydau a osodir gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu gan is-offeryn Cymreig yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) i amrywio, neu dynnu’n ôl a disodli, unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y ddyletswydd.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I38A. 20 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I39A. 20 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig—
(a)yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a
(b)yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),
mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.
(2)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I40A. 21 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I41A. 21 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] (gan gynnwys [F2Deddf gan Senedd Cymru] nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—
(a)gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(9)
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I42A. 22 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I43A. 22 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—
(a) gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
(3)Ond—
(a)pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;
(b)pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I44A. 23 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I45A. 23 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)[F2Deddf gan Senedd Cymru] yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl y [F17diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu], a
(b)y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [F18neu adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2)] (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).
[F19(2A)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 25A (cyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu).]
(3)Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—
“cyfraith ddomestig” (“domestic law”);
“deddfwriaeth drydyddol gan yr UE” (“EU tertiary legislation”);
“penderfyniad gan yr UE” (“EU decision”);
“rheoliad gan yr UE” (“EU regulation”).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F17Geiriau yn a. 24(1)(a) wedi eu hamnewid (31.1.2020) gan European Union (Withdrawal Agreement) Act 2020 (c. 1), a. 42(7), Atod. 5 para. 59(a) (ynghyd ag a. 38(3)); O.S. 2020/75, rhl. 4(n)(xxviii)
F18Geiriau yn a. 24(1)(b) wedi eu mewnosod (30.4.2020) gan The Direct Payments to Farmers (Legislative Continuity) Act 2020 (Consequential Amendments) Regulations 2020 (O.S. 2020/463), rhlau. 1(1), 4(b)
F19A. 24(2A) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan The European Union Withdrawal (Consequential Modifications) (EU Exit) Regulations 2020 (O.S. 2020/1447), rhlau. 1(3), 8(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I46A. 24 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I47A. 24 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a
(b)pan fo A yn cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan ddeddfiad (”B”) ar unrhyw adeg (pa un ai cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf F20... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F21offeryn] ei wneud).
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.
(4)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F20Gair yn a. 25(1)(b) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(c)
F21Gair yn a. 25(1)(b) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(b)(4)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I48A. 25 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I49A. 25 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
—(1) Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo Deddf gan Senedd Cymru yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, a
(b)pan fo'r Ddeddf neu'r offeryn yn cyfeirio at unrhyw gytuniad sy'n ymwneud â'r UE, neu unrhyw offeryn neu ddogfen arall gan unrhyw endid o'r UE, sy'n cael effaith yn rhinwedd adran 7A neu 7B o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweithredu gweddill y cytundeb ymadael â'r UE etc. yn gyffredinol).
(2)Mae'r cyfeiriad, i'r graddau y mae'n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at y cytuniad, yr offeryn neu'r ddogfen fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd yr adran honno (gan gynnwys, i'r graddau y mae'n ofynnol, fel y mae'n cael effaith o bryd i'w gilydd).
(3)Yn yr adran hon—
mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” gan adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018; mae “cytuniad” (“treaty”) yn cynnwys unrhyw gytundeb rhyngwladol (ac unrhyw brotocol neu atodiad i gytuniad neu gytundeb rhyngwladol); mae i “endid o'r UE” yr ystyr a roddir i “EU entity” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.]
Diwygiadau Testunol
F22A. 25A wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan The European Union Withdrawal (Consequential Modifications) (EU Exit) Regulations 2020 (O.S. 2020/1447), rhlau. 1(3), 8(3)(b)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a
(b)pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf F24... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F25offeryn] ei wneud.
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Gweler hefyd [F26baragraff 2A o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16)] F27....
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F23Geiriau yn a. 26 pennawd wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan The European Union Withdrawal (Consequential Modifications) (EU Exit) Regulations 2020 (O.S. 2020/1447), rhlau. 1(3), 8(4)(b)(i)
F24Gair yn a. 26(1)(b) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(d)
F25Gair yn a. 26(1)(b) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(b)(4)(d)
F26Geiriau yn a. 26(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan The European Union Withdrawal (Consequential Modifications) (EU Exit) Regulations 2020 (O.S. 2020/1447), rhlau. 1(3), 8(4)(b)(ii)
F27Geiriau yn a. 26(3) wedi eu hepgor (31.1.2020) yn rhinwedd European Union (Withdrawal Agreement) Act 2020 (c. 1), a. 42(7), Atod. 5 para. 60(a) (ynghyd ag a. 38(3)); O.S. 2020/75, rhl. 4(n)(xxviii)
Gwybodaeth Cychwyn
I50A. 26 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I51A. 26 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—
(a)o dan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,
(b)yn ôl y gyfraith gyffredin, neu
(c)o dan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,
mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I52A. 27 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I53A. 27 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae [F2Deddf gan Senedd Cymru] yn rhwymo’r Goron.
(2)Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.
(3)Nid yw [F2Deddf gan Senedd Cymru] nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I54A. 28 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I55A. 28 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Pan fo—
(a)[F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, neu
(b)darpariaeth mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig,
yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I56A. 29 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I57A. 29 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu ddarpariaeth mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I58A. 30 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I59A. 30 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—
(a)y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu
(b)y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,
caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(9)
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I60A. 31 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I61A. 31 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Pan fo deddfiad yn diwygio [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.
(2)Pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.
(3)Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir sy’n cael ei diwygio gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I62A. 32 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I63A. 32 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Pan fo—
(a)[F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a
(b)A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),
nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I64A. 33 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I65A. 33 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.
(2)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—
(a)yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;
(b)yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.
(3)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—
(a)unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;
(b)unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;
(c)unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,
a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I66A. 34 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I67A. 34 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—
(a)yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, a
(b)yn cael ei ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) gan ddeddfiad (“B”) sy’n [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu’n is-offeryn Cymreig neu’n ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.
(2)Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.
(3)I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.
(4)I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I68A. 35 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I69A. 35 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Caniateir parhau i gyfeirio at [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I70A. 36 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I71A. 36 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—
(a)amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);
(b)cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;
(c)darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.
(2)At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—
(a)pan ddaw [F2Deddf dros dro gan Senedd Cymru] i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig;
(b)pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I72A. 37 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I73A. 37 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Pan fo darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r ddarpariaeth drwy reoliadau fel ei bod yn cyfeirio at y gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd—
(a)diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn cynnwys esboniad o’r dyddiad neu’r amser y maent yn ei fewnosod;
(b)gwneud diwygiad canlyniadol sy’n diwygio, yn diddymu, neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.
(3)Mae’r adran hon yn gymwys i’r ddeddfwriaeth a ganlyn (pryd bynnag y’i deddfir neu i’i gwneir)—
(a)[F1Deddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;
(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [F1Ddeddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;
(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) nad yw ond yn gymwys o ran Cymru;
(d)unrhyw ddeddfiad arall, i’r graddau y caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(9)
Gwybodaeth Cychwyn
I74A. 38 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)
(1)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, cânt arfer y pŵer neu’r ddyletswydd drwy wneud yr is-ddeddfwriaeth ar unrhyw un o’r ffurfiau eraill hynny drwy offeryn statudol.
(2)Nid yw hyn yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth.
(3)Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen at reoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir odano neu odani mewn unrhyw ffurf arall drwy ddibynnu ar is-adran (1).
(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i is-ddeddfwriaeth—
(a)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, a
(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I75A. 39 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)
(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, offeryn statudol a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y [F29Senedd] o ganlyniad i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys, mae pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny yn y [F29Senedd] a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) yn gymwys i’r offeryn (ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y [F29Senedd] yn gymwys).
(2)Yn yr adran hon, ystyr “gweithdrefn yn y [F30Senedd]” yw gweithdrefn sy’n cael yr effaith—
(a)na chaniateir gwneud offeryn statudol (neu’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [F31Senedd Cymru] a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad,
(b)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron [F32Senedd Cymru] ar ôl iddo gael ei wneud a rhaid iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan [F32Senedd Cymru] er mwyn i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys ddod i rym neu barhau mewn grym,
(c)bod offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan [F33Senedd Cymru],
(d)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron [F34Senedd Cymru] ar ôl iddo gael ei wneud, neu
(e)nad yw’n ofynnol i offeryn statudol gael ei osod gerbron [F35Senedd Cymru] ar unrhyw adeg.
(3)Nid yw’r ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol y mae is-adran (1) yn gymwys iddo yn—
(a)eu hatal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na
(b)effeithio ar y weithdrefn yn y [F36Senedd] sy’n gymwys i offeryn o’r fath.
(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth—
(a)a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, a
(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.
Diwygiadau Testunol
F28Gair yn a. 40 heading wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(5)(a)
F29Gair yn a. 40(1) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(5)(a)
F30Gair yn a. 40(2) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(5)(b)(i)
F31Geiriau yn a. 40(2)(a) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(5)(b)(ii)
F32Geiriau yn a. 40(2)(b) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(5)(b)(iii)
F33Geiriau yn a. 40(2)(c) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(5)(b)(iv)
F34Geiriau yn a. 40(2)(d) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(5)(b)(iv)
F35Geiriau yn a. 40(2)(e) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(5)(b)(iv)
F36Gair yn a. 40(3)(b) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(5)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I76A. 40 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)
Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I77A. 41 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon).
Gwybodaeth Cychwyn
I78A. 42 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [F37Senedd Cymru] ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
(a)rheoliadau o dan adran 6(2);
(b)rheoliadau o dan adran 42(1) sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu Fesur Cynulliad neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran 42(1) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan [F38Senedd Cymru].
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F37Geiriau yn a. 43(2) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(6)
F38Geiriau yn a. 43(3) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(6)
Gwybodaeth Cychwyn
I79A. 43 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)
(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)Rhan 1;
(b)adran 6(2) a (3);
(c)y darpariaethau eraill yn Rhan 2, i’r graddau y maent yn gymwys i’r Ddeddf hon;
(d)Rhan 3;
(e)y Rhan hon.
(2)I’r graddau nad yw wedi cael ei dwyn i rym gan is-adran (1), daw Rhan 2 i rym ar ddiwrnod a benodir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)rhaid ei wneud drwy offeryn statudol;
(b)caiff gynnwys ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
Gwybodaeth Cychwyn
I80A. 44 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Gwybodaeth Cychwyn
I81A. 45 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys