Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Newidiadau dros amser i: Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2024.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(A gyflwynir gan adran 6)

ATODLEN 1LL+CDIFFINIADAU O EIRIAU AC YMADRODDION

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2Atod. 1 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

TABL

[F1Aelod o’r Senedd (Member of the Senedd) mae “Aelod o’r Senedd” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(2A) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)]
Aelod-wladwriaeth (member State)ystyr “Aelod-wladwriaeth” yw Gwladwriaeth sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd
Arglwydd Ganghellor (Lord Chancellor)ystyr “Arglwydd Ganghellor” yw Arglwydd Uchel Ganghellor Prydain Fawr
Awdurdod Cyllid Cymru (Welsh Revenue Authority)ystyr “Awdurdod Cyllid Cymru” yw’r awdurdod a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6)
Banc Lloegr (Bank of England)

ystyr “Banc Lloegr”, yn unol â gofynion y cyd-destun, yw—

(a)

Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr, neu

(b)

banc Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr

blwyddyn ariannol (financial year)ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn sy’n gorffen â 31 Mawrth
Bwrdd Iechyd Lleol (Local Health Board)ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)
F2. . .F2. . .
[F3Cod Dedfrydu (Sentencing Code) ystyr “Cod Dedfrydu” yw’r cod sydd wedi ei gynnwys yn Neddf Dedfrydu 2020 (p. 17) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno)
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission)ystyr “Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol” yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 (p. 3)]
Comisiwn Elusennau (Charity Commission)ystyr “Comisiwn Elusennau” yw Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, a barheir gan adran 13 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25)
[F1Comisiwn y Senedd (Senedd Commission) ystyr “Comisiwn y Senedd” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru)]
Cwnsler Cyffredinol (Counsel General)ystyr “Cwnsler Cyffredinol” yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, a benodir o dan adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
Cyfoeth Naturiol Cymru (Natural Resources Wales)ystyr “Cyfoeth Naturiol Cymru” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru, a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy. 230))
[F4cyfraith a gymathwyd (assimilated law)] [F4mae i “cyfraith a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated law” gan adran 6(7) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) ac adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023)]
y Cyfrin Gyngor (the Privy Council)ystyr “y Cyfrin Gyngor” yw’r Arglwyddi ac eraill o Dra Anrhydeddus Gyfrin Gyngor Ei Mawrhydi
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (Her Majesty’s Revenue and Customs)mae i “Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ” yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (a gweler adrannau 3(5) ac 11(4) o Ddeddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 (p. 11), sy’n darparu i gyfeiriadau at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gynnwys swyddogion penodol sydd wedi eu dynodi o dan y Ddeddf honno)
Cymru (Wales)

ystyr ”Cymru” yw—

(a)

ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)), ynghyd â

(b)

y môr sy’n gyfagos i Gymru o fewn terfynau atfor y môr tiriogaethol,

ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)

F2. . .F2. . .
cytundeb yr AEE (EEA agreement)ystyr “cytundeb yr AEE” yw’r cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, ynghyd â’r Protocol sy’n amrywio’r Cytundeb hwnnw a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, fel y’i haddesir neu yr ychwanegir ato o bryd i’w gilydd; ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl [F5diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu] nid yw’n cynnwys unrhyw deddfwriaeth uniongyrchol [F6a gymathwyd]
y Cytuniadau (the Treaties) neu Cytuniadau’r UE (the EU Treaties)

mae i “y Cytuniadau” neu “Cytuniadau’r UE”—

(a)

[F7mewn perthynas ag amser cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018;

(b)

mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan Ddeddf y Cymuendau Ewropeaidd 1972 fel yr oedd ganddi effaith yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, ac mae'n cyfeirio at y Cytuniadau neu Gytuniadau'r UE fel yr oeddent yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu]

datganiad statudol (statutory declaration)ystyr “datganiad statudol” yw datganiad a wneir yn rhinwedd Deddf Datganiadau Statudol 1835 (p. 62)
F2. . .F2. . .
[F1Deddf gan Senedd Cymru (Act of Senedd Cymru) ystyr “Deddf gan Senedd Cymru” yw Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (pa un ai fel Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru)]
[F1Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (Act of the Parliament of the United Kingdom) mae “Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig” yn cynnwys Deddf gan Senedd Prydain Fawr neu gan Senedd Lloegr]
deddfiad (enactment)

ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol neu ddarpariaeth mewn unrhyw un o’r canlynol—

(a)

[F8Deddf gan Senedd Cymru],

(b)

Mesur Cynulliad,

(c)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,

(d)

unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol [F6a gymathwyd], neu

(e)

unrhyw is-ddeddfwriaeth

[F9deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd (assimilated direct legislation)] [F9mae i “deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated direct legislation” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) ac adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023)]
y Deyrnas Unedig (United Kingdom)ystyr “y Deyrnas Unedig” yw Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
[F10diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (implementation period completion day) mae i “diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu” yr ystyr sydd i “IP completion day” o fewn ystyr Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hynny (gweler adran 39(1) i (5) o'r Ddeddf honno)]
diwrnod gwaith (working day)ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p. 80)
diwrnod ymadael (exit day)mae “diwrnod ymadael” ac ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol ag “exit day” yn adran 20(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16)
Goruchaf Lys (Supreme Court)ystyr “Goruchaf Lys”yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig a sefydlwyd gan adran 23 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p. 4)
graddfa safonol (standard scale)mae i “graddfa safonol”, mewn perthynas â dirwy neu gosb am drosedd ddiannod, yr ystyr a roddir i “standard scale” [F11
(a)

yn achos trosedd y mae’r troseddwr wedi ei euogfarnu ohoni ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020, gan adran 122 o’r Cod Dedfrydu;

(b)

yn achos trosedd yr oedd y troseddwr wedi ei euogfarnu ohoni cyn y dyddiad hwnnw,]

gan adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48)
Gweinidog y Goron (Minister of the Crown)ystyr “Gweinidog y Goron” yw deiliad swydd yn Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys y Trysorlys
Gweinidogion Cymru (the Welsh Ministers)mae “Gweinidogion Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru a benodir o dan adran 48 o’r Ddeddf honno)
gwladwriaeth AEE (EEA state)

ystyr “gwladwriaeth AEE”, mewn perthynas ag unrhyw bryd, yw—

(a)

gwladwriaeth sydd ar y pryd yn Aelod-wladwriaeth, neu

(b)

unrhyw wladwriaeth arall sydd ar y pryd yn barti i gytundeb yr AEE

is-ddeddfwriaeth (subordinate legislation)

ystyr “is-ddeddfwriaeth” yw rheoliadau, gorchmynion, rheolau, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, cynlluniau, gwarantau, isddeddfau ac offerynnau eraill a wneir o dan—

(a)

[F8Deddf gan Senedd Cymru],

(b)

Mesur Cynulliad,

(c)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, neu

(d)

deddfwriaeth uniongyrchol [F6a gymathwyd]

Lloegr (England)mae i “Lloegr” yr ystyr a roddir i “England” gan Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30)
llw (oath), affidafid (affidavit), a tyngu llw (swear)mae “llw” ac “affidafid” yn cynnwys cadarnhad a datganiad; ac mae “tyngu llw” yn cynnwys cadarnhau a datgan
Llys Apêl (Court of Appeal)ystyr “Llys Apêl” yw Llys Apêl Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr
Llys Ewropeaidd (European Court)ystyr “Llys Ewropeaidd” yw Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd
Llys y Goron (Crown Court)ystyr “Llys y Goron” yw Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr a sefydlwyd yn wreiddiol gan adran 4 o Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 23) (a ddiddymwyd gan Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54))
Llys Gwarchod (Court of Protection)ystyr “Llys Gwarchod” yw’r Llys Gwarchod a sefydlwyd gan adran 45 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9)
llys sirol (county court)ystyr “llys sirol” yw’r llys sirol yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran A1 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984 (p. 28)
llys teulu (family court)ystyr “llys teulu” yw’r llys teulu yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran 31A o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42)
llys ynadon (magistrates’ court)ystyr “llys ynadon” yw llys ynadon, o fewn yr ystyr a roddir i “magistrates’ court” gan adran 148 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), yng Nghymru a Lloegr
Llywodraeth Cymru (Welsh Government)mae “Llywodraeth Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

[F12mân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd (assimilated direct minor legislation)

prif ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd (assimilated direct principal legislation)]

[F12mae i “mân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated direct minor legislation” ac mae i “prif ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated direct principal legislation” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) ac adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023)]
Mesur Cynulliad (Assembly Measure)ystyr “Mesur Cynulliad” yw Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a beidiodd â chael effaith yn rhinwedd adran 106 o’r Ddeddf honno, yn ddarostyngedig i’r arbediad a barheir gan baragraff 5 o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4))
mis (month)ystyr “mis” yw mis calendr
offeryn UE (EU instrument)ystyr “offeryn UE” yw unrhyw offeryn a ddyroddir gan sefydliad UE, ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl [F13diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu] nid yw’n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol [F6a gymathwyd]
[F14parth Cymru (Welsh zone) mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” gan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler erthygl 3 o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760), sy'n gwneud darpariaeth ynghylch terfynau'r parth)”.]
person (person)mae “person” yn cynnwys corff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig
Prif Weinidog (First Minister)ystyr “Prif Weinidog” yw Prif Weinidog Cymru a benodir o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 45(2) o’r Ddeddf honno, sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog)
[F3Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Public Accounts Committee) ystyr “Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yw pwyllgor Senedd Cymru a sefydlwyd yn unol ag adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac y cyfeirir ato yn yr adran honno fel y “Pwyllgor Archwilio”)]
rheolau llys (rules of court)ystyr “rheolau llys”, mewn perthynas ag unrhyw lys, yw rheolau a wneir gan yr awdurdod a chanddo’r pŵer i wneud rheolau neu orchmynion sy’n rheoleiddio arferion a threfniadaeth y llys hwnnw
[F15rhwymedigaeth a gymathwyd (assimilated obligation)]

[F15ystyr “rhwymedigaeth a gymathwyd” yw rhwymedigaeth—

(a)

a grëwyd neu a gododd gan neu o dan Gytuniadau UE cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, a

(b)

sy’n ffurfio rhan o’r gyfraith a gymathwyd,

fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd]

sefydliad UE (EU institution)ystyr “sefydliad UE” yw unrhyw un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd
[F1Senedd Cymru (Senedd Cymru) ystyr “Senedd Cymru” yw’r senedd ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru)]
tir (land)mae “tir” yn cynnwys adeiladau a strwythurau eraill, tir a orchuddir â dŵr, ac unrhyw ystad, buddiant, hawddfraint, gwasanaethfraint, hawl mewn tir neu hawl dros dir
tribiwnlys Cymreig (Welsh tribunal)mae i “tribiwnlys Cymreig” yr ystyr a roddir i “Welsh tribunal” gan adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4)
trosedd ddiannod (summary offence)

ystyr “trosedd ddiannod” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, na ellir ei rhoi ar brawf ond yn ddiannod—

(a)

heb gynnwys trosedd a drinnir fel pe bai y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod yn unig yn rhinwedd adran 22 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), a

(b)

gan anwybyddu adran 40 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) (sy’n darparu ar gyfer achosion pryd y caniateir cynnwys cownt sy’n cyhuddo person o drosedd ddiannod mewn ditiad)

trosedd dditiadwy (indictable offence)

ystyr “trosedd dditiadwy” yw—

(a)

trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf ar dditiad yn unig, neu

(b)

trosedd neillffordd

trosedd neillffordd (offence triable either way)

ystyr “trosedd neillffordd” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf naill ai ar dditiad neu’n ddiannod—

(a)

heb gynnwys trosedd y gellir ei rhoi ar brawf ar dditiad yn rhinwedd adran 40 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) yn unig, a

(b)

gan anwybyddu adran 22 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) (sy’n ei gwneud yn ofynnol bod troseddau neillffordd penodol i’w rhoi ar brawf yn ddiannod os yw’r gwerth sydd ynghlwm yn fach)

y Trysorlys (the Treasury)ystyr “y Trysorlys” yw Comisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi
Uchel Lys (High Court)ystyr “Uchel Lys”yw Uchel Lys Barn Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr
yr UE (the EU) neu yr Undeb Ewropeaidd (the European Union)ystyr “yr UE” neu “yr Undeb Ewropeaidd” yw’r Undeb a sefydlwyd gan y Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a lofnodwyd yn Maastricht ar 7 Chwefror 1992, fel y’i diwygiwyd gan unrhyw Gytuniad diweddarach; ac mae’n cynnwys, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn ei chaniatáu neu’n ei gwneud yn ofynnol, Cymuned Ynni Atomig Ewrop
Uwchlysoedd (Senior Courts)ystyr “Uwchlysoedd” yw Uwchlysoedd Cymru a Lloegr (gweler adran 1 o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54))
[F3Ymddiriedolaeth Genedlaethol (National Trust) ystyr “Ymddiriedolaeth Genedlaethol” yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Fannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol a gorfforwyd gan Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907 (p. cxxxvi)]
ysgrifennu (writing)mae “ysgrifennu” yn cynnwys teipio, argraffu, lithograffi, ffotograffiaeth a dulliau eraill o gynrychioli neu atgynhyrchu geiriau ar ffurf weladwy
Ysgrifennydd Gwladol (Secretary of State)ystyr “Ysgrifennydd Gwladol”yw un o Brif Ysgrifenyddion Gwladol Ei Mawrhydi

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn Atod. 1 wedi eu hepgor (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(7)(b)

F14Geiriau yn NhablAtod. 1 wedi eu mewnosod (23.1.2021) gan Fisheries Act 2020 (c. 22), aau. 46(8)(b), 54(2) (ynghyd ag Atod. 4 para. 31)

(A gyflwynir gan adran 41)

ATODLEN 2LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

Deddf Dehongli 1978 (p. 30)LL+C

1Yn lle adran 23B o Ddeddf Dehongli 1978 (cymhwyso’r Ddeddf at Fesurau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Deddfau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru etc.) rhodder—

23BApplication of this Act to Welsh legislation

(1)The provisions of this Act, except sections 1 to 3, apply to the following as they apply to an Act—

(a)a Measure of the National Assembly for Wales, and

(b)an Act of the National Assembly for Wales, other than the Legislation (Wales) Act 2019, which receives Royal Assent before the day on which Part 2 of that Act (interpretation and operation of Welsh legislation) comes fully into force.

(2)The provisions of this Act apply to an instrument—

(a)made under a Measure or Act of the National Assembly for Wales, and

(b)made before the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force,

as they apply to other subordinate legislation.

(3)The provisions of this Act apply to an instrument made under an Act of Parliament or retained direct EU legislation, and made by the Welsh Ministers or any other devolved Welsh authority, only if—

(a)the instrument is made before the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force,

(b)the instrument is made (at any time) with any other person who is not a devolved Welsh authority, or

(c)the instrument contains any provision that applies otherwise than in relation to Wales.

(4)Nothing in subsection (2) or (3) limits the operation of sections 12 to 14A in relation to a power or duty to make an instrument to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies, but section 11 does not apply in relation to such an instrument.

(5)In the application of this Act to a Measure or Act of the National Assembly for Wales, references to the passing of an Act or an enactment are to be read as references to the enactment of the Measure or Act.

(6)In this section, “devolved Welsh authority” and “Wales” have the same meanings as in the Government of Wales Act 2006 (see sections 157A and 158 of that Act).

23CInterpretation of this Act in relation to Welsh legislation

(1)In this Act, references to an enactment include an enactment comprised in—

(a)a Measure of the National Assembly for Wales,

(b)an Act of the National Assembly for Wales (whenever the Act receives Royal Assent),

(c)an instrument made under such an Act or Measure (whenever the instrument is made), or

(d)an instrument made under an Act of Parliament or retained direct EU legislation, and made by the Welsh Ministers or any other devolved Welsh authority (whenever the instrument is made, and whether or not it is made with any other person),

but the reference in section 16(2) to a temporary enactment does not include an enactment comprised in legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies (see section 3(1) of that Act).

(2)In section 17(2)(b), the reference to subordinate legislation includes an instrument to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies.

(3)In section 18, the reference to an act or omission which constitutes an offence under two or more Acts includes an act or omission which constitutes an offence under—

(a)any legislation to which that section applies, and

(b)any legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies,

and the reference to “those Acts” is to be read accordingly.

(4)In section 19(1), references to “another Act” include—

(a)a Measure of the National Assembly for Wales, and

(b)any Act of the National Assembly for Wales (whenever the Act receives Royal Assent),

and the reference in paragraph (c) to “Acts” is to be read accordingly.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

2(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 156 (testunau Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth)—

(a)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Subsection (1) does not apply to any legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies (but section 5 of that Act makes corresponding provision in relation to legislation to which that Part applies).;

(b)hepgorer is-adrannau (2) i (5).

(3)Yn Atodlen 7B, ym mharagraff 7(2)(e), hepgorer is-baragraff (ii).

(4)Yn Atodlen 10, hepgorer paragraff 11.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8)LL+C

3(1)Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 19, hepgorer is-adrannau (3) a (4).

(3)Yn adran 20, hepgorer is-adrannau (4) a (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill