Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2: Gwella gwasanaethau iechyd

Adran 2 – Ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd

4.Mae’r adran hon yn gosod ar Weinidogion Cymru a chyrff y GIG ddyletswyddau newydd sy’n ymwneud â gwella ansawdd gwasanaethau iechyd.

5.Bydd y ddarpariaeth, mewn cysylltiad â chyrff y GIG, yn disodli’r ddarpariaeth yn adran 45(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003. Mae adran 45(1) yn gosod dyletswydd ar gyrff y GIG yng Nghymru (byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig) i sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i fonitro a gwella ansawdd y gofal iechyd a ddarperir gan neu ar gyfer y cyrff hynny. Bydd y ddarpariaeth newydd yn disodli adran 45(1) a bydd, yn ychwanegol, yn gymwys i Weinidogion Cymru.

6.Bydd adran newydd 1A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, fel y’i mewnosodir gan is-adran (1), yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â’r gwasanaeth iechyd gyda golwg ar sicrhau gwelliant yn ansawdd gwasanaethau iechyd. Bydd y ddyletswydd hon yn gymwys pan fydd Gweinidogion Cymru yn arfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd ac nad yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn ymdrin â hwy megis, er enghraifft, swyddogaeth Gweinidogion Cymru o adolygu gofal iechyd ac ymchwilio iddo o dan Bennod 4 o Ran 2 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

7.O dan adran 1A(3) a (5), bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ddyletswydd i sicrhau gwelliant, a gosod yr adroddiad gerbron y Senedd. Rhaid i’r adroddiad gynnwys asesiad o hyd a lled unrhyw welliant yn y canlyniadau a gyflawnir o ganlyniad i’r camau a gymerir i gydymffurfio â’r ddyletswydd. Caiff y mathau o ganlyniadau a asesir yn yr adroddiad gynnwys, er enghraifft, hyd a lled unrhyw welliant ym mhrofiad y claf, neu wrth ganfod a thrin sepsis yn gynnar, neu hyd a lled unrhyw welliant wrth leihau nifer yr heintiau a geir yn yr ysbyty.

8.Bydd adrannau newydd 12A, 20A a 24A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, fel y’u mewnosodir gan is-adrannau dilynol adran 2, yn gosod dyletswydd gyfatebol ar fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig (“cyrff y GIG”). Yn unol ag adran 24A(8) o’r Ddeddf honno (sydd wedi ei mewnosod gan adran 2 o’r Ddeddf hon), nid yw awdurdod iechyd arbennig yn cynnwys awdurdod iechyd arbennig trawsffiniol o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border special health authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Bydd yn ofynnol i gyrff y GIG arfer eu holl swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau gwelliant yn ansawdd gwasanaethau iechyd. Mae’r ddyletswydd, felly, yn wahanol i’r ddyletswydd yn adran 45(1) gan ei bod yn gymwys i arfer pob swyddogaeth. Wrth gyflawni’r ddyletswydd, bydd yn ofynnol i gorff GIG ystyried nid yn unig sut y gallai wella gwasanaeth y mae’n ei ddarparu yn uniongyrchol, ond hefyd sut y gallai weithredu mewn ffordd a fydd yn cyfrannu at wella ansawdd rhan arall o’r gwasanaeth iechyd. Er enghraifft, gallai darparu system electronig ar gyfer rhagnodi meddyginiaethau a rhyddhau wella ansawdd y gwasanaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau yn y gwasanaeth iechyd cyfan.

9.Wrth gyflawni’r ddyletswydd, bydd yn ofynnol i gyrff y GIG ystyried unrhyw safonau a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 47 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003. Y safonau cyfredol yw’r Safonau Iechyd a Gofal (Ebrill 2015). Hefyd, bydd gan Weinidogion Cymru y swyddogaeth o gynnal adolygiadau o’r trefniadau a wneir gan gyrff y GIG at ddiben cyflawni eu dyletswydd o dan adran 12A, 20A neu 24A. Darperir ar gyfer yr elfennau hyn gan ddiwygiadau sydd wedi eu gwneud gan Ran 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

10.Yn ychwanegol, mae pob un o’r adrannau newydd 12A, 20A a 24A yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i’r math perthnasol o gorff GIG mewn cysylltiad â’r ddyletswydd ansawdd. Rhaid i’r canllawiau, yn benodol, gynnwys canllawiau ynghylch (i) y dystiolaeth i’w defnyddio i gefnogi eu hasesiad o welliant yn y canlyniadau a gyflawnwyd o ganlyniad i gamau a gymerwyd i gydymffurfio â’r ddyletswydd ansawdd; a (ii) sut y cynhelir asesiad o’r fath.

Rhan 3: Dyletswydd gonestrwydd

Adran 3 – Pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys

11.Mae’r adran hon yn esbonio pryd y bydd y ddyletswydd gonestrwydd yn Rhan 3 yn gymwys. Pan fydd y ddyletswydd yn gymwys, rhaid i gorff GIG gymryd camau penodol yn unol â gweithdrefn a nodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 4.

12.At ddiben y Rhan hon, mae corff GIG yn fwrdd iechyd lleol, yn ymddiriedolaeth GIG, yn awdurdod iechyd arbennig ac yn ddarparwr gofal sylfaenol. Mae darparwr gofal sylfaenol yn berson sy’n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol (gwasanaethau ymarferydd cyffredinol), gwasanaethau deintyddol cyffredinol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu wasanaethau fferyllol ar ran bwrdd iechyd lleol. Yn unol ag adran 11(7), mae cymhwyso’r ddyletswydd i awdurdodau iechyd arbennig yn estyn i awdurdodau iechyd arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ond nid yw’n cynnwys unrhyw awdurdod iechyd arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border special health authority” yn adran 8A(5) o’r Ddeddf honno) ac eithrio Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau yng Nghymru.

13.Bydd rhaid dilyn gweithdrefn y ddyletswydd gonestrwydd pan fo’r ddau amod yn is-adrannau (2) a (3) wedi eu bodloni.

14.Yr amod cyntaf yw bod y defnyddiwr gwasanaeth y mae’r corff GIG yn darparu neu wedi bod yn darparu gofal iechyd iddo wedi dioddef canlyniad andwyol. Caiff defnyddiwr gwasanaeth ei drin fel pe bai wedi dioddef canlyniad andwyol os yw’r defnyddiwr gwasanaeth yn profi mwy nag ychydig o niwed annisgwyl neu niwed anfwriadol neu os yw’r amgylchiadau yn golygu y gallai brofi niwed o’r fath. Bydd ystyr “mwy nag ychydig o niwed” yn cael ei nodi mewn canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 10 o’r Ddeddf. Bydd y canllawiau yn cael eu datblygu gan roi sylw i ddiffiniadau presennol o niwed, megis y rheini a ddefnyddir yn y System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu, sef y system bresennol ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau andwyol o ran diogelwch cleifion yn y GIG. At ddiben y ddyletswydd gonestrwydd, mae niwed yn cynnwys niwed seicolegol.

15.Mae’r ddyletswydd yn cael ei sbarduno nid yn unig pan wyddys bod niwed wedi digwydd ond mewn achosion pan allai niwed ddigwydd yn y dyfodol; er enghraifft, pan allai gwall wrth roi meddyginiaeth achosi canlyniad andwyol rywbryd yn y dyfodol. Gall cam gweithredu a gymerir gan gorff GIG wrth ddarparu gofal iechyd neu fethu â chymryd camau gweithredu sbarduno’r ddyletswydd. Rhaid bod y niwed yn anfwriadol neu’n annisgwyl sy’n golygu nad yw’r ddyletswydd yn gymwys pan fo canlyniadau annymunol yn digwydd o ganlyniad i gyflwr meddygol.

16.Yr ail amod yw bod darparu’r gofal iechyd yn ffactor, neu y gall fod wedi bod yn ffactor, a achosodd i’r defnyddiwr gwasanaeth ddioddef y canlyniad. Felly, rhaid i’r canlyniad ymwneud â darparu’r gofal gan y corff GIG yn hytrach na chael ei briodoli’n gyfan gwbl i salwch neu gyflwr isorweddol y person. Fodd bynnag, nid oes angen iddi fod yn sicr mai’r gofal iechyd a achosodd y niwed; mae’n ddigon y gall y gofal iechyd fod wedi bod yn ffactor. Nid yw cymhwyso’r ddyletswydd yn dangos bod y corff GIG wedi gweithredu’n esgeulus.

Adran 4 – Gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd

17.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu mewn rheoliadau ar gyfer gweithdrefn sydd i’w dilyn gan gorff GIG pan yw’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys i’r corff. Bydd y weithdrefn yn nodi’r camau gweithredu sydd i’w cymryd gan gyrff y GIG pan yw’r ddyletswydd yn gymwys.

18.Mae is-adrannau (2) a (3) yn rhoi manylion o ran yr hyn y mae rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth yn ei gylch. Rhaid i’r rheoliadau, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i’r Corff GIG hysbysu’r defnyddiwr gwasanaeth neu ei gynrychiolydd bod y ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol, darparu gwybodaeth am unrhyw ymholiadau pellach a gynhelir, a gwneud darpariaeth ynghylch cymorth ac ymddiheuriad.

Adran 5 – Darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiad

19.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gofal sylfaenol lunio adroddiad blynyddol ar ba un a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn perthynas â’r gofal iechyd a ddarperir gan y darparwr. Mae’r adran yn nodi pa wybodaeth y mae rhaid i’r adroddiad ei chynnwys (ond gall gynnwys gwybodaeth arall).

20.Pan fo darparwr gofal sylfaenol wedi darparu gofal iechyd ar ran dau neu ragor o fyrddau iechyd lleol mewn blwyddyn ariannol benodol, bydd yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr lunio adroddiad ar wahân mewn cysylltiad â phob bwrdd iechyd lleol.

Adran 6 – Cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5

21.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gofal sylfaenol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, anfon yr adroddiad blynyddol a lunnir o dan adran 5 i’r bwrdd iechyd lleol y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.

22.Rhaid i fwrdd iechyd lleol lunio crynodeb o’r adroddiadau y mae wedi eu cael gan y darparwyr gofal sylfaenol o dan is-adran (1).

Adran 7 – Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adrodd

23.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig (gan gynnwys Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau yng Nghymru), cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad blynyddol ar y ddyletswydd gonestrwydd. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn y mae rhaid i’r adroddiad hwnnw ei gynnwys (ond gall gynnwys gwybodaeth arall).

Adran 8 – Cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7

24.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 7 gyhoeddi’r adroddiadau a lunnir o dan yr adran honno.

25.Yn achos bwrdd iechyd lleol, rhaid i’r adroddiad gynnwys y crynodeb a lunnir o dan adran 6 o’r adroddiadau a ddarperir i’r bwrdd iechyd lleol gan ddarparwyr gofal sylfaenol sy’n darparu gwasanaethau ar ei ran. Felly, bydd y bwrdd iechyd lleol yn gyfrifol am gyhoeddi gwybodaeth sy’n berthnasol i’r ddyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â’i wasanaethau ei hun a’r gwasanaethau a ddarperir gan wasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer ei ardal. Bydd hyn yn golygu y bydd yr holl wybodaeth am y ddyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad ag ardal bwrdd iechyd lleol yn cael ei chyhoeddi gyda’i gilydd.

Adran 9 – Cyfrinachedd

26.Mae is-adran (1) o’r adran hon yn darparu na chaiff adroddiad a gyhoeddir o dan adran 8 gan gorff GIG enwi unigolion penodol. Yr unigolion yw: unrhyw berson y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu neu wedi ei ddarparu iddo gan neu ar ran y corff; ac unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran person o’r fath. Yn ychwanegol, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff GIG, wrth benderfynu pa wybodaeth i’w chynnwys mewn adroddiad adran 8, roi sylw i’r angen i osgoi cynnwys unrhyw wybodaeth sydd, er nad yw’n rhoi enw unigolyn mewn gwirionedd, yn debygol o olygu, o dan yr amgylchiadau, fod modd gwybod pwy yw’r unigolyn hwnnw. Gallai amgylchiadau o’r fath godi, er enghraifft, pan fo manylion gofal claf penodol wedi cael sylw yn y cyfryngau. Diben y ddarpariaeth hon yw sicrhau cyfrinachedd.

Adran 10 – Canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru

27.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG, wrth arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â’r ddyletswydd gonestrwydd, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 11 – Dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill

28.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli termau a ddefnyddir yn Rhan 3 gan gynnwys ystyr “gofal iechyd”, “salwch” a “corff GIG”.

29.Yn rhinwedd is-adran (5), pan fo gofal iechyd yn cael ei ddarparu fel rhan o gontract, cytundeb neu drefniant rhwng dau gorff GIG, bernir bod y gofal wedi ei ddarparu gan y corff sy’n darparu’r gofal yn hytrach na’r corff a drefnodd i’r gofal gael ei ddarparu ar ei ran. Mae hyn yn golygu y byddai’r ddyletswydd gonestrwydd, mewn perthynas â threfniant o’r fath, os y’i defnyddir, yn gymwys i ddarparwr y gofal yn unig. Mae hyn yn cynnwys gofal iechyd a ddarperir ar ran y corff GIG gan ddarparwr gofal sylfaenol.

30.O dan is-adran (6), pan fo gofal iechyd yn cael ei ddarparu ar ran corff GIG gan gorff nad yw’n gorff GIG, bydd y ddyletswydd gonestrwydd, os y’i defnyddir mewn perthynas â’r gofal iechyd o dan sylw, yn gymwys i’r corff GIG, nid i’r corff a ddarparodd y gofal.

Rhan 4: Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Adran 12 – Sefydlu Corff Llais y Dinesydd

31.Mae’r adran hon yn sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“Corff Llais y Dinesydd”) fel corff corfforedig (endid cyfreithiol yn ei fraint ei hun). Ei amcan cyffredinol fydd cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn darparu gwasanaeth eirioli cwynion mewn cysylltiad ag iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd Corff Llais y Dinesydd yn gorff cenedlaethol a fydd yn disodli’r 7 Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru a’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned sy’n goruchwylio’r Cynghorau lleol.

32.Mae darpariaeth ynghylch aelodaeth, cyfansoddiad a threfniadau gweithredol Corff Llais y Dinesydd wedi ei gwneud yn Atodlen 1.

33.Bydd i’r Corff rhwng 8 a 10 aelod anweithredol, a benodir gan Weinidogion Cymru; gan gynnwys aelod-gadeirydd a dirprwy aelod-gadeirydd.

34.Bydd aelodaeth y Corff hefyd yn cynnwys y person a benodir o dan baragraff 9 o Atodlen 1 yn brif weithredwr iddo.

35.Mae Atodlen 1 hefyd yn gwneud darpariaeth i aelod cyswllt gael ei benodi i’r Corff o dan amgylchiadau pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod ganddo. I fod yn gymwys i’w benodi’n aelod cyswllt, rhaid i unigolyn fod yn aelod o staff y Corff ac yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y Corff. Mae’r weithdrefn ar gyfer penodi aelod cyswllt wedi ei nodi ym mharagraff 6 o’r Atodlen; a byddai penodiad yn cael ei wneud gan yr aelodau anweithredol ar sail enwebiadau a wneir gan undebau llafur a gydnabyddir gan y Corff.

36.Mae’r ymadrodd “cydnabod” mewn perthynas ag undeb llafur yn arwyddocaol at ddibenion rheolau sy’n rheoleiddio cydfargeinio rhwng cyflogwyr ac undebau llafur; y brif ddeddfwriaeth ynghylch hyn yw Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.

37.Ymhlith pethau eraill, bydd gan y Corff y pŵer o dan Atodlen 1 i benodi staff; ac i sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau. Bydd yn ofynnol i’r Corff wneud rheolau sy’n rheoleiddio ei weithdrefn a gweithdrefn unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau.

Adran 13 – Amcan cyffredinol

38.Mae’r adran hon yn darparu mai amcan cyffredinol Corff Llais y Dinesydd, wrth gyflawni ei swyddogaethau, yw cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Ystyr “gwasanaethau iechyd” yw gwasanaethau’r GIG ac ystyr “gwasanaethau cymdeithasol” yw’r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

39.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Gorff Llais y Dinesydd, at ddiben cyflawni ei amcan cyffredinol, geisio barn y cyhoedd. Caiff wneud hynny ym mha ffordd bynnag y mae’n ystyried ei bod yn briodol. Er enghraifft, caiff y Corff gynnal digwyddiadau, trefnu arolygon ar-lein a grwpiau trafod ar-lein, dosbarthu ffurflenni adborth a sicrhau presenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae adran 15 yn ei gwneud yn bosibl i’r Corff gyflwyno sylwadau i Gorff GIG (at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf, ystyr “corff GIG” yw bwrdd iechyd lleol, ymddiriedolaeth GIG ac awdurdod iechyd arbennig) neu awdurdod lleol a fydd yn ei alluogi i gyfleu i’r cyrff hynny y farn y mae wedi ei cheisio oddi wrth y cyhoedd. Yn unol ag adran 22, ystyr awdurdod iechyd arbennig yw awdurdod iechyd arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ond nid yw’n cynnwys awdurdod iechyd arbennig trawsffiniol o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border special health authority” yn adran 8A(5) o’r Ddeddf honno.

40.Mae is-adran (3) yn darparu, wrth wneud trefniadau at ddiben cydymffurfio â’i ddyletswydd o dan is-adran (2) i geisio barn y cyhoedd, fod rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, yn benodol, roi sylw i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran (a allai gynnwys contractwyr neu bersonau sy’n cynnig cynhorthwy fel gwirfoddolwyr), a phersonau y ceisir eu barn.

41.Hefyd, bydd gan Gorff Llais y Dinesydd rôl pan fo byrddau iechyd lleol neu ymddiriedolaethau’r GIG yn cynllunio gwasanaethau neu’n cynnig newidiadau iddynt. O dan adran 183 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac adran 242 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, mae gan fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG ddyletswydd i wneud trefniadau i ymgynghori â’r cyhoedd neu eu cynrychiolwyr wrth gynllunio eu gwasanaethau, datblygu cynigion ar gyfer newid sut y darperir eu gwasanaethau neu wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y ffordd y gweithredir eu gwasanaethau. Wrth arfer ei swyddogaeth o gynrychioli buddiannau’r cyhoedd, caiff Corff Llais y Dinesydd fod yn rhan o’r ymgyngoriadau a gynhelir gan fyrddau iechyd lleol wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn. Caiff byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG ymgynghori â’r Corff yn uniongyrchol ond caiff y Corff hefyd gychwyn ei gyfraniad ei hun at ymgyngoriadau. Rhaid i’r bwrdd iechyd lleol neu’r ymddiriedolaeth ystyried unrhyw sylw a gyflwynir gan y Corff (gweler adran 15). Hefyd, caiff y Corff wneud cyfraniadau at unrhyw ymgynghoriad a gynhelir gan awdurdod lleol ynghylch ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylw a gyflwynir gan y Corff (gweler adran 15).

Adran 14 – Ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisi

42.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Gorff Llais y Dinesydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i amcan cyffredinol a’i swyddogaethau. Hefyd, rhaid iddo lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi sy’n nodi sut y mae’n bwriadu hybu ymwybyddiaeth o’i swyddogaethau a sut y bydd yn ceisio barn y cyhoedd at ddiben ei amcan cyffredinol.

43.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad polisi bennu, yn benodol, sut y mae Corff Llais y Dinesydd yn bwriadu sicrhau ei fod yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru a’i fod yn hygyrch iddynt, a sut y mae aelodau o staff y Corff ac unrhyw un arall sy’n gweithredu ar ran y Corff (megis contractwyr neu bersonau sy’n cynorthwyo’r Corff mewn swydd wirfoddol), yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â phobl ledled Cymru. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Corff gynllunio’n effeithiol er mwyn sicrhau y gall gyflawni’r pethau hyn wrth arfer ei swyddogaethau.

Adran 15 – Sylwadau i gyrff cyhoeddus

44.Mae’r adran hon yn galluogi Corff Llais y Dinesydd i gyflwyno sylwadau i Gorff GIG neu awdurdod lleol ynghylch unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth iechyd neu wasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn ei alluogi i roi gwybod am unrhyw farn y mae wedi ei cheisio oddi wrth y cyhoedd a chyfleu’r farn honno i’r cyrff sy’n gyfrifol am ddarparu a threfnu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, pa un ai mewn ymateb i ymgynghoriad gan un o’r cyrff neu o’i ben a’i bastwn ei hun ar ôl iddo geisio barn y cyhoedd.

45.Rhaid i gorff GIG neu awdurdod lleol roi sylw i’r sylwadau wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae’r sylwadau hynny yn ymwneud â hi.

46.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol mewn perthynas â sylwadau a gyflwynir iddynt gan Gorff Llais y Dinesydd o dan yr adran hon. Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol roi sylw i’r canllawiau hynny. Caiff y canllawiau, er enghraifft, ymdrin â sut y dylai corff GIG neu awdurdod lleol ymateb pan gyflwynir sylwadau iddo.

Adran 16 – Gwasanaethau eirioli etc. mewn cysylltiad â chwynion am wasanaethau

47.Mae’r adran hon yn rhoi swyddogaethau i Gorff Llais y Dinesydd mewn perthynas â chwynion. O dan yr adran hon, caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy i unigolion gyda chwynion sy’n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gan gynnwys gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

48.Gellir rhoi cynhorthwy, er enghraifft, drwy ddarparu gwybodaeth a chymorth i ganiatáu i ddefnyddiwr gwasanaeth wneud cwyn ei hunan neu drwy ddarparu’r cymorth i achwynydd mewn cyfarfodydd lle y trafodir cwyn.

49.Mae is-adran (2) yn nodi’r cwynion sy’n ymwneud â gwasanaethau iechyd y caiff Corff Llais y Dinesydd roi cynhorthwy mewn cysylltiad â hwy. Y cwynion hyn yw’r cwynion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru, yn rhinwedd adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, drefnu i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu darparu mewn cysylltiad â hwy. Mae’r rhain yn cynnwys cwynion am—

a.

arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau corff GIG (bwrdd iechyd lleol, ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod iechyd arbennig),

b.

darparu gofal iechyd gan gorff GIG gan gynnwys gofal a ddarperir ar ei ran gan berson neu gorff arall,

c.

darparu iawn gan neu ar gyfer corff GIG o dan Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008.

50.Mae hefyd yn cynnwys cwynion a wneir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud â gwasanaethau’r GIG.

51.Mae is-adrannau (3) i (6) yn nodi’r cwynion eraill y caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy mewn cysylltiad â hwy. Mae’r rhain yn cynnwys—

a.

cwynion a wneir i awdurdod lleol am arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol,

b.

cwynion a wneir i awdurdod lleol am ddarparu gwasanaethau gan berson neu gorff arall o dan drefniadau â’r awdurdod lleol,

c.

cwynion a wneir i ddarparwr gwasanaeth gofal cymdeithasol rheoleiddiedig (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) megis gwasanaeth cartref gofal neu wasanaeth cymorth cartref.

52.Mae hefyd yn cynnwys cwynion a wneir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol neu am wasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau gofal cartref.

53.Mae is-adran (7) yn eithrio o swyddogaethau’r Corff gynhorthwy gyda chwynion i awdurdod lleol gan blant ac unigolion penodedig eraill pan fo cynhorthwy gyda chwynion eisoes wedi ei drefnu gan awdurdodau lleol yn rhinwedd eu dyletswyddau o dan Ran 10 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

54.Mae is-adran (8) yn ei gwneud yn ofynnol i Gorff Llais y Dinesydd, pan fo’n darparu, neu’n ystyried a ddylai ddarparu, wasanaethau eirioli neu gynhorthwy arall o dan yr adran hon, roi sylw i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran (megis contractwyr) ac unrhyw berson y darperir gwasanaethau eirioli neu fathau eraill o gynhorthwy iddynt neu y gellir eu darparu iddynt.

Adran 17 – Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y Dinesydd

55.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG, awdurdodau iechyd arbennig ac awdurdodau lleol i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y Dinesydd.

Adran 18 – Dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y Dinesydd

56.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG, awdurdodau iechyd arbennig ac awdurdodau lleol i gyflenwi unrhyw wybodaeth i Gorff Llais y Dinesydd y mae’n gofyn yn rhesymol amdani at ddiben ei swyddogaethau. Bydd hyn yn ei alluogi i gael gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir neu a drefnir gan y corff neu ei gynigion ar gyfer datblygiadau, er enghraifft. Mae’r wybodaeth yn eithrio gwybodaeth sydd wedi ei diogelu rhag cael ei datgelu gan ddeddfwriaeth arall neu reol gyfreithiol arall. Ni allai cais am wybodaeth drechu unrhyw beth sy’n gwahardd datgelu mewn deddfwriaeth diogelu data, er enghraifft.

57.Rhaid i awdurdod lleol neu Gorff GIG roi ei resymau i Gorff Llais y Dinesydd yn ysgrifenedig os yw’n gwrthod datgelu gwybodaeth i Gorff Llais y Dinesydd o dan yr adran hon.

Adran 19 – Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd

58.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch–

a.

ceisiadau a wneir gan Gorff Llais y Dinesydd i gael mynediad i fangreoedd y darperir gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol ynddynt at ddiben ceisio barn ar wasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a

b.

pan fo mynediad i’r mangreoedd hynny wedi ei gytuno, ymgysylltu ag unigolion yn y mangreoedd hynny.

59.Bydd y Cod yn gymwys i Gorff Llais y Dinesydd, cyrff y GIG (h.y. Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig) ac awdurdodau lleol a bydd dyletswydd arnynt i gyd i roi sylw iddo.

60.Mae is-adran (5) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â Chorff Llais y Dinesydd, cyrff y GIG, awdurdodau lleol ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol wrth lunio’r cod.

Adran 20 – Cydweithredu rhwng y Corff, awdurdodau lleol a chyrff y GIG

61.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Gorff Llais y Dinesydd, cyrff y GIG ac awdurdodau lleol i wneud trefniadau i gydweithredu gyda golwg ar gefnogi ei gilydd i arfer eu swyddogaethau perthnasol o dan adrannau 13(2), 14(1) a 17(1).

62.Adran 13(2) yw swyddogaeth Corff Llais y Dinesydd o geisio barn y cyhoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Adran 14(1) yw dyletswydd Corff Llais y Dinesydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i amcan cyffredinol ac o’i swyddogaethau. Mae adran 17(1) yn gosod dyletswydd ar gyrff y GIG ac awdurdodau lleol i ddwyn gweithgareddau Corff Llais y Dinesydd i sylw pobl sy’n cael neu a all gael gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir ganddynt neu ar eu rhan.

Adrannau 21 a 22 – Ystyr “gwasanaethau iechyd”, “gwasanaethau cymdeithasol” a thermau eraill

63.Mae’r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r termau a ddefnyddir yn Rhan 4 gan gynnwys ystyr “gwasanaethau iechyd” a “gwasanaethau cymdeithasol”.

Adran 23 – Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedig

64.Mae’r adran hon yn dileu Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru drwy ddiddymu adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 10 iddi. Sefydlwyd Cynghorau Iechyd Cymuned o dan adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i gynrychioli buddiannau’r cyhoedd yn y gwasanaeth iechyd. Maent hefyd yn darparu gwasanaethau eirioli annibynnol yn rhinwedd trefniadau a wneir â Gweinidogion Cymru o dan adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Caiff y swyddogaethau hyn eu harfer gan Gorff Llais y Dinesydd yn ogystal â swyddogaethau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol.

65.Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â dileu’r Cynghorau Iechyd Cymuned a’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned a chreu Corff Llais y Dinesydd. Sefydlwyd y Cynghorau Iechyd Cymuned yn y lle cyntaf yn 1974 yng Nghymru a Lloegr gan barhau mewn bodolaeth yng Nghymru yn rhinwedd adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae nifer o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig megis Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at Gynghorau Iechyd Cymuned, ac mae nifer o Ddeddfau Cymru yn gwneud hynny hefyd, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae’r Rhan hon o’r Atodlen yn dileu’r cyfeiriadau at y Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a, lle y bo’n briodol, mae’n ychwanegu cyfeiriad at Gorff Llais y Dinesydd.

66.Mae’r adran hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 2 i’r Ddeddf sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau sy’n bodoli ar hyn o bryd mewn perthynas â Chynghorau Iechyd Cymuned i Gorff Llais y Dinesydd. Rhaid i Weinidogion Cymru osod unrhyw gynllun gerbron y Senedd, fel y’i darperir ym mharagraff 1(6).

Rhan 5: Amrywiol a chyffredinol

Adran 24 – Is-gadeiryddion byrddau cyfarwyddwyr ymddiriedolaethau’r GIG

67.Mae’r adran hon yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i alluogi Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol, i benodi is-gadeirydd i fwrdd Ymddiriedolaeth GIG.

68.Mae is-adrannau (3) a (4) yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â’r prif gynigiad yn is-adran (2). Yn achos is-adran (3), mae’r diwygiadau hyn yn angenrheidiol i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cymwysterau a deiliadaeth swydd is-gadeirydd (gan gynnwys yr amgylchiadau y mae’n peidio â dal swydd neu y caniateir iddo gael ei ddiswyddo neu ei atal dros dro odanynt). Mae’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan is-adran (4) yn angenrheidiol i’w gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolaeth GIG dalu tâl a lwfansau eraill i is-gadeirydd.

Adran 25 Rheoliadau

69.Mae’r adran hon yn esbonio bod pwerau i wneud rheoliadau i’w harfer drwy offeryn statudol (sy’n golygu bod gofynion gweithdrefnol penodol a gofynion eraill a gynhwysir yn Neddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau).

70.Mae is-adran (3) yn darparu y bydd y weithdrefn gadarnhaol yn gymwys i reoliadau a wneir o dan adran 26 os yw’r rheoliadau yn diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad a gynhwysir mewn deddfwriaeth sylfaenol (mae adran 26 yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc. sy’n angenrheidiol at ddibenion y Ddeddf). Mae hyn yn golygu bod unrhyw reoliadau o’r fath yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ddatganedig y Senedd.

71.Mae is-adran (4) yn darparu bod yr holl reoliadau eraill yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd, gan gynnwys rheoliadau a wneir o dan adran 26 nad ydynt yn diwygio nac yn diddymu deddfwriaeth sylfaenol.

Adran 26 – Dehongli

72.Mae’r adran hon yn diffinio termau allweddol a ddefnyddir yn y Ddeddf, gan gynnwys “Bwrdd Iechyd Lleol”, “rheoliadau” ac “Ymddiriedolaeth GIG”.

Adran 27 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

73.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 3 sy’n nodi mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r ddyletswydd ansawdd a Chorff Llais y Dinesydd.

74.Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn nodi diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â dileu’r Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a chreu Corff Llais y Dinesydd.

Adran 28 – Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.

75.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer unrhyw ddarpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol neu ddarpariaeth gysylltiedig, neu unrhyw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (1).

Adran 29 – Dod i rym

76.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y daw’r Ddeddf i rym.

77.Mae is-adran (1) yn darparu y daw’r adran hon ac adran 30 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

78.Bydd darpariaethau eraill y Ddeddf yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir mewn gorchymyn (neu orchmynion) cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2). Yn rhinwedd is-adran (3), bydd gan Weinidogion Cymru y pŵer i bennu dyddiadau gwahanol at ddibenion gwahanol ac i gynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol a darpariaeth arbed mewn unrhyw orchymyn cychwyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill