Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 17/11/2021
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/11/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn.
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 27 Rhagfyr 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Mae’r Rhan hon—
(a)yn darparu ar gyfer estyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol i gategorïau newydd o bersonau (adrannau 2 i 4);
(b)yn darparu ar gyfer dwy system ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gynghorau (y system mwyafrif syml a’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy) ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â pha system sy’n gymwys i unrhyw gyngor penodol (gan gynnwys pŵer i unrhyw gynghorau benderfynu pa un sy’n gymwys) a’r pwerau i wneud rheolau ar gyfer yr etholiadau hynny (adrannau 5 i 13);
(c)yn darparu ar gyfer newid y cylch etholiadol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol o bedair blynedd i bum mlynedd (adrannau 14 i 16) ac estyn y pŵer i newid diwrnod arferol etholiadau lleol yng Nghymru (adran 17);
(d)yn darparu ar gyfer cofrestru etholwyr llywodraeth leol heb gais (adran 18);
(e)yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymhwysiad person i gael ei ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol (adran 19);
(f)yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag anghymhwysiad person rhag cael ei ethol neu ddal swydd fel aelod o awdurdod lleol (adrannau 20 a 21);
(g)yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag arddangos dogfennau mewn etholiadau lleol (adran 22);
(h)yn gwneud darpariaeth ynglŷn â thalu am wariant swyddogion canlyniadau (paragraff 2(5) o Atodlen 2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(a)
(1)Yn adran 2 o Ddeddf 1983 (etholwyr llywodraeth leol)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)ym mharagraff (c), yn lle “or a relevant citizen of the Union” rhodder “, a relevant citizen of the Union or (in Wales) a qualifying foreign citizen”;
(ii)ym mharagraff (d), ar ôl “over” mewnosoder “except in Wales (see subsection (1A))”;
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)In Wales, voting age is 16 years or over.”
(2)Yn adran 12 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (hawlogaeth i bleidleisio)—
(a)yn is-adran (1)(a), hepgorer “or fall within the extended franchise for Senedd elections as described in this section”;
(b)hepgorer is-adran (1A);
(c)hepgorer is-adran (1B).
(3)Yn adran 4 o Ddeddf 1983 (hawlogaeth i fod yn gofrestredig fel etholwr llywodraeth leol)—
(a)yn is-adran (3)—
(i)ym mharagraff (c), yn lle “or a relevant citizen of the Union” rhodder “, a relevant citizen of the Union or (in relation to a local government election in Wales) a qualifying foreign citizen”;
(ii)ym mharagraff (d), hepgorer “ or, if resident in an area in Wales, is 16 years of age or over”;
(b)hepgorer is-adran (3A);
(c)hepgorer is-adran (5B).
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2(1)(3) mewn grym ar 20.3.2021 at ddibenion penodedig (yn ddarostyngedig i a. 3), gweler a. 175(3)(b)
I3A. 2(2) mewn grym, gweler a. 175(5)
(1)Er gwaethaf y ffaith bod y diwygiadau a wneir gan y darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (2) yn dod i rym yn rhinwedd adran 175(3), nid ydynt ond yn cael effaith mewn perthynas ag etholiad llywodraeth leol neu refferendwm lleol at ddibenion—
(a)etholiad llywodraeth leol pan gynhelir y bleidlais ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny;
(b)refferendwm lleol a gynhelir ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny.
(2)Y darpariaethau yw—
(a)adran 2(1) a (3);
(b)adran 22;
(c)paragraffau 2(12), 8(3)(b), 15 ac 19 o Atodlen 2.
(3)Yn is-adran (1), ystyr “refferendwm lleol” yw refferendwm a gynhelir o dan—
(a)adran 27 o Ddeddf 2000 neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wneir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno;
(b)adran 40 o Fesur 2011.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 3 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(c)
(1)Rhaid i brif gyngor—
(a)hybu ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc berthnasol o’r trefniadau ar gyfer cofrestru fel etholwyr llywodraeth leol sy’n gymwys iddynt;
(b)cymryd y camau y mae’r cyngor yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn helpu pobl ifanc berthnasol i gofrestru fel etholwyr llywodraeth leol.
(2)Yn yr adran hon ystyr “pobl ifanc berthnasol” yw—
(a)personau sy’n preswylio yn ardal y prif gyngor sydd wedi cyrraedd 14 oed, ond sydd o dan 18 oed;
(b)personau o’r un oed—
(i)nad ydynt yn preswylio yn ardal y prif gyngor, a
(ii)sy’n derbyn gofal gan y cyngor;
(c)personau o’r un oed—
(i)nad ydynt yn preswylio yn ardal y prif gyngor, a
(ii)sy’n bersonau y mae gan y cyngor ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo eu llesiant o dan adran 109 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).
(3)Yn yr adran hon, mae person yn derbyn gofal os yw’r person yn blentyn sy’n derbyn gofal at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 4 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(c)
Yn ddilys o 06/05/2022
(1)Mae dwy system ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor pan gynhelir pleidleisiau mewn etholiadau a ymleddir—
(a)system mwyafrif syml, a
(b)system pleidlais sengl drosglwyddadwy.
(2)Gweler y rheolau etholiadau lleol am ddarpariaeth ynglŷn â sut y mae’r naill system a’r llall yn gweithio.
(3)Gweler adrannau 7 i 9 am ddarpariaeth ynglŷn â pha system sy’n gymwys i gyngor a sut y caiff y system sy’n gymwys i gyngor ei newid.
(4)Yn y Rhan hon, ystyr “rheolau etholiadau lleol” yw—
(a)rheolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983 (a fewnosodir gan adran 13(3));
(b)rheolau a wneir o dan adran 36 o Ddeddf 1983 sy’n cael effaith yn rhinwedd adran 13(4).
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 5 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)
Yn ddilys o 06/05/2022
(1)Ystyr “system mwyafrif syml” yw system etholiadol pan fo—
(a)pob pleidleisiwr yn cael bwrw pa faint bynnag o bleidleisiau ag sydd o swyddi i’w llenwi;
(b)yn achos etholiad ar gyfer un swydd, yr ymgeisydd sy’n cael y nifer uchaf o bleidleisiau yn cael ei ethol;
(c)yn achos etholiad i lenwi mwy nag un swydd, yr ymgeiswyr sy’n gyfartal â nifer y swyddi sydd i’w llenwi sy’n cael y nifer uchaf o bleidleisiau yn cael eu hethol.
(2)Ystyr “system pleidlais sengl drosglwyddadwy” yw system etholiadol pan fo—
(a)yn achos etholiad i lenwi mwy nag un swydd—
(i)pleidleiswyr yn mynegi dewis cyntaf o ran un ymgeisydd a chaniateir iddynt fynegi ail ddewis a dewisiadau pellach o ran ymgeiswyr eraill;
(ii)cwota ar gyfer ethol yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y pleidleisiau a’r swyddi sydd i’w llenwi;
(iii)y dewisiadau cyntaf yn cael eu cyfrif ac unrhyw ymgeisydd y mae’r pleidleisiau dewisiadau cyntaf ar ei gyfer yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota yn cael ei ethol;
(iv)os yw nifer yr ymgeiswyr a etholir o dan is-baragraff (iii) yn annigonol, y gyfran o bleidleisiau ymgeisydd a etholwyd sydd uwchlaw’r cwota yn cael ei hailddosbarthu yn ôl dewisiadau pellach y pleidleiswyr;
(v)yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y cwota bryd hynny yn cael eu hethol a’r ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei eithrio;
(vi)pleidleisiau’r ymgeisydd a gafodd ei eithrio yn cael eu hailddosbarthu yn ôl dewisiadau pellach y pleidleiswyr;
(vii)os yw nifer yr ymgeiswyr a etholir o dan is-baragraffau (iv) i (vi) yn annigonol, y camau a ddisgrifir yn yr is-baragraffau hynny yn cael eu hailadrodd hyd nes y bo’r holl swyddi wedi eu llenwi;
(b)yn achos etholiad i un swydd—
(i)pleidleiswyr yn mynegi dewis cyntaf o ran un ymgeisydd a chaniateir iddynt fynegi ail ddewis a dewisiadau pellach o ran ymgeiswyr eraill;
(ii)mwyafrif absoliwt o bleidleisiau er mwyn ethol ymgeisydd yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y pleidleisiau;
(iii)y dewisiadau cyntaf yn cael eu cyfrif ac, os yw’r pleidleisiau dewisiadau cyntaf ar gyfer ymgeisydd yn cyfateb i’r mwyafrif absoliwt o’r pleidleisiau neu uwchlaw’r mwyafrif absoliwt hwnnw, yr ymgeisydd hwnnw yn cael ei ethol;
(iv)os na chaiff unrhyw ymgeisydd ei ethol o dan is-baragraff (iii), yr ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei eithrio, pleidleisiau’r ymgeisydd a gafodd ei eithrio yn cael eu hailddosbarthu yn ôl dewisiadau pellach y pleidleiswyr ac ymgeisydd sy’n cyrraedd y mwyafrif absoliwt bryd hynny yn cael ei ethol;
(v)os na chaiff unrhyw ymgeisydd ei ethol o dan is-baragraff (iv), y camau a ddisgrifir yn is-baragraff (iv) yn cael eu hailadrodd hyd nes y bo ymgeisydd yn cael ei ethol.
(3)Caiff y systemau a ddisgrifir yn is-adrannau (1) a (2) gynnwys darpariaeth arall ar gyfer sefyllfaoedd—
(a)pan na fo dilyn y camau a ddisgrifir yn arwain at ethol ymgeisydd, neu
(b)pan na fyddai’n briodol dilyn y camau a ddisgrifir.
(4)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 6 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)
Yn ddilys o 06/05/2022
(1)Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer y system bleidleisio sy’n gymwys wrth ethol cynghorwyr i brif gyngor pan gynhelir pleidlais mewn etholiad a ymleddir.
(2)Mae’r system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau etholiadau lleol yn gymwys, oni bai a hyd nes y bo’r cyngor yn newid y system bleidleisio am y tro cyntaf.
(3)Ond yn achos prif gyngor a gyfansoddir gan reoliadau o dan Ran 7 (uno ac ailstrwythuro), mae’r system bleidleisio y darperir ar ei chyfer yn y rheoliadau yn gymwys, oni bai a hyd nes y bo’r cyngor yn newid y system bleidleisio am y tro cyntaf ar ôl yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor.
(4)Ar ôl i brif gyngor newid y system bleidleisio am y tro cyntaf (gan gynnwys y tro cyntaf ar ôl i brif gyngor gael ei sefydlu), mae’r system y mae’r cyngor wedi penderfynu newid iddi yn fwyaf diweddar yn gymwys (yn ddarostyngedig i is-adran (6)).
(5)Os yw prif gyngor yn newid ei system bleidleisio, mae’r newid yn cael effaith yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr sy’n digwydd ar ôl i’r cyngor basio’r penderfyniad sy’n ofynnol gan adran 9 ac yn parhau i gael effaith oni bai a hyd nes y bo’r system yn cael ei newid eto.
(6)Ond mewn pleidlais mewn etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag a gynhelir cyn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ar ôl i’r prif gyngor basio’r penderfyniad sy’n ofynnol gan adran 9, mae’r system bleidleisio a oedd yn gymwys yn yr etholiad cyffredin diwethaf yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 7 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)
Yn ddilys o 06/05/2022
(1)Caiff prif gyngor newid y system bleidleisio sy’n gymwys i ethol cynghorwyr i’r cyngor, yn ddarostyngedig i ofynion yr adran hon ac adran 9.
(2)Os y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau etholiadau lleol yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i gyngor am y tro, caiff y cyngor ei newid i’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan y rheolau hynny.
(3)Os y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau etholiadau lleol yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i gyngor am y tro, caiff y cyngor ei newid i’r system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan y rheolau hynny.
(4)Nid yw’r pŵer i newid y system bleidleisio o dan yr adran hon—
(a)i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y cyngor o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf 2000);
(b)yn swyddogaeth y mae adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys iddi.
(5)Cyn i brif gyngor arfer ei bŵer i newid ei system bleidleisio rhaid iddo ymgynghori ag—
(a)y personau sydd â hawl i bleidleisio fel etholwyr mewn etholiad llywodraeth leol yn ei ardal;
(b)pob cyngor cymuned yn ei ardal;
(c)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 8 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)
Yn ddilys o 06/05/2022
(1)Rhaid i bŵer prif gyngor o dan adran 8(1) gael ei arfer drwy benderfyniad y cyngor yn unol â’r adran hon.
(2)Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer wedi ei basio oni fo nifer y cynghorwyr sy’n pleidleisio o’i blaid mewn cyfarfod o’r cyngor yn ddau draean o leiaf o gyfanswm y seddau cynghorwyr ar y cyngor.
(3)Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer yn cael unrhyw effaith oni fo—
(a)y penderfyniad yn cael ei ystyried mewn cyfarfod a gynullwyd yn arbennig at y diben hwnnw,
(b)hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod yn cael ei roi i’r holl gynghorwyr, ac
(c)y cyfarfod yn digwydd ar ôl diwedd cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad.
(4)Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer yn cael unrhyw effaith oni fo’n cael ei basio cyn 15 Tachwedd yn y flwyddyn sydd dair blynedd cyn y flwyddyn y bwriedir i’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer y cyngor gael ei gynnal.
(5)Ar ôl i brif gyngor arfer y pŵer, nid yw penderfyniad pellach i arfer y pŵer yn cael unrhyw effaith oni fo dau etholiad cyffredin ar gyfer y cyngor wedi eu cynnal o dan y system bleidleisio y’i newidiwyd iddi.
(6)Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer sy’n cael ei basio yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin olynol i’r cyngor yn cael unrhyw effaith os yw’r cyngor wedi pleidleisio yn flaenorol ar benderfyniad i arfer y pŵer yn ystod y cyfnod hwnnw mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn unol ag is-adran (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 9 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)
Yn ddilys o 06/05/2022
(1)Os yw prif gyngor yn arfer ei bŵer i newid y system bleidleisio o dan adran 8, rhaid i’r cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru a’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol am y newid.
(2)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)cael ei wneud o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y penderfyniad o dan adran 9 ei basio,
(b)cadarnhau bod y cyngor wedi pasio penderfyniad yn unol ag adran 9,
(c)pennu’r system bleidleisio sydd i fod yn gymwys, a
(d)pennu ar ba ddyddiad y cafodd y penderfyniad ei basio.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 10 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)
Yn ddilys o 06/05/2022
(1)Ar ôl cael hysbysiad gan brif gyngor o dan adran 10, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) i gynnal adolygiad cychwynnol o ardal y cyngor.
(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)y Comisiwn, a
(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—
(a)y materion a nodir ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1 (trefniadau etholiadol cynghorau cymuned);
(b)y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1.
(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.
(5)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 11 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)
Yn ddilys o 06/05/2022
Pan fo’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gymwys i etholiad ar gyfer cynghorwyr i brif gyngor, ni chaiff nifer y cynghorwyr ar gyfer pob ward etholiadol fod yn llai na thri, nac yn fwy na chwech.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 12 mewn grym ar 6.5.2022, gweler a. 175(6)(a)
(1)Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 36(1) (etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) hepgorer “and Wales”.
(3)Ar ôl adran 36 mewnosoder—
(1)Elections of councillors for local government areas in Wales must be conducted in accordance with rules made by the Welsh Ministers.
(2)In relation to the election of councillors to a county council or a county borough council, rules under subsection (1) must—
(a)require polls to be conducted if elections are contested,
(b)establish the requirements for becoming a candidate for election,
(c)require votes at polls to be given by ballot, and
(d)provide for polls to be conducted under the voting systems authorised by sections 5 to 9 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021, which are a simple majority system and a single transferable vote system.
(3)In relation to the election of community councillors for a community council, rules under subsection (1) must—
(a)require polls to be conducted if elections are contested,
(b)establish the requirements for becoming a candidate for election,
(c)require votes at polls to be given by ballot, and
(d)provide for polls to be conducted under a simple majority system.
(4)Rules under subsection (1) may make any other provision for the conduct of elections of councillors for local government areas in Wales.
(5)Rules made by the Welsh Ministers may, for the purposes of, in consequence of, or for giving full effect to rules made under subsection (1), make supplementary, incidental, consequential, transitional, transitory or saving provision.
(6)Rules under subsection (5) may amend, modify, repeal or revoke any enactment (including an enactment contained in this Act).
(7)Before making rules under this section, the Welsh Ministers must consult such persons as they consider appropriate.
(8)The requirement to consult imposed by subsection (7) may be satisfied by consultation undertaken before the coming into force of this section.
(9)The power to make rules under this section—
(a)is exercisable by statutory instrument;
(b)includes power to make different provision for different purposes.
(10)A statutory instrument containing rules under this section must not be made unless a draft of the instrument has been laid before and approved by resolution of Senedd Cymru.”
(4)Mae rheolau a wneir o dan adran 36 o Ddeddf 1983 sydd mewn grym yn union cyn i is-adran (3) o’r adran hon ddod i rym yn parhau i gael effaith, i’r graddau y maent yn gymwys i ethol cynghorwyr ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, fel pe bai’r rheolau wedi eu gwneud o dan adran 36A(1) o’r Ddeddf honno (a fewnosodir gan is-adran (3)); ac mae cyfeiriadau mewn unrhyw ddeddfiad at reolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983 i’w darllen yn unol â hynny.
(5)Hyd nes y bydd adrannau 5 i 9 o’r Ddeddf hon yn dod i rym, mae adran 36A(2)(d) o Ddeddf 1983 yn cael effaith fel pe bai’n gwneud y ddarpariaeth a ganlyn—
“(d)provide for polls to be conducted under a simple majority system.”
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 13 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(d)
(1)Mae adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1), yn lle “fourth” rhodder “fifth”.
(3)Yn is-adran (2), yn lle “four” rhodder “five”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 14 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(d)
(1)Mae adran 35 o Ddeddf 1972 (blynyddoedd etholiadau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (2), yn lle “fourth” rhodder “fifth”.
(3)Yn is-adran (2A), yn lle “four” rhodder “five”.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 15 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(d)
Yn adran 39 o Ddeddf 2000 (meiri etholedig etc.), yn is-adran (7), yn lle “four” rhodder “five”.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 16 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(d)
(1)Mae adran 37ZA o Ddeddf 1983 (diwrnod arferol etholiadau lleol yng Nghymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1)—
(a)ar ôl “applies” mewnosoder “or an order under subsection (1A) provides otherwise”;
(b)ym mharagraff (b), hepgorer y geiriau o “made not later” hyd at y diwedd.
(3)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)The Welsh Ministers may by order fix a different day to the one specified in or fixed under subsection (1) as the ordinary day of election of—
(a)councillors for one or more counties or county boroughs in Wales, or
(b)community councillors for one or more communities in Wales.
(1B)An order under subsection (1) or (1A) may fix a day for one or more years.”
(4)Yn is-adran (2), ar ôl “subsection (1)” mewnosoder “or fixed under subsection (1A)”.
(5)Yn is-adran (3), ar ôl “subsection (1)” mewnosoder “or fixed under subsection (1A)”.
(6)Yn is-adran (5), yn lle “subsection (3)” rhodder “this section”.
(7)Ar ôl is-adran (5), mewnosoder—
“(6)Before making an order under this section, the Welsh Ministers must consult—
(a)each council affected by the order,
(b)any bodies appearing to the Welsh Ministers to represent the interests of the councils affected by the order, and
(c)such other persons as the Welsh Ministers consider appropriate.”
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 17 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(d)
Rhagolygol
(1)Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 9 (cofrestrau etholwyr), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)In relation to each register of local government electors for an area in Wales, the names of persons the registration officer has decided to register in accordance with section 9ZA must also be contained in the register, along with the information mentioned in paragraphs (b) and (c) of subsection (2) relating to those persons.”
(3)Ar ôl adran 9, mewnosoder—
(1)This section applies to the registration of local government electors in Wales.
(2)If the registration officer is satisfied that a person not in the register of local government electors is entitled to be registered, the officer may decide to register the person without an application, subject to the provisions of this section.
(3)Before deciding to register a person, the registration officer must notify the person in writing of—
(a)the officer’s intention to register the person without an application after the end of the notice period required by subsection (5),
(b)the person’s right to request exclusion from the edited register,
(c)the person’s right to apply for anonymous registration,
(d)the type of elections in which the person will be entitled to vote following registration under this section, and
(e)the type of elections in which the person will not be entitled to vote following registration under this section, unless an application for registration is made.
(4)The notice under subsection (3) must be in a form specified in regulations made by the Welsh Ministers; and the regulations may make further provision about giving notice for the purposes of this section.
(5)The registration officer must not register the person under this section—
(a)before the end of a period of 28 days beginning with the day on which the notice is issued;
(b)at any time when there is an undetermined application by the person for an anonymous entry in the local government register under section 9B.
(6)The registration officer must keep a separate list of the persons registered under this section.
(7)The power to make regulations under this section is exercisable by statutory instrument.
(8)A statutory instrument containing regulations under this section is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru, unless it also contains provisions subject to an affirmative procedure in Senedd Cymru.”
(4)Yn adran 9E (cadw cofrestrau: gwahoddiadau i gofrestru ym Mhrydain Fawr), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)The duty in subsection (1) does not apply if the registration officer intends to register the person without an application under section 9ZA and gives notice to the person in accordance with that section.”
(5)Yn adran 10ZE (tynnu etholwyr ym Mhrydain Fawr o gofrestr)—
(a)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Where a person is entered in a register of local government electors in Wales by virtue of section 9ZA, the registration officer must also remove the person’s entry from the register if the officer determines that the person is not entitled to be registered in the register of local government electors for reasons other than those mentioned in subsection (1).”;
(b)yn is-adran (3), ar ôl “(1)” , mewnosoder “or (2A)”;
(c)ar ôl is-adran (4), mewnosoder—
“(4A)The Welsh Ministers may by regulations make provision about the procedure for making determinations under subsection (2A), which may include provision requiring an officer to take prescribed steps before making a determination.”;
(d)ar ôl is-adran (5), mewnosoder—
“(5A)In relation to a person registered under section 9ZA, a registration officer for a local government area in Wales must consider whether to make a determination under subsection (2A) if the officer—
(a)receives an objection to the person’s registration in the register, or
(b)otherwise becomes aware of information that causes the officer to suspect that the person is not entitled to be registered in the register of local government electors.
(5B)The Welsh Ministers’ power to make regulations under subsection (4A) is exercisable by statutory instrument.
(5C)A statutory instrument containing regulations under subsection (4A) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru, unless it also contains provisions subject to an affirmative procedure in Senedd Cymru.”
(6)Yn adran 13A(1) (gwneud newidiadau i gofrestrau), ar ôl paragraff (zb) mewnosoder—
“(zc)in the case of a registration officer for a local government area in Wales, decides to register a person under section 9ZA;”
(7)Yn adran 13AB(1) (gwneud newidiadau i gofrestrau: dyddiadau cyhoeddi interim), ym mharagraff (a), ar ôl “(zb),” mewnosoder “(zc),”.
(8)Yn adran 13B(2) (gwneud newidiadau i gofrestrau: etholiadau sydd yn yr arfaeth), ym mharagraff (a), ar ôl “(zb),” mewnosoder “(zc),”.
(9)Yn adran 56(1) (apelau cofrestru: Cymru a Lloegr), ar ôl paragraff (aa) mewnosoder—
“(azaa)from any decision of a registration officer for a local government area in Wales to register a person under section 9ZA;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 17/11/2021
(1)Mae adran 79 o Ddeddf 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1), ar ôl “Union” mewnosoder “or, in the case of a local authority in Wales, a qualifying foreign citizen”.
(3)Ar ôl is-adran (2C) mewnosoder—
“(2D)For the purposes of this section, a person is a qualifying foreign citizen if the person—
(a)is not a Commonwealth citizen, a citizen of the Republic of Ireland or a relevant citizen of the Union, and
(b)either—
(i)is not a person whorequires leave under the Immigration Act 1971 to enter or remain in the United Kingdom, or
(ii)is such a person but for the time being has (or is, by virtue of any enactment, to be treated as having) indefinite leave to remain within the meaning of that Act.
(2E)But a person is not a qualifying foreign citizen by virtue of subsection (2D)(b)(i) if the person does not require leave to enter or remain in the United Kingdom by virtue only of section 8 of the Immigration Act 1971 (exceptions to requirement for leave in special cases).”
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 17/11/2021
Ar ôl adran 80 o Ddeddf 1972 mewnosoder—
(1)A person is disqualified for being elected or being a member of a local authority in Wales if—
(a)the person is the subject of—
(i)a bankruptcy restrictions order or an interim bankruptcy restrictions order under Schedule 4A to the Insolvency Act 1986, Schedule 2A to the Insolvency (Northern Ireland) Order 1989, or Part 13 of the Bankruptcy (Scotland) Act 2016;
(ii)a debt relief restrictions order or interim debt relief restrictions order under Schedule 4ZB to the Insolvency Act 1986 or Schedule 2ZB to the Insolvency (Northern Ireland) Order 1989;
(b)the person is disqualified for being elected or for being a member of the authority under Part 3 of the Representation of the People Act 1983 (corrupt or illegal practices);
(c)the person is subject to the notification requirements of, or an order under, Part 2 of the Sexual Offences Act 2003;
(d)the person has a relevant criminal conviction.
(2)A person has a relevant criminal conviction if, during the period of five years ending with the day of the local authority election, or since the person’s election, the person has been convicted in the United Kingdom, the Channel Islands or the Isle of Man of an offence for which the person has been sentenced to a term of imprisonment (whether suspended or not) of 3 months or more without the option of a fine.
(3)A person is not disqualified under subsection (1)(c) at any time before the end of the ordinary period allowed for making—
(a)an appeal or application in respect of the conviction or finding to which the notification requirements relate;
(b)an appeal in respect of the order.
(4)A person is not disqualified under subsection (1)(d) at any time before the end of the ordinary period allowed for making an appeal or application in respect of the conviction.
(5)A person who makes an appeal or application of the kind mentioned in subsection (3) or (4) is not disqualified under subsection (1)(c) or (d) at any time before the end of the day on which the appeal or application is finally disposed of, or is abandoned, or fails by reason of non-prosecution.
(6)A person who would be disqualified but for subsection (3), (4) or (5) must not act in the office of member of a local authority in Wales.
(1)A person who holds a relevant paid office or employment (see section 80C) is disqualified for being a member of a local authority in Wales, (but not for being elected as such a member).
(2)A person is not disqualified under subsection (1) at any time before the person makes a declaration of acceptance of office in accordance with section 83.
(3)Subsections (4), (5) and (6) apply where a person is elected as a member of a local authority in Wales and resigns from the relevant paid office or employment for the purpose of taking office as a member.
(4)The resignation terminates the holding of the paid office or employment with immediate effect.
(5)Any notice requirement in the terms and conditions under which the paid office or employment is held has no effect.
(6)Section 86(2) of the Employment Rights Act 1996 (requirement on employee to give minimum of one week’s notice) does not apply.
(7)This section does not apply to a person who is disqualified for being elected or being a member of a local authority under section 1 of the Local Government and Housing Act 1989 (disqualification by virtue of holding politically restricted post).
(1)For the purposes of section 80B “a relevant paid office or employment” is a paid office or employment appointment or election to which is or may be made or confirmed by—
(a)the local authority to which the person was elected a member;
(b)a committee or sub-committee of the local authority;
(c)a joint committee or National Park authority on which the local authority is represented; or
(d)a holder of a paid office or employment of the kind described in paragraphs (a), (b) or (c).
(2)But a relevant paid office or employment in subsection (1) does not include the office of—
(a)chairman, vice-chairman, presiding member or deputy presiding member, or
(b)in the case of a local authority operating executive arrangements which involve a leader and cabinet executive, the office of executive leader, member of the executive or assistant to the executive.
(3)Subsection (1) has effect in relation to a teacher in a school maintained by a local authority whether or not the appointment to the post was made in accordance with that subsection.
(4)Where the holder of a relevant paid office in a local authority in Wales (“local authority A”) is employed under the direction of—
(a)a committee or sub-committee of local authority A any member of which is appointed on the nomination of another local authority in Wales (“local authority B”), or
(b)a joint board, a National Park authority, or joint committee on which local authority A is represented and any member of which is appointed on the nomination of local authority B,
section 80B applies in respect of the person’s membership of local authority B.
(5)For the purposes of this section a local authority is represented on a National Park authority if it is entitled to appoint a member of the local authority as a member of the National Park authority.”
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Ar ôl adran 116 o Ddeddf 1972 mewnosoder—
A member of a local authority in Wales is disqualified for being appointed or elected by that authority to any paid office other than the office of chairman, vice-chairman, or in the case of a local authority operating executive arrangements which involve a leader and cabinet executive, the office of executive leader, member of the executive or assistant to the executive.”
Gwybodaeth Cychwyn
I22A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 199B (cyfieithu etc. ddogfennau penodol), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—
“(11)This section does not apply to a local government election in Wales.”
(3)Ar ôl adran 199B, mewnosoder—
(1)Subsections (2) and (3) apply to any document which under or by virtue of this Act is required or authorised to be given to voters or displayed in any place for the purposes of a local government election in Wales.
(2)The person (“P”) who is required or authorised to give or display the document must, as P thinks appropriate, give or display or otherwise make available in such form as P thinks appropriate—
(a)the document in Braille;
(b)the document in languages other than English and Welsh;
(c)graphical representations of the information contained in the document;
(d)other means of making the information contained in the document accessible to persons who might not otherwise have reasonable access to the information.
(3)P must, as P thinks appropriate, make available the information contained in the document in such audible form as P thinks appropriate.
(4)Subsections (2) and (3) do not apply to—
(a)the nomination paper; or
(b)the ballot paper.”
Gwybodaeth Cychwyn
I23A. 22 mewn grym ar 20.3.2021 (yn ddarostyngedig i a. 3), gweler a. 175(3)(e)
Mae Atodlen 2 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I24A. 23 mewn grym ar 20.3.2021 at ddibenion penodedig (yn ddarostyngedig i a. 3), gweler a. 175(3)(f)
(1)Mae gan awdurdod lleol cymhwysol bŵer i wneud unrhyw beth y caiff unigolion yn gyffredinol ei wneud, hyd yn oed os yw’r peth hwnnw, o ran ei natur neu ei raddfa neu fel arall—
(a)yn wahanol i unrhyw beth y caiff awdurdod lleol cymhwysol ei wneud ar wahân i’r adran hon;
(b)yn wahanol i unrhyw beth y caiff cyrff cyhoeddus eraill ei wneud.
(2)Pan fo is-adran (1) yn rhoi pŵer i awdurdod wneud rhywbeth, mae’n rhoi pŵer iddo ei wneud mewn unrhyw fodd o gwbl, gan gynnwys—
(a)pŵer i’w wneud yn unrhyw le yng Nghymru neu yn rhywle arall;
(b)pŵer i’w wneud at ddiben masnachol neu fel arall am ffi, neu heb fod am ffi;
(c)pŵer i’w wneud er budd yr awdurdod, ei ardal neu bersonau sy’n preswylio neu’n bresennol yn ei ardal, neu fel arall.
(3)Nid yw cyffredinolrwydd y pŵer a roddir i awdurdod lleol cymhwysol gan is-adran (1) wedi ei gyfyngu gan fodolaeth unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod; ac nid yw unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod wedi ei gyfyngu gan fodolaeth y pŵer cyffredinol.
(4)At ddibenion y Bennod hon, mae pob un o’r canlynol yn awdurdod lleol cymhwysol—
(a)prif gyngor;
(b)cyngor cymuned cymwys (gweler Pennod 2 ynglŷn â hynny).
(5)Yn yr adran hon, ystyr “unigolyn” yw unigolyn sy’n meddu ar alluedd llawn.
(6)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at y pŵer cyffredinol yn gyfeiriadau at y pŵer a roddir gan is-adran (1).
(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adrannau 25 i 27 ac i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 28(3) neu (4).
Gwybodaeth Cychwyn
I25A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I26A. 24 mewn grym ar 1.11.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 4(a)
(1)Nid yw’r pŵer cyffredinol yn galluogi awdurdod lleol cymhwysol i wneud unrhyw beth nad yw’r awdurdod yn gallu ei wneud yn rhinwedd cyfyngiad cyn cychwyn.
(2)Nid yw’r pŵer cyffredinol ychwaith yn galluogi awdurdod lleol cymhwysol i wneud unrhyw beth nad yw’r awdurdod yn gallu ei wneud yn rhinwedd cyfyngiad ar ôl cychwyn y mynegir ei fod yn gymwys—
(a)i’r pŵer cyffredinol,
(b)i holl bwerau’r awdurdod, neu
(c)i holl bwerau’r awdurdod ond gydag eithriadau nad ydynt yn cynnwys y pŵer cyffredinol.
(3)Nid yw’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i wneud nac i wneud newidiadau i—
(a)trefniadau o fath a wneir, neu y caniateir eu gwneud, gan neu o dan Ran 6 o Ddeddf 1972 (cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol);
(b)trefniadau o fath a wneir, neu y caniateir eu gwneud, gan neu o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 (trefniadau mewn cysylltiad â gweithrediaethau etc.);
(c)trefniadau contractio allan, neu unrhyw drefniadau eraill nad ydynt yn drefniadau o fewn paragraff (a) neu (b), sy’n awdurdodi person i arfer swyddogaeth awdurdod lleol cymhwysol.
(4)Yn yr adran hon—
ystyr “cyfyngiad ar ôl cychwyn” (“post-commencement limitation”) yw gwaharddiad, terfyn neu gyfyngiad arall a osodir yn benodol gan ddarpariaeth—
mewn Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig sy’n cael ei phasio ar ôl y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf hon;
mewn offeryn—
a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys y Ddeddf hon), a
sy’n dod i rym ar y diwrnod y mae adran 24 yn dod i rym mewn perthynas â phrif gynghorau, neu wedi hynny;
ystyr “cyfyngiad cyn cychwyn” (“pre-commencement limitation”) yw gwaharddiad, terfyn neu gyfyngiad arall a osodir yn benodol gan ddarpariaeth—
yn y Ddeddf hon;
mewn unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol arall sy’n cael ei phasio cyn y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf hon, neu ar yr un diwrnod;
mewn offeryn—
a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys y Ddeddf hon), a
sy’n dod i rym cyn y diwrnod y mae adran 24 yn dod i rym mewn perthynas â phrif gynghorau.
(5)At ddibenion is-adran (1), mae adran 111(3) o Ddeddf 1972 (nid yw pwerau atodol awdurdodau lleol yn cynnwys pŵer i godi arian) i’w diystyru.
Gwybodaeth Cychwyn
I27A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I28A. 25 mewn grym ar 1.11.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 4(a)
(1)Nid yw’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i awdurdod lleol cymhwysol godi ffi am ddarparu gwasanaeth i berson oni fo’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni.
(2)Yr amod cyntaf yw nad yw’r gwasanaeth yn un y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ei ddarparu i’r person.
(3)Yr ail amod yw bod y person wedi cytuno i’r gwasanaeth gael ei ddarparu.
(4)Ac eithrio mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir at ddiben masnachol, i’r graddau y bo’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i awdurdod lleol cymhwysol godi ffi am ddarparu gwasanaeth, mae’r pŵer yn ddarostyngedig i ddyletswydd i sicrhau nad yw’r incwm o ffioedd a osodir oddi tano, o gymryd un flwyddyn ariannol gyda’r llall, yn fwy na chost darparu’r gwasanaeth.
(5)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (4) yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob math o wasanaeth.
(6)Yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (4), wrth arfer y pŵer a roddir gan y pŵer cyffredinol i godi ffi am ddarparu gwasanaeth, caiff awdurdod lleol cymhwysol bennu ei ffioedd fel y mae’n ystyried bod hynny’n briodol, ac ymysg pethau eraill caiff—
(a)codi ffi ar rai personau yn unig am ddarparu gwasanaeth;
(b)codi symiau gwahanol o ffi ar bersonau gwahanol, neu bersonau o ddisgrifiadau gwahanol, am ddarparu gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I29A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I30A. 26 mewn grym ar 1.11.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 4(a)
(1)Nid yw’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i awdurdod lleol cymhwysol wneud pethau at ddiben masnachol onid ydynt yn bethau y caiff yr awdurdod, wrth arfer y pŵer cyffredinol, eu gwneud heblaw at ddiben masnachol.
(2)Pan fo awdurdod lleol cymhwysol, wrth arfer y pŵer cyffredinol, yn gwneud pethau at ddiben masnachol, rhaid i’r awdurdod eu gwneud drwy gyfrwng cwmni.
(3)Ni chaiff awdurdod lleol cymhwysol, wrth arfer y pŵer cyffredinol, wneud pethau at ddiben masnachol mewn perthynas â pherson os yw unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod wneud y pethau hynny mewn perthynas â’r person.
(4)Yn yr adran hon, ystyr “cwmni” yw—
(a)cwmni o fewn ystyr adran 1(1) o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46), neu
(b)cymdeithas gofrestredig o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014 (p. 14) neu Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol (Gogledd Iwerddon) 1969 (p. 24 (GI)).
(5)Rhaid i awdurdod lleol cymhwysol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â gwneud pethau, wrth arfer y pŵer cyffredinol, at ddiben masnachol.
Gwybodaeth Cychwyn
I31A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I32A. 27 mewn grym ar 1.11.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 4(a)
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod deddfiad yn atal awdurdodau lleol cymhwysol rhag arfer y pŵer cyffredinol, neu’n eu rhwystro wrth iddynt arfer y pŵer cyffredinol, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio, addasu, ddiddymu, ddirymu neu ddatgymhwyso’r deddfiad hwnnw.
(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod unrhyw bŵer arall yn gorgyffwrdd (i unrhyw raddau) â’r pŵer cyffredinol yna, at ddiben lleihau neu ddileu’r gorgyffwrdd hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio, addasu, ddiddymu, ddirymu neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy’n atal awdurdodau lleol cymhwysol, wrth iddynt arfer y pŵer cyffredinol, rhag gwneud unrhyw beth sydd wedi ei bennu, neu sydd o ddisgrifiad sydd wedi ei bennu, yn y rheoliadau.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu bod arfer y pŵer cyffredinol yn ddarostyngedig i amodau, naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas ag unrhyw beth sydd wedi ei bennu, neu sydd o ddisgrifiad sydd wedi ei bennu, yn y rheoliadau.
(5)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (4) ddarparu, ymhlith pethau eraill, bod arfer y pŵer cyffredinol gan awdurdod lleol cymhwysol—
(a)i godi ffi am ddarparu gwasanaeth i berson i fod yn ddarostyngedig i amodau yn ychwanegol at yr amodau a nodir yn adran 26;
(b)i wneud pethau at ddiben masnachol i fod yn ddarostyngedig i amodau yn ychwanegol at yr amodau a nodir yn adran 27.
(6)Caniateir arfer y pŵer o dan is-adran (1), (2), (3) neu (4) mewn perthynas ag—
(a)pob awdurdod lleol cymhwysol;
(b)awdurdod penodol sy’n awdurdod lleol cymhwysol;
(c)awdurdod lleol o ddisgrifiad penodol sy’n awdurdod lleol cymhwysol.
(7)Ac eithrio fel a ddarperir yn is-adran (8), cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), (2), (3) neu (4) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)unrhyw brif gynghorau a chynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy,
(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau a chynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, ac
(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(8)Nid yw’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (7) yn gymwys yn achos rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sydd â’r unig ddiben o ddiwygio rheoliadau cynharach—
(a)er mwyn estyn y rheoliadau cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau cynharach, i awdurdod penodol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodol, neu
(b)fel bod y rheoliadau cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau cynharach, yn peidio â bod yn gymwys i awdurdod penodol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodol.
(9)Nid yw’r adran hon yn rhoi pŵer i wneud darpariaeth—
(a)sy’n diwygio, yn diddymu neu’n datgymhwyso darpariaeth sydd yn y Ddeddf hon;
(b)ar gyfer dirprwyo neu drosglwyddo unrhyw swyddogaethau deddfu drwy orchymyn, rheolau, rheoliadau neu is-offeryn arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I33A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I34A. 28 mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(a)
Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau mewn perthynas â’r Bennod hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I35A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I36A. 29 mewn grym ar 1.11.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 4(b)
(1)Caiff cyngor cymuned sy’n bodloni pob un o’r amodau a nodir yn is-adrannau (2) i (4) (“yr amodau cymhwystra”) ddod yn gyngor cymuned cymwys at ddibenion Pennod 1 drwy basio penderfyniad, mewn unrhyw gyfarfod o’r cyngor, ei fod yn gyngor cymuned cymwys.
(2)Yr amod cyntaf yw y datganwyd bod o leiaf ddau draean o gyfanswm cynghorwyr y cyngor cymuned wedi eu hethol (boed mewn etholiad cyffredin neu mewn is-etholiad).
(3)Yr ail amod yw bod clerc y cyngor yn dal cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster o fath a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(4)Y trydydd amod yw—
(a)bod barn ddiweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor—
(i)yn farn ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a
(ii)yn farn y mae’r cyngor wedi ei chael yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y bydd y cyngor (os yw’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1)) yn dod yn gyngor cymuned cymwys, a
(b)bod barn Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor a oedd yn union ragflaenu’r farn a grybwyllir ym mharagraff (a) hefyd yn farn ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(5)At ddibenion is-adran (4) ac adran 34—
(a)ystyr barn Archwilydd Cyffredinol Cymru yw barn a ddarperir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23), ar ôl cynnal archwiliad o gyfrifon cyngor cymuned ar gyfer blwyddyn ariannol, a
(b)mae barn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn farn ddiamod os nad yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn y farn, wedi datgan mewn unrhyw fodd nad yw’n fodlon o ran y materion a nodir yn adran 17 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
(6)Mae cyngor cymuned sy’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1) yn dod yn gyngor cymuned cymwys pan fo’n pasio’r penderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I37A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I38A. 30(3) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(b)
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Os yw cyngor cymuned cymwys yn dymuno parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys rhaid iddo—
(a)ar adeg pob cyfarfod blynyddol sy’n dilyn pasio’r penderfyniad yn unol ag adran 30, fodloni’r amodau cymhwystra, a
(b)ym mhob cyfarfod blynyddol o’r fath, basio penderfyniad ei fod yn parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys.
(2)Mae cyngor cymuned cymwys nad yw’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1) yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys ar ddiwedd y diwrnod sy’n dilyn y cyfarfod blynyddol o dan sylw.
(3)Yn yr adran hon ac yn adran 32, ystyr “cyfarfod blynyddol”, mewn perthynas â chyngor cymuned cymwys, yw cyfarfod o’r cyngor a gynhelir o dan baragraff 23 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972.
Gwybodaeth Cychwyn
I39A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Caiff cyngor cymuned cymwys basio penderfyniad mewn unrhyw gyfarfod o’r cyngor (gan gynnwys cyfarfod blynyddol) ei fod yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys.
(2)Mae cyngor cymuned sy’n pasio penderfyniad o dan is-adran (1) yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys ar ddiwedd y diwrnod sy’n dilyn y cyfarfod y cafodd y penderfyniad ei basio ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I40A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 05/05/2022
Caiff cyngor cymuned sy’n peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys barhau i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed pan oedd yn gyngor cymuned cymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I41A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo, ar ôl i’r Ddeddf hon gael ei phasio, gymunedau yn cael eu grwpio gyda’i gilydd o dan gyngor cymuned cyffredin o dan orchymyn o dan adran 27F o Ddeddf 1972, a
(b)pan oedd gan o leiaf hanner y cymunedau sy’n cael eu grwpio gyda’i gilydd gynghorau cymuned ar wahân a oedd, yn union cyn i’r gorchymyn o dan adran 27F o Ddeddf 1972 gael ei wneud, yn bodloni’r trydydd amod cymhwystra (a nodir yn adran 30(4)).
(2)Nid yw’r trydydd amod cymhwystra yn gymwys i’r cyngor cymuned cyffredin hyd nes y bo wedi cael dwy farn gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn cysylltiad â dwy flynedd ariannol; ac mae adrannau 30(1) a 31(1) i’w darllen yn unol â hynny.
(3)Os nad yw’r farn gyntaf y mae’r cyngor cymuned cyffredin yn ei chael gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn farn ddiamod, mae’r cyngor i’w drin fel pe na bai’n bodloni’r amodau cymhwystra mwyach.
Gwybodaeth Cychwyn
I42A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r Bennod hon at ddibenion—
(a)ychwanegu amod cymhwystra,
(b)tynnu ymaith amod cymhwystra,
(c)newid unrhyw un neu ragor o’r amodau cymhwystra, neu
(d)gwneud darpariaeth i gyngor cymuned beidio â bod yn gyngor cymuned cymwys (o dan amgylchiadau ac eithrio’r rheini a bennir yn y Bennod hon).
(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan baragraffau (a) i (c) o is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n cynrychioli cynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu addasu’r Bennod hon at ddibenion darparu, yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Bennod hon yn dod i rym—
(a)nad yw amod cymhwystra yn gymwys;
(b)bod amod cymhwystra yn gymwys gydag addasiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I43A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I44A. 35 mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(c)
Yn ddilys o 05/05/2022
Rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I45A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 05/05/2022
Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau mewn perthynas â’r Bennod hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I46A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn y Rhan hon—
(a)mae Pennod 2 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor—
(i)annog pobl leol i gyfranogi pan fo’r cyngor yn gwneud penderfyniadau;
(ii)llunio a chyhoeddi strategaeth sy’n nodi sut y bydd yn cydymffurfio â’i ddyletswydd i annog cyfranogiad pan wneir penderfyniadau;
(iii)gwneud cynllun deisebau;
(iv)cyhoeddi cyfeiriad electronig a chyfeiriad post ar gyfer pob un o’i aelodau;
(b)mae Pennod 3 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gyhoeddi arweiniad i gyd-fynd â’i gyfansoddiad a sicrhau bod copïau o’r arweiniad ar gael ar gais;
(c)mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth—
(i)ar gyfer darlledu trafodion cyfarfodydd prif gynghorau ac awdurdodau lleol eraill sy’n agored i’r cyhoedd;
(ii)sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau sy’n galluogi mynychu cyfarfodydd o bell;
(iii)sy’n rhoi’r cyfle i aelodau o’r cyhoedd siarad yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned sy’n agored i’r cyhoedd;
(iv)ynglŷn â rhoi hysbysiadau, a mynediad at ddogfennau, sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol;
(v)ar gyfer gwneud rheoliadau ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleol, cyhoeddi gwybodaeth a chyfarfodydd cymunedol;
(d)mae Pennod 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned gyhoeddi adroddiad blynyddol ynglŷn â’u blaenoriaethau, eu gweithgareddau a’u cyflawniadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I47A. 38 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(g)
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Rhaid i brif gyngor annog pobl leol i gyfranogi pan fo’r cyngor yn gwneud penderfyniadau (gan gynnwys penderfyniadau a wneir mewn partneriaeth neu ar y cyd ag unrhyw berson arall).
(2)Yn is-adran (1), mae cyfeiriad at wneud penderfyniadau yn cynnwys cyfeiriad at wneud penderfyniadau gan berson mewn perthynas ag arfer swyddogaeth a ddirprwywyd i’r person hwnnw gan brif gyngor.
Gwybodaeth Cychwyn
I48A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Rhaid i brif gyngor lunio a chyhoeddi strategaeth (“strategaeth cyfranogiad y cyhoedd”) sy’n pennu sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 39.
(2)Rhaid i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd ymdrin â’r canlynol, yn benodol—
(a)dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o swyddogaethau’r prif gyngor;
(b)dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o’r modd y deuir yn aelod o’r prif gyngor, a’r hyn y mae aelodaeth yn ei olygu;
(c)dulliau o’i gwneud yn fwy hwylus i bobl leol gael gwybodaeth am benderfyniadau a wnaed, neu sydd i’w gwneud, gan y prif gyngor;
(d)dulliau o hybu a hwyluso prosesau lle gall pobl leol gyflwyno sylwadau i’r prif gyngor am benderfyniad cyn, ac ar ôl, iddo gael ei wneud;
(e)y trefniadau a wnaed, neu sydd i’w gwneud, at ddiben y ddyletswydd ar y cyngor yn adran 62 o Fesur 2011 (dwyn safbwyntiau’r cyhoedd i sylw pwyllgorau trosolwg a chraffu);
(f)dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith aelodau o’r prif gyngor o fanteision defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol.
(3)Caiff strategaeth cyfranogiad y cyhoedd ymdrin â’r modd y mae prif gyngor yn bwriadu cydymffurfio â dyletswydd a osodir gan unrhyw ddeddfiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I49A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Rhaid i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd gyntaf prif gyngor gael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i adran 40 ddod i rym.
(2)Wrth lunio’r strategaeth honno rhaid i’r cyngor ymgynghori ag—
(a)pobl leol, a
(b)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(3)Mewn perthynas â phrif gyngor—
(a)rhaid iddo adolygu ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn pob etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor, a
(b)caiff adolygu ei strategaeth ar unrhyw adeg arall.
(4)Wrth gynnal adolygiad o strategaeth cyfranogiad y cyhoedd o dan is-adran (3)(a) rhaid i brif gyngor ymgynghori ag—
(a)pobl leol, a
(b)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(5)Yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3) caiff prif gyngor ddiwygio ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, neu roi strategaeth newydd yn ei lle.
(6)Ond cyn diwygio ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd neu roi un newydd yn ei lle yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3)(b) rhaid i brif gyngor ymgynghori ag—
(a)pobl leol, a
(b)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(7)Os yw prif gyngor yn diwygio strategaeth cyfranogiad y cyhoedd neu’n rhoi un newydd yn ei lle, rhaid iddo gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig neu’r strategaeth newydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Gwybodaeth Cychwyn
I50A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Rhaid i brif gyngor wneud a chyhoeddi cynllun (“cynllun deisebau”) sy’n nodi sut y mae’r cyngor yn bwriadu ymdrin â deisebau (gan gynnwys deisebau electronig) ac ymateb iddynt.
(2)Rhaid i gynllun deisebau nodi, yn benodol—
(a)sut i gyflwyno deiseb i’r cyngor;
(b)sut ac erbyn pryd y bydd y cyngor yn cydnabod ei fod wedi cael deiseb;
(c)y camau y gall y cyngor eu cymryd mewn ymateb i ddeiseb y mae’n ei chael;
(d)yr amgylchiadau (os oes rhai) pan allai’r cyngor beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn ymateb i ddeiseb;
(e)sut ac erbyn pryd y bydd y cyngor yn sicrhau bod ei ymateb i ddeiseb ar gael i’r person a gyflwynodd y ddeiseb ac i’r cyhoedd.
(3)Rhaid i brif gyngor adolygu ei gynllun deisebau o dro i dro, a diwygio’r cynllun os yw’r cyngor yn ystyried bod hynny’n briodol.
(4)Os yw prif gyngor yn diwygio cynllun deisebau neu’n rhoi un newydd yn ei le, rhaid iddo gyhoeddi’r cynllun diwygiedig neu’r cynllun newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I51A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Rhaid i brif gyngor gyhoeddi cyfeiriad electronig a chyfeiriad post ar gyfer pob aelod o’r cyngor, y gellir anfon gohebiaeth ar gyfer yr aelod iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I52A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I53A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Mae adran 37 o Ddeddf 2000 (cyfansoddiad awdurdod lleol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)A local authority must prepare and keep up to date a document (referred to in this section as their constitution guide) which explains, in ordinary language, the content of their constitution.”
(3)Yn is-adran (2)—
(a)ar ôl “must” mewnosoder “—
(a)publish their constitution and their constitution guide electronically and in such other manner as they consider appropriate, and
(b)”;
(b)ar ôl “copies of their constitution” mewnosoder “and their constitution guide”.
(4)Yn is-adran (3)—
(a)ar ôl “constitution” mewnosoder “or, as the case may be, their constitution guide”;
(b)yn lle’r geiriau o “who requests” hyd at ddiwedd yr is-adran, rhodder “on request, either free of charge or at a charge representing no more than the cost of providing the copy”.
Gwybodaeth Cychwyn
I54A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Rhaid i brif gyngor wneud a chyhoeddi trefniadau at ddiben sicrhau bod—
(a)darllediad o drafodion cyfarfod y mae is-adran (2) yn gymwys iddo ar gael ar ffurf electronig fel bod aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn mynychu’r cyfarfod yn gallu gweld a chlywed y trafodion;
(b)y trafodion yn cael eu darlledu wrth iddynt gael eu cynnal, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau penodedig;
(c)y darllediad ar gael ar ffurf electronig am gyfnod penodedig ar ôl y cyfarfod.
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i drafodion cyfarfod, neu unrhyw ran o gyfarfod, o’r canlynol sy’n agored i’r cyhoedd—
(a)prif gyngor;
(b)unrhyw un neu ragor o’r cyrff penodedig a ganlyn—
(i)gweithrediaeth prif gyngor;
(ii)pwyllgor neu is-bwyllgor i weithrediaeth prif gyngor;
(iii)pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor;
(iv)cyd-bwyllgor, neu is-bwyllgor i gyd-bwyllgor, o ddau brif gyngor neu ragor.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â darlledu trafodion mewn cyfarfod y mae is-adran (2) yn gymwys iddo.
(4)Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
(5)Os yw prif gyngor yn diwygio trefniadau a wnaed o dan is-adran (1) neu’n rhoi rhai newydd yn eu lle, rhaid iddo gyhoeddi’r trefniadau diwygiedig neu’r trefniadau newydd.
(6)Rhaid i brif gyngor sy’n gwneud trefniadau sy’n ofynnol gan is-adran (1) roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(7)Nid yw’r ffaith bod darllediad ar gael neu nad yw ar gael (boed hynny wrth i’r trafodion gael eu cynnal neu wedi hynny) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw drafodion y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau er mwyn sicrhau bod trafodion cyfarfod awdurdod a restrir yn is-adran (9), neu gyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod o’r fath, yn cael eu darlledu ar ffurf electronig, ac mewn cysylltiad â hynny.
(9)Yr awdurdodau yw—
(a)awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;
(b)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(c)cyd-bwyllgor o un prif gyngor neu ragor ac un neu ragor o’r awdurdodau a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b);
(d)cyd-fwrdd—
(i)a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a
(ii)sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor.
(10)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) neu (8) gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn addasu, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I55A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I56A. 46(1)(b)(c)(2)(b) mewn grym ar 4.3.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/231, ergl. 2(d)
I57A. 46(3)(4)(8)-(10) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(e)
(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud a chyhoeddi trefniadau at ddiben sicrhau y gellir cynnal cyfarfodydd awdurdod lleol drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall—
(a)sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i fynychu’r cyfarfodydd, a
(b)sy’n bodloni’r amodau yn is-adran (2).
(2)Yr amodau yw bod y cyfarpar neu’r cyfleuster arall yn galluogi personau—
(a)yn achos cyfarfodydd awdurdod lleol nad ydynt yn dod o fewn paragraff (b), i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio), a
(b)yn achos cyfarfodydd prif gyngor y mae’n ofynnol eu darlledu o dan adran 46 (darllediadau electronig), neu unrhyw gyfarfodydd awdurdod lleol eraill y mae’n ofynnol iddynt gael eu darlledu gan reoliadau a wneir o dan yr adran honno, i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd ac i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd.
(3)Yn achos cyfarfodydd cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor, rhaid i’r awdurdodau wneud a chyhoeddi trefniadau o dan is-adran (1) ar y cyd.
(4)Os yw awdurdod lleol yn diwygio trefniadau a wnaed o dan is-adran (1) neu’n rhoi rhai newydd yn eu lle, rhaid iddo gyhoeddi’r trefniadau diwygiedig neu’r trefniadau newydd.
(5)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau sy’n ofynnol gan is-adran (1) roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(6)Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
prif gyngor;
cyngor cymuned;
awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;
awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22);
ystyr “cyfarfod awdurdod lleol” (“local authority meeting”) yw cyfarfod—
awdurdod lleol;
pan fo’r awdurdod lleol yn brif gyngor, ei weithrediaeth;
cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor;
pwyllgor neu is-bwyllgor i unrhyw beth sydd o fewn paragraffau (a) i (c),
ac, er mwyn osgoi amheuaeth, mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir gan bwyllgor trwyddedu prif gyngor a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p. 17) neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan bwyllgor trwyddedu.
(7)Mewn perthynas â chyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad at—
(a)y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod awdurdod lleol, yn bresennol ynddo neu’n ymddangos ger ei fron, mae’r cyfeiriad hwnnw yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir yn is-adran (1), mynychu, bod yn bresennol neu ymddangos drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw;
(b)y lle y mae cyfarfod awdurdod lleol i’w gynnal, nid yw’r cyfeiriad hwnnw i’w ddarllen fel pe bai wedi ei gyfyngu i un lleoliad ffisegol.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau er mwyn—
(a)ychwanegu at yr amodau yn is-adran (2), eu diwygio neu eu hepgor;
(b)ychwanegu at y diffiniad o “awdurdod lleol” yn is-adran (6) cyd-fwrdd—
(i)a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a
(ii)sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor.
(9)Mae Rhan 2 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I58A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I59A. 47(1)-(7), (9) mewn grym ar 1.5.2021 gan O.S. 2021/354, ergl. 2(a)
I60A. 47(8) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(f)
Yn ddilys o 05/05/2022
Yn Rhan 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd a thrafodion cynghorau cymuned), ar ôl paragraff 27 mewnosoder—
“27A(1)This paragraph applies in respect of a meeting or part of a meeting of a community council which is open to the public.
(2)The person presiding over the meeting must give members of the public in attendance a reasonable opportunity to make representations about any business to be transacted at the meeting, unless that person considers that doing so is likely to prejudice the effective conduct of the meeting.
(3)In complying with sub-paragraph (2), the person presiding over the meeting must have regard to any guidance issued by the Welsh Ministers about the function in that sub-paragraph.”
Gwybodaeth Cychwyn
I61A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
[F1(1)] Mae Rhan 1 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1972 a Deddfau eraill, ynglŷn â hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol.
[F2(2)Mae unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sy’n ymwneud â chyfarfod awdurdod lleol y mae’n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad iddynt gael eu cyhoeddi’n electronig, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Difenwi 1996 (p. 31), i’w trin fel dogfen y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddi fod yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd.
(3)Yn is-adran (2) mae i “cyfarfod awdurdod lleol” yr un ystyr ag yn adran 50(5).]
Diwygiadau Testunol
F1A. 49(1): a. 49 wedi ei ailrifo fel a. 49(1) (dod i rym yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (O.S. 2021/356), rhlau. 1(2), 5(2) (ynghyd â rhlau. 10, 11)
F2A. 49(2)(3) wedi ei fewnosod (dod i rym yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (O.S. 2021/356), rhlau. 1(2), 5(3) (ynghyd â rhlau. 10, 11)
Gwybodaeth Cychwyn
I62A. 49 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(c)
I63A. 49 mewn grym ar 1.5.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/354, ergl. 2(b)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â gofynion sy’n ymwneud â hysbysiadau a dogfennau eraill mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol ac sy’n ymwneud â chynnal y cyfarfodydd hynny.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynglŷn ag—
(a)llunio hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol;
(b)cyhoeddi a dosbarthu’r hysbysiadau a’r dogfennau hynny;
(c)cynnwys yr hysbysiadau a’r dogfennau hynny;
(d)hawliau i gael mynediad at yr hysbysiadau a’r dogfennau hynny;
(e)cadw dogfennau sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol;
(f)trefniadau sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol;
(g)cofnodi penderfyniadau a wneir yn y cyfarfodydd hynny.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi gan awdurdodau lleol, ac mewn cysylltiad â chyhoeddi gan awdurdodau lleol, wybodaeth sy’n nodi manylion ynglŷn ag—
(a)aelodau o’r awdurdod a’i bwyllgorau a’i is-bwyllgorau;
(b)hawliau i fynychu cyfarfodydd awdurdod lleol a chael mynediad at ddogfennau;
(c)arfer pwerau awdurdod lleol gan ei swyddogion,
a gwneud darpariaeth ar gyfer hawliau i gael mynediad at yr wybodaeth honno, ac mewn cysylltiad â hynny.
(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
(5)Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
prif gyngor;
cyngor cymuned;
awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;
awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
cyd-fwrdd—
a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a
sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor;
awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22);
ystyr “cyfarfod awdurdod lleol” (“local authority meeting”) yw cyfarfod—
awdurdod lleol;
pan fo’r awdurdod lleol yn brif gyngor, ei weithrediaeth;
cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor;
pwyllgor neu is-bwyllgor i unrhyw beth sydd o fewn paragraffau (a) i (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I64A. 50 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(a)
Yn Rhan 5 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd cymunedol), ar ôl paragraff 36 mewnosoder—
“36A(1)The Welsh Ministers may by regulations make provision for and in connection with requirements concerning notices and other documents relating to community meetings and concerning the holding of such meetings and their conduct.
(2)Regulations under sub-paragraph (1) may, in particular, include provision about—
(a)arrangements relating to the holding of community meetings attended by persons who are not in the same place;
(b)the convening of community meetings;
(c)the production, publication, dissemination and content of notices of community meetings;
(d)the recording of decisions made at community meetings;
(e)the functions of principal councils and community councils in relation to community meetings;
(f)eligibility to attend and to vote at community meetings.
(3)Regulations under sub-paragraph (1) may include supplementary, incidental, consequential, transitional, transitory or saving provision (including provision amending, modifying, repealing or revoking any enactment (including this Act)).
(4)A statutory instrument containing regulations under sub-paragraph (1) must not be made unless a draft of the instrument has been laid before and approved by resolution of Senedd Cymru.
36BA principal council and a community council exercising functions in relation to community meetings must have regard to any guidance about the exercise of those functions issued by the Welsh Ministers.”
Gwybodaeth Cychwyn
I65A. 51 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(b)
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i gyngor cymuned lunio a chyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ynglŷn â blaenoriaethau, gweithgareddau a chyflawniadau’r cyngor yn ystod y flwyddyn honno.
(2)Rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag adroddiadau blynyddol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(3)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i swyddogaeth cyngor cymuned o benderfynu ar gynnwys adroddiad blynyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I66A. 52 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(7)
Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth—
(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor benodi prif weithredwr (yn hytrach na dynodi pennaeth gwasanaeth taledig), y bydd ei swyddogaethau yn cynnwys dyletswyddau a osodir o dan y Rhan hon;
(b)ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol i brif weithredwyr;
(c)ar gyfer penodi cynorthwywyr gweithrediaethau prif gynghorau;
(d)ynglŷn â rhannu swydd mewn swyddi penodol o fewn prif gynghorau;
(e)ar gyfer dyroddi canllawiau, gan gynnwys i feiri etholedig ac arweinyddion gweithrediaeth, ar gydraddoldeb ac amrywiaeth;
(f)ynglŷn â hawlogaeth aelodau o awdurdodau lleol i gael gwahanol fathau o absenoldeb teuluol;
(g)sy’n ei gwneud yn ofynnol i arweinyddion grwpiau gwleidyddol gymryd camau i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o’u grwpiau, a chydweithredu â phwyllgorau safonau;
(h)sy’n ei gwneud yn ofynnol i bwyllgorau safonau lunio adroddiadau blynyddol ar y modd y maent yn arfer eu swyddogaethau;
(i)sy’n diwygio Deddf 2000 a Deddfau eraill er mwyn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymddygiad aelodau llywodraeth leol;
(j)ynglŷn â darparu gwybodaeth benodol i bwyllgorau trosolwg a chraffu;
(k)sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol benodi cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu;
(l)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned wneud cynlluniau hyfforddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I67A. 53 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(h)
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Rhaid i brif gyngor benodi prif weithredwr.
(2)Rhaid i brif weithredwr prif gyngor—
(a)adolygu’n barhaus bob un o’r materion a bennir yn is-adran (3), a
(b)pan fo’r prif weithredwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gwneud adroddiad i’r cyngor yn nodi cynigion y prif weithredwr mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion hynny.
(3)Y materion yw—
(a)y modd y cydgysylltir sut y mae’r cyngor yn arfer ei wahanol swyddogaethau;
(b)trefniadau’r cyngor mewn perthynas ag—
(i)cynllunio ariannol,
(ii)rheoli asedau, a
(iii)rheoli risg;
(c)nifer a graddau’r staff sy’n ofynnol gan y cyngor er mwyn arfer ei swyddogaethau;
(d)trefniadaeth staff y cyngor;
(e)penodi staff y cyngor;
(f)y trefniadau ar gyfer rheoli staff y cyngor (gan gynnwys trefniadau ar gyfer hyfforddi a datblygu).
(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad at ddibenion is-adran (2)(b), rhaid i brif weithredwr prif gyngor drefnu bod yr adroddiad yn cael ei anfon at holl aelodau’r cyngor.
(5)Rhaid i brif gyngor ystyried adroddiad a wnaed o dan is-adran (2)(b) mewn cyfarfod a gynhelir yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl i gopïau o’r adroddiad gael eu hanfon at aelodau’r cyngor am y tro cyntaf; ac nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir gan yr is-adran hon.
(6)Rhaid i brif gyngor ddarparu i’w brif weithredwr y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y prif weithredwr, yn ddigonol i alluogi cyflawni dyletswyddau’r prif weithredwr o dan yr adran hon.
(7)Mae Atodlen 5 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I68A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Mae adran 143A o Fesur 2011 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adrannau (1), (3), (3A), (3B), (5A) a (5B), yn lle “cyflog”, “chyflog” neu “gyflog”, yn ôl y digwydd, ym mhob lle y maent yn digwydd, rhodder “cydnabyddiaeth ariannol”, “chydnabyddiaeth ariannol” neu “gydnabyddiaeth ariannol”, yn ôl y digwydd.
(3)Yn is-adran (3), yn lle “gyflogau” rhodder “gydnabyddiaeth ariannol”.
(4)Yn is-adran (3A), yn lle “daladwy” rhodder “cael ei darparu”.
(5)Yn is-adran (5B), yn lle “talu” yn y ddau le y mae’n digwydd rhodder “darparu”;
(6)Yn is-adran (7)—
(a)hepgorer y diffiniad o “cyflog”, a
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
““mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr ystyr a roddir i “remuneration” yn adran 43 o Ddeddf Lleoliaeth 2011;”.
(7)Yn y pennawd, yn lle “chyflogau” rhodder “chydnabyddiaeth ariannol”.
(8)Yn Neddf 1972, yn adran 112(2A) (penodi staff) yn lle “salaries” rhodder “remuneration”.
Gwybodaeth Cychwyn
I69A. 55 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(i)
Yn ddilys o 05/05/2022
Yn adran 143A o Fesur 2011 (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol i brif weithredwyr), ar ôl is-adran (5B) mewnosoder—
“(5C)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (5B) i awdurdod perthnasol cymwys—
(a)nid yw’r swyddogaeth o ailystyried y gydnabyddiaeth ariannol i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);
(b)mae maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o’r Ddeddf honno) i’w drin fel pe bai’n aelod o’r awdurdod at ddibenion y swyddogaeth honno, ac
(c)nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.”
Gwybodaeth Cychwyn
I70A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Mae Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (trefniadau gweithrediaeth yng Nghymru: darpariaeth bellach) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)O flaen paragraff 4 mewnosoder—
3A(1)Executive arrangements by a local authority may make provision for councillors of the authority to be appointed to assist the executive in discharging functions which are the responsibility of the executive.
(2)Such a councillor is referred to in this Schedule as an assistant to the executive of the authority.
(3)Assistants to the executive of an authority are to be appointed—
(a)in the case of an authority operating a mayor and cabinet executive, by the elected mayor;
(b)in the case of an authority operating a leader and cabinet executive (Wales), by the executive leader or the authority.
(4)Executive arrangements which make provision for the appointment of assistants to an executive may include provision about—
(a)the number of assistants that may be appointed,
(b)their term of office, and
(c)their responsibilities.
(5)The assistants to the executive of a local authority may not include—
(a)the chairman and vice-chairman of the authority;
(b)the presiding member and deputy presiding member of the authority (if the authority has a presiding member).
(6)An assistant to the executive of an authority is not a member of the executive of the authority.
(7)Section 101 of the Local Government Act 1972 (arrangements for discharge of functions by local authorities) does not apply to a local authority’s function of making appointments under sub-paragraph (3)(b).”
(3)Ym mharagraff 5—
(a)ar y dechrau mewnosoder—
“(1)An assistant to the executive of a local authority is entitled to attend, and speak at, any meeting of the executive or of a committee of the executive.
(2)”;
(b)yn lle “not a member of the authority’s executive” rhodder “neither a member of the authority’s executive nor an assistant to the executive”.
(4)Mae Atodlen 6 i’r Ddeddf hon yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I71A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 05/05/2022
Mae Atodlen 7 yn darparu ar gyfer diwygiadau i Ddeddf 2000 er mwyn gwneud darpariaeth—
(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys yn eu trefniadau gweithrediaeth ddarpariaeth sy’n galluogi dau gynghorydd neu ragor i rannu swydd ar weithrediaeth, gan gynnwys swydd arweinydd gweithrediaeth,
(b)sy’n newid uchafswm yr aelodau o weithrediaeth pan fydd aelodau o’r weithrediaeth yn rhannu swydd, ac
(c)ynglŷn â phleidleisio a chworwm pan fo aelodau o weithrediaeth yn rhannu swydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I72A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Mae adran 38 o Ddeddf 2000 (canllawiau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1), ar ôl “local authority” mewnosoder “, an elected mayor or an executive leader”.
(3)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)The guidance may, among other things, include provision designed to encourage good practice in relation to equality and diversity (within the meaning of section 8(2) of the Equality Act 2006).”
Gwybodaeth Cychwyn
I73A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I74A. 59 mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(g)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau at ddiben hwyluso neu alluogi rhannu swydd o fewn prif gyngor.
(2)At ddibenion yr adran hon, ystyr “swydd o fewn prif gyngor” yw—
(a)cadeirydd prif gyngor (gweler adran 22 o Ddeddf 1972);
(b)is-gadeirydd prif gyngor (gweler adran 24 o’r Ddeddf honno);
(c)aelod llywyddol o brif gyngor (gweler adran 24A o’r Ddeddf honno);
(d)dirprwy aelod llywyddol o brif gyngor (gweler adran 24B o’r Ddeddf honno);
(e)cadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o brif gyngor;
(f)is-gadeirydd neu ddirprwy gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o brif gyngor;
(g)dirprwy faer o fewn gweithrediaeth maer a chabinet (gweler Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (trefniadau gweithrediaeth)).
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), yn benodol—
(a)ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau hwyluso neu alluogi rhannu swydd o fewn prif gyngor (gan gynnwys drwy ddiwygio rheolau sefydlog ac offerynnau eraill);
(b)gwneud darpariaeth ynglŷn â phenodi, ethol neu enwebu person i rannu swydd o fewn prif gyngor;
(c)gwneud darpariaeth ynglŷn ag arfer swyddogaethau swydd o fewn prif gyngor a rennir;
(d)gwneud darpariaeth ynglŷn â phleidleisio a chworwm pan rennir swydd o fewn prif gyngor.
(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt), ddatgymhwyso, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
(5)Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion rheoliadau a wneir o dan is-adran (1).
(6)Yn is-adran (2), mae cyfeiriad at bwyllgor neu is-bwyllgor yn cynnwys cyfeiriad at gyd-bwyllgor, neu is-bwyllgor i gyd-bwyllgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I75A. 60 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(3)(j)
(1)Mae Mesur 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 24 (absenoldeb mamolaeth)—
(a)yn lle is-adran (2) rhodder—
“(2)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—
(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mamolaeth mewn cysylltiad â phlentyn;
(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb mamolaeth.”;
(b)hepgorer is-adrannau (3) a (4).
(3)Yn adran 25 (absenoldeb newydd-anedig), hepgorer—
(a)is-adran (4);
(b)is-adran (6);
(c)is-adran (9);
(d)yn is-adran (10), y diffiniad o “wythnos”.
(4)Yn adran 26 (absenoldeb mabwysiadydd), hepgorer is-adran (3).
(5)Yn adran 27 (absenoldeb mabwysiadu newydd), hepgorer—
(a)is-adran (4);
(b)is-adran (6);
(c)is-adrannau (9) a (10).
(6)Yn adran 28 (absenoldeb rhiant), hepgorer is-adran (4).
Gwybodaeth Cychwyn
I76A. 61 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(d)
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Mae Deddf 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 52 mewnosoder—
(1)A leader of a political group consisting of members of a county council or county borough council in Wales—
(a)must take reasonable steps to promote and maintain high standards of conduct by the members of the group, and
(b)must co-operate with the council’s standards committee (and any sub-committee of the committee) in the exercise of the standards committee’s functions.
(2)In complying with subsection (1), a leader of a political group must have regard to any guidance about the functions under that subsection issued by the Welsh Ministers.
(3)The Welsh Ministers may by regulations make provision for the purposes of this section about the circumstances in which—
(a)members of a county council or county borough council in Wales are to be treated as constituting a political group;
(b)a member of a political group is to be treated as a leader of the group.
(4)Before making regulations under subsection (3), the Welsh Ministers must consult such persons as they think appropriate.”
(3)Yn adran 54 (swyddogaethau pwyllgorau safonau), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)A standards committee of a county council or county borough council in Wales also has the specific functions of—
(a)monitoring compliance by leaders of political groups on the council with their duties under section 52A(1), and
(b)advising, training or arranging to train leaders of political groups on the council about matters relating to those duties.”
(4)Yn adran 106 (Cymru: gorchmynion a rheoliadau)—
(a)hepgorer is-adran (5);
(b)yn is-adran (7) ar ôl “section 21G” mewnosoder “or regulations under section 52A(3)”.
(5)Yn Neddf 2013, hepgorer adran 68(4)(a).
(6)Yn y Ddeddf hon, hepgorer adran 63(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I77A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Yn Rhan 3 o Ddeddf 2000, ar ddiwedd Pennod 1 mewnosoder—
(1)As soon as reasonably practicable after the end of each financial year, a standards committee of a relevant authority must make an annual report to the authority in respect of that year.
(2)The annual report must describe how the committee’s functions have been discharged during the financial year.
(3)In particular, the report must include a summary of—
(a)what has been done to discharge the general and specific functions conferred on the committee by section 54 or 56;
(b)reports and recommendations made or referred to the committee under Chapter 3 of this Part;
(c)action taken by the committee following its consideration of such reports and recommendations;
(d)notices given to the committee under Chapter 4 of this Part.
(4)An annual report by a standards committee of a county council or county borough council in Wales must include the committee’s assessment of the extent to which leaders of political groups on the council have complied with their duties under section 52A(1) during the financial year.
(5)An annual report by a standards committee of a relevant authority may include recommendations to the authority about any matter in respect of which the committee has functions.
(6)A relevant authority must consider each annual report made by its standards committee before the end of 3 months beginning with the day on which the authority receives the report.
(7)The function of considering the report may be discharged only by the relevant authority (and accordingly is not a function to which section 101 of the Local Government Act 1972 applies).
(8)In this section “financial year” means a period of 12 months ending with 31 March.”
(2)Hyd nes y bo adran 62 yn dod i rym, mae adran 56B o Ddeddf 2000 i’w darllen fel pe bai is-adran (4) wedi ei hepgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I78A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Mae Atodlen 8 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 2000 ac i Ddeddfau eraill, ynglŷn ag ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud â methiannau i gydymffurfio â chod ymddygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I79A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 05/05/2022
Yn adran 22(10) o Ddeddf 2000 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am benderfyniadau ar gael), yn lle “or members of the authority” rhodder “, members of the authority, an overview and scrutiny committee of the authority or a sub-committee of such a committee”.
Gwybodaeth Cychwyn
I80A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Mae adran 58 o Fesur 2011 (cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1), ar ôl “i ganiatáu” mewnosoder “neu i’w gwneud yn ofynnol”.
(3)Yn is-adran (3), yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir gwneud trefniadau;
(aa)darpariaeth sy’n rhagnodi amgylchiadau pan fo rhaid gwneud trefniadau;
(ab)darpariaeth i drefniadau gael eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau neu gyfyngiadau rhagnodedig;”.
(4)Yn is-adran (4)—
(a)hepgorer “, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir iddynt gan yr adran hon neu oddi tani, neu wrth benderfynu ai i’w harfer,”;
(b)ar ôl “Weinidogion Cymru” mewnosoder “mewn perthynas ag arfer unrhyw swyddogaeth sydd ganddo o dan neu yn rhinwedd yr adran hon”.
Gwybodaeth Cychwyn
I81A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Rhaid i gyngor cymuned wneud a chyhoeddi cynllun (“cynllun hyfforddi”) sy’n nodi ei gynigion mewn perthynas â darparu hyfforddiant ar gyfer—
(a)cynghorwyr y cyngor cymuned, a
(b)staff y cyngor cymuned.
(2)Rhaid i gyngor cymuned wneud ei gynllun hyfforddi cyntaf yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y mae is-adran (1) yn dod i rym.
(3)Rhaid i gyngor cymuned wneud cynllun hyfforddi newydd yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl pob etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr cymuned i’r cyngor.
(4)Rhaid i gyngor cymuned adolygu ei gynllun hyfforddi o bryd i’w gilydd.
(5)Os yw cyngor cymuned yn diwygio ei gynllun hyfforddi, neu’n rhoi un newydd yn ei le, rhaid iddo gyhoeddi’r cynllun diwygiedig neu’r cynllun newydd.
(6)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i swyddogaethau cyngor cymuned o ran—
(a)penderfynu ar gynnwys cynllun hyfforddi neu unrhyw gynllun diwygiedig, a
(b)adolygu’r cynllun hyfforddi.
(7)Rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I82A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn y Rhan hon—
ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
mae i “cais cyd-bwyllgor” (“joint committee application”) yr ystyr a roddir yn adran 70(1);
mae i “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yr ystyr a roddir yn adran 72(1) ac adran 74(1) (ac mae’n golygu corff corfforedig a sefydlir gan reoliadau cyd-bwyllgor at ddiben arfer, mewn perthynas â dwy brif ardal neu ragor, swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau);
mae i “cynllun datblygu strategol” (“strategic development plan”) yr ystyr a roddir i “strategic development plan” yn adran 60M o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5);
mae “dogfennau” (“documents”) yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf;
ystyr “prif ardal” (“principal area”) yw—
sir yng Nghymru;
bwrdeistref sirol (yng Nghymru);
ystyr “rheoliadau cyd-bwyllgor” (“joint committee regulations”) yw—
rheoliadau o dan adran 72 (rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt);
rheoliadau o dan adran 74 (rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud);
mae “swyddogaeth llesiant economaidd” (“economic well-being function”) i’w ddehongli yn unol ag adran 76.
Gwybodaeth Cychwyn
I83A. 68 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau drwy gydweithio â phrif gyngor arall.
(2)At ddibenion yr adran hon mae prif gyngor yn arfer swyddogaeth drwy gydweithio â phrif gyngor arall os yw—
(a)yn arfer swyddogaeth prif gyngor arall o dan drefniant a wneir o dan—
(i)adran 101(1)(b) o Ddeddf 1972 (cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall);
(ii)rheoliadau a wneir o dan adran 19(1) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth gan awdurdod lleol arall);
(iii)rheoliadau a wneir o dan adran 19(2) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau nad ydynt yn swyddogaethau gweithrediaeth gan weithrediaeth awdurdod lleol arall);
(b)yn arfer y swyddogaeth ar y cyd â phrif gyngor arall o dan drefniant a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 (gan gynnwys yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 (arfer swyddogaethau ar y cyd));
(c)yn awdurdodi prif gyngor arall i arfer y swyddogaeth o dan orchymyn a wneir o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 70);
(d)y swyddogaeth yn cael ei harfer mewn perthynas â’i brif ardal a phrif ardal prif gyngor arall gan gyd-bwyllgor corfforedig;
(e)yn arfer y swyddogaeth drwy gydweithio â phrif gyngor arall o dan unrhyw ddeddfiad arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I84A. 69 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Caiff unrhyw ddau brif gyngor neu ragor wneud cais ar y cyd (“cais cyd-bwyllgor”) i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 72 i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer—
(a)swyddogaeth i’r cynghorau hynny;
(b)y swyddogaeth llesiant economaidd,
mewn perthynas â phrif ardaloedd y cynghorau hynny.
(2)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cael cais cyd-bwyllgor, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 72, rhaid iddynt hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I85A. 70 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
Cyn gwneud cais cyd-bwyllgor rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag—
(a)pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,
(b)pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,
(c)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,
(d)y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,
(e)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac
(f)unrhyw bersonau eraill y mae’r prif gynghorau yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I86A. 71 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, sefydlu corff corfforedig (a elwir yn gyd-bwyllgor corfforedig) i arfer, mewn perthynas â phrif ardaloedd y prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor (“y cynghorau perthnasol”), swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau.
(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau a nodir yn adran 73 wedi eu bodloni.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ond pennu—
(a)swyddogaeth i’r prif gynghorau a wnaeth y cais;
(b)y swyddogaeth llesiant economaidd.
(4)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—
(a)yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y cynghorau perthnasol, neu
(b)yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r cynghorau perthnasol.
(5)Caniateir i swyddogaeth prif gyngor gael ei phennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I87A. 72 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 72(2) fel a ganlyn.
(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi cael cais cyd-bwyllgor.
(3)Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol ar ddrafft o’r rheoliadau arfaethedig—
(a)y prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor,
(b)pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,
(c)pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,
(d)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,
(e)y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,
(f)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac
(g)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(4)Y trydydd amod yw bod pob un o’r prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r rheoliadau gael eu gwneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I88A. 73 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, sefydlu corff corfforedig (a elwir yn gyd-bwyllgor corfforedig) i arfer, mewn perthynas â’r prif ardaloedd a bennir yn y rheoliadau (“yr ardaloedd perthnasol”), swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau.
(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau a nodir yn adran 75 wedi eu bodloni.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ond pennu—
(a)swyddogaeth y prif gynghorau ar gyfer yr ardaloedd perthnasol sy’n ymwneud ag—
(i)gwella addysg;
(ii)trafnidiaeth;
(b)y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (gweler is-adran (4) ynglŷn â hynny);
(c)y swyddogaeth llesiant economaidd.
(4)Pan bennir y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol mewn rheoliadau cyd-bwyllgor, mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) yn gymwys i’r cyd-bwyllgor corfforedig.
(5)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—
(a)yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y prif gynghorau ar gyfer yr ardaloedd perthnasol, neu
(b)yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r prif gynghorau hynny.
(6)Caniateir i swyddogaeth prif gyngor gael ei phennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I89A. 74 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 74(2) fel a ganlyn.
(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol ar ddrafft o’r rheoliadau—
(a)y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau,
(b)pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,
(c)pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,
(d)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,
(e)y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,
(f)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac
(g)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(3)Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud rheoliadau o dan adran 74, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad—
(a)i’r prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau, a
(b)os yw’r rheoliadau yn pennu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, i’r awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn unrhyw un neu ragor o’r prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau.
(4)Gellir bodloni’r amod cyntaf drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I90A. 75 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Caiff cyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth llesiant economaidd iddo wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.
(2)Caniateir i’r swyddogaeth llesiant economaidd gael ei harfer mewn perthynas â’r canlynol neu er budd y canlynol—
(a)ardal gyfan y cyd-bwyllgor corfforedig neu unrhyw ran ohoni;
(b)yr holl bersonau neu unrhyw bersonau sy’n preswylio neu’n bresennol yn ei ardal.
(3)Mae’r swyddogaeth llesiant economaidd yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw beth mewn perthynas ag unrhyw berson neu ardal, neu er budd unrhyw berson neu ardal, a leolir y tu allan i ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys ardaloedd y tu allan i Gymru, os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.
(4)Mae is-adrannau (1) i (3) yn ddarostyngedig i unrhyw waharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau cyd-bwyllgor neu reoliadau o dan adran 83.
Gwybodaeth Cychwyn
I91A. 76 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor ddarparu bod prif aelodau gweithrediaeth y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig yn aelodau o’r pwyllgor.
(2)Pan fo’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol wedi ei phennu mewn rheoliadau cyd-bwyllgor a bod unrhyw ran o Barc Cenedlaethol yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch aelodaeth yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw o’r pwyllgor.
(3)Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor wneud darpariaeth, yn benodol, ynglŷn ag—
(a)yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), cyfansoddiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys ynglŷn â chyfethol aelodau i’r pwyllgor neu i unrhyw is-bwyllgor);
(b)enw cyd-bwyllgor corfforedig;
(c)sefydlu is-bwyllgorau i gyd-bwyllgor corfforedig;
(d)trafodion cyd-bwyllgor corfforedig ac unrhyw is-bwyllgor (gan gynnwys darpariaeth ynglŷn â hawliau pleidleisio);
(e)pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i drefnu i berson arall arfer ei swyddogaethau;
(f)pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer, ar ran unrhyw berson, unrhyw swyddogaethau sydd gan y person hwnnw;
(g)pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer ei swyddogaethau, ac eithrio swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), ar y cyd, neu drwy gydweithio fel arall, â pherson arall;
(h)pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;
(i)cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd i aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig neu o unrhyw is-bwyllgor;
(j)ariannu cyd-bwyllgor corfforedig;
(k)cyllid cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—
(i)cyd-bwyllgor corfforedig yn benthyca arian neu’n ei roi ar fenthyg;
(ii)cyd-bwyllgor corfforedig yn rhoi neu’n cael cymorth ariannol;
(iii)cyd-bwyllgor corfforedig yn codi ffioedd;
(l)pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i wneud, at ddiben masnachol, unrhyw beth y caiff ei wneud wrth arfer ei swyddogaethau;
(m)perfformiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys gwneud pwyllgor yn destun craffu gan berson arall);
(n)cyd-bwyllgor corfforedig yn caffael, yn perchnogi neu’n gwaredu eiddo (tirol neu bersonol) neu hawliau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer caffael tir yn orfodol);
(o)cyd-bwyllgor corfforedig yn cychwyn achos cyfreithiol neu’n cymryd rhan mewn achos cyfreithiol (gan gynnwys cymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus);
(p)pwerau Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i—
(i)cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii)prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig;
(iii)os yw’r rheoliadau cyd-bwyllgor yn pennu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig,
ac ynglŷn â gorfodi’r cyfarwyddydau hynny;
(q)pŵer cyd-bwyllgor corfforedig i wneud pethau er mwyn hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.
(4)At ddibenion is-adran (1), ystyr “prif aelod gweithrediaeth” yw—
(a)yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yr arweinydd gweithrediaeth;
(b)yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer etholedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I92A. 77 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Caiff y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 80 i ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau cyd-bwyllgor a sefydlodd y cyd-bwyllgor corfforedig.
(2)Ond ni chaiff cais o dan yr adran hon ofyn i Weinidogion Cymru ystyried—
(a)diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—
(i)onid yw honno yn swyddogaeth i’r cynghorau sy’n gwneud y cais;
(ii)onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;
(b)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 (rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud) er mwyn—
(i)hepgor neu addasu swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;
(ii)hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;
(iii)hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd neu osod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth honno;
(c)dirymu rheoliadau a wnaed o dan adran 74.
(3)Ni chaniateir gwneud cais o dan yr adran hon yn gofyn i Weinidogion Cymru ystyried diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal (fel y bydd y cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â’r ardal honno) oni fo’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno yn un o’r ceiswyr.
Gwybodaeth Cychwyn
I93A. 78 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Cyn gwneud cais o dan adran 78 rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, ar ôl cael cais o dan adran 78, peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 80, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I94A. 79 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor.
(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) onid yw—
(a)yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 72 (rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt), yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;
(b)yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth, ac eithrio er mwyn—
(i)pennu, addasu neu hepgor swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;
(ii)pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;
(iii)pennu neu hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd,
yr amodau a nodir yn adran 81 wedi eu bodloni;
(c)mewn unrhyw achos arall (gan gynnwys yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau o dan adran 74 er mwyn gosod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd), yr amodau a nodir yn adran 82 wedi eu bodloni.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—
(a)onid yw honno yn swyddogaeth i’r prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;
(b)onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;
(c)yn achos rheoliadau sy’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74, onid honno yw’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol.
(4)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—
(a)yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, neu
(b)yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r prif gynghorau hynny.
(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth prif gyngor drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.
(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) sydd—
(a)yn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn hepgor swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau cyd-bwyllgor hynny, neu
(b)yn dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor (er mwyn diddymu’r cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd gan y rheoliadau hynny),
ddarparu y bydd swyddogaeth a fydd yn peidio â bod yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig, ac eithrio’r swyddogaeth llesiant economaidd neu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yn arferadwy gan berson arall.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddirymu rheoliadau a wnaed o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I95A. 80 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(a) a (b) fel a ganlyn.
(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi cael cais o dan adran 78 i ddiwygio’r rheoliadau cyd-bwyllgor.
(3)Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.
(4)Y trydydd amod yw bod pob un o’r prif gynghorau a wnaeth y cais wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r rheoliadau gael eu gwneud.
(5)Y pedwerydd amod yw, os yw’r amodau yn is-adrannau (2) i (4) wedi eu bodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i’r cyd-bwyllgor corfforedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I96A. 81 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(c) fel a ganlyn.
(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.
(3)Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i—
(a)y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig,
(b)os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal—
(i)y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, a
(ii)os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, neu os bydd ganddo’r swyddogaeth honno o dan y rheoliadau, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal honno,
(c)os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, a
(d)y cyd-bwyllgor corfforedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I97A. 82 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed sy’n gymwys mewn perthynas ag—
(a)pob cyd-bwyllgor corfforedig;
(b)cyd-bwyllgor corfforedig penodol;
(c)cyd-bwyllgor corfforedig o ddisgrifiad penodol.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth hefyd sy’n gosod gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd gan gyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth honno iddo.
(4)Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau cyd-bwyllgor.
(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—
(a)ar gyfer trosglwyddo eiddo (tirol neu bersonol), hawliau neu atebolrwyddau (gan gynnwys atebolrwyddau troseddol, a hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â chontract cyflogaeth)—
(i)o brif gyngor i gyd-bwyllgor corfforedig;
(ii)o awdurdod Parc Cenedlaethol i gyd-bwyllgor corfforedig;
(iii)o gyd-bwyllgor corfforedig i un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;
(iv)o gyd-bwyllgor corfforedig i un prif gyngor neu ragor, i un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu i un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;
(v)o berson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) i un prif gyngor neu ragor neu i un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;
(b)ar gyfer rheoli neu gadw eiddo a drosglwyddir i gyd-bwyllgor corfforedig neu a gaffaelir ganddo fel arall;
(c)i achos sifil neu droseddol—
(i)a gychwynnwyd gan neu yn erbyn prif gyngor gael ei barhau gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii)a gychwynnwyd gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig gael ei barhau gan neu yn erbyn un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;
(iii)a gychwynnwyd gan neu yn erbyn cyd-bwyllgor corfforedig gael ei barhau gan neu yn erbyn un prif gyngor neu ragor, un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;
(iv)a gychwynnwyd gan neu yn erbyn person y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) gael ei barhau gan neu yn erbyn un prif gyngor neu ragor neu un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;
(d)yn ddarostyngedig i is-adran (6), ar gyfer trosglwyddo staff—
(i)o brif gyngor i gyd-bwyllgor corfforedig;
(ii)o awdurdod Parc Cenedlaethol i gyd-bwyllgor corfforedig;
(iii)o gyd-bwyllgor corfforedig i un cyd-bwyllgor corfforedig arall neu ragor;
(iv)o gyd-bwyllgor corfforedig i un prif gyngor neu ragor, i un person neu ragor y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo neu ganddynt yn rhinwedd adran 80(6) neu i un awdurdod Parc Cenedlaethol neu ragor;
(v)o berson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) i un prif gyngor neu ragor neu i un cyd-bwyllgor corfforedig neu ragor;
(e)ynglŷn â materion staffio eraill (gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd);
(f)ar gyfer trin at rai dibenion neu at bob diben—
(i)cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â phrif gyngor;
(ii)cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod Parc Cenedlaethol;
(iii)cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â chyd-bwyllgor corfforedig arall;
(iv)cyd-bwyllgor corfforedig fel yr un person mewn cyfraith â pherson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6);
(v)prif gyngor, person y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6) neu awdurdod Parc Cenedlaethol fel yr un person mewn cyfraith â chyd-bwyllgor corfforedig;
(vi)prif gyngor fel yr un person mewn cyfraith â pherson y mae swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd adran 80(6);
(g)ynglŷn â phethau y caiff cyd-bwyllgor corfforedig eu gwneud neu y mae rhaid iddo eu gwneud sy’n atodol i swyddogaethau’r pwyllgor a bennir mewn rheoliadau cyd-bwyllgor yn rhinwedd adran 72(1), 74(1) neu 80(1), neu sy’n gysylltiedig â hwy;
(h)ynglŷn â darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan brif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i berson a bennir yn y rheoliadau;
(i)ynglŷn â chydweithredu gan brif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig â pherson a bennir yn y rheoliadau;
(j)ar gyfer talu digollediad mewn cysylltiad â cholled a ddioddefir gan unrhyw berson o ganlyniad i swyddogaeth sy’n dod, neu’n peidio â bod, yn arferadwy gan gyd-bwyllgor corfforedig.
(6)Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor, rheoliadau o dan adran 80 neu reoliadau o dan yr adran hon sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff gymhwyso darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, i’r trosglwyddiadau hynny (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 ai peidio).
(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan is-adran (2) neu reoliadau a wneir o dan yr is-adran hon; a chaiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
Gwybodaeth Cychwyn
I98A. 83 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 neu 83—
(a)diwygio, addasu, cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad;
(b)diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion y Rhan hon neu fel arall mewn cysylltiad â hi, drwy reoliadau—
(a)diwygio, addasu, cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad;
(b)diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I99A. 84 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol—
(a)at ddibenion ystyried a ddylid gwneud rheoliadau o dan y Rhan hon;
(b)at ddibenion rhoi effaith i’r rheoliadau hynny;
(c)fel arall mewn cysylltiad â’r rheoliadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I100A. 85 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Rhaid i brif gynghorau a chyd-bwyllgorau corfforedig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Penodau 3 a 4 a’r Bennod hon.
(2)Rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Pennod 4 a’r Bennod hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I101A. 86 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).
(2)Nid yw’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.
(3)Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr prif gyngor at ddibenion y swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).
(4)Y swyddogaethau yw—
(a)gwneud cais cyd-bwyllgor;
(b)rhoi cydsyniad o dan adran 73(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu gwneud;
(c)gwneud cais o dan adran 78 i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor;
(d)rhoi cydsyniad o dan adran 81(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu diwygio.
Gwybodaeth Cychwyn
I102A. 87 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Mae Rhan 1 o Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a deddfiadau eraill er mwyn—
(a)diddymu pwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu paneli cynllunio strategol ac ardaloedd cynllunio strategol, a
(b)darparu ar gyfer rhoi swyddogaethau sy’n ymwneud â llunio cynlluniau datblygu strategol i gyd-bwyllgorau corfforedig penodol.
(2)Mae Rhan 2 o Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio deddfiadau eraill er mwyn diddymu pŵer Gweinidogion Cymru i sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I103A. 88 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Rhaid i brif gyngor adolygu’n barhaus i ba raddau—
(a)y mae’n arfer ei swyddogaethau yn effeithiol,
(b)y mae’n defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol, ac
(c)y mae ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol o ran cyflawni’r materion a nodir ym mharagraffau (a) a (b).
(2)Yn y Bennod hon, cyfeirir at y materion a nodir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1) fel “y gofynion perfformiad”.
(3)Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag—
(a)y gofynion perfformiad;
(b)y modd y mae’n arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon.
Rhaid i brif gyngor ymgynghori â’r canlynol o bryd i’w gilydd, ac o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ariannol, ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad—
(a)pobl leol,
(b)personau eraill sy’n cynnal busnes yn ardal y cyngor,
(c)staff y cyngor, a
(d)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan y cyngor.
(1)Rhaid i brif gyngor, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad sy’n nodi ei gasgliadau ynglŷn ag i ba raddau y gwnaeth fodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
(2)Yn yr adran hon, cyfeirir at adroddiad o dan is-adran (1) fel “adroddiad hunanasesu”.
(3)Rhaid i adroddiad hunanasesu prif gyngor nodi unrhyw gamau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd, ac unrhyw gamau y mae eisoes wedi eu cymryd, gyda’r nod o gynyddu’r graddau y bydd yn bodloni’r gofynion perfformiad yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4)Rhaid i adroddiad hunanasesu (ac eithrio adroddiad hunanasesu cyntaf prif gyngor) gynnwys casgliadau’r cyngor ynglŷn ag i ba raddau y gwnaeth unrhyw gamau a gynhwyswyd yn rhinwedd is-adran (3) yn adroddiad blaenorol y cyngor gynyddu’r graddau y bodlonodd y cyngor y gofynion perfformiad yn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad hunanasesu yn ymwneud â hi.
(5)Wrth ddod i’r casgliadau yn ei adroddiad hunanasesu rhaid i gyngor ystyried safbwyntiau’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 90 (pa un a gafwyd y safbwyntiau hynny o dan adran 90 neu fel arall) ynglŷn ag i ba raddau y bodlonodd y cyngor y gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(6)Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’i adroddiad hunanasesu ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(7)Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r adroddiad drafft a chaiff argymell newidiadau i’r casgliadau, neu i unrhyw beth a gynhwysir yn rhinwedd is-adran (3), yn y fersiwn ddrafft.
(8)Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (7), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr adroddiad, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.
(9)Rhaid i’r cyngor wneud adroddiad hunanasesu mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno.
(10)Cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cyngor yn llunio’r adroddiad rhaid i’r cyngor—
(a)cyhoeddi’r adroddiad,
(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r cyngor, ac
(c)anfon yr adroddiad at—
(i)Archwilydd Cyffredinol Cymru,
(ii)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a
(iii)Gweinidogion Cymru.
(11)Caiff cyngor gyhoeddi ei adroddiad hunanasesu mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol a’i adroddiad o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (cynnydd tuag at gyflawni amcanion llesiant) mewn cysylltiad â’r un flwyddyn ariannol yn yr un ddogfen.
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Rhaid i brif gyngor wneud trefniadau fel bod panel a benodir gan y cyngor, o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin olynol ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor, yn asesu i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad.
(2)Yn yr adran hon, cyfeirir at asesiad o dan is-adran (1) fel “asesiad perfformiad gan banel”.
(3)Wrth gynnal asesiad perfformiad gan banel mewn cysylltiad â chyngor, rhaid i banel ymgynghori â’r canlynol ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad—
(a)pobl leol,
(b)personau eraill sy’n cynnal busnes yn ardal y cyngor,
(c)staff y cyngor, a
(d)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan y cyngor.
(4)Yn dilyn asesiad perfformiad gan banel rhaid i banel lunio adroddiad sy’n nodi—
(a)ei gasgliadau ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad;
(b)unrhyw gamau y mae’r panel yn argymell bod y cyngor yn eu cymryd er mwyn cynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.
(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud yr adroddiad rhaid i’r panel ei anfon—
(a)i’r cyngor,
(b)at Archwilydd Cyffredinol Cymru,
(c)at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a
(d)at Weinidogion Cymru.
(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr adroddiad gan y panel, rhaid i’r cyngor—
(a)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r cyngor, a
(b)cyhoeddi’r adroddiad.
(7)Rhaid i drefniadau o dan is-adran (1) alluogi’r prif gyngor i gyhoeddi o leiaf un adroddiad cyn y diwrnod sydd chwe mis cyn y diwrnod y mae’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor i fod i’w gynnal.
(8)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at banel yn gyfeiriad at aelodau’r panel hwnnw yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth y mynegir ei bod yn swyddogaeth i banel yn swyddogaeth sy’n perthyn i bob aelod o’r panel na chaniateir ei harfer oni fo’n cael ei harfer ar y cyd â’r aelodau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I107A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Rhaid i brif gyngor lunio ymateb i bob adroddiad a wneir o dan adran 92(4) mewn cysylltiad â’r cyngor.
(2)Rhaid i’r ymateb ddatgan—
(a)i ba raddau y mae’r cyngor yn derbyn y casgliadau yn yr adroddiad ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad,
(b)i ba raddau y mae’r cyngor yn bwriadu dilyn unrhyw argymhellion sydd yn yr adroddiad, ac
(c)unrhyw gamau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.
(3)Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’r ymateb ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(4)Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r ymateb drafft a chaiff wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r datganiadau a wneir yn y fersiwn ddrafft o dan is-adran (2).
(5)Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (4), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr ymateb, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.
(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio’r ymateb terfynol rhaid i’r cyngor—
(a)cyhoeddi’r ymateb, a
(b)anfon yr ymateb at—
(i)aelodau’r panel,
(ii)Archwilydd Cyffredinol Cymru,
(iii)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a
(iv)Gweinidogion Cymru.
(7)Rhaid i drefniadau o dan adran 92(1) alluogi’r prif gyngor i gyhoeddi o leiaf un ymateb i adroddiad cyn y diwrnod sydd bedwar mis cyn y diwrnod y mae’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor i fod i’w gynnal.
Gwybodaeth Cychwyn
I108A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer penodi paneli gan brif gynghorau o dan adran 92(1), ac mewn cysylltiad â hynny.
(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—
(a)penodi aelodau o banel (gan gynnwys nifer, ac unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir neu y mae rhaid eu penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer penodi);
(b)talu ffioedd i aelodau o banel neu mewn perthynas â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I109A. 94 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(k)
(1)Os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru (“yr Archwilydd Cyffredinol”) yn ystyried bod prif gyngor yn methu, neu y gallai fod yn methu, â bodloni’r gofynion perfformiad, caiff yr Archwilydd Cyffredinol gynnal arolygiad er mwyn asesu i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion hynny.
(2)Yn y Bennod hon, cyfeirir at arolygiad o dan is-adran (1) fel “arolygiad arbennig”.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ofyn i’r Archwilydd Cyffredinol ystyried—
(a)a yw prif gyngor penodol yn methu, neu a allai fod yn methu, â bodloni’r gofynion perfformiad, a
(b)cynnal arolygiad arbennig.
(4)Cyn penderfynu a ddylid cynnal arolygiad arbennig o brif gyngor, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â Gweinidogion Cymru, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cais o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r cyngor.
(5)Cyn cynnal arolygiad arbennig o brif gyngor rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi hysbysiad mewn ysgrifen i’r cyngor sy’n pennu—
(a)rhesymau’r Archwilydd Cyffredinol dros ystyried bod y cyngor yn methu, neu y gallai fod yn methu, â bodloni’r gofynion perfformiad, a
(b)y materion y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu eu harolygu (ond nid yw’r Archwilydd Cyffredinol wedi ei gyfyngu i arolygu’r materion a bennir yn yr hysbysiad yn unig).
(6)Yn dilyn arolygiad arbennig o gyngor rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol lunio adroddiad sy’n nodi—
(a)casgliadau’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, a
(b)unrhyw gamau y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn argymell bod y cyngor neu Weinidogion Cymru yn eu cymryd at ddibenion—
(i)cynyddu’r graddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad;
(ii)gwella effeithiolrwydd llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor.
(7)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—
(a)cyhoeddi’r adroddiad, a
(b)anfon yr adroddiad—
(i)i’r cyngor,
(ii)at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a
(iii)at Weinidogion Cymru.
(8)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol rhaid i’r cyngor sicrhau ei fod ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(9)Os yw adroddiad yn ymdrin â’r modd y mae’r cyngor yn gweinyddu budd-dal tai, caiff yr Archwilydd Cyffredinol anfon yr adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol.
(1)Os yw adroddiad a lunnir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 95(6) yn cynnwys argymhellion o dan adran 95(6)(b) i brif gyngor gymryd camau, rhaid i’r cyngor lunio ymateb i’r argymhellion.
(2)Rhaid i’r ymateb ddatgan pa gamau, os oes rhai, y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion.
(3)Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’r ymateb ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(4)Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r ymateb drafft a chaiff wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r datganiad a wneir yn y fersiwn ddrafft o dan is-adran (2).
(5)Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (4), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr ymateb, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.
(6)Rhaid i’r cyngor anfon yr ymateb at yr Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd—
(a)y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cyngor yn cael adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, neu
(b)unrhyw gyfnod hirach y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei bennu mewn ysgrifen.
(7)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl anfon yr ymateb at yr Archwilydd Cyffredinol rhaid i’r cyngor—
(a)cyhoeddi’r ymateb, a
(b)anfon yr ymateb at—
(i)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a
(ii)Gweinidogion Cymru.
(1)Os yw adroddiad a lunnir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 95(6) yn cynnwys argymhellion o dan adran 95(6)(b) i Weinidogion Cymru gymryd camau, rhaid i Weinidogion Cymru lunio ymateb i’r argymhellion.
(2)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi’r ymateb, a
(b)anfon yr ymateb—
(i)at yr Archwilydd Cyffredinol,
(ii)i’r prif gyngor y mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ymwneud ag ef, a
(iii)at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
(1)Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg resymol, fynd i unrhyw fangre prif gyngor a gwneud unrhyw beth y mae’r arolygydd yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyngor hwnnw, gan gynnwys arolygu dogfen y mae’r cyngor yn ei dal.
(2)Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor ddarparu i’r arolygydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyngor hwnnw—
(a)dogfen y mae’r cyngor yn ei dal;
(b)cyfleusterau a chymorth.
(3)Os yw arolygydd yn ystyried y gallai person ddarparu gwybodaeth, eglurhad neu ddogfen y mae’r arolygydd yn ystyried ei bod neu ei fod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddod gerbron yr arolygydd ar unrhyw adeg resymol i ddarparu’r wybodaeth, yr eglurhad neu’r ddogfen.
(4)Caiff arolygydd—
(a)gwneud copïau o ddogfen a arolygir o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd o dan is-adran (2)(a) neu (3);
(b)ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor ddarparu i’r arolygydd gopi darllenadwy, gan gynnwys copi electronig darllenadwy, o ddogfen a arolygir o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd o dan is-adran (2)(a);
(c)cadw dogfen a arolygir o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd o dan is-adran (2)(a) neu (3), ond dim ond am ba hyd bynnag y bo’n angenrheidiol at ddibenion yr arolygiad arbennig.
(5)Yn yr adran hon ac yn adrannau 99 a 100, ystyr “arolygydd” yw Archwilydd Cyffredinol Cymru neu berson sy’n arfer swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y Bennod hon yn rhinwedd dirprwyad a wneir o dan adran 18 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3).
(1)Ni chaiff arolygydd fynd i fangre prif gyngor wrth arfer y pwerau o dan adran 98(1) (pwerau i fynd i fangre cyngor a gwneud pethau at ddibenion arolygiad arbennig)—
(a)oni fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r cyngor, a
(b)oni cheir o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’r arolygydd yn mynd i’r fangre.
(2)Ni chaiff arolygydd arfer y pwerau o dan adran 98(2) (pwerau i’w gwneud yn ofynnol darparu dogfennau, cyfleusterau a chymorth)—
(a)oni fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r cyngor, a
(b)oni cheir o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r cyngor ddarparu’r ddogfen, y cyfleusterau neu’r cymorth.
(3)Nid yw’r gofynion yn is-adrannau (1) a (2) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i brif gyngor yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arolygiad arbennig o’r cyngor hwnnw.
(4)Ni chaiff arolygydd arfer y pŵer o dan adran 98(3) (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i bersonau ddod gerbron arolygydd)—
(a)oni fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r person, a
(b)oni cheir, rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r person ddod gerbron yr arolygydd—
(i)o leiaf dri diwrnod gwaith os yw’r person yn aelod o brif gyngor neu’n aelod o staff prif gyngor, neu
(ii)o leiaf saith niwrnod gwaith mewn unrhyw achos arall.
(5)Caniateir rhoi rhybudd o dan is-adran (1) neu (2) i brif gyngor drwy—
(a)gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa’r cyngor;
(b)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa’r cyngor;
(c)anfon y rhybudd i unrhyw gyfeiriad e-bost y mae’r cyngor wedi ei bennu ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru at ddibenion cael rhybuddion o dan yr adran hon.
(6)Caniateir rhoi rhybudd o dan is-adran (4) i aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor drwy—
(a)gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa’r cyngor;
(b)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa’r cyngor;
(c)rhoi’r rhybudd drwy law’r person;
(d)gadael y rhybudd ym mhreswylfa hysbys olaf y person;
(e)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i breswylfa hysbys olaf y person.
(7)Caniateir rhoi rhybudd o dan is-adran (4) i berson ac eithrio aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor drwy—
(a)rhoi’r rhybudd drwy law’r person;
(b)gadael y rhybudd ym mhreswylfa neu fan busnes hysbys olaf y person;
(c)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i breswylfa neu fan busnes hysbys olaf y person.
(8)Rhaid i’r arolygydd ddangos tystiolaeth ei fod yn arolygydd os yw person y mae’r arolygydd yn ceisio arfer pŵer yn ei gylch o dan adran 98 yn gofyn iddo wneud hynny (ac os nad yw’r arolygydd yn dangos y dystiolaeth honno nid yw’r pŵer yn arferadwy).
(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir o dan adran 98(2), (3) neu (4)(b), heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.
(2)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol arolygydd rhag arfer neu geisio arfer pŵer o dan adran 98(1) neu (4)(a) neu (c) yn cyflawni trosedd.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(4)Mae’r treuliau rhesymol yr aeth arolygydd iddynt mewn achos ar gyfer trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yr honnir ei bod wedi ei chyflawni mewn perthynas ag arolygiad arbennig, i’r graddau nad ydynt yn adenilladwy o unrhyw ffynhonnell arall, yn adenilladwy gan y prif gyngor y mae’r arolygiad arbennig yn ymwneud ag ef.
(1)Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ragnodi graddfa ffioedd mewn cysylltiad ag arolygiadau arbennig.
(2)Rhaid i brif gyngor y cynhelir arolygiad arbennig mewn cysylltiad ag ef, yn ddarostyngedig i is-adran (3), dalu i Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â chynllun ar gyfer codi ffioedd a lunnir o dan adran 24 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3), y ffi sy’n daladwy o dan y raddfa a ragnodir o dan is-adran (1).
(3)Os yw’n ymddangos i Swyddfa Archwilio Cymru bod y gwaith a oedd yn gysylltiedig ag arolygiad arbennig penodol yn sylweddol fwy neu’n sylweddol lai na’r hyn a ragwelwyd gan y raddfa a ragnodir o dan is-adran (1), caiff Swyddfa Archwilio Cymru godi ffi sy’n fwy neu’n llai na’r hyn a grybwyllir yn is-adran (2).
(4)Ond ni chaiff ffi a godir o dan yr adran hon fod yn fwy na chost lawn cynnal y gweithgaredd y mae’n ymwneud ag ef.
(5)Cyn rhagnodi graddfa ffioedd o dan yr adran hon rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ymgynghori ag—
(a)Gweinidogion Cymru, a
(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw gefnogaeth a chymorth i brif gyngor y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad.
(2)Caiff prif gyngor ofyn i Weinidogion Cymru ystyried darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor o dan is-adran (1).
(3)Cyn darparu cefnogaeth a chymorth i brif gyngor o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyngor ynglŷn â’r gefnogaeth a’r cymorth y maent yn bwriadu eu darparu.
(4)Mae’r swyddogaeth yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer—
(a)i ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall ag unrhyw berson;
(b)i gydweithredu ag unrhyw berson, neu i hwyluso neu gydgysylltu gweithgareddau unrhyw berson;
(c)i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau ac adeiladau neu ystafelloedd i unrhyw berson.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor i ddarparu i brif gyngor arall (“y cyngor a gefnogir”) unrhyw gefnogaeth a chymorth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyngor a gefnogir yn bodloni’r gofynion perfformiad.
(2)Rhaid i’r gefnogaeth a’r cymorth sydd i’w darparu gael eu pennu yn y cyfarwyddyd.
(3)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ddau gyngor.
(4)Mae’r gefnogaeth a’r cymorth y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor i’w darparu yn cynnwys—
(a)ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall â’r cyngor a gefnogir (a chaiff y cyfarwyddyd bennu ei delerau a’i amodau);
(b)cydweithredu â’r cyngor a gefnogir, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;
(c)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau ac adeiladau neu ystafelloedd i’r cyngor a gefnogir.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd ymyrryd i brif gyngor neu mewn perthynas â phrif gyngor os ydynt yn ystyried—
(a)ei bod yn debygol nad yw’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, neu
(b)nad yw’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad.
(2)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd ymyrryd rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)darparu neu geisio darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor (a all gynnwys cyfarwyddo cyngor arall o dan adran 103),
(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, ac
(c)hysbysu’r cyngor eu bod yn bwriadu rhoi’r cyfarwyddyd.
(3)Nid yw gofyniad ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen brys i roi’r cyfarwyddyd a bod cymaint o frys fel y byddai’n briodol gwneud hynny heb gymryd y cam a nodir yn y paragraff.
(4)Yn yr adran hon ystyr “cyfarwyddyd ymyrryd” yw cyfarwyddyd o dan adran 105, 106 neu 107; ac mae’r adrannau hynny yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) i (3) o’r adran hon.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“y cyngor a gefnogir”) i gydweithredu ag—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)prif gyngor sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan adran 103,
at ddibenion galluogi darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor a gefnogir.
(2)Pan fydd cyfarwyddyd o dan yr adran hon yn cael effaith rhaid i’r cyngor a gefnogir ddarparu i berson y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu (b) y pethau a ganlyn, i’r graddau y bo’r person yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion darparu cefnogaeth a chymorth i’r cyngor—
(a)mynediad at ei fangreoedd;
(b)mynediad at y dogfennau a gedwir ganddo (a rhaid i’r cyngor a gefnogir ganiatáu i’r person gymryd copïau o’r dogfennau hynny);
(c)gwybodaeth arall;
(d)cyfleusterau a chymorth.
(3)Ond nid yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor ddarparu, neu ddarparu mynediad at, unrhyw beth y mae’r cyngor wedi ei wahardd rhag ei ddarparu neu ddarparu mynediad ato gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol.
(4)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i gyngor a gefnogir gydweithredu â pherson y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu (b) drwy gymryd camau a bennir yn y cyfarwyddyd, gan gynnwys—
(a)ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall (a chaiff y cyfarwyddyd bennu ei delerau a’i amodau) â’r person hwnnw;
(b)caniatáu i’r person hwnnw hwyluso neu gydgysylltu unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r cyngor.
(5)Yn is-adran (1)(a) a (b), mae’r cyfeiriadau at Weinidogion Cymru a phrif gyngor sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan adran 103 yn cynnwys person sy’n gweithredu ar eu rhan, yn eu cynorthwyo neu’n awdurdodedig ganddynt.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—
(a)i gymryd cam penodedig (a chaiff y cyfarwyddyd bennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y cam o fewn iddo);
(b)i gadw rhag cymryd cam penodedig;
(c)i roi’r gorau i gymryd cam penodedig (a chaiff y cyfarwyddyd bennu terfyn amser y mae rhaid i’r cyngor roi’r gorau i gymryd y cam o fewn iddo).
(2)Mae’r camau y caiff cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i gyngor eu cymryd yn cynnwys ymrwymo i gontract neu gytundeb neu drefniant arall—
(a)gyda pherson penodedig;
(b)gyda pherson o ddisgrifiad penodedig;
(c)at ddibenion penodedig;
(d)ar delerau ac amodau penodedig.
(3)Yn yr adran hon mae “penodedig” yn golygu penodedig yn y cyfarwyddyd.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod swyddogaeth benodedig prif gyngor i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu gan berson a enwebir ganddynt.
(2)Pan fydd cyfarwyddyd o dan yr adran hon yn cael effaith rhaid i’r prif gyngor—
(a)cydymffurfio â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth benodedig;
(b)darparu i Weinidogion Cymru neu eu henwebai y pethau a ganlyn, i’r graddau y bo Gweinidogion Cymru neu eu henwebai yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arfer y swyddogaeth benodedig—
(i)mynediad at ei fangreoedd;
(ii)mynediad at ddogfennau a gedwir ganddo (a rhaid i’r prif gyngor ganiatáu i Weinidogion Cymru neu eu henwebai gymryd copïau o’r dogfennau hynny);
(iii)gwybodaeth arall;
(iv)cyfleusterau a chymorth;
(c)cymryd unrhyw gamau penodedig.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, gymhwyso deddfiad gydag addasiadau, neu ddatgymhwyso deddfiad, mewn perthynas â swyddogaethau sy’n arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai yn rhinwedd cyfarwyddyd o fewn yr adran hon.
(4)Yn is-adran (2) mae’r cyfeiriadau at Weinidogion Cymru a’u henwebai yn cynnwys person sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru neu eu henwebai, yn eu cynorthwyo neu’n awdurdodedig ganddynt.
(5)Yn yr adran hon mae “penodedig” yn golygu penodedig yn y cyfarwyddyd.
(1)Caniateir i swyddogaeth a roddir i brif gyngor o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon (ac eithrio swyddogaethau a roddir yn benodol i bwyllgor llywodraethu ac archwilio) gael ei harfer gan y cyngor neu gan ei weithrediaeth, yn unol â phenderfyniad y cyngor.
(2)Os yw prif gyngor yn penderfynu bod swyddogaeth a grybwyllir yn is-adran (4) i’w harfer gan y cyngor, nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.
(3)Os yw prif gyngor yn penderfynu bod swyddogaeth a grybwyllir yn is-adran (4) i’w harfer gan y weithrediaeth, nid yw adran 14 nac (yn ôl y digwydd) adran 15 o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau gan weithrediaethau) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.
(4)Y swyddogaethau yw—
(a)adran 91(1) (adroddiad hunanasesu);
(b)adran 91(8) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag adroddiad);
(c)adran 92(1) (penodi panel asesiad perfformiad);
(d)adran 93(1) (ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel);
(e)adran 93(5) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag ymateb i adroddiad gan banel);
(f)adran 96(1) (ymateb i argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);
(g)adran 96(5) (ymateb i argymhellion ynglŷn ag ymateb i Archwilydd Cyffredinol Cymru);
(h)adran 102(2) (cais i Weinidogion Cymru am gefnogaeth a chymorth).
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r darpariaethau a ganlyn er mwyn ychwanegu person at y rhestrau yn y darpariaethau hynny—
(a)adran 91(10)(c) (adroddiad hunanasesu);
(b)adran 92(5) (adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel);
(c)adran 93(6)(b) (ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel);
(d)adran 95(7)(b) (adroddiad ar arolygiad arbennig);
(e)adran 96(7)(b) (ymateb prif gyngor i argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);
(f)adran 97(2)(b) (ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru).
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod deddfiad (ac eithrio darpariaeth yn y Bennod hon) yn atal neu’n rhwystro prif gyngor rhag cydymffurfio â’r Bennod hon, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio, addasu, ddiddymu, ddirymu neu ddatgymhwyso’r deddfiad hwnnw mewn perthynas ag—
(a)pob prif gyngor,
(b)prif gynghorau penodol, neu
(c)prif gynghorau o ddisgrifiadau penodol.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy’n rhoi i—
(a)pob prif gyngor,
(b)prif gynghorau penodol, neu
(c)prif gynghorau o ddisgrifiadau penodol,
unrhyw bŵer y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn caniatáu i brif gyngor gydymffurfio â’r Bennod hon, neu sy’n hwyluso hynny.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) osod amodau ar arfer unrhyw bŵer a roddir gan y rheoliadau (gan gynnwys amodau ynglŷn ag ymgynghori neu gymeradwyo).
(1)Rhaid i berson sydd â swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer y swyddogaethau hynny.
(2)Wrth arfer swyddogaeth o dan y Bennod hon sy’n ymwneud ag asesu i ba raddau y mae prif gyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, rhaid i berson roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’r gofynion perfformiad.
(3)Nid yw gofynion yr adran hon yn gymwys i—
(a)Archwilydd Cyffredinol Cymru neu berson sy’n arfer swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y Bennod hon (yn rhinwedd dirprwyad a wneir o dan adran 18 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3));
(b)prif gyngor (gweler adran 89(3) sy’n ymdrin â chanllawiau i brif gynghorau).
Yn y Bennod hon—
mae i “arolygiad arbennig” (“special inspection”) yr ystyr a roddir yn adran 95;
mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf;
mae i “gofynion perfformiad” (“performance requirements”) yr ystyr a roddir yn adran 89(2);
Ym Mesur 2009 hepgorer—
(a)adran 1(a) (ystyr “awdurdod gwella Cymreig”);
(b)adran 4(3)(a) (agweddau ar wella);
(c)adran 11(1)(b) a (2) (ystyr “pwerau cydlafurio”);
(d)adran 16(2)(a) a (b) (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”);
(e)adran 22(5) (adroddiadau am arolygiadau arbennig sy’n ymwneud â budd-dal tai);
(f)adran 23 (cydlynu archwiliad);
(g)adran 25(4)(d) (datganiad o arfer gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);
(h)adran 33 (rhannu gwybodaeth); ac o ganlyniad, yn adran 159 o’r Ddeddf hon hepgorer is-adran (10).
Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(2A)Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff awdurdod lleol gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (hunanasesiad o berfformiad) yn yr un ddogfen.”
(1)Mae adran 81 o Fesur 2011 (awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau archwilio) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1), yn lle “(“pwyllgor archwilio”)” rhodder “(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)”.
(3)Ym mharagraff (c) o is-adran (1), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, asesu perfformiad”.
(4)Ar ôl paragraff (d) o is-adran (1) mewnosoder—
“(da)i adolygu ac asesu gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,
(db)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,”.
(5)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu) am swyddogaethau pellach pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.”
(6)Mae Atodlen 10 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Yn ddilys o 05/05/2022
(1)Mae adran 82 o Fesur 2011 (aelodaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (2)—
(a)ym mharagraff (a) hepgorer y geiriau “o leiaf”;
(b)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;”.
(3)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(5A)Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—
(a)aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a
(b)aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).
(5B)Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.
(5C)Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.”
(4)Hepgorer is-adran (6).
(5)Yn Atodlen 10 i’r Ddeddf hon (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio), hepgorer paragraff 4(b)(ii) ac (f).
Gwybodaeth Cychwyn
I131A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
Yn adran 87 o Fesur 2011 (dehongli), yn is-adran (2) hepgorer y diffiniad o “aelod lleyg” a mewnosoder—
““ystyr “lleygwr” (“lay person”) yw person—
nad yw’n aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol,
nad yw, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dod i ben â’r dyddiad y penodir y person hwnnw, wedi bod yn aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol, ac
nad yw’n briod nac yn bartner sifil i aelod na swyddog o unrhyw awdurdod lleol;”
Gwybodaeth Cychwyn
I132A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Mae adran 83 o Fesur 2011 (trafodion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn lle is-adrannau (1) a (2) rhodder—
“(1)Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—
(a)gan gadeirydd y pwyllgor, neu
(b)os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.
(2)Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.”
(3)Hepgorer is-adran (8).
(4)Yn Atodlen 6 i’r Ddeddf hon (cynorthwywyr gweithrediaethau), hepgorer paragraff 6(5).
(5)Yn Atodlen 10 i’r Ddeddf hon (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio), hepgorer paragraffau 5(a) a (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I133A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r rheoleiddwyr perthnasol roi sylw i’r angen am gydgysylltu wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol.
(2)Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio amserlen mewn perthynas â phob prif gyngor sy’n nodi barn yr Archwilydd Cyffredinol ynglŷn ag ar ba ddyddiadau neu yn ystod pa gyfnodau yn y flwyddyn honno—
(a)y dylai’r rheoleiddwyr perthnasol arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â’r cyngor, a
(b)y dylai’r Archwilydd Cyffredinol arfer swyddogaethau perthnasol yr Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â’r cyngor hwnnw.
(3)Cyn llunio amserlen o dan is-adran (2) rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ymgynghori â’r rheoleiddwyr perthnasol.
(4)Caniateir i’r ddyletswydd o dan is-adran (2) gael ei chyflawni drwy lunio amserlen sy’n ymwneud â mwy nag un flwyddyn ariannol.
(5)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r rheoleiddwyr perthnasol, wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â phrif gyngor, gymryd pob cam rhesymol i gadw at yr amserlen a lunnir mewn perthynas â’r cyngor hwnnw o dan is-adran (2).
(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynorthwyo’r rheoleiddwyr perthnasol i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (5).
(7)Yn yr adran hon, mae i “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol” yr ystyron a roddir yn adran 120.
(1)At ddibenion adran 119 swyddogaethau perthnasol Archwilydd Cyffredinol Cymru yw—
(a)archwilio cyfrifon prif gyngor o dan Bennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23);
(b)cynnal astudiaeth o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 mewn perthynas â phrif gyngor;
(c)cynnal ymchwiliad o brif gyngor o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).
(2)At ddibenion adran 119, rheoleiddiwr perthnasol yw person a grybwyllir yng ngholofn gyntaf tabl 1 a’i swyddogaethau perthnasol yw’r swyddogaethau a bennir yn yr ail golofn.
Rheoleiddwyr perthnasol | Swyddogaethau perthnasol |
---|---|
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru | Swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (arolygu swyddogaethau addysg etc.) |
Gweinidogion Cymru | Swyddogaethau o dan adran 149A ac adran 149B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (adolygiadau etc. o arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) |
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio tabl 1 er mwyn—
(a)ychwanegu cofnod;
(b)diwygio cofnod;
(c)hepgor cofnod.
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy;
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(c)y person y bydd cofnod newydd neu ddiwygiedig yn ymwneud ag ef.
(1)Caiff unrhyw ddau brif gyngor neu ragor wneud cais (“cais i uno”) ar y cyd i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau uno o dan adran 124(1) sy’n uno eu prif ardaloedd i greu prif ardal newydd.
(2)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth o wneud cais i uno.
(3)Ni chaiff y swyddogaeth o wneud cais i uno fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.
(4)Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr y prif gyngor at ddibenion y swyddogaeth o wneud cais i uno.
(5)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cael cais i uno, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau uno o dan adran 124(1), rhaid iddynt hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I136A. 121 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Cyn gwneud cais i uno rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori â’r canlynol—
(a)pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,
(b)pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,
(c)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn ardaloedd un neu ragor o’r prif gynghorau,
(d)yr awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardaloedd un neu ragor o’r prif gynghorau,
(e)y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,
(f)y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardaloedd un neu ragor o’r prif gynghorau,
(g)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau,
(h)pob prif gyngor arall ar gyfer prif ardal y mae’r cynnig i uno yn debygol o effeithio arni, ac
(i)unrhyw bersonau eraill y mae’r prif gynghorau yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(2)Gellir bodloni’r gofyniad yn is-adran (1) drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I137A. 122 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i brif gynghorau roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â gwneud cais i uno.
(2)Gellir bodloni’r gofyniad yn is-adran (1) drwy roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru cyn i’r adran hon ddod i rym, ac a ddyroddwyd yn benodol at ddiben yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I138A. 123 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn cael cais i uno, cânt wneud rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi prif ardal newydd ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau (“y dyddiad trosglwyddo”) drwy—
(a)diddymu prif ardaloedd y cynghorau sy’n uno ar y dyddiad trosglwyddo, a
(b)uno prif ardaloedd y cynghorau sy’n uno i greu prif ardal newydd.
(2)Yn y Rhan hon, cyfeirir at reoliadau o dan is-adran (1) fel rheoliadau uno.
(3)Rhaid i reoliadau uno ddarparu ar gyfer—
(a)ffin y brif ardal newydd,
(b)enw’r brif ardal newydd,
(c)pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,
(d)sefydlu cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (yn unol ag adran 125),
(e)trosglwyddo swyddogaethau’r cynghorau sy’n uno i’r prif gyngor newydd, ac
(f)dirwyn y cynghorau sy’n uno i ben a’u diddymu.
(4)Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r sir ynghyd â’r geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.
(5)Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r fwrdeistref sirol ynghyd â’r geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.
Gwybodaeth Cychwyn
I139A. 124 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i reoliadau uno ddarparu y bydd cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(2)Rhaid i gyngor cysgodol fod yn gyngor cysgodol etholedig oni fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol darparu y bydd cyngor cysgodol dynodedig.
(3)Mae cyngor cysgodol etholedig—
(a)yn cynnwys y cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, a
(b)yn cael ei sefydlu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad hwnnw, pan fydd y cynghorwyr hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
(4)Mae cyngor cysgodol dynodedig—
(a)yn cynnwys holl aelodau’r cynghorau sy’n uno, a
(b)yn cael ei sefydlu ar y dyddiad a bennir yn y rheoliadau uno fel y dyddiad pan fydd yr aelodau hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
(5)Rhaid i’r rheoliadau uno wneud darpariaeth—
(a)i’r cyngor cysgodol benodi gweithrediaeth gysgodol, ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet,
(b)yn achos cyngor cysgodol dynodedig, sy’n pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol,
(c)sy’n pennu swyddogaethau’r cyngor cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol, ac ynglŷn ag arfer y swyddogaethau hynny, yn ystod y cyfnod cysgodol, a
(d)ynglŷn ag ariannu’r cyngor cysgodol.
(6)Caiff darpariaeth a wneir yn unol ag is-adran (5)(d) roi swyddogaethau i gyngor sy’n uno, gan gynnwys mewn perthynas â gweinyddu cyllid y cyngor cysgodol.
(7)Yn is-adran (5)(c), ystyr y “cyfnod cysgodol” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad yr awdurdodir neu y gwneir hi’n ofynnol yn gyntaf i’r awdurdod cysgodol arfer unrhyw swyddogaethau yn unol â’r rheoliadau uno, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.
(8)Rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu mai cyngor cysgodol etholedig yw’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y dyddiad trosglwyddo (ac o’r dyddiad hwnnw mae’n brif gyngor, ac mae ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; ac mae’r weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, ac mae ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor).
(9)Yn achos cyngor cysgodol dynodedig, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu—
(a)mai’r cyngor cysgodol dynodedig yw’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y cyfnod cyn etholiad, a
(b)yn ystod y cyfnod cyn etholiad, bod y cyngor cysgodol yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; a bod y weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, a bod ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor.
(10)Yn is-adran (9), ystyr “cyfnod cyn etholiad” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I140A. 125 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i’r rheoliadau uno bennu a yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd i fod—
(a)y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi cael eu gwneud, o dan adran 36A o Ddeddf 1983, neu
(b)y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983.
(2)Mewn perthynas â’r system bleidleisio a bennir yn y rheoliadau uno—
(a)rhaid iddi fod y system bleidleisio y cytunir arni gan y cynghorau sy’n uno, neu
(b)os na cheir cytundeb—
(i)rhaid iddi fod y system bleidleisio a ddefnyddir yn y ddau gyngor sy’n uno, neu pan fo tri chyngor neu ragor yn uno, yn yr holl gynghorau sy’n uno neu yn y mwyafrif ohonynt, yn union cyn dyddiad y cais, neu
(ii)os nad oedd y naill na’r llall o’r ddau gyngor sy’n uno, neu (pan fo tri chyngor neu ragor yn uno) os nad oedd y mwyafrif o’r cynghorau sy’n uno, yn defnyddio’r un system bleidleisio yn union cyn dyddiad y cais, rhaid iddi fod y system bleidleisio a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â’r cynghorau sy’n uno.
(3)Yn is-adran (2)(b), ystyr “dyddiad y cais” yw’r dyddiad y gwneir y cais i uno.
(4)Os gwneir cais i uno cyn i adran 7 ddod i rym—
(a)nid yw is-adrannau (1) a (2) o’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau uno sy’n ymwneud â’r cais, a
(b)rhaid i’r rheoliadau hynny ddarparu, os yw adran 7 mewn grym ar ddiwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, bod y system mwyafrif syml yn gymwys i’r etholiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I141A. 126 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i reoliadau uno bennu—
(a)dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, a
(b)cyfnodau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw.
(2)Caiff rheoliadau uno gynnwys darpariaeth—
(a)sy’n dileu etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno ac yn estyn cyfnodau swyddi presennol cynghorwyr;
(b)sy’n dileu etholiad ar gyfer maer etholedig i un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno ac yn estyn cyfnodau swyddi presennol meiri etholedig;
(c)mewn perthynas â gofynion i lenwi swyddi cynghorydd, is-gadeirydd neu gadeirydd sy’n digwydd dod yn wag, a chynnal etholiadau yn unrhyw un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno neu’r cyngor cysgodol er mwyn llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag;
(d)sy’n gohirio etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i gynghorau cymuned yn y brif ardal newydd ac yn estyn cyfnodau swyddi presennol cynghorwyr.
(3)Caiff rheoliadau uno hefyd gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—
(a)penodi swyddog canlyniadau yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd;
(b)talu am wariant yr eir iddo wrth gynnal yr etholiad hwnnw, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer gwneud dyfarniadau gan Weinidogion Cymru ynglŷn â sut y mae gwariant i’w dalu;
(c)datganiadau derbyn swydd cynghorydd i’r prif gyngor newydd;
(d)cynnal cyfarfod cyntaf y prif gyngor newydd.
(4)Caiff darpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(a) gynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddydau i brif gyngor o ran penodi swyddog canlyniadau, ac ar gyfer gorfodi cyfarwyddydau o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I142A. 127 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i gyngor sy’n uno—
(a)at ddibenion yr uno, gydweithredu â Gweinidogion Cymru, y cyngor arall neu’r cynghorau eraill sy’n uno ac unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r uno, a
(b)cymryd pob cam rhesymol—
(i)i hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau, ei staff, ei eiddo, ei hawliau a’i atebolrwyddau i’r prif gyngor newydd mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a
(ii)i sicrhau bod y prif gyngor newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif gyngor newydd yn effeithiol.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno i gymryd, neu i beidio â chymryd, unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben cyflawni dyletswydd y cyngor o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I143A. 128 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Os yw’r amodau a nodir yn yr adran hon wedi eu bodloni, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ailstrwythuro (gweler adran 131 ynglŷn â hynny).
(2)Yr amod cyntaf yw bod rhaid bod Gweinidogion Cymru wedi cael—
(a)adroddiad ar arolygiad arbennig o brif gyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 95(7), neu
(b)cais i ddiddymu o dan adran 130 gan brif gyngor.
(3)Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru—
(a)wedi rhoi hysbysiad i’r cynghorau yr effeithir arnynt bod Gweinidogion Cymru wedi cael yr adroddiad neu’r cais i ddiddymu, a
(b)wedi cyhoeddi’r hysbysiad.
(4)Y trydydd amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag—
(a)y cyngor a oedd yn destun yr adroddiad a grybwyllir yn is-adran (2)(a) neu a wnaeth y cais i ddiddymu a grybwyllir yn is-adran (2)(b) (“y cyngor sydd o dan ystyriaeth”),
(b)pob prif gyngor arall y bydd unrhyw reoliadau ailstrwythuro a wneir mewn cysylltiad â’r cyngor sydd o dan ystyriaeth yn effeithio, neu’n debygol o effeithio, ar ei ardal, ac
(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy,
ynglŷn â’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu cymryd o ganlyniad i gael yr adroddiad neu’r cais.
(5)Y pedwerydd amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (4), nad yw llywodraeth leol effeithiol a hwylus yn debygol o gael ei chyflawni yn ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth oni fo rheoliadau ailstrwythuro yn cael eu gwneud.
(6)Y pumed amod yw, os yw pob un o’r amodau yn is-adrannau (2) i (5) wedi eu bodloni a bod Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud rheoliadau ailstrwythuro, eu bod wedi hysbysu’r cyngor sydd o dan ystyriaeth am eu cynigion ac—
(a)os cynigir trosglwyddo rhan neu rannau o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth, y prif gyngor ar gyfer y brif ardal (neu’r prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd) a fydd yn cynnwys rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth;
(b)os cynigir creu prif ardal newydd, y prif gyngor ar gyfer prif ardal a fydd yn cael ei huno (neu’r prif gynghorau ar gyfer prif ardaloedd a fydd yn cael eu huno) ag ardal gyfan neu ran o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth i greu prif ardal newydd;
(c)pob prif gyngor arall yr ymgynghorwyd ag ef fel a ddisgrifir yn is-adran (4)(b).
(1)Caiff prif gyngor, drwy hysbysiad mewn ysgrifen (“cais i ddiddymu”), ofyn i Weinidogion Cymru ystyried diddymu’r cyngor a’i brif ardal.
(2)Rhaid i gais i ddiddymu nodi rhesymau’r prif gyngor dros ofyn am y diddymiad.
(3)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi’r cais i ddiddymu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y cais.
(4)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu.
(5)Ni chaiff y swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.
(6)Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr y prif gyngor at ddibenion y swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu.
Rheoliadau ailstrwythuro yw rheoliadau sy’n darparu ar gyfer diddymu prif ardal cyngor sydd o dan ystyriaeth ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau (“y dyddiad trosglwyddo”) a’r naill neu’r llall, neu’r ddau, o’r canlynol—
(a)bod rhan neu rannau o’r brif ardal sy’n cael ei diddymu i ddod yn rhan o brif ardal arall sy’n bodoli eisoes neu’n rhannau o brif ardaloedd eraill sy’n bodoli eisoes, ar y dyddiad trosglwyddo;
(b)ar gyfer cyfansoddi prif ardal newydd ar y dyddiad trosglwyddo drwy—
(i)diddymu prif ardal un prif gyngor arall neu ragor (yn ogystal ag ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth), a
(ii)uno, er mwyn creu prif ardal newydd, y cyfan neu ran o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth ag ardal y prif gyngor arall neu’r prif gynghorau eraill (pa un a yw’r cyngor arall neu’r cynghorau eraill hefyd yn gyngor neu’n gynghorau sydd o dan ystyriaeth ai peidio).
(1)Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth o dan adran 131(a)—
(a)pennu, drwy gyfeirio at bob rhan o’r ardal sy’n cael ei diddymu ac sy’n cael ei throsglwyddo i brif ardal sy’n bodoli eisoes, ardal newydd y brif ardal honno,
(b)darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall,
(c)darparu ar gyfer dirwyn y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ben a’i ddiddymu, a
(d)darparu bod y system bleidleisio (gweler adran 134(4)) sy’n gymwys mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall (“prif ardal A”) i fod, yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ar ôl y dyddiad trosglwyddo, y system bleidleisio sy’n gymwys yng ngweddill prif ardal A.
(2)Caiff rheoliadau ailstrwythuro, at ddibenion darparu bod rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth i ddod yn rhan o brif ardal arall, wneud darpariaeth ynglŷn ag—
(a)neilltuo cynghorwyr y cyngor sydd o dan ystyriaeth i brif gyngor arall;
(b)ethol cynghorwyr i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;
(c)y system bleidleisio sydd i fod yn gymwys, mewn perthynas â rhan o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth a drosglwyddir i brif ardal arall, mewn etholiad i lenwi sedd sy’n digwydd dod yn wag a gynhelir ar ôl y dyddiad trosglwyddo a chyn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor ar ôl y dyddiad trosglwyddo;
(d)ethol cynghorwyr i gynghorau cymuned yn ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro a chyfnodau eu swyddi;
(e)y trefniadau gweithrediaeth mewn cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(f)ffurf y weithrediaeth a weithredir gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(g)ardal maer etholedig ar gyfer cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, cyfnod ei swydd a’i ethol;
(h)y trefniadau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, gan gynnwys darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;
(i)newid enw cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro;
(j)pa un a yw prif ardal cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro yn sir neu’n fwrdeistref sirol.
(1)Rhaid i reoliadau ailstrwythuro sy’n cynnwys darpariaeth fel a ddisgrifir yn adran 131(b) ddarparu ar gyfer—
(a)ffin y brif ardal newydd,
(b)enw’r brif ardal newydd,
(c)pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,
(d)sefydlu cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (yn unol â pharagraff (e) neu is-adrannau (4) i (7)),
(e)(yn ddarostyngedig i is-adran (4)) bod cyngor cysgodol etholedig ar gyfer y brif ardal newydd hyd at y dyddiad trosglwyddo (a’i fod o’r dyddiad hwnnw yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd),
(f)swyddogaethau’r cyngor cysgodol,
(g)ariannu’r cyngor cysgodol,
(h)penodi gweithrediaeth gysgodol, ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet, gan y cyngor cysgodol (sydd, o’r dyddiad trosglwyddo, yn weithrediaeth, ac sydd â holl swyddogaethau gweithrediaeth, i’r prif gyngor),
(i)swyddogaethau’r weithrediaeth gysgodol,
(j)trosglwyddo swyddogaethau i’r prif gyngor newydd o’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd,
(k)dirwyn i ben a diddymu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd,
(l)pa un o’r systemau pleidleisio (gweler adran 134(4)) sydd i fod yn gymwys i’r etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd,
(m)dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, ac
(n)cyfnodau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw.
(2)Pan fo prif ardal newydd a gyfansoddir gan reoliadau ailstrwythuro i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r sir ynghyd â’r geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.
(3)Pan fo prif ardal newydd a gyfansoddir gan reoliadau ailstrwythuro i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau ddarparu bod y prif gyngor newydd yn cael enw’r fwrdeistref sirol ynghyd â’r geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried bod hynny’n briodol, wneud darpariaeth yn y rheoliadau ailstrwythuro i’r cyngor cysgodol fod yn gyngor cysgodol dynodedig hyd y cyfnod cyn etholiad.
(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud darpariaeth o’r fath, rhaid iddynt hefyd, yn y rheoliadau ailstrwythuro—
(a)gwneud darpariaeth sy’n pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol sydd i’w phenodi gan y cyngor cysgodol;
(b)darparu, yn ystod y cyfnod cyn etholiad, bod y cyngor cysgodol yn brif gyngor, a bod ganddo holl swyddogaethau’r prif gyngor, ar gyfer y brif ardal newydd; a bod y weithrediaeth gysgodol yn weithrediaeth, a bod ganddi holl swyddogaethau’r weithrediaeth, ar gyfer y prif gyngor.
(6)Yn is-adrannau (4) a (5), ystyr “cyfnod cyn etholiad” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd.
(7)At ddibenion yr adran hon—
(a)mae cyngor cysgodol etholedig—
(i)yn cynnwys y cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor newydd, a
(ii)yn cael ei sefydlu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad hwnnw, pan fo’r cynghorwyr hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol;
(b)mae cyngor cysgodol dynodedig—
(i)yn cynnwys yr aelodau hynny o’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro a bennir yn y rheoliadau ailstrwythuro, a benodir yn unol â’r rheoliadau, a
(ii)yn cael ei sefydlu ar y dyddiad a bennir yn y rheoliadau ailstrwythuro fel y dyddiad y mae’r aelodau hynny yn llenwi eu swyddi fel aelodau cysgodol.
(1)Caiff rheoliadau ailstrwythuro wneud darpariaeth sy’n cyfateb i ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y canlynol, neu y caniateir neu y mae rhaid ei gwneud o dan y canlynol, neu sy’n cymhwyso’r ddarpariaeth (gydag addasiadau neu hebddynt)—
(a)Pennod 4 (trefniadau cydnabyddiaeth ariannol), pan fo’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth yn unol ag adran 131(b);
(b)adran 127 (etholiadau);
(c)paragraffau 2 a 3 o Atodlen 11 (pwyllgorau pontio).
(2)Caiff rheoliadau ailstrwythuro ddarparu—
(a)ar gyfer sefydlu pwyllgor neu gorff arall i gynnig cyngor ac argymhellion i bersonau a bennir yn y rheoliadau ynglŷn â throsglwyddo swyddogaethau, atebolrwyddau ac eiddo, ac ynglŷn â materion staffio;
(b)ar gyfer sefydlu corff corfforedig at ddiben meddiannu a gwaredu unrhyw eiddo, hawliau neu atebolrwyddau sydd gan brif gyngor sydd i’w ddiddymu o dan y rheoliadau, ac arfer unrhyw swyddogaethau cysylltiedig sydd gan y cyngor hwnnw; a chaiff rheoliadau ailstrwythuro—
(i)darparu y gall y corff hwnnw gaffael eiddo, gwneud ardollau, benthyca arian a’i roi ar fenthyg, a
(ii)gwneud darpariaeth ynglŷn â dirwyn y corff hwnnw i ben;
(c)ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i bersonau a bennir yn y rheoliadau;
(d)ar gyfer rhoi cyfarwyddydau gan Weinidogion Cymru i bersonau a bennir yn y rheoliadau at ddibenion sy’n gysylltiedig ag ailstrwythuro, ac ar gyfer eu gorfodi;
(e)bod Gweinidogion Cymru i ddyfarnu, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, ar faterion sy’n gysylltiedig â’r ailstrwythuro.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau ailstrwythuro—
(a)ar ôl cael adroddiad ar arolygiad arbennig o brif gyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 95(7) ac ar ôl ymgynghori fel a ddisgrifir yn adran 129(4), neu
(b)ar ôl cael cais i ddiddymu,
rhaid iddynt hysbysu’r cyngor sydd o dan ystyriaeth ac unrhyw brif gyngor arall y maent wedi ei hysbysu neu wedi ymgynghori ag ef fel a ddisgrifir yn adran 129.
(4)At ddibenion adrannau 132 a 133, y systemau pleidleisio yw—
(a)y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi cael eu gwneud, o dan adran 36A o Ddeddf 1983;
(b)y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983.
(5)Os rhoddir hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6) cyn i adran 7 ddod i rym, ac y bwriedir creu prif ardal newydd—
(a)nid yw adran 133(1) yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau ailstrwythuro sy’n ymwneud â’r hysbysiad, a
(b)rhaid i’r rheoliadau hynny ddarparu, os yw adran 7 mewn grym ar ddiwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, bod y system mwyafrif syml yn gymwys i’r etholiad hwnnw.
(1)Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, at ddibenion yr ailstrwythuro, gydweithredu â Gweinidogion Cymru, y cyngor arall sy’n cael ei ailstrwythuro neu’r cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r ailstrwythuro.
(2)Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro y mae ei ardal i’w diddymu gymryd pob cam rhesymol—
(a)i hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau, ei staff, ei eiddo, ei hawliau a’i atebolrwyddau i’r cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw brif gynghorau newydd mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a
(b)i sicrhau bod y cynghorau eraill sy’n cael eu hailstrwythuro ac unrhyw brif gynghorau newydd, a’u staff, mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.
(3)Rhaid i gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro ac eithrio un y mae ei ardal i’w diddymu gymryd pob cam rhesymol—
(a)i hwyluso trosglwyddo iddo swyddogaethau, staff, eiddo, hawliau ac atebolrwyddau y cyngor sydd o dan ystyriaeth mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a
(b)i sicrhau bod y cyngor a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i gymryd, neu i beidio â chymryd, unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben cyflawni dyletswydd y cyngor o dan yr adran hon.
Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â sefydlu pwyllgorau pontio.
Gwybodaeth Cychwyn
I151A. 136 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chyfyngiadau ar drafodiadau a recriwtio.
Gwybodaeth Cychwyn
I152A. 137 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i gynnal adolygiad cychwynnol o’r trefniadau etholiadol ar ôl i Weinidogion Cymru—
(a)cael cais i uno, neu
(b)rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6).
(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, a
(b)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(3)Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan is-adran (1) i gynnal adolygiad cychwynnol mewn perthynas â chynnig i drosglwyddo rhan o brif ardal sydd i’w diddymu i brif ardal arall, neu mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu ar gyfer trosglwyddiad o’r fath—
(a)rhaid iddo bennu’r ardal (a gaiff fod yn brif ardal gyfan neu’n rhan ohoni) sydd i fod yn destun yr adolygiad cychwynnol, a
(b)caiff bennu nad yw un neu ragor o’r materion o fath a ddisgrifir yn is-baragraff (i) neu (ii) yn faterion i’w hystyried yn yr adolygiad cychwynnol; a’r materion hynny yw—
(i)y materion a nodir yn y diffiniad o “trefniadau etholiadol” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1;
(ii)y materion a nodir yn y diffiniad o “newidiadau canlyniadol perthnasol” yn y paragraff hwnnw.
(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.
(5)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau cychwynnol a gynhelir yn rhinwedd yr adran hon.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3) o adran 29 o Ddeddf 2013 (adolygiadau cyfnodol o drefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd) drwy reoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I153A. 138(1)(a)(2)(4)-(6) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(c)
I154A. 138(1)(b)(3) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Ar ôl cael cais i uno caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno na chaiff gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys cynnal refferendwm) i newid ffurf ei weithrediaeth—
(a)hyd nes y bo rheoliadau uno sy’n gymwys i’r cyngor yn dod i rym, neu
(b)hyd nes y bo’n cael hysbysiad o dan adran 121(5).
(2)Ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro na chaiff gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys cynnal refferendwm) i newid ffurf ei weithrediaeth—
(a)hyd nes y bo rheoliadau ailstrwythuro sy’n gymwys i’r cyngor yn dod i rym, neu
(b)hyd nes y bo’n cael hysbysiad o dan adran 134(3).
(3)Tra bo cyfarwyddyd o dan is-adran (1) neu (2) yn cael effaith mewn perthynas â chyngor, nid yw’r cyngor yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, i gymryd camau i newid ffurf ei weithrediaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I155A. 139(1) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(d)
I156A. 139(3) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(d)
I157A. 139(2) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
I158A. 139(3) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol iddynt—
(a)at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,
(b)at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu
(c)fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y maent yn ystyried eu bod yn briodol i Weinidogion Cymru fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I159A. 140(1)(a) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(e)
I160A. 140(1)(b)(c) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(e)
I161A. 140(1)(a) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
I162A. 140(2) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (“cyngor A”) i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol i gorff perthnasol—
(a)at ddibenion ystyried a ddylid trosglwyddo swyddogaethau cyngor A i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu i brif gyngor newydd,
(b)at ddibenion rhoi effaith i drosglwyddiad o’r fath, neu
(c)fel arall mewn cysylltiad â throsglwyddiad o’r fath.
(2)Mae’r cyrff a ganlyn yn gyrff perthnasol—
(a)unrhyw brif gyngor arall (gan gynnwys cyngor B) y bydd unrhyw reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro a wneir mewn cysylltiad â chyngor A yn effeithio, neu’n debygol o effeithio, ar ei ardal;
(b)unrhyw bwyllgor pontio a sefydlir gan gyngor A (gweler Atodlen 11);
(c)os yw prif ardal newydd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o ardal cyngor A i’w chyfansoddi, y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo cyngor B i ddarparu i gorff perthnasol arall neu gyngor A unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol neu unrhyw ddogfennau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol fel a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I163A. 141(1)(2) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(f)(i)-(iii)
I164A. 141(1)(2) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
I165A. 141(3) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) bod rhaid iddo gyflawni ei swyddogaethau taliadau a phensiynau mewn perthynas ag—
(a)y cyngor cysgodol ar gyfer prif ardal newydd a sefydlir o dan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, a
(b)y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, am y flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi.
(2)At ddibenion is-adran (1), swyddogaethau taliadau a phensiynau y Panel yw’r swyddogaethau o dan yr adrannau a ganlyn yn Rhan 8 o Fesur 2011—
(a)adran 142 (taliadau i aelodau), a
(b)adran 143 (pensiynau aelodau).
(3)Yn unol â hynny, mae Rhan 8 o Fesur 2011 yn gymwys yn achos cyngor y mae cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn gymwys iddo; ond o ran ei gymhwysiad yn rhinwedd yr is-adran hon mae Rhan 8 yn ddarostyngedig i—
(a)is-adran (4), a
(b)adran 143.
(4)Pan fo Rhan 8 o Fesur 2011 yn gymwys yn rhinwedd is-adran (3)—
(a)mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol at ddibenion y Rhan honno,
(b)caiff y Panel arfer ei swyddogaethau o dan Ran 8 o Fesur 2011 mewn perthynas â’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd cyn i’r cyngor gael ei sefydlu (gan gynnwys drwy osod gofyniad y bydd y cyngor yn ddarostyngedig iddo pan fydd wedi ei sefydlu); yn unol â hynny, at y dibenion hynny mae’r Rhan honno i’w darllen fel pe bai’r cyngor, cyn iddo gael ei sefydlu, yn awdurdod perthnasol,
(c)pan na fo’r diwrnod trosglwyddo yn digwydd ar 1 Ebrill, mae’r cyfeiriadau yn adran 142 at flwyddyn ariannol yn cynnwys cyfeiriad at ran o’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi,
(d)nid yw adran 143A (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr) yn gymwys yn rhinwedd is-adran (3) (ond gweler adran 145(6) yn y Bennod hon, sy’n cymhwyso adran 143A pa un bynnag), ac
(e)nid yw adran 146 (adroddiad blynyddol cyntaf y Panel) yn gymwys (ond gweler adran 143(9) yn y Bennod hon).
(5)Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas â phrif gyngor ar gyfer ardal sydd neu a oedd â chyngor cysgodol dynodedig, caiff y Panel, mewn perthynas â’r adegau cyn y bydd y cyngor wedi ei gyfansoddi o gynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf, ac ar ôl hynny—
(a)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(1) o Fesur 2011;
(b)gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3) o’r adran honno;
(c)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) o’r adran honno;
(d)gosod canrannau gwahanol neu gyfraddau neu fynegrifau eraill gwahanol o dan is-adran (6) o’r adran honno;
(e)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 143(2) a (3) o Fesur 2011.
Gwybodaeth Cychwyn
I166A. 142(1) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(i)
I167A. 142(1) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Rhan 8 o Fesur 2011 yn gymwys yn achos cyngor yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 142.
(2)Mewn perthynas â’r adroddiad cyntaf o dan Ran 8 o Fesur 2011 sy’n ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) â’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd (“yr adroddiad cyntaf”)—
(a)rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn ddim hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 142 at y diben hwnnw, a
(b)caiff fod yn adroddiad blynyddol neu’n adroddiad atodol, yn ddarostyngedig i’r gofyniad a osodir yn rhinwedd paragraff (a) a’r gofynion o dan adrannau 147(2) a 148(1) ac (1A)(a) o Fesur 2011.
(3)Nid yw adran 148(1A)(b) o Fesur 2011 (terfyn amser ar gyfer cyhoeddi) yn gymwys mewn perthynas â’r adroddiad cyntaf os yw’n adroddiad atodol.
(4)Pan fo unrhyw adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol yn ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) ag—
(a)y cyngor cysgodol, neu
(b)y prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd ac na fydd y cyngor hwnnw wedi ei sefydlu ar adeg cyhoeddi’r adroddiad,
rhaid i’r Panel gymryd y cam a nodir yn is-adran (5).
(5)Cyn cyhoeddi’r adroddiad o dan adran 147 o Fesur 2011, rhaid i’r Panel anfon drafft o’r adroddiad at y canlynol (os nad yw eisoes yn ofynnol i’r Panel wneud hynny o dan adran 147(8)(a) o Fesur 2011)—
(a)y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd;
(b)y cyngor cysgodol (os caiff ei sefydlu);
(c)y personau (os oes rhai) a bennir at y diben hwnnw yn y cyfarwyddyd o dan adran 142.
(6)Caiff adroddiad atodol osod y gofynion a ganlyn ar y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd, neu ar y cyngor cysgodol—
(a)gofynion o fath a bennir yn adran 150(1) neu (3) o Fesur 2011;
(b)gofynion o fath a bennir yn adran 151(1) o’r Mesur hwnnw.
(7)Pan fo adroddiad atodol yn ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) â’r cyngor cysgodol, mae adran 150(2) o Fesur 2011 yn gymwys mewn perthynas â’r adroddiad hwnnw (i’r graddau y bo’n ei gwneud yn ofynnol i daliad gael ei wneud i’r cyngor cysgodol neu ganddo) fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag adroddiad blynyddol.
(8)Mae’r cyfeiriadau yn adrannau 153, 154 a 157 o Fesur 2011 at ofynion a osodir gan adroddiad blynyddol yn cynnwys cyfeiriad at ofynion a osodir gan adroddiad atodol yn rhinwedd yr adran hon.
(9)Rhaid i adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol bennu mewn perthynas â’r cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (pa un a yw’n gyngor cysgodol neu’n brif gyngor ar adeg cyhoeddi’r adroddiad) yr wybodaeth a grybwyllir yn adran 146(3) o Fesur 2011.
(10)Rhaid i’r materion y mae’n ofynnol yn rhinwedd yr adran hon ac adran 142 eu cynnwys mewn adroddiad gan y Panel mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi gael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.
(11)Ond, os yw’r Panel yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad trosglwyddo, gyhoeddi adroddiad atodol mewn perthynas â pha ran bynnag o’r flwyddyn ariannol gyntaf honno sy’n digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.
Gwybodaeth Cychwyn
I168A. 143(1)-(4)(7)-(11) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
I169A. 143(5)(6) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)
I170A. 143(5)(a)(6) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 142 a 143.
Gwybodaeth Cychwyn
I171A. 144 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Rhaid i bwyllgor pontio gyhoeddi argymhellion ynglŷn â’r datganiad ar bolisïau tâl sydd i’w lunio gan y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(2)Rhaid i’r argymhellion gael eu cyhoeddi yn ddim hwyrach na chwe wythnos cyn—
(a)pan fo’r cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol etholedig, y dyddiad y mae etholiadau i’r cyngor cysgodol i’w cynnal, neu
(b)pan fo’r cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol dynodedig, y dyddiad y mae’r cyngor cysgodol i’w sefydlu.
(3)Rhaid i gyngor cysgodol lunio a chymeradwyo (ac fe gaiff ddiwygio) datganiad ar bolisïau tâl yn unol ag adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20)—
(a)ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â chymeradwyo’r datganiad ar bolisïau tâl ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, a
(b)ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf pan fydd prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd.
(4)Yn unol â hynny, mae adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5), 41(1) a (2) a 42(1) a (2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn gymwys; a phan fo’r darpariaethau hynny yn gymwys yn rhinwedd yr is-adran hon—
(a)mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol o fewn ystyr Pennod 8 o Ran 1 o’r Ddeddf honno at ddibenion y darpariaethau hynny,
(b)mae’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3)(a) i’w drin fel blwyddyn ariannol at ddibenion y darpariaethau hynny, ac
(c)mae adran 39(5) o’r Ddeddf honno i’w darllen fel pe bai “on a website” wedi ei roi yn lle “on the authority’s website”.
(5)Ni chaniateir i’r cyngor cysgodol benodi na dynodi unrhyw brif swyddog (o fewn yr ystyr a roddir i “chief officer” yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) hyd nes y bydd y datganiad ar bolisïau tâl o dan is-adran (3) wedi ei lunio a’i gymeradwyo.
(6)Mae adran 143A o Fesur 2011 (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr) yn gymwys mewn perthynas â chyngor cysgodol, yn ddarostyngedig i baragraff 1(7) o Atodlen 12; ac yn unol â hynny mae cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol cymwys at ddibenion yr adran honno.
(7)Yn yr adran hon, ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir o dan Atodlen 11—
(a)mewn perthynas â rheoliadau uno, neu
(b)mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu y bydd cyngor cysgodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I172A. 145(1)-(6)(7)(a) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
I173A. 145(7)(b) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
Rhaid i’r canlynol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rhan hon (a gweler adran 123 mewn perthynas â chanllawiau ynglŷn â cheisiadau i uno)—
(a)prif gyngor (gan gynnwys cyngor cysgodol a gweithrediaeth gysgodol);
(b)pwyllgor pontio (gweler Atodlen 11 ynglŷn â hynny);
(c)pwyllgor neu gorff a sefydlir o dan adran 134(2)(a) neu (b);
(d)corff cyhoeddus—
(i)a sefydlir gan ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau o dan adran 147(6)(a) neu (b);
(ii)y mae darpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau o dan adran 147(6)(a) neu (b) yn ymwneud ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I174A. 146 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
(1)Caiff rheoliadau uno a rheoliadau ailstrwythuro gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn perthynas â rheoliadau uno penodol neu reoliadau ailstrwythuro penodol—
(a)at ddibenion y rheoliadau hynny neu o ganlyniad iddynt, neu
(b)er mwyn rhoi effaith lawn i’r rheoliadau hynny.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed—
(a)at ddibenion rheoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, neu o ganlyniad iddynt, neu
(b)er mwyn rhoi effaith lawn i reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro.
(4)Mae rheoliadau o dan is-adran (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro.
(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—
(a)ar gyfer trosglwyddo eiddo (tirol neu bersonol), hawliau neu atebolrwyddau (gan gynnwys atebolrwyddau troseddol, a hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â chontract cyflogaeth) o un prif gyngor i brif gyngor arall;
(b)mewn cysylltiad â rheoli neu gadw eiddo a drosglwyddir i brif gyngor;
(c)i achos sifil neu droseddol a gychwynnwyd gan neu yn erbyn prif gyngor gael ei barhau gan neu yn erbyn prif gyngor arall;
(d)ar gyfer trosglwyddo staff (yn ddarostyngedig i is-adran (8)), ac ynglŷn â materion staffio eraill (gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd);
(e)ar gyfer trin un prif gyngor at rai dibenion neu at bob diben fel yr un person mewn cyfraith â phrif gyngor arall;
(f)mewn cysylltiad ag ymddiriedolwyr siarter;
(g)mewn perthynas â siroedd wedi eu cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “preserved counties” gan adran 270(1) o Ddeddf 1972).
(6)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed hefyd yn cynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag—
(a)sefydlu cyrff cyhoeddus neu aelodaeth cyrff o’r fath mewn unrhyw ardal yr effeithir arni gan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, ac ethol neu benodi aelodau o’r cyrff cyhoeddus, neu
(b)diddymu neu sefydlu, neu gyfyngu neu estyn, awdurdodaeth unrhyw gorff cyhoeddus mewn neu dros unrhyw ran o unrhyw ardal yr effeithir arni gan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro.
(7)Caiff darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn rheoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau o dan yr adran hon fod ar ffurf darpariaeth—
(a)sy’n diwygio, yn addasu, yn cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu’n datgymhwyso unrhyw ddeddfiad, neu
(b)sy’n diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad (gydag arbedion neu hebddynt).
(8)Rhaid i reoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau o dan yr adran hon sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff gymhwyso darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, i drosglwyddiadau a wneir o dan y rheoliadau o dan y Rhan hon (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 ai peidio).
(9)Mae “deddfiad” yn is-adran (7) yn cynnwys unrhyw siarter, pa bryd bynnag y’i rhoddwyd.
(10)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan is-adran (2) neu (3) neu reoliadau a wneir o dan y paragraff hwn;
(b)drwy reoliadau, ddiwygio rheoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau a wneir o dan y paragraff hwn;
(c)drwy reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau o dan yr adran hon,
a chaiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
Gwybodaeth Cychwyn
I175A. 147(3)(5)(9) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)
I176A. 147(1)-(4), (6)-(8), (10) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Ni chaiff Gweinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau ailstrwythuro gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4)—
(a)onid ydynt wedi gosod y dogfennau gofynnol gerbron Senedd Cymru, a
(b)oni fo 60 niwrnod o leiaf wedi mynd heibio ers y diwrnod y gosodwyd y dogfennau gofynnol.
(2)Yn is-adran (1), ystyr “y dogfennau gofynnol” yw—
(a)drafft arfaethedig o’r rheoliadau ailstrwythuro, a
(b)datganiad—
(i)sy’n rhoi manylion yr ymgynghoriad a ddisgrifir yn adran 129(4), a
(ii)sy’n egluro pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni o ran y mater yn adran 129(5).
(3)Wrth gyfrifo a oes 60 niwrnod wedi mynd heibio at ddibenion is-adran (1)(b), rhaid peidio ag ystyried unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu neu’n cymryd toriad am fwy na phedwar diwrnod.
(4)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cydymffurfio ag is-adran (1), yn gosod yr offeryn statudol drafft sy’n cynnwys y rheoliadau ailstrwythuro gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4), rhaid i ddatganiad sy’n rhoi manylion y canlynol fynd gyda’r offeryn—
(a)unrhyw sylwadau a dderbyniwyd ganddynt ar ôl i’r drafft arfaethedig o’r rheoliadau gael ei osod gerbron Senedd Cymru, a
(b)unrhyw wahaniaethau rhwng y drafft arfaethedig o’r rheoliadau a’r rheoliadau yn yr offeryn statudol drafft.
(5)Nid oes dim yn yr adran hon yn gymwys mewn perthynas â rheoliadau sy’n cael eu gwneud at ddiben diwygio rheoliadau ailstrwythuro yn unig.
Yn y Rhan hon (gan gynnwys yn Atodlen 1)—
mae i “cais i ddiddymu” (“abolition request”) yr ystyr a roddir yn adran 130(1);
mae i “cais i uno” (“merger application”) yr ystyr a roddir yn adran 121(1);
ystyr “cyngor cysgodol” (“shadow council”) (gan gynnwys “cyngor cysgodol etholedig” a “cyngor cysgodol dynodedig”) yw cyngor a sefydlwyd yn gyngor cysgodol yn unol â darpariaeth a gynhwysir mewn—
rheoliadau uno o dan adran 125;
rheoliadau ailstrwythuro o dan adran 133;
mae i “cyngor sydd o dan ystyriaeth” (“council under consideration”) yr ystyr a roddir gan adran 129(4)(a);
ystyr “cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro“ (“restructuring council”) yw prif gyngor sydd wedi cael hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6) am gynigion Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ailstrwythuro mewn perthynas ag ef;
ystyr “cyngor sy’n uno” (“merging council”) yw prif gyngor sydd wedi gwneud cais i uno ac y bydd ei ardal yn cael ei huno i greu prif ardal newydd;
mae “dogfennau” (“documents”) yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf (ac eithrio yn adran 148);
mae i “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”)—
mewn perthynas â rheoliadau uno, yr ystyr a roddir yn adran 124(1);
mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro, yr ystyr a roddir yn adran 131;
mae “ffurf y weithrediaeth” (“form of executive”) i’w dehongli yn unol ag adran 11 o Ddeddf 2000;
ystyr “prif ardal” (“principal area”) yw—
sir yng Nghymru;
bwrdeistref sirol (yng Nghymru);
mae i “rheoliadau ailstrwythuro” (“restructuring regulations”) yr ystyr a roddir yn adran 131;
mae i “rheoliadau uno” (“merger regulations”) yr ystyr a roddir yn adran 124(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I178A. 149 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(i)
I179A. 149 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Ym Mesur 2011—
(a)hepgorer Pennod 2 o Ran 9 (cyfuno);
(b)yn adran 172 (gorchmynion a rheoliadau)—
(i)yn is-adran (2)(a) yn lle “, Rhan 2, adran 140, 165 neu 166(2)” rhodder “neu 140 neu 165 neu 166(2) neu Ran 2”;
(ii)yn is-adran (2)(a) hepgorer “neu 165 neu 166(2)”;
(iii)yn is-adran (2)(b) yn lle “, 158” rhodder “neu 158 neu”;
(iv)yn is-adran (2)(b) hepgorer “neu 162 neu 170”;
(v)hepgorer is-adran (2)(c);
(vi)hepgorer is-adran (3).
(2)Yn Neddf 2013—
(a)yn adran 23 (adolygu ffiniau prif ardaloedd), yn is-adran (4)(e) hepgorer is-baragraffau (ii) a (iii);
(b)yn adran 44(1) (cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid), hepgorer “neu drwy orchymyn o dan adran 162 o Fesur 2011 (pŵer i wneud gorchymyn cyfuno)”;
(c)yn adran 48(2) (cyfarwyddydau a chanllawiau), hepgorer paragraff (c);
(d)yn adran 71 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (2)(b) hepgorer “neu sy’n diddymu prif ardal”.
(3)Yn Neddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (dccc 6) hepgorer—
(a)adran 1(1) a (2)(a);
(b)adrannau 2 i 39;
(c)adrannau 44 a 45.
Gwybodaeth Cychwyn
I180A. 150(1)(b)(i)(iii)(vi)(2)(a)(d)(3) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(j)
I181A. 150(1)(a)(b)(ii)(iv)(v)(2)(b)(c) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
(1)Mae Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41) (gweinyddu mewn perthynas ag ardrethu annomestig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ym mharagraff 5—
(a)yn is-baragraff (1A), yn lle “this paragraph” rhodder “sub-paragraph (1)”;
(b)ar ôl is-baragraff (1A) (yr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn hysbysiad a roddir gan swyddog prisio) mewnosoder—
“(1B)A billing authority in Wales may serve a notice on a person to whom sub-paragraph (1D) applies, requesting the person to supply to the authority information—
(a)which is specified in the notice,
(b)which relates to a hereditament in the authority’s area specified in the notice, and
(c)which the authority reasonably believes will assist it in carrying out functions conferred or imposed on it by or under this Part.
(1C)A notice under sub-paragraph (1B) must state that the billing authority believes the information will assist it in carrying out functions conferred or imposed on it by or under this Part.
(1D)This sub-paragraph applies to—
(a)a person who is an owner of the hereditament specified in the notice under sub-paragraph (1B);
(b)a person who is an occupier of such a hereditament;
(c)a person who, in relation to the hereditament specified in the notice under sub-paragraph (1B), is carrying on a business of a description specified in regulations made by the Welsh Ministers.”;
(c)yn is-baragraff (2), yn lle “this paragraph” rhodder “sub-paragraph (1)”;
(d)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(2A)A person on whom a notice is served under sub-paragraph (1B) must supply the information requested in the form and manner specified in the notice.”;
(e)yn is-baragraff (4), yn lle “this paragraph” rhodder “sub-paragraph (1)”;
(f)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—
“(5)If a notice has been served on a person under sub-paragraph (1B), and in supplying information in purported compliance with sub-paragraph (2A) the person makes a statement knowing it to be false in a material particular or recklessly makes a statement which is false in a material particular, the person is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 3 on the standard scale.”
(3)Ym mharagraff 5A (cosb am fethu â chydymffurfio â chais am wybodaeth o fewn y cyfnod gofynnol)—
(a)yn is-baragraff (1) ar ôl “paragraph 5(2)” mewnosoder “or (2A)”;
(b)yn is-baragraff (2)—
(i)ar ôl “valuation officer” mewnosoder “or, as the case may be, billing authority concerned”;
(ii)ym mharagraff (a), ar ôl “pargraph 5(2)” mewnosoder “or (2A)”;
(c)yn is-baragraff (3), ar ôl “paragraph 5(2)” mewnosoder “or (2A)”.
(4)Ym mharagraff 5B (pŵer i liniaru neu ddileu cosb), ar ôl “valuation officer” mewnosoder “or, as the case may be, billing authority”;
(5)Ym mharagraff 5C(6)(a), ar ôl “paragraph 5(2)” mewnosoder “or (2A)”.
(6)Ym mharagraff 5D(1) (adennill cosb fel dyled sifil), yn lle’r geiriau o “be recovered” hyd at y diwedd rhodder “—
(a)in a case which relates to a request for information made by a valuation officer, be recovered by the valuation officer concerned as a civil debt due to the valuation officer;
(b)in a case which relates to a request for information made by a billing authority in Wales, be recovered by the authority concerned as a civil debt due to the authority.”
(7)Ym mharagraff 5E (cyrchfan derbyniadau am gosbau)—
(a)mae’r testun presennol yn dod yn is-baragraff (1);
(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(2)Any sums received by a billing authority in Wales by way of penalty under paragraph 5A above must be paid into the Welsh Consolidated Fund.”
(8)Ym mharagraff 5F (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â Chymru mewn cysylltiad â hysbysiadau a ddyroddir gan swyddogion prisio), ar ôl is-baragraff (2)(a) mewnosoder—
“(aa)provision enabling a billing authority in Wales to request or obtain information for the purpose of identifying a person to whom paragraph 5(1D) above applies;”.
(9)Ym mharagraff 5H (pŵer swyddog prisio i wneud gwybodaeth yn ofynnol gan awdurdodau bilio), ar ôl “is to be served” mewnosoder “by the officer”.
(10)Yn adran 143 (y gofynion gweithdrefnol ar gyfer gorchmynion a rheoliadau), ar ôl is-adran (9A) mewnosoder—
“(9AZA)The power of the Welsh Ministers to make regulations under paragraph 5(1D)(c) of Schedule 9 shall be exercisable by statutory instrument, and no such regulations shall be made by them unless a draft of the regulations has been laid before and approved by resolution of Senedd Cymru.”
Gwybodaeth Cychwyn
I182A. 151 mewn grym ar 1.4.2021, gweler a. 175(4)(a)
(1)Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn Atodlen 9 (gweinyddu mewn perthynas ag ardrethu annomestig), ar ôl paragraff 6A mewnosoder—
“6AA(1)The Welsh Ministers may by regulations require persons to provide to billing authorities in Wales information relevant to determining—
(a)whether a person is, as regards a hereditament in Wales, subject to a non-domestic rate in respect of a chargeable financial year;
(b)where a person is, as regards a hereditament in Wales, subject to a non-domestic rate, the amount the person is liable to pay.
(2)Regulations under sub-paragraph (1) must specify—
(a)the information to be provided,
(b)the persons who must provide the information,
(c)the circumstances in which the information is to be provided, and
(d)the period within which the information is to be provided.
(3)The regulations may provide that a billing authority may impose a financial penalty on a person who fails to comply with a requirement in the regulations to provide information.
(4)If provision is made under sub-paragraph (3)—
(a)the penalty specified in the regulations must be £500;
(b)the regulations must require any sum received by a billing authority by way of penalty to be paid into the Welsh Consolidated Fund;
(c)the regulations may include provision for any penalty to be recovered by the billing authority concerned as a civil debt due to the authority;
(d)the regulations must include provision enabling a person on whom a financial penalty is imposed to require a review of the imposition of the penalty or its amount by the billing authority that imposed the penalty;
(e)the regulations must include provision enabling a person on whom a financial penalty is imposed to appeal against the imposition of the penalty or its amount to a valuation tribunal established under paragraph 1 of Schedule 11.
(5)The regulations may provide that a person who knowingly or recklessly provides information required under the regulations which is false in a material particular is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 3 on the standard scale.
(6)The Welsh Ministers may by regulations substitute a different amount for the amount for the time being specified in sub-paragraph (4)(a).”
(3)Yn adran 143 (y gofynion gweithdrefnol ar gyfer gorchmynion a rheoliadau), ar ôl is-adran (9AA) mewnosoder—
“(9AB)The power of the Welsh Ministers to make regulations under paragraph 6AA(1) or (5) of Schedule 9 shall be exercisable by statutory instrument, and no such regulations shall be made by them unless a draft of the regulations has been laid before and approved by resolution of Senedd Cymru.”
(4)Yn Rhan 2 o Atodlen 11 (tribiwnlysoedd prisio: Cymru), ar ôl paragraff 2(ca) mewnosoder—
“(cb)regulations under paragraph 6AA of Schedule 9 above;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I183A. 152 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(l)
(1)Mae Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41) (gweinyddu mewn perthynas ag ardrethu annomestig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl paragraff 7 (pŵer swyddog prisio i fynd i eiddo yng Nghymru at ddibenion prisio), mewnosoder—
“7A(1)A billing authority in Wales may enter and survey a hereditament in its area if the authority has grounds for believing that the inspection is required for the purpose of carrying out functions conferred or imposed upon it by or under this Part.
(2)But the billing authority must obtain the approval of a valuation tribunal established under paragraph 1 of Schedule 11 before it exercises the power under sub-paragraph (1) above.
(3)After the tribunal has given its approval, the billing authority must give at least 24 hours’ notice in writing of the proposed exercise of the power.
(4)A person who proposes to exercise the power under sub-paragraph (1) above must if required produce written evidence of authority to carry out the inspection.
(5)A person who wilfully delays or obstructs a person in the exercise of a power under this paragraph is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 1 on the standard scale.”
(3)Yn y croesbennawd sy’n dod o flaen paragraff 6B (pŵer swyddog prisio i fynd i eiddo yn Lloegr at ddibenion prisio), yn lle “Power” rhodder “Powers”.
(4)Yn lle’r croesbennawd sy’n dod o flaen paragraff 8 (dyletswydd ar swyddogion prisio i roi mynediad at wybodaeth sy’n ymwneud â rhestrau prisio), rhodder “Access to information”.
(5)Yn Rhan 2 o Atodlen 11 (tribiwnlysoedd prisio: Cymru), o flaen paragraff 2(d) mewnosoder—
“(cc)paragraph 7A of Schedule 9 above;”.
(1)Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn Atodlen 7 (ardrethu annomestig: lluosyddion)—
(a)ym mharagraff 5(3), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”;
(b)ym mharagraff 5(4), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”;
(c)ym mharagraff 5(5), ar ôl “C” mewnosoder “, in relation to England,”;
(d)ar ôl paragraff 5(5), mewnosoder—
“(5A)In relation to Wales—
(a)B is the consumer prices index for September of the financial year preceding the year concerned, and
(b)C is the consumer prices index for September of the financial year which precedes that preceding the year concerned.
(5B)But where the base month for the consumer prices index for September of the financial year which precedes that preceding the year concerned (the first year) differs from that for the index for September of the year which precedes the year concerned (the second year), C is the figure which the Welsh Ministers calculate would have been the consumer prices index for September of the first year if the base month for that index had been the same as the base month for the index for September of the second year.”;
(e)ar ôl paragraff 5(9) mewnosoder—
“(9A)References in sub-paragraphs (5A) and (5B) to the consumer prices index are to the general index of consumer prices (for all items) published by the Statistics Board or, if that index is not published for a relevant month, any substituted index or index figures published by the Board.
(9B)For the purposes of sub-paragraph (5B) the base month for the retail prices index for September of a particular year is the month for which the consumer prices index is taken to be 100 and by reference to which the index for the September in question is calculated.”;
(f)ar ôl paragraff 5(13) mewnosoder—
“(13A)The Welsh Ministers may by regulations amend, repeal or disapply sub-paragraphs (5A), (5B), (9A) and (9B) so as to—
(a)substitute for references to the consumer prices index references to another index, or
(b)provide that—
(i)B is a figure specified or described in (or calculated in a manner specified in) the regulations;
(ii)C is a figure so specified or described (or so calculated).
(13B)The power to make regulations under sub-paragraph (13A) shall be exercisable by statutory instrument.
(13C)Regulations under sub-paragraph (13A), in their application to a particular financial year (including regulations amending or revoking others) shall not be effective unless they are approved by resolution of Senedd Cymru before the approval by Senedd Cymru of the local government finance report for the year, or before 1 March in the preceding financial year (whichever is earlier).”;
(g)ym mharagraff 5, hepgorer is-baragraffau (14) a (15);
(h)ar ôl paragraff 6(2) mewnosoder—
“(2A)Where the financial year is one for which the Welsh Ministers have calculated a figure for C under paragraph 5(5B), the notice must contain the figure they have calculated.”;
(i)ar ôl paragraff 6(4B) mewnosoder—
“(4C)A calculation made by the Welsh Ministers under this paragraph is also invalid if made at a time when regulations made under paragraph 5(13A) which are effective in relation to the year have not come into force.”;
(j)ym mharagraff 6(5), ar ôl “calculation” mewnosoder “made by the Secretary of State”.
(3)Yn adran 143 (gorchmynion a rheoliadau)—
(a)yn is-adran (2), yn lle “or the Treasury” rhodder “, the Treasury or the Welsh Ministers”;
(b)yn is-adran (9), yn lle “The power to make an order” rhodder “The powers to make an order or regulations”.
Gwybodaeth Cychwyn
I185A. 154 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(m)
(1)Mae Pennod 3 o Ran 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41) (grant cynnal refeniw: Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 84J (cyfrifo’r grant sy’n daladwy i awdurdodau derbyn), yn is-adran (4) ar ôl “subsection (1) or” mewnosoder “by virtue of subsection”.
(3)Yn adran 84K (talu grant i awdurdodau derbyn)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “section 84J(2)” rhodder “section 84J(1)”;
(b)yn is-adrannau (2) a (5), yn lle “under section 84J(4)” rhodder “by virtue of section 84J(2)”.
(4)Yn adran 84M (ailgyfrifo grant yn dilyn adroddiad diwygio), yn is-adran (6) ar ôl “subsection (2) or” mewnosoder “by virtue of subsection”.
(5)Yn adran 84N (talu grant yn dilyn adroddiad diwygio), yn is-adrannau (1) a (4) yn lle “(4)” rhodder “by virtue of section 84M(4)”.
(6)Yn adran 84P (terfynau amser ar gyfer gwybodaeth), yn is-adran (1) yn lle “under section 84J(2) or (4) or 84M(2) or (4)” rhodder “—
(a)under section 84J(1) or by virtue of section 84J(2), or
(b)under section 84M(2) or by virtue of section 84M(4)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I186A. 155 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(n)
Yn Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) (personau a ddiystyrir at ddibenion disgownt), ar ôl paragraff 11 (personau o ddisgrifiadau eraill) mewnosoder—
“12(1)Regulations under paragraph 11 made by the Welsh Ministers may amend Chapter 1 of Part 1 (but not this Schedule) for the purpose of providing that a person who, under the regulations, is to be disregarded for the purposes of discount on a particular day is also not to be jointly or severally liable to pay council tax in respect of any chargeable dwelling and that day.
(2)Regulations which make provision as described in sub-paragraph (1) may also make provision about how liability to pay the council tax in respect of a dwelling is to be determined.”
Gwybodaeth Cychwyn
I187A. 156 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(o)
(1)Mae Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) (gorfodi) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ym mharagraff 8(1) (traddodi i garchar), ar ôl “provide” mewnosoder “, in relation to the recovery of any sum which has become payable to a billing authority in England,”.
(3)Ym mharagraff 20 (dehongli), yn lle “paragraph 6” rhodder “paragraphs 5(1A)(b)(ii), 6 and 8”.
(1)Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 32 (cyfrifo anghenion cyllideb gan brif gynghorau yng Nghymru), ar ôl is-adran (9) mewnosoder—
“(9A)A statutory instrument containing regulations under subsection (9) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.”
(3)Yn adran 33 (cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor gan brif gynghorau yng Nghymru), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(5A)A statutory instrument containing regulations under subsection (5) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.”
(4)Yn adran 41 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol yng Nghymru), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)A statutory instrument containing regulations under subsection (3) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.”
(5)Yn adran 43 (cyfrifo anghenion cyllideb gan brif awdurdodau praeseptio yng Nghymru), ar ôl is-adran (7) mewnosoder—
“(7A)A statutory instrument containing regulations under subsection (7) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.”
(6)Yn adran 44 (cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor gan brif awdurdodau praeseptio yng Nghymru), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(5A)A statutory instrument containing regulations under subsection (5) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.”
(7)Yn adran 113 (darpariaeth gyffredinol ynglŷn â gorchmynion a rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)Paragraphs 33 and 34 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 make provision about the Senedd Cymru procedures that apply to any statutory instrument containing regulations or an order made in exercise of functions conferred upon the Secretary of State or the National Assembly for Wales by this Act that have been transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of that Schedule.”
Gwybodaeth Cychwyn
I189A. 158 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(p)
(1)Caiff aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth, at ddibenion arfer swyddogaethau penodedig yr aelod hwnnw mewn perthynas â phrif gyngor, wneud cais bod aelod arall o’r grŵp rhannu gwybodaeth yn darparu gwybodaeth neu ddogfen.
(2)Rhaid i aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth ddarparu gwybodaeth neu ddogfen y gwneir cais amdani o dan is-adran (1), i’r graddau—
(a)y cafwyd neu y crëwyd yr wybodaeth neu’r ddogfen gan yr aelod hwnnw wrth arfer swyddogaethau penodedig yr aelod, a
(b)ei bod yn rhesymol ymarferol i’r aelod hwnnw ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen.
(3)Os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru, at ddiben arfer swyddogaeth a bennir yn is-adran (4), yn gwneud cais i aelod arall o’r grŵp rhannu gwybodaeth ddarparu gwybodaeth neu ddogfen ac—
(a)nad yw’n ofynnol i’r aelod hwnnw ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen o dan is-adran (2) neu unrhyw ddeddfiad arall, a
(b)nad oes gan yr aelod hwnnw bŵer o dan unrhyw ddeddfiad (ac eithrio’r adran hon) i ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen,
caiff yr aelod ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen honno.
(4)Y swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (3) yw—
(a)swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 5 (cydweithio gan brif gynghorau);
(b)swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1 o Ran 6 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu);
(c)swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 7 (ailstrwythuro prif ardaloedd).
(5)At ddibenion yr adran hon—
(a)mae person yn aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth os crybwyllir y person hwnnw yng ngholofn gyntaf tabl 2;
(b)swyddogaethau penodedig yr aelodau o’r grŵp rhannu gwybodaeth yw’r swyddogaethau a grybwyllir yn yr ail golofn.
Aelodau o’r grŵp rhannu gwybodaeth | Swyddogaethau penodedig |
---|---|
Archwilydd Cyffredinol Cymru | Swyddogaethau o dan adrannau 13 a 41 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) (archwilio cyfrifon ac astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth mewn gwasanaethau) |
Swyddogaethau o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (asesiadau sy’n ymwneud â’r egwyddor datblygu cynaliadwy) | |
Swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf hon (arolygiadau arbennig o berfformiad prif gynghorau) | |
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru | Swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (arolygu swyddogaethau addysg etc. prif gynghorau) |
Gweinidogion Cymru | Swyddogaethau o dan adran 149A ac adran 149B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (adolygiadau etc. o arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol prif gynghorau) |
Swyddogaethau o dan Ran 5 (cydweithio gan brif gynghorau), Pennod 1 o Ran 6 (perfformiad prif gynghorau) neu Bennod 2 o Ran 7 (ailstrwythuro prif ardaloedd) o’r Ddeddf hon |
(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio tabl 2 er mwyn—
(a)ychwanegu cofnod;
(b)diwygio cofnod;
(c)hepgor cofnod.
(7)Caiff rheoliadau o dan is-adran (6) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad o ganlyniad i unrhyw ddiwygiad a wneir i dabl 2 gan reoliadau o dan is-adran (6), neu at ddibenion rhoi effaith lawn iddo.
(8)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6) sy’n diwygio tabl 2, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy;
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(c)y person y bydd cofnod newydd neu ddiwygiedig yn ymwneud ag ef;
(d)y person y mae cofnod sydd i’w hepgor yn ymwneud ag ef.
(9)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.
F3(10). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F3A. 159(10) wedi ei hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 113(h), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 4, 5, 7-9)
Gwybodaeth Cychwyn
I190A. 159(1)-(3)(4)(a)(6)-(10) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(g)
I191A. 159(4)(b)(c) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(e)
I192A. 159(5) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(e)
Yn adran 54 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) (cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (a) (ac o flaen yr “or” sy’n ei ddilyn) mewnosoder—
“(aa)pursuant to section 159 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021,”;
(b)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)section 159 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;
(bb)for the purposes of any functions of the Auditor General for Wales which are specified functions within the meaning of section 159 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (and are not mentioned elsewhere in this subsection);”.
Gwybodaeth Cychwyn
I193A. 160 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(h)
(1)Yn adran 8 o Fesur 2011, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch swyddogaeth yr awdurdod lleol o dan is-adran (1)(b).”
(2)Yn is-adran (4) o’r adran honno—
(a)hepgorer paragraff (b);
(b)ym mharagraff (c), yn lle “yr adran honno” rhodder “adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989”.
(3)Yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) (ystyr “chief officer” at ddibenion datganiadau ar bolisïau tâl), ar ddiwedd paragraff (e) mewnosoder “;
(f)its head of democratic services designated under section 8(1) of the Local Government (Wales) Measure 2011 (designation by council of a county or county borough in Wales).”
Gwybodaeth Cychwyn
I194A. 161 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I195A. 161(1) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(h)
Yn ddilys o 05/05/2022
Mae Atodlen 13 yn gwneud darpariaeth sy’n diddymu’r pŵer i gynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfodydd cymunedol o dan Ddeddf 1972.
Gwybodaeth Cychwyn
I196A. 162 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Mae adran 8 o Ddeddf 2013 (prif weithredwr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (2)—
(a)yn lle “Weinidogion Cymru” rhodder “y Comisiwn”;
(b)yn lle “ganddynt” rhodder “ganddo”.
(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).”
(4)Yn is-adran (3) ar ôl “prif weithredwr” mewnosoder “o dan is-adran (2A),”.
(5)Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(4)Ni chaiff y prif weithredwr fod—
(a)yn aelod Seneddol;
(b)yn Aelod o’r Senedd;
(c)yn aelod o awdurdod lleol;
(d)yn swyddog awdurdod lleol;
(e)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
(5)Rhaid i’r Comisiwn, wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.”
(6)Yn adrannau 4(3)(c) a (d) (aelodaeth) ac 11(2)(c) a (d) (comisiynwyr cynorthwyol) o Ddeddf 2013, hepgorer “yng Nghymru”.
(1)Mae adran 48 o Ddeddf 2013 (cyfarwyddydau a chanllawiau ynghylch adolygiadau o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (2)—
(a)ym mharagraff (a) yn lle “(gan gynnwys, pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion iddynt, adolygiadau pellach)” rhodder “(ni waeth a fyddai gan y Comisiwn y pŵer, neu y byddai’n ddarostyngedig i ddyletswydd, o dan yr amgylchiadau, i gynnal yr adolygiad ai peidio)”;
(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion i Weinidogion Cymru, i gynnal adolygiad pellach o dan y Rhan hon,
(ab)i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon,”;
(c)ym mharagraff (b) yn lle “adran 28” rhodder “y Rhan hon”.
(3)Yn is-adran (5)—
(a)yn y testun Saesneg, hepgorer “to” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;
(b)yn y testun Saesneg, ym mharagraff (a), ar y dechrau mewnosoder “to”;
(c)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,
(ab)i beidio â chynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31 yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,”;
(d)yn y testun Saesneg, ym mharagraff (b), ar y dechrau mewnosoder “to”.
(1)Yn Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2), mae adran 47 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Hepgorer is-adran (3) (gofyniad bod yr un Bwrdd Iechyd Lleol yn aelod o bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sy’n uno).
(3)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)Rhaid i fwrdd unedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei sefydlu, adolygu—
(a)y cynlluniau llesiant lleol a oedd yn weithredol ar gyfer ei ardal yn union cyn iddo gael ei sefydlu, a
(b)yr amcanion lleol a nodir yn y cynlluniau hynny.
(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl adolygiad o dan is-adran (5), rhaid i’r bwrdd baratoi a chyhoeddi ar gyfer ei ardal gynllun llesiant lleol a gaiff fabwysiadu’r cynlluniau a’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (5)(a) a (b)—
(a)i’r graddau y bo’r bwrdd yn ystyried bod hynny’n briodol, a
(b)yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a’r newidiadau hynny y mae’r bwrdd yn ystyried eu bod yn briodol.
(7)Caiff bwrdd unedig, os yw’n ystyried y byddai hynny’n cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant—
(a)daduno, neu
(b)daduno yn rhannol (os gwnaeth tri bwrdd neu ragor uno i greu’r bwrdd unedig).
(8)Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried y byddai hynny’n cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant, gyfarwyddo bwrdd unedig—
(a)i ddaduno, neu
(b)i ddaduno yn rhannol (os gwnaeth tri bwrdd neu ragor uno i greu’r bwrdd unedig).
(9)At ddibenion is-adrannau (7) ac (8), mae bwrdd unedig—
(a)yn daduno os yw’n peidio â bodoli a bod bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar wahân yn cael ei sefydlu ar gyfer ardal pob awdurdod lleol a oedd yn aelod o’r bwrdd unedig;
(b)yn daduno yn rhannol—
(i)os yw’n parhau i fodoli fel y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd dau awdurdod lleol neu ragor, a
(ii)os sefydlir bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar wahân ar gyfer ardal pob awdurdod lleol sydd wedi peidio â bod yn aelod o’r bwrdd unedig.
(10)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir ar ôl daduno neu ddaduno yn rhannol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei sefydlu, adolygu—
(a)y cynllun llesiant lleol a oedd yn weithredol ar gyfer ei ardal yn union cyn iddo gael ei sefydlu, a
(b)yr amcanion lleol a nodir yn y cynllun hwnnw.
(11)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl adolygiad o dan is-adran (10), rhaid i’r bwrdd baratoi a chyhoeddi ar gyfer ei ardal gynllun llesiant lleol a gaiff fabwysiadu’r cynllun a’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (10)(a) a (b)—
(a)i’r graddau y bo’r bwrdd yn ystyried bod hynny’n briodol, a
(b)yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a’r newidiadau hynny y mae’r bwrdd yn ystyried eu bod yn briodol.
(12)Cyn cyhoeddi cynllun o dan is-adran (6) neu (11), rhaid i fwrdd ymgynghori ag—
(a)y Comisiynydd;
(b)Gweinidogion Cymru;
(c)unrhyw bersonau eraill y mae’r bwrdd yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(13)Rhaid i fwrdd anfon copi o gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan is-adran (6) neu (11) at y personau a grybwyllir yn adran 44(6).”
(4)Mae Atodlen 14 yn gwneud diwygiadau i Ddeddfau a Mesurau o ganlyniad i is-adran (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I199A. 165 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(q)
(1)Mae Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 2 (pŵer i greu awdurdodau tân ac achub cyfunol)—
(a)yn is-adran (8)—
(i)hepgorer “must cause an inquiry to be held”;
(ii)ym mharagraff (a), ar y dechrau mewnosoder “must cause an inquiry to be held”;
(iii)ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “or”;
(iv)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)where a scheme constituted a fire and rescue authority for an area in England, must cause an inquiry to be held before varying or revoking the scheme under this section, or”;
(v)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—
“(c)where a scheme constituted a fire and rescue authority for an area in Wales, must cause an inquiry to be held before—
(i)varying the scheme in a way which changes the combined area (and may cause an inquiry to be held if the scheme would be varied in any other way), or
(ii)revoking the scheme.”;
(b)yn is-adran (9)—
(i)ym mharagraff (b), ar ôl “(8)(b)” mewnosoder “or (c)”;
(ii)ym mharagraff (c), yn lle “either” rhodder “any”;
(iii)yn y paragraff hwnnw, ar ôl ”2007” mewnosoder “or Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013, or to regulations under Part 7 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021”;
(iv)ym mharagraff (d), yn lle “either” rhodder “any”;
(c)yn is-adran (10), ar ôl “2007” mewnosoder “or Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013, or regulations are made under Part 7 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021,”.
(3)Yn adran 4 (awdurdodau cyfunol o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 (p. 41))—
(a)yn is-adran (6), yn lle “must cause an inquiry to be held” rhodder “—
(a)where the scheme constituted a fire and rescue authority for an area in England, must cause an inquiry to be held, and
(b)where the scheme constituted a fire and rescue authority for an area in Wales, must cause an inquiry to be held if under the order—
(i)the scheme would be varied in a way which changes the combined area (and may cause an inquiry to be held if the scheme would be varied in any other way), or
(ii)the scheme would be revoked.”;
(b)ym mharagraff (b) o is-adran (7), ar ôl ”2007” mewnosoder “or Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013, or to regulations under Part 7 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021”.
(4)Yn adran 34(3) o Ddeddf 2013 (y weithdrefn ragadolygu: ymgyngoreion gorfodol), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)unrhyw awdurdod tân ac achub (a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo) ar gyfer ardal yng Nghymru y gallai’r adolygiad effeithio arni,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I200A. 166(2)(b)(iii)(c)(3)(b) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(i)
(1)Mae Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 21 (fframwaith cenedlaethol tân ac achub) mewnosoder—
(1)The Welsh Ministers may by regulations—
(a)require a fire and rescue authority for an area in Wales to make a plan in relation to the exercise of the authority’s functions;
(b)impose requirements relating to such a plan.
(2)The requirements which may be imposed under subsection (1)(b) include requirements about—
(a)a plan’s content;
(b)its preparation and revision;
(c)when it is to be made;
(d)the period to which it is to relate;
(e)its publication.
(3)Requirements about a plan’s content include requirements to—
(a)set out an authority’s priorities and objectives;
(b)describe and explain the extent to which the plan reflects the Framework prepared by the Welsh Ministers under section 21;
(c)set out actions the authority intends to take in relation to its priorities and objectives;
(d)set out how the authority intends to assess its performance.
(4)The Welsh Ministers may by regulations make provision (including imposing requirements on an authority) for the purposes of assessing or reporting on the performance of an authority.
(5)Before making regulations under subsection (1) or (4) the Welsh Ministers—
(a)must consult fire and rescue authorities for areas in Wales or persons who the Welsh Ministers consider represent those authorities;
(b)must consult persons who the Welsh Ministers consider represent employees of fire and rescue authorities for areas in Wales;
(c)may consult any other persons the Welsh Ministers consider appropriate.”
(3)Yn adran 60(6) (y weithdrefn ar gyfer gorchmynion a rheoliadau), ar ôl paragraff (c) ac o flaen yr “or” sy’n dod ar ei ôl mewnosoder—
“(ca)regulations made by the Welsh Ministers under section 21A(1) or (4),”.
Gwybodaeth Cychwyn
I201A. 167 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(s).
(1)Ym Mesur 2009 hepgorer—
(a)adran 1(c) (ystyr “awdurdod gwella Cymreig”);
(b)adran 4(3)(c) a (4)(b) (agweddau ar wella);
(c)adran 10 (pwerau dirprwyo);
(d)adran 11(1)(d) (ystyr “pwerau cydlafurio”);
(e)adran 16(2)(c) (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”);
(f)yn adran 35 (dehongli Rhan 1), y diffiniad o “awdurdod tân ac achub Cymreig”;
(g)yn Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol: Rhan 1)—
(i)paragraff 27;
(ii)paragraffau 32 a 33, a’r pennawd sy’n eu rhagflaenu.
(2)Yn adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) (pŵer i godi ffi am wasanaethau disgresiynol), yn is-adran (9)—
(a)yn lle paragraff (aa) rhodder—
“(aa)a county council or county borough council in Wales;”;
(b)ar ôl paragraff (ab) mewnosoder—
“(ac)a National Park authority for a National Park in Wales;”.
(3)Yn adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) (gwerth gorau), yn lle is-adrannau (3) i (5) rhodder—
“(3)This section does not apply to a fire and rescue authority in Wales.”>
Gwybodaeth Cychwyn
I202A. 168(1)(g)(i)(2) mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(t)
Ym Mesur 2009 hepgorer—
(a)adran 1(b) (ystyr “awdurdod gwella Cymreig”);
(b)adran 4(3)(b) a (4)(c) (agweddau ar wella);
(c)adran 11(1)(e) (ystyr “pwerau cydlafurio”).
Rhagolygol
(1)Mae Mesur 2009 wedi ei ddiddymu.
(2)O ganlyniad i is-adran (1), hepgorer y darpariaethau a ganlyn—
(a)ym Mesur 2011, adran 161;
(b)yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3)—
(i)adran 11(2);
(ii)yn Atodlen 4, baragraffau 83 i 88 (a’r croesbennawd sy’n dod o’u blaenau);
(c)yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2), yn Atodlen 4, baragraffau 20 i 23 (a’r croesbennawd sy’n dod o’u blaenau);
(d)yn Neddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), yn y tabl yn Rhan 1 o Atodlen 25, y cofnod ar gyfer Mesur 2009;
(e)yn Neddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), adran 100(2)(h);
(f)yn y Ddeddf hon—
(i)adrannau 113, 168(1) a 169;
(ii)yn Atodlen 3, baragraff 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I204A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
(1)Yn y Ddeddf hon—
mae “aelod” (“member”)—
mewn perthynas â phrif gyngor, yn golygu cynghorydd i’r cyngor (sy’n cynnwys cynghorydd a etholwyd yn gadeirydd neu’n aelod llywyddol, neu a benodwyd yn is-gadeirydd neu’n ddirprwy aelod llywyddol), a
mewn perthynas â phrif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, yn cynnwys maer etholedig y cyngor;
mae i “arweinydd gweithrediaeth” yr un ystyr ag a roddir i “executive leader” yn adran 11(3)(a) o Ddeddf 2000;
ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
ystyr “Deddf 1972” (“1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);
ystyr “Deddf 1983” (“1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2);
ystyr “Deddf 2000” (“2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);
ystyr “Deddf 2013” (“2013 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4);
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir (gan gynnwys y Ddeddf hon);
ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” (“primary legislation”) yw—
Mesur a basiwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
Deddf a basiwyd o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno;
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;
ystyr “etholiad llywodraeth leol” (“local government election”) yw etholiad ar gyfer cynghorwyr dros unrhyw ward etholiadol neu ward gymunedol yng Nghymru neu, yn achos cymuned yng Nghymru lle nad oes unrhyw wardiau, y gymuned, y cynhelir yr etholiad ar gyfer cynghorwyr ar ei chyfer o dan Ddeddf 1972;
mae “gweithrediaeth” (“executive”) i’w dehongli yn unol ag adran 11 o Ddeddf 2000;
ystyr “gweithrediaeth arweinydd a chabinet” yw gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) o fewn yr ystyr a roddir i “leader and cabinet executive (Wales)” yn adran 11(3) o Ddeddf 2000;
mae i “gweithrediaeth maer a chabinet” yr un ystyr ag a roddir i “mayor and cabinet executive” yn adran 11(2) o Ddeddf 2000;
mae i “maer etholedig” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” yn adran 39(1) o Ddeddf 2000;
ystyr “Mesur 2009” (“2009 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2);
ystyr “Mesur 2011” (“2011 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4);
ystyr “pobl leol” (“local people”), mewn perthynas â phrif gyngor, yw pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal y cyngor;
ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw—
y cyngor ar gyfer sir yng Nghymru;
y cyngor ar gyfer bwrdeistref sirol (yng Nghymru);
mae i “trefniadau gweithrediaeth“ yr un ystyr ag a roddir i “executive arrangements” yn adran 10 o Ddeddf 2000.
(2)Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi hysbysiad neu ddogfen arall, rhaid i’r hysbysiad neu’r ddogfen arall gael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—
(a)ar ffurf electronig, a
(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn ystyried ei fod yn briodol,
ac mae’r ddyletswydd i gyhoeddi’r hysbysiad neu’r ddogfen arall ar ffurf electronig yn ddyletswydd, pan fo gan y person hwnnw ei wefan ei hun, i’w gyhoeddi neu i’w chyhoeddi ar y wefan honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I205A. 171 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(j)
Mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan y Ddeddf hon—
(a)rhaid iddo fod ar ffurf ysgrifenedig;
(b)rhaid cydymffurfio ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I206A. 172 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(j)
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi, cânt wneud y canlynol drwy reoliadau—
(a)darpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol;
(b)darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I207A. 173 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(j)
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.
(3)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i’r pwerau o dan—
(a)adran 72, 74, 80 na 83 (cyd-bwyllgorau corfforedig; gweler adran 83 ynglŷn â hynny);
(b)adran 124, 131 na 147 (uno ac ailstrwythuro; gweler adran 147 ynglŷn â hynny).
(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni fo drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru, ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(5)Mae is-adran (4) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
(a)adran 28(1) neu (2), pan o’r rheoliadau’n diwygio, yn addasu, yn diddymu neu’n datgymhwyso deddfwriaeth sylfaenol, oni fo’r rheoliadau’n cael eu gwneud at ddiben a ddisgrifir yn is-adran (8) o’r adran honno yn unig;
(b)adran 28(3) neu (4), oni fo’r rheoliadau’n cael eu gwneud at ddiben a ddisgrifir yn is-adran (8) o’r adran honno yn unig;
(c)adran 35(1) neu (3) (cynghorau cymuned cymwys: gofynion cymhwystra);
(d)adran 46 (darllediadau electronig o gyfarfodydd);
(e)adran 47(8) (mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol);
(f)adran 50 (rheoliadau ynglŷn â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, hysbysiadau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd hynny, etc.);
(g)adran 60(1) (rhannu swydd: swyddi nad ydynt yn swyddi gweithrediaeth o fewn prif gynghorau);
(h)adran 72 (sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig y gwnaed cais amdanynt);
(i)adran 74 (sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig ac eithrio pan wnaed cais amdanynt);
(j)adran 80 (diwygio etc. reoliadau cyd-bwyllgor);
(k)adran 83 (cyd-bwyllgorau corfforedig: atodol etc.);
(l)adran 84(2) (diwygio deddfiadau at ddibenion etc. Rhan 5);
(m)adran 94 (asesiadau perfformiad gan baneli: rheoliadau atodol);
(n)adran 107(3) (datgymhwyso etc. ddeddfiadau mewn perthynas â swyddogaethau prif gyngor sy’n arferadwy gan Weinidogion Cymru etc.);
(o)adran 110(1) neu (2) (diwygio etc. ddeddfiadau a rhoi pwerau newydd mewn perthynas â pherfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu);
(p)adran 124 (rheoliadau uno);
(q)adran 131 (rheoliadau ailstrwythuro; ond gweler adran 148 am ddarpariaeth bellach ynglŷn â’r weithdrefn sy’n ymwneud ag offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau ailstrwythuro);
(r)adran 147 (darpariaeth bellach mewn perthynas â rheoliadau uno a rheoliadau ailstrwythuro);
(s)adran 159(6) (diwygio tabl 2 er mwyn newid aelodaeth grŵp rhannu gwybodaeth a’u swyddogaethau penodedig);
(t)adran 173 (darpariaeth ganlyniadol etc.), pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu deddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys y Ddeddf hon).
(6)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon ac nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan baragraff 9, 10 neu 11 o Atodlen 1 (adolygiadau cychwynnol) yn unig.
(7)Yn is-adran (5), mae “deddfwriaeth sylfaenol” yn cynnwys darpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.
Gwybodaeth Cychwyn
I208A. 174 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(j)
(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)adran 50;
(b)adran 51;
(c)paragraff 17(4) o Atodlen 4 (ac adran 49 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraff hwnnw);
(d)adran 61;
(e)Rhan 5;
(f)Rhan 7 (gan gynnwys Atodlen 1), yn ddarostyngedig i is-adran (2);
(g)adran 159, ac eithrio—
(i)is-adran (4)(b) ac (c);
(ii)yn nhabl 2 yn is-adran (5), y cofnod sy’n ymwneud â swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan Bennod 1 o Ran 6;
(iii)yn y tabl hwnnw, yn y cofnod sy’n ymwneud â swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon, y geiriau o “Pennod 1” hyd “ardaloedd)”;
(h)adran 160;
(i)adran 166(2)(b)(iii) ac (c) a (3)(b);
(j)y Rhan hon;
(k)paragraff 2(2) o Atodlen 2;
(l)paragraff 16(3) o Atodlen 2.
(2)Nid yw is-adran (1)(f) yn gymwys i’r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 7 (sy’n dod i rym yn unol ag is-adran (6) neu (7) o’r adran hon)—
(a)Pennod 2;
(b)pob achos yn y Rhan, ac eithrio yn adran 147(3), pan fo’r termau a ganlyn yn digwydd—
(i)“neu reoliadau ailstrwythuro”, “a rheoliadau ailstrwythuro”, “neu reoliadau ailstrwythuro penodol” a “, rheoliadau ailstrwythuro”;
(ii)“neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro”, “neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro”, “neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro”, “neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro”, “a chynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro”, a “neu gynghorau gwahanol sy’n cael eu hailstrwythuro”;
(c)yn adran 138—
(i)is-adran (1)(b);
(ii)is-adran (3);
(d)yn adran 139—
(i)is-adran (2);
(ii)yn is-adran (3), y geiriau “neu (2)”;
(e)yn adran 140—
(i)yn is-adran (1)(a), y geiriau “i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu”;
(ii)is-adran (2);
(f)yn adran 141—
(i)yn is-adran (1)(a), y geiriau “i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu”;
(ii)yn is-adran (2)(a) y geiriau “(gan gynnwys cyngor B)”;
(iii)yn is-adran (2)(c), y geiriau “os yw prif ardal newydd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o ardal cyngor A i’w chyfansoddi,”;
(iv)is-adran (3);
(g)adran 145(7)(b);
(h)adran 148;
(i)yn adran 149—
(i)y diffiniadau o “cais i ddiddymu”, “cyngor sydd o dan ystyriaeth” a “cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro”;
(ii)yn y naill a’r llall o’r diffiniadau o “cyngor cysgodol” a “dyddiad trosglwyddo”, paragraff (b);
(j)adran 150(1)(a) a (b)(ii), (iv) a (v) a (2)(b) ac (c);
(k)yn Atodlen 1—
(i)pob cyfeiriad at “11 neu”;
(ii)ym mharagraff 1(3), y geiriau “11(3) neu”;
(iii)paragraffau 2(2), 6(2)(a) a 12(1)(a), (2) a (4)(a);
(iv)paragraff 2(4) a (5);
(l)yn Atodlen 11—
(i)Rhan 2;
(ii)ym mharagraff 7(3)(a), y geiriau “neu yn rhinwedd paragraff 4”;
(iii)paragraff 7(3)(c);
(m)yn Atodlen 12—
(i)ym mharagraff 1(1), y geiriau “neu ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6)”;
(ii)ym mharagraff 7(6), yn y diffiniad o “y dyddiad perthnasol”, paragraff (b).
(3)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)adran 1;
(b)adran 2(1) a (3) (yn ddarostyngedig i adran 3);
(c)adrannau 3 a 4;
(d)adrannau 13 i 17;
(e)adran 22 (yn ddarostyngedig i adran 3);
(f)adran 23 ac Atodlen 2—
(i)ac eithrio paragraffau 1(3) i (5), 1(7), 1(9), 2(2), 2(9) a (10), 2(18)(b), 5, 13, 16(2) ac 16(3), a
(ii)yn ddarostyngedig i adran 3 mewn cysylltiad â pharagraffau 2(12), 8(3)(b), 15 a 19;
(g)adran 38;
(h)adran 53;
(i)adran 55;
(j)adran 60;
(k)adran 94;
(l)adran 152;
(m)adran 154;
(n)adran 155;
(o)adran 156;
(p)adran 158;
(q)adran 165 ac Atodlen 14;
(r)adran 166, ac eithrio is-adrannau (2)(b)(iii) ac (c) a (3)(b) (gweler is-adran (1) o’r adran hon ynglŷn â’r rhain);
(s)adran 167;
(t)adran 168(1)(g)(i) a (2).
(4)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Ebrill 2021—
(a)adran 151;
(b)adran 153;
(c)adran 157.
(5)Daw adran 2(2) i rym ar 5 Mai 2022.
(6)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 6 Mai 2022—
(a)adrannau 5 i 12;
(b)y darpariaethau yn Atodlen 1 a grybwyllir yn is-adran (2)(k)(i) i (iii) o’r adran hon;
(c)yn Atodlen 2, paragraffau 2(9), (10) a (18)(b).
(7)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(8)Caiff gorchymyn o dan is-adran (7)—
(a)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed;
(b)pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I209A. 175 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(j)
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I210A. 176 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(j)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys