Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Diwygio deddfiadau eraill

 Help about opening options

No versions valid at: 21/01/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) croes bennawd yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Diwygio deddfiadau eraill. Help about Changes to Legislation

Yn ddilys o 01/04/2021

Diwygio deddfiadau eraillLL+C

113Datgymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas â phrif gynghorau a diddymu darpariaethau ynglŷn â chydlynu archwiliadLL+C

Ym Mesur 2009 hepgorer—

(a)adran 1(a) (ystyr “awdurdod gwella Cymreig”);

(b)adran 4(3)(a) (agweddau ar wella);

(c)adran 11(1)(b) a (2) (ystyr “pwerau cydlafurio”);

(d)adran 16(2)(a) a (b) (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”);

(e)adran 22(5) (adroddiadau am arolygiadau arbennig sy’n ymwneud â budd-dal tai);

(f)adran 23 (cydlynu archwiliad);

(g)adran 25(4)(d) (datganiad o arfer gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);

(h)adran 33 (rhannu gwybodaeth); ac o ganlyniad, yn adran 159 o’r Ddeddf hon hepgorer is-adran (10).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

114Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015LL+C

Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A)Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff awdurdod lleol gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (hunanasesiad o berfformiad) yn yr un ddogfen.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth