Yn ddilys o 01/04/2021
Diwygio deddfiadau eraillLL+C
113Datgymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas â phrif gynghorau a diddymu darpariaethau ynglŷn â chydlynu archwiliadLL+C
Ym Mesur 2009 hepgorer—
(a)adran 1(a) (ystyr “awdurdod gwella Cymreig”);
(b)adran 4(3)(a) (agweddau ar wella);
(c)adran 11(1)(b) a (2) (ystyr “pwerau cydlafurio”);
(d)adran 16(2)(a) a (b) (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”);
(e)adran 22(5) (adroddiadau am arolygiadau arbennig sy’n ymwneud â budd-dal tai);
(f)adran 23 (cydlynu archwiliad);
(g)adran 25(4)(d) (datganiad o arfer gan Archwilydd Cyffredinol Cymru);
(h)adran 33 (rhannu gwybodaeth); ac o ganlyniad, yn adran 159 o’r Ddeddf hon hepgorer is-adran (10).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
114Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015LL+C
Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(2A)Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff awdurdod lleol gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (hunanasesiad o berfformiad) yn yr un ddogfen.”
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)