Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 66

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 05/05/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 66. Help about Changes to Legislation

66Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau benodi cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffuLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae adran 58 o Fesur 2011 (cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), ar ôl “i ganiatáu” mewnosoder “neu i’w gwneud yn ofynnol”.

(3)Yn is-adran (3), yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir gwneud trefniadau;

(aa)darpariaeth sy’n rhagnodi amgylchiadau pan fo rhaid gwneud trefniadau;

(ab)darpariaeth i drefniadau gael eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau neu gyfyngiadau rhagnodedig;.

(4)Yn is-adran (4)—

(a)hepgorer “, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir iddynt gan yr adran hon neu oddi tani, neu wrth benderfynu ai i’w harfer,”;

(b)ar ôl “Weinidogion Cymru” mewnosoder “mewn perthynas ag arfer unrhyw swyddogaeth sydd ganddo o dan neu yn rhinwedd yr adran hon”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 66 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(n)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth