Adran 8 – Pŵer pellach i amrywio dyddiad etholiad 2021
25.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r Llywydd i gynnig bod dyddiad y pôl ar gyfer yr etholiad yn 2021 a bennir o dan adran 6 o’r Ddeddf yn cael ei ddwyn ymlaen neu ei ohirio am hyd at fis. Nid oes rhaid arfer y pŵer hwn am resymau sy’n ymwneud â’r coronafeirws ac ni chaniateir ei arfer i gynnig dyddiad sydd ar ôl 5 Tachwedd 2021.
26.Os yw’r Llywydd yn cynnig dyddiad, caiff Ei Mawrhydi drwy broclamasiwn o dan y Sêl Gymreig ddiddymu’r Senedd a’i gwneud yn ofynnol i’r pôl yn yr etholiad fynd rhagddo ar y diwrnod a gynigiwyd. Os caiff y pŵer o dan yr adran hon ei arfer, mae adran 5 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarfod cyntaf y Senedd ddigwydd o fewn 21 o ddiwrnodau i ddyddiad y pôl. Ni chaiff y Llywydd arfer y pŵer i gynnig amrywiad o ddyddiad etholiad y Senedd o dan adran 4 o Ddeddf 2006 ond os yw’r etholiad i’w gynnal ar 6 Mai 2021. Os caiff yr etholiad ei ohirio o dan adran 6 o’r Ddeddf, a bod y Llywydd yn dymuno cynnig amrywiad o ddyddiad yr etholiad a ohiriwyd, dim ond o dan yr adran hon y caniateir gwneud y cynnig ac amrywio dyddiad yr etholiad.