Sylwebaeth Ar Yr Adrannau
Adran 1 – Etholiad 2021
7.Mae’r adran hon yn diffinio’r term allweddol yn y Ddeddf, “etholiad 2021”, fel yr etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021.
Adran 2 – Cymhwyso darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006
8.Mae’r adran hon yn datgymhwyso neu’n cyfyngu ar gymhwysiad darpariaethau penodedig o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) i etholiad 2021.
9.Byddai is-adrannau (2)(a) a (3) o adran 3 o Ddeddf 2006, ar y cyd ag erthygl 148 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, wedi ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gael ei diddymu ar 7 Ebrill 2021. Mae adran 2(1) yn datgymhwyso’r darpariaethau hyn. Yn lle hynny, mae adran 3 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer diddymu’r Senedd cyn etholiad 2021.
10.Mae is-adrannau (2)(b) a (4) o adran 3 o Ddeddf 2006, fel y’i diwygiwyd gan adran 36(1) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”), yn darparu i gyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad cyffredinol arferol gael ei gynnal 14 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod y pôl. Mae’r darpariaethau hyn wedi eu datgymhwyso gan adran 2(1) o’r Ddeddf ac mae adran 5 yn gwneud darpariaeth arall ynghylch dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad 2021.
11.Mae adran 3(1) o Ddeddf 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddiwrnod y pôl ar gyfer yr etholiad cyffredinol arferol ddigwydd ar 6 Mai 2021, a dim ond ar y dyddiad hwnnw, yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 6 o’r Ddeddf sy’n galluogi i ddiwrnod y pôl gael ei symud os yw’n angenrheidiol ac yn briodol gwneud hynny am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.
12.Mae adran 2(3) o’r Ddeddf yn darparu nad yw adran 4(2)(c) o Ddeddf 2006 (fel y’i diwygiwyd gan adran 36(2) o Ddeddf 2020) yn gymwys i etholiad 2021. Mae’r ddarpariaeth hon o Ddeddf 2006 yn caniatáu i broclamasiwn o dan y Sêl Gymreig ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gyfarfod o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod y pôl os yw’r pwerau i amrywio dyddiad yr etholiad yn cael eu harfer o dan adran 4 o Ddeddf 2006. Yn achos etholiad 2021, os caiff dyddiad y pôl ei amrywio o dan adran 4 o Ddeddf 2006, mae adran 5 o’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gyfarfod 21 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod y pôl.
13.Mae adran 2(4) o’r Ddeddf yn darparu bod adran 10 o Ddeddf 2006, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch is-etholiadau’r Senedd, yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 7 o’r Ddeddf. Mae adran 7 yn caniatáu i ddyddiad y pôl ar gyfer is-etholiadau gael ei bennu y tu hwnt i’r dyddiad y darperir ar ei gyfer yn adran 10(5) a (6) o Ddeddf 2006.
Adran 3 – Diddymu’r Senedd gyfredol
14.Effaith yr adran hon yw, os cynhelir etholiad cyffredinol arferol y Senedd ar 6 Mai 2021, y bydd y Senedd yn cael ei diddymu ar 29 Ebrill, cyfnod o 7 niwrnod calendr cyn diwrnod y pôl. Fodd bynnag, os yw’r Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 o’r Ddeddf i ohirio diwrnod y pôl ar gyfer yr etholiad; neu os yw Ei Mawrhydi yn diddymu’r Senedd cyn y dyddiad hwnnw drwy broclamasiwn o dan adran 4(2) o Ddeddf 2006 mae’r Senedd yn cael ei diddymu 7 niwrnod cyn y diwrnod y mae’r pôl i’w gynnal.
15.Os yw’r Llywydd yn arfer y pŵer yn adran 6 ar fwy nag un achlysur ac yn gohirio diwrnod y pôl ymhellach, bydd y ddarpariaeth yn sicrhau bod y Senedd yn cael ei diddymu 7 niwrnod calendr cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y pôl, pryd bynnag y bo hynny.
Adran 4 – Canllawiau ar arfer swyddogaethau yn y cyfnod cyn yr etholiad
16.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Prif Weinidog gyhoeddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystod y cyfnod yn union cyn etholiad 2021.
Adran 5 – Dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad 2021
17.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i’r Senedd gyfarfod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau yn union ar ôl diwrnod etholiad 2021.
18.Mae’r ddarpariaeth yn hwy nag y darperir ar ei gyfer ar hyn o bryd yn Neddf 2006 (14 o ddiwrnodau). Diben yr estyniad yw darparu rhywfaint o hyblygrwydd a darparu ar gyfer oedi posibl wrth gyfrif pleidleisiau a chadarnhau canlyniadau oherwydd mesurau’r coronafeirws megis cadw pellter corfforol a rheolau iechyd cyhoeddus eraill a all fod mewn grym o hyd ar adeg yr etholiad.
Adran 6 – Pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis
19.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i’r Llywydd i ohirio etholiad 2021 a phennu dyddiad newydd (is-adran (3)).
20.Ni chaiff y Llywydd bennu dyddiad newydd ar gyfer yr etholiad ond os yw’r Prif Weinidog yn gwneud cynnig i’r Llywydd bod etholiad 2021 yn cael ei ohirio (is-adran (1)). Ni chaiff y Prif Weinidog wneud y cynnig hwnnw ond os yw’r Prif Weinidog yn ystyried bod y gohirio yn angenrheidiol neu’n briodol am resymau sy’n ymwneud â’r coronafeirws. A chyn gwneud cynnig, rhaid i’r Prif Weinidog ymgynghori â Phrif Swyddog Meddygol Cymru.
21.Ni chaiff y Llywydd bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl ond—
os yw’r Senedd yn cymeradwyo’r diwrnod sydd i’w bennu drwy bleidlais drwy benderfyniad sy’n cael ei basio gan fwyafrif o ddwy ran o dair o gyfanswm nifer seddi’r Senedd;
os nad yw’r Senedd eisoes wedi ei diddymu.
22.Nid yw adran 6 o’r Ddeddf yn cyfyngu ar bŵer y Llywydd i amrywio dyddiad y pôl ar gyfer etholiad cyffredinol arferol a nodir yn adran 4 o Ddeddf 2006.
23.Caniateir i’r pwerau yn yr adran gael eu harfer fwy nag unwaith, ond ni chaiff diwrnod a bennir o dan yr adran hon fod yn hwyrach na 5 Tachwedd 2021.
Adran 7 – Pŵer i ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol
24.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n caniatáu i bleidleisio ar gyfer etholiad 2021 ddigwydd ar ddiwrnodau penodedig, yn ychwanegol at y diwrnod y bwriedir i’r pôl ar gyfer yr etholiad ddigwydd. Ond ni chaniateir diwrnodau pleidleisio ychwanegol ar gyfer etholiad y Senedd os yw diwrnod y pôl ar gyfer etholiad y Senedd 2021 ar yr un diwrnod â’r pôl ar gyfer etholiad comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru.
Adran 8 – Pŵer pellach i amrywio dyddiad etholiad 2021
25.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r Llywydd i gynnig bod dyddiad y pôl ar gyfer yr etholiad yn 2021 a bennir o dan adran 6 o’r Ddeddf yn cael ei ddwyn ymlaen neu ei ohirio am hyd at fis. Nid oes rhaid arfer y pŵer hwn am resymau sy’n ymwneud â’r coronafeirws ac ni chaniateir ei arfer i gynnig dyddiad sydd ar ôl 5 Tachwedd 2021.
26.Os yw’r Llywydd yn cynnig dyddiad, caiff Ei Mawrhydi drwy broclamasiwn o dan y Sêl Gymreig ddiddymu’r Senedd a’i gwneud yn ofynnol i’r pôl yn yr etholiad fynd rhagddo ar y diwrnod a gynigiwyd. Os caiff y pŵer o dan yr adran hon ei arfer, mae adran 5 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarfod cyntaf y Senedd ddigwydd o fewn 21 o ddiwrnodau i ddyddiad y pôl. Ni chaiff y Llywydd arfer y pŵer i gynnig amrywiad o ddyddiad etholiad y Senedd o dan adran 4 o Ddeddf 2006 ond os yw’r etholiad i’w gynnal ar 6 Mai 2021. Os caiff yr etholiad ei ohirio o dan adran 6 o’r Ddeddf, a bod y Llywydd yn dymuno cynnig amrywiad o ddyddiad yr etholiad a ohiriwyd, dim ond o dan yr adran hon y caniateir gwneud y cynnig ac amrywio dyddiad yr etholiad.
Adran 9 – Canllawiau ar ymgyrchu etholiadol
27.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch ymgyrchu etholiadol ar gyfer etholiad 2021, is-etholiadau’r Senedd cyn 6 Tachwedd 2021 ac is-etholiadau llywodraeth leol cyn 6 Tachwedd 2021 tra bo’r cyfyngiadau a osodir gan ddeddfiadau sy’n ymwneud â’r coronafeirws mewn lle.
Adran 10 – Pŵer i ohirio is-etholiadau’r Senedd
28.Mae’r adran hon yn galluogi i is-etholiadau ar gyfer etholaethau’r Senedd gael eu gohirio y tu hwnt i’r cyfnod a ganiateir gan adran 10(5) a (6) o Ddeddf 2006. Ni chaniateir arfer y pŵer i ohirio is-etholiadau’r Senedd yn adran 66 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 er mwyn pennu dyddiad ar ôl 6 Mai 2021. Bydd adran 10 o’r Ddeddf yn parhau i ganiatáu i seddi gwag sy’n codi ar ôl 6 Mai 2021 gael eu gohirio, ond nid i ddyddiadau ar ôl 5 Tachwedd 2021.
29.Fel gydag adran 6 o’r Ddeddf hon ac adran 66 o Ddeddf y Coronafeirws 2020, caniateir defnyddio’r pŵer i ohirio is-etholiad i’r Senedd fwy nag unwaith.
Adran 11 – Pŵer i ohirio is-etholiadau awdurdodau lleol
30.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gohirio is-etholiadau awdurdodau lleol yng Nghymru y tu hwnt i’r cyfnod sy’n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pan fyddai’n ofynnol i’r pôl gael ei gynnal fel arall rhwng 6 Mai 2021 a 5 Tachwedd 2021. Mae gan adran 67 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 bŵer tebyg ond nid yw’n galluogi’r rheoliadau i bennu dyddiad neu gyfnod ar gyfer yr is-etholiad ar ôl 6 Mai 2021. Ni chaiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon ohirio’r is-etholiad i ddyddiad sy’n hwyrach na 5 Tachwedd 2021.
31.Mae adran 17 yn gwneud darpariaeth gyfatebol i adran 68 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 (pŵer i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol etc. ar gyfer rhoi effaith lawn i ddarpariaeth a wneir o dan ddarpariaeth o’r Ddeddf hon). Mae adran 17(2)(a) o’r Ddeddf yn galluogi i ddarpariaeth ôl-weithredol gael ei gwneud mewn perthynas ag is-etholiadau llywodraeth leol, sef dull gweithredu sy’n gyson â’r hyn a geir yn adran 68(3) o Ddeddf y Coronafeirws 2020 sy’n galluogi i is-etholiadau llywodraeth leol gael eu gohirio i ddyddiad hyd at 6 Mai 2021.
32.Mae rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn y Senedd, sy’n golygu bod rhaid i Senedd Cymru eu cymeradwyo cyn diwedd cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu gwneud neu byddant yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Ym mhob achos arall, mae’r weithdrefn negyddol yn y Senedd yn gymwys i reoliadau a wneir o dan yr adran hon. Mae’r weithdrefn negyddol yn golygu bod rhaid i’r rheoliadau gael eu gosod gerbron y Senedd ar ôl iddynt gael eu gwneud ac y byddant yn parhau mewn effaith oni bai bod y Senedd yn gwrthwynebu’r rheoliadau o fewn cyfnod o 40 niwrnod ar ôl iddynt gael eu gosod.
Adran 12 – Gorchmynion a rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau yn 2021
33.Pan na fo gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 13(1) o Ddeddf 2006 ynghylch cynnal etholiadau’r Senedd yn cynnwys darpariaeth ond ynghylch etholiad 2021 neu ond ynghylch is-etholiadau’r Senedd a gynhelir cyn 6 Tachwedd 2021, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn y Senedd fod yn gymwys i wneud y gorchymyn yn lle’r weithdrefn gadarnhaol a fyddai’n gymwys fel arall. Mae’r weithdrefn gadarnhaol yn ei gwneud yn ofynnol cymeradwyo drafft o orchymyn cyn iddo gael ei wneud. Mae’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gymeradwyo’r gorchymyn ar ôl iddo gael ei wneud.
34.Yn yr un modd, pan na fo rheolau o dan adran 36A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”) yn cynnwys darpariaeth ond ynghylch cynnal is-etholiad awdurdod lleol sydd i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021, mae’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn gymwys i wneud y rheolau yn lle’r weithdrefn a fyddai’n gymwys fel arall.
35.Daw adran 36A o Ddeddf 1983 i rym ar 20 Mawrth 2021 a byddai rheolau a wneir odani fel arall yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn rhinwedd adran 36A(10) o Ddeddf 1983.
36.Cyn i adran 36A o Ddeddf 1983 ddod i rym, gall Gweinidogion Cymru ddibynnu ar adran 36 o Ddeddf 1983 i wneud rheolau ynghylch cynnal etholiadau awdurdodau lleol. Mae’r weithdrefn negyddol yn gymwys i reolau a wneir o dan adran 36 o Ddeddf 1983 (gweler adran 36(7) o Ddeddf 1983).
Adran 13 – Effaith y Ddeddf ar y pŵer presennol i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau
37.Diben yr adran hon yw egluro nad yw’r ddarpariaeth a wneir yn y Ddeddf ynghylch etholiadau yn effeithio ar bwerau presennol Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch cynnal etholiadau o dan adran 13 o Ddeddf 2006 ac adrannau 36 ac 36A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
38.Mae adran 13(1) o’r Ddeddf yn egluro nad yw adran 13(7) o Ddeddf 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i orchmynion a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006 fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol, yn gymwys i orchmynion o’r math a bennir yn adran 12 o’r Ddeddf. Mae’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn gymwys i orchmynion y mae adran 12 yn gymwys iddynt.
39.Mae adran 13(2) yn egluro, pan fo rheolau o’r math a bennir yn adran 12 o’r Ddeddf wedi eu gwneud o dan adran 36A, nad yw adran 36A(10) o Ddeddf 1983 (gofyniad am weithdrefn gadarnhaol) yn gymwys a bod y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn gymwys yn rhinwedd adran 12(3) o’r Ddeddf.
Adran 14 – Addasu Gorchymyn 2007
40.Mae adran 13 o Ddeddf 2006 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy orchymyn ynghylch cynnal etholiadau’r Senedd ac mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”) yn orchymyn a wnaed o dan yr adran honno.
41.Mae’r adran hon yn addasu darpariaethau penodol o Orchymyn 2007 at ddibenion etholiad 2021.
42.Mae is-adran (3) yn addasu erthygl 84(2) o’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad a’r pwynt pan fydd person yn dod yn ymgeisydd yn yr etholiad. Mae hyn ynghlwm wrth ddiddymu’r Senedd ar hyn o bryd. Mae adran 3 o’r Ddeddf yn cwtogi cyfnod y diddymiad. Mae is-adran (4) yn datgysylltu’r adeg y daw person yn ymgeisydd o’r adeg y’i diddymwyd. Effaith yr addasiad i erthygl 84(2), at ddibenion Rhan 3 o Orchymyn 2007, yw bod person yn dod yn ymgeisydd 21 o ddiwrnodau cyn 6 Mai (wedi ei gyfrifo gan ddiystyru diwrnodau penodol gan gynnwys diwrnod sy’n ddydd Sadwrn neu’n ddydd Sul neu’n ŵyl banc). Dyma’r dyddiad y byddai’r Senedd wedi ei diddymu ar gyfer yr etholiad cyffredinol arferol ar 6 Mai pe na bai adran 3 o’r Ddeddf wedi gwneud darpariaeth i gwtogi cyfnod y diddymiad. Mae person yn aros yn ymgeisydd at ddibenion Rhan 3 o Orchymyn 2007 (oni chaiff ei ymddiswyddo neu ei ddad-ddewis, er enghraifft) hyd yn oed os caiff yr etholiad ei ohirio yn unol ag adran 6 (neu yn ôl y digwydd, adran 8) o’r Ddeddf hyd at ddyddiad sy’n hwyrach na 6 Mai 2021.
43.Mae is-adran (4) yn gwneud addasiad i baragraff 7 o Atodlen 1 i’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad i ganiatáu i geisiadau brys am bleidleisio drwy ddirprwy gael eu gwneud pan fo etholwr neu ddirprwy presennol yn canfod na ellir disgwyl yn rhesymol iddo bleidleisio yn bersonol oherwydd ei bod yn ofynnol iddo gydymffurfio â deddfiad sy’n ymwneud â’r coronafeirws neu ei fod yn dilyn canllawiau sy’n ymwneud â’r coronafeirws a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Ni fydd yn ofynnol tystio’n feddygol ar gyfer cais am bleidlais drwy ddirprwy ar frys o dan yr amgylchiadau hyn.
44.Mae is-adran (5) yn addasu Atodlen 5 (rheolau etholiadau’r Senedd) i’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad i gyflwyno hyblygrwydd i’r broses ar gyfer cyflwyno papurau enwebu a chydsyniad ymgeiswyr i enwebu mewn ymateb i’r heriau a gyflwynir gan bandemig y coronafeirws. Mae cyflwyno papurau enwebu a chydsyniad i enwebiadau yn broses corfforol yn hytrach na phroses rithwir. Mae’r addasiad yn rhoi mwy o amser ym mhob diwrnod ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (9.00am i 5.00pm yn hytrach na 10.00am i 4.00pm). Yn ogystal, gall person a enwebir gan ymgeisydd at y diben hwnnw gyflwyno papurau enwebu ar ran yr ymgeisydd drwy roi enw a chyfeiriad y person i’r swyddog canlyniadau yn ysgrifenedig neu’n electronig cyn neu ar yr adeg y cyflwynir y papur enwebu.
45.Mae’r addasiad terfynol mewn perthynas â chydsyniad ymgeiswyr i enwebu. O dan y rheolau yn Atodlen 5 i’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad, nid oes ffurf ragnodedig ar gyfer cydsyniad i enwebu, ar yr amod ei fod yn ysgrifenedig, yn cael ei gyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau yn yr amser penodedig ac wedi ei dystio gan dyst. Pan fo ymgeisydd dramor, gellir ei chyflwyno drwy ffacs neu ddulliau tebyg eraill – ac yn arbennig heb y gofyniad i dyst dystio. Ar gyfer etholiad 2021, mae’r Ddeddf yn addasu’r rheolau yn Atodlen 5 i alluogi ymgeiswyr i gyflwyno eu cydsyniad priodol i enwebu yn yr amser a bennir ar gyfer cyflwyno papurau enwebu naill ai’n ysgrifenedig yn y man i gyflwyno’r papurau hynny neu’n electronig i gyfeiriad electronig at y diben hwnnw. Nid yw’n ofynnol i dyst dystio i gydsyniad ymgeisydd i enwebu.
Adran 15 – Adolygiad: paratoadau ar gyfer cynnal y pôl
46.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiadau ar sut y mae paratoadau ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021 yn mynd rhagddynt. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Senedd Cymru sy’n nodi a yw’n debygol y caiff yr etholiad ei ohirio yn seiliedig ar yr adolygiad hwnnw.
Adran 16 – Dehongli
47.Mae’r adran hon yn darparu ystyr termau allweddol a ddefnyddir drwy gydol y Ddeddf.
Adran 17 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.
48.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, trosiannol, darfodol neu arbed y maent yn ystyried eu bod yn briodol at ddibenion rhoi effaith lawn i’r Ddeddf neu mewn cysylltiad â rhoi effaith lawn iddi. Gall rheoliadau a wneir gan ddibynnu ar y pŵer addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf ei hun. Mae’r pŵer yn galluogi i ddarpariaeth ôl-weithredol gael ei gwneud mewn perthynas ag is-etholiadau llywodraeth leol. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o’r fath yn ddarostyngedig i graffu gan y Senedd drwy’r weithdrefn penderfyniad negyddol ond pan fo rheoliadau o dan yr adran hon yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol, mae’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn gymwys.
Adran 18 – Dod i rym
49.Mae’r adran hon yn darparu y daw’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Cydsyniad Brenhinol.