Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

(a gyflwynir gan adran 1)

ATODLEN 1Y COMISIWN ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Statws

1Nid yw’r Comisiwn i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

Aelodaeth

2(1)Aelodau’r Comisiwn yw—

(a)y person a benodir gan Weinidogion Cymru i gadeirio’r Comisiwn (“y cadeirydd”);

(b)y person a benodir gan Weinidogion Cymru yn gadeirydd y PYA o dan baragraff 12(1) sydd i fod yn ddirprwy gadeirydd y Comisiwn;

(c)o leiaf 4 a dim mwy na 14 o bersonau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn (“aelodau arferol”);

(d)y person a benodir o dan baragraff 10 yn brif weithredwr y Comisiwn (“y prif weithredwr”).

(2)Wrth benodi’r cadeirydd a’r aelodau arferol rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb sicrhau bod gan aelodau’r Comisiwn (rhyngddynt) brofiad o’r canlynol, a’u bod wedi dangos gallu o ran y canlynol—

(a)darparu addysg neu hyfforddiant;

(b)gwneud neu weinyddu ymchwil;

(c)materion diwydiannol, masnachol neu ariannol neu arfer unrhyw broffesiwn;

(d)hybu anghenion dysgwyr mewn addysg drydyddol.

(e)darparu addysg neu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg neu hybu addysg neu hyfforddiant o’r fath.

Y cadeirydd a’r aelodau arferol

3(1)Mae’r cadeirydd a’r aelodau arferol yn dal swydd ac yn ymadael â swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

(2)Mae’r telerau a’r amodau hynny i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon.

(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gadeirydd neu’n aelod arferol os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Senedd;

(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin;

(c)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach;

(d)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg uwch.

(4)Mae person sy’n dod yn anghymwys yn peidio â dal swydd cadeirydd neu aelod arferol.

(5)Mae’r cadeirydd ac aelodau arferol i’w penodi am gyfnod o hyd at 5 mlynedd.

(6)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd cadeirydd neu aelod arferol gael ei ailbenodi.

(7)Caiff y cadeirydd neu aelod arferol ymddiswyddo o’i swydd drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru ac i’r Comisiwn.

(8)Caiff y Comisiwn, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu tâl, lwfansau a phensiwn i berson sy’n gadeirydd neu’n aelod arferol neu sydd wedi bod yn gadeirydd neu’n aelod arferol, neu mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad i’r cadeirydd, i’r dirprwy gadeirydd neu i aelod arferol ddiswyddo’r person hwnnw os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r person yn gallu cyflawni swyddogaethau’r swydd, neu ei fod yn anaddas i’w cyflawni, neu ei fod fel arall yn methu â’u cyflawni.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad i’r cadeirydd, i’r dirprwy gadeirydd neu i aelod arferol atal y person hwnnw dros dro o’i swydd, os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (9).

(11)Mae ataliad dros dro drwy hysbysiad o dan is-baragraff (10) yn cael effaith—

(a)am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)os na phennir cyfnod yn yr hysbysiad, hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach gan Weinidogion Cymru i’r person sydd wedi ei atal dros dro.

(12)Mae person a ddiswyddwyd yn ddirprwy gadeirydd hefyd yn peidio â dal swydd cadeirydd y PYA.

(13)Mae person sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel dirprwy gadeirydd hefyd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel cadeirydd y PYA.

Aelodaeth gyswllt

4(1)Aelodau cyswllt y Comisiwn yw—

(a)o leiaf ddau berson a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5 i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol ehangach (“aelodau cyswllt y gweithlu”), pan fo o leiaf un wedi ei benodi i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd ac o leiaf un wedi ei benodi i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd;

(b)pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Comisiwn, berson a benodir yn unol â pharagraff 6 i gynrychioli staff y Comisiwn (“aelod cyswllt staff y Comisiwn”);

(c)o leiaf un person a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 7 i gynrychioli dysgwyr mewn addysg drydyddol (“aelod cyswllt y dysgwyr”).‍

(2)Yn y paragraff hwn a pharagraff 6, mae i “cydnabod”, mewn perthynas ag undeb llafur, yr ystyr a roddir i “recognised” gan Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.

Penodi aelodau cyswllt y gweithlu

5(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

(a)rhestr o un neu ragor o undebau llafur at ddiben penodi aelodau cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd, a

(b)rhestr o un neu ragor o undebau llafur at ddiben penodi aelodau cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd.

(2)Cyn cyhoeddi rhestr (gan gynnwys rhestr sy’n disodli rhestr arall) o dan is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â’r Comisiwn, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys os nad oes neb yn dal swydd aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wahodd pob un o’r undebau llafur ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1)(a) i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd.

(5)Mae is-baragraff (6) yn gymwys os nad oes neb yn dal swydd aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru wahodd pob un o’r undebau llafur ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1)(b) i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cyfnod y mae enwebiad o dan is-baragraff (4) neu (6) i’w wneud ynddo.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi o leiaf un person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (7), yn aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd.

(9)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi o leiaf un person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (7), yn aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd.

(10)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd ond os yw’r person—

(a)wedi ei gyflogi gan berson sy’n darparu addysg drydyddol yng Nghymru, a

(b)yn aelod o undeb llafur ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1)(a).

(11)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd ond os yw’r person—

(a)wedi ei gyflogi gan berson sy’n darparu addysg drydyddol yng Nghymru, a

(b)yn aelod o undeb llafur ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1)(b).

Penodi aelod cyswllt staff y Comisiwn

6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)bo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Comisiwn, a

(b)bo swydd aelod cyswllt staff y Comisiwn yn wag.

(2)Rhaid i bwyllgor penodi aelod y staff (gweler paragraff 11(5)) wahodd pob un o’r undebau llafur a gydnabyddir gan y Comisiwn i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt staff y Comisiwn.

(3)Rhaid i bwyllgor penodi aelod y staff bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo.

(4)Rhaid i bwyllgor penodi aelod y staff benodi person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3), yn aelod cyswllt staff y Comisiwn.

(5)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt staff y Comisiwn ond os yw’r person—

(a)wedi ei gyflogi gan y Comisiwn, a

(b)yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y Comisiwn.

Penodi aelod cyswllt y dysgwyr

7(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o un neu ragor o gyrff (pa un a ydynt yn gorfforedig neu’n anghorfforedig) y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau dysgwyr sy’n ymgymryd ag addysg drydyddol yng Nghymru at ddiben penodi aelod cyswllt y dysgwyr.

(2)Cyn cyhoeddi rhestr (gan gynnwys rhestr sy’n disodli rhestr arall) o dan is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â’r Comisiwn, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys os nad oes neb yn dal swydd aelod cyswllt y dysgwyr.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wahodd pob un o’r cyrff ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1) i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y dysgwyr.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cyfnod y mae enwebiad o dan is-baragraff (4) i’w wneud ynddo.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (5), yn aelod cyswllt y dysgwyr.

(7)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y dysgwyr ond os yw’r person—

(a)wedi bod yn ddysgwr a oedd yn ymgymryd ag addysg drydyddol ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben ar ddiwrnod y penodiad, a

(b)yn dal swydd neu unrhyw fath o aelodaeth o gorff ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1).

Telerau aelodaeth gyswllt etc.

8(1)Nid yw aelod cyswllt yn gymwys i bleidleisio yn unrhyw drafodion gan y Comisiwn.

(2)Mae aelod cyswllt y gweithlu ac aelod cyswllt y dysgwyr yn dal swydd ac yn ymadael â swydd yn unol â thelerau ac amodau ei benodiad.

(3)Mae’r telerau a’r amodau hynny i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon.

(4)Mae aelod cyswllt staff y Comisiwn yn dal swydd ac yn ymadael â swydd yn unol â thelerau ac amodau ei benodiad.

(5)Mae’r telerau a’r amodau hynny i’w penderfynu gan bwyllgor penodi aelod y staff, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon.

(6)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod cyswllt fod yn hwy na 4 blynedd.

(7)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt gael ei ailbenodi’n aelod cyswllt (ac mae is-baragraff (6) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).

(8)Caiff aelod cyswllt y gweithlu ac aelod cyswllt y dysgwyr ymddiswyddo drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru ac i’r cadeirydd.

(9)Caiff aelod cyswllt staff y Comisiwn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad i bwyllgor penodi aelod y staff.

(10)Caiff y Comisiwn, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, dalu treuliau a lwfansau i aelod cyswllt.

Diswyddo aelod cyswllt

9(1)Caiff y penderfynwr perthnasol drwy hysbysiad i aelod cyswllt ddiswyddo’r person hwnnw, os yw wedi ei fodloni nad yw’r person yn gallu cyflawni swyddogaethau’r swydd, neu ei fod yn anaddas i’w cyflawni, neu ei fod fel arall yn methu â’u cyflawni.

(2)Caiff y penderfynwr perthnasol drwy hysbysiad i aelod cyswllt atal y person hwnnw dros dro o’i swydd, os yw’n ymddangos i’r penderfynwr perthnasol y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae ataliad dros dro drwy hysbysiad o dan is-baragraff (2) yn cael effaith—

(a)am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)os na phennir cyfnod yn yr hysbysiad, hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach gan y penderfynwr perthnasol i’r person sydd wedi ei atal dros dro.

(4)Yn y paragraff hwn, “y penderfynwr perthnasol” yw—

(a)Gweinidogion Cymru, pan fo’r aelod cyswllt yn aelod cyswllt y gweithlu neu’n aelod cyswllt y dysgwyr;

(b)pwyllgor penodi aelod y staff, pan fo’r aelod cyswllt yn aelod cyswllt staff y Comisiwn.

(5)Mae aelod cyswllt yn peidio â dal swydd os yw’r aelod yn peidio â bod yn ymgeisydd cymwys i’w benodi i’r math o aelodaeth gyswllt y’i penodwyd iddo (gweler paragraff 5(10) ac (11), paragraff 6(5) a pharagraff 7(7)).

Y prif weithredwr a staff eraill

10(1)Mae’r person cyntaf a benodir yn brif weithredwr y Comisiwn i’w benodi gan Weinidogion Cymru—

(a)ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) a benderfynir gan Weinidogion Cymru, a

(b)am gyfnod o hyd at 4 blynedd.

(2)Y Comisiwn sydd i benodi (neu ailbenodi) person yn brif weithredwr wedi hynny, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(3)Ni chaniateir i berson gael ei benodi yn brif weithredwr os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Senedd;

(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin;

(c)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach;

(d)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg uwch.

(4)Mae’r prif weithredwr yn aelod o staff y Comisiwn.

(5)Caiff y Comisiwn benodi aelodau eraill o staff.

(6)Ac eithrio mewn perthynas â’r person cyntaf a benodir yn brif weithredwr o dan is-baragraff (1), mae’r canlynol i’w benderfynu gan y Comisiwn, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a)telerau ac amodau ei staff (gan gynnwys tâl a lwfansau);

(b)talu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu pensiwn i aelod o’i staff neu gyn-aelod o’i staff, neu mewn cysylltiad ag ef.

(7)Nid yw gwasanaeth fel aelod o staff y Comisiwn yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth.

Y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi, y Pwyllgor Ansawdd a phwyllgorau eraill

11(1)Bydd gan y Comisiwn bwyllgor o’r enw y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi (“y PYA”) at ddiben cynghori’r Comisiwn ar‍ faterion sy’n ymwneud ag ymchwil ac arloesi.

(2)Am ddarpariaeth o ran cadeirydd y PYA, gweler paragraff 12.

(3)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor (“y Pwyllgor Ansawdd”) at ddiben cynghori’r Comisiwn ar ansawdd yr holl addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(4)Rhaid i’r Comisiwn benodi un o’i aelodau arferol i gadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor Ansawdd.

(5)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor sydd wedi ei gyfansoddi o’r cadeirydd a’r aelodau arferol i fod yn bwyllgor penodi aelod y staff.

(6)Caiff y Comisiwn sefydlu pwyllgorau eraill.

(7)Caiff y PYA, y Pwyllgor Ansawdd neu bwyllgor arall a sefydlir o dan is-baragraff (6)—

(a)sefydlu is-bwyllgorau;

(b)diddymu is-bwyllgorau a sefydlir ganddo.

(8)Caiff y Comisiwn hefyd ddiddymu is-bwyllgorau a sefydlir o dan is-baragraff (7).

(9)Caiff aelodau’r PYA, y Pwyllgor Ansawdd neu bwyllgor arall a sefydlir o dan is-baragraff (6) neu is-bwyllgor a sefydlir o dan is-baragraff (7) gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Comisiwn.

(10)Caiff y Comisiwn dalu tâl a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o’r PYA, y Pwyllgor Ansawdd neu bwyllgor arall a sefydlir o dan is-baragraff (6) neu is-bwyllgor a sefydlir o dan is-baragraff (7), ond

(b)nad yw’n aelod o’r Comisiwn nac yn aelod o’i staff.

Cadeirydd y PYA

12(1)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person i gadeirio’r PYA (“cadeirydd y PYA”).

(2)Mae cadeirydd y PYA yn dal swydd ac yn ymadael â swydd yn unol â thelerau ac amodau’r penodiad.

(3)Mae’r telerau a’r amodau hynny i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon.

(4)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gadeirydd y PYA os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Senedd;

(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin;

(c)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach;

(d)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg uwch.

(5)Mae person sy’n dod yn anghymwys yn peidio â dal swydd cadeirydd y PYA.

(6)Mae cadeirydd y PYA i’w benodi am gyfnod o hyd at 5 mlynedd.

(7)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd cadeirydd y PYA gael ei ailbenodi.

(8)Caiff cadeirydd y PYA ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru ac i’r Comisiwn.

(9)Caiff y Comisiwn, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu tâl, lwfansau a phensiwn i berson sy’n gadeirydd y PYA neu sydd wedi bod yn gadeirydd y PYA, neu mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad i gadeirydd y PYA, ddiswyddo’r cadeirydd os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r cadeirydd yn gallu cyflawni swyddogaethau’r swydd, neu ei fod yn anaddas i’w cyflawni, neu ei fod fel arall yn methu â’u cyflawni.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad i gadeirydd y PYA, atal y cadeirydd dros dro o’i swydd os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (10).

(12)Mae ataliad dros dro drwy hysbysiad o dan is-baragraff (11) yn cael effaith—

(a)am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)os na phennir cyfnod yn yr hysbysiad, hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach gan Weinidogion Cymru i’r cadeirydd.

(13)Mae person sy’n peidio â dal swydd cadeirydd y PYA hefyd yn peidio â dal swydd dirprwy gadeirydd y Comisiwn.

(14)Mae person sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel cadeirydd y PYA hefyd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel dirprwy gadeirydd y Comisiwn.

Cyd-bwyllgorau

13(1)Caiff y Comisiwn, mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, sefydlu pwyllgor ar y cyd ag unrhyw berson.

(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at bwyllgor sydd wedi ei sefydlu o dan o baragraff hwn fel “cyd-bwyllgor”.

(3)Caiff y Comisiwn dalu tâl a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o gyd-bwyllgor, ond

(b)nad yw’n aelod o’r Comisiwn nac yn aelod o’i staff.

Dyletswydd i sicrhau gwerth da

14Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r angen i sicrhau gwerth da mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o gronfeydd cyhoeddus.

Cyfrifon ac archwilio

15(1)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y cyfarwyddydau wneud darpariaeth o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiad;

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno;

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy;

(d)gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r datganiad.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon—

(a)i Archwilydd Cyffredinol Cymru, a

(b)i Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno.

(5)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn i’r cyfnod o 4 mis ddod i ben, osod gerbron Senedd Cymru—

(a)copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad, neu

(b)os nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ddatganiad i’r perwyl hwnnw, y mae rhaid iddo gynnwys rhesymau o ran pam y mae hyn yn wir.

(6)Pan fo datganiad wedi ei osod o dan is-baragraff (5)(b), rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfnod o 4 mis ddod i ben.

(7)Yn is-baragraffau (5) a (6), ystyr “y cyfnod o 4 mis” yw’r cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r datganiad o gyfrifon yn cael ei gyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-baragraff (3).

Adroddiadau blynyddol

16(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn lunio adroddiad (“yr adroddiad blynyddol”) sy’n—

(a)rhoi manylion am sut y mae’r Comisiwn wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn;

(b)esbonio’r cynnydd y mae’r Comisiwn wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn tuag at weithredu ei gynllun strategol sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 15 a’r graddau y mae’r hyn y mae wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn wedi ymdrin â blaenoriaethau strategol Gweinidogion Cymru a nodir yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 13;

(c)rhoi manylion am y materion a ganlyn ar gyfer y cyfnod adrodd am addysg Gymraeg, ac sy’n esbonio sut y maent yn cymharu â’r manylion am y materion hynny ar gyfer y 12 mis cyn y cyfnod hwnnw—

(i)y graddau y darparwyd addysg drydyddol yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg, a

(ii)y graddau yr addysgwyd y Gymraeg i bersonau a oedd dros yr oedran ysgol gorfodol yng Nghymru;

(d)rhoi asesiad o ansawdd addysg drydyddol y mae’n ofynnol i’r Comisiwn ei fonitro gan adran 51;

(e)cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan adran 80(3) (gwybodaeth am gynaliadwyedd ariannol);

(f)cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan adran 107(3) (monitro cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi);

(g)cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan adran 126(9) (effeithiolrwydd cynlluniau diogelu dysgwyr);

(h)cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan adran 129(8) (effeithiolrwydd y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr);

(i)rhoi manylion am sut y mae corff a ddynodir o dan Atodlen 3 wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn academaidd.

(2)Yn is-baragraff (1)(c), ystyr “cyfnod adrodd am addysg Gymraeg” yw’r cyfnod diweddaraf o 12 mis sy’n gorffen ar 31 Awst y mae gwybodaeth am y materion a nodir yn is-baragraff (1)(c)(i) a (ii) ar gael i’r Comisiwn mewn cysylltiad ag ef.

(3)Caiff yr adroddiad blynyddol gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei bod yn briodol.

(4)Cyn gynted â phosibl ar ôl llunio’r adroddiad, rhaid i’r Comisiwn anfon copi at Weinidogion Cymru.

(5)Cyn gynted â phosibl ar ôl cael yr adroddiad blynyddol, rhaid i Weinidogion Cymru osod copi ohono gerbron Senedd Cymru.

Ystyr “blwyddyn ariannol” a “blwyddyn academaidd”

17(1)Ym mharagraffau 15 a 16, ystyr “blwyddyn ariannol” yw—

(a)y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y daw adran 1 i rym ac sy’n gorffen ar y 31 Mawrth dilynol;

(b)wedi hynny, pob cyfnod dilynol o 12 mis.

(2)Ym mharagraff 16, ystyr “blwyddyn academaidd” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n gorffen ar 31 Awst yn y flwyddyn ariannol.

Dirprwyo gan y Comisiwn

18(1)Caiff y Comisiwn ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau—

(a)i aelod o’r Comisiwn neu aelod o’i staff;

(b)i’r PYA, y Pwyllgor Ansawdd neu bwyllgor arall a sefydlir gan y Comisiwn o dan baragraff 11(6), neu is-bwyllgor a sefydlir o dan baragraff 11(7);

(c)i gyd-bwyllgor.

(2)Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau a benderfynir gan y Comisiwn.

(3)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio—

(a)ar allu’r Comisiwn i arfer y swyddogaeth;

(b)ar gyfrifoldeb y Comisiwn am arfer y swyddogaeth.

Dirprwyo gan bwyllgorau

19(1)Caiff y PYA, y Pwyllgor Ansawdd neu bwyllgor arall a sefydlir o dan baragraff 11(6) ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i is-bwyllgor a sefydlir ganddo.

(2)Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau a benderfynir gan y pwyllgor sy’n dirprwyo’r swyddogaeth.

Trafodion

20(1)Caiff y Comisiwn benderfynu ei weithdrefn ei hunan (gan gynnwys cworwm) a gweithdrefn ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau.

(2)Nid yw’r materion a ganlyn yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion y Comisiwn, na thrafodion ei bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau, na thrafodion cyd-bwyllgor—

(a)swydd wag nac ataliad dros dro;

(b)penodiad diffygiol.

(3)Ni chaiff person sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd o dan yr Atodlen hon gymryd rhan yn nhrafodion y Comisiwn, na thrafodion ei bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau, na thrafodion cyd-bwyllgor yn ystod y cyfnod y mae’r ataliad dros dro yn cael effaith.

Cofrestr buddiannau

21(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu a chynnal cofrestr o fuddiannau ei aelodau.

(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi cofnodion a gofnodir yng nghofrestr buddiannau’r aelodau.

Pwerau atodol

22(1)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod—

(a)yn briodol at ddibenion ei swyddogaethau neu mewn cysylltiad â hwy, neu

(b)yn gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol i’w harfer.

(2)Caiff yr Comisiwn (ymhlith pethau eraill)—

(a)caffael neu waredu tir neu eiddo arall;

(b)ymrwymo i gontractau;

(c)buddsoddi symiau;

(d)derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall.

(3)Ond ni chaiff y Comisiwn gael benthyg arian heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(a gyflwynir gan adran 24)

ATODLEN 2TROSGLWYDDO EIDDO A STAFF I’R COMISIWN

Pŵer i wneud cynlluniau trosglwyddo

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o gynlluniau sy’n darparu—

(a)i staff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu staff Llywodraeth Cymru ddod yn aelodau o staff y Comisiwn;

(b)ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau ac atebolrwyddau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu Weinidogion Cymru i’r Comisiwn.

(2)Mae’r pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun o dan yr Atodlen hon (“cynllun trosglwyddo”) yn cynnwys—

(a)eiddo, hawliau ac atebolrwyddau na ellid eu trosglwyddo fel arall;

(b)eiddo a gaffaelir, a hawliau ac atebolrwyddau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud;

(c)atebolrwyddau troseddol.

(3)Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth ddarfodol, er enghraifft er mwyn—

(a)creu hawliau, neu osod atebolrwyddau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(d)gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchnogaeth eiddo neu ddefnydd ohono;

(e)gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Llywodraeth Cymru neu Weinidogion Cymru mewn offeryn neu ddogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir gael eu trin fel pe baent yn gyfeiriadau at y Comisiwn;

(f)gwneud darpariaeth sydd yr un fath â darpariaeth a wneir gan y rheoliadau TUPE, neu sy’n debyg iddi, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

Addasu cynlluniau trosglwyddo

2(1)Caiff Gweinidogion Cymru addasu cynllun trosglwyddo.

(2)Ond os yw trosglwyddiad o dan y cynllun wedi cymryd effaith, ni chaiff unrhyw addasiad sy’n ymwneud â’r trosglwyddiad gael ei wneud ond gyda chytundeb y person (neu’r personau) y mae’r addasiad yn effeithio arno (neu arnynt).

(3)Mae addasiad yn cymryd effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun gwreiddiol yn effeithiol neu unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir gan Weinidogion Cymru.

Dyletswydd i osod cynlluniau trosglwyddo gerbron Senedd Cymru

3Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o gynllun trosglwyddo a wneir o dan yr Atodlen hon gerbron Senedd Cymru.

Dehongli

4(1)At ddibenion yr Atodlen hon—

(a)mae unigolyn sydd â chyflogaeth yn y gwasanaeth sifil i’w drin fel pe bai wedi ei gyflogi yn rhinwedd contract cyflogaeth, a

(b)mae telerau cyflogaeth yr unigolyn yn y gwasanaeth sifil i’w hystyried fel pe baent yn ffurfio telerau’r contract cyflogaeth.

(2)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “gwasanaeth sifil” (“civil service”) yw gwasanaeth sifil y Wladwriaeth;

  • ystyr “rheoliadau TUPE” (“TUPE regulations”) yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246);

  • mae cyfeiriadau at hawliau ac atebolrwyddau yn cynnwys hawliau ac atebolrwyddau sy’n ymwneud â chontract cyflogaeth;

  • mae cyfeiriadau at drosglwyddo eiddo yn cynnwys rhoi les.

(a gyflwynir gan adran 56)

ATODLEN 3ASESU ADDYSG UWCH: CORFF DYNODEDIG

RHAN 1DYNODIAD

Dynodiad

1(1)Caiff y Comisiwn ddynodi corff i arfer ei swyddogaethau asesu.

(2)Ni chaiff y Comisiwn ddynodi corff o dan is-baragraff (1) ond os yw’n ystyried—

(a)bod y corff yn addas i arfer y swyddogaethau asesu, a

(b)y byddai dynodi’r corff yn briodol er mwyn sicrhau bod ansawdd addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn cael ei asesu’n effeithiol.

(3)Cyn dynodi corff, rhaid i’r Comisiwn—

(a)cael cydsyniad Gweinidogion Cymru, a

(b)ymgynghori—

(i)â phob darparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch, a

(ii)ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(4)Os yw’r Comisiwn yn penderfynu dynodi corff o dan is-baragraff (1), rhaid iddo—

(a)hysbysu’r corff am y dynodiad cyn y dyddiad y mae’r dynodiad yn cymryd effaith (“y dyddiad effeithiol”), a

(b)cyhoeddi hysbysiad o’r dynodiad cyn y dyddiad hwnnw.

(5)Rhaid i’r hysbysiad o’r dynodiad ddatgan—

(a)enw’r corff, a

(b)y dyddiad effeithiol.

(6)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad o dan is-baragraff (3)(a), rhaid iddynt gyhoeddi’r rhesymau dros beidio â gwneud hynny.

Cyrff sy’n addas i arfer swyddogaethau asesu

2(1)Mae corff yn addas i arfer y swyddogaethau asesu os yw’r corff yn bodloni’r amodau yn is-baragraff (2).

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y corff yn gallu arfer y swyddogaethau asesu mewn modd effeithiol,

(b)bod y personau sy’n penderfynu blaenoriaethau strategol y corff yn cynrychioli ystod eang o ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch,

(c)bod gan ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch ffydd yn y corff,

(d)bod y corff yn arfer ei swyddogaethau yn annibynnol ar unrhyw ddarparwr addysg uwch penodol, ac

(e)bod y corff yn cydsynio i gael ei ddynodi o dan yr Atodlen hon.

Dileu dynodiad

3(1)Caiff y Comisiwn drwy hysbysiad ddileu dynodiad o dan yr Atodlen hon.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)cynnwys y rhesymau dros benderfyniad y Comisiwn, a

(b)pennu’r dyddiad y caiff y dynodiad ei ddileu.

(3)Ni chaiff y Comisiwn ddileu dynodiad ond—

(a)os yw’r Comisiwn wedi ei fodloni y byddai dileu’r dynodiad yn briodol er mwyn sicrhau bod ansawdd addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn cael ei asesu’n effeithiol, neu

(b)os yw’r corff dynodedig yn cydsynio i’r dynodiad gael ei ddileu.

(4)Oni bai bod is-baragraff (3)(b) yn gymwys, rhaid i’r Comisiwn, cyn dileu’r dynodiad—

(a)cael cydsyniad Gweinidogion Cymru, a

(b)ymgynghori—

(i)â phob darparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch, ac

(ii)ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad o dan y paragraff hwn.

(6)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad o dan is-baragraff (4)(a), rhaid iddynt gyhoeddi’r rhesymau dros beidio â gwneud hynny.

RHAN 2GORUCHWYLIAETH GAN Y COMISIWN

Cymhwyso

4Mae’r Rhan hon yn gymwys os oes corff a ddynodir o dan yr Atodlen hon i arfer y swyddogaethau asesu.

Pŵer i ddarparu cyllid

5Caiff y Comisiwn ddarparu cyllid i’r corff dynodedig er mwyn arfer y swyddogaethau asesu.

Trefniadau goruchwylio

6Rhaid i’r Comisiwn wneud trefniadau er mwyn dwyn y corff dynodedig i gyfrif am arfer y swyddogaethau asesu.

Adroddiad blynyddol gan y corff dynodedig

7(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd blynyddol, rhaid i’r corff dynodedig lunio adroddiad am arfer y swyddogaethau asesu yn ystod y cyfnod a’i anfon i’r Comisiwn.

(2)Ystyr “cyfnod adrodd blynyddol”, mewn perthynas â chorff dynodedig, yw—

(a)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad effeithiol, a

(b)pob cyfnod dilynol o 12 mis.

Pŵer y Comisiwn i roi cyfarwyddydau

8(1)Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddydau cyffredinol i’r corff dynodedig ynghylch arfer y swyddogaethau asesu.

(2)Wrth roi’r cyfarwyddydau hynny, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r angen i ddiogelu—

(a)arbenigedd y corff dynodedig, a

(b)gallu’r corff dynodedig i wneud, neu i wneud trefniadau ar gyfer gwneud, asesiad diduedd o ansawdd yr addysg uwch a ddarperir gan ddarparwr addysg drydyddol.

(3)Rhaid i’r cyfarwyddydau ymwneud—

(a)â darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch neu ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyffredinol, neu

(b)â disgrifiad o’r darparwyr hynny.

(4)Rhaid i’r corff dynodedig gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y paragraff hwn.

Dyletswydd y Comisiwn i roi gwybod i Weinidogion Cymru am bryderon sylweddol

9Rhaid i’r Comisiwn roi gwybod i Weinidogion Cymru os oes ganddo bryderon sylweddol ynghylch—

(a)sut y mae’r corff dynodedig yn arfer y swyddogaethau asesu, neu

(b)addasrwydd parhaus y corff dynodedig i arfer y swyddogaethau hynny.

RHAN 3PŴER I GODI FFIOEDD

10(1)Caiff y corff dynodedig godi ffi, neu ffioedd, ar unrhyw ddarparwr addysg drydyddol y mae’r corff yn arfer y swyddogaethau asesu mewn perthynas ag ef.

(2)Rhaid i unrhyw ffioedd a godir gan y corff dynodedig o dan is-baragraff (1) gael eu codi yn unol â chynllun a lunnir ac a gyhoeddir gan y corff dynodedig sy’n nodi—

(a)y ffioedd a godir gan y corff o dan is-baragraff (1), a

(b)y sail y cyfrifir y ffioedd hynny arni.

(3)Caniateir i swm y ffi sy’n daladwy gan unrhyw ddarparwr addysg drydyddol o dan is-baragraff (1) gael ei gyfrifo drwy gyfeirio at gostau yr aed iddynt, neu yr eir iddynt, gan y corff wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon—

(a)nad ydynt yn gysylltiedig â’r darparwr;

(b)sy’n cael eu harfer, neu sydd i’w harfer, dros gyfnod a bennir yn y cynllun.

(4)Ond ni chaiff cyfanswm y ffioedd sy’n daladwy o dan y cynllun mewn unrhyw gyfnod fod yn fwy na’r gost i’r corff dynodedig o arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn ystod yr un cyfnod.

(5)At ddibenion is-baragraff (4), y gost i’r corff dynodedig o arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yw swm y costau yr aed iddo, neu yr eir iddo, gan y corff dynodedig wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn unrhyw gyfnod penodol, llai unrhyw gyllid a geir gan y corff o dan baragraff 5 o’r Atodlen hon yn yr un cyfnod.

(6)Caiff y corff dynodedig ddiwygio’r cynllun.

(7)Mae’r cynllun (ac unrhyw gynllun diwygiedig) i’w drin fel pe na bai ond yn cael effaith os yw wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn.

RHAN 4DEHONGLI

11(1)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “corff dynodedig” (“designated body”) yw corff sydd am y tro wedi ei ddynodi o dan yr Atodlen hon;

  • mae i “y dyddiad effeithiol” (“the effective date”), mewn perthynas â chorff dynodedig, yr ystyr a roddir ym mharagraff 1;

  • mae i “y swyddogaethau asesu” (“the assessment functions”) yr ystyr a roddir yn adran 56(2).

(2)Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at gorff sy’n addas i arfer y swyddogaethau asesu i’w darllen yn unol â pharagraff 2.

(a gyflwynir gan adran 147)

ATODLEN 4MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 (p. 50)

1(1)Mae Deddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 8 (gwasanaethau gyrfaoedd), yn is-adran (4), yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)as respects Wales as references to a tertiary education provider registered under section 25 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 to provide higher education, other than a provider which is also an institution within the further education sector (within the meaning given by section 91(3) of the Further and Higher Education Act 1992) or a school (within the meaning given by section 4 of the Education Act 1996), and.

Deddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 (p. 40)

2(1)Mae Deddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1 (ffioedd mewn prifysgolion, sefydliadau addysg bellach etc.), yn is-adran (3)—

(a)hepgorer paragraff (ee);

(b)ym mharagraff (g), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers or the Commission for Tertiary Education and Research”.

Deddf Addysg (Rhif 2) 1986 (p. 61)

3(1)Mae Deddf Addysg (Rhif 2) 1986 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 43 (rhyddid i lefaru mewn prifysgolion, etc.)‍—

(a)yn is-adran (5), yn lle paragraff (aa) rhodder—

(aa)a tertiary education provider registered under section 25 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 to provide higher education, other than an institution within paragraph (a) or (ba) or a school;;

(b)yn is-adran (6), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)in relation to an institution in Wales within the higher education sector or the further education sector has the meaning given by section 90(1) of the Further and Higher Education Act 1992 (c. 13), but subject to any provision made by virtue of section 90(2) of that Act;.

Deddf Cyflogaeth 1988 (p. 19)

4(1)Mae Deddf Cyflogaeth 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 26 (statws hyfforddeion etc.), yn is-adran (1A), yn lle “under section 34(1)(c) of the Learning and Skills Act 2000” rhodder “or the Commission for Tertiary Education and Research under section 97(1)(d) or (e) of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”.

Deddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40)

5(1)Mae Deddf Diwygio Addysg 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 120 (pwerau awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag addysg uwch), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)In exercising its powers under subsection (3) a local authority must have regard to the Commission for Tertiary Education and Research’s strategic plan approved under section 15 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022.

(3)Yn adran 124B (cyfrifon), yn is-adran (2)(b), yn lle “the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.

(4)Yn adran 129 (dynodi sefydliadau)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “the Secretary of State” rhodder “the Welsh Ministers”;

(ii)yn lle “as an institution eligible to receive support from funds administered by the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “for the purposes of this section”;

(iii)ym mharagraff (a) yn lle “him” rhodder “them”;

(iv)ym mharagraffau (a) a (b) ar ôl “institution” mewnosoder “in Wales”;

(b)yn is-adran (5)(d), yn lle “the Secretary of State” rhodder “the Welsh Ministers”.

(5)Yn adran 133 (taliadau mewn cysylltiad â phersonau a gyflogir yn narpariaeth addysg bellach neu uwch), yn is-adran (1)—

(a)yn lle “and the Higher Education Funding Council for Wales each have” rhodder “has”;

(b)yn lle “they think” rhodder “it thinks”;

(c)ym mharagraff (a) yn lle “their” rhodder “its”.

(6)Yn adran 198 (trosglwyddiadau), yn is-adran (5), yn lle “the higher education funding council” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.

(7)Yn Atodlen 7 (corfforaethau addysg uwch yng Nghymru sydd wedi eu sefydlu cyn y diwrnod penodedig), ym mharagraff 18(2)(b), yn lle “the Higher Education Funding Council for Wales”rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.

Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)

6(1)Mae Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 49B (gwybodaeth am gyrchfannau)—

(a)yn is-adran (2) yn lle “The Welsh Ministers” rhodder “The Commission for Tertiary Education and Research”;

(b)yn is-adran (4) yn lle “the Welsh Ministers” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.

(3)Hepgorer—

(a)adran 57 (ymyrryd: Cymru);

(b)adran 62 (sefydlu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru);

(c)adran 65 (gweinyddu cronfeydd gan CCAUC);

(d)adran 66 (gweinyddu cronfeydd: atodol);

(e)adran 68 (grantiau i CCAUC);

(f)adran 69 (swyddogaethau atodol);

(g)adran 79 (dyletswydd i roi gwybodaeth i CCAUC);

(h)adran 81 (cyfarwyddydau).

(4)Yn adran 83 (astudiaethau effeithlonrwydd), yn y tabl yn is-adran (1B) hepgorer y cofnodion ar gyfer “the Welsh Ministers” a “the HEFCW”.

(5)Yn adran 91 (dehongli)‍—

(a)hepgorer is-adran (‍4);

(b)yn is-adran (5)—

(i)yn lle paragraffau (a) ac (aa) rhodder—

(a)tertiary education providers registered in a category specified in regulations made for the purposes of section 88 or 105 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022, other than providers that are also institutions within the further education sector or schools,;

(ii)ym mharagraff (b) ar ôl “in Wales” mewnosoder “, other than ones falling within paragraph (a),”;

(iii)ym mharagraff (c) ar ôl “Act)” mewnosoder “, other than institutions falling within paragraph (a)”;

(c)hepgorer is-adran (5A).

(6)Yn adran 92 (mynegai), hepgorer y cofnodion ar gyfer “the HEFCW” ac “institution in Wales (in relation to the HEFCW)”.

(7)Hepgorer Atodlen 1 (Cynghorau Cyllido Addysg Bellach ac Uwch).

Deddf Addysg 1994 (p. 30)

7(1)Mae Deddf Addysg 1994 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 18 (pŵer i ad-dalu taliadau penodol i bersonau a oedd wedi eu cyflogi gynt mewn hyfforddiant athrawon)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)hepgorer “or the Higher Education Funding Council for Wales”;

(ii)yn lle “they think” rhodder “it thinks”;

(b)yn is-adran (4)—

(i)hepgorer “or (as the case may be) the Higher Education Funding Council for Wales”;

(ii)yn lle “they” rhodder “it” ac yn lle “their” rhodder “its”.

(3)Yn adran 18C (arolygu hyfforddiant athrawon yng Nghymru)—

(a)yn is-adran (3) yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)the Commission for Tertiary Education and Research, or;

(b)yn is-adran (12) hepgorer paragraff (b).

(4)Yn adran 21 (sefydliadau y mae Rhan 2 ar undebau myfyrwyr yn gymwys iddynt)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)ym mharagraff (a) yn lle “section 65 of the Further and Higher Education Act 1992” rhodder “section 88 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”;

(ii)ym mharagraff (b) yn lle “that Act” rhodder “the Further and Higher Education Act 1992”;

(iii)ym mharagraff (c) hepgorer “as eligible to receive support from funds administered by a higher education funding council”;

(iv)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)any institution in Wales designated under section 28 of the Further and Higher Education Act 1992;

(b)yn is-adran (2A), yn lle “has the meaning given by section 62(7) of the Further and Higher Education Act 1992” rhodder “means an institution whose activities are wholly or mainly carried on in Wales”.

Deddf Addysg 1996 (p. 56)

8(1)Mae Deddf Addysg 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 13 (cyfrifoldeb cyffredinol am addysg), yn is-adran (2) yn lle paragraffau (aa) a (b) rhodder—

(ba)the Commission for Tertiary Education and Research, or.

(3)Yn adran 15A (pwerau awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 18 mlwydd oed), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)In exercising its functions under this section a local authority in Wales must also have regard to the Commission for Tertiary Education and Research’s strategic plan approved under section 15 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022.

(4)Yn adran 15B (pwerau awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag addysg ar gyfer personau dros 19 oed), ar ôl is-adran (3)(b) mewnosoder—

(c)a local authority in Wales must also have regard to the Commission for Tertiary Education and Research’s strategic plan approved under section 15 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022.

(5)Hepgorer adran 484 (grantiau safonol addysg).

(6)Yn adran 489 (amodau o ran talu grantiau)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “under any of sections 484 to 488” rhodder “section 485”;

(b)hepgorer is-adran (2);

(c)yn y pennawd yn lle “sections 484 to 488” rhodder “section 485”.

(7)Yn adran 508 (swyddogaethau awdurdodau lleol mewn cysylltiad â chyfleusterau ar gyfer hamdden a hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)In exercising its functions under this section a local authority must have regard to the Commission for Tertiary Education and Research’s strategic plan approved under section 15 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022.

(8)Yn adran 530 (prynu tir yn orfodol), yn is-adran (3) ym mharagraff (b) hepgorer “(including that paragraph as applied by section 76(3) of that Act)”.

(9)Yn adran 580 (mynegai), hepgorer y cofnod ar gyfer “grants for education support and training”.

(10)Yn Atodlen 36A (swyddogaethau addysg awdurdodau lleol), yn y tabl ym mharagraff 2 yn y cofnod ar gyfer Deddf Dysgu a Sgiliau 2000—

(a)yn y cofnod ar gyfer adran 33J, yn lle “Welsh Ministers” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer adran 83;

(c)hepgorer y cofnod ar gyfer adran 84;

(d)hepgorer y cofnod ar gyfer Atodlenni 7 a 7A.

Deddf Addysg 1997 (p. 44)

9(1)Mae Deddf Addysg 1997 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Rhan 6, yn y pennawd i Bennod 1, ar ôl “AUTHORITIES”, mewnosoder “IN WALES”.

(3)Yn adran 38 (arolygu awdurdodau lleol)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)ym mharagraff (b), yn lle “the Secretary of State” rhodder “the Welsh Ministers or the Commission for Tertiary Education and Research (“the Commission”)”;

(ii)ar ôl “authority”, mewnosoder “in Wales”;

(b)ar ôl is-adran (2A) mewnosoder—

(2B)Where the Commission has made a request under subsection (1)(b), the review mentioned in subsection (2A) is to be of the way that the local authority is performing the functions mentioned in subsection (2A)(a) and (b) in so far as those functions relate to further education and training within the meaning of section 144(2) to (5) of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022.;

(c)yn is-adran (3), yn lle “the Secretary of State” rhodder “the Welsh Ministers or the Commission”;

(d)yn is-adran (4), yn lle “the Secretary of State” rhodder “the Welsh Ministers or the Commission”;

(e)yn is-adran (6), ar ôl “authority”, mewnosoder “in Wales”;

(f)yn y pennawd, ar ôl “authorities”, mewnosoder “in Wales”.

(4)Yn adran 39 (adroddiad arolygu awdurdod lleol a’r cynllun gweithredu), yn is-adran (1)—

(a)hepgorer yr “and” ar ddiwedd paragraff (a);

(b)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)the Welsh Ministers, and

(c)where the matters reviewed relate to further education and training within the meaning of section 144(2) to (5) of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022, the Commission for Tertiary Education and Research.

Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30)

10Hepgorer adran 27 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (gwariant sy’n gymwys i gael cyllid).

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31)

11(1)Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 49 (ysgolion a gynhelir i gael cyllidebau dirprwyedig), yn is-adran (6), ym mharagraff (b) hepgorer “section 75(2)(b) of,”.

(3)Yn Rhan 1 o Atodlen 22 (gwarediadau tir: ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol yng Nghymru)—

(a)ym mharagraff 1, yn is-baragraff (1)(aa) hepgorer “, under that paragraph as applied by section 76(1) of that Act”;

(b)ym mharagraff 2, yn is-baragraff (1)(aa) hepgorer “, under either of those paragraphs as applied by section 76(1) or (3) of that Act”;

(c)ym mharagraff 2A, yn is-baragraff (1)(aa) hepgorer “, under that paragraph as applied by section 76(1) of that Act”;

(d)ym mharagraff 3, yn is-baragraff (1)(aa) hepgorer “, under those paragraphs as applied by section 76(1) or (3) of that Act”.

(4)Yn Atodlen 30 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 125 a 126.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)

12(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 145B (astudiaethau mewn perthynas â chyrff addysgol)—

(a)yn is-adran (1), yn y Tabl—

(i)yn y cofnod ar gyfer corff llywodraethu sefydliad yng Nghymru o fewn y sector addysg uwch, yn yr ail golofn, yn lle “the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”;

(ii)hepgorer y cofnod ar gyfer corff llywodraethu sy’n cael cymorth ariannol o dan adran 86 o Ddeddf Addysg 2005;

(iii)yn y cofnod ar gyfer corff llywodraethu sefydliad yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach, yn yr ail golofn, yn lle “or the Assembly” rhodder “, the Commission or the Welsh Ministers”;

(b)yn is-adran (4), yn lle “the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research” ac yn lle “the council” rhodder “the Commission”.

(3)Yn Rhan 3 o Atodlen 4 (cyrff sy’n ddarostyngedig i’w diwygio), hepgorer paragraff 16.

(4)Yn Rhan 1 o Atodlen 17 (cyrff sy’n ddarostyngedig yn gyffredinol i ddarpariaethau archwilio etc.)—

(a)ym mharagraff 1 hepgorer “or III”;

(b)ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

11AThe Commission for Tertiary Education and Research.

Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14)

13(1)Mae Deddf Safonau Gofal 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 2A (personau sy’n ddarostyngedig i’w hadolygu gan Gomisiynydd Plant Cymru)‍—

(a)yn lle paragraff 7, rhodder—

7Any tertiary education provider (other than one within paragraph 5, 6, 8 or 9) that is registered in a category specified in regulations made for the purposes of section 88 or 105 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022.

(b)ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

8AThe Commission for Tertiary Education and Research.

(3)Yn Atodlen 2B (personau y mae eu trefniadau yn ddarostyngedig i’w hadolygu gan Gomisiynydd Plant Cymru), ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

11The Commission for Tertiary Education and Research.

Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21)

14(1)Mae Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adrannau 31 i 33 (prif ddyletswyddau mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant ôl-16).

(3)Yn adran 33A (llunio cwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “The Welsh Ministers” rhodder “The Commission”;

(b)yn is-adran (2)(b) yn lle “the Welsh Ministers” rhodder “the Commission”.

(4)Yn adran 33B (cwricwla lleol: y Gymraeg) yn lle “The Welsh Ministers” rhodder “The Commission” ac yn lle “their” rhodder “its”.

(5)Yn adran 33C (ardaloedd gyda mwy nag un cwricwlwm lleol)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “the Welsh Ministers form” rhodder “the Commission forms”;

(b)yn is-adran (2), yn lle “the Welsh Ministers” rhodder “the Commission”.

(6)Yn adran 33D (penderfynu ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol ar gyfer disgybl), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)The Welsh Ministers must consult the Commission before making regulations under subsection (3).

(7)Yn adran 33E (dewisiadau disgyblion o gyrsiau’r cwricwlwm lleol)—

(a)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)The Welsh Ministers must consult the Commission before making regulations under subsection (3).;

(b)yn is-adran (4) yn lle “the Welsh Ministers have” ym mhob lle rhodder “the Commission has”.

(8)Yn adran 33G (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad o ran hawlogaeth), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)The Welsh Ministers must consult the Commission before making regulations under subsection (3), giving guidance under subsection (4) or making an order under subsection (5).

(9)Yn adran 33I (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)The Welsh Ministers must consult the Commission before making regulations under subsection (3), giving guidance under subsection (4) or making an order under subsection (5).

(10)Yn adran 33J (cynllunio’r cwricwlwm lleol)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “the Welsh Ministers” rhodder “the Commission”;

(b)yn is-adran (2) yn lle “the Welsh Ministers decide” rhodder “the Commission decides”;

(c)hepgorer is-adrannau (3) a (4).

(11)Yn adran 33K (cyflawni hawlogaethau’r cwricwlwm lleol: cydweithio), yn is-adran (6) yn lle “the Welsh Ministers have” ym mhob lle rhodder “the Commission has”.

(12)Yn adran 33L (cydweithio: canllawiau a chyfarwyddydau), ar ôl is-adran (2) mewnosoder⁠—

(2A)The Welsh Ministers must consult the Commission before giving guidance under subsection (1).

(13)Yn adran 33M (pŵer i ddiwygio meysydd dysgu), daw’r testun presennol yn is-adran (1) ac ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2)The Welsh Ministers must consult the Commission before making an order under subsection (1).

(14)Yn adran 33N (y cwricwlwm lleol: dehongli), yn is-adran (1)—

(a)yn lle “33L” rhodder “33M”;

(b)ar ôl y diffiniad o “academic year” mewnosoder—

  • the Commission” means the Commission for Tertiary Education and Research;.

(15)Yn adran 33O (y cwricwlwm lleol: cyfarwyddydau), hepgorer “, 33J(3)”.

(16)Yn adran 33P (cymhwyso darpariaethau’r cwricwlwm lleol i fyfyrwyr sy’n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig neu fyfyrwyr a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “Regulations” mewnosoder “made by the Welsh Ministers”;

(b)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)The Welsh Ministers must consult the Commission for Tertiary Education and Research before making regulations under subsection (1).

(17)Yn adran 33Q (cymhwyso darpariaethau’r cwricwlwm lleol i sefydliadau o fewn y sector addysg uwch)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “Regulations” mewnosoder “made by the Welsh Ministers”;

(b)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)The Welsh Ministers must consult the Commission for Tertiary Education and Research before making regulations under subsection (1).

(18)Hepgorer adrannau 34 i 38 (prif bwerau).

(19)Yn adran 40 (ymchwil a gwybodaeth), hepgorer is-adrannau (5) a (6).

(20)Hepgorer adran 41 (personau ag anghenion dysgu ychwanegol).

(21)Yn adran 73 (arolygwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru), hepgorer is-adrannau (1) a (2).

(22)Yn adran 74 (termau wedi eu diffinio), yn is-adran (2) yn lle “the person mentioned in section 73(1)” rhodder “Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales or Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru”.

(23)Hepgorer adrannau 75 i 80 a 83 i 88 (arolygiadau yng Nghymru).

(24)Yn adran 125 (ymgynghori mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)consult the Commission for Tertiary Education and Research,.

(25)Yn adran 126 (sefydliadau addysgol: gwybodaeth a mynediad), yn is-adran (3) ym mharagraff (f) yn lle “National Assembly for Wales in the discharge of its functions under Part 2” rhodder “Commission for Tertiary Education and Research under section 97 or 104 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”.

(26)Yn adran 138 (Cymru: darparu gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus), yn is-adran (3) ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)the Commission for Tertiary Education and Research;.

(27)Yn adran 144 (sefydliadau dynodedig: gwaredu tir, etc.)—

(a)yn is-adran (4A), ym mharagraff (b) yn lle “the Welsh Ministers” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”;

(b)yn is-adran (9), ym mharagraff (b) yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.

Deddf Addysg 2002 (p. 32)

15(1)Mae Deddf Addysg 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 18 (diddymu pwerau gwneud grantiau penodol), hepgorer is-adran (2).

(3)Yn adran 28A (pŵer corff llywodraethu i ddarparu addysg uwch), yn is-adran (3) yn lle “The National Assembly for Wales” rhodder “The Commission for Tertiary Education and Research”.

(4)Yn adran 140 (addysg bellach: cyffredinol)—

(a)yn is-adran (3), yn y diffiniad o “higher education institution”, yn lle “section 65 of the Further and Higher Education Act 1992 (c. 13) (administration of funds by higher education funding councils)” rhodder “section 88 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”;

(b)hepgorer is-adrannau (4) a (5).

(5)Yn adran 145 (pennu cymhwyster neu gwrs), yn is-adrannau (1)(c) a (3) yn lle “the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.

(6)Yn adran 178 (addysg a hyfforddiant a ddarperir yn y gweithle ar gyfer personau 14 i 16 oed), hepgorer is-adrannau (1) a (4).

(7)Yn Atodlen 21 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 49 a 125.

Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8)

16(1)Mae Deddf Addysg Uwch 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 11 (sefydliadau cymhwysol), yn is-adran (1) (fel y’i hailrifwyd gan adran 128(2)(a)), ym mharagraff (a) yn lle “section 65 of the 1992 Act” rhodder “Part 3 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”.

(3)Yn adran 20A (sefydliadau sy’n peidio â bod yn sefydliadau cymhwysol), yn is-adran (4) yn lle “section 11” rhodder “subsection (1) of section 11, or a qualifying institution specified in regulations made under subsection (2) of that section,”.

Deddf Plant 2004 (p. 31)

17(1)Mae Deddf Plant 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 25 (cydweithredu i wella llesiant: Cymru), yn is-adran (4) yn lle paragraff (f) rhodder—

(f)the Commission for Tertiary Education and Research;.

(3)Yn adran 29 (cronfeydd data gwybodaeth), yn is-adran (7) yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)the Commission for Tertiary Education and Research;.

Deddf Addysg 2005 (p. 18)

18(1)Mae Deddf Addysg 2005 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 20 (swyddogaethau’r Prif Arolygydd), yn is-adran (7) yn lle “which is brought within the remit of the Chief Inspector by Part 4 of the Learning and Skills Act 2000 (c. 21)” rhodder “to which the functions of the Chief Inspector under Part 2 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 apply”.

(3)Yn adran 24 (pŵer y Prif Adolygydd i drefnu arolygiadau), yn is-adran (6) yn lle “brought within the remit of the Chief Inspector by Part 4 of the Learning and Skills Act 2000 (c. 21)” rhodder “to which the functions of the Chief Inspector under Part 2 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 apply”.

(4)Yn adran 28 (dyletswydd i drefnu arolygiadau rheolaidd o ysgolion penodol), ym mharagraff (b) o is-adran (7) yn lle “which is brought within the remit of the Chief Inspector by Part 4 of the Learning and Skills Act 2000 (c. 21)” rhodder “to which the functions of the Chief Inspector under Part 2 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 apply”.

(5)Yn adran 44C (adroddiad yn dilyn arolygiad ardal ar ysgolion a chanddynt chweched dosbarth y mae arnynt angen gwelliant sylweddol), yn is-adran (1) yn lle “section 83 of the Learning and Skills Act 2000” rhodder “section 63 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”.

(6)Yn adran 44D (copïau o’r adroddiad a’r cynllun gweithredu), yn is-adran (3)—

(a)yn lle “paragraph” rhodder “section”;

(b)ym mharagraff (a), yn lle “38(2)” rhodder “38(3)”.

(7)Yn adran 44E (adroddiad ar ysgolion chweched dosbarth sy’n peri pryder yn dilyn arolygiad ardal), yn is-adran (1) yn lle “section 83 of the Learning and Skills Act 2000” rhodder “section 63 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”.

(8)Hepgorer adrannau 85 i 91 (swyddogaethau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru mewn perthynas â hyfforddiant athrawon).

(9)Yn adran 92 (arfer swyddogaethau ar y cyd)—

(a)yn is-adran (1) hepgorer “, HEFCW”;

(b)yn is-adran (2) hepgorer “or the the Assembly to the extent that it is discharging its functions under Part 2 of the Learning and Skills Act 2000”;

(c)hepgorer is-adran (4).

(10)Yn adran 93 (astudiaethau effeithlonrwydd)—

(a)yn is-adran (1) hepgorer “and HEFCW”;

(b)yn is-adran (2) hepgorer “or HEFCW”;

(c)yn is-adran (3) hepgorer paragraff (b) a’r “or” o’i flaen.

(11)Yn adran 94 (darparu gwybodaeth)—

(a)hepgorer is-adrannau (1) a (2);

(b)yn is-adran (3) hepgorer paragraff (b);

(c)yn is-adran (4), ym mharagraff (a) hepgorer “, a grant, loan or other payment under section 86, or”.

(12)Hepgorer adran 97 (sefydliadau sydd o gymeriad enwadol).

(13)Yn adran 100 (dehongli Rhan 3)—

(a)yn is-adran (1) hepgorer y diffiniadau o “the Chief Inspector for Wales”, “denominational character”, “governing body” a “HEFCW”;

(b)hepgorer is-adran (2).

(14)Yn Atodlen 9 (diwygiadau sy’n ymwneud ag arolygu ysgolion), hepgorer paragraffau 24 a 25.

(15)Yn Atodlen 18 (diwygiadau pellach), hepgorer paragraff 13.

Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p. 30)‍

19(1)Mae Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 2 (personau y mae eu swyddogaethau yn ddarostyngedig i’w hadolygu o dan adran 3), o dan yr is-bennawd “Education and training”—

(a)yn lle “The Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “The Commission for Tertiary Education and Research”;

(b)yn lle “an institution in Wales falling within section 91(5)(a) of the Further and Higher Education Act 1992 (c. 13)” rhodder “a tertiary education provider (other than one mentioned elsewhere in this Schedule) that is registered in a category specified in regulations made for the purposes of section 88 or 105 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”.

(3)Yn Atodlen 3 (personau y mae eu trefniadau yn ddarostyngedig i’w hadolygu o dan adran 5), o dan yr is-bennawd “Education and training”, yn lle “an institution in Wales falling within section 91(5)(a) of the Further and Higher Education Act 1992 (c. 13)” rhodder “a tertiary education provider (other than one mentioned elsewhere in this Schedule) that is registered in a category specified in regulations made for the purposes of section 88 or 105 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

20(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 148 (ystyr cofnodion cyhoeddus Cymru), yn is-adran (2)—

(a)ar ôl paragraff (a), mewnosoder—

(aa)the Commission for Tertiary Education and Research,;

(b)hepgorer paragraff (h).

(3)Yn Atodlen 11 (darpariaethau trosiannol), ym mharagraff 35, yn is-baragraff (4), yn Nhabl 2—

(a)hepgorer y cofnodion sy’n ymwneud ag adrannau 77(4) a 83(7) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000;

(b)yn y cofnod sy’n ymwneud ag adran 128(4)(b) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn lle “that Act” rhodder “the Learning and Skills Act 2000 (c. 21)”;

(c)hepgorer y cofnodion sy’n ymwneud ag adrannau 85(3)(d), 90(1), 91(1), 92(4) a 100(2) o Ddeddf Addysg 2005.

Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47)

21(1)Mae Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 4 (gweithgareddau rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant), ym mharagraff 1, ar ôl is-baragraff (9B)(i) mewnosoder—

(ia)an inspection under section 57, 58, 59, 60 or 63 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 (inspection of further education and training, etc. by Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales);.

(3)Yn Atodlen 7, ym mharagraff 1, yn y tabl, yng nghofnod 18, yn lle “section 34(1) of the Learning and Skills Act 2000 (c. 21)” rhodder “section 88(1) or (2), 89(3), 92(1), 97(1) or (7), 103(1) or (2), 104(1)(a) or 136(1) of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”.

Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)

22(1)Mae Deddf Addysg a Sgiliau 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 66 (dehongli), yn is-adran (1), yn y diffiniad o “apprenticeship agreement”—

(a)hepgorer y geiriau “an apprenticeship agreement within the meaning given in section 32 of the Apprenticeships, Skills, Children and Learning Act 2009 or”;

(b)yn lle “that Act” rhodder “the Apprenticeships, Skills, Children and Learning Act 2009”.

(3)Yn adran 91 (gwybodaeth: atodol), yn is-adran (3) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)the Commission for Tertiary Education and Research.

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2)

23(1)Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1 (y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur), yn is-adran (4)(g) yn lle “Weinidogion Cymru o dan adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21)” rhodder “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil neu Weinidogion Cymru o dan adran 97 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022”.

(3)Yn adran 7 (trefniadau teithio i ddysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16)—

(a)yn is-adran (1)(b)(ii) ar ôl “gyllidir gan” mewnosoder “y Comisiwn Addysg Drydyddol neu Ymchwil neu”;

(b)yn is-adran (3)(a) o flaen is-baragraff (i) mewnosoder—

(ai)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;.

Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22)

24(1)Mae Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer—

(a)adran 2 (ystyr cwblhau prentisiaeth Gymreig);

(b)adrannau 7 i 12 (tystysgrifau a fframweithiau prentisiaethau);

(c)adrannau 18 i 22 (fframweithiau prentisiaethau);

(d)adrannau 28 i 36 (safonau a chytundebau prentisiaethau);

(e)adrannau 38 a 39 (sectorau prentisiaethau a dehongli).

(3)Yn adran 262 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (9), hepgorer “under Chapter 1 of Part 1 (other than an order under section 10) or”.

Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1)

25(1)Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 21 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 18 oed).

(3)Yn adran 43 (y ddogfen llwybr dysgu), ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (6).

(4)Yn yr Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 1 i 9.

Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15)

26(1)Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 26 (diwygiadau), hepgorer paragraff 23.

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1)

27Yn adran 6 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (ystyr awdurdod Cymreig), yn is-adran (1)(g), yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)

28Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (personau sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau: cyrff cyhoeddus etc), yn y tabl o dan y pennawd “Cyffredinol”—

(a)mewnosoder yn y lle priodol—

TABL 1

Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“The Commission for Tertiary Education and Research”)Safonau cyflenwi gwasanaethau
Safonau llunio polisi
Safonau gweithredu
Safonau cadw cofnodion

(b)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1)

29(1)Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1 (trosolwg)—

(a)ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(9A)Mae Pennod 3A yn darparu pwerau i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil‍ ailstrwythuro addysg chweched dosbarth.;

(b)hepgorer is-adran (11).

(3)Yn adran 38 (cod trefniadaeth ysgolion)—

(a)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;;

(b)yn is-adran (5), ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “neu” ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(ca)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, neu.

(4)Yn adran 39 (llunio a chymeradwyo cod trefniadaeth ysgolion), yn is-adran (1), ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “ac” ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(ca)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a.

(5)Yn adran 50 (eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru), yn is-adran (1‍) ar ôl “dosbarth” mewnosoder “ac os yw gwrthwynebiad wedi ei wneud i’r cynigion yn unol ag adran 49(2) ac os nad yw wedi ei dynnu yn ôl yn ysgrifenedig cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu”.‍

(6)Yn adran 61 (ymchwiliad lleol i gynigion)—

(a)yn is-adran (4) yn lle “70 a 73” rhodder “63F, 63G a 70”;

(b)yn is-adran (6) ym mharagraff (d) yn lle “68 neu 71” rhodder “63C neu 68”;

(c)yn is-adran (8) yn lle “yn y cyfarwyddyd o dan adran 57(2)” rhodder “mewn cyfarwyddyd o dan adran 57(2) neu 63A(1)”;

(d)yn is-adran (9)—

(i)ym mharagraff (a) yn lle “70 neu 73” rhodder “63F neu 70”;

(ii)ym mharagraff (b) ar ôl “53” mewnosoder “neu 63G”.

(7)Ar ôl adran 63 mewnosoder—

PENNOD 3ACYNIGION I‍ AILSTRWYTHURO DARPARIAETH CHWECHED DOSBARTH

63ACyfarwyddydau gan y Comisiwn i wneud cynigion chweched dosbarth

(1)Caiff y Comisiwn, yn unol â’r Cod—

(a)cyfarwyddo awdurdod lleol i arfer ei bwerau i wneud cynigion i—

(i)sefydlu neu derfynu ysgol sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros oedran ysgol gorfodol yn unig, neu

(ii)gwneud newid a ddisgrifir yn Atodlen 2 i ysgol, y byddai ei effaith yn golygu bod darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol yn cynyddu neu’n lleihau.

(b)cyfarwyddo corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol i arfer ei bwerau i wneud newid a ddisgrifir yn Atodlen 2 i ysgol, y byddai ei effaith yn golygu bod darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol yn cynyddu neu’n lleihau.

(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion, wrth roi effaith i’r cyfarwyddyd, gymhwyso unrhyw egwyddorion a bennir ynddo.

63BDarpariaeth bellach ynghylch cynigion a wneir ar ôl cyfarwyddyd o dan adran 63A(1)

(1)Ni chaniateir i gynigion a wneir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 63A(1) gael eu tynnu’n ôl heb gydsyniad y Comisiwn.

(2)Caiff y Comisiwn roi cydsyniad at ddibenion is-adran (1) yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Rhaid i awdurdod lleol ad-dalu gwariant yr aed iddo’n rhesymol gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo wrth wneud cynigion yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 63A(1).

(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i awdurdod lleol gwrdd â’r gost o weithredu cynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 63A(1) a’r rheini’n gynigion sydd wedi eu cymeradwyo neu y penderfynwyd eu gweithredu.

63CGwneud cynigion gan y Comisiwn

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)y Comisiwn wedi gwneud cyfarwyddyd o dan adran 63A(1), a

(b)naill ai—

(i)cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu

(ii)yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.

(2)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw gynigion y gellid bod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.

(3)Ond rhaid i’r Comisiwn gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn gwneud cynnig i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 (agor neu gau chweched dosbarth ysgol) i ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig.

(4)Pan fo’r Comisiwn yn gwneud cynigion o dan yr adran hon, mae unrhyw gynigion sydd wedi eu gwneud gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ac sydd wedi eu cyhoeddi yn unol â’r cyfarwyddyd i’w trin fel pe baent wedi eu tynnu’n ôl.

63DCyhoeddi cynigion y Comisiwn ac ymgynghori arnynt

(1)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 63C yn unol â’r Cod.

(2)Cyn cyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 63C, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori ynglŷn â’i gynigion yn unol â’r Cod.

(3)Nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i gynigion i derfynu ysgol sy’n ysgol fach o fewn yr ystyr a roddir gan adran 56.

(4)Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod eu cyhoeddi, rhaid i’r Comisiwn anfon copïau o’r cynigion cyhoeddedig—

(a)at Weinidogion Cymru,

(b)at yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir y bydd yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi, ac

(c)at gorff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

(5)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad y mae wedi ei gynnal yn unol â’r Cod.

63EGwrthwynebiadau i gynigion y Comisiwn

(1)Caiff unrhyw berson wrthwynebu cynigion a gyhoeddir o dan adran 63D.

(2)Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig i’r Comisiwn cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd y cynigion eu cyhoeddi (“y cyfnod gwrthwynebu”).

(3)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o’r holl wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag is-adran (2) (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl) a’i ymateb i’r gwrthwynebiadau hynny cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

63FEu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru

(1)Mae’n ofynnol i gynigion a gyhoeddir gan y Comisiwn o dan adran 63D gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon os yw gwrthwynebiad wedi ei wneud yn unol ag adran 63E(2) ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl yn ysgrifenedig cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

(2)Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiwn anfon copi o’r dogfennau a restrir yn is-adran (3) at Weinidogion Cymru cyn diwedd 35 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

(3)Y dogfennau yw—

(a)yr adroddiad a gyhoeddir o dan adran 63D(5),

(b)y cynigion cyhoeddedig,

(c)unrhyw wrthwynebiadau a wneir yn unol ag adran 63E(2) (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl), a

(d)pan fo gwrthwynebiadau wedi eu gwneud felly (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl), yr ymateb a gyhoeddir o dan adran 63E(3).

(4)Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)gwrthod y cynigion,

(b)eu cymeradwyo heb eu haddasu, neu

(c)eu cymeradwyo gydag addasiadau—

(i)ar ôl cael cydsyniad y Comisiwn i’r addasiadau, a

(ii)ar ôl ymgynghori â’r awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir y bydd yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi, ac â chorff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

(5)Caniateir i gymeradwyaeth ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais y Comisiwn, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae’r digwyddiad y cyfeiriwyd ato yn is-adran (5) i ddigwydd.

(7)Nid yw is-adran (1) yn atal cynigion rhag cael eu tynnu’n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y Comisiwn i Weinidogion Cymru ar unrhyw bryd cyn iddynt gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon.

(8)Nid yw’n ofynnol i gynigion i derfynu ysgol sy’n ysgol fach o fewn yr ystyr a roddir gan adran 56 gael unrhyw gymeradwyaeth o dan yr adran hon.

63GPenderfynu

(1)Pan na fo’n ofynnol i gynigion a gyhoeddir o dan adran 63D gael eu cymeradwyo o dan adran 63F, rhaid i’r Comisiwn benderfynu a ddylid gweithredu’r cynigion.

(2)Os na fydd penderfyniad o dan is-adran (1) wedi ei wneud cyn diwedd 16 o wythnosau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu, bernir bod y Comisiwn wedi tynnu’r cynigion yn eu hôl.

(3)Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod ei benderfyniad o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn hysbysu’r canlynol am y penderfyniad—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir y bydd yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(c)corff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

63HGweithredu cynigion

(1)Mae cynigion sydd wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 63F neu y penderfynwyd eu gweithredu gan y Comisiwn o dan adran 63G yn cael effaith fel petaent wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 ar ôl iddynt gael eu gwneud—

(a)gan yr awdurdod lleol o dan ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, neu

(b)yn achos cynigion i newid ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, gan y corff llywodraethu o dan ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

(2)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol o dan sylw gwrdd â’r gost o weithredu cynigion sydd wedi eu cymeradwyo o dan adran 63F neu y penderfynwyd eu gweithredu o dan adran 63G ac sy’n cael effaith fel a grybwyllir yn is-adran (1)(b).

63IDehongli Pennod 3A

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “y Cod” (“the Code”) yw’r cod ar drefniadaeth ysgolion a ddyroddir o dan adran 38(1);

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

(8)Hepgorer adrannau 71 i 76 (cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth).

(9)Yn adran 80 (hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol), yn is-adran (3) yn lle “â Gweinidogion Cymru” rhodder “â’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil” ac yn lle “anghenion” rhodder “ofynion”.

(10)Yn adran 82 (gorchmynion esemptio trosiannol at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010), yn is-adran (2) yn lle “, 68 neu 71” rhodder “neu 68”.

(11)Yn adran 98 (dehongli’n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio), yn is-adran (3)—

(a)mewnosoder yn y lle priodol—

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) ym Mhennod 3A o Ran 3 yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;;

(b)yn y diffiniad o “y Cod” yn lle “Mhennod 2” rhodder “Mhenodau 2 a 3A”;

(c)yn y diffiniad o “cyfnod gwrthwynebu” ar ôl “Ran 3” mewnosoder “ac yn adran 63E(2) at ddibenion Pennod 3A o Ran 3”.

(12)Yn Atodlen 2 (newidiadau rheoleiddiedig)—

(a)ym mharagraff 10 (newidiadau i fangreoedd), yn is-baragraff (3)(c)(i), ar ôl “59,” mewnosoder “63D,”;

(b)ym mharagraff 19 (cynnydd yn nifer disgyblion: ysgolion arbennig), yn is-baragraff (2)(c)(i), ar ôl “59,” mewnosoder “63D,”.

(13)Yn Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 2(3) ac 20(3).

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)

30(1)Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 162 (trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad: oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a gofalwyr), yn is-adran (4)—

(a)ym mharagraff (g), yn lle “Ran 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000” rhodder “adran 92, 97 neu 103(1) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022”;

(b)ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(ga)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i’r graddau y mae’n cyflawni swyddogaethau o dan adran 93, 94, 95, 97 neu 103(1) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022;.

Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (dccc 1)

31Mae Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 wedi ei diddymu.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)

32(1)Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 6 (ystyr corff cyhoeddus), yn is-adran (1)(h), yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.

(3)Yn adran 32 (partneriaid eraill), yn is-adran (1) yn lle paragraff (e) rhodder—

(e)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;.

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (dccc 3)

33(1)Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 10 (canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “Gweinidogion Cymru” rhodder “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”)”;

(b)yn is-adran (2) yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”)” rhodder “y Comisiwn”;

(c)yn is-adran (3) yn lle “Gweinidogion Cymru a CCAUC” rhodder “y Comisiwn”;

(d)yn is-adran (5) yn lle “i Weinidogion Cymru a CCAUC” rhodder “i’r Comisiwn” ac yn lle “eu barn hwy” rhodder “ei farn ef”;

(e)hepgorer is-adran (8).

Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5)

34(1)Mae Deddf Cymwysterau Cymru 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 34 (cyfyngu ar gyllido a darparu cyrsiau penodol), yn is-adran (12) yn y diffiniad o “corff awdurdodedig” ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

“(c)

y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;.

Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20)

35(1)Mae Deddf Dadreoleiddio 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 3 (prentisiaethau), hepgorer is-adran (4).

(3)Yn Atodlen 1 (prentisiaethau)—

(a)yn Rhan 2, hepgorer paragraffau 9(a) a 15;

(b)hepgorer Rhan 3.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3)

36Yn adran 10 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (ystyr corff cyhoeddus), yn is-adran (1)(f), yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (dccc 2)

37Yn adran 110 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (ystyr corff cyhoeddus), yn is-adran (1)(h), yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.

Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29)

38(1)Mae Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 11 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â Rhan 1), hepgorer paragraffau 7, 8, 11, 14, 15, 16, 17, 18, 20, 22, 24, 25, 26(3) a (4).

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2)

39(1)Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 4 (cod anghenion dysgu ychwanegol), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(cb)Gweinidogion Cymru;.

(3)Yn adran 5 (y weithdrefn ar gyfer gwneud y cod anghenion dysgu ychwanegol), yn is-adran (1), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(4)Yn adran 50 (dyletswyddau Gweinidogion Cymru i sicrhau addysg a hyfforddiant ôl-16), hepgorer is-adrannau (2) i (4).

(5)Yn adran 65 (dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arall), yn is-adran (4) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(db)Gweinidogion Cymru;.

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 (O.S. 2017/90)

40(1)Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn rheoliad 3(4) yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)

41Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (awdurdodau rhestredig), o dan yr is-bennawd “Addysg a hyfforddiant” yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill