Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1PROSIECTAU SEILWAITH ARWYDDOCAOL

Term allweddol

1Ystyr “prosiect seilwaith arwyddocaol”

Yn y Ddeddf hon, ystyr “prosiect seilwaith arwyddocaol” yw—

(a)datblygiad a bennir yn y Rhan hon yn brosiect seilwaith arwyddocaol;

(b)datblygiad a bennir mewn cyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 yn brosiect seilwaith arwyddocaol;

(c)datblygiad a bennir yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru o dan adran 60(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) yn brosiect seilwaith arwyddocaol.

Ynni

2Y seilwaith trydan

(1)Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—

(a)adeiladu—

(i)gorsaf gynhyrchu yng Nghymru (ac eithrio gorsaf ynni gwynt), neu

(ii)gorsaf gynhyrchu yn ardal forol Cymru,

y disgwylir y bydd ganddi gapasiti cynhyrchu gosodedig o rhwng 50 a 350 o fegawatiau ar ôl ei hadeiladu;

(b)estyn neu addasu—

(i)gorsaf gynhyrchu yng Nghymru (ac eithrio gorsaf ynni gwynt), neu

(ii)gorsaf gynhyrchu yn ardal forol Cymru,

pan ddisgwylir mai effaith yr estyniad neu’r addasiad fydd cynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig 50 o fegawatiau o leiaf, ond nid fel y bo’r capasiti cynhyrchu gosodedig yn fwy na 350 o fegawatiau;

(c)adeiladu gorsaf ynni gwynt yng Nghymru y disgwylir y bydd ganddi gapasiti cynhyrchu gosodedig 50 o fegawatiau o leiaf ar ôl ei hadeiladu;

(d)estyn neu addasu gorsaf ynni gwynt yng Nghymru pan ddisgwylir mai effaith yr estyniad neu’r addasiad fydd cynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig 50 o fegawatiau o leiaf;

(e)gosod llinell drydan uwchben y ddaear yng Nghymru—

(i)y disgwylir y bydd ganddi foltedd enwol o 132 o gilofoltau ac y bydd yn 2 gilometr o hyd o leiaf (i’r graddau y bo yng Nghymru), a

(ii)sy’n gysylltiedig ag adeiladu, estyn neu addasu gorsaf gynhyrchu y mae paragraffau (a) i (d) yn gymwys iddi.

(2)Yn yr adran hon—

  • ystyr “capasiti cynhyrchu gosodedig” (“installed generating capacity”) yw’r capasiti cynhyrchu trydan uchaf (mewn megawatiau) y gellir gweithredu’r orsaf gynhyrchu honno yn unol ag ef am gyfnod parhaus heb ddifrodi’r orsaf (gan ragdybio bod y ffynhonnell ynni a ddefnyddir i gynhyrchu trydan ar gael yn ddi-dor);

  • ystyr “gorsaf ynni gwynt” (“wind generating station”) yw gorsaf gynhyrchu sy’n cynhyrchu trydan o’r gwynt.

3Cyfleusterau nwy naturiol hylifedig

(1)Mae adeiladu cyfleuster LNG yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os disgwylir i gynhwysedd storio’r cyfleuster fod yn 43 o filiynau o fetrau ciwbig safonol o leiaf, neu

(b)os disgwylir i gyfradd llif uchaf y cyfleuster fod yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod o leiaf.

(2)Mae addasu cyfleuster LNG yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru yn brosiect seilwaith arwyddocaol os effaith ddisgwyliedig yr addasiad yw cynyddu—

(a)cynhwysedd storio’r cyfleuster 43 o filiynau o fetrau ciwbig safonol o leiaf, neu

(b)cyfradd llif uchaf y cyfleuster 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod o leiaf.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyfleuster LNG” (“LNG facility”) yw cyfleuster ar gyfer—

    (a)

    derbyn nwy naturiol hylifol o’r tu allan i Gymru ac ardal forol Cymru,

    (b)

    storio’r nwy hwnnw, ac

    (c)

    ailnwyeiddio’r nwy hwnnw;

  • ystyr “cyfradd llif uchaf” (“maximum flow rate”) yw’r gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o’r cyfleuster yn unol â hi, gan ragdybio—

    (a)

    bod y cyfleuster wedi ei lenwi hyd at ei gynhwysedd mwyaf, a

    (b)

    y mesurir y gyfradd ar ôl ailnwyeiddio’r nwy naturiol hylifol ac unrhyw brosesu arall sy’n ofynnol wrth adfer y nwy o’r storfa;

  • ystyr “cynhwysedd storio” (“storage capacity”) yw cynhwysedd y cyfleuster ar gyfer storio nwy naturiol hylifol a fesurir fel pe bai’r nwy wedi ei storio ar ei ffurf ailnwyeiddiedig.

4Cyfleusterau derbyn nwy

(1)Mae adeiladu cyfleuster derbyn nwy yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os yw’r cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

(b)os yw’r cyfleuster o fewn is-adran (3), ac

(c)os disgwylir i gyfradd llif uchaf y cyfleuster fod yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod o leiaf.

(2)Mae addasu cyfleuster derbyn nwy yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os yw’r cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

(b)os yw’r cyfleuster o fewn is-adran (3), ac

(c)os effaith ddisgwyliedig yr addasiad yw cynyddu cyfradd llif uchaf y cyfleuster 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod o leiaf.

(3)Mae cyfleuster derbyn nwy o fewn yr is-adran hon os nad yw’r nwy a gaiff ei drin gan y cyfleuster—

(a)yn tarddu o—

(i)Cymru neu ardal forol Cymru,

(ii)Lloegr neu ddyfroedd sy’n gyfagos i Loegr hyd at derfynau atfor y môr tiriogaethol,

(iii)yr Alban neu ddyfroedd sy’n gyfagos i’r Alban hyd at derfynau atfor y môr tiriogaethol, neu

(iv)y Parth Ynni Adnewyddadwy.

(b)yn cyrraedd y cyfleuster o Loegr neu’r Alban, nac

(c)wedi ei drin eisoes mewn cyfleuster arall ar ôl iddo gyrraedd Cymru neu ardal forol Cymru.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyfleuster derbyn nwy” (“gas reception facility”) yw cyfleuster ar gyfer—

    (a)

    derbyn nwy naturiol ar ei ffurf nwyol o’r tu allan i Gymru ac ardal forol Cymru, a

    (b)

    trin nwy naturiol (rywfodd ac eithrio drwy ei storio);

  • ystyr “cyfradd llif uchaf” (“maximum flow rate”) yw’r gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o’r cyfleuster yn unol â hi;

  • mae i “Parth Ynni Adnewyddadwy” yr ystyr a roddir i “Renewable Energy Zone” gan adran 84(4) o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20).

5Hollti hydrolig am olew a nwy a nwyeiddio glo

Mae’r datblygiadau a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—

(a)fforio, arfarnu neu gynhyrchu methan haen lo, olew siâl neu nwy siâl gan ddefnyddio hollti hydrolig yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, ac eithrio gwneud tyllau turio fforiol at ddiben samplu craidd mewn modd nad yw’n golygu cynnal hollti hydrolig;

(b)nwyeiddio glo yn y strata yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, ac eithrio gwneud tyllau turio fforiol at ddiben samplu craidd.

6Mwyngloddio glo brig

Mae cynnal gweithrediadau yng Nghymru at ddiben—

(a)creu mwynglawdd glo brig, neu

(b)cloddio a gweithio glo o fwynglawdd brig,

yn brosiect seilwaith arwyddocaol.

Trafnidiaeth

7Priffyrdd

(1)Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—

(a)adeiladu priffordd mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2);

(b)addasu neu wella priffordd mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (3),

oni bai eu bod wedi eu heithrio gan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (4) i (6).

(2)Nid yw adeiladu priffordd ond o fewn yr is-adran hon—

(a)os bydd y briffordd (ar ôl ei hadeiladu) yng Nghymru,

(b)os Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd, ac

(c)os bydd y briffordd (ar ôl ei hadeiladu) yn briffordd ddi-dor o fwy nag 1 cilometr o hyd.

(3)Nid yw addasu neu wella priffordd ond o fewn yr is-adran hon—

(a)os bydd y briffordd (ar ôl ei hadeiladu) yng Nghymru,

(b)os Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd, ac

(c)os yw’r addasu neu’r gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i adeiladu, addasu neu wella priffordd—

(a)os oes gorchymyn a grybwyllir yn adran 20(3) wedi ei wneud mewn perthynas â’r datblygiad cyn i’r adran honno ddod i rym,

(b)os oes angen gorchymyn pellach mewn perthynas â’r datblygiad, ac

(c)os nad oes mwy na 7 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r gorchymyn cynharach gael ei wneud.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i addasu priffordd—

(a)os oes caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer datblygiad,

(b)os yw’r addasiad yn angenrheidiol o ganlyniad i’r datblygiad, ac

(c)os yw’r datblygwr wedi gofyn am i’r addasiad gael ei wneud i’r briffordd.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i addasu priffordd—

(a)os oes gorchymyn a grybwyllir yn adran 20(3) wedi ei wneud mewn perthynas â gwaith priffordd leol,

(b)os yw’r addasiad yn angenrheidiol o ganlyniad i’r gwaith priffordd leol, ac

(c)os yw’r awdurdod priffyrdd lleol sy’n gyfrifol am y gwaith priffordd leol wedi gofyn am i’r addasiad gael ei wneud i’r briffordd.

(7)Yn yr adran hon—

  • mae i “awdurdod priffyrdd lleol” yr ystyr a roddir i “local highway authority” gan adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66);

  • ystyr “gwaith priffordd leol” (“local highway works”) yw gwaith a gynhelir gan awdurdod priffyrdd lleol, neu ar ei ran, mewn perthynas â phriffordd y mae’n awdurdod priffyrdd ar ei chyfer (ac yn yr adran hon cyfeirir at yr awdurdod priffyrdd lleol fel y sawl sy’n “gyfrifol” am y gwaith hwnnw).

8Rheilffyrdd

(1)Mae adeiladu rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os bydd y rheilffordd (ar ôl ei hadeiladu) yn dechrau, yn gorffen ac yn aros yng Nghymru,

(b)os bydd y rheilffordd (ar ôl ei hadeiladu) yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr a gymeradwywyd,

(c)os bydd y rheilffordd (ar ôl ei hadeiladu) yn cynnwys darn o drac sy’n ddi-dor am fwy na 2 gilometr o hyd, a

(d)os nad yw adeiladu’r rheilffordd yn ddatblygu a ganiateir.

(2)Mae addasu rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os yw’r rhan o’r rheilffordd sydd i’w haddasu yn rhan o reilffordd sy’n dechrau, yn gorffen ac yn aros yng Nghymru,

(b)os yw’r rheilffordd yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr a gymeradwywyd,

(c)os bydd yr addasiad i’r rheilffordd yn cynnwys gosod darn o drac sy’n ddi-dor am fwy na 2 gilometr o hyd, a

(d)os nad yw adeiladu’r rheilffordd yn ddatblygu a ganiateir.

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys i adeiladu neu addasu rheilffordd i’r graddau y bo’r rheilffordd yn ffurfio rhan (neu y bydd yn ffurfio rhan ar ôl ei hadeiladu) o gyfnewidfa nwyddau rheilffordd.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “datblygu a ganiateir” (“permitted development”) yw datblygu y mae caniatâd cynllunio wedi ei roi iddo gan erthygl 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) (fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd);

  • ystyr “gweithredwr a gymeradwywyd” (“approved operator”) yw—

    (a)

    person sydd wedi ei awdurdodi’n weithredwr rhwydwaith gan drwydded a roddwyd o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (p. 43) (trwyddedau i weithredu asedau rheilffordd), neu

    (b)

    is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr cwmni sy’n berson o’r fath;

  • mae i “is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr” yr un ystyr ag a roddir i “wholly-owned subsidiary” yn Neddf Cwmnïau 2006 (p. 46) (gweler adran 1159 o’r Ddeddf honno);

  • mae i “rhwydwaith” yr ystyr a roddir i “network” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (p. 43).

9Cyfnewidfeydd nwyddau rheilffordd

(1)Mae adeiladu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol os disgwylir (ar ôl ei hadeiladu) y bodlonir pob un o’r amodau yn is-adrannau (3) i (7) mewn perthynas â hi.

(2)Mae addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os disgwylir, ar ôl yr addasiad, y bodlonir pob un o’r amodau yn is-adrannau (3)(a) a (4) i (7) mewn perthynas â hi, a

(b)y disgwylir i’r addasiad gael yr effaith a bennir yn is-adran (8).

(3)Rhaid i’r tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno—

(a)bod yng Nghymru, a

(b)bod ag arwynebedd o 60 o hectarau o leiaf.

(4)Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd allu trin—

(a)llwythi o nwyddau oddi wrth fwy nag un traddodwr ac i fwy nag un traddodai, a

(b)o leiaf bedwar trên nwyddau y dydd.

(5)Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

(6)Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd gynnwys warysau y gellir danfon nwyddau iddynt o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru naill ai yn uniongyrchol neu drwy gyfrwng math arall o drafnidiaeth.

(7)Ni chaiff y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o sefydliad milwrol.

(8)Yr effaith y cyfeirir ati yn is-adran (2)(b) yw cynyddu 60 o hectarau o leiaf arwynebedd y tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “sefydliad milwrol” (“military establishment”) yw sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;

  • ystyr “trên nwyddau” (“goods train”) yw trên (gan ddiystyru unrhyw locomotif) sy’n cynnwys cerbydau rheilffyrdd a gynlluniwyd i gludo nwyddau.

(10)Mae i “cerbydau rheilffyrdd”, “rhwydwaith” a “trên” yr un ystyron ag a roddir i “rolling stock”, “network” a “train” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (p. 43).

10Cyfleusterau harbwr

(1)Mae adeiladu cyfleusterau harbwr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os bydd y cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn ardal forol Cymru, neu yn y naill a’r llall,

(b)os na fydd y cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) yn borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, nac yn ffurfio rhan o borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, ac

(c)os disgwylir i’r cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) allu trin llwytho neu ddadlwytho y swm perthnasol o ddeunydd y flwyddyn o leiaf.

(2)Mae addasu cyfleusterau harbwr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os yw’r cyfleusterau harbwr yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn ardal forol Cymru, neu yn y naill a’r llall,

(b)os nad yw’r cyfleusterau harbwr yn borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, nac yn ffurfio rhan o borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, ac

(c)os disgwylir mai effaith yr addasiad yw cynyddu swm y deunydd y mae’r cyfleusterau yn gallu trin ei lwytho neu ei ddadlwytho y swm perthnasol y flwyddyn o leiaf.

(3)“Y swm perthnasol” yw—

(a)yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau cynwysyddion, 50,000 UCU;

(b)yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau gyrru i mewn ac allan, 25,000 o unedau;

(c)yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau cargo o unrhyw ddisgrifiad arall, 500,000 o dunelli;

(d)yn achos cyfleusterau ar gyfer mwy nag un o’r mathau o longau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c), swm cyfatebol o ddeunydd.

(4)At ddibenion is-adran (3)(d), mae cyfleusterau yn gallu trin swm cyfatebol o ddeunydd os yw swm y ffracsiynau perthnasol yn un neu’n fwy.

(5)Y ffracsiynau perthnasol yw—

(a)i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau cynwysyddion—

x over 50,000

Ffigwr 1

pan fo x y nifer o UCU y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin;

(b)i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau gyrru i mewn ac allan—

y over 25,000

Ffigwr 2

pan fo y y nifer o unedau y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin;

(c)i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau cargo o unrhyw ddisgrifiad arall—

z over 500,000

Ffigwr 3

pan fo z y nifer o dunelli o ddeunydd y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “llong gargo” (“cargo ship”) yw llong a ddefnyddir i gludo cargo;

  • ystyr “llong gynwysyddion” (“container ship”) yw llong gargo sy’n cludo ei holl gargo neu’r rhan fwyaf o’i chargo mewn cynwysyddion;

  • ystyr “llong gyrru i mewn ac allan” (“roll-on roll-off ship”) yw llong a ddefnyddir i gludo cargo ar olwynion;

  • mae i “porthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl” yr ystyr a roddir i “reserved trust port” yn adran 32 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4);

  • ystyr “UCU” (“TEU”) yw uned cyfwerth ag ugain troedfedd;

  • ystyr “uned” (“unit”) mewn perthynas â llong gyrru i mewn ac allan yw unrhyw eitem o gargo ar olwynion (pa un a yw’n hunanyredig ai peidio).

11Meysydd awyr

(1)Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—

(a)adeiladu maes awyr sydd yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2),

(b)addasu maes awyr sydd yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (3), neu

(c)cynyddu’r defnydd a ganiateir o faes awyr sydd yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (5).

(2)Mae adeiladu maes awyr o fewn yr is-adran hon os disgwylir y gall y maes awyr (ar ôl ei adeiladu) ddarparu—

(a)gwasanaethau cludo teithwyr awyr ar gyfer o leiaf 1 filiwn o deithwyr bob blwyddyn, neu

(b)gwasanaethau cludo cargo awyr ar gyfer o leiaf 5,000 o symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo bob blwyddyn.

(3)Mae addasu maes awyr o fewn yr is-adran hon os disgwylir i’r addasiad—

(a)cynyddu nifer y teithwyr y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo teithwyr awyr ar eu cyfer 1 filiwn y flwyddyn o leiaf, neu

(b)cynyddu nifer y symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo cargo awyr ar eu cyfer 5,000 y flwyddyn o leiaf.

(4)Mae “addasu”, mewn perthynas â maes awyr, yn cynnwys adeiladu, estyn neu addasu—

(a)rhedfa yn y maes awyr,

(b)adeilad yn y maes awyr, neu

(c)mast radar neu radio, antena neu gyfarpar arall yn y maes awyr.

(5)Nid yw cynyddu’r defnydd a ganiateir o faes awyr ond o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n gynnydd o 1 filiwn y flwyddyn o leiaf yn nifer y teithwyr y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo teithwyr awyr iddynt, neu

(b)os yw’n gynnydd o 5,000 y flwyddyn o leiaf yn nifer y symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo cargo awyr iddynt.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “a ganiateir” (“permitted”) yw wedi ei ganiatáu gan ganiatâd cynllunio neu gydsyniad seilwaith;

  • ystyr “awyren gargo” (“cargo aircraft”) yw awyren sydd—

    (a)

    wedi ei chynllunio i gludo cargo ond nid teithwyr, a

    (b)

    sy’n cludo cargo ar delerau masnachol;

  • ystyr “gwasanaethau cludo cargo awyr” (“air cargo transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo cargo mewn awyren;

  • ystyr “gwasanaethau cludo teithwyr awyr” (“air passenger transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo teithwyr mewn awyren;

  • mae “cargo” (“cargo”) yn cynnwys post;

  • ystyr “symudiad cludo awyr” (“air transport movement”) yw glaniad neu esgyniad awyren.

Dŵr

12Argaeau a chronfeydd dŵr

Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—

(a)adeiladu argae neu gronfa ddŵr yng Nghymru os yw cyfaint disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a gaiff ei storio yn y gronfa ddŵr yn fwy na 10 miliwn o fetrau ciwbig;

(b)addasu argae neu gronfa ddŵr yng Nghymru os yw cyfaint ychwanegol disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a gaiff ei storio yn y gronfa ddŵr o ganlyniad i’r addasiad yn fwy na 10 miliwn o fetrau ciwbig.

13Trosglwyddo adnoddau dŵr

(1)Mae datblygiad sy’n ymwneud â throsglwyddo adnoddau dŵr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os cynhelir y datblygiad gan un neu ragor o ymgymerwyr dŵr,

(b)os yw’r datblygiad yn digwydd yng Nghymru,

(c)os yw cyfaint disgwyliedig y dŵr a drosglwyddir o ganlyniad i’r datblygiad yn fwy na 100 miliwn o fetrau ciwbig y flwyddyn,

(d)os yw’r datblygiad yn galluogi trosglwyddo adnoddau dŵr—

(i)rhwng basnau afonydd yng Nghymru,

(ii)rhwng ardaloedd ymgymerwyr dŵr yng Nghymru, neu

(iii)rhwng basn afon yng Nghymru ac ardal ymgymerwr dŵr yng Nghymru, ac

(e)os nad yw’r datblygiad yn ymwneud â throsglwyddo dŵr yfed.

(2)Yn yr adran hon—

  • ystyr “ardal ymgymerwr dŵr” (“water undertaker’s area”) yw’r ardal y penodwyd ymgymerwr dŵr ar ei chyfer o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991;

  • ystyr “basn afon” (“river basin”) yw ardal o dir a ddraenir gan afon a’i his-afonydd;

  • ystyr “ymgymerwr dŵr” (“water undertaker”) yw cwmni sydd wedi ei benodi’n ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (penodi ymgymerwyr perthnasol).

Dŵr gwastraff

14Gweithfeydd trin dŵr gwastraff

(1)Mae adeiladu gwaith trin dŵr gwastraff yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os yw’r gwaith trin yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, a

(b)os yw capasiti disgwyliedig y gwaith trin (ar ôl ei adeiladu) yn fwy na chyfwerth poblogaeth o 500,000.

(2)Mae adeiladu seilwaith i drosglwyddo neu storio dŵr gwastraff yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os yw’r seilwaith yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

(b)os prif ddiben y seilwaith yw—

(i)trosglwyddo dŵr gwastraff i’w drin, neu

(ii)storio dŵr gwastraff cyn ei drin,

neu’r ddau, ac

(c)os disgwylir i’r seilwaith fod â chapasiti i storio mwy na 350,000 o fetrau ciwbig o ddŵr gwastraff.

(3)Mae addasu gwaith trin dŵr gwastraff yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os yw’r gwaith yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, a

(b)os effaith ddisgwyliedig yr addasiad yw cynyddu capasiti’r gwaith fwy na chyfwerth poblogaeth o 500,000.

(4)Mae addasu seilwaith i drosglwyddo neu storio dŵr gwastraff yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os yw’r seilwaith yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

(b)os prif ddiben y seilwaith yw—

(i)trosglwyddo dŵr gwastraff i’w drin, neu

(ii)storio dŵr gwastraff cyn ei drin,

neu’r ddau, ac

(c)os effaith ddisgwyliedig yr addasiad yw cynyddu capasiti’r seilwaith i storio dŵr gwastraff fwy na 350,000 o fetrau ciwbig.

(5)Yn yr adran hon, mae “dŵr gwastraff” yn cynnwys dŵr gwastraff domestig, dŵr gwastraff diwydiannol a dŵr gwastraff trefol.

(6)Mae i “cyfwerth poblogaeth”, “dŵr gwastraff domestig”, “dŵr gwastraff diwydiannol” a “dŵr gwastraff trefol” yr un ystyron ag a roddir i “population equivalent”, “domestic waste water”, “industrial waste water” ac “urban waste water” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994 (O.S. 1994/2841) (fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd).

Gwastraff

15Cyfleusterau gwastraff peryglus

(1)Mae adeiladu cyfleuster gwastraff peryglus yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os yw’r cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

(b)os prif ddiben y cyfleuster yw gwaredu gwastraff peryglus yn derfynol neu ei adfer, ac

(c)os disgwylir i’r cyfleuster fod â’r capasiti a bennir yn is-adran (2).

(2)Y capasiti yw—

(a)yn achos gwaredu gwastraff peryglus drwy dirlenwi neu mewn cyfleuster storio dwfn, mwy na 100,000 o dunelli y flwyddyn;

(b)mewn unrhyw achos arall, mwy na 30,000 o dunelli y flwyddyn.

(3)Mae addasu cyfleuster gwastraff peryglus yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

(a)os yw’r cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

(b)os prif ddiben y cyfleuster yw gwaredu gwastraff peryglus yn derfynol neu ei adfer, ac

(c)os disgwylir i’r addasiad gynyddu capasiti’r cyfleuster—

(i)yn achos gwaredu gwastraff peryglus drwy dirlenwi neu mewn cyfleuster storio dwfn, fwy na 100,000 o dunelli y flwyddyn;

(ii)mewn unrhyw achos arall, fwy na 30,000 o dunelli y flwyddyn.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “cyfleuster storio dwfn” yw cyfleuster ar gyfer storio gwastraff o dan y ddaear mewn ceudod daearegol dwfn.

(5)Mae i “adfer”, “gwaredu” a “gwastraff peryglus” yr un ystyron ag a roddir i “recovery”, “disposal” a “hazardous waste” yn Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005 (O.S. 2005/894) (fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd).

16Cyfleusterau gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol

(1)Mae datblygiad sy’n gysylltiedig â chyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol o fewn is-adran (4) neu (6) yn brosiect seilwaith arwyddocaol.

(2)Ystyr cyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol yw cyfleuster sy’n bodloni’r amodau yn is-adran (3).

(3)Yr amodau yw—

(a)y disgwylir mai prif ddiben y cyfleuster fydd gwaredu gwastraff ymbelydrol yn derfynol,

(b)y disgwylir y bydd y rhan o’r cyfleuster lle y mae’r gwastraff ymbelydrol i’w waredu yn cael ei hadeiladu o leiaf 200 o fetrau o ddyfnder o dan arwyneb y ddaear neu wely’r môr, ac

(c)y disgwylir y bydd yr amgylchedd naturiol sy’n amgylchynu’r cyfleuster yn gweithredu, ar y cyd ag unrhyw fesurau a beiriannwyd, i atal radioniwclidau rhag symud o’r rhan o’r cyfleuster lle y mae’r gwastraff ymbelydrol i’w waredu i’r arwyneb.

(4)Mae datblygiad o fewn yr is-adran hon—

(a)os adeiladu un twll turio neu ragor, a chynnal unrhyw waith cloddio, adeiladu neu saernïo cysylltiedig ydyw,

(b)os caiff y twll turio neu’r tyllau turio ei adeiladu neu eu hadeiladu, ac y cynhelir unrhyw waith cloddio, adeiladu neu saernïo cysylltiedig, yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, ac

(c)os bodlonir yr amodau yn is-adran (5) mewn perthynas â phob twll turio.

(5)Yr amodau yw—

(a)y disgwylir i’r twll turio gael ei adeiladu o leiaf 150 o fetrau o ddyfnder o dan arwyneb y ddaear neu wely’r môr, a

(b)mai prif ddiben adeiladu’r twll turio yw cael gwybodaeth, data neu samplau er mwyn penderfynu a yw safle yn addas ar gyfer adeiladu neu ddefnyddio cyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol.

(6)Mae datblygiad o fewn yr is-adran hon—

(a)os adeiladu cyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol ydyw, a

(b)os bydd y cyfleuster (ar ôl ei adeiladu) yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “gwaredu (“disposal”) mewn perthynas â gwastraff ymbelydrol yw ei ddodi mewn cyfleuster priodol heb fwriadu ei gael yn ôl;

  • mae i “gwastraff ymbelydrol” yr un ystyr ag a roddir i “radioactive waste” yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (O.S. 2016/1154) (fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd) (gweler paragraff 3(1) o Ran 2 o Atodlen 23 i’r rheoliadau hynny).

Pŵer i ddiwygio

17Pŵer i ychwanegu, amrywio neu ddileu prosiectau

(1)Caiff rheoliadau—

(a)diwygio’r Rhan hon er mwyn ychwanegu math newydd o brosiect seilwaith arwyddocaol neu amrywio neu ddileu prosiect seilwaith arwyddocaol presennol;

(b)gwneud darpariaeth bellach, neu ddiwygio neu ddiddymu darpariaeth bresennol, ynghylch y math o brosiect sy’n brosiect seilwaith arwyddocaol, ac nad yw’n brosiect seilwaith arwyddocaol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(b) ddiwygio’r Ddeddf hon.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ond ychwanegu math newydd o brosiect neu amrywio math presennol o brosiect—

(a)os yw’r prosiect, neu unrhyw amrywiad i brosiect presennol, ar gyfer cynnal gwaith yn un neu ragor o’r meysydd a bennir yn is-adran (4), a

(b)os yw’r gwaith i’w gynnal yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru neu yn y naill a’r llall.

(4)Y meysydd yw—

(a)ynni;

(b)atal llifogydd;

(c)mwynau;

(d)cludiant;

(e)dŵr;

(f)dŵr gwastraff;

(g)gwastraff.

Dehongli

18Prosiectau trawsffiniol

(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddatblygiad sydd yng Nghymru yn cynnwys datblygiad sydd yn rhannol yng Nghymru, oni chyfeirir at ddatblygiad sydd yn gyfan gwbl yng Nghymru.

(2)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddatblygiad sydd yn ardal forol Cymru yn cynnwys datblygiad sydd yn rhannol yn ardal forol Cymru.

(3)Os yw cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar gyfer datblygiad sy’n rhannol yng Nghymru neu yn rhannol yn ardal forol Cymru, mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol i’r graddau y bo yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru (yn ôl y digwydd).

RHAN 2GOFYNIAD AM GYDSYNIAD SEILWAITH

Y gofyniad

19Gofyniad am gydsyniad seilwaith

Mae cydsyniad Gweinidogion Cymru (“cydsyniad seilwaith”) yn ofynnol ar gyfer datblygiad i’r graddau y bo’r datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol neu’n ffurfio rhan o brosiect seilwaith arwyddocaol.

20Effaith gofyniad am gydsyniad seilwaith

(1)I’r graddau y bo cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar gyfer datblygiad, nid yw’r un o’r canlynol yn ofynnol ar gyfer y datblygiad—

(a)caniatâd cynllunio;

(b)cydsyniad o dan adran 36 neu 37 o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29) (adeiladu etc. orsafoedd cynhyrchu a gosod llinellau uwchben);

(c)awdurdodiad o dan y Rhannau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3)

(i)Rhan 2 (gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig: awdurdodi dosbarthau ac awdurdodi drwy gydsyniad heneb gofrestredig);

(ii)Rhan 3 (gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig: awdurdodi drwy gydsyniad adeilad rhestredig);

(iii)Rhan 4 (dymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth: awdurdodi drwy gydsyniad ardal gadwraeth).

(2)I’r graddau y bo cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar gyfer datblygiad, ni chaniateir awdurdodi’r datblygiad gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)gorchymyn o dan adran 14 neu 16 o Ddeddf Harbyrau 1964 (p. 40) (gorchmynion mewn perthynas â harbyrau, dociau a cheiau);

(b)gorchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42) (gorchmynion o ran rheilffyrdd, tramffyrdd, dyfrffyrdd mewndirol etc.).

(3)Os yw cydsyniad seilwaith yn ofynnol i adeiladu, gwella neu addasu priffordd, ni chaniateir i unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud neu eu gwneud na’i gadarnhau neu eu cadarnhau mewn perthynas â’r briffordd neu mewn cysylltiad ag adeiladu, gwella neu addasu’r briffordd—

(a)gorchymyn o dan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66) (darpariaethau cyffredinol o ran cefnffyrdd) sy’n cyfarwyddo y dylai’r briffordd ddod yn gefnffordd;

(b)gorchymyn o dan adran 14 o’r Ddeddf honno (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â chefnffyrdd a ffyrdd dosbarthiadol);

(c)cynllun o dan adran 16 o’r Ddeddf honno (cynlluniau sy’n awdurdodi darparu ffyrdd arbennig);

(d)gorchymyn o dan adran 18 o’r Ddeddf honno (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â ffyrdd arbennig);

(e)gorchymyn neu gynllun o dan adran 106 o’r Ddeddf honno (gorchmynion a chynlluniau sy’n darparu ar gyfer adeiladu pontydd dros ddyfroedd mordwyol neu dwnelau odanynt);

(f)gorchymyn o dan adran 10‍8 o’r Ddeddf honno (gorchmynion sy’n awdurdodi dargyfeirio cyrsiau dŵr mordwyol);

(g)gorchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22) (gorchmynion tollau).

(4)Os yw cydsyniad seilwaith yn ofynnol i adeiladu, gwella neu addasu priffordd, nid yw adran 110 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66) (pŵer i awdurdodi dargyfeirio dyfroedd anfordwyol) yn gymwys mewn perthynas â’r briffordd nac mewn cysylltiad ag adeiladu, gwella neu addasu’r briffordd.

Pwerau i newid y gofyniad neu ei effaith

21Pŵer i ychwanegu neu ddileu mathau o gydsyniad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)diwygio adran 20(1) neu (2)—

(i)er mwyn ychwanegu neu ddileu math o gydsyniad, neu

(ii)er mwyn amrywio’r achosion y mae math o gydsyniad o fewn yr is-adrannau hynny mewn perthynas â hwy;

(b)gwneud darpariaeth bellach ynghylch—

(i)y mathau o gydsyniad sydd o fewn, ac nad ydynt o fewn, adran 20(1) neu (2), neu

(ii)yr achosion y mae math o gydsyniad, neu nad yw math o gydsyniad, o fewn y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny mewn perthynas â hwy.

(2)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu deddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon).

(3)Yn yr adran hon, ystyr “cydsyniad” yw—

(a)cydsyniad, awdurdodiad neu ganiatâd y mae’n ofynnol, o dan ddeddfiad, ei gael ar gyfer datblygiad,

(b)cydsyniad, awdurdodiad neu ganiatâd—

(i)a gaiff awdurdodi datblygiad, a

(ii)a roddir o dan ddeddfiad, neu

(c)hysbysiad y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei roi mewn perthynas â datblygiad.

22Cyfarwyddydau sy’n pennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol.

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)os bydd y datblygiad (ar ôl ei gwblhau) yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru neu yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal forol Cymru,

(b)os yw’r datblygiad yn brosiect (neu’n brosiect arfaethedig) neu’n ffurfio rhan o brosiect (neu brosiect arfaethedig) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o arwyddocâd cenedlaethol i Gymru, naill ai ar ei ben ei hun neu pan y’i hystyrir ar y cyd ag un neu ragor o brosiectau eraill, ac

(c)os yw’r datblygiad yn brosiect (neu’n brosiect arfaethedig) neu’n ffurfio rhan o brosiect (neu brosiect arfaethedig) o fath a bennir mewn rheoliadau.

(3)Mae cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn gymwys i ddatblygiad sy’n rhannol yng Nghymru neu yn rhannol yn ardal forol Cymru dim ond i’r graddau y bo’r datblygiad yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod o fewn is-adran (5) ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddiben eu galluogi i benderfynu—

(a)pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ai peidio, a

(b)ym mha dermau y dylid rhoi cyfarwyddyd o’r fath.

(5)Mae awdurdod o fewn yr is-adran hon os yw cais am gydsyniad adran 20 mewn perthynas â’r datblygiad wedi ei wneud iddo, neu y gallai gael ei wneud iddo.

23Cyfarwyddydau bod ceisiadau i’w trin fel ceisiadau am gydsyniad seilwaith

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 22 mewn perthynas â datblygiad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)os oes cais am gydsyniad adran 20 wedi ei wneud mewn perthynas â’r datblygiad, gyfarwyddo’r cais i gael ei drin fel cais am gydsyniad seilwaith;

(b)os yw person yn cynnig gwneud cais am gydsyniad o’r fath mewn perthynas â’r datblygiad, gyfarwyddo’r cais arfaethedig i gael ei drin fel cais arfaethedig am gydsyniad seilwaith.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon ddarparu bod darpariaethau penodedig mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon)—

(a)i gael effaith mewn perthynas â’r cais, neu’r cais arfaethedig, gydag unrhyw addasiadau penodedig, neu

(b)i’w trin fel pe cydymffurfiwyd â hwy mewn perthynas â’r cais neu’r cais arfaethedig.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod perthnasol atgyfeirio’r cais, neu’r cais arfaethedig, at Weinidogion Cymru yn lle ymdrin ag ef ei hun.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried pa un a ydynt am roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon ai peidio, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod perthnasol i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais, neu’r cais arfaethedig, hyd nes y bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu pa un a ydynt am roi’r cyfarwyddyd ai peidio.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod perthnasol” yw—

(a)mewn perthynas â chais am gydsyniad adran 20 sydd wedi ei wneud, yr awdurdod y gwnaed y cais iddo, a

(b)mewn perthynas â chais o’r fath y mae person yn cynnig ei wneud, yr awdurdod y mae’r person yn cynnig gwneud y cais iddo.

24Cyfarwyddydau sy’n pennu nad yw datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu nad yw datblygiad a fyddai’n brosiect seilwaith arwyddocaol fel arall yn brosiect seilwaith arwyddocaol.

(2)Nid yw datblygiad a bennir o dan yr adran hon i’w drin fel prosiect seilwaith arwyddocaol at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) os bydd y datblygiad (ar ôl ei gwblhau) yn rhannol yng Nghymru neu’n rhannol yn ardal forol Cymru.

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi’r cyfarwyddyd, a

(b)gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru yn egluro ei effaith a pham y’i gwnaed.

25Cyfarwyddydau o dan adrannau 22 i 24: darpariaeth gyffredinol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gyfarwyddydau o dan adrannau 22, 23 a 24.

(2)Caniateir rhoi cyfarwyddyd yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Caiff cyfarwyddyd bennu o fewn pa gyfnod y mae’n cael effaith.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd yn dilyn archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr neu pan na cheir archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr.

(5)Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried archiad am gyfarwyddyd oni bai ei fod yn archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr.

(6)Os yw Gweinidogion Cymru yn cael archiad cymhwysol, rhaid iddynt roi rhesymau dros eu penderfyniad i roi neu i beidio â rhoi’r cyfarwyddyd y gwnaed archiad amdano i’r person a wnaeth yr archiad.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “archiad cymhwysol” (“qualifying request”) yw archiad ysgrifenedig am gyfarwyddyd o dan yr adran hon sy’n pennu’r datblygiad y mae’n ymwneud ag ef;

  • ystyr “datblygwr” (“developer”) yw—

    (a)

    person sy’n bwriadu cynnal unrhyw ran neu’r cyfan o’r datblygiad y mae’r archiad yn ymwneud ag ef;

    (b)

    person sydd wedi gwneud cais, neu sy’n bwriadu gwneud cais, am gydsyniad adran 20 mewn perthynas ag unrhyw ran neu’r cyfan o’r datblygiad;

    (c)

    person sydd, os rhoddir cyfarwyddyd o dan adran 22(1) mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw, yn bwriadu gwneud cais am gydsyniad seilwaith ar gyfer unrhyw ran neu’r cyfan o’r datblygiad hwnnw.

26Cyfarwyddydau o dan adran 22: rheoliadau ynghylch y weithdrefn

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion gweithdrefnol a ganlyn mewn cysylltiad â chyfarwyddydau o dan adran 22, 23 neu 24—

(a)terfynau amser ar gyfer gwneud penderfyniadau yn dilyn ceisiadau am gyfarwyddydau;

(b)ffurf archiadau am gyfarwyddydau;

(c)yr wybodaeth sydd i’w darparu mewn cysylltiad ag archiadau am gyfarwyddydau;

(d)y personau neu’r personau o ddisgrifiad sydd i’w hysbysu mewn cysylltiad ag archiadau am gyfarwyddydau.

RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYDSYNIAD SEILWAITH

Cymorth i geisyddion

27Darparu gwasanaethau cyn gwneud cais

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer darparu gwasanaethau cyn gwneud cais gan awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru, ac mewn cysylltiad â hynny, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)yr amgylchiadau pan fo’n ofynnol darparu gwasanaethau cyn gwneud cais (gan gynnwys darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys archiadau am wasanaethau cyn gwneud cais, a’r wybodaeth sydd i fynd gydag archiad);

(b)natur y gwasanaethau y bydd yn ofynnol eu darparu, a phryd a sut y maent i’w darparu;

(c)cyhoeddi datganiad sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch yr ystod o wasanaethau cyn gwneud cais a ddarperir gan awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru;

(d)camau eraill y mae’n ofynnol i unrhyw berson eu cymryd mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau, neu at ddibenion darparu gwasanaethau, o dan y rheoliadau.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at wasanaethau cyn gwneud cais yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir i berson at ddiben cynorthwyo’r person i wneud cais am orchymyn cydsyniad seilwaith.

28Cael gwybodaeth ynghylch buddiannau mewn tir

(1)Pan fo person yn gwneud cais, neu’n cynnig gwneud cais, am orchymyn cydsyniad seilwaith mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys at ddiben galluogi’r person (“y ceisydd”) i gydymffurfio â darpariaethau adran 29, adran 30 neu adrannau 64 i 72, neu ddarpariaethau a wneir odanynt.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi’r ceisydd i gyflwyno hysbysiad i berson a bennir yn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person (“y derbynnydd”) roi i’r ceisydd yn ysgrifenedig enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae’r derbynnydd yn credu ei fod yn un neu ragor o’r canlynol—

(a)perchennog, lesddeiliad, tenant (beth bynnag y bo cyfnod y denantiaeth) neu feddiannwr y tir;

(b)person a chanddo fuddiant yn y tir;

(c)person sydd â phŵer—

(i)i werthu a thrawsgludo’r tir, neu

(ii)i ryddhau’r tir.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi’r ceisydd i gyflwyno hysbysiad i berson a bennir yn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person (“y derbynnydd”) roi i’r ceisydd yn ysgrifenedig enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae’r derbynnydd yn credu ei fod yn berson, pe bai’r gorchymyn a geisir gan y cais neu’r cais arfaethedig yn cael ei wneud a’i weithredu’n llawn, a fyddai â hawlogaeth neu a allai fod â hawolgaeth i wneud hawliad perthnasol—

(a)o ganlyniad i weithredu’r gorchymyn,

(b)o ganlyniad i’r ffaith bod y gorchymyn wedi ei weithredu, neu

(c)o ganlyniad i’r defnydd o’r tir ar ôl i’r gorchymyn gael ei weithredu.

(4)Y personau yw—

(a)person sy’n meddiannu’r tir;

(b)person a chanddo fuddiant yn y tir fel rhydd-ddeiliad, morgeisai neu lesddeiliad;

(c)person sy’n cael rhent yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol am y tir;

(d)person sydd, yn unol â chytundeb rhwng y person hwnnw a pherson a chanddo fuddiant yn y tir, wedi ei awdurdodi i reoli’r tir neu i drefnu i’w osod.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3), gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys hysbysiad;

(b)sut y mae hysbysiad i’w roi;

(c)yr amserlen ar gyfer ymateb i hysbysiad.

(6)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) a gyflwynir i’r person.

(7)Mae person yn cyflawni trosedd os yw, mewn ymateb i hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) a gyflwynir i’r person—

(a)yn rhoi gwybodaeth sy’n anwir o ran manylyn perthnasol, a

(b)pan fo’r person yn gwneud hynny, yn gwybod neu y dylai yn rhesymol fod yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(9)Yn is-adrannau (2) i (4) ystyr “y tir” yw—

(a)y tir y mae’r cais, neu’r cais arfaethedig, yn ymwneud ag ef, neu

(b)unrhyw ran o’r tir hwnnw.

(10)Mae i unrhyw ymadrodd arall sy’n ymddangos yn y naill neu’r llall o baragraffau (b) ac (c) o is-adran (2) a hefyd yn adran 5(1) o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56), yn y paragraffau hynny, yr ystyr a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 5(1) o’r Ddeddf honno.

(11)Yn is-adran (4) fel y mae’n gymwys at ddibenion is-adran (3) mae “y tir” hefyd yn cynnwys unrhyw dir perthnasol yr effeithir arno (gweler is-adran (12)).

(12)Pan fo’r ceisydd yn credu, pe bai’r gorchymyn a geisir gan y cais neu’r cais arfaethedig yn cael ei wneud a’i weithredu’n llawn, y byddai personau â hawlogaeth neu a allai fod â hawlogaeth—

(a)o ganlyniad i weithredu’r gorchymyn,

(b)o ganlyniad i’r ffaith bod y gorchymyn wedi ei weithredu, neu

(c)o ganlyniad i’r defnydd o’r tir ar ôl i’r gorchymyn gael ei weithredu,

i wneud hawliad perthnasol mewn cysylltiad ag unrhyw dir neu mewn cysylltiad â buddiant mewn unrhyw dir, mae’r tir hwnnw yn “tir perthnasol yr effeithir arno” at ddibenion is-adran (11).

(13)Yn yr adran hon, ystyr “hawliad perthnasol” yw—

(a)hawliad o dan adran 10 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (digollediad pan na wneir iawn am brynu tir yn orfodol neu pan na wneir iawn am effaith niweidiol sy’n deillio o brynu gorfodol);

(b)hawliad o dan Ran 1 o Ddeddf Digollediad Tir 1973 (p. 26) (digollediad am ddibrisiant yng ngwerth tir gan ffactorau ffisegol a achosir gan ddefnydd o waith cyhoeddus);

(c)hawliad o dan adran 101(3).

Y weithdrefn cyn gwneud cais

29Hysbysu am gais arfaethedig

(1)Rhaid i berson sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith hysbysu’r canlynol am y cais arfaethedig—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)os yw’r datblygiad arfaethedig yng Nghymru, pob awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;

(c)os yw’r datblygiad arfaethedig wedi ei leoli mewn ardal y ceir cyngor cymuned ar ei chyfer, y cyngor cymuned;

(d)pob Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;

(e)pob Aelod o Dŷ’r Cyffredin sy’n cynrychioli ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;

(f)os yw’r datblygiad arfaethedig yn ardal forol Cymru,‍ Cyfoeth Naturiol Cymru a phob awdurdod cynllunio a phob cyngor cymuned y mae’r person yn ystyried ei fod yn briodol;

(g)pob Aelod o’r Senedd a phob Aelod o Dŷ’r Cyffredin y mae’r person yn ystyried ei fod yn briodol;

(h)unrhyw berson arall neu berson arall o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(2)Rhaid i’r hysbysiad gydymffurfio â gofynion a bennir mewn rheoliadau.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) (ymhlith gofynion eraill) gynnwys gofynion yn ymwneud ag—

(a)ffurf a chynnwys hysbysiad;

(b)gwybodaeth, dogfennau neu ddeunydd arall sydd i fynd gyda hysbysiad;

(c)sut a phryd y mae hysbysiad i’w roi.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad sy’n cydymffurfio â’r gofynion a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid iddynt roi hysbysiad i’r person fod yr hysbysiad wedi ei dderbyn.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch rhoi hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (4), gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys yr hysbysiad;

(b)sut y mae i’w roi;

(c)o fewn pa gyfnod y mae i’w roi (gan gynnwys darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw mewn achos penodol).

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw’r cais arfaethedig yn ymwneud â chydsyniad seilwaith sy’n ofynnol yn rhinwedd cyfarwyddyd a wneir o dan adran 22(1) yn dilyn archiad cymhwysol oddi wrth ddatblygwr.

30Ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn gwneud cais

(1)Rhaid i berson sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith (“y ceisydd”) gynnal ymgynghoriad ar y cais arfaethedig.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer yr ymgynghoriad, neu mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad, sy’n ofynnol o dan yr adran hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth—

(a)ynghylch y personau neu’r personau o ddisgrifiad y mae’n ofynnol ymgynghori â hwy;

(b)ynghylch sut y mae’r ymgynghoriad i’w gynnal (gan gynnwys ffurf a chynnwys dogfennau, gwybodaeth a deunyddiau eraill sydd i’w darparu i berson at ddibenion yr ymgynghoriad neu mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad);

(c)ynghylch y materion i yngynghori arnynt, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) fanteision y datblygiad arfaethedig i bobl sy’n byw yn ardal y datblygiad arfaethedig;

(d)ynghylch ymateb i’r ymgynghoriad (gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson neu ddisgrifiad o berson yr ymgynghorir ag ef ymateb i’r ymgynghoriad neu ymateb i’r ymgynghoriad mewn modd penodol, neu ymateb o fewn adeg benodol);

(e)ynghylch yr amserlen mewn cysylltiad â chynnal yr ymgynghoriad;

(f)yn ei gwneud yn ofynnol i berson yr ymgynghorir ag ef yn rhinwedd paragraff (a) lunio a chyhoeddi adroddiad ynghylch cydymffurfedd y person ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd paragraff (d) neu (e) (gan gynnwys ffurf a chynnwys yr adroddiad ac ar ba adeg y mae i’w wneud).

(3)Rhaid i’r ceisydd roi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig yn y modd a bennir mewn rheoliadau.

(4)Os yw adran 29 yn gymwys i gais arfaethedig, nid yw cam a gymerir mewn cysylltiad â’r cais arfaethedig cyn y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan adran 29(4) i’w drin fel ymgynghoriad neu gyhoeddusrwydd o dan yr adran hon.

31Newid yn y person sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith

(1)Nid yw’r dyletswyddau yn adran 29(1) a 30(1) yn gymwys i berson sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith (“person A”)—

(a)os oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 29(1) gan berson arall (“person B”) mewn cysylltiad â’r un datblygiad arfaethedig neu’r un datblygiad arfaethedig i raddau helaeth, a

(b)os yw amod 1 neu amod 2 yn gymwys.

(2)Amod 1 yw bod yr hysbysiad a roddir gan berson B yn pennu y bydd y cais am gydsyniad seilwaith mewn cysylltiad â’r datblygiad arfaethedig yn cael ei wneud gan berson A.

(3)Amod 2 yw bod trefniadau i berson A i wneud y cais am gydsyniad seilwaith yn cael eu gwneud yn ystod neu o ganlyniad i ymgynghoriad ar y cais arfaethedig o dan adran 30 a gynhelir gan berson B.

Y weithdrefn gwneud cais

32Gwneud cais am gydsyniad seilwaith

(1)Ni chaniateir rhoi cydsyniad seilwaith oni wneir cais amdano.

(2)Rhaid i gais am gydsyniad seilwaith gael ei wneud i Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i gais am gydsyniad seilwaith—

(a)pennu’r datblygiad y mae’n ymwneud ag ef;

(b)cynnwys gorchymyn cydsyniad seilwaith drafft;

(c)cynnwys adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ceisiadau am gydsyniad seilwaith, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys cais (gan gynnwys y gorchymyn cydsyniad seilwaith drafft sy’n ofynnol);

(b)sut y gwneir cais;

(c)gwybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys mewn cais;

(d)prosesu cais;

(e)amrywio cais neu ei dynnu yn ôl;

(f)hysbysiadau yn ymwneud â cheisiadau;

(g)y cyfnod y mae rhaid gwneud cais o’i fewn ac estyn y cyfnod hwnnw.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (4) roi swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaeth sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn, i unrhyw berson.

(6)Yn is-adran (3)(c), ystyr “adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais” yw adroddiad sy’n rhoi manylion ynghylch—

(a)sut y cydymffurfiodd y ceisydd ag adran 30;

(b)yr ymatebion a gafwyd oddi wrth bersonau yn rhinwedd adran 30 a’r ystyriaeth a roddwyd i’r ymatebion.

33Penderfynu ar ddilysrwydd cais a hysbysu’r ceisydd

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais am gydsyniad seilwaith rhaid iddynt benderfynu a ydynt yn derbyn y cais fel cais dilys ai peidio.

(2)Mae cais yn gais dilys—

(a)os yw’n dod i law Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir mewn rheoliadau o dan adran 32(4)(g);

(b)os yw’n cydymffurfio â’r gofynion a osodir gan adran 32 neu odani.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn derbyn y cais rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r penderfyniad i’r ceisydd.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu na ellir derbyn y cais rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd gan roi rhesymau dros y penderfyniad.

(5)At ddibenion y Ddeddf hon mae cais yn cael ei dderbyn fel cais dilys ar y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad am y penderfyniad i’r ceisydd o dan is-adran (1).

34Hysbysiad am geisiadau a dderbynnir a chyhoeddusrwydd

(1)Mae’r adran hon‍ yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn cais am gydsyniad seilwaith fel cais dilys.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad am y cais—

(a)yn achos cais am ddatblygiad yng Nghymru—

(i)i bob awdurdod cynllunio ar gyfer ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;‍

(ii)os yw’r datblygiad arfaethedig wedi ei leoli mewn ardal y ceir cyngor cymuned ar ei chyfer, i’r cyngor cymuned;

(iii)i bob Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;

(iv)i bob Aelod o Dŷ’r Cyffredin sy’n cynrychioli ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;

(b)yn achos cais am ddatblygiad yn ardal forol Cymru—

(i)i Gyfoeth Naturiol Cymru;

(ii)i bob awdurdod cynllunio a phob cyngor cymuned y maent yn ystyried ei fod yn briodol;

(iii)i bob Aelod o’r Senedd a phob Aelod o Dŷ’r Cyffredin y maent yn ystyried ei fod yn briodol;

(c)i unrhyw‍ berson neu berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyhoeddusrwydd i’r cais yn y modd a bennir mewn rheoliadau.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)pennu mewn unrhyw hysbysiad neu gyhoeddusrwydd o dan yr adran hon, a

(b)mewn unrhyw gyfarwyddyd o dan is-adran (10), ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd bennu mewn unrhyw hysbysiad neu gyhoeddusrwydd sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd,

ddyddiad cau erbyn pryd y mae rhaid i Weinidogion Cymru gael sylwadau ar y cais.

(5)Rhaid i’r dyddiad cau fod ar ôl diwedd y cyfnod byrraf ar gyfer sylwadau a bennir mewn rheoliadau.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw sylwadau y maent yn eu cael erbyn y dyddiad cau a bennir yn y cyhoeddusrwydd ar gael i’r awdurdod archwilio.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)estyn y dyddiad cau cyn iddo ddod i ben;

(b)estyn y dyddiad cau fwy nag unwaith.

(8)Pan fo Gweinidogion Cymru yn estyn y dyddiad cau‍ mewn cysylltiad â’r cais, rhaid iddynt—

(a)rhoi hysbysiad pellach o dan is-adran (2) i’r un personau,

(b)ymgymryd â chyhoeddusrwydd pellach o dan is-adran (3), ac

(c)os rhoddwyd cyfarwyddyd o dan is-adran (10), roi cyfarwyddyd pellach o dan is-adran (10) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd—

(i)rhoi hysbysiad pellach i’r un personau, a

(ii)ymgymryd â chyhoeddusrwydd pellach yn yr un ffordd.

(9)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)pennu mewn unrhyw hysbysiad pellach neu gyhoeddusrwydd pellach, a

(b)mewn unrhyw gyfarwyddyd pellach, ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd bennu, mewn unrhyw hysbysiad pellach neu gyhoeddusrwydd pellach, y rhesymau dros estyn y dyddiad cau.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r ceisydd i—

(a)hysbysu person neu‍ berson o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd am y cais;

(b)rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais yn y modd a bennir yn y cyfarwyddyd.

(11)Nid yw’r dyletswyddau yn is-adrannau (2) a (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i geisydd ei wneud gan gyfarwyddyd o dan is-adran (10).

35Rheoliadau ynghylch hysbysiadau a chyhoeddusrwydd

(1)Caiff rheoliadau—

(a)mewn perthynas â hysbysiad a roddir o dan adran 33 neu 34, neu sylwadau ar gais a roddir o dan adran 34, wneud darpariaeth ynghylch—

(i)ffurf a chynnwys yr hysbysiad neu’r sylwadau;

(ii)sut y rhoddir yr hysbysiad neu’r sylwadau;

(iii)yr amserlenni ar gyfer rhoi’r hysbysiad a’r sylwadau;

(b)gosod gofynion ar‍ berson neu berson o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau i ymateb i hysbysiad o dan adran 34(2);

(c)gwneud darpariaeth ynghylch sut y gall person ymateb i gyhoeddusrwydd o dan adran 34 a’r amserlenni ar gyfer ymateb;

(d)gwneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi sylwadau a geir mewn ymateb i hysbysiad a chyhoeddusrwydd o dan adran 34.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) roi swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaeth sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn, i unrhyw berson.

36Adroddiadau ar yr effaith leol

(1)Rhaid i awdurdod cynllunio ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2)(a), a chaiff ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2)(b), drwy gyflwyno adroddiad ar yr effaith leol mewn cysylltiad â’r cais i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Caiff cyngor cymuned ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2)(a) neu (b) drwy gyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Caiff awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned gyflwyno adroddiad ar yr effaith leol ac eithrio mewn ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2) cyn y dyddiad cau a bennir mewn cyhoeddusrwydd o dan adran 34(3).

(4)Yn y Ddeddf hon, mae adroddiad ar yr effaith leol mewn cysylltiad â chais yn adroddiad ysgrifenedig—

(a)sy’n rhoi manylion ynghylch effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar ardal (neu ran o ardal) yr awdurdod cynllunio lleol neu’r cyngor cymuned sy’n cyflwyno’r adroddiad, a

(b)sy’n cydymffurfio â gofynion a bennir mewn rheoliadau ynghylch ffurf a chynnwys adroddiad ar yr effaith leol.

37Adroddiadau effaith ar y môr

(1)Os yw’r gorchymyn drafft a gyflwynir gyda chais am gydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trwydded forol dybiedig rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2)(b) drwy gyflwyno adroddiad effaith ar y môr mewn cysylltiad â’r cais i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno adroddiad effaith ar y môr mewn cysylltiad â chais am gydsyniad seilwaith a rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno’r adroddiad erbyn y dyddiad cau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caiff Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno adroddiad effaith ar y môr mewn cysylltiad â chais am gydsyniad seilwaith ac eithrio mewn ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2)(b) neu gyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (2) cyn y dyddiad cau a bennir mewn cyhoeddusrwydd o dan adran 34(3).

(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr adroddiad effaith ar y môr mewn cysylltiad â chais yw adroddiad ysgrifenedig—

(a)sy’n rhoi manylion am effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd morol, a

(b)sy’n cydymffurfio â gofynion a bennir mewn rheoliadau ynghylch ffurf a chynnwys adroddiad effaith ar y môr.

(5)Yn yr adran hon, mae “yr amgylchedd morol” yn cynnwys—

(a)harddwch naturiol neu amwynder ardaloedd morol neu arfordirol (gan gynnwys eu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol);‍

(b)fflora a ffawna sy’n ddibynnol ar amgylchedd morol neu arfordirol, neu sy’n gysylltiedig ag amgylchedd o’r fath.

38Hysbysiad am bersonau a chanddynt fuddiant mewn tir y mae archiad caffael gorfodol yn ymwneud ag ef

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi derbyn cais am gydsyniad seilwaith fel cais dilys, a

(b)y cais yn cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir (“archiad caffael gorfodol”).

(2)Rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad i Weinidogion Cymru sy’n pennu enwau pob person yr effeithir arno, ac unrhyw wybodaeth arall a bennir mewn rheoliadau amdano.

(3)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) gael ei roi ar y ffurf ac yn y modd a bennir mewn rheoliadau.

(4)Mae person yn “person yr effeithir arno” at ddibenion yr adran hon os yw’r ceisydd, ar ôl ymholi’n ddyfal, yn gwybod bod gan y person fuddiant yn y tir y mae’r archiad caffael gorfodol yn ymwneud ag ef neu unrhyw ran o’r tir hwnnw.

39Ymgynghoriad ar ôl cais mewn perthynas â chaffael gorfodol

(1)Caiff rheoliadau‍ wneud darpariaeth i geisydd am gydsyniad seilwaith ymgynghori ar gais am gydsyniad seilwaith sy’n cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, ac mewn cysylltiad â hynny.‍

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran‍ (1) gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth‍ —

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â phersonau penodedig;

(b)ynghylch yr amgylchiadau pan fo ymgynghoriad yn ofynnol;

(c)ynghylch sut y cynhelir yr ymgynghoriad (gan gynnwys ffurf a chynnwys dogfennau, gwybodaeth a deunyddiau eraill sydd i’w darparu i berson at ddibenion yr ymgynghoriad neu mewn cysylltiad ag ef);

(d)ynghylch yr amserlen mewn cysylltiad â chynnal yr ymgynghoriad.

RHAN 4ARCHWILIO CEISIADAU

Penodi awdurdod archwilio

40Penodi awdurdod archwilio

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person neu banel o bersonau i archwilio pob cais dilys am gydsyniad seilwaith.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi person neu banel o bersonau i archwilio cais i ddirymu neu newid gorchymyn cydsyniad seilwaith.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi dogfen sy’n nodi’r meini prawf sydd i’w cymhwyso wrth benderfynu pa un a ddylid penodi person neu banel o bersonau o dan is-adran (2) ai peidio.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol ar unrhyw adeg mewn perthynas â chais—

(a)dirymu penodiad person neu berson ar banel o dan yr adran hon, neu

(b)penodi person neu benodi person i banel o dan yr adran hon.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ar gyfer penodi awdurdod archwilio o dan is-adran (1) neu (2) neu mewn cysylltiad â hynny.

(6)Caiff y rheoliadau gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)penodi aelodau i banel (gan gynnwys darpariaeth ynghylch newid aelodaeth panel a chanlyniadau unrhyw newidiadau o’r fath);

(b)dyrannu swyddogaethau i bersonau ar banel a gwneud penderfyniadau gan banel;

(c)rhoi person neu banel newydd yn lle panel neu roi panel neu berson newydd yn lle person (a chanlyniadau newidiadau o’r fath);

(d)amodau penodiad.

(7)Yn y Ddeddf hon, ystyr “awdurdod archwilio” yw person neu banel o bersonau a benodir o dan yr adran hon.

Archwilio ceisiadau

41Awdurdod archwilio i archwilio ceisiadau

Mae gan awdurdod archwilio y swyddogaeth o archwilio cais y’i penodir mewn cysylltiad ag ef.

42Dewis o ymchwiliad, gwrandawiad neu weithdrefn ysgrifenedig

(1)Rhaid i’r awdurdod archwilio ddyfarnu’r weithdrefn ar gyfer archwilio pob cais y’i penodir mewn cysylltiad ag ef.

(2)Rhaid i ddyfarniad ddarparu y bydd y cais yn cael ei archwilio drwy un neu ragor o’r dulliau a ganlyn—

(a)mewn ymchwiliad lleol;

(b)mewn gwrandawiad;

(c)ar sail y cais ac unrhyw sylwadau ysgrifenedig (os oes rhai) ynghylch y cais.

(3)A rhaid i ddyfarniad ddarparu y bydd archwiliad o’r cais yn cynnwys gwrandawiad, oni bai bod—

(a)y dyfarniad yn darparu y bydd ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal, neu

(b)yr awdurdod archwilio yn ystyried na fyddai gwrandawiad yn cynorthwyo’r archwiliad.

(4)Rhaid i’r awdurdod archwilio wneud dyfarniad cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau.

(5)Caniateir i ddyfarniad gael ei amrywio gan ddyfarniad pellach ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar y cais sy’n cael ei archwilio o dan adran 60.

(6)Rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu‍ unrhyw berson neu berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau am ddyfarniad o dan yr adran hon.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf sydd i’w cymhwyso gan yr awdurdod archwilio wrth wneud dyfarniadau o dan yr adran hon.

(8)Mae swyddogaethau awdurdod archwilio o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 43 neu 44.

43Gwrandawiadau llawr agored

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod archwilio beri bod gwrandawiad llawr agored yn cael ei gynnal o dan yr amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ofyniad i beri bod gwrandawiad llawr agored yn cael ei gynnal yn ddarostyngedig i amodau (gan gynnwys arfer disgresiwn gan yr awdurdod archwilio).

(3)Yn yr adran hon, “gwrandawiad llawr agored” yw gwrandawiad lle y mae gan bob parti a chanddo fuddiant hawlogaeth (yn ddarostyngedig i bwerau’r awdurdod archwilio i reoli’r dull o gynnal y gwrandawiad) i wneud sylwadau llafar ynghylch y cais.

44Y weithdrefn archwilio

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag archwilio cais o dan y Rhan hon (pa un a yw’n cael ei archwilio mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail y cais ac unrhyw sylwadau ysgrifenedig (os oes rhai) ynghylch y cais).

(2)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â phenderfyniad o dan adran 42;

(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â gofyniad o dan adran 43;

(c)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â materion paratoadol neu faterion yn dilyn ymchwiliad neu wrandawiad neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig;

(d)cynnal yr archwiliad.

(3)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn—

(a)pan fo camau wedi eu cymryd gyda’r bwriad o gynnal ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd,

(b)pan fo camau wedi eu cymryd gyda’r bwriad mai awdurdod archwilio a fyddai’n penderfynu ar unrhyw fater a bod yr achos yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd bod rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y mater yn lle hynny,

(c)pan fo camau wedi eu cymryd gyda’r bwriad mai Gweinidogion Cymru a fyddai’n penderfynu ar unrhyw fater a bod yr achos yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd bod rhaid i’r awdurdod archwilio benderfynu ar y mater yn lle hynny, neu

(d)pan fo camau wedi eu cymryd yn unol â chyfarwyddyd a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c) a bod cyfarwyddyd pellach yn cael ei wneud sy’n dirymu’r cyfarwyddyd hwnnw,

a chânt ddarparu bod y camau hynny i’w trin fel cydymffurfedd, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â gofynion y rheoliadau.

(4)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu terfyn amser y mae rhaid i unrhyw barti i achos gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ac unrhyw ddogfennau ategol o’i fewn;

(b)galluogi’r awdurdod archwilio i estyn y terfyn amser mewn achos penodol;

(c)galluogi’r awdurdod archwilio i lunio adroddiad o dan adran 52 gan ystyried y sylwadau ysgrifenedig a’r dogfennau ategol a gyflwynwyd o fewn y terfyn amser yn unig;

(d)galluogi’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) i fwrw ymlaen i wneud penderfyniad gan ystyried y sylwadau ysgrifenedig a’r dogfennau ategol a gyflwynwyd o fewn y terfyn amser yn unig;

(e)galluogi’r awdurdod archwilio, ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r partïon o’i fwriad i wneud hynny, i lunio adroddiad o dan adran 52 er na chyflwynwyd unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfyn amser, os yw’n ymddangos iddo fod ganddo ddeunyddiau digonol ger ei fron i wneud argymhelliad ar rinweddau’r cais;

(f)galluogi’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r partïon o’i fwriad neu o’u bwriad i wneud hynny, i fwrw ymlaen i wneud penderfyniad er na chyflwynwyd unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfyn amser, os yr ymddengys iddo neu iddynt fod ganddo neu fod ganddynt ddeunydd digonol ger ei fron neu ger eu bron i benderfynu ar rinweddau’r cais;

(g)gwneud darpariaeth ynghylch lleoliad achos mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol;

(h)gwneud darpariaeth ynghylch y dull o gynnal achos mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng cyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i fod yn bresennol yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol a chymryd rhan ynddo;

(i)gwneud darpariaeth ynghylch darlledu neu recordio’r achos mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.‍

45Pŵer i fynd ar dir mewn cysylltiad ag archwiliad

(1)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru fynd ar dir yng Nghymru ar adeg resymol at ddiben edrych ar y tir mewn cysylltiad ag archwilio ceisiadau o dan y Rhan hon.

(2)Mewn perthynas â pherson sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan is-adran (1)—

(a)rhaid iddo, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person, a datgan diben mynd ar y tir, cyn mynd arno,

(b)ni chaiff fynnu cael mynediad fel hawl i unrhyw dir sydd wedi ei feddiannu oni roddwyd 14 o ddiwrnodau o rybudd o’r mynediad bwriadedig i’r meddiannydd,

(c)caiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir,

(d)rhaid iddo, os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno, ac

(e)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw amodau eraill y rhoddir awdurdodiad Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig iddynt.

(3)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn rhwystro’n fwriadol berson sy’n gweithredu wrth arfer pŵer o dan is-adran (1).

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

46Pŵer i fynd ar dir y Goron mewn cysylltiad ag archwiliad

(1)Mae adran 45 yn gymwys i dir y Goron yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3).

(2)Ni chaiff person fynd ar dir y Goron oni fo’r person (“P”) wedi cael caniatâd—

(a)person yr ymddengys i P fod ganddo hawl i’w roi, neu

(b)awdurdod priodol y Goron.

(3)Nid yw is-adrannau (2)(b), (3) a (4) o adran 45 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir yn rhinwedd yr adran hon.

47Pŵer awdurdod archwilio i gynnal ymchwiliad lleol

(1)Caiff awdurdod archwilio gynnal ymchwiliad lleol at ddibenion archwilio cais.

(2)Caiff awdurdod archwilio sy’n cynnal ymchwiliad lleol ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs i unrhyw berson—

(a)bod yn bresennol yn yr ymchwiliad yn unol â’r gofynion a bennir yn y wŷs o dan is-adran (4) a rhoi tystiolaeth;

(b)dangos unrhyw ddogfennau sydd ym meddiant y person neu o dan reolaeth y person sy’n ymwneud ag unrhyw fater o dan sylw yn yr ymchwiliad.

(3)Caiff yr awdurdod archwilio sy’n cynnal yr ymchwiliad gymryd tystiolaeth ar lw, ac at y diben hwnnw caiff weinyddu llwon.

(4)Rhaid i wŷs bennu—

(a)ar ba adeg y mae’n ofynnol bod yn bresennol, a

(b)ym mha le y mae’n ofynnol bod yn bresennol neu, os gellir bod yn bresennol drwy ddull arall, gyfarwyddiadau ynghylch sut i fod yn bresennol drwy’r dull hwnnw.

(5)Nid yw gwŷs o dan yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn yr ymchwiliad (pa un a yw’n ofynnol bod yn bresennol mewn lle neu y gellir bod yn bresennol drwy ddull arall) oni fo treuliau angenrheidiol y person i fod yn bresennol yn cael eu talu neu eu cynnig i’r person.

(6)Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson o dan yr adran hon ddangos teitl (nac unrhyw offeryn sy’n ymwneud â theitl) unrhyw dir nad yw’n perthyn i awdurdod lleol.

(7)Mae’n drosedd i berson—

(a)gwrthod cydymffurfio â gofyniad mewn gwŷs a ddyroddir o dan yr adran hon neu fethu â chydymffurfio â gofyniad o’r fath yn fwriadol, neu

(b)newid yn fwriadol, atal yn fwriadol, cuddio’n fwriadol neu ddinistrio’n fwriadol ddogfen y mae’n ofynnol i’r person ei dangos, neu y mae’r person yn agored i orfod ei dangos, o dan yr adran hon.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar euogfarn ddiannod neu ar euogfarn ar dditiad i ddirwy.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod lleol” yw’r cyngor ar gyfer sir, bwrdeistref sirol neu gymuned yng Nghymru.

48Mynediad at dystiolaeth mewn ymchwiliad

(1)Mewn ymchwiliad lleol a gynhelir o dan adran 47—

(a)rhaid clywed tystiolaeth lafar yn gyhoeddus, a

(b)rhaid i dystiolaeth ddogfennol fod ar gael i’r cyhoedd edrych arni.

(2)Ond os yw awdurdod gweinidogol yn fodlon bod y ddau amod yn is-adran (3) wedi eu bodloni mewn perthynas ag ymchwiliad o’r fath, caiff gyfarwyddo’r awdurdod archwilio sy’n cynnal yr ymchwiliad nad yw tystiolaeth o fath a bennir yn y cyfarwyddyd i’w chlywed nac ar gael i edrych arni yn yr ymchwiliad hwnnw ond gan bersonau a bennir yn y cyfarwyddyd neu gan bersonau o fath a bennir ynddo.

(3)Yr amodau yw—

(a)y byddai rhoi tystiolaeth o ddisgrifiad penodol yn gyhoeddus neu sicrhau ei bod ar gael i’r cyhoedd edrych arni yn debygol o arwain at ddatgelu gwybodaeth—

(i)am ddiogelwch cenedlaethol, neu

(ii)am y mesurau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall, a

(b)y byddai datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd yn erbyn y buddiant cenedlaethol.

(4)Os yw awdurdod gweinidogol yn ystyried rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, caiff y Cwnsler Cyffredinol benodi person (“cynrychiolydd penodedig”) i gynrychioli buddiannau unrhyw berson a fydd yn cael ei atal rhag clywed unrhyw dystiolaeth neu edrych ar unrhyw dystiolaeth mewn ymchwiliad lleol os rhoddir y cyfarwyddyd.

(5)Os nad oes cynrychiolydd penodedig pan fydd awdurdod gweinidogol yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, caiff y Cwnsler Cyffredinol benodi person yn gynrychiolydd penodedig ar unrhyw adeg at ddibenion yr ymchwiliad.

(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn gan awdurdod gweinidogol cyn iddo roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn achos pan geir cynrychiolydd penodedig;

(b)swyddogaethau cynrychiolydd penodedig.

(7)Yn yr adran hon ac yn adran 49, ystyr “awdurdod gweinidogol” yw Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

49Talu cynrychiolydd penodedig pan fo mynediad at dystiolaeth wedi ei gyfyngu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person yn cael ei benodi o dan adran 48 yn gynrychiolydd penodedig at ddibenion ymchwiliad lleol, pa un a yw’r ymchwiliad yn digwydd ai peidio.

(2)Caiff awdurdod gweinidogol gyfarwyddo person (“y person cyfrifol”) i dalu ffioedd a threuliau’r cynrychiolydd a benodir.

(3)Rhaid i’r person cyfrifol fod yn berson y mae’r awdurdod gweinidogol yn ystyried ei fod, neu y byddai wedi bod, â diddordeb yn yr ymchwiliad mewn perthynas ag—

(a)diogelwch cenedlaethol, neu

(b)y mesurau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall.

(4)Os nad yw’r cynrychiolydd a benodir a’r person cyfrifol yn gallu cytuno ar swm y ffioedd a’r treuliau, rhaid i’r swm gael ei benderfynu gan yr awdurdod gweinidogol a roddodd y cyfarwyddyd.

(5)Rhaid i’r awdurdod gweinidogol beri i’r swm y cytunir arno rhwng y cynrychiolydd a benodir a’r person cyfrifol, neu a benderfynir gan yr awdurdod gweinidogol, gael ei ardystio.

(6)Gellir adennill y swm ardystiedig oddi wrth y person cyfrifol fel dyled.

50Aseswyr

(1)Caiff yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru benodi person i weithredu fel asesydd er mwyn cynorthwyo’r awdurdod archwilio i archwilio cais o dan y Rhan hon.

(2)Ni chaniateir penodi person yn asesydd onid yw’n ymddangos i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) fod y person yn meddu ar arbenigedd sy’n gwneud y person yn addas i gynorthwyo’r awdurdod archwilio.

51Cymorth cyfreithiol

(1)Caiff yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru benodi bargyfreithiwr neu gyfreithiwr i ddarparu cyngor a chymorth cyfreithiol i’r awdurdod archwilio mewn cysylltiad â’i archwiliad o gais o dan y Rhan hon.

(2)Mae’r cymorth y caiff person a benodir o dan is-adran (1) ei roi yn cynnwys mynd ati ar ran yr awdurdod archwilio i gwestiynu ar lafar berson sy’n cyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.

52Adroddiadau gan awdurdod archwilio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)awdurdod archwilio a benodir o dan adran 40(1) os Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais;

(b)awdurdod archwilio a benodir o dan adran 40(2) os Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais o dan reoliadau a wneir o dan adran 91.

(2)Rhaid i’r awdurdod archwilio gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y cais y mae’n ei archwilio sy’n nodi—

(a)canfyddiadau a chasgliadau’r awdurdod archwilio mewn cysylltiad â’r cais, a

(b)argymhellion yr awdurdod archwilio ynghylch y penderfyniad sydd i’w wneud ar y cais.

53Pŵer i gyfarwyddo archwiliad pellach

(1)Ar ôl cael adroddiad o dan adran 52, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod archwilio i ailagor ei archwiliad o’r cais yn unol ag unrhyw ofynion a bennir yn y cyfarwyddyd.

(2)Mae’r ddyletswydd sydd ar awdurdod archwilio yn adran 52 yn gymwys i unrhyw archwiliad pellach sy’n ofynnol yn rhinwedd yr adran hon.

(3)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)cynnwys datganiad sy’n egluro pam y’i rhoddir;

(b)cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei roi.

54Gorchmynion yn ymwneud â chostau partïon mewn achos archwilio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i achos mewn cysylltiad ag archwilio cais o dan y Rhan hon (pa un a yw’n cael ei ystyried mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail sylwadau ysgrifenedig).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion ynghylch—

(a)costau’r ceisydd, Gweinidogion Cymru, awdurdod cynllunio neu barti arall i’r achos (a gaiff gynnwys costau mewn cysylltiad ag ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd), a

(b)y person neu’r personau y mae rhaid iddynt dalu’r costau.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru orchymyn i berson dalu costau parti arall onid ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod y person wedi ymddwyn yn afresymol mewn perthynas â’r achos, a

(b)bod ymddygiad afresymol y person wedi peri bod y parti arall wedi mynd i wariant diangen neu wastraffus.

(4)Caniateir adennill costau sy’n daladwy yn rhinwedd is-adran (2) fel pe baent yn daladwy o dan orchymyn gan yr Uchel Lys, os yw’r Uchel Lys yn gorchymyn hynny ar gais y person y mae’r costau’n ddyledus iddo.

(5)Rhaid i’r pŵer i wneud gorchmynion o dan yr adran hon gael ei arfer hefyd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 44 (y weithdrefn archwilio).

RHAN 5PENDERFYNU AR GEISIADAU AM GYDSYNIAD SEILWAITH

Penderfynwr

55Swyddogaeth penderfynu ar geisiadau

(1)Yr awdurdod archwilio sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad o fath a bennir mewn rheoliadau.

(2)Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar unrhyw gais arall am gydsyniad seilwaith.

(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan is-adran (4).

(4)Mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo—

(a)mai awdurdod archwilio sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais yn lle Gweinidogion Cymru;

(b)mai Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais yn lle awdurdod archwilio.

Polisïau statudol a materion perthnasol eraill‍

56Penderfynu ar geisiadau: ystyriaethau cyffredinol

(1)Wrth benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd)—

(a)rhoi sylw i—

(i)unrhyw ddatganiad polisi seilwaith sy’n cael effaith mewn perthynas â’r math o ddatblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef (“datganiad polisi perthnasol”),

(ii)Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru i’r graddau y bo’n berthnasol i’r math o ddatblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef,

(iii)unrhyw gynllun morol (o fewn yr ystyr a roddir i “marine plan” yn adran 51(3) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23)) sydd wedi ei lunio a’i fabwysiadu gan Weinidogion Cymru i’r graddau y bo’n berthnasol i’r math o ddatblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, a

(b)gwneud eu penderfyniad neu ei benderfyniad (yn ôl y digwydd) yn unol â’r datganiad polisi perthnasol, y fframwaith neu’r cynllun, oni fo ystyriaethau perthnasol yn dangos fel arall.

(2)Nid yw’r ffaith bod unrhyw ddatganiad polisi perthnasol, fframwaith neu gynllun yn nodi bod lleoliad yn addas (neu y gallai fod yn addas) ar gyfer math penodol o ddatblygiad yn rhwystro Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod archwilio (yn ôl y digwydd) rhag penderfynu ar gais ac eithrio yn unol â’r datganiad polisi perthnasol, y fframwaith neu’r cynllun os yw ystyriaethau perthnasol yn dangos fel arall.

57Dyletswydd i roi sylw i faterion penodol wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau

Wrth benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) roi sylw i—

(a)unrhyw adroddiad ar yr effaith leol a gyflwynir i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir o dan adran 36;

(b)unrhyw adroddiad ar yr effaith forol a gyflwynir i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir o dan adran 37;

(c)unrhyw archwiliad a gynhelir o dan Ran 4;

(d)unrhyw faterion a bennir mewn rheoliadau mewn perthynas â datblygiad o’r math y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(e)dymunoldeb lliniaru newid hinsawdd ac ymaddasu iddo;

(f)unrhyw ystyriaeth berthnasol arall.‍

58Materion y caniateir eu diystyru wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau

(1)Wrth benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, caiff Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod archwilio ddiystyru sylwadau os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried, neu os yw’r awdurdod archwilio yn ystyried (yn ôl y digwydd), fod y sylwadau—

(a)yn flinderus neu’n wacsaw,

(b)yn ymwneud â rhinweddau polisi a nodir—

(i)mewn datganiad polisi seilwaith,

(ii)yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru, neu

(iii)mewn unrhyw gynllun morol (o fewn yr ystyr a roddir i “marine plan” yn adran 51(3) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23)) sydd wedi ei lunio a’i fabwysiadu gan Weinidogion Cymru, neu

(c)yn ymwneud â digolledu am gaffael yn orfodol dir neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir.

(2)Yn is-adran (1), mae “sylwadau” yn cynnwys tystiolaeth.

(3)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (1)—

(a)i bennu materion pellach y caniateir eu diystyru;

(b)i newid neu ddileu materion a bennir o dan baragraff (a).

Yr amserlen

59Yr amserlen ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith

(1)Rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith cyn diwedd—

(a)52 o wythnosau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y cais ei dderbyn yn gais dilys, neu

(b)unrhyw gyfnod arall y mae’r ceisydd a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, estyn y cyfnodau a grybwyllir yn is-adran (1).

(3)Caniateir rhoi cyfarwyddyd—

(a)mwy nag unwaith mewn perthynas â’r un cais;

(b)ar ôl diwedd y cyfnodau a grybwyllir yn is-adran (1).‍

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi’r cyfarwyddyd, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r ceisydd ac unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau am y cyfarwyddyd,

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd, ac

(c)gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru yn egluro ei effaith a pham y’i rhoddwyd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru adroddiadau blynyddol ynghylch—

(a)eu cydymffurfedd â’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1), a

(b)sut y maent yn arfer y swyddogaethau a roddir gan is-adran (2).

(6)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (1)(a).

Y penderfyniad

60Rhoi neu wrthod cydsyniad seilwaith

(1)Pan fydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid i Weinidogion Cymru naill ai—

(a)gwneud gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad seilwaith (“gorchymyn cydsyniad seilwaith”), neu

(b)gwrthod cydsyniad seilwaith.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r‍ canlynol am eu penderfyniad i naill ai gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith neu wrthod cydsyniad seilwaith—

(a)y ceisydd;

(b)unrhyw awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned sydd wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;

(c)Cyfoeth Naturiol Cymru os yw wedi cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;

(d)unrhyw berson arall neu berson arall o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(3)Pan fydd yr awdurdod archwilio wedi penderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid iddo naill ai—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi penderfynu bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i’w wneud, neu

(b)gwrthod cydsyniad seilwaith.

(4)Rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu’r‍ canlynol am ei benderfyniad naill ai bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i’w wneud neu i wrthod cydsyniad seilwaith—

(a)y ceisydd;

(b)unrhyw awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned sydd wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;

(c)Cyfoeth Naturiol Cymru os yw wedi cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;

(d)unrhyw berson arall neu berson arall o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(5)Pan fydd Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan is-adran (3)(a), rhaid iddynt wneud gorchymyn cydsyniad seilwaith mewn cysylltiad â’r cais y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n rheoleiddio’r weithdrefn i’w dilyn os yw—

(a)Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith ar delerau sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gynigir yn y cais;

(b)Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith ar delerau sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gynigir yn y cais o ganlyniad i hysbysiad o dan is-adran (3)(a).

61Datblygiad y caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar ei gyfer

(1)Caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad sy’n—

(a)datblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer;

(b)datblygiad cysylltiedig.

(2)Ystyr “datblygiad cysylltiedig” yw datblygiad—

(a)sy’n gysylltiedig â’r datblygiad o fewn is-adran (1)(a) (neu unrhyw ran ohono), a

(b)sydd i’w gynnal yn gyfan gwbl yn un o’r ardaloedd neu’r ddwy ardal a ganlyn—

(i)Cymru;

(ii)ardal forol Cymru.

(3)I’r graddau y bo cydsyniad seilwaith yn cael ei roi ar gyfer datblygiad cysylltiedig, mae adran 20 yn gymwys i’r datblygiad fel y mae’n gymwys i ddatblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer.

62Rhesymau dros benderfynu rhoi neu wrthod cydsyniad seilwaith

(1)Pan fydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid iddynt lunio datganiad o’u rhesymau dros benderfynu—

(a)gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu

(b)gwrthod cydsyniad seilwaith.

(2)Pan fydd yr awdurdod archwilio wedi penderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid iddo lunio datganiad o’i resymau dros benderfynu—

(a)bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i’w wneud, neu

(b)gwrthod cydsyniad seilwaith.

(3)Rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) ddarparu copi o’r datganiad ‍i—

(a)y ceisydd;

(b)unrhyw awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned sydd wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;

(c)Cyfoeth Naturiol Cymru os yw wedi cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais;

(d)unrhyw berson neu berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(4)Rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) gyhoeddi’r datganiad yn y modd y maent, neu y mae, yn ystyried ei fod yn briodol.

RHAN 6GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

Darpariaeth mewn gorchmynion: cyffredinol

63Yr hyn y caniateir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith

(1)Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith osod gofynion mewn perthynas â’r datblygiad y rhoddir cydsyniad ar ei gyfer.

(2)Caiff y gofynion gynnwys, ymhlith pethau eraill—

(a)gofynion sy’n cyfateb i amodau y gellid bod wedi eu gosod wrth roi unrhyw ganiatâd, cydsyniad neu awdurdodiad, neu roi unrhyw hysbysiad a fyddai oni bai am adran 20(1) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 84(1) wedi bod yn ofynnol ar gyfer y datblygiad;

(b)gofynion i gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru neu unrhyw berson arall, i’r graddau nad yw hynny o fewn paragraff (a).

(3)Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith wneud darpariaeth yn ymwneud â’r datblygiad y rhoddir cydsyniad ar ei gyfer, neu yn ymwneud â materion sy’n atodol iddo.

(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (3) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth yn ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(5)Caiff rheoliadau—

(a)ychwanegu mater at Ran 1 o Atodlen 1;

(b)dileu neu amrywio mater a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(6)Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith—

(a)cymhwyso, addasu neu eithrio deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw fater y caniateir gwneud darpariaeth ar ei gyfer yn y gorchymyn;

(b)diwygio, diddymu neu ddirymu deddfiadau sy’n gymwys yn lleol y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod hynny’n briodol o ganlyniad i ddarpariaeth yn y gorchymyn neu mewn cysylltiad â’r gorchymyn;

(c)cynnwys unrhyw ddarpariaeth y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn briodol er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth arall yn y gorchymyn;

(d)cynnwys darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(7)Ac eithrio darpariaeth a wneir o dan is-adran (3) sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a restrir ym mharagraff 29 o Atodlen 1, ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys—

(a)darpariaeth sy’n creu troseddau,

(b)darpariaeth sy’n rhoi pŵer i greu troseddau, nac

(c)darpariaeth sy’n newid pŵer presennol i greu troseddau.

(8)I’r graddau y caniateir cynnwys darpariaeth ar gyfer mater neu sy’n ymwneud â mater mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith, ni chaniateir i unrhyw un neu ragor o’r canlynol gynnwys darpariaeth o’r un math—

(a)gorchymyn o dan adran 14 neu 16 o Ddeddf Harbyrau 1964 (p. 40) (gorchmynion mewn perthynas â harbyrau, dociau a cheiau);

(b)gorchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42) (gorchmynion o ran rheilffyrdd, tramffyrdd, dyfrffyrdd mewndirol etc.).

Darpariaeth mewn gorchmynion sy’n awdurdodi caffael yn orfodol

64Diben caniatáu awdurdodi caffael yn orfodol

(1)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol onid yw Gweinidogion Cymru yn fodlon bod yr amodau yn is-adrannau (2) a (3) wedi eu bodloni.

(2)Yr amod yw—

(a)bod y tir yn ofynnol ar gyfer y datblygiad y mae’r cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef,

(b)bod y tir yn ofynnol er mwyn hwyluso’r datblygiad hwnnw neu fod y tir yn ddeilliadol i’r datblygiad hwnnw, neu

(c)bod y tir yn dir amnewid sydd i’w roi yn gyfnewid am dir y gorchymyn o dan adran 70 neu 71.

(3)Yr amod yw bod achos cymhellol er budd y cyhoedd i’r tir gael ei gaffael yn orfodol.

65Tir y gall awdurdodiad i gaffael yn orfodol ymwneud ag ef

(1)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol onid yw—

(a)y tir yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, a

(b)Gweinidogion Cymru yn fodlon bod un o’r amodau yn is-adrannau (2) i (4) wedi ei fodloni.

(2)Yr amod yw bod y cais am gydsyniad seilwaith wedi cynnwys archiad i awdurdodi caffael y tir yn orfodol.

(3)Yr amod yw bod yr holl bersonau a chanddynt fuddiant yn y tir yn cydsynio i’r ddarpariaeth gael ei chynnwys.

(4)Yr amod yw bod y weithdrefn a bennir mewn rheoliadau at ddiben yr adran hon wedi ei dilyn mewn perthynas â’r tir.

66Cais am ddarpariaethau caffael yn orfodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol.

(2)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) (y weithdrefn prynu gorfodol) yn gymwys i gaffael tir yn orfodol o dan y gorchymyn—

(a)fel y mae’n gymwys i bryniant gorfodol y mae Rhan 2 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys iddo, a

(b)fel pe bai’r gorchymyn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.

(3)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965, fel y’i cymhwysir gan is-adran (2), yn cael effaith gan hepgor y darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 4 (terfyn amser i arfer pwerau prynu gorfodol);

(b)adran 10 (digolledu am effaith niweidiol).

(4)Mae is-adrannau (2) a (3) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb a wneir gan y gorchymyn cydsyniad seilwaith.

67Digolledu am gaffael tir yn orfodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol.

(2)Ni chaiff y gorchymyn gynnwys darpariaeth sy’n cael yr effaith o addasu cymhwysiad darpariaeth ddigolledu, ac eithrio i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn cymhwyso’r ddarpariaeth i’r caffaeliad tir gorfodol a awdurdodir gan y gorchymyn.

(3)Ni chaiff y gorchymyn gynnwys darpariaeth sy’n cael yr effaith o eithrio cymhwysiad darpariaeth ddigolledu.

(4)“Darpariaeth ddigolledu” yw deddfiad sy’n ymwneud â digolledu am gaffael tir yn orfodol.

68Tir ymgymerwyr statudol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thir (“tir ymgymerwyr statudol”)—

(a)os yw’r tir wedi ei gaffael gan ymgymerwyr statudol at ddibenion eu hymgymeriad,

(b)os oes sylw wedi ei wneud ynghylch cais am gydsyniad seilwaith cyn i’r archwiliad o’r cais gael ei gwblhau, ac nad yw’r sylw wedi ei dynnu yn ôl, ac

(c)os yw Gweinidogion Cymru, o ganlyniad i’r sylw, wedi eu bodloni—

(i)y defnyddir y tir at ddibenion cyflawni ymgymeriad yr ymgymerwyr statudol, neu

(ii)y delir buddiant yn y tir at y dibenion hynny.

(2)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ond cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael yn orfodol dir ymgymerwyr statudol i’r graddau y bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ynghylch y materion a nodir yn is-adran (3).

(3)Y materion yw bod natur a lleoliad y tir yn golygu—

(a)y gellir ei brynu a pheidio â’i amnewid heb niwed difrifol i gyflawni’r ymgymeriad, neu

(b)os caiff ei brynu y gellir ei amnewid am dir arall y mae’r ymgymerwyr yn berchen arno, neu sydd ar gael iddynt i’w gaffael, heb niwed difrifol i gyflawni’r ymgymeriad.

(4)Nid yw is-adrannau (2) a (3) yn gymwys mewn achos sydd o fewn is-adran (5).

(5)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ond cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael yn orfodol hawl dros dir ymgymerwyr statudol drwy greu hawl newydd dros dir i’r graddau y bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ynghylch y materion a nodir yn is-adran (6).

(6)Y materion yw bod natur a lleoliad y tir yn golygu—

(a)y gellir prynu’r hawl heb niwed difrifol i gyflawni’r ymgymeriad, neu

(b)y gall yr ymgymerwyr unioni unrhyw niwed i gyflawni’r ymgymeriad, o ganlyniad i gaffael yr hawl, drwy ddefnyddio tir arall y maent yn berchen arno neu sydd ar gael iddynt i’w gaffael.

(7)Yn yr adran hon, mae i “ymgymerwyr statudol” yr ystyr a roddir i “statutory undertakers” gan adran 8 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) ac mae hefyd yn cynnwys yr ymgymerwyr—

(a)y tybir eu bod yn ymgymerwyr statudol at ddibenion y Ddeddf honno, yn rhinwedd deddfiad arall;

(b)sy’n ymgymerwyr statudol at ddibenion adran 16(1) a (2) o’r Ddeddf honno (gweler adran 16(3) o’r Ddeddf honno).

(8)Wrth gymhwyso’r adran hon i ymgymerwr statudol sy’n gorff gwasanaeth iechyd (fel y diffinnir “health service body” yn adran 60(7) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19)), mae cyfeiriadau at dir a gaffaelir gan yr ymgymerwyr statudol neu sydd ar gael iddynt i’w gaffael i’w dehongli fel cyfeiriadau at dir a gaffaelir gan Weinidogion Cymru neu sydd ar gael iddynt i’w gaffael at ddibenion ei ddefnyddio neu ei feddiannu gan y corff.

69Tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i dir y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen arno a ddelir gan yr Ymddiriedolaeth yn anhrosglwyddadwy.

(2)Mae gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, i’r graddau y bo’r gorchymyn yn awdurdodi caffael yn orfodol dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo, os bodlonir yr amod yn is-adran (3).

(3)Yr amod yw—

(a)bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gwneud sylw ynghylch y cais am y gorchymyn cydsyniad seilwaith cyn i’r archwiliad o’r cais gael ei gwblhau,

(b)bod y sylw yn cynnwys gwrthwynebiad i gaffael y tir yn orfodol, ac

(c)nad yw’r gwrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl.

(4)Mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo ac y mae adran 70 neu 71 hefyd yn gymwys iddo, caiff gweithdrefn arbennig y Senedd—

(a)bod yn ofynnol gan is-adran (2) pa un a yw hefyd yn ofynnol gan adran 70(3) neu 71(2) ai peidio, a

(b)bod yn ofynnol gan adran 70(3) neu 71(2) pa un a yw hefyd yn ofynnol gan is-adran (2) ai peidio.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “a ddelir yn anhrosglwyddadwy”, mewn perthynas â thir y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen arno, yw bod y tir yn anhrosglwyddadwy o dan adran 21 o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907 (p. cxxxvi) neu adran 8 o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1939 (p. lxxxvi).

70Tiroedd comin, mannau agored etc.: caffael tir yn orfodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw dir sy’n ffurfio rhan o dir comin, man agored neu randir tanwydd neu ardd gae.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys mewn achos y mae adran 71 yn gymwys iddo.

(3)Mae gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd i’r graddau y bo’r gorchymyn yn awdurdodi caffael yn orfodol dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo, oni fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un o is-adrannau (4) i (7) yn gymwys, a

(b)y ffaith honno, a’r is-adran o dan sylw, wedi eu cofnodi yn y gorchymyn neu fel arall yn yr offeryn neu’r ddogfen arall sy’n cynnwys y gorchymyn.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw tir amnewid wedi ei roi neu os bydd yn cael ei roi yn gyfnewid am dir y gorchymyn, a

(b)os yw’r tir amnewid wedi ei freinio neu y bydd yn cael ei freinio yn y darpar werthwr ac yn ddarostyngedig i’r un hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion ag sydd ynghlwm wrth dir y gorchymyn.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw tir y gorchymyn yn fan agored, neu’n ffurfio rhan o fan agored,

(b)os nad yw unrhyw ran o dir y gorchymyn o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau eraill yn is-adran (1),

(c)os naill ai—

(i)nad oes unrhyw dir addas ar gael i’w roi yn gyfnewid am dir y gorchymyn, neu

(ii)nad yw unrhyw dir addas sydd ar gael i’w roi yn gyfnewid ond ar gael am bris gormodol, a

(d)os yw yn gryf er budd y cyhoedd iddi fod yn bosibl dechrau’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn rhoi cydsyniad ar ei gyfer yn gynharach nag sy’n debygol o fod yn bosibl pe bai’r gorchymyn yn ddarostyngedig (i unrhyw raddau) i weithdrefn arbennig y Senedd.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw tir y gorchymyn yn fan agored, neu’n ffurfio rhan o fan agored,

(b)os nad yw unrhyw ran o dir y gorchymyn o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau eraill yn is-adran (1), ac

(c)os yw tir y gorchymyn yn cael ei gaffael at ddiben dros dro (ond un hirhoedlog o bosibl).

(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os nad yw tir y gorchymyn yn fwy na 200 metr sgwâr o faint neu os yw’n angenrheidiol er mwyn lledu neu ddraenio priffordd bresennol neu yn rhannol er mwyn lledu ac yn rhannol er mwyn draenio priffordd o’r fath, a

(b)os yw rhoi tir arall yn gyfnewid yn ddiangen, naill ai er budd y personau, os oes rhai, sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill neu er budd y cyhoedd.

(8)Os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael yn orfodol dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff gynnwys darpariaeth—

(a)i freinio tir amnewid a roddir yn gyfnewid fel y’i crybwyllir yn is-adran (4)(a) yn y darpar werthwr ac yn ddarostyngedig i’r hawliau, yr ymddiriedolaethau a’r nodweddion a grybwyllir yn is-adran (4)(b), a

(b)i ryddhau tir y gorchymyn rhag unrhyw hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion y mae’n ddarostyngedig iddynt.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “y darpar werthwr” (“the prospective seller”) yw’r person neu’r personau y breinir tir y gorchymyn ynddo neu ynddynt;

  • ystyr “tir amnewid” (“replacement land”) yw tir nad yw’n ddim llai o ran arwynebedd na thir y gorchymyn ac nad yw’n ddim llai manteisiol i’r personau, os oes rhai, sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill, nac i’r cyhoedd;

  • mae i “tir comin”, “rhandir tanwydd neu ardd gae” a “man agored” yr un ystyron ag a roddir i “common”, “fuel or field garden allotment” ac “open space” yn adran 19 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67);

  • ystyr “tir y gorchymyn” (“order land”) yw’r tir yr awdurdodir ei gaffael yn orfodol.

71Tiroedd comin, mannau agored etc.: caffael hawliau dros dir yn orfodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw dir sy’n ffurfio rhan o dir comin, man agored neu randir tanwydd neu ardd gae.

(2)Mae gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd i’r graddau y bo’r gorchymyn yn awdurdodi caffael yn orfodol hawl dros dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo drwy greu hawl newydd dros dir, oni fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un o is-adrannau (3) i (7) yn gymwys, a

(b)y ffaith honno, a’r is-adran o dan sylw, wedi eu cofnodi yn y gorchymyn neu fel arall yn yr offeryn neu’r ddogfen arall sy’n cynnwys y gorchymyn.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os na fydd tir y gorchymyn, pan fydd hawl y gorchymyn yn weithredol drosto, yn llai manteisiol nag yr oedd ynghynt i’r personau a ganlyn—

(a)y personau y’i breinir ynddynt,

(b)personau eraill, os oes rhai, sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill, ac

(c)y cyhoedd.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw tir amnewid wedi ei roi neu os bydd yn cael ei roi yn gyfnewid am hawl y gorchymyn, a

(b)os yw’r tir amnewid wedi ei freinio neu y bydd yn cael ei freinio yn y personau y breinir tir y gorchymyn ynddynt ac yn ddarostyngedig i’r un hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion ag sydd ynghlwm wrth dir y gorchymyn (gan anwybyddu’r gorchymyn cydsyniad seilwaith).

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw tir y gorchymyn yn fan agored, neu’n ffurfio rhan o fan agored,

(b)os nad yw unrhyw ran o dir y gorchymyn o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau eraill yn is-adran (1),

(c)os naill ai—

(i)nad oes unrhyw dir addas ar gael i’w roi yn gyfnewid am hawl y gorchymyn, neu

(ii)nad yw unrhyw dir addas sydd ar gael i’w roi yn gyfnewid ond ar gael am bris gormodol, a

(d)os yw yn gryf er budd y cyhoedd iddi fod yn bosibl dechrau’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn rhoi cydsyniad ar ei gyfer yn gynharach nag sy’n debygol o fod yn bosibl pe bai’r gorchymyn yn ddarostyngedig (i unrhyw raddau) i weithdrefn arbennig y Senedd.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw tir y gorchymyn yn fan agored, neu’n ffurfio rhan o fan agored,

(b)os nad yw unrhyw ran o dir y gorchymyn o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau eraill yn is-adran (1), ac

(c)os yw hawl y gorchymyn yn cael ei gaffael at ddiben dros dro (ond un hirhoedlog o bosibl).

(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os nad yw tir y gorchymyn yn fwy na 200 metr sgwâr o faint neu os yw hawl y gorchymyn yn angenrheidiol mewn cysylltiad â lledu neu ddraenio priffordd bresennol neu mewn cysylltiad yn rhannol â lledu ac yn rhannol â draenio priffordd o’r fath, a

(b)os yw rhoi tir arall yn gyfnewid am hawl y gorchymyn yn ddiangen, naill ai er budd y personau, os oes rhai, sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill neu er budd y cyhoedd.

(8)Os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael yn orfodol hawl dros dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff gynnwys darpariaeth—

(a)i freinio tir amnewid a roddir yn gyfnewid fel y’i crybwyllir yn is-adran (4)(a) yn y personau y breinir tir y gorchymyn ynddynt ac yn ddarostyngedig i’r hawliau, yr ymddiriedolaethau a’r nodweddion a grybwyllir yn is-adran (4)(b), a

(b)i ryddhau tir y gorchymyn rhag unrhyw hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion y mae wedi bod yn ddarostyngedig iddynt yn flaenorol i’r graddau y byddai eu parhad yn anghyson ag arfer hawl y gorchymyn.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “hawl y gorchymyn” (“the order right”) yw’r hawl yr awdurdodir ei chaffael yn orfodol;

  • ystyr “tir amnewid” (“replacement land”) yw tir a fydd yn ddigonol i ddigolledu’r personau a ganlyn am yr anfanteision sy’n deillio o gaffael hawl y gorchymyn yn orfodol—

    (a)

    y personau y breinir tir y gorchymyn ynddynt,

    (b)

    y personau, os oes rhai, sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill dros dir y gorchymyn, ac

    (c)

    y cyhoedd;

  • mae i “tir comin”, “rhandir tanwydd neu ardd gae” a “man agored” yr un ystyron ag a roddir i “common”, “fuel or field garden allotment” ac “open space” yn adran 19 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67);

  • ystyr “tir y gorchymyn” (“theorder land”) yw’r tir y mae’r adran hon yn gymwys iddo y mae hawl y gorchymyn i fod yn arferadwy drosto.

72Hysbysiad o awdurdodiad i gaffael yn orfodol

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth sy’n gosod gofynion ar ddarpar brynwr—

(a)i roi, i gyhoeddi ac i arddangos hysbysiad caffael gorfodol;

(b)i alluogi’r cyhoedd i weld copi o’r gorchymyn cydsyniad seilwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(2)Ystyr hysbysiad caffael gorfodol yw hysbysiad ar y ffurf a bennir mewn rheoliadau—

(a)sy’n disgrifio tir y gorchymyn,

(b)mewn achos pan fo’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael hawl dros dir yn orfodol drwy greu hawl newydd, sy’n disgrifio’r hawl,

(c)sy’n datgan bod y gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael hawl dros y tir yn orfodol drwy greu hawl drosto neu (yn ôl y digwydd) gaffael y tir yn orfodol,

(d)mewn achos pan fo’r gorchymyn yn cymhwyso Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (p. 66)

(i)sy’n cynnwys datganiad a bennir mewn rheoliadau ynghylch effaith y Rhannau hynny, a

(ii)sy’n gwahodd unrhyw berson a fyddai â hawlogaeth i hawlio digollediad pe bai datganiad yn cael ei gwblhau o dan adran 4 o’r Ddeddf honno i roi gwybodaeth i’r darpar brynwr ynghylch enw a chyfeiriad y person a’i fuddiant yn y tir gan ddefnyddio ffurf a bennir mewn rheoliadau,

(e)sy’n datgan ymhle a phryd y mae copi o’r gorchymyn ar gael i edrych arno yn unol â rheoliadau o dan is-adran (1)(b), ac

(f)sy’n datgan na chaiff person a dramgwyddir gan y gorchymyn ond herio’r gorchymyn yn unol ag adran 96.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “y darpar brynwr” (“the prospective purchaser”) yw—

    (a)

    mewn achos pan fo’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael hawl dros dir yn orfodol drwy greu hawl newydd, y person y mae’r gorchymyn yn awdurdodi creu’r hawl er ei fudd;

    (b)

    mewn unrhyw achos arall pan fo’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir yn orfodol, y person a awdurdodir gan y gorchymyn i gaffael y tir yn orfodol;

  • ystyr “tir y gorchymyn” (“the order land”) yw—

    (a)

    mewn achos pan fo’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael hawl dros dir yn orfodol drwy greu hawl newydd, y tir y mae’r hawl i fod yn arferadwy drosto neu (yn achos cyfamod cyfyngol) y mae’n gymwys iddo;

    (b)

    mewn unrhyw achos arall pan fo’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir yn orfodol, y tir yr awdurdodir ei gaffael yn orfodol.

(4)Rhaid i’r darpar brynwr anfon hysbysiad caffael gorfodol at y Prif Gofrestrydd Tir ac mae i fod yn bridiant tir lleol mewn cysylltiad â’r tir y mae’n ymwneud ag ef.

Darpariaeth mewn gorchmynion: cyfyngiadau a phwerau penodol

73Hawliau tramwy cyhoeddus

(1)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ond diddymu hawl tramwy cyhoeddus dros dir os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod hawl tramwy arall wedi ei darparu neu y bydd yn cael ei darparu, neu

(b)nad yw’n ofynnol darparu hawl tramwy arall.

(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn gwneud darpariaeth ar gyfer caffael tir, yn orfodol neu drwy gytundeb,

(b)os yw’r gorchymyn yn diddymu hawl tramwy cyhoeddus dros y tir, ac

(c)os nad yw’r hawl tramwy yn hawl y caiff traffig cerbydol ei mwynhau.

(3)Ni chaiff y gorchymyn ddarparu bod yr hawl tramwy i’w diddymu o ddyddiad sy’n gynharach na’r dyddiad y cyhoeddir y gorchymyn.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os yw—

(a)y gorchymyn yn diddymu’r hawl tramwy o ddyddiad (“y dyddiad diddymu”) sy’n gynharach na’r dyddiad y cwblheir caffael y tir, a

(b)ar unrhyw adeg ar ôl y dyddiad diddymu yn ymddangos i Weinidogion Cymru y rhoddwyd y gorau i’r cynnig i gaffael y tir.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyfarwyddo drwy orchymyn fod yr hawl i’w hadfer.

(6)Nid oes unrhyw beth yn is-adran (5) yn atal gwneud gorchymyn pellach sy’n diddymu’r hawl tramwy.

74Pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill

Yn adran 205(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) (dehongli adrannau 203 a 204), yn y diffiniad o “planning consent”—

(a)ym mharagraff (a), hepgorer “or”;

(b)ar y diwedd mewnosoder , or

(c)

infrastructure consent under the Infrastructure (Wales) Act 2024.

75Diddymu hawliau, a symud ymaith gyfarpar, ymgymerwyr statudol etc.

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir (yn orfodol neu drwy gytundeb) ac—

(a)bod hawl berthnasol yn bodoli dros y tir,

(b)bod cyfamod cyfyngol perthnasol yn gymwys i’r tir, neu

(c)bod cyfarpar perthnasol ar y tir, odano neu drosto.

(2)Ystyr “hawl berthnasol” yw hawl tramwy, neu hawl i osod cyfarpar, codi cyfarpar, parhau â chyfarpar neu gynnal a chadw cyfarpar ar y tir, odano neu drosto—

(a)a freinir yn yr ymgymerwyr statudol neu sy’n perthyn iddynt at ddiben cyflawni eu hymgymeriad, neu

(b)a roddir gan y cod cyfathrebu electronig neu’n unol â’r cod hwnnw i weithredwr rhwydwaith cod cyfathrebu electronig.

(3)Ystyr “cyfamod cyfyngol perthnasol” yw cyfamod cyfyngol sydd o fudd i ymgymerwyr statudol wrth gyflawni eu hymgymeriad.

(4)Ystyr “cyfarpar perthnasol” yw—

(a)cyfarpar a freinir yn yr ymgymerwyr statudol neu sy’n perthyn iddynt at ddiben cyflawni eu hymgymeriad, neu

(b)cyfarpar cyfathrebu electronig a gedwir wedi ei osod at ddibenion rhwydwaith cod cyfathrebu electronig.

(5)Ni chaiff y gorchymyn gynnwys darpariaeth i ddiddymu’r hawl berthnasol na’r cyfamod cyfyngol perthnasol, na symud ymaith y cyfarpar perthnasol, onid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y diddymu neu’r symud ymaith yn angenrheidiol at ddiben cynnal y datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “ymgymerwyr statudol” yw personau sy’n ymgymerwyr statudol, neu y tybir eu bod yn ymgymerwyr statudol, at ddiben unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 11 o DCGTh 1990.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cod cyfathrebu electronig” (“electronic communications code”) yw’r cod a nodir yn Atodlen 3A i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21);

  • mae i “cyfarpar cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communications apparatus” ym mharagraff 5 o’r cod cyfathrebu electronig;

  • mae i “gweithredwr rhwydwaith cod cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddir i “operator of an electronic communications code network” ym mharagraff 1(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.

76Tir y Goron

(1)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael buddiant yn nhir y Goron yn orfodol oni fo—

(a)yn fuddiant sydd am y tro yn cael ei ddal ac eithrio gan y Goron neu ar ran y Goron, a

(b)awdurdod priodol y Goron yn cydsynio i’r caffaeliad.

(2)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys unrhyw ddarpariaeth arall sy’n gymwys mewn perthynas â thir y Goron, neu hawliau y mae’r Goron yn cael budd ohonynt, oni fo awdurdod priodol y Goron yn cydsynio i’r ddarpariaeth gael ei chynnwys.

(3)Nid yw’r cyfeiriad yn is-adran (2) at hawliau y mae’r Goron yn cael budd ohonynt yn cynnwys hawliau sydd o fudd i’r cyhoedd yn gyffredinol.

(4)Yn yr adran hon, mae “y Goron” yn cynnwys Dugiaeth Caerhirfryn a Dugiaeth Cernyw.

77Gweithredu gorsafoedd cynhyrchu

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi gweithredu gorsaf gynhyrchu onid adeiladu neu estyn yr orsaf gynhyrchu yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny.

78Cadw llinellau trydan yn osodedig uwchben y ddaear

Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi cadw llinell drydan yn osodedig uwchben y ddaear onid gosod y llinell uwchben y ddaear yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny.

79Dargyfeirio cyrsiau dŵr

(1)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi dargyfeirio unrhyw ran o gwrs dŵr mordwyol onid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni.

(2)Rhaid iddi fod yn bosibl i lestrau o fath sy’n gyfarwydd â defnyddio’r rhan o’r cwrs dŵr sydd i’w dargyfeirio fordwyo’r darn newydd o gwrs dŵr mewn modd rhesymol gyfleus.

(3)Wrth benderfynu a yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni, rhaid anwybyddu effaith unrhyw bont neu dwnnel os yw adeiladu’r bont neu’r twnnel yn rhan o’r datblygiad y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn rhoi cydsyniad ar ei gyfer.

(4)Os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi dargyfeirio unrhyw ran o gwrs dŵr mordwyol, cymerir hefyd fod y gorchymyn yn awdurdodi dargyfeirio unrhyw lwybr halio neu dramwyfa arall sy’n gyfagos i’r rhan honno.

80Priffyrdd

(1)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi codi tollau mewn perthynas â phriffordd onid oes cais i’r perwyl hwnnw wedi ei gynnwys yn y cais am y gorchymyn.

(2)Os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi codi tollau mewn perthynas â phriffordd, caiff y gorchymyn ei drin fel gorchymyn tollau at ddibenion adrannau 7 i 18 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22).

81Harbyrau

(1)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth i greu awdurdod harbwr onid—

(a)adeiladu neu addasu cyfleusterau harbwr yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny, a

(b)yw creu awdurdod harbwr yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion y datblygiad.

(2)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n newid pwerau neu ddyletswyddau awdurdod harbwr onid—

(a)adeiladu neu addasu cyfleusterau harbwr yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny, a

(b)yw’r awdurdod wedi gofyn am i’r ddarpariaeth gael ei chynnwys neu wedi cydsynio yn ysgrifenedig iddi gael ei chynnwys.

(3)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi trosglwyddo eiddo, hawliau neu atebolrwyddau o un awdurdod harbwr i un arall onid—

(a)adeiladu neu addasu cyfleusterau harbwr yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny, a

(b)yw’r gorchymyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu swm digolledu—

(i)a bennir yn unol â’r gorchymyn, neu

(ii)y cytunir arno rhwng y partïon i’r trosglwyddiad.

(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (6), caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer creu awdurdod harbwr, neu newid pwerau neu ddyletswyddau awdurdod harbwr, hefyd wneud darpariaeth arall mewn perthynas â’r awdurdod.

(5)Yn ddarostyngedig i is-adran (6), mae’r ddarpariaeth y caniateir ei chynnwys mewn perthynas ag awdurdod harbwr yn cynnwys yn benodol—

(a)unrhyw ddarpariaeth mewn perthynas ag awdurdod harbwr y gellid ei chynnwys mewn gorchymyn diwygio harbwr o dan adran 14 o Ddeddf Harbyrau 1964 (p. 40) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn Atodlen 2 i’r Ddeddf honno;

(b)darpariaeth sy’n rhoi pŵer i’r awdurdod i newid darpariaeth a wnaed mewn perthynas ag ef (gan y gorchymyn neu yn rhinwedd y paragraff hwn), pan fo’r ddarpariaeth ynghylch—

(i)gweithdrefnau (gan gynnwys gweithdrefnau ariannol) yr awdurdod;

(ii)pŵer yr awdurdod i osod ffioedd;

(iii)pŵer yr awdurdod i ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau;

(iv)lles swyddogion a chyflogeion yr awdurdod a darpariaeth ariannol a darpariaeth arall a wneir ar eu cyfer.

(6)Ni chaiff y gorchymyn gynnwys darpariaethau—

(a)na chaniateir iddynt, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon, gael eu cynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith;

(b)sy’n rhoi pŵer i awdurdod harbwr i ddirprwyo, neu wneud newidiadau i’w bwerau er mwyn caniatáu dirprwyo, unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (f) o baragraff 9B o Atodlen 2 i Ddeddf Harbyrau 1964.

82Gollwng dŵr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi gollwng dŵr i ddyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol, a

(b)oni bai am y gorchymyn, na fyddai gan y person y rhoddir cydsyniad seilwaith iddo bŵer i gymryd dŵr, na’i gwneud yn ofynnol i ddŵr gael ei ollwng, o’r dyfroedd mewndirol nac o darddle arall y bwriedir i’r gollyngiadau a awdurdodir gan y gorchymyn gael eu gwneud ohono.

(2)Nid yw’r gorchymyn yn cael yr effaith o roi unrhyw bŵer o’r fath i’r person hwnnw.

83Cydsyniad tybiedig o dan drwydded forol

(1)Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n tybio y dyroddwyd trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) ar gyfer unrhyw weithgaredd lle Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer.

(2)Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth—

(a)sy’n tybio bod trwydded forol wedi ei rhoi o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn ddarostyngedig i amodau a bennir yn y gorchymyn, a

(b)sy’n tybio bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi’r amodau hynny ynghlwm wrth y drwydded o dan y Rhan honno.

(3)Nid yw person sy’n methu â chydymffurfio ag amod o’r math a grybwyllir yn is-adran (2) yn cyflawni trosedd o dan adran 104 o’r Ddeddf hon.

(4)Nid yw adrannau 68 (hysbysu ynghylch ceisiadau) na 69(3) a (5) (sylwadau) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn gymwys mewn perthynas â’r drwydded forol dybiedig.

(5)Nid yw unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu a wneir odani neu yn ei rhinwedd yn rhwystro trwydded forol dybiedig rhag cael ei hamrywio, ei hatal dros dro, ei dirymu neu ei throsglwyddo yn unol ag adran 72 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

(6)Yn yr adran hon, mae i “yr awdurdod trwyddedu priodol” yr ystyr a roddir i “the appropriate licensing authority” gan adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

84Dileu gofynion cydsynio a thybio cydsyniadau

(1)Os bodlonir amod yn is-adran (2) neu (3), caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sydd—

(a)yn dileu gofyniad bod cydsyniad penodedig awdurdod perthnasol i’w roi;

(b)yn tybio bod cydsyniad penodedig awdurdod perthnasol wedi ei roi.

(2)Yr amod yw bod yr awdurdod perthnasol wedi rhoi cydsyniad i gynnwys y ddarpariaeth cyn diwedd y cyfnod penodedig.

(3)Yr amod yw nad yw’r awdurdod perthnasol wedi gwrthod cydsyniad i’r ddarpariaeth gael ei chynnwys cyn diwedd y cyfnod penodedig.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu eithriadau i’r gofyniad i fodloni’r amodau yn is-adrannau (2) a (3).

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw’r awdurdod y byddai ganddo fel arall y swyddogaeth o benderfynu a ddylid rhoi’r cydsyniad penodedig ai peidio;

  • ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw—

    (a)

    cydsyniad neu awdurdodiad y mae’n ofynnol, o dan ddeddfiad, ei gael ar gyfer datblygiad,

    (b)

    cydsyniad neu awdurdodiad—

    (i)

    a gaiff awdurdodi datblygiad, a

    (ii)

    a roddir o dan ddeddfiad, neu

    (c)

    hysbysiad y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei roi mewn perthynas â datblygiad;

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau.

Y weithdrefn ar gyfer gorchmynion cydsyniad seilwaith

85Gorchmynion cydsyniad seilwaith: eu cyhoeddi a’r weithdrefn

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gorchymyn yn y modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol, ac eithrio mewn achos sydd o fewn is-adran (3).

(3)Os yw’r gorchymyn yn cynnwys darpariaeth—

(a)a wneir o dan adran 63(3) sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a restrir ym mharagraffau 28 a 29 o Atodlen 1, neu

(b)a wneir wrth arfer unrhyw un neu ragor o’r pwerau a roddir gan adran 63(6)(a) neu 63(6)(b),

rhaid i’r gorchymyn gael ei gynnwys mewn offeryn statudol.

(4)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn sy’n cynnwys y gorchymyn gael ei wneud, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru gopi o—

(a)yr offeryn,

(b)y fersiwn ddiweddaraf o unrhyw blan a gyflenwyd gan y ceisydd mewn cysylltiad â’r cais am y gorchymyn a gynhwysir yn yr offeryn, ac

(c)datganiad o’r rhesymau a luniwyd o dan adran 62.

Newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith etc.

86Ystyr “dogfennau penderfyniad” a “gwall”

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 87 a 88.

(2)Ystyr “dogfen penderfyniad” yw—

(a)yn achos rhoi cydsyniad seilwaith, y gorchymyn cydsyniad seilwaith;

(b)yn achos gwrthod cydsyniad seilwaith, yr hysbysiad o wrthodiad a roddir i’r ceisydd.

(3)Mae “gwall” yn cynnwys hepgoriad.

87Pŵer i gywiro gwallau mewn dogfennau penderfyniad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ddyroddir dogfen penderfyniad sy’n cynnwys gwall.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gywiro’r gwall yn y ddogfen penderfyniad.

(3)Caniateir i’r pŵer a roddir gan is-adran (2) gael ei arfer—

(a)os ceir cais ysgrifenedig i gywiro’r gwall oddi wrth unrhyw berson, neu

(b)heb i gais o’r fath gael ei wneud.

(4)Os yw’r ddogfen penderfyniad yn orchymyn cydsyniad seilwaith—

(a)rhaid i’r pŵer a roddir gan is-adran (2) gael ei arfer drwy orchymyn, a

(b)os cynhwysir y gorchymyn sydd i’w gywiro mewn offeryn statudol, mae’r pŵer a roddir gan is-adran (2) i’w arfer drwy offeryn statudol.

(5)Os yw’r ddogfen penderfyniad yn hysbysiad o wrthodiad a roddir i’r ceisydd, rhaid i’r pŵer a roddir gan is-adran (2) gael ei arfer drwy roi hysbysiad i’r ceisydd.

88Cywiro gwallau: rheoliadau

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn i gywiro gwall mewn dogfen penderfyniad, ac mewn cysylltiad â hynny, a chaiff (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth ynghylch—

(a)unrhyw ymgynghoriad y mae rhaid iddo ddigwydd;

(b)yr amgylchiadau pan fo rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad yn egluro’r rhesymau dros gywiro’r gwall.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)effaith gwneud cywiriad o dan adran 87(2) a pheidio â gwneud cywiriad;

(b)pryd y mae cywiriad a wneir o dan adran 87(2) yn cymryd effaith.

Gwneud newidiadau i orchmynion cydsyniad seilwaith a’u dirymu

89Diffiniadau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 90 ac 91.

(2)Ystyr “y ceisydd”, mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith, yw’r person a wnaeth gais am y gorchymyn.

(3)Ystyr “olynydd yn nheitl y ceisydd” yw person—

(a)y mae ei deitl i’r tir yn deillio o’r ceisydd (boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), a

(b)a chanddo fuddiant yn y tir.

(4)Ystyr “y tir”, mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith, yw’r tir y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef neu unrhyw ran o’r tir hwnnw.

90Pŵer i newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith.

(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy newid gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth y caniateir ei gwneud o dan adran 63, yn ddarostyngedig i’r adran hon.

(3)Caniateir arfer y pŵer a roddir gan is-adran (1) ar gais a wneir gan y canlyno‍l—

(a)y ceisydd neu olynydd yn nheitl y ceisydd;

(b)person a chanddo fuddiant yn y tir;

(c)unrhyw berson arall y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael effaith er ei fudd.

(4)Caniateir arfer y pŵer i ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith a roddir gan is-adran (1) yn sgil cais a wneir gan awdurdod cynllunio os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod y gorchymyn cydsyniad seilwaith yn rhoi cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad ar dir y mae’r cyfan ohono neu ran ohono yn ardal yr awdurdod cynllunio,

(b)bod y datblygiad wedi ei ddechrau ond wedi ei adael, ac

(c)bod cyflwr y tir yn cael effaith andwyol ar amwynder tir arall yn ardal yr awdurdod cynllunio neu mewn ardal gydffiniol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod arfer y pŵer ar gais a wneir o dan is-adran (3) neu (4) os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried, yn benodol, y dylai’r datblygiad a fyddai’n cael ei awdurdodi o ganlyniad i’r newid fod, yn briodol, yn destun cais o dan adran 32 am gydsyniad seilwaith.

(6)Caniateir i’r pŵer a roddir gan is-adran (1) gael ei arfer gan Weinidogion Cymru heb i gais gael ei wneud o dan is-adran (3) neu (4).

(7)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1) yn cynnwys pŵer i—

(a)ei gwneud yn ofynnol i symud ymaith neu addasu gwaith adeiladu;

(b)ei gwneud yn ofynnol i roi’r gorau i ddefnydd o dir;

(c)gosod gofynion penodedig mewn cysylltiad â pharhau â defnydd o dir;

(d)gosod gofynion newydd mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn rhoi cydsyniad ar ei gyfer;

(e)dileu neu amrywio gofynion presennol;

(f)gwneud darpariaeth newydd yn ymwneud â’r datblygiad y rhoddir cydsyniad ar ei gyfer, neu faterion sy’n atodol i hynny;

(g)dileu neu amrywio darpariaeth bresennol o’r math hwnnw.

(8)Yn ddarostyngedig i is-adran (7)(a), nid yw arfer y pŵer yn effeithio ar unrhyw waith adeiladu na gweithrediadau eraill a gynhaliwyd yn unol â’r gorchymyn cydsyniad seilwaith cyn i’r pŵer gael ei arfer.

(9)Ni chaniateir i’r pŵer a roddir gan is-adran (1) gael ei arfer mewn perthynas â darpariaeth a gynhwysir mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith yn rhinwedd paragraff 24 neu 25 o Atodlen 1 (trwydded forol dybiedig o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23)).

91Y weithdrefn: newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith

(1)Mewn perthynas â chais o dan adran 90—

(a)rhaid iddo gael ei wneud ar y ffurf a bennir gan reoliadau;

(b)rhaid iddo gael ei wneud yn y modd a bennir mewn rheoliadau;

(c)rhaid i wybodaeth o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau fynd gyda’r cais.

(2)Pan fo gan berson fuddiant ym mheth, ond nid y cyfan, o’r tir y mae gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef, caiff y person wneud cais o dan adran 90 mewn cysylltiad â hynny o’r gorchymyn cydsyniad ag sy’n effeithio ar y tir y mae gan y person fuddiant ynddo yn unig.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith a chaiff (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn cyn i gais o dan adran 90 gael ei wneud;

(b)gwneud cais o’r fath;

(c)y broses o wneud penderfyniad mewn perthynas ag arfer y pŵer a roddir gan adran 90(1);

(d)gwneud y penderfyniad ynghylch a ddylid arfer y pŵer a roddir gan adran 90(1) ai peidio;

(e)effaith penderfyniad i arfer y pŵer yn adran 90(1).

(4)Mae paragraffau (c) i (e) o is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag arfer y pŵer a roddir gan adran 90(1)—

(a)ar gais o dan adran 90, neu

(b)heb i gais gael ei wneud (gweler adran 90(6)).

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) roi swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaeth sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn, i unrhyw berson.

(6)Os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael ei newid neu ei ddirymu wrth arfer y pŵer a roddir gan adran 90(1), rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r newid neu’r dirymiad i—

(a)y ceisydd neu olynydd yn nheitl y ceisydd,

(b)y person a wnaeth y cais o dan adran 90 (os yw’n wahanol i’r person a grybwyllir ym mharagraff (a)), ac

(c)unrhyw berson neu berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(7)Os oedd yn ofynnol i orchymyn cydsyniad seilwaith gael ei gynnwys mewn offeryn statudol, rhaid i orchymyn sy’n newid neu’n dirymu’r gorchymyn cydsyniad seilwaith a wneir wrth arfer y pŵer a roddir gan adran 90(1) hefyd gael ei gynnwys mewn offeryn statudol.

92Newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith: trefniadau ffurfiol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)gorchymyn a wneir o dan adran 87;

(b)hysbysiad a ddyroddir o dan adran 87;

(c)gorchymyn a wneir o dan adran 90.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gorchymyn neu’r hysbysiad (yn ôl y digwydd) yn y modd y maent yn ystyried ei fod yn briodol.

(3)Ond os yw’n ofynnol i’r gorchymyn gael ei gynnwys mewn offeryn statudol (yn rhinwedd adran 87(4) neu adran 91(7)), cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn sy’n cynnwys y gorchymyn gael ei wneud, rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r offeryn gerbron Senedd Cymru.

93Newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith: digolledu

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch digolledu am newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith.

Effaith gorchmynion cydsyniad seilwaith

94Hyd gorchymyn cydsyniad seilwaith

(1)Rhaid i ddatblygiad y rhoddir cydsyniad seilwaith ar ei gyfer gael ei ddechrau cyn diwedd—

(a)y cyfnod penodedig, neu

(b)unrhyw gyfnod arall (boed hwnnw’n gyfnod hirach neu fyrrach na’r cyfnod penodedig) a bennir yn y gorchymyn sy’n rhoi’r cydsyniad.

(2)Os nad yw’r datblygiad wedi ei ddechrau cyn diwedd y cyfnod sy’n gymwys o dan is-adran (1), mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Pan fo gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir yn orfodol, rhaid i gamau o fath a bennir mewn rheoliadau gael eu cymryd mewn perthynas â’r caffaeliad gorfodol cyn diwedd—

(a)y cyfnod penodedig, neu

(b)unrhyw gyfnod arall (boed hwnnw’n gyfnod hirach neu fyrrach na’r cyfnod penodedig) a bennir yn y gorchymyn.

(4)Os na chymerir camau o’r disgrifiad a bennir mewn rheoliadau cyn diwedd y cyfnod sy’n gymwys o dan is-adran (3), mae’r awdurdodiad i gaffael y tir yn orfodol o dan y gorchymyn yn peidio â chael effaith.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod penodedig” yw cyfnod a bennir mewn rheoliadau.

95Pryd y mae datblygiad yn dechrau

(1)At ddibenion‍ adrannau 90 a 94, cymerir bod datblygiad yn dechrau ar y dyddiad cynharaf y mae unrhyw weithrediad perthnasol sy’n ffurfio’r datblygiad, neu a gynhelir at ddibenion y datblygiad, yn dechrau cael ei gynnal.

(2)Ystyr “gweithrediad perthnasol” yw unrhyw weithrediad ac eithrio gweithrediad o fath a bennir mewn rheoliadau.

96Heriau cyfreithiol

(1)Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu gorchymyn cydsyniad seilwaith oni fo—

(a)yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod—

(i)y cyhoeddir y gorchymyn, neu

(ii)os yw’n hwyrach, y diwrnod y cyhoeddir y datganiad o’r rhesymau dros wneud y gorchymyn.

(2)Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu gwrthod cydsyniad seilwaith oni fo—

(a)yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y cyhoeddir y datganiad o’r rhesymau dros y gwrthodiad.

(3)Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu penderfyniad o dan adran 33 i beidio â derbyn cais yn gais dilys am gydsyniad seilwaith oni fo—

(a)yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod yr hysbysir y ceisydd fel sy’n ofynnol gan is-adran (4) o’r adran honno.

(4)Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu penderfyniad o dan adran 87 mewn perthynas â gwall mewn dogfen penderfyniad oni fo—

(a)yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y rhoddir hysbysiad i’r ceisydd o dan adran 87(5) neu, os yw’n ofynnol i’r cywiriad gael ei wneud drwy orchymyn a gynhwysir mewn offeryn statudol, drannoeth y diwrnod y cyhoeddir y gorchymyn.

(5)Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu penderfyniad o dan adran 90(1) i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith oni fo—

(a)yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r newid o dan adran 91(6) neu, os yw’n ofynnol i’r newid neu’r dirymiad gael ei wneud drwy orchymyn a gynhwysir mewn offeryn statudol, drannoeth y diwrnod y cyhoeddir y gorchymyn sy’n gwneud y newid neu’r dirymiad.

(6)Ni chaiff llys ystyried achos i gwestiynu unrhyw beth arall a wneir, neu nas gwneir, gan awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith neu gais i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith oni fo—

(a)yr achos yn cael ei ddwyn drwy gais am adolygiad barnwrol, a

(b)y ffurflen gais wedi ei ffeilio cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau drannoeth y diwrnod perthnasol.

(7)Ystyr “y diwrnod perthnasol” yw—

(a)mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith, y diwrnod—

(i)y tynnir y cais yn ôlׅ,

(ii)y cyhoeddir y gorchymyn cydsyniad seilwaith neu (os yw’n hwyrach) y cyhoeddir y datganiad o’r rhesymau dros wneud y gorchymyn, neu

(iii)y cyhoeddir y datganiad o’r rhesymau dros wrthod cydsyniad seilwaith;

(b)mewn perthynas â chais i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith, diwrnod a bennir mewn rheoliadau.

(8)Nid yw is-adrannau (6) a (7) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)methiant i benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith neu gais i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu

(b)unrhyw beth sy’n gohirio (neu’n debygol o ohirio) y penderfyniad ar y cais hwnnw.

97Budd gorchymyn cydsyniad seilwaith

(1)Os gwneir gorchymyn cydsyniad seilwaith mewn cysylltiad ag unrhyw dir, mae’r gorchymyn yn cael effaith er budd y tir a’r holl bersonau sydd am y tro â buddiant yn y tir.

(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb a wneir yn y gorchymyn.

98Rhwymedigaethau cynllunio

(1)Mae DCGTh 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 106 (rhwymedigaethau cynllunio)—

(a)ar ôl is-adran (1A) mewnosoder—

(1B)In the case of an infrastructure consent obligation, the reference to development in subsection (1)(a) includes anything that constitutes development for the purposes of the Infrastructure (Wales) Act 2024.;

(b)yn is-adran (9) ar ôl paragraff (aa) mewnosoder—

(ab)if the obligation is an infrastructure consent obligation, contains a statement to that effect;;

(c)ar ôl is-adran (14) mewnosoder—

(15)In this section and section 106A “infrastructure consent obligation means a planning obligation entered into in connection with an application (or a proposed application) for an infrastructure consent order.

(3)Yn adran 106A(11) (addasu a gollwng rhwymedigaethau cynllunio: ystyr “the appropriate authority”) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(zaa)the Welsh Ministers, in the case of any infrastructure consent obligation;.

(4)Yn adran 106B(1) (apelau) ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”.

(5)Ar ôl adran 106C mewnosoder—

106DLegal challenges relating to infrastructure consent obligations

(1)This section applies where an application has been made to the Welsh Ministers under section 106A.

(2)A court may entertain proceedings for questioning a failure by the Welsh Ministers to give notice as mentioned in section 106A(7) only if—

(a)the proceedings are brought by a claim for judicial review, and

(b)the claim form is filed before the end of the period of 6 weeks beginning with the day after the day on which the period prescribed under section 106A(7) ends.

(3)A court may entertain proceedings for questioning a determination by the Welsh Ministers that a planning obligation is to continue to have effect without modification only if—

(a)the proceedings are brought by a claim for judicial review, and

(b)the claim form is filed before the end of the period of 6 weeks beginning with the day after the day on which notice of the determination is given under section 106A(7).

99Tir o dan falltod

(1)Mae DCGTh 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 13 (tir o dan falltod)—

(a)ar ôl paragraff 24 mewnosoder—

24ZALand falls within this paragraph if—

(a)the compulsory acquisition of the land is authorised by an infrastructure consent order, or

(b)the land falls within the limits of deviation within which powers of compulsory acquisition conferred by an infrastructure consent order are exercisable, or

(c)an application for an infrastructure consent order seeks authority to compulsorily acquire the land.;

(b)ar ôl paragraff 25 mewnosoder—

Land identified in infrastructure policy statements

26(1)Land falls within this paragraph if the land is in a location identified in an infrastructure policy statement as suitable (or potentially suitable) for a specified kind of development.

(2)Land ceases to fall within this paragraph when the infrastructure policy statement—

(a)ceases to have effect, or

(b)ceases to identify the land as suitable or potentially suitable for that kind of development.

(3)Yn adran 150(1)(b) (hysbysiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i brynu tir o dan falltod)—

(a)yn lle “or paragraph 24 ” rhodder “, paragraph 24 or paragraph‍ 24ZA”;

(b)ar ôl “within paragraph 24(c)” mewnosoder “or‍ 24ZA(c)”.

(4)Yn adran 151 (gwrth-hysbysiadau sy’n gwrthwynebu hysbysiadau malltod) ar ôl is-adran (7A) mewnosoder—

(7B)The grounds on which objection may be made in a counter-notice to a blight notice served by virtue of paragraph 26 of Schedule 13 do not include those mentioned in subsection (4)(b).

(5)Ar ôl adran 165A (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i gaffael tir a bennir mewn datganiadau polisi cenedlaethol pan gyflwynir hysbysiad malltod) mewnosoder—

‍“165BPower of Welsh Ministers to acquire land identified in infrastructure policy statements where blight notice served

Where a blight notice has been served in respect of land falling within paragraph 26 of Schedule 13, the Welsh Ministers have power to acquire compulsorily any interest in the land in pursuance of the blight notice served by virtue of that paragraph.

(6)Yn adran 169 (ystyr “the appropriate authority” at ddibenion Pennod 2 o Ran 6)—

(a)ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(7A)In relation to land falling within paragraph 26 of Schedule 13, “the appropriate authority” is—

(a)if the infrastructure policy statement identifies a statutory undertaker as an appropriate person to carry out the specified description of development in the location, the statutory undertaker;

(b)in any other case, the Welsh Ministers.

(7B)If any question arises by virtue of subsection (7A)—

(a)whether the appropriate authority in relation to any land for the purposes of this Chapter is the Welsh Ministers or a statutory undertaker; or

(b)which of two or more statutory undertakers is the appropriate authority in relation to any land for those purposes, that question must be referred to the Welsh Ministers, whose decision is final.;

(b)yn is-adran (8), yn lle “and (7)” rhodder “, (7), (7A) and (7B)”.

(7)Yn adran 170 (“appropriate enactment” at ddibenion Pennod 2) ar ôl is-adran (8C) mewnosoder—

(8D)In relation to land falling within paragraph‍ 24ZA(a) or (b) of that Schedule, “the appropriate enactment” is the infrastructure consent order.

(8E)In relation to land falling within paragraph‍ 24ZA(c) of that Schedule, “the appropriate enactment” is an infrastructure consent order in the terms of the order applied for.

(8F)In relation to land falling within paragraph 26 of that Schedule, “the appropriate enactment is section 165B.

(8)Yn adran 171(1) (dehongliad cyffredinol o Bennod 2 o Ran 6) yn y lle priodol mewnosoder—

  • “infrastructure policy statement has the meaning given by section 124(2) of the Infrastructure (Wales) Act 2024;.

100Niwsans: awdurdodiad statudol

(1)Mae’r is-adran hon yn rhoi awdurdodiad statudol i—

(a)cynnal datblygiad y rhoddir cydsyniad seilwaith ar ei gyfer;

(b)gwneud unrhyw beth arall a awdurdodir drwy orchymyn cydsyniad seilwaith.

(2)Ni roddir awdurdodiad statudol o dan is-adran (1) ond at y diben o ddarparu amddiffyniad mewn achos sifil neu droseddol am niwsans.

(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb a wneir mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith.

101Digolledu mewn achos pan fo amddiffyniad o awdurdodiad statudol yn gymwys

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os ceir, yn rhinwedd adran 100, neu orchymyn cydsyniad seilwaith, amddiffyniad o awdurdodiad statudol mewn achos sifil neu droseddol am niwsans mewn cysylltiad ag unrhyw waith awdurdodedig.

(2)Ystyr “gwaith awdurdodedig” yw—

(a)datblygiad y rhoddir cydsyniad seilwaith ar ei gyfer;

(b)unrhyw beth arall a awdurdodir drwy orchymyn cydsyniad seilwaith.

(3)Rhaid i berson sy’n cynnal unrhyw waith awdurdodedig, neu y cynhelir unrhyw waith awdurdodedig ar ei ran, ddigolledu unrhyw berson y mae cynnal y gwaith yn cael effaith niweidiol ar ei dir.

(4)Rhaid atgyfeirio anghydfod ynghylch a yw digollediad yn daladwy o dan is-adran (3), neu ynghylch swm y digollediad, i’r Uwch Dribiwnlys.

(5)Mae is-adran (2) o adran 10 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) (“Deddf 1965”) (cyfyngu ar ddigolledu) yn gymwys i is-adran (3) o’r adran hon fel y mae’n gymwys i’r adran honno.

(6)Rhaid i unrhyw reol neu egwyddor a gymhwysir i’r dehongliad o adran 10 o Ddeddf 1965 gael ei chymhwyso i’r dehongliad o is-adran (3) o’r adran hon (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol).

(7)Mae Rhan 1 o Ddeddf Digollediad Tir 1973 (p. 26) (digollediad am ddibrisiant yng ngwerth tir gan ffactorau ffisegol a achosir gan ddefnydd o waith cyhoeddus) yn gymwys mewn perthynas â gwaith awdurdodedig fel pe bai—

(a)cyfeiriadau yn y Rhan honno at unrhyw “public works” yn gyfeiriadau at waith awdurdodedig;

(b)cyfeiriadau yn y Rhan honno at “the responsible authority” yn gyfeiriadau at y person y mae’r gorchymyn seilwaith yn cael effaith er ei fudd am y tro;

(c)adrannau 1(6) a 17 wedi eu hepgor.

(8)Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n cael yr effaith o ddileu neu addasu cymhwysiad unrhyw un neu ragor o is-adrannau (1) i (7).

Dehongli

102Ystyr “tir”

Yn y Rhan hon, mae “tir” yn cynnwys buddiant mewn tir neu hawl drosto.

RHAN 7GORFODI

Troseddau

103Datblygu heb gydsyniad seilwaith

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn cynnal, neu’n peri cynnal, datblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer ar adeg pan na fo cydsyniad seilwaith mewn grym mewn cysylltiad â’r datblygiad.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

104Torri telerau gorchymyn cydsyniad seilwaith

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, heb esgus rhesymol—

(a)yn cynnal, neu’n peri cynnal, datblygiad gan dorri telerau gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu

(b)yn methu fel arall â chydymffurfio â thelerau gorchymyn cydsyniad seilwaith.

(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i adran 83(3).

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)y digwyddodd y toriad neu’r methiant i gydymffurfio oherwydd gwall yn y gorchymyn yn unig, a

(b)bod y gwall wedi ei gywiro o dan adran 87.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

105Terfynau amser

(1)Ni chaniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan adran 103 na 104 ar ôl diwedd—

(a)y cyfnod o 4 blynedd perthnasol, neu

(b)os yw is-adran (3) yn gymwys, y cyfnod estynedig.

(2)Ystyr “y cyfnod o 4 blynedd perthnasol” yw—

(a)yn achos trosedd o dan adran 103, y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd y datblygiad i raddau helaeth;

(b)yn achos trosedd o dan adran 104, y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diweddaraf o’r canlynol—

(i)y diwrnod y cwblhawyd y datblygiad i raddau helaeth, a

(ii)y dyddiad y digwyddodd y toriad neu’r methiant i gydymffurfio.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw, yn ystod y cyfnod o 4 blynedd perthnasol—

(a)hysbysiad gwybodaeth wedi ei roi o dan adran 111, neu

(b)cais am waharddeb wedi ei wneud o dan adran 122.

(4)Ystyr “y cyfnod estynedig” yw’r cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau ag—

(a)y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad gwybodaeth, os yw is-adran (3)(a) yn gymwys;

(b)dyddiad y cais am y waharddeb, os yw is-adran (3)(b) yn gymwys;

(c)y diweddarach (neu’r diweddaraf) o’r dyddiadau hynny, os yw paragraffau (a) a (b) o is-adran (3) yn gymwys.

106Pwerau i fynd ar dir at ddibenion gorfodi

(1)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod cynllunio fynd ar dir yn ardal yr awdurdod i asesu a yw trosedd o dan adran 103 neu 104 yn cael ei chyflawni, neu wedi ei chyflawni, ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir.

(2)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru fynd ar dir yng Nghymru i asesu a yw trosedd o dan adran 103 neu 104 yn cael ei chyflawni, neu wedi ei chyflawni, ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir.

(3)Caniateir i bŵer i fynd ar dir o dan yr adran hon gael ei arfer—

(a)ar unrhyw adeg resymol, a

(b)dim ond os oes sail resymol dros fynd ar y tir at y diben o dan sylw.

(4)Ni chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan yr adran hon fynnu mynediad fel hawl i adeilad a ddefnyddir fel annedd oni roddwyd 24 o oriau o rybudd o’r mynediad bwriadedig i holl feddianwyr yr adeilad.

(5)Os yw person wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan neu ar ran unrhyw un sy’n berchen ar y tir neu’n ei feddiannu, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd arno,

(b)caiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir, ac

(c)rhaid iddo, os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.

107Gwarant i fynd ar dir

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw ynad heddwch wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd ar dir‍ i asesu a yw trosedd o dan adran 103 neu 104 yn cael ei chyflawni, neu wedi ei chyflawni, ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir, a

(b)bod—

(i)mynediad i’r tir wedi ei wrthod neu fod gwrthodiad yn cael ei ddisgwyl yn rhesymol, neu

(ii)yr achos yn un brys.

(2)Caiff yr ynad heddwch ddyroddi gwarant sy’n rhoi pŵer i fynd ar y tir i unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan berson a gaiff awdurdodi mynediad o dan adran 106 at y diben o dan sylw.

(3)At ddibenion is-adran (1)(b) mae mynediad i dir i’w drin fel pe bai wedi ei wrthod os na cheir ateb i gais am fynediad o fewn cyfnod rhesymol.

(4)Mae gwarant o dan yr adran hon yn rhoi pŵer i fynd ar dir—

(a)ar un achlysur yn unig, a

(b)ar adeg resymol yn unig, oni fo’r achos yn un brys.

(5)Os yw person wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan neu ar ran unrhyw berchennog neu unrhyw feddiannydd ar y tir, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd arno,

(b)caiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir, ac

(c)rhaid iddo, os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.

(6)Mae gwarant o dan yr adran hon yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 1 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y’i dyroddir.

108Hawliau mynediad: darpariaethau atodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan berson bŵer i fynd ar dir a roddir gan adran 106 neu drwy warant o dan adran 107.

(2)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol berson sy’n arfer y pŵer mynediad yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Os difrodir tir neu eiddo arall wrth arfer y pŵer mynediad, caiff person sy’n dioddef y difrod adennill digollediad oddi wrth yr awdurdod cynllunio a awdurdododd y mynediad neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru os hwy a awdurdododd y mynediad.

(5)Rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan is-adran (4) yn ysgrifenedig o fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yr achoswyd y difrod (neu os achoswyd y difrod dros fwy nag un diwrnod, y diwrnod olaf y’i hachoswyd).

(6)Mae unrhyw gwestiwn o ran anghydfod ynghylch digollediad o dan is-adran (4) i’w atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys ac i’w benderfynu ganddo.

(7)Mae adran 4 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) (costau) yn gymwys i benderfynu cwestiwn a atgyfeirir o dan is-adran (6) fel y mae’n gymwys i benderfynu cwestiwn o dan adran 1 o’r Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person y gwneir hawliad am ddigollediad oddi wrtho.

109Hawliau mynediad: tir y Goron

Nid yw adrannau 106 na 107 yn gymwys i dir y Goron.

110Pwerau gorfodi morol

Ar ôl adran 243 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) mewnosoder—

243AInfrastructure planning: enforcement in the Welsh inshore region

(1)The Welsh Ministers may appoint persons for the purposes of enforcing the Infrastructure (Wales) Act 2024.

(2)For the purposes referred to in subsection (1), a person appointed under this section has—

(a)the common enforcement powers conferred by this Act;

(b)the power conferred by section 263.

(3)The powers that a person appointed under this section has for the purposes referred to in subsection (1) may be exercised—

(a)in the Welsh inshore region (and in relation to any vessel, aircraft or marine structure in that region);

(b)in Wales.

(4)But the powers which a person appointed under this section has for the purposes referred to in subsection (1) may not be exercised in relation to any British warship.

Hysbysiadau gwybodaeth

111Pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)yr awdurdod cynllunio perthnasol yn ystyried y gallai trosedd o dan adran 103 neu 104 fod wedi ei chyflawni ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir yn ei ardal;

(b)Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai trosedd o dan adran 103 neu 104 fod wedi ei chyflawni ar dir yng Nghymru neu mewn cysylltiad â thir yng Nghymru;

(c)Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai trosedd o dan adran 103 neu 104 fod wedi ei chyflawni yn ardal forol Cymru neu mewn cysylltiad ag ardal forol Cymru.

(2)Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson—

(a)sy’n berchen ar y tir neu’n ei feddiannu neu sydd ag unrhyw fuddiant arall ynddo, neu

(b)sy’n cynnal gweithrediadau ar y tir neu sy’n ei ddefnyddio at unrhyw ddiben.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson—

(a)sy’n berchen ar y tir neu’n ei feddiannu neu sydd ag unrhyw fuddiant arall ynddo,

(b)sy’n cynnal gweithrediadau ar y tir neu sy’n ei ddefnyddio at unrhyw ddiben, neu

(c)sy’n cynnal gweithrediadau yn ardal forol Cymru.

(4)Rhaid i’r hysbysiad gwybodaeth—

(a)pennu’r materion y mae’r awdurdod cynllunio, neu Weinidogion Cymru, yn ystyried y gallent fod yn drosedd, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r person y’i cyflwynir iddo (“y derbynnydd”) roi’r wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, i’r graddau y bo’r derbynnydd yn gallu gwneud hynny.

(5)Yr wybodaeth y caniateir ei phennu yn yr hysbysiad yw gwybodaeth ynghylch—

(a)unrhyw weithrediadau sy’n cael eu cynnal,

(b)unrhyw ddefnydd o dir,

(c)unrhyw weithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal, a

(d)unrhyw fater sy’n ymwneud â darpariaethau gorchymyn cydsyniad seilwaith.

(6)Rhaid i hysbysiad gwybodaeth hysbysu’r person y’i cyflwynir iddo am ganlyniadau tebygol methu ag ymateb i’r hysbysiad ac, yn benodol, y gellir cymryd camau gorfodi.

(7)Rhaid i dderbynnydd hysbysiad gwybodaeth gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad drwy roi’r wybodaeth ofynnol yn ysgrifenedig i’r awdurdod cynllunio perthnasol, neu os rhoddwyd yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru, i Weinidogion Cymru.

112Troseddau o fethu â chydymffurfio â hysbysiadau gwybodaeth

(1)Mae person y mae hysbysiad gwybodaeth wedi ei gyflwyno iddo yn cyflawni trosedd os nad yw, ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, wedi cydymffurfio â gofyniad yn yr hysbysiad.

(2)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1), mae’n amddiffyniad i’r person brofi bod gan y person esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad.

(3)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu gyfnod hwy, a chaniateir iddo gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gwybodaeth drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(5)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad gwybodaeth—

(a)yn darparu gwybodaeth y mae’r person yn gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol, neu

(b)yn ddi-hid, yn darparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod neu ar euogfarn ar dditiad i ddirwy.

Hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig

113Hysbysiad datblygiad anawdurdodedig

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os dyfernir person yn euog o drosedd o dan adran 103 a gyflawnwyd ar unrhyw dir yng Nghymru neu mewn cysylltiad ag unrhyw dir yng Nghymru.

(2)Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig i’r person sy’n pennu’r camau y mae’n ofynnol eu cymryd—

(a)i gael gwared ar y datblygiad, a

(b)i adfer y tir y mae’r datblygiad wedi ei gynnal arno i’w gyflwr cyn i’r datblygiad gael ei gynnal.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys os dyfernir person yn euog o drosedd o dan adran 104 a gyflawnwyd ar unrhyw dir neu mewn cysylltiad ag unrhyw dir yng Nghymru.

(4)Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig i’r person sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person unioni’r toriad neu’r methiant i gydymffurfio.

(5)Rhaid i hysbysiad datblygiad anawdurdodedig bennu’r cyfnod y mae rhaid cymryd unrhyw gamau a bennir yn yr hysbysiad o’i fewn.

(6)Caiff hysbysiad datblygiad anawdurdodedig bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer cymryd camau gwahanol.

(7)Pan fo cyfnodau gwahanol yn gymwys i gamau gwahanol, mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at y cyfnod ar gyfer cydymffurfio â hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, mewn perthynas ag unrhyw gam, yn gyfeiriadau at y cyfnod y mae’n ofynnol cymryd y cam o’i fewn.

(8)Caiff rheoliadau bennu materion ychwanegol y mae rhaid eu pennu mewn hysbysiad datblygiad anawdurdodedig.

Cydymffurfio â hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig

114Gorchymyn i ganiatáu camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig

(1)Caiff perchennog tir wneud cais drwy gŵyn i lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson arall a chanddo fuddiant yn y tir ganiatáu i’r perchennog gymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig.

(2)Caiff y llys wneud gorchymyn o’r fath os yw wedi ei fodloni bod y person arall yn atal y perchennog rhag cymryd camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad.

115Pŵer i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig

(1)Os yw’r cyfnod y mae hysbysiad datblygiad anawdurdodedig yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd o’i fewn wedi dod i ben ac nad yw’r cam wedi ei gymryd, caiff yr awdurdod cynllunio a ddyroddodd yr hysbysiad, neu Weinidogion Cymru, os mai hwy a ddyroddodd yr hysbysiad, ar unrhyw adeg resymol, fynd ar y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a chymryd y cam.

(2)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol berson sy’n arfer pŵer o dan is-adran (1) yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

116Adennill costau cydymffurfio â hysbysiad datblygiad anawdurdodedig

(1)Pan fo awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru yn arfer y pŵer o dan adran 115(1) i fynd ar dir a chymryd cam sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, caiff yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) adennill oddi wrth berson sydd ar y pryd yn berchennog ar y tir y costau y mae’n mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny.

(2)Os yw awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru yn ceisio adennill costau o dan is-adran (1) oddi wrth berchennog ar dir—

(a)y mae ganddo hawlogaeth i gael crogrent y tir dim ond fel asiant neu ymddiriedolwr ar gyfer person arall (y “penadur”), a

(b)nad oes ganddo, ac nad oedd ganddo ar unrhyw adeg ers y diwrnod pan fynnwyd bod y costau yn cael eu talu, ddigon o arian ar ran y penadur i dalu’r costau yn llawn,

mae atebolrwydd yr asiant neu’r ymddiriedolwr wedi ei gyfyngu i gyfanswm yr arian y mae’r asiant neu’r ymddiriedolwr wedi ei gael ar ran y penadur ers y diwrnod hwnnw.

(3)Os yw is-adran (2) yn atal awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru rhag adennill y cyfan o’i gostau neu eu costau oddi wrth asiant neu ymddiriedolwr, caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru adennill y costau oddi wrth y penadur, neu’n rhannol oddi wrth y penadur ac yn rhannol oddi wrth yr asiant neu’r ymddiriedolwr.

(4)Pan fo hysbysiad datblygiad anawdurdodedig wedi ei gyflwyno mewn cysylltiad â datblygiad, mae—

(a)costau y mae perchennog neu feddiannydd y tir yn mynd iddynt at ddiben cydymffurfio â’r hysbysiad, a

(b)symiau y mae perchennog y tir yn eu talu o dan is-adran (1) mewn cysylltiad â chostau y mae’r awdurdod cynllunio perthnasol, neu Weinidogion Cymru, yn mynd iddynt wrth gymryd camau sy’n ofynnol ganddynt,

i’w trin fel pe aed iddynt neu pe baent wedi eu talu at ddefnydd ac ar gais y person a ddyfarnwyd yn euog o’r drosedd o dan adran 103 neu 104.

(5)Mae’r costau y gellir eu hadennill gan awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru o dan is-adran (1), hyd nes iddynt gael eu hadennill, yn bridiant ar y tir y mae’r hysbysiad datblygiad anawdurdodedig yn ymwneud ag ef.

(6)Mae’r pridiant yn cymryd effaith fel pridiant tir lleol ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru yn cwblhau’r cam y mae’r costau’n ymwneud ag ef.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys—

(a)pan fo awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru yn symud ymaith ddeunyddiau o dir wrth gymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, a

(b)pan na fo perchennog y deunyddiau, o fewn 3 diwrnod ar ôl y diwrnod y cânt eu symud ymaith, yn hawlio’r deunyddiau ac yn mynd â hwy i ffwrdd.

(8)Mewn perthynas â’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru—

(a)caiff werthu neu cânt werthu’r deunyddiau, a

(b)os gwneir hynny, rhaid iddo neu iddynt dalu’r enillion i’r person a oedd yn berchen ar y deunyddiau, ar ôl didynnu unrhyw gostau y gall yr awdurdod neu Weinidogion Cymru eu hadennill oddi wrth y person.

(9)Ni chaniateir adennill costau o dan yr adran hon oddi wrth y Goron.

Hysbysiadau stop dros dro

117Pŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro

(1)Caiff awdurdod cynllunio perthnasol ddyroddi hysbysiad stop dros dro os yw’n ystyried—

(a)bod gweithgarwch wedi cael ei gynnal neu yn cael ei gynnal mewn perthynas â thir yn ei ardal sy’n drosedd o dan adran 103 neu 104, a

(b)y dylai’r gweithgarwch (neu unrhyw ran o’r gweithgarwch hwnnw) gael ei stopio ar unwaith.

(2)Rhaid i hysbysiad stop dros dro—

(a)pennu’r gweithgarwch y mae’r awdurdod cynllunio yn ystyried ei fod yn drosedd,

(b)gwahardd cynnal y gweithgarwch (neu ba ran bynnag o’r gweithgarwch a bennir yn yr hysbysiad),

(c)nodi rhesymau’r awdurdod dros ddyroddi’r hysbysiad, a

(d)datgan effaith adran 120 (y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro).

(3)Rhaid i’r awdurdod cynllunio arddangos copi o’r hysbysiad stop dros dro ar y tir y mae’n ymwneud ag ef; a rhaid i’r copi bennu’r dyddiad y caiff ei arddangos am y tro cyntaf.

(4)Ond os nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar y tir, caiff yr awdurdod cynllunio, yn lle hynny, arddangos copi mewn man amlwg mor agos i’r tir ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Caiff yr awdurdod cynllunio gyflwyno copi o hysbysiad stop dros dro i unrhyw berson y mae’r awdurdod yn ystyried—

(a)ei fod yn cynnal y gweithgarwch y mae’r hysbysiad yn ei wahardd,

(b)ei fod yn feddiannydd ar y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef,

(c)bod ganddo fuddiant yn y tir, neu

(d)ei fod yn berson sy’n cael budd o orchymyn cydsyniad seilwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

118Cyfyngiadau ar bŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro

(1)Ni chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd—

(a)defnyddio adeilad fel annedd, na

(b)cynnal gweithgarwch o fath, neu o dan amgylchiadau, a bennir mewn rheoliadau.

(2)Ni chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd cynnal gweithgarwch sydd wedi ei gynnal (boed hynny’n ddi-dor ai peidio) am o leiaf 4 blynedd cyn y diwrnod yr arddangosir copi o’r hysbysiad yn unol ag adran 117 am y tro cyntaf.

(3)Nid yw is-adran (2) yn atal hysbysiad stop dros dro rhag gwahardd—

(a)gweithgarwch sy’n weithrediadau adeiladu, peiriannu neu fwyngloddio neu’n weithrediadau eraill, neu sy’n ddeilliadol i hynny, na

(b)gwaredu gwastraff.

119Hyd etc. hysbysiad stop dros dro

(1)Mae hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith pan arddangosir copi ohono yn unol ag is-adran 117 am y tro cyntaf.

(2)Mae hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod pan arddangosir y copi ohono yn unol ag adran 117 am y tro cyntaf,

(b)os yw’n pennu cyfnod byrrach sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, neu

(c)ar y dyddiad y mae’r llys yn caniatáu gwaharddeb o dan adran 122.

(3)Ond os yw’r awdurdod cynllunio yn tynnu’r hysbysiad yn ôl cyn diwedd y cyfnod y byddai fel arall yn cael effaith ar ei gyfer, mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith pan gaiff ei dynnu’n ôl.

(4)Ni chaiff awdurdod cynllunio ddyroddi ail hysbysiad stop dros dro na hysbysiad stop dros dro dilynol mewn perthynas â’r un gweithgarwch oni fo’r awdurdod, ers dyroddi’r hysbysiad blaenorol, wedi cymryd camau gorfodi eraill mewn perthynas â’r gweithgarwch y cyfeirir ato yn adran 117(1).

(5)Yn is-adran (4) mae’r cyfeiriad at gymryd camau gorfodi eraill yn gyfeiriad at—

(a)dyroddi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig o dan adran 113;

(b)cael gwaharddeb o dan adran 122.

120Y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, ar unrhyw adeg pan fydd hysbysiad stop dros dro yn cael effaith, yn cynnal gweithgarwch sydd wedi ei wahardd gan yr hysbysiad neu’n peri neu’n caniatáu i weithgarwch o’r fath gael ei gynnal.

(2)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu gyfnod hwy, a chaniateir iddo gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad stop dros dro drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad stop dros dro i’r person, a

(b)nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn resymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

121Digollediad am golled o ganlyniad i hysbysiad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)gweithgarwch a bennir mewn hysbysiad stop dros dro, ar yr adeg y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith, wedi ei awdurdodi drwy orchymyn cydsyniad seilwaith a roddwyd cyn y dyddiad y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith, neu

(b)awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu’n ôl hysbysiad stop dros dro ar ôl iddo gymryd effaith.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b) pan fo—

(a)gweithgarwch a bennir yn yr hysbysiad stop dros dro wedi ei awdurdodi drwy orchymyn cydsyniad seilwaith a roddir ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith neu ar ôl hynny, neu

(b)yr awdurdod cynllunio yn tynnu’r hysbysiad yn ôl ar ôl i’r cydsyniad hwnnw gael ei roi.

(3)Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio perthnasol, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad.

(4)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir drwy gymryd camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.

(5)Nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad â gwahardd gweithgarwch sydd, ar unrhyw adeg y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cael effaith, yn drosedd neu’n cyfrannu at drosedd o adan 103 neu 104.

(6)Nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon am golled neu ddifrod y gallai’r hawlydd fod wedi ei hosgoi neu ei osgoi drwy—

(a)darparu gwybodaeth yr oedd hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod cynllunio o dan adran 111 o’r Ddeddf hon neu adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p. 57) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hawlydd ei darparu, neu

(b)cydweithredu â’r awdurdod cynllunio mewn unrhyw ffordd arall wrth ymateb i’r hysbysiad.

(7)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 12 mis sy’n dechrau—

(a)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(a) ond nid o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith;

(b)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

122Gwaharddeb i atal gweithgarwch gwaharddedig

(1)Caiff awdurdod cynllunio wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal gweithgarwch gwirioneddol neu ddisgwyliedig sy’n drosedd o dan adran 103 neu 104 mewn perthynas â thir yn ardal yr awdurdod cynllunio.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal gweithgarwch gwirioneddol neu ddisgwyliedig sy’n drosedd o dan adran 103 neu 104 mewn perthynas â thir yng Nghymru.

(3)Ar gais o dan yr adran hon caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y gweithgarwch.

(4)Ni chaniateir dyroddi gwaharddeb o dan yr adran hon yn erbyn y Goron.

Cyffredinol

123Ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol”

Yn y Rhan hon, yr awdurdod cynllunio perthnasol mewn perthynas ag unrhyw dir yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal y lleolir y tir ynddi.

RHAN 8SWYDDOGAETHAU ATODOL

Ffioedd

124Ffioedd am gyflawni swyddogaethau a darparu gwasanaethau cydsyniad seilwaith

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer codi ffioedd ac mewn cysylltiad â chodi ffioedd gan—

(a)awdurdod cyhoeddus penodedig am gyflawni swyddogaeth cydsyniad seilwaith;

(b)awdurdod cyhoeddus penodedig am ddarparu gwasanaeth cydsyniad seilwaith.

(2)Ystyr “swyddogaeth cydsyniad seilwaith” yw swyddogaeth a roddir gan y Ddeddf hon, odani neu yn ei rhinwedd.

(3)Ystyr “gwasanaeth cydsyniad seilwaith” yw unrhyw gyngor, gwybodaeth neu gymorth arall (gan gynnwys ymateb i ymgynghoriad neu gymryd rhan mewn archwiliad o gais drwy lunio cyflwyniad ysgrifenedig, bod yn bresennol neu roi tystiolaeth mewn gwrandawiad neu fod yn bresennol neu roi tystiolaeth mewn ymchwiliad lleol) a ddarperir mewn cysylltiad ag—

(a)cais neu gais arfaethedig—

(i)am gydsyniad seilwaith, neu

(ii)i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu

(b)unrhyw fater penodedig arall sy’n ymwneud â phrosiectau seilwaith arwyddocaol.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)pryd y caniateir, a phryd na chaniateir, codi ffi (gan gynnwys ffi atodol);

(b)y swm y caniateir ei godi (gan gynnwys darpariaeth sy’n pennu’r swm neu ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i bennu’r swm);

(c)yr hyn y caniateir, a’r hyn na chaniateir, ei ystyried wrth gyfrifo’r swm a godir;

(d)pwy sy’n agored i dalu ffi a godir;

(e)i bwy y telir ffioedd;

(f)pryd y mae ffi a godir yn daladwy;

(g)adennill ffioedd a godir;

(h)ildio, lleihau neu ad-dalu ffioedd;

(i)effaith talu neu fethu â thalu ffioedd a godir (gan gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i awdurdod cyhoeddus a bennir o dan is-adran (1) beidio â gwneud rhywbeth y byddai’n ofynnol i’r awdurdod ei wneud fel arall o dan ddeddfiad hyd nes y telir unrhyw ffioedd sydd heb eu talu am ei wneud);

(j)trosglwyddo ffioedd sy’n daladwy i un person i berson arall;

(k)cyflenwi neu gyhoeddi gwybodaeth at unrhyw un neu ragor o ddibenion y rheoliadau.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) roi swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaeth sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn, i unrhyw berson.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a) ddarparu bod symiau ffioedd i’w cyfrifo drwy gyfeirio at y costau yr eir iddynt—

(a)wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth cydsyniad seilwaith, a

(b)wrth wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso cyflawni unrhyw swyddogaeth cydsyniad seilwaith, neu sy’n ffafriol neu’n ddeilliadol i’w chyflawni.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau.

Hawl mynediad

125Pwerau mynediad i gynnal arolwg o dir

(1)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru fynd ar dir ar unrhyw adeg resymol at ddiben cynnal arolwg o dir a chymryd lefelau‍ o dir, mewn cysylltiad ag‍—

(a)cais dilys am gydsyniad seilwaith,

(b)cais arfaethedig am gydsyniad seilwaith, neu

(c)gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael yn orfodol y tir hwnnw neu fuddiant ynddo neu hawl drosto.

(2)Ni chaniateir i Weinidogion Cymru roi awdurdodiad o dan is-adran (1)(b) mewn perthynas â thir oni fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod y ceisydd arfaethedig yn ystyried prosiect o sylwedd gwirioneddol y mae gwir angen mynd ar y tir ar ei gyfer.

(3)Mewn perthynas â pherson a awdurdodir i fynd ar dir o dan is-adran (1)—

(a)rhaid iddo, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person, a datgan diben mynd ar y tir, cyn mynd arno,

(b)ni chaiff fynnu cael mynediad fel hawl i unrhyw dir sydd wedi ei feddiannu oni roddwyd 14 o ddiwrnodau o rybudd o’r mynediad bwriadedig i’r meddiannydd,‍

(c)caiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir,

(d)rhaid iddo, os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno, ac

(e)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw amodau eraill y rhoddir awdurdodiad Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig iddynt.

(4)Mae pŵer a roddir gan is-adran (1) i gynnal arolwg o dir yn cynnwys pŵer i chwilio a thurio i ganfod natur yr isbridd neu i ganfod a oes mwynau neu sylweddau eraill ynddo, yn ddarostyngedig i is-adrannau (5) a (6).

(5)Ni chaiff person o dan is-adran (1) wneud unrhyw waith a awdurdodir yn rhinwedd is-adran (4) oni chynhwyswyd hysbysiad o fwriad y person i wneud hynny yn yr hysbysiad sy’n ofynnol gan is-adran (3)(b).

(6)Mae awdurdodiad y Gweinidog priodol yn ofynnol er mwyn o dan is-adran (1) wneud gwaith a awdurdodir yn rhinwedd is-adran (4)—

(a)os yw’r tir o dan sylw yn cael ei ddal gan ymgymerwyr statudol, a

(b)os ydynt yn gwrthwynebu’r gwaith arfaethedig ar y sail y byddai cyflawni’r gwaith yn ddifrifol niweidiol i gynnal eu hymgymeriad.

(7)Yn is-adran (6)—

  • ystyr “y Gweinidog priodol” (“the appropriate Minister”) yw—

    (a)

    yn achos tir yng Nghymru a ddelir gan ymgymerwyr dŵr neu garthffosiaeth, Gweinidogion Cymru, a

    (b)

    mewn unrhyw achos arall, yr Ysgrifennydd Gwladol;

  • ystyr “ymgymerwyr statudol” (“statutory undertakers”) yw personau sydd, neu y tybir eu bod, yn ymgymerwyr statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 11 o DCGTh 1990.

(8)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn rhwystro’n fwriadol berson sy’n gweithredu wrth arfer pŵer o dan is-adran (1).

(9)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (8) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(10)Os perir unrhyw ddifrod i dir neu eiddo arall—

(a)wrth arfer pŵer mynediad a roddir o dan is-adran (1), neu

(b)wrth gynnal arolwg y rhoddwyd unrhyw bŵer mynediad o’r fath at ei ddiben,

caiff person sy’n dioddef y difrod adennill digollediad oddi wrth y person sy’n arfer y pŵer mynediad.

(11)Rhaid i unrhyw gwestiwn ynghylch digollediad y ceir anghydfod yn ei gylch o dan is-adran (10) gael ei atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys a’i benderfynu ganddo.

126Pwerau mynediad i gynnal arolwg o dir: tir y Goron

(1)Mae adran 125(1) yn gymwys i dir y Goron yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3).

(2)Ni chaiff person fynd ar dir y Goron oni fo’r person (“P”) wedi cael caniatâd—

(a)person yr ymddengys i P fod ganddo hawl i’w roi, neu

(b)awdurdod priodol y Goron.

(3)Yn adran 125(4) (pŵer mynediad i gynnal arolwg o dir yn cynnwys pŵer i chwilio a thurio), nid yw’r geiriau “yn ddarostyngedig i is-adrannau (5) a (6)” yn gymwys.

(4)Nid yw is-adrannau‍ (3)(b), (5), (6), (8) a (9) o adran 125 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir yn rhinwedd yr adran hon.

Datganiadau polisi seilwaith

127Datganiadau polisi seilwaith

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ddynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith at ddibenion y Ddeddf hon, os yw’r ddogfen—

(a)yn cael ei dyroddi gan Weinidogion Cymru, a

(b)yn nodi polisi i lywio’r broses o wneud penderfyniadau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag un math o brosiect seilwaith arwyddocaol neu ragor.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “datganiad polisi seilwaith” yw dogfen a ddynodir o dan is-adran (1).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dynnu yn ôl ddynodiad dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith drwy hysbysiad ysgrifenedig‍.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru—

(a)pob hysbysiad sy’n dynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith;

(b)pob hysbysiad bod dynodiad dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith yn cael ei dynnu yn ôl.

(5)Os nad yw dogfen a ddynodir yn ddatganiad polisi seilwaith wedi ei chyhoeddi yn flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ei chyhoeddi.

(6)Os nad yw dogfen a ddynodir yn ddatganiad polisi seilwaith wedi ei gosod gerbron Senedd Cymru yn flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ei gosod gerbron y Senedd.

Cofrestr o geisiadau a gwasanaethau cyn gwneud cais

128Cofrestr o geisiadau a gwasanaethau cyn gwneud cais

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o—

(a)ceisiadau am gydsyniad seilwaith y maent wedi eu cael;

(b)ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y maent wedi eu cael;

(c)gwasanaethau cyn gwneud cais y maent wedi eu darparu.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn cael cais dilys am gydsyniad seilwaith, rhaid iddynt beri bod manylion y cais yn cael eu cofnodi ar y gofrestr.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn cael cais am wasanaethau cyn gwneud cais, rhaid iddynt beri bod manylion y cais yn cael eu cofnodi ar y gofrestr.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn darparu gwasanaethau cyn gwneud cais, rhaid iddynt beri bod manylion y gwasanaethau a ddarparwyd yn cael eu cofnodi ar y gofrestr.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gofrestr.

(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol,‍ neu mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol, i bob awdurdod cynllunio gynnal cofrestr o—

(a)ceisiadau am gydsyniad seilwaith y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cael ar gyfer datblygiad sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal yr awdurdod cynllunio;

(b)ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y mae’r awdurdod cynllunio wedi eu cael;

(c)gwasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd gan yr awdurdod cynllunio.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol, neu mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol, i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal cofrestr o—

(a)ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi eu cael;

(b)gwasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

(8)Caiff rheoliadau, mewn perthynas â chofrestr y mae’n ofynnol ei chynnal gan yr adran hon neu odani, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys cofrestr;

(b)galluogi’r cyhoedd i weld dogfennau sy’n ymwneud â chofnodion ar y gofrestr, gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r dogfennau gael eu hadneuo, eu storio a bod ar gael i edrych arnynt fel cyfleuster o’r gofrestr;

(c)amseriad ychwanegu cofnodion at y gofrestr.

Ymgyngoreion statudol

129Pŵer i ymgynghori a dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod archwilio ymgynghori ag awdurdod cyhoeddus a bennir mewn rheoliadau ynghylch cais dilys am gydsyniad seilwaith.

(2)Rhaid i’r awdurdod cyhoeddus yr ymgynghorir ag ef roi ymateb o sylwedd.

(3)Rhaid rhoi’r ymateb hwnnw cyn diwedd—

(a)cyfnod a bennir mewn rheoliadau, neu

(b)os yw’r awdurdod a Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod archwilio (yn ôl y digwydd) yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig, pa gyfnod bynnag a bennir yn eu cytundeb.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)ynghylch gwybodaeth sydd i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu awdurdod archwilio i awdurdod at ddibenion ymgynghoriad o dan is-adran (1);

(b)ynghylch gofynion ymateb o sylwedd;

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod yr ymgynghorir ag ef o dan is-adran (1) roi adroddiad i Weinidogion Cymru ynghylch cydymffurfedd yr awdurdod ag is-adran (2) (gan gynnwys darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys yr adroddiad, a phryd y mae i’w wneud).

Cyfarwyddydau Gweinidogion Cymru

130Cyfarwyddydau i awdurdodau cyhoeddus

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus y mae’r adran hon yn gymwys iddo wneud pethau mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys i’r awdurdodau cyhoeddus a ganlyn—

(a)awdurdod cynllunio;

(b)Cyfoeth Naturiol Cymru;

(c)awdurdod Cymreig datganoledig a bennir mewn rheoliadau.

(3)Caiff cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)ymwneud â chais penodol neu ddisgrifiad o gais, neu geisiadau yn gyffredinol;

(b)cael ei roi i awdurdod cyhoeddus penodol neu ddisgrifiad o awdurdod cyhoeddus neu i awdurdodau cyhoeddus yn gyffredinol.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adennill costau, ac mewn cysylltiad ag adennill costau, y mae awdurdodau cyhoeddus wedi mynd iddynt am bethau a wneir yn unol â chyfarwyddydau o dan yr adran hon.

131Pŵer i ddatgymhwyso gofynion

(1)Caiff rheoliadau ddarparu pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw gofynion a osodir gan y Ddeddf hon, odani neu yn ei rhinwedd yn gymwys mewn achos a bennir yn y cyfarwyddyd.

(2)Mewn perthynas â’r rheoliadau—

(a)rhaid iddynt bennu’r gofynion y caniateir eu datgymhwyso gan gyfarwyddyd;

(b)rhaid iddynt ei gwneud yn ofynno‍l i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud cyfarwyddyd—

(i)cyhoeddi’r cyfarwyddyd, a

(ii)gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru yn egluro ei effaith a pham y’i gwnaed;

(c)cânt awdurdodi cyfarwyddydau i fod yn gymwys mewn achos penodol neu i achosion yn gyffredinol.

Rheoliadau ar geisiadau’r Goron

132Ceisiadau gan y Goron

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gais a wneir gan y Goron neu ar ei rhan am gydsyniad seilwaith neu i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith (“cais gan y Goron”).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau addasu neu eithrio unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon) sy’n ymwneud ag—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn cyn i gais gan y Goron gael ei wneud;

(b)gwneud cais gan y Goron;

(c)y broses o wneud penderfyniad ar gyfer cais o’r fath.

RHAN 9DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Datblygiad

133Ystyr “datblygiad”

(1)Yn y Ddeddf hon, mae i “datblygiad” yr un ystyr â “development” yn DCGTh 1990, yn ddarostyngedig i is-adrannau (2), (3) a (4).

(2)At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)mae trosi gorsaf gynhyrchu gyda’r bwriad y bydd petroliwm hylifol crai, cynnyrch petroliwm neu nwy naturiol yn dod yn danwydd ar ei chyfer yn cael ei drin fel newid sylweddol yn y defnydd o’r orsaf gynhyrchu;

(b)mae cynyddu’r defnydd a ganiateir o faes awyr yn cael ei drin fel newid sylweddol yn y defnydd o’r maes awyr.

(3)At ddibenion y Ddeddf hon, cymerir bod y gwaith a ganlyn yn ddatblygiad (i’r graddau na fyddai’n ddatblygiad fel arall)—

(a)gwaith i ddymchwel adeilad rhestredig neu ei addasu neu ei estyn mewn modd a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;

(b)gwaith i ddymchwel adeilad mewn ardal gadwraeth;

(c)gwaith sy’n arwain at ddymchwel neu ddinistrio heneb gofrestredig, neu at unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig;

(d)gwaith at ddiben symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni neu wneud unrhyw addasiadau i heneb gofrestredig neu unrhyw ychwanegiadau ati, neu unrhyw ran ohoni;

(e)gweithrediadau i foddi tir, neu weithrediadau tipio ar dir, y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, mae “datblygiad” yn cynnwys gweithrediadau a newidiadau defnydd yn y môr ac mewn ardaloedd eraill sydd wedi eu gorchuddio â dyfroedd.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “a ganiateir” (“permitted”) yw wedi ei ganiatáu gan ganiatâd cynllunio neu gydsyniad seilwaith;

  • mae i “adeilad rhestredig” (“listed building”) yr ystyr a roddir gan adran 76 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3);

  • ystyr “ardal gadwraeth” (“conservation area”) yw ardal sydd wedi ei dynodi o dan adran 158 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;

  • mae i “cynhyrchion petroliwm” yr ystyr a roddir i “petroleum products” gan adran 21 o Ddeddf Ynni 1976 (p. 76);

  • mae i “gweithrediadau i foddi tir” (“flooding operations”) yr ystyr a roddir gan adran 75(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;

  • mae i “gweithrediadau tipio” (“tipping operations”) yr ystyr a roddir gan adran 75(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;

  • mae i “heneb gofrestredig” (“scheduled monument”) yr ystyr a roddir gan adran 3(7) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

Tir y Goron

134Tir y Goron ac “awdurdod priodol y Goron”

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “tir y Goron” yw tir y ceir buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth ynddo.

(3)Ystyr “buddiant y Goron” yw buddiant—

(a)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Ei ystadau preifat, neu

(b)sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

(4)Ystyr “buddiant y Ddugiaeth” yw—

(a)buddiant sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu

(b)buddiant sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.

(5)Ystyr “awdurdod priodol y Goron”, mewn perthynas â thir y Goron, yw—

(a)yn achos tir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystad y Goron, Comisiynwyr Ystad y Goron;

(b)mewn perthynas ag unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron, yr adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir;

(c)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Ei ystadau preifat, person a benodir gan Ei Fawrhydi yn ysgrifenedig o dan y Llofnod Brenhinol neu, os na wneir unrhyw benodiad o’r fath, Gweinidogion Cymru;

(d)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, Canghellor y Ddugiaeth;

(e)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw, person a benodir gan Ddug Cernyw neu gan berson sy’n meddu ar y Ddugiaeth am y tro;

(f)yn achos tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yr adran.

(6)Mae “y Goron” i’w drin fel pe bai’n cynnwys Comisiwn y Senedd.

(7)Rhaid atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi ynghylch pwy yw awdurdod priodol y Goron mewn perthynas ag unrhyw dir i’r Trysorlys, y mae ei benderfyniad yn derfynol.

(8)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at ystadau preifat Ei Fawrhydi i’w darllen yn unol ag adran 1 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37);

(b)mae cyfeiriadau at adran o’r llywodraeth yn cynnwys Gweinidog y Goron a Chomisiwn y Senedd (a gweler adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), sy’n darparu bod cyfeiriadau at adran o’r llywodraeth yn cynnwys Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol).

Troseddau

135Troseddau gan gyrff corfforedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i drosedd o dan adrannau 28, 103, 104, 112 a 120.

(2)Pan gyflawnir y drosedd gan gorff corfforedig a phan brofir ei bod wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)uwch-swyddog i’r corff, neu

(b)person a oedd yn honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff,

mae’r uwch-swyddog neu’r person (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd, ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(4)Ond yn achos corff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, ystyr “cyfarwyddwr” yw aelod o’r corff.

Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill

136Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon neu ddarpariaeth a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol i berson neu’n awdurdodi person i—

(a)hysbysu person arall am rywbeth, neu

(b)rhoi dogfen i berson arall (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu “rhoi” neu derm arall).

(2)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen arall i’r person o dan sylw—

(a)drwy ei draddodi neu ei thraddodi i’r person, neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, ei draddodi neu ei thraddodi i ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;

(b)drwy ei adael neu ei gadael ym man preswylio arferol neu fan preswylio hysbys diwethaf y person neu, os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, yn y cyfeiriad hwnnw,

(c)drwy ei anfon neu ei hanfon drwy’r post mewn llythyr rhagdaledig—

(i)wedi ei gyfeirio at y person ym man preswylio arferol neu fan preswylio hysbys diwethaf y person, neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, wedi ei gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;

(ii)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, wedi ei gyfeirio at y person yn y cyfeiriad hwnnw;

(d)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, drwy ei anfon neu ei hanfon at y person yn y cyfeiriad hwnnw gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig sy’n cydymffurfio â’r amodau yn is-adran (3);

(e)drwy unrhyw ddull arall a bennir mewn rheoliadau.

(3)Yr amodau yw—

(a)bod modd i’r person yr anfonir y ddogfen ato gael gafael ar y ddogfen,

(b)bod y ddogfen yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac

(c)bod modd defnyddio’r ddogfen i gyfeirio ati yn nes ymlaen.

(4)Cydymffurfir â gofyniad i roi mwy nag un copi o ddogfen i berson drwy anfon un copi yn unig o’r ddogfen at y person ar ffurf electronig, oni fo’r ddarpariaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r copïau gael eu rhoi ar ffurf copi caled.

(5)At ddibenion yr adran hon prif swyddfa cwmni sy’n gofrestredig y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig.

(6)Mae hysbysiad neu ddogfen arall a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad y person o dan is-adran (2)(b) i’w drin neu i’w thrin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi ar yr adeg y’i gadawyd yn y cyfeiriad hwnnw.

(7)Mae hysbysiad neu ddogfen arall a roddir i berson drwy ei anfon neu ei hanfon ar ffurf electronig yn unol â’r adran hon i’w drin neu i’w thrin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod yr anfonwyd y cyfathrebiad electronig.

(8)Nid yw is-adran (2)(c) a (d) yn gymwys i roi—

(a)hysbysiad o dan adran 106(4) (hysbysiad o fwriad i fynd ar dir heb warant);

(b)hysbysiad o dan adran 111 (hysbysiadau gwybodaeth);

(c)hysbysiad o dan adran 113 (hysbysiad datblygiad anawdurdodedig).

(9)Gweler adran 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) am ddarpariaeth ychwanegol ynghylch y dulliau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gyflwyno dogfennau.

137Rhoi hysbysiad etc. i bersonau sy’n meddiannu tir neu sydd â buddiant mewn tir

(1)Mae’r adran hon (yn ogystal ag adran 136) yn gymwys pan fo darpariaeth a gynhwysir yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi i hysbysiad neu ddogfen gael ei roi neu ei rhoi—

(a)i berson a chanddo fuddiant mewn tir, neu

(b)i berson fel meddiannydd tir.

(2)Pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall i’w roi neu i’w rhoi i berson a chanddo fuddiant mewn tir, ac na ellir darganfod enw’r person ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyfeirio’r hysbysiad neu’r ddogfen at y person fel “perchennog” y tir, gan ddisgrifio’r tir.

(3)Pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall i’w roi neu i’w rhoi i berson fel meddiannydd tir caniateir ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y person wrth ei enw neu fel “meddiannydd” y tir, gan ddisgrifio’r tir.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—

(a)pan—

(i)bo hysbysiad neu ddogfen arall i’w roi neu i’w rhoi i berson a chanddo fuddiant mewn tir,

(ii)na ellir darganfod man preswylio arferol na man preswylio hysbys diwethaf y person ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, a

(iii)nad yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno’r ddogfen, neu

(b)pan fo dogfen i’w rhoi i berson fel meddiannydd tir.

(5)Rhoddir yr hysbysiad neu’r ddogfen arall at ddiben y Ddeddf hon os yw wedi ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y person, wedi ei farcio neu ei marcio’n glir fel cyfathrebiad pwysig sy’n effeithio ar eiddo’r person, a’i fod neu ei bod—

(a)wedi ei anfon neu ei hanfon i’r tir drwy’r post ac nad yw wedi ei ddychwelyd neu ei dychwelyd fel hysbysiad neu ddogfen nas danfonwyd,

(b)wedi ei draddodi neu ei thraddodi i berson sy’n preswylio neu’n cael ei gyflogi, neu yr ymddengys ei fod yn preswylio neu’n cael ei gyflogi, yn y tir neu ar y tir, neu

(c)wedi ei osod neu ei gosod yn sownd mewn lle amlwg i’r tir neu i wrthrych ar y tir neu gerllaw iddo.

138Cyflwyno dogfennau i’r Goron

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth a gynhwysir yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad neu ddogfen arall gael ei roi neu ei rhoi i’r Goron.

(2)Rhaid rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen arall i awdurdod priodol y Goron.

(3)Nid yw adrannau 136 na 137 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dulliau cyflwyno) yn gymwys.

(4)Yn yr adran hon, mae “y Goron” yn cynnwys—

(a)Dugiaeth Caerhirfryn;

(b)Dugiaeth Cernyw.

Cyffredinol

139Dyletswyddau i gyhoeddi

(1)Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi rhywbeth, rhaid iddo gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig.

(2)Pan fo gan y person wefan, mae’r ddyletswydd i gyhoeddi ar ffurf electronig yn ddyletswydd i gyhoeddi ar y wefan honno.

(3)Nid oes unrhyw beth yn yr adran hon yn rhwystro’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd rhag cyhoeddi mewn modd arall yn ogystal â chyhoeddi ar ffurf electronig.

140Rheoliadau a gorchmynion: cyfyngiadau

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i—

(a)rheoliadau o dan adran 30, adran 34, adran 35, adran 48(6), adran 63(5), adran 91(3), adran 124 ac adran 129;

(b)gorchmynion cydsyniad seilwaith a gorchmynion o dan adran 90.

(2)Caiff rheoliadau a gorchmynion—

(a)cynnwys darpariaeth y byddai cydsyniad y Gweinidog priodol yn ofynnol ar ei chyfer o dan baragraff 8(1)(a) neu (c), 10 neu 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru;

(b)cynnwys darpariaeth y byddai’n ofynnol ymgynghori â’r Gweinidog priodol yn ei chylch o dan baragraff 11(2) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.

(3)Ni chaiff rheoliadau a gorchmynion o dan y Ddeddf hon, ac eithrio rheoliadau a gorchmynion y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt i’r graddau y maent yn gwneud darpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)—

(a)cynnwys darpariaeth y byddai cydsyniad y Gweinidog priodol yn ofynnol ar ei chyfer o dan baragraff 8, 10 neu 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru;

(b)cynnwys darpariaeth y byddai’n ofynnol ymgynghori â’r Gweinidog priodol yn ei chylch o dan baragraff 11(2) neu (2A) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.

(4)Yn yr adran hon, mae i “Gweinidog priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate Minister” gan baragraff 8(5) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

141Rheoliadau: y weithdrefn

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;

(b)darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni fo drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 17;

(b)adran 21;

(c)adran 22(2)(c);

(d)adran 55(1);

(e)adran 58(3);

(f)adran 59(6);

(g)adran 63(5);

(h)adran 124;

(i)adran 130;

(j)adran 131;

(k)adran 132;

(l)adran 144, ond dim ond pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu Ddeddf neu Fesur gan Senedd Cymru;

(m)paragraff 2(1) o Atodlen 2.

(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

142Cyfarwyddydau: cyffredinol

Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan y Ddeddf hon neu yn ei rhinwedd fod yn ysgrifenedig.

143Dehongli cyffredinol

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “adeilad” yr ystyr a roddir i “building” gan adran 336(1) o DCGTh 1990;

  • mae i “adeiladu”, mewn perthynas â hynny o orsaf gynhyrchu sy’n weithfeydd ynni adnewyddadwy, neu sydd i fod yn weithfeydd ynni adnewyddadwy, yr un ystyr ag a roddir i “construction” ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) (gweler adran 104 o’r Ddeddf honno) (a rhaid darllen ymadroddion perthynol yn unol â hynny); ac yn y diffiniad hwn mae i “gweithfa ynni adnewyddadwy” yr un ystyr ag a roddir i “renewable energy installation” ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) (gweler adran 104 o’r Ddeddf honno);

  • mae i “adroddiad ar yr effaith leol” (“local impact report”) yr ystyr a roddir gan adran 36(4);

  • mae i “adroddiad effaith ar y môr” (“marine impact report”) yr ystyr a roddir gan adran 37(4);

  • rhaid i “addasu” (“alteration”), mewn perthynas â maes awyr, gael ei ddarllen yn unol ag adran 11(4);

  • mae “addasu” (“alteration”), mewn perthynas â phriffordd, yn cynnwys cau’r briffordd neu ei dargyfeirio, ei gwella, ei chodi neu ei gostwng;

  • ystyr “ardal forol Cymru” (“Welsh marine area”) yw’r môr sy’n gyfagos i Gymru hyd at derfyn atfor y môr tiriogaethol; ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672);

  • mae i “awdurdod archwilio” (“examining authority”) yr ystyr a roddir gan adran 40(7);

  • ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw unrhyw berson sydd ag unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus;

  • mae i “awdurdod Cymreig datganoledig” yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

  • ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ran 1 o DCGTh 1990 ar gyfer ardal yng Nghymru;

  • mae i “awdurdod priffyrdd” yr un ystyr ag a roddir i “highway authority” yn Neddf Priffyrdd 1980 (p. 66) (gweler adrannau 1 i 3 o’r Ddeddf honno);

  • ystyr “caniatâd cynllunio” (“planning permission”) yw caniatâd o dan Ran 3 o DCGTh 1990;

  • ystyr “cefnffordd” (“trunk road”) yw priffordd sy’n gefnffordd yn rhinwedd—

    (a)

    adran 10(1) neu 19 o Ddeddf Priffyrdd 1980,

    (b)

    gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan adran 10 o’r Ddeddf honno, neu

    (c)

    gorchymyn cydsyniad seilwaith,

  • neu o dan unrhyw ddeddfiad arall;

  • ystyr “cydsyniad adran 20” (“section 20 consent”) yw caniatâd, awdurdodiad, cydsyniad, gorchymyn neu gynllun a grybwyllir yn adran 20 (effaith gofyniad am gydsyniad seilwaith ar gyfundrefnau cydsynio eraill);

  • ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw’r cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 19;

  • rhaid darllen “cyfleuster LNG” (“LNG facility”) yn unol ag adran 3;

  • ystyr “cyfnewidfa nwyddau rheilffordd” (“rail freight interchange”) yw cyfleuster i drosglwyddo nwyddau rhwng rheilffordd a ffordd, neu rhwng rheilffordd a math arall o drafnidiaeth;

  • ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70));

  • mae i “datblygiad” (“development”) yr ystyr a roddir gan adran 133;

  • mae i “datganiad polisi seilwaith” (“infrastructure policy statement”) yr ystyr a roddir gan adran 127(2);

  • ystyr “DCGTh 1990” (“TCPA 1990”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

  • mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys unrhyw ddeddfiad pryd bynnag y caiff ei basio neu y’i gwneir;

  • mae i “defnyddio” yr ystyr a roddir i “use” gan adran 336(1) o DCGTh 1990;

  • mae i “estyniad”, mewn perthynas â gorsaf gynhyrchu, yr ystyr a roddir i “extension” gan adran 36(9) o Ddeddf Trydan 1989 (a rhaid darllen “estyn” yn unol â hynny);

  • ystyr “ffordd arbennig” (“special road”) yw priffordd sy’n ffordd arbennig yn unol ag adran 16 o Ddeddf Priffyrdd 1980 neu yn rhinwedd gorchymyn cydsyniad seilwaith;

  • ystyr “gorchymyn cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent order”) yw gorchymyn a wneir o dan y Ddeddf hon sy’n rhoi cydsyniad seilwaith;

  • mae i “gorsaf gynhyrchu” yr un ystyr ag a roddir i “generating station” yn Rhan 1 o Ddeddf Trydan 1989 (gweler adran 64(1) o’r Ddeddf honno);

  • mae “gwasanaethau cyn gwneud cais” (“pre-application services”) i’w ddehongli yn unol ag adran 27(2);

  • ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” (“special Senedd procedure”) yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd;

  • mae i “gwella”, mewn perthynas â phriffordd, yr ystyr a roddir i “improvement” gan adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980;

  • mae i “harbwr” ac “awdurdod harbwr” yr ystyron a roddir i “harbour” a “harbour authority” gan adran 57(1) o Ddeddf Harbyrau 1964 (p. 40);

  • mae i “heneb” (“monument”) yr un ystyr ag yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3) (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno);

  • mae i “llinell drydan” yr un ystyr ag a roddir i “electric line” yn Rhan 1 o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29) (gweler adran 64(1) o’r Ddeddf honno);

  • mae i “maes awyr” yr ystyr a roddir i “airport” gan adran 82(1) o Ddeddf Meysydd Awyr 1986 (p. 31);

  • mae “mwynau” (“minerals”) yn cynnwys yr holl sylweddau sy’n cael eu gweithio i’w symud ymaith fel arfer (gan gynnwys yn y môr);

  • mae “nwy” (“gas”) yn cynnwys nwy naturiol;

  • ystyr “nwy naturiol” (“natural gas”) yw unrhyw nwy sy’n deillio o strata naturiol (gan gynnwys nwy sy’n dod o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig);

  • mae i “nwyddau” yr ystyr a roddir i “goods” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (p. 43);

  • mae i “priffordd” yr ystyr a roddir i “highway” gan adran 328 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66);

  • mae i “prosiect seilwaith arwyddocaol” (“significant infrastructure project”) yr ystyr a roddir gan Ran 1;

  • mae i “rheilffordd” yr ystyr a roddir i “railway” gan adran 67(1) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42);

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “safonol” (“standard”), mewn perthynas â chyfaint nwy, yw cyfaint nwy ar bwysedd o 101.325 ciloPascal a thymheredd o 273 Kelvin;

  • mae “tir” (“land”) yn cynnwys adeiladau, henebion a thir sydd wedi ei orchuddio â dyfroedd (gan gynnwys gwely’r môr); ac mewn perthynas â Rhan 6 (gorchmynion cydsyniad seilwaith) rhaid ei ddarllen yn unol ag adran 102;

  • mae i “tir y Goron” (“Crown land”) yr ystyr a roddir gan adran 134.

(2)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at hawl dros dir yn cynnwys—

(a)cyfeiriad at yr hawl i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir, arno neu odano, neu yn y gofod awyr uwchben ei arwyneb;

(b)cyfeiriad at gyfamod cyfyngol.

(3)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at gaffael tir, fel y mae’n gymwys i hawl dros dir, a chyfeiriad at gaffael hawl dros dir yn cynnwys—

(a)caffael yr hawl drwy greu hawl newydd yn ogystal â thrwy gaffael un bresennol;

(b)gosod cyfamod cyfyngol.

(4)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at y môr yn cynnwys gwely ac isbridd y môr.

144Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth sydd ynddi, cânt, drwy reoliadau, wneud—

(a)darpariaeth atodol, ddeilliadol neu ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a geir yn y Ddeddf hon).

145Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth o ganlyniad i’r Ddeddf hon.

146Darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed

(1)Nid yw adrannau 19 ac 20 yn cael unrhyw effaith mewn perthynas â datblygiad os yw’r amodau yn is-adrannau (2) a (3) yn gymwys.

(2)Yr amod cyntaf yw—

(a)y gwnaed cais am gydsyniad adran 20 mewn perthynas â’r datblygiad cyn i adrannau 19 ac 20 ddod i rym ac nad yw’r cais wedi ei dynnu yn ôl,

(b)y gwnaed hysbysiad o dan adran 62E(1) o DCGTh 1990 am gais arfaethedig mewn perthynas â’r datblygiad cyn i adrannau 19 ac 20 ddod i rym ac nad yw’r hysbysiad wedi ei dynnu yn ôl, neu

(c)pan ddaw adrannau 19 ac 20 i rym, fod gwneud neu gadarnhau gorchymyn neu gynllun a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 20 mewn perthynas â’r datblygiad o dan ystyriaeth gan Weinidogion Cymru, ac eithrio mewn ymateb i gais.

(3)Yr ail amod yw—

(a)bod y cwestiwn o ba un ai i roi neu i wneud y cydsyniad adran 20 ai peidio o dan ystyriaeth, pan na fo’r cyfnod trosiannol wedi dod i ben,

(b)pan fo is-adran (2)(b) yn gymwys ac na fo’r cyfnod trosiannol wedi dod i ben—

(i)nad yw 12 mis cyntaf y cyfnod trosiannol wedi dod i ben heb i gais am ganiatâd cynllunio gael ei wneud mewn perthynas â’r datblygiad, neu

(ii)y gwneir cais o fewn 12 mis cyntaf y cyfnod trosiannol a bod y cwestiwn o ba un ai i roi caniatâd cynllunio ai peidio o dan ystyriaeth;

(c)y rhoddir neu y gwneir y cydsyniad adran 20 cyn diwedd y cyfnod trosiannol.

(4)Yn is-adran (3), ystyr y “cyfnod trosiannol” yw’r cyfnod o 24 o fisoedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adrannau 19 ac 20 yn dod i rym.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â datblygiad, gyfarwyddo—

(a)bod cyfnod trosiannol gwahanol yn gymwys at ddibenion is-adran (3)(a), (b) neu (c), neu

(b)bod cyfnod ac eithrio 12 mis yn gymwys at ddibenion paragraff (b) o’r is-adran honno.

(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth at ddibenion is-adran (2) neu (3) ynghylch—

(a)pan fydd cais neu hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei wneud;

(b)beth y mae o dan ystyriaeth yn ei olygu.

(7)Os yw cydsyniad adran 20 (“y cydsyniad gwreiddiol”) yn cael effaith (boed hynny yn rhinwedd is-adran (1) neu fel arall), nid oes unrhyw beth yn adran 20 yn atal y cydsyniad gwreiddiol, neu gydsyniad adran 20 sy’n ei ddisodli, rhag cael ei amrywio neu ei ddisodli.

(8)Os yw’r cydsyniad gwreiddiol, neu gydsyniad adran 20 sy’n ei ddisodli, yn cael ei amrywio neu ei ddisodli, nid yw adran 19 yn gymwys i’r datblygiad y mae’r cydsyniad fel y’i hamrywiwyd, neu’r cydsyniad sy’n disodli’r cydsyniad gwreiddiol, yn ymwneud ag ef (ac felly nid yw cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar gyfer y datblygiad hwnnw).

(9)Mae cydsyniad adran 20 yn disodli cydsyniad adran 20 cynharach at ddibenion yr adran hon os (ond dim ond os)—

(a)y’i rhoddir neu y’i gwneir ar gais am gydsyniad ar gyfer datblygiad heb gydymffurfio ag amodau y rhoddwyd neu y gwnaed y cydsyniad adran 20 cynharach yn ddarostyngedig iddynt, a

(b)y’i rhoddir yn ddarostyngedig i amodau gwahanol, neu y’i gwneir ar amodau gwahanol, neu’n ddiamod.

(10)Mae darpariaethau DCGTh 1990 yn cael effaith fel pe na bai’r diwygiadau a wneir i’r Ddeddf honno gan baragraff 4 o Atodlen 3 wedi eu gwneud i’r graddau y bo darpariaethau DCGTh 1990 yn ymwneud â datblygiad nad yw adrannau 19 ac 20 yn gymwys iddo yn rhinwedd yr adran hon.

147Dod i rym

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)y darpariaethau yn Rhannau 2 i 8 sydd—

(i)yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau, neu

(ii)yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn y caniateir (a’r hyn na chaniateir) ei wneud wrth arfer pŵer i wneud rheoliadau;

(c)y Rhan hon, ac eithrio adran 145.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth i rym a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.

148Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill