Hysbysiadau stop dros dro
Adran 117 – Pŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro
312.Mae’r adran hon yn darparu’r pŵer i awdurdod cynllunio perthnasol ddyroddi hysbysiad stop dros dro mewn perthynas â thir yn ei ardal lle y mae’n ystyried bod gweithgarwch wedi cael ei gynnal neu yn cael ei gynnal sy’n drosedd o dan adran 103 neu adran 104 ac y dylai’r gweithgarwch gael ei stopio ar unwaith. Nid yw’r pŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro yn rhychwantu Gweinidogion Cymru.
313.Mae’r adran hon hefyd yn rhagnodi’r hyn y mae rhaid ei bennu mewn hysbysiad stop dros dro, i bwy y caniateir rhoi hysbysiad stop dros dro a sut y mae rhaid arddangos yr hysbysiadau hynny.
Adran 118 – Cyfyngiadau ar bŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro
314.Mae’r adran hon yn darparu na chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd defnyddio adeilad fel annedd nac unrhyw weithgarwch neu amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.
315.Ni chaiff hysbysiadau stop dros dro ychwaith wahardd unrhyw weithgarwch sydd wedi ei gynnal, neu sy’n cael ei gynnal, am o leiaf 4 blynedd cyn y dyddiad yr arddangosir hysbysiad stop dros dro am y tro cyntaf, ac eithrio gweithgarwch sy’n weithrediadau adeiladu, peiriannu neu fwyngloddio neu’n weithrediadau eraill, neu sy’n ddeilliadol i hynny, neu waredu gwastraff.
Adran 119 – Hyd etc. hysbysiad stop dros dro
316.Mae’r adran hon yn darparu bod hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith pan arddangosir copi ohono am y tro cyntaf ac yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod o 28 o ddiwrnodau, sy’n dechrau ar y dyddiad y’i arddangosir am y tro cyntaf, oni bai bod cyfnod byrrach wedi ei bennu yn yr hysbysiad neu fod y llys yn caniatáu gwaharddeb o dan adran 122.
317.Mae’r adran hon hefyd yn pennu, os yw’r awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu’r hysbysiad yn ôl cyn diwedd y cyfnod y byddai fel arall yn cael effaith ar ei gyfer, bod yr hysbysiad yn peidio â chael effaith pan gaiff ei dynnu’n ôl.
318.Pan ddyroddir hysbysiad stop dros dro, mae’r adran hon yn atal yr awdurdod cynllunio perthnasol rhag dyroddi ail hysbysiad stop na hysbysiad stop dilynol mewn cysylltiad â’r un gweithgarwch, oni fo’r awdurdod wedi dyroddiad hysbysiad datblygiad anawdurdodedig neu waharddeb.
Adran 120 – Y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro
319.Mae’r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd pan fo person yn cynnal gweithgarwch sydd wedi ei wahardd gan hysbysiad stop dros dro ar unrhyw adeg pan fydd hysbysiad o’r fath yn cael effaith.
320.Fodd bynnag, mae’n amddiffyniad i berson brofi na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad iddo ac nad oedd yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad stop dros dro.
321.Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon neu Lys y Goron, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn. Mae hefyd yn bosibl o dan yr adran hon i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad stop dros dro drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.
Adran 121 – Digollediad am golled o ganlyniad i hysbysiad
322.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo gweithgarwch a bennir mewn hysbysiad stop dros dro wedi ei awdurdodi drwy orchymyn cydsyniad seilwaith a roddwyd cyn y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith, neu pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, y caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant yn y tir y mae hysbysiad stop dros dro yn ymwneud ag ef wneud hawliad i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod cynllunio perthnasol o fewn 12 mis am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad.
323.Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw weithgarwch a bennir yn yr hysbysiad sydd wedi ei awdurdodi drwy orchymyn cydsyniad seilwaith a roddir ar y diwrnod y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith neu ar ôl hynny, nac os yw’r awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu hysbysiad yn ôl ar ôl i gydsyniad gael ei roi. Mae’r adran hon hefyd yn pennu’r amgylchiadau lle nad yw digollediad yn daladwy.
Adran 122 – Gwaharddeb i atal gweithgarwch gwaharddedig
324.Mae’r adran hon yn darparu y caiff awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal gweithgarwch gwirioneddol neu ddisgwyliedig sy’n drosedd o dan naill ai adran 103 neu adran 104. Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol wneud cais am waharddeb mewn perthynas â thir yn ei ardal, a chaiff Gweinidogion Cymru wneud cais am waharddeb mewn perthynas â thir yng Nghymru.
325.Caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y gweithgarwch hwnnw. Ni chaniateir dyroddi gwaharddeb o dan yr adran hon yn erbyn y Goron.