Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

(a gyflwynir gan adran 93)

ATODLEN 2DIGOLLEDU AM NEWID NEU DDIRYMU GORCHMYNION CYDSYNIAD SEILWAITH

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith: digolledu

1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael ei newid neu ei ddirymu drwy orchymyn o dan adran 90, a

(b)yr achos y mae’r pŵer yn cael ei arfer ynddo yn un sy’n dod o fewn adran 90(6).

(2)Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn y tir y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef neu a chanddo fuddiant mewn mwynau ar y tir hwnnw, neu y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael effaith er ei fudd, hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu gan Weinidogion Cymru am—

(a)unrhyw wariant y mae’r person yn mynd iddo wrth gynnal gwaith a ddaw yn ofer o ganlyniad i newid neu ddirymu’r gorchymyn cydsyniad seilwaith;

(b)unrhyw golled arall neu ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r newid neu’r dirymu.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y modd y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan y paragraff hwn, a’r cyfnod y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o’i fewn.

(4)At ddiben y paragraff hwn, mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel gwariant yr eir iddo wrth gynnal y gwaith.

(5)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad ag—

(a)gwaith a gynhaliwyd cyn i’r gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n cael ei newid neu ei ddirymu gael ei wneud, neu

(b)colled arall neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n cynnwys dibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r gorchymyn cydsyniad seilwaith gael ei wneud.

Digolledu am ddibrisiant: cyflwyniad a thermau allweddol

2(1)Mae paragraffau 3 i‍ 9 yn gymwys pan fo digollediad yn dod yn daladwy gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 1 sy’n cynnwys digollediad am ddibrisiant o fwy na’r isafswm a bennir mewn rheoliadau.

(2)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 3 i 10—

(a)ystyr “awdurdod caffael”, mewn perthynas â chaffaeliad neu gaffaeliad arfaethedig buddiant mewn tir (boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb), yw’r awdurdod cyhoeddus neu berson arall sy’n caffael neu’n cynnig caffael y buddiant;

(b)nid yw “caffaeliad gorfodol” yn cynnwys trosglwyddo eiddo o un person i berson arall drwy ddeddfiad;

(c)ystyr “digollediad am ddibrisiant” yw digollediad sy’n daladwy mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir;

(d)ystyr “buddiant mewn tir” yw’r ffi syml neu denantiaeth o’r tir (ac nid yw’n cynnwys unrhyw fuddiant arall ynddo);

(e)mae i “hysbysiad digolledu” yr ystyr a roddir ym mharagraff 4(1);

(f)ystyr “cofrestredig”, mewn perthynas â hysbysiad digolledu, yw wedi ei gofrestru yn y gofrestr pridiannau tir lleol a gedwir o dan adran 3 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (p. 76).

Dosrannu digollediad am ddibrisiant a phenderfynu ar anghydfodau

3(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)dosrannu’r digollediad am ddibrisiant rhwng gwahanol rannau o’r tir y mae’r hawliad am ddigollediad yn ymwneud ag ef os ydynt yn ystyried ei bod yn ymarferol gwneud hynny, a

(b)os ydynt yn dosrannu’r digollediad, roi manylion y dosraniad i’r hawlydd ac i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant mewn tir y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y dosraniad yn cael effaith sylweddol arno.

(2)Wrth wneud dosraniad, rhaid i Weinidogion Cymru rannu’r tir yn rhannau a dosbarthu’r digollediad am ddibrisiant rhwng y rhannau hynny yn ôl sut y maent yn ystyried y bo’r gorchymyn y mae digollediad yn daladwy o ganlyniad iddo yn cael effaith wahanol ar rannau gwahanol o’r tir.

(3)Os yw unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn yn herio dosraniad digollediad, cânt‍ atgyfeirio’r dosraniad i’r Uwch Dribiwnlys—

(a)yr hawlydd;

(b)unrhyw berson arall y rhoddwyd manylion y dosraniad iddo;

(c)unrhyw berson arall sy’n dangos bod ganddo fuddiant mewn tir y mae’r dosraniad yn cael effaith sylweddol arno.

(4)Mae gan yr hawlydd a phob person arall y mae manylion y dosraniad wedi eu rhoi iddo hawolgaeth i gael eu clywed gan yr Uwch Dribiwnlys pan wneir yr atgyfeiriad.

(5)Pan gaiff dosraniad ei atgyfeirio, rhaid i’r Uwch Dribiwnlys—

(a)naill ai cadarnhau ynteu amrywio’r dosraniad, a

(b)hysbysu’r partïon am ei benderfyniad.

(6)Pan ddangosir mewn atgyfeiriad i’r Uwch Dribiwnlys fod dosraniad—

(a)yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol â’r un materion â dosraniad blaenorol, a

(b)yn gyson â’r dosraniad blaenorol i’r graddau y mae’n ymwneud â’r materion hynny,

ni chaiff y Tribiwnlys amrywio’r dosraniad mewn modd sy’n anghyson â’r dosraniad blaenorol i’r graddau y mae’n ymwneud â’r materion hynny.

(7)Mae is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i ddosraniad gan yr Uwch Dribiwnlys fel pe bai cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y Tribiwnlys.

Hysbysiad o ddigollediad am ddibrisiant

4(1)Pan fo digollediad yn dod yn daladwy sy’n cynnwys digollediad am ddibrisiant o‍ fwy na’r isafswm a bennir mewn rheoliadau o dan baragraff 2 rhaid i Weinidogion Cymru beri bod hysbysiad o’r ffaith honno (“hysbysiad digolledu”) yn cael ei gyflwyno—

(a)i’r cyngor ar gyfer y sir neu’r fwrdeistref sirol dros yr ardal lle y lleolir y tir neu unrhyw ran o’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a

(b)os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod cynllunio dros yr ardal lle y lleolir y tir neu unrhyw ran o’r tir, i’r awdurdod cynllunio dros yr ardal.

(2)Rhaid i hysbysiad digolledu bennu—

(a)y gorchymyn y mae digollediad yn daladwy o ganlyniad iddo a’r tir y mae’r hawliad am ddigollediad yn ymwneud ag ef, a

(b)swm y digollediad ac unrhyw ddosraniad ohono o dan baragraff 3.

(3)Mae hysbysiad digolledu yn bridiant tir lleol, ac at ddibenion Deddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (p. 76) y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cyflwynir yr hysbysiad iddo yw’r awdurdod gwreiddiol o ran y pridiant.

Peidio â chynnal datblygiad hyd nes y bo digollediad yn cael ei dalu neu ei sicrhau

5(1)Ni chaiff person gynnal datblygiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ar dir y mae hysbysiad digolledu wedi ei gofrestru yn ei gylch hyd nes y bo unrhyw swm sy’n adenilladwy mewn cysylltiad â’r digollediad a bennir yn yr hysbysiad yn rhinwedd paragraff 6 wedi ei dalu neu ei sicrhau er boddhad Gweinidogion Cymru yn unol â pharagraff 7.

(2)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)datblygiad—

(i)sydd o natur breswyl, fasnachol neu ddiwydiannol, a

(ii)sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn adeiladu tai, fflatiau, siopau neu swyddfeydd neu adeiladau diwydiannol (gan gynnwys warysau), neu unrhyw gyfuniad ohonynt;

(b)datblygiad sy’n weithrediadau mwyngloddio;

(c)datblygiad y mae Gweinidogion Cymru, gan roi sylw i werth tebygol y datblygiad, yn ystyried ei bod yn rhesymol i’r paragraff hwn fod yn gymwys iddo.

(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i ddatblygiad yn rhinwedd is-baragraff (2)(c) os yw Gweinidogion Cymru, ar gais a wneir iddynt, wedi ardystio nad ydynt, gan roi sylw i werth tebygol y datblygiad, yn ystyried ei bod yn rhesymol i’r paragraff hwn fod yn gymwys iddo.

(4)Pan fo’r digollediad a bennir yn yr hysbysiad digolledu yn dod yn daladwy o ganlyniad i orchymyn sy’n newid gorchymyn cydsyniad seilwaith, nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i ddatblygiad yn unol â’r gorchymyn cydsyniad seilwaith a newidiwyd.

Y swm sy’n adenilladwy gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â digolledu

6(1)Y swm sy’n adenilladwy mewn cysylltiad â’r digollediad a bennir mewn hysbysiad digolledu cofrestredig yw—

(a)os yw’r tir y mae’r datblygiad i’w gynnal arno yn cynnwys yr holl dir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (boed ar ei ben ei hun neu gyda thir arall), swm y digollediad a bennir yn yr hysbysiad;

(b)os yw’r tir y mae’r datblygiad i’w gynnal arno yn cynnwys rhan yn unig o’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (boed ar ei phen ei hun neu gyda thir nad yw’r hysbysiad yn ymwneud ag ef), swm y digollediad a bennir yn yr hysbysiad sydd i’w briodoli i’r rhan honno.

(2)Ond caiff Gweinidogion Cymru ohirio adennill y swm cyfan neu ran o’r swm a fyddai’n adenilladwy fel arall mewn cysylltiad â datblygiad tir penodol os ydynt yn ystyried, gan roi sylw i werth tebygol unrhyw ddatblygiad priodol o’r tir hwnnw, nad yw datblygiad priodol ohono yn debygol o gael ei gynnal onid ydynt yn arfer eu pwerau o dan yr is-baragraff hwn.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn gohirio adennill rhan yn unig o’r swm a fyddai’n adenilladwy fel arall mewn cysylltiad ag unrhyw dir, rhaid iddynt beri bod yr hysbysiad digolledu cofrestredig o dan sylw yn cael ei ddiwygio fel mai swm y digollediad a nodir ynddo, i’r graddau y bo i’w briodoli i’r tir hwnnw, yw’r swm y maent wedi ei ohirio.

(4)Pan fo swm wedi dod yn adenilladwy o ran digollediad mewn cysylltiad â datblygu tir, nid oes unrhyw swm yn adenilladwy o ran y digollediad sydd i’w briodoli i’r tir hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad diweddarach ohono.

(5)Nid yw is-baragraff (4) yn gymwys i swm i’r graddau y gohiriwyd adennill y swm mewn cysylltiad â’r datblygiad cynharach.

(6)Nid oes unrhyw swm yn adenilladwy yn rhinwedd y paragraff hwn mewn cysylltiad ag unrhyw ddigollediad y mae swm wedi dod yn adenilladwy gan awdurdod caffael o dan baragraff 8 (adennill drwy gaffaeliad neu werthiant gorfodol) drwy gyfeirio ato.

(7)At ddibenion yr Atodlen hon, mae swm y digollediad a bennir mewn hysbysiad digolledu sydd i’w briodoli i ran o’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef i’w gyfrifo—

(a)os yw’r hysbysiad yn cynnwys dosraniad o’r digollediad rhwng rhannau gwahanol o’r tir o dan baragraff 3, ar y sail—

(i)bod y digollediad i’w ddosbarthu rhwng y rhannau hynny yn unol â’r dosraniad, a

(ii)bod y digollediad sydd i’w briodoli i bob rhan yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal yn ôl arwynebedd dros y rhan honno;

(b)os nad yw’r hysbysiad yn cynnwys dosraniad, ar y sail bod y digollediad yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal yn ôl arwynebedd dros y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Talu etc. swm sy’n adenilladwy

7(1)Mae swm sy’n adenilladwy yn rhinwedd paragraff 6 mewn cysylltiad â’r datblygiad tir yn daladwy i Weinidogion Cymru—

(a)fel un taliad cyfalaf,

(b)fel cyfres o randaliadau cyfalaf a llog wedi eu cyfuno, neu

(c)fel cyfres o daliadau blynyddol neu gyfnodol eraill, o’r symiau, ac sy’n daladwy ar yr adegau, a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1)(c), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y person a fydd yn cynnal y datblygiad.

(3)Os nad yw’r swm sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) yn cael ei dalu fel un taliad cyfalaf, rhaid iddo gael ei sicrhau gan y person a fydd yn cynnal y datblygiad yn y modd (boed hynny drwy forgais, drwy gyfamod neu fel arall) y mae Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo.

(4)Os yw person yn dechrau datblygiad y mae paragraff 5 yn gymwys iddo gan dorri’r paragraff hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw—

(a)sy’n pennu’r swm y maent yn ystyried ei fod yn adenilladwy o dan baragraff 6 mewn cysylltiad â’r digollediad o dan sylw, a

(b)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm hwnnw i Weinidogion Cymru o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad fod yn 3 mis o leiaf gan ddechrau drannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.‍

Adennill digollediad oddi wrth awdurdod caffael wrth gaffael yn orfodol neu werthu

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)buddiant mewn tir yn cael ei gaffael yn orfodol neu’n cael ei werthu i awdurdod sy’n meddu ar bwerau prynu gorfodol,

(b)hysbysiad digolledu yn cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r tir, boed hynny cyn neu ar ôl cwblhau’r caffaeliad neu’r gwerthiant, ac

(c)y digollediad a bennir yn yr hysbysiad yn daladwy o ganlyniad i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith a wnaed cyn cyflwyno’r hysbysiad i drafod telerau, neu lunio’r contract, y mae’r caffaeliad neu’r gwerthiant yn cael effaith yn unol ag ef.

(2)Mae gan Weinidogion Cymru hawlogaeth i adennill oddi wrth yr awdurdod caffael swm sy’n gyfwerth â swm y digollediad a bennir yn yr hysbysiad digolledu sydd i’w briodoli i’r tir a gaffaelwyd neu a werthwyd.

(Gweler paragraff 6(7) am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo swm y digollediad sydd i’w briodoli i ran o’r tir y mae hysbysiad digolledu yn ymwneud â hi.).

(3)Yn union ar ôl cwblhau’r caffaeliad neu’r gwerthiant, os yw person ac eithrio’r awdurdod caffael yn parhau i fod â buddiant yn y tir a gaffaelwyd neu a werthwyd, nid yw’r swm sy’n adenilladwy o dan y paragraff hwn yn dod yn daladwy hyd nes y bo’r buddiant naill ai’n peidio â bodoli neu’n cael ei freinio yn yr awdurdod caffael.

(4)Nid oes unrhyw swm yn adenilladwy o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â’r caffaeliad neu’r gwerthiant os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y buddiant o dan sylw yn cael ei gaffael at ddibenion defnyddio’r tir fel man agored.

(5)Mae pŵer o dan unrhyw ddeddfiad i dalu grant mewn cysylltiad â gwariant yr aeth yr awdurdod caffael iddo mewn cysylltiad â’r caffaeliad neu’r gwerthiant yn cynnwys y pŵer i dalu grant mewn cysylltiad ag unrhyw swm sy’n adenilladwy oddi wrth yr awdurdod o dan y paragraff hwn.

(6)Yn is-baragraff (1)(a), ystyr “awdurdod sy’n meddu ar bwerau prynu gorfodol” yw—

(a)person y gallai fod wedi ei awdurdodi neu sydd wedi ei awdurdodi i gaffael y buddiant o dan sylw yn orfodol at y diben y gwerthir y buddiant ar ei gyfer, neu

(b)cyngor cymuned y gallai cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol fod wedi ei awdurdodi ar ei ran neu sydd wedi ei awdurdodi ar ei ran i gaffael y buddiant at y diben hwnnw (gweler adran 125 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)).

(7)Mewn achos pan dybir bod hysbysiad i drafod telerau wedi ei gyflwyno yn rhinwedd deddfiad, mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(c) at gyflwyno’r hysbysiad i drafod telerau i’w ddarllen fel cyfeiriad at y dyddiad y tybir bod yr hysbysiad i drafod telerau wedi ei gyflwyno.

(8)At ddiben asesu digollediad am gaffael yn orfodol fuddiant mewn tir pan fo hysbysiad digolledu sy’n ymwneud â’r tir wedi ei gofrestru o dan yr Atodlen hon, mae adran 12 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) yn gymwys yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol.

Darpariaethau cyffredinol ynghylch digolledu am ddibrisiant

9(1)Mae’r rheolau yn adran 5 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) yn cael effaith at ddiben asesu unrhyw ddigollediad am ddibrisiant sy’n daladwy o dan yr Atodlen hon, i’r graddau y bônt yn berthnasol a chydag unrhyw addasiadau angenrheidiol, fel y maent yn cael effaith at ddiben asesu digollediad am gaffael buddiant mewn tir yn orfodol.

(2)Pan fo buddiant mewn tir yn ddarostyngedig i forgais—

(a)rhaid i unrhyw ddigollediad am ddibrisiant sy’n daladwy o dan yr Atodlen hon mewn cysylltiad â’r buddiant gael ei asesu fel pe na bai’r buddiant yn ddarostyngedig i’r morgais;

(b)caniateir i hawliad am ddigollediad gael ei wneud gan unrhyw forgeisai i’r buddiant, ond nid yw hynny’n effeithio ar hawl y person y mae ei fuddiant yn ddarostyngedig i’r morgais i wneud hawliad;

(c)nid oes digollediad am ddibrisiant yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (sy’n wahanol i’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r morgais);

(d)rhaid i unrhyw ddigollediad am ddibrisiant sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r morgais gael ei dalu i’r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i’r morgeisai cyntaf; a rhaid iddo gael ei gymhwyso gan y morgeisai y telir digollediad iddo fel pe bai’n enillion gwerthu.

Penderfynu ar geisiadau am ddigollediad

10(1)Mae unrhyw gwestiwn ynghylch digollediad y ceir anghydfod yn ei gylch i gael ei atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys a’i benderfynu ganddo.

(2)Mae adran 4 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) yn gymwys i benderfynu ar gwestiwn a atgyfeirir o dan y paragraff hwn fel y mae’n gymwys i benderfynu ar gwestiwn a atgyfeirir o dan adran 1 o’r Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at yr “acquiring authority” yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill