- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw dir sy’n ffurfio rhan o dir comin, man agored neu randir tanwydd neu ardd gae.
(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys mewn achos y mae adran 71 yn gymwys iddo.
(3)Mae gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd i’r graddau y bo’r gorchymyn yn awdurdodi caffael yn orfodol dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo, oni fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un o is-adrannau (4) i (7) yn gymwys, a
(b)y ffaith honno, a’r is-adran o dan sylw, wedi eu cofnodi yn y gorchymyn neu fel arall yn yr offeryn neu’r ddogfen arall sy’n cynnwys y gorchymyn.
(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw tir amnewid wedi ei roi neu os bydd yn cael ei roi yn gyfnewid am dir y gorchymyn, a
(b)os yw’r tir amnewid wedi ei freinio neu y bydd yn cael ei freinio yn y darpar werthwr ac yn ddarostyngedig i’r un hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion ag sydd ynghlwm wrth dir y gorchymyn.
(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw tir y gorchymyn yn fan agored, neu’n ffurfio rhan o fan agored,
(b)os nad yw unrhyw ran o dir y gorchymyn o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau eraill yn is-adran (1),
(c)os naill ai—
(i)nad oes unrhyw dir addas ar gael i’w roi yn gyfnewid am dir y gorchymyn, neu
(ii)nad yw unrhyw dir addas sydd ar gael i’w roi yn gyfnewid ond ar gael am bris gormodol, a
(d)os yw yn gryf er budd y cyhoedd iddi fod yn bosibl dechrau’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn rhoi cydsyniad ar ei gyfer yn gynharach nag sy’n debygol o fod yn bosibl pe bai’r gorchymyn yn ddarostyngedig (i unrhyw raddau) i weithdrefn arbennig y Senedd.
(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw tir y gorchymyn yn fan agored, neu’n ffurfio rhan o fan agored,
(b)os nad yw unrhyw ran o dir y gorchymyn o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau eraill yn is-adran (1), ac
(c)os yw tir y gorchymyn yn cael ei gaffael at ddiben dros dro (ond un hirhoedlog o bosibl).
(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os nad yw tir y gorchymyn yn fwy na 200 metr sgwâr o faint neu os yw’n angenrheidiol er mwyn lledu neu ddraenio priffordd bresennol neu yn rhannol er mwyn lledu ac yn rhannol er mwyn draenio priffordd o’r fath, a
(b)os yw rhoi tir arall yn gyfnewid yn ddiangen, naill ai er budd y personau, os oes rhai, sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill neu er budd y cyhoedd.
(8)Os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael yn orfodol dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff gynnwys darpariaeth—
(a)i freinio tir amnewid a roddir yn gyfnewid fel y’i crybwyllir yn is-adran (4)(a) yn y darpar werthwr ac yn ddarostyngedig i’r hawliau, yr ymddiriedolaethau a’r nodweddion a grybwyllir yn is-adran (4)(b), a
(b)i ryddhau tir y gorchymyn rhag unrhyw hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion y mae’n ddarostyngedig iddynt.
(9)Yn yr adran hon—
ystyr “y darpar werthwr” (“the prospective seller”) yw’r person neu’r personau y breinir tir y gorchymyn ynddo neu ynddynt;
ystyr “tir amnewid” (“replacement land”) yw tir nad yw’n ddim llai o ran arwynebedd na thir y gorchymyn ac nad yw’n ddim llai manteisiol i’r personau, os oes rhai, sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill, nac i’r cyhoedd;
mae i “tir comin”, “rhandir tanwydd neu ardd gae” a “man agored” yr un ystyron ag a roddir i “common”, “fuel or field garden allotment” ac “open space” yn adran 19 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67);
ystyr “tir y gorchymyn” (“order land”) yw’r tir yr awdurdodir ei gaffael yn orfodol.
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys