Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Close

Print Options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/06/2024. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 07 Rhagfyr 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Legislation Crest

Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024

2024 dsc 4

Deddf gan Senedd Cymru i wneud darpariaeth ynghylch‍ Aelodau o’r Senedd a swyddi a ddelir gan yr Aelodau hynny; etholaethau Senedd Cymru; dychwelyd Senedd Cymru a’i chynnal; Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru; ac at ddibenion cysylltiedig.

[24 Mehefin 2024]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Yn ddilys o 24/08/2024

RHAN 1LL+CY SENEDD A GWEINIDOGION CYMRU

1Y nifer o Aelodau o’r Senedd ac etholaethau’r SeneddLL+C

Yn adran 1 (y Senedd) o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”), yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)There are—

(a)16 Senedd constituencies, and

(b)six seats for each constituency, and

the Senedd is to consist of the members for those constituencies.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(a)

2Etholaethau’r SeneddLL+C

(1)Yn lle adran 2 (Etholaethau a rhanbarthau etholiadol y Senedd) o Ddeddf 2006 rhodder—

2Senedd constituencies

(1)The Senedd constituencies are the constituencies specified in regulations under section 49J of the Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013 (anaw 4).

(2)Until the first set of regulations made under‍‍ that section takes effect, the reference in subsection (1) above to regulations under that section is to be read as a reference to regulations under paragraph 9 of Schedule 2 to the Senedd Cymru (Members and Elections) Act 2024 (asc 4).

(2)Yn adran 13 o Ddeddf y System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011 (p. 1) (etholaethau a rhanbarthau etholiadol)—

(a)hepgorer is-adran (1);

(b)hepgorer is-adran (2)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(a)

Rhagolygol

3Etholiadau cyffredinol cyffredin: pa mor amlLL+C

(1)Yn adran 3(1) (etholiadau cyffredinol cyffredin) o Ddeddf 2006, yn lle “fifth” rhodder “fourth”.

(2)Yn Neddf Cymru 2014 (p. 29), hepgorer adran 1 (etholiadau cyffredinol cyffredin: pa mor aml).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 yn dod i rym yn unol â a. 25(3)

Rhagolygol

4Dirprwy Lywydd ychwanegolLL+C

(1)Yn adran 25 (y Llywydd etc.) o Ddeddf 2006—

(a)yn is-adran (1)(b), yn lle “(referred to in this Act as “the Deputy Presiding Officer”)” rhodder “(see subsection (1B)(a))”;

(b)ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A)The Senedd may at any time elect one additional deputy presiding officer from among the Members of the Senedd (but there may be no more than one additional deputy presiding officer at any time).

(1B)In this Act, “Deputy Presiding Officer” means, unless the context requires otherwise—

(a)the person elected under paragraph (b) of subsection (1);

(b)a person elected under subsection (1A),

but in section 23(4)(b) “Deputy Presiding Officer means only the person elected under paragraph (b) of subsection (1).;

(c)yn is-adran (2), yn lle “is to be known as the Deputy Presiding Officer”, rhodder “and a person elected under subsection (1A) are each to be known as Deputy Presiding Officer”;

(d)yn lle is-adran (4), rhodder—

(4)A Deputy Presiding Officer holds office until the Senedd is dissolved; but the standing orders may make provision for a Deputy Presiding Officer elected under subsection (1A) to hold office for a shorter time.;

(e)yn is-adran (5), yn lle “Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”;

(f)yn is-adran (6)—

(i)ar ôl “the Deputy Presiding Officer” mewnosoder “elected under paragraph (b) of subsection (1)”;

(ii)ar ôl “Members of the Senedd” mewnosoder “(and references in this section to a person elected under paragraph (a) or (b) of subsection (1) include a reference to a person elected under this subsection)”;

(g)yn is-adran (7), ar ôl “the Deputy Presiding Officer” mewnosoder “elected under paragraph (b) of subsection (1)”;

(h)ar ôl is-adran (7), mewnosoder—

(7A)Subject to subsection (9), a Deputy Presiding Officer elected under subsection (1A) must not belong to—

(a)the same political group as either the Presiding Officer or Deputy Presiding Officer elected under paragraph (b) of subsection (1), or

(b)where the Presiding Officer and the Deputy Presiding Officer elected under paragraph (b) of subsection (1) both belong to political groups without an executive role, a political group without an executive role.;

(i)yn is-adran (9), yn lle “subsection (7) is not to apply” rhodder “one or both of subsections (7) and (7A) are not to apply”;

(j)yn is-adran (10), yn lle “the Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”;

(k)yn is-adran (11), yn lle “the Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”;

(l)yn is-adran (12), yn lle paragraff (b), rhodder—

(b)the office of Deputy Presiding Officer is vacant or, for any reason, no Deputy Presiding Officer is able to act.;

(m)yn is-adran (13), yn lle “Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”.

(2)Yn adran 20(3)(b) (taliadau i‍ Aelodau o’r Senedd) o Ddeddf 2006, yn lle “Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”.

(3)Yn adran 41 (achosion gan y Senedd neu yn ei herbyn) o Ddeddf 2006—

(a)yn is-adran (2)(a), yn lle “Deputy Presiding Officer”, rhodder “a Deputy Presiding Officer”;

(b)yn is-adran (4)(b), yn lle “Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”.

(4)Yn adran 159 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) o Ddeddf 2006, hepgorer y cofnod ar gyfer “the Deputy Presiding Officer”.

(5)Ym mharagraff 16A(6) o Atodlen 1 (cadeirio Pwyllgor y Llywydd) i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41), yn lle “the Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”.

(6)Yn adran 28(2) (dirprwyo swyddogaethau) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3), yn lle “y Dirprwy Lywydd” rhodder “i Ddirprwy Lywydd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 yn dod i rym yn unol â a. 25(4)

Rhagolygol

5Cynyddu nifer uchaf Gweinidogion CymruLL+C

Yn adran 51 (cyfyngiad ar nifer y Gweinidogion) o Ddeddf 2006—

(a)yn is-adran (1), yn lle “twelve” rhodder “17”;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)The Welsh Ministers may by regulations amend subsection (1) to increase the maximum number of holders of a relevant Welsh Ministerial office—

(a)from 17 to 18 or 19;

(b)from 18 to 19.

(4)The power in subsection (3) may not be used to lower the maximum number (including by revoking regulations made under that subsection).

(5)A statutory instrument containing regulations under subsection (3) may not be made unless‍—

(a)a draft of the instrument has been laid before‍ the Senedd, and

(b)the number of Members of the Senedd voting in favour of a resolution of the Senedd approving the draft is at least two-thirds of the total number of Senedd seats.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 yn dod i rym yn unol â a. 25(4)

6Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisyddLL+C

Yn Rhan 1 o Atodlen 1A (anghymwyso) i Ddeddf 2006, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

Persons not registered in electoral register at an address in Wales

8A person who is not registered in the register of local government electors at an address within a Senedd constituency.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(a)

7Adolygiad o’r posibilrwydd o rannu swyddi sy’n ymwneud â’r SeneddLL+C

(1)Rhaid i’r Llywydd gyflwyno cynnig sy’n cydymffurfio ag is-adran (2)—

(a)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl‍ 7 Tachwedd 2025, a

(b)sut bynnag, yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad hwnnw.

(2)Rhaid i’r cynnig—

(a)cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor at ddiben cynnal adolygiad o’r graddau—

(i)y dylai personau allu dal unrhyw swydd berthnasol ar y cyd;

(ii)y dylai person allu dal swydd berthnasol dros dro tra nad yw’r person a benodir i’r swydd honno neu a etholir i’r swydd honno ar gael, a

(b)cynnig bod y pwyllgor yn llunio adroddiad ar yr adolygiad, yn nodi ei argymhellion.

(3)Yn is-adran (2)(a), ystyr “swydd berthnasol” yw swydd—

(a)Aelod o’r Senedd;

(b)y Llywydd;

(c)Dirprwy Lywydd;

(d)aelod o Gomisiwn y Senedd (a benodir yn unol ag adran 27 o Ddeddf 2006);

(e)y Prif Weinidog;

(f)Gweinidog Cymru (a benodir o dan adran 48 o Ddeddf 2006);

(g)Dirprwy Weinidog Cymru (a benodir o dan adran 50 o Ddeddf 2006);

(h)y Cwnsler Cyffredinol.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os, yn dilyn adolygiad‍ o unrhyw rai o’r materion a grybwyllir yn is-adran (2)(a) gan bwyllgor a sefydlir yn unol â chynnig a gyflwynir yn unol ag is-adran (1), y gosodir adroddiad ar yr adolygiad gerbron y Senedd gan y pwyllgor.

(5)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd ddatganiad sy’n—

(a)nodi ymateb Gweinidogion Cymru i’r adroddiad a grybwyllir yn is-adran (4), a

(b)nodi pa gamau, os oes rhai, y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw argymhellion yn yr adroddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(a)

Yn ddilys o 24/08/2024

RHAN 2LL+CY SYSTEM BLEIDLEISIO MEWN ETHOLIADAU CYFFREDINOL Y SENEDD A DYRANNU SEDDI

8Etholiadau cyffredinolLL+C

Yn lle adrannau 6 i 9 o Ddeddf 2006 (pleidleisio a dyrannu seddi yn etholiadau cyffredinol) rhodder—

6Voting at general elections

(1)Each person entitled to vote at a general election in a Senedd constituency may give a vote for—

(a)a registered political party that has submitted a list of candidates to be Members of the Senedd for the constituency, or

(b)an individual who is a candidate (“an individual candidate”) to be a Member of the Senedd for the constituency.

(2)An order under section 13 must provide for the ballot paper used at a general election in a Senedd constituency to include the names of the candidates who stand nominated to be Members of the Senedd for the constituency.

(‍3)In this Act “registered political party” means a party registered under Part 2 of the Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (c.‍ 41).

7Candidates at general elections

(1)A registered political party may submit a list of candidates to be Members of the Senedd for a particular Senedd constituency at a general election.

(2)The list must be submitted to the constituency returning officer.

(3)The list must not include more than eight people (but may include only one).

(4)The list must not include a person—

(a)who is included on another list submitted under this section (whether for the constituency or another constituency);

(b)who is an individual candidate to be a Member of the Senedd (whether for the constituency or another constituency).

(5)A person may not be an individual candidate to be a Member of the Senedd for a constituency if that person is—

(a)included on a list submitted under this section (whether for the constituency or another constituency);

(b)an individual candidate to be a Member of the Senedd for another constituency.

(6)In this Act, “constituency returning officer”, in relation to a Senedd constituency, means the person designated as the returning officer for the constituency in accordance with an order under section 13 (power of the Welsh Ministers to make provision about elections etc.).

8Calculation of seat allocation figures

(1)This section and section 9 are about the allocation, to registered political parties or individual candidates, of the seats for a Senedd constituency at a general election.

(2)For each registered political party by which a list of candidates has been submitted under section 7 (candidates at general elections) for the constituency—

(a)the votes given in the constituency for the party are to be added up, and

(b)the number arrived at under paragraph (a) is to be divided by the seat allocation divisor.

(3)On the first calculation for a party under subsection (2)(b), the seat allocation divisor for the party is one (section 9 makes provision about recalculations under that subsection with an increased divisor).

(4)For each individual candidate to be a Member of the Senedd for the constituency, the votes given in the constituency for the candidate are to be added up.

(5)The number arrived at—

(a)in the case of a registered political party, under subsection (2)(b), or

(b)in the case of an individual candidate, under subsection (4),

is referred to in section 9 as the “seat allocation figure” for that party or individual candidate.

9Allocation of seats

(1)The first seat for a Senedd constituency is to be allocated to the registered political party or individual candidate with the highest seat allocation figure.

(2)The second and subsequent seats for the constituency are to be allocated to the party or individual candidate with the highest seat allocation figure after any recalculation required by subsection (3) has been carried out.

(3)This subsection requires a recalculation of the seat allocation figure for a registered political party—

(a)for the first application of subsection (2), if the application of subsection (1) resulted in the allocation to the party of a seat for the constituency, or

(b)for any subsequent application of subsection (2), if the previous application of that subsection resulted in the allocation to the party of a seat for the constituency,

and each recalculation is to be carried out under section 8(2)(b) after adding one to the previous seat allocation divisor for that party.

(4)An individual candidate already allocated a seat as a Member of the Senedd for the constituency is to be disregarded when applying subsection (2).

(5)Seats for the constituency that are allocated to a party are to be filled by the candidates on the party’s list in the order in which they appear on the list.

(6)Once a party’s list has been exhausted (by the application of subsection (1) or (2)), the party is to be disregarded when applying subsection (2).

(7)If, on the application of subsection (1) or on an application of subsection (2), the highest seat allocation figure is the seat allocation figure for two or more parties or individual candidates (referred to in subsection (8) as the “tied seat allocation figure”), subsection (1) or (2) (as the case may be) applies to each of them.

(8)But if subsection (7) would mean that more than the full number of seats for the constituency were allocated, subsection (1) or (2) is not to be applied until—

(a)a recalculation of the seat allocation figure for any party with the tied seat allocation figure has been carried out under section 8(2)(b) after adding one to the number arrived at under section 8(2)(a), and

(b)one has been added to the number arrived at under section 8(4) for any individual candidate with the tied seat allocation figure.

(9)If, after that, the highest seat allocation figure is still the seat allocation figure for two or more parties or individual candidates (so it is still the case that more than the full number of seats for the constituency would be allocated), the constituency returning officer must decide between them by lots.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(b)

9Seddi gwagLL+C

(1)Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 10 (seddi gwag mewn etholaethau).

(3)Yn lle adran 11 (seddi gwag mewn rhanbarthau etholiadol) rhodder—

11Vacant seats

(1)This section makes provision about what is to happen if the seat of a Member of the Senedd becomes vacant.

(2)If the Member was an individual candidate when returned as a Member of the Senedd, the seat remains vacant until the next general election.

(3)If the Member was returned as a Member of the Senedd from a list submitted under section 7 by a registered political party, the constituency returning officer must notify to the Presiding Officer the name of the person (if any) who is to fill the vacancy.

(4)A person’s name may be notified under subsection (3) only if the person—

(a)is included on the list mentioned in subsection (3),

(b)is willing to serve as a Member of the Senedd, and

(c)is not a person to whom subsection (5) applies.

(5)This subsection applies to a person if—

(a)the person is not a member of the registered political party that submitted the list, and

(b)the party gives notice to the constituency returning officer that the person’s name is not to be notified to the Presiding Officer as the name of the person who is to fill the vacancy.

(6)But if there is more than one person who satisfies the conditions in subsection (4), the constituency returning officer may only notify the name of whichever of them was the higher, or the highest, on the list.

(7)If there is no-one who satisfies the conditions in subsection (4), the seat remains vacant until the next general election.

(8)A person whose name is notified under subsection (3) is to be treated as having been declared to be returned as a Member of the Senedd on the day on which notification of the person’s name is received by the Presiding Officer.

(9)For the purposes of this section, a person included on the list mentioned in subsection (3)—

(a)who was returned as a Member of the Senedd at the election for which the list was submitted (even if the return was void), or

(b)who was subsequently returned as a Member of the Senedd under this section (even if the return was void),

is treated on and after their return as not having been included on the list.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(b)

10Diwygiadau cysylltiedigLL+C

(1)Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio yn unol ag is-adrannau (2) i (8).

(2)Yn adran 12 (hawlogaeth i bleidleisio)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer “(or of a Member of the Senedd)”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “constituency vote, or more than one electoral region vote,” rhodder “vote”;

(ii)ar ôl paragraff (a) mewnosoder “or”;

(iii)hepgorer paragraff (c), a’r “or” o’i flaen.

(3)Yn adran 13 (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau etc.)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)hepgorer paragraff (e) (ond nid yr “and” ar ei ôl);

(ii)ym mharagraff (f), yn lle “region” rhodder “constituency”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “11(3) to (5)” rhodder “11(4) to (6)”.

(4)Yn adran 13A (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth ynghylch cyfuno cynnal pleidleisiau), yn is-adran (1)(b) hepgorer “, and by-elections for the return of Members of the Senedd,”.

(5)Yn adran 18 (effaith anghymhwyso), yn is-adran (A1) hepgorer “or an election to fill a vacancy under section 10”.

(6)Yn adran 36 (uniondeb)—

(a)hepgorer is-adran (6);

(b)yn is-adran (11)(a) hepgorer “(apart from those in subsection (6))”.

(7)Yn adran 159 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), hepgorer y cofnodion ar gyfer yr ymadroddion a ganlyn—

(a)“constituency vote”;

(b)“electoral region figure”;

(c)“electoral region vote”;

(d)“regional returning officer”;

(e)“Senedd constituency member”;

(f)“Senedd electoral region”;

(g)“Senedd regional member”.

(8)Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad), yn y cofnod ar gyfer swyddogion canlyniadau ar gyfer etholiadau’r Senedd, yn yr ail golofn hepgorer “or Senedd electoral region”.

(9)Yn adran 7B(6) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (preswylfa dybiannol: datganiadau o gysylltiad lleol)—

(a)ym mharagraff (a)(ii), hepgorer “or National Assembly for Wales constituency”;

(b)ym mharagraff (b), hepgorer “or section 10 of the Government of Wales Act 2006”.

(10)Yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41)

(a)hepgorer adran 4A(8)(b)(ii) (swyddogaethau Cymreig datganoledig);

(b)hepgorer adran 5(2A)(c) (adroddiadau ar is-etholiadau) (ond nid yr “or” ar ei hôl);

(c)o’r adran 6ZA a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), hepgorer is-adran (2)(b) (adolygiadau o faterion etholiadol datganoledig yng Nghymru);

(d)hepgorer adran 6A(5)(d) (presenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol mewn etholiadau);

(e)o’r adran 6G a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (cod ymarfer ar bresenoldeb sylwedyddion mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru), hepgorer is-adran (2)(b);

(f)o’r adran 9AA a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (safonau perfformiad ar gyfer etholiadau datganoledig a refferenda datganoledig yng Nghymru), hepgorer is-adran (6)(b)‍;

(g)ym mharagraff 25 o Atodlen 1, yn yr is-baragraff (2) a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dehongli), o’r diffiniad o “devolved Welsh election” hepgorer paragraff (b);

(h)ym mharagraff 6 o Atodlen 9 (terfynau ar wariant ymgyrch)—

(i)yn is-baragraff (1), hepgorer “or regions”;

(ii)yn is-baragraff (2), hepgorer paragraff (b) a’r “plus” o’i flaen.

(11)Yn adran 44(7) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) (ardal etholiadol mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)in relation to an election to Senedd Cymru, a Senedd constituency within the meaning of section 2 of the Government of Wales Act 2006 (Senedd constituencies);.

(12)Yn adran 6(3) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) (swyddogaethau’r Comisiynydd)—

(a)ar ôl paragraff (c) mewnosoder “a”;

(b)hepgorer paragraff (e), a’r “ac” o’i flaen.

(13)Yn Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (mccc 4) (anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol)—

(a)ym mharagraff (1)(d)—

(i)hepgorer “rhanbarthol”;

(ii)hepgorer “mewn rhanbarthau etholiadol”;

(b)ym mharagraff 3, yn lle “is-adran (3)” rhodder “is-adran (4)”.

(14)Yn Neddf Cymru 2014 (p. 29), hepgorer adran 2 (diwygiadau i Ran 1 o Ddeddf 2006).

(15)Yn Atodlen 1 i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), ym mharagraff 2(8)(c) hepgorer y cofnodion ar gyfer yr ymadroddion a ganlyn—

(a)“Senedd constituency member”;

(b)“Senedd electoral region”;

(c)“Senedd regional member”.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(b)

RHAN 3LL+CCOMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

11Ailenwi Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013LL+C

(1)Mae enw byr Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) wedi ei newid i Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013.

(2)Cyfeirir at y Ddeddf honno yn y Ddeddf hon fel “Deddf 2013”.

(3)Yn adran 76 o Ddeddf 2013 (enw byr), yn lle “Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.‍

(4)Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

12Ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol CymruLL+C

(1)Yn adran 2 o Ddeddf 2013 (enw a pharhad y Comisiwn)—

(a)hepgorer is-adran (2);

(b)ar y diwedd mewnosoder—

(3)Mae’r corff corfforedig hwnnw (a ailenwyd gyntaf gan is-adran (2)) wedi ei ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn).;

(c)yn y pennawd, yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.‍

(2)Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

13Nifer aelodau’r ComisiwnLL+C

Yn adran 4(1) o Ddeddf 2013 (aelodau’r Comisiwn), yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)o leiaf 1 aelod arall ond dim mwy na 7 o aelodau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

14Personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn neu’n brif weithredwr arnoLL+C

(1)Yn adran 4(3) o Ddeddf 2013 (personau na chaniateir eu penodi yn aelodau o’r Comisiwn)—

(a)yn lle “Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff aelod fod yn”;

(b)yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;;

(c)yn lle paragraff (b) rhodder—

(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)cynghorydd arbennig‍;.

(2)Yn adran 8(4) o’r Ddeddf honno (personau na chaniateir eu penodi yn brif weithredwr)—

(a)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;;‍

(b)yn lle paragraff (b) rhodder—

(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)cynghorydd arbennig‍;.

(3)Yn adran 72(1) o’r Ddeddf honno (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

(4)Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl 2—

(a)ar ôl y cofnod ar gyfer “aelod cadeirio” mewnosoder—

Aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU (Member of a UK legislature)Adran 72(1);

(b)ar ôl y cofnod ar gyfer “cyfarfod cymunedol” mewnosoder—

‍Cynghorydd arbennig (Special adviser)Adran 72(1);

(c)ar ôl y cofnod ar gyfer “newid i sir wedi ei chadw” mewnosoder—

Plaid wleidyddol gofrestredig (Registered political party)Adran 72(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

15Cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r ComisiwnLL+C

Yn adran 6 o Ddeddf 2013 (trafodion y Comisiwn), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) i newid y cworwm, ond ni chânt newid y cworwm i rif sy’n is na 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

16Comisiynwyr cynorthwyolLL+C

(1)Yn adran 11 o Ddeddf 2013 (comisiynwyr cynorthwyol y caniateir dirprwyo iddynt swyddogaethau sy’n ymwneud â llywodraeth leol)—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).;

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn”;

(ii)yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;;

(iii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)cynghorydd arbennig‍;.

(2)Yn adran 13(1) o’r Ddeddf honno (dirprwyo), yn lle “gomisiynydd cynorthwyol” rhodder “un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol”.

(3)Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A i Ddeddf 2006 (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd mewn etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd), ar ôl y cofnod ar gyfer “Comptroller and Auditor General or Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol” mewnosoder—

‍Democracy and Boundary Commission Cymru or Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau CymruThe members, assistant commissioners and chief executive of the Commission.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

RHAN 4LL+CADOLYGU FFINIAU ETHOLAETHAU’R SENEDD

17Etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiad cyffredinol a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i reoliadau o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaithLL+C

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch etholaethau’r Senedd yr etholir‍ Aelodau o’r Senedd drostynt‍ mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith; ac yn benodol, ynghylch swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o ran penderfynu beth fydd yr etholaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 17 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Yn ddilys o 24/08/2024

18Etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiadau cyffredinol a gynhelir ar ôl i reoliadau o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaithLL+C

Mae Atodlen 3 yn mewnosod Rhan 3A newydd yn Neddf 2013; mae’r Rhan honno yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o ran penderfynu beth fydd etholaethau’r Senedd yr etholir‍ Aelodau o’r Senedd drostynt mewn etholiadau cyffredinol y cynhelir y pleidleisiau ar eu cyfer ar ôl‍ i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 18 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(c)

RHAN 5LL+CADOLYGIAD O WEITHREDIAD Y DDEDDF ETC. A DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Yn ddilys o 24/08/2024

Adolygiad o weithrediad y Ddeddf etc.LL+C

19Adolygiad o weithrediad y Ddeddf etc. ar ôl etholiad cyffredinol 2026LL+C

(1)Rhaid i’r Llywydd gyflwyno cynnig sy’n cydymffurfio ag is-adran (2)—

(a)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026, a

(b)sut bynnag, yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad hwnnw.

(2)Rhaid i’r cynnig—

(a)cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor at ddiben cynnal adolygiad o—

(i)gweithrediad ac effaith darpariaethau Deddf 2006 a gaiff eu diwygio, neu eu mewnosod yn y Ddeddf honno, gan Rannau 1 a 2 o’r Ddeddf hon (y Senedd a’i Haelodau, nifer Gweinidogion Cymru, a’r system bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol etc.);

(ii)i ba raddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru, a

(b)cynnig bod rhaid i adroddiad ar yr adolygiad fod wedi ei gwblhau gan y pwyllgor yn ddim hwyrach na deuddeg mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys os, yn dilyn adolygiad o unrhyw rai o’r materion a grybwyllir yn is-adran (2)(a) gan bwyllgor a sefydlir yn unol â chynnig a gyflwynir yn unol ag is-adran (1), y gosodir adroddiad ar yr adolygiad gerbron y Senedd gan y pwyllgor.

(4)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd ddatganiad sy’n nodi ymateb Gweinidogion Cymru i’r adroddiad a grybwyllir yn is-adran‍ (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 19 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(d)

CyffredinolLL+C

20Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi, cânt, drwy reoliadau, wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) diwygio, diddymu, dirymu neu addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y caiff‍ ei basio neu y’i gwneir).

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 20 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

Yn ddilys o 24/08/2024

21Pŵer i osod terfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol y Senedd mewn cysylltiad ag adran 1 a Rhan 2LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau, mewn cysylltiad ag adran 1 a Rhan 2, ddiwygio paragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41) (terfynau ar wariant ymgyrch) i osod y terfynau sy’n gymwys i wariant ymgyrch yr eir iddo gan neu ar ran plaid gofrestredig sy’n ymladd un neu ragor o etholaethau mewn etholiad cyffredinol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu terfynau drwy gyfeirio at y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(a)nifer yr etholaethau a ymleddir gan blaid mewn etholiad cyffredinol;

(b)nifer yr ymgeiswyr ar restr a gyflwynir gan blaid o dan adran 7 o Ddeddf 2006.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed,

a chaiff darpariaeth o’r fath ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y caiff ei basio neu y’i gwneir).

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) ond pan fo’r Comisiwn Etholiadol yn cydsynio i hynny.

(5)Yn yr adran hon, mae i “gwariant ymgyrch” a “plaid gofrestredig” yr un ystyr â “campaign expenditure” a “registered party” ym mharagraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 21 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(e)

22Rheoliadau o dan y Ddeddf honLL+C

(1)Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau a wneir o dan baragraff 9 o Atodlen 2.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(3)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud‍ darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol‍.‍

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a—‍

(a)wneir o dan adran 20 sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu ddeddfiad a geir mewn deddfwriaeth sylfaenol, neu

(b)wneir o dan adran 21,‍

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Senedd ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan adran 20 yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur Cynulliad;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 22 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

23DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • mae ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) i’w ddehongli yn unol ag adran 1;

  • mae ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) i’w ddehongli yn unol ag adran 11(2);

  • ystyr “etholiad cyffredinol” (“general election”) yw etholiad cyffredinol cyffredin neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf 2006;

  • ystyr “y Senedd” (“the Senedd”) yw Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 23 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

24Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â Rhannau 1 a 2LL+C

(1)Er iddynt ddod i rym, o dan adran 25(2)(a) a (b), nid yw’r diwygiadau a wneir gan adrannau 1 a 2 a Rhan 2 yn cael effaith mewn perthynas ag—

(a)etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny;

(b)Senedd a ddychwelir mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny (sy’n cynnwys y Senedd a basiodd y Bil ar gyfer y Ddeddf hon);

(c)dychwelyd Aelod i Senedd a grybwyllir ym mharagraff (b) (mewn etholiad cyffredinol neu fel arall).

(2)Er iddo ddod i rym, o dan adran 25(2)(a), nid yw’r diwygiad a wneir gan adran 6 yn cael effaith mewn perthynas â pherson sy’n Aelod o’r Senedd a grybwyllir yn is-adran (1)(b), neu sy’n ymgeisydd (pa un a yw hynny mewn etholiad cyffredinol ai peidio) i fod yn aelod ohoni.

(3)Os, o dan adran 25(3), y daw adran 3 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol eithriadol, bydd is-adran (4) yn gymwys at ddiben penderfynu pryd y cynhelir yr etholiad cyffredinol cyffredin cyntaf yn dilyn yr etholiad cyffredinol eithriadol hwnnw.

(4)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, mae adran 3(1) o Ddeddf 2006 i’w darllen fel pe bai “2030” wedi ei roi yn lle’r geiriau “the fourth calendar year following that in which the previous ordinary election was held”.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 24 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

25Dod i rymLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 3;

(b)adran 17 ac Atodlen 2;

(c)y Rhan hon, heblaw‍ adrannau 19 a 21.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adrannau 1, 2, 6 a 7;

(b)Rhan 2;

(c)adran 18 ac Atodlen 3;

(d)adran 19‍;

(e)adran 21.

(3)Daw adran 3 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 7 Tachwedd 2025.

(4)Daw adrannau‍ 4 a 5 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 25 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

26Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 26 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

(a gyflwynir gan adrannau 11 a 12)

ATODLEN 1LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL SY’N YMWNEUD Â RHAN 3

RHAN 1LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â NEWID ENW BYR DEDDF 2013

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)LL+C

1(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 25(2) (tymor swydd ac ymddeoliad cynghorwyr), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 (anaw 4)” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

(3)Yn adran 30 (cyfyngu ar geisiadau cymunedau yn ystod ac ar ôl adolygiadau)—

(a)yn is-adran (1)(ba), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “or Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “under Part 3 of the Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

(4)Yn adran 31(2) (darpariaeth sy’n atodol i adrannau 27A i 27L), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

(5)Yn adran 246(9) (cadw pwerau, breintiau a hawliau dinasoedd neu fwrdeistrefi presennol), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf yr Heddlu 1996 (p. 16)LL+C

2Yn adran 1(2)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (ardaloedd heddlu), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21)LL+C

3(1)Mae Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 2 (pŵer i greu awdurdodau tân ac achub cyfunol)—

(a)yn is-adran (9)(c), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”;

(b)yn is-adran (10)(a), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

(3)Yn adran 4(7)(b) (awdurdodau cyfunol o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13)LL+C

4Yn adran 72(3) o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (diwygio ardaloedd heddlu: tymor swydd comisiynydd), ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “police area alteration order”, yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 (anaw 4)” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf 2013LL+C

5(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 43(1) (amrywio a dirymu gorchmynion), ar ôl “neu 39” mewnosoder “gan Weinidogion Cymru, y Comisiwn na, yn ôl y digwydd, y prif gyngor”.

(3)Hepgorer adran 74(1) a (2) (adolygiadau sy’n mynd rhagddynt ac arbedion eraill).

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (dccc 6)LL+C

6(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1(2) (trosolwg), hepgorer paragraff (e).

(3)Hepgorer adran 43 (cynigion a gyflwynwyd cyn i Ran 3 o Ddeddf 2013 gychwyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)LL+C

7(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 171(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Deddf 2013”, yn lle “Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

(3)Yn y pennawd italig o flaen paragraff 14 o Atodlen 1, yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/399 (Cy. 45))LL+C

8Yn Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod), yn Rhan G (y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Biliau preifat), yn ail golofn y tabl, yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1075 (Cy. 254))LL+C

9Yn erthygl 2 o Orchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1080 (Cy. 255))LL+C

10Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1081 (Cy. 256))LL+C

11Yn erthygl 2 o Orchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1082 (Cy. 257))LL+C

12Yn erthygl 2 o Orchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1084 (Cy. 258))LL+C

13Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1111 (Cy. 266))LL+C

14Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1112 (Cy. 267))LL+C

15Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1113 (Cy. 268))LL+C

16Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1114 (Cy. 269))LL+C

17Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1138 (Cy. 275))LL+C

18Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1139 (Cy. 276))LL+C

19Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1140 (Cy. 277))LL+C

20Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1159 (Cy. 284))LL+C

21Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1160 (Cy. 285))LL+C

22Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1161 (Cy. 286))LL+C

23Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1181 (Cy. 292))LL+C

24Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1182 (Cy. 293))LL+C

25Yn erthygl 2 o Orchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1216 (Cy. 305))LL+C

26Yn erthygl 2 o Orchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1217 (Cy. 306))LL+C

27Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1223 (Cy. 307))LL+C

28Yn erthygl 2 o Orchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021 (O.S. 2021/1227 (Cy. 309))LL+C

29Yn erthygl 2(2) o Orchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/1228 (Cy. 310))LL+C

30Yn erthygl 2 o Orchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1232 (Cy. 311))LL+C

31Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022 (O.S. 2022/279 (Cy. 80))LL+C

32Yn erthygl 2(2) o Orchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

RHAN 2LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â NEWID ENW’R COMISIWN

Deddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11)LL+C

33Yn Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (mathau o gyflogaeth y cyfeirir atynt yn adran 1 o’r Ddeddf honno), o dan y pennawd italig “Royal Commissions and other Commissions”—

(a)hepgorer “The Local Democracy and Boundary Commission for Wales”;

(b)o flaen y cofnod ar gyfer “Development Commission” mewnosoder—

  • Democracy and Boundary Commission Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)LL+C

34(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 30 (cyfyngu ar geisiadau cymunedau yn ystod ac ar ôl adolygiadau)—

(a)yn is-adran (1)(ba), yn lle “Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “the Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “the Democracy and Boundary Commission Cymru”.

(3)Yn adran 74(3A) (newid enw sir etc.), yn lle “Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru”.

(4)Yn adran 76(2)(a) (newid enw cymuned), yn lle “Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Anghymhwyso Tŷ’r Cyffredin 1975 (p. 24)LL+C

35Yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Anghymhwyso Tŷ’r Cyffredin 1975 (swyddi sy’n anghymhwyso rhag bod yn aelodau)—

(a)o flaen y cofnod ar gyfer “Development Commission” mewnosoder—

  • The Democracy and Boundary Commission Cymru.;

(b)hepgorer “The Local Government Boundary Commission for Wales.”

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Llywodraeth Leol 1992 (p. 19)LL+C

36Yn Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1992 (diwygiadau sy’n ganlyniadol ar Ran 2), hepgorer paragraff 11.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)LL+C

37Ym mharagraff 4 o Ran 1 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (archwilio etc. gyrff cyhoeddus Cymru), yn lle “Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36)LL+C

38Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (awdurdodau cyhoeddus)—

(a)ar ôl y cofnod ar gyfer “Defence Scientific Advisory Council”, mewnosoder—

  • The Democracy and Boundary Commission Cymru.;

(b)hepgorer “The Local Democracy and Boundary Commission for Wales.”

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

39Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

40Yn adran 148(2) (ystyr “cofnodion cyhoeddus Cymru”)—

(a)ar ôl paragraff (c), mewnosoder—

(ca)the Democracy and Boundary Commission Cymru,;

(b)hepgorer paragraff (i).

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

41Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd mewn etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd), hepgorer y cofnod ar gyfer “Local Democracy and Boundary Commission for Wales or Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

42Yn nhabl 1 ym mharagraff 35(3) o Atodlen 11 (darpariaethau trosiannol), hepgorer y cofnod ar gyfer adran 20(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 1 para. 42 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)LL+C

43Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc: safonau), yn y tabl—

(a)o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer “Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol” mewnosoder—

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“The Democracy and Boundary Commission Cymru”)Safonau cyflenwi gwasanaethau
Safonau llunio polisi
Safonau gweithredu
Safonau cadw cofnodion;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 1 para. 43 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf 2013LL+C

44(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle adran 1(2) (trosolwg), rhodder—

(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

(3)Ym mhennawd Rhan 2, yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

(4)Yn Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

(a)hepgorer paragraff 1(3)(b);

(b)hepgorer paragraffau 3 a 4 a’r penawdau italig o’u blaenau.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)LL+C

45Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (awdurdodau rhestredig), o dan y pennawd italig “Amrywiol”—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

  • Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.;

(b)hepgorer “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.”

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 1 para. 45 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)LL+C

46Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 1 para. 46 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

47Yn adran 10(1) (dyletswydd i hysbysu pan fydd penderfyniad yn cael ei basio) yn lle “a’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol” rhodder “a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 1 para. 47 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

48Yn adran 11 (adolygiad cychwynnol)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”, rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”;

(b)yn y pennawd, yn lle “y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol”, rhodder “Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 1 para. 48 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

49Yn adran 138 (adolygiadau o drefniadau etholiadol)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”, rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”;

(b)yn is-adran (2)(a), yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”, rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 1 para. 49 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

50Ym mharagraff 1(1) o Atodlen 1 (adolygiadau cychwynnol o drefniadau etholiadol etc.), yn lle “Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”, rhodder “Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 1 para. 50 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (dsc 1)LL+C

51Ym mharagraff 18 o Atodlen 1 i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (awdurdodau contractio), yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 1 para. 51 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898)LL+C

52Yn y tabl yn yr Atodlen i Orchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 hepgorer y cofnod ar gyfer “Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 1 para. 52 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341)LL+C

53Yn rheoliad 101(2) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, yn lle “Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru”.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 1 para. 53 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (O.S. 2015/102)LL+C

54Yn Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (awdurdodau llywodraeth ganolog)—

(a)ar ôl “Agricultural Land Tribunal for Wales”, mewnosoder—

  • Democracy and Boundary Commission Cymru;

(b)hepgorer “Local Democracy and Boundary Commission for Wales”.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 1 para. 54 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016 (O.S. 2016/182 (Cy. 76))LL+C

55Yn Atodlen 6 i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016—

(a)yn y lle priodol, mewnosoder—

  • Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“The Democracy and Boundary Commission Cymru”);

(b)hepgorer “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru (“The Local Democracy and Boundary Commission for Wales”)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 1 para. 55 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/694)LL+C

56Hepgorer rheoliad 11(b) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2016 (diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001).

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 1 para. 56 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/970 (Cy. 239))LL+C

57Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016 wedi ei ddirymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 1 para. 57 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

Gorchymyn Blwydd-daliadau (Derbyn i Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972) 2017 (O.S. 2017/1261)LL+C

58Hepgorer erthygl 8(a)(ii) o Orchymyn Blwydd-daliadau (Derbyn i Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972) 2017 (diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) i adlewyrchu newidiadau i enwau).

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 1 para. 58 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

(a gyflwynir gan adran 17)

ATODLEN 2LL+CETHOLAETHAU’R SENEDD AR GYFER YR ETHOLIAD CYFFREDINOL CYNTAF AR ÔL 6 EBRILL 2026

Etholiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddyntLL+C

1Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch yr etholaethau yr etholir‍ Aelodau o’r Senedd drostynt (“etholaethau’r Senedd”‍) mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith (neu y newidir yr etholaethau fel arall o dan unrhyw ddeddfiad).

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Etholaethau’r Senedd ac adolygiad ffiniau 2026LL+C

2(1)Rhaid i ardal pob etholaeth Senedd gynnwys ardaloedd cyfunedig dwy o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol.

(2)Rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“y Comisiwn”) gynnal adolygiad (“adolygiad ffiniau 2026”) yn unol â’r Atodlen hon i benderfynu—

(a)pa etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol sydd i’w cyfuno i greu ardaloedd yr 16 o etholaethau’r Senedd;

(b)enwau etholaethau’r Senedd;

(c)pa un a yw pob etholaeth Senedd yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Hysbysiad cychwyn adolygiad ffiniau 2026LL+C

3(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cychwyn adolygiad ffiniau 2026, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad—

(a)yn datgan bod y Comisiwn wedi cychwyn yr adolygiad, a

(b)yn pennu’r dyddiad y cychwynnodd yr adolygiad arno.

(2)Yn yr Atodlen hon, ystyr “dyddiad yr adolygiad” yw’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff‍ (1)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Y materion y caiff y Comisiwn eu hystyried yn adolygiad ffiniau 2026LL+C

4Wrth ystyried y cyfuniadau posibl o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru, caiff y Comisiwn ystyried—

(a)ffiniau llywodraeth leol sy’n bodoli ar ddyddiad yr adolygiad;

(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd etholaeth Senedd arfaethedig;

(c)unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â’r defnydd o’r Gymraeg)‍ a fyddai’n cael ei dorri gan y cyplysiadau arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Penderfynu ar enwau etholaethau’r SeneddLL+C

5(1)Rhaid i bob etholaeth Senedd gael‍ enw‍ unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol (os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg‍).‍

(2)Cyn gwneud ei adroddiad cychwynnol (gweler paragraff 6) rhaid i’r Comisiwn—

(a)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enwau arfaethedig ar gyfer adnabod etholaethau’r Senedd, a

(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd gan y Comisiynydd ar orgraff yr enwau arfaethedig.

(3)Mae gofyniad o dan yr Atodlen hon i nodi enw neu enw arfaethedig etholaeth Senedd mewn adroddiad, pan fo’r Comisiwn yn ystyried y dylai’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, yn ofyniad i nodi’r ddau enw—

(a)yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad, a

(b)yn fersiwn Saesneg yr adroddiad‍.

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Adroddiad cychwynnol ar adolygiad ffiniau 2026 a’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadauLL+C

6(1)Ar ôl cymryd y camau ym mharagraffau 3(1) a 5(2) rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad cychwynnol yn nodi’r etholaethau Senedd arfaethedig, gan gynnwys—

(a)pa etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol sydd i’w cyfuno i greu ardaloedd yr 16 o etholaethau’r Senedd, a

(b)enw arfaethedig pob etholaeth Senedd.

(2)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r adroddiad cychwynnol,

(b)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad,

(c)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, a

(d)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau.

(3)Yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.

(4)Mae’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau yn gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad cychwynnol.

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Ail adroddiad ar adolygiad ffiniau 2026 a’r ail gyfnod ar gyfer sylwadauLL+C

7(1)Ar ddiwedd y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr adroddiad cychwynnol a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan baragraff 6(3)),

(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac

(c)os yw’r Comisiwn‍, ar ôl ystyried ei gynigion, yn ystyried unrhyw newidiadau i enw arfaethedig etholaeth Senedd fel y’i nodir yn yr adroddiad cychwynnol, rhaid iddo—

(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig‍.

(2)Ar ôl cymryd y camau yn is-baragraff (1), rhaid i’r Comisiwn wneud ail adroddiad yn nodi’r etholaethau Senedd arfaethedig, gan gynnwys—

(a)pa etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol sydd i’w cyfuno i greu ardaloedd yr 16 o etholaethau’r Senedd,

(b)enw arfaethedig pob etholaeth, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion yn yr adroddiad cychwynnol, ac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newidiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r ail adroddiad,

(b)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad,

(c)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, a

(d)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau.

(4)Yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.

(5)Mae’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau yn gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr ail adroddiad.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr ail adroddiad a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan is-baragraff (4)),

(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac

(c)os yw’r Comisiwn‍, ar ôl ystyried ei gynigion, yn ystyried unrhyw newidiadau i enw arfaethedig etholaeth Senedd fel y’i nodir yn yr ail adroddiad, rhaid iddo—

(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig‍.

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Adroddiad terfynol ar adolygiad ffiniau 2026LL+C

8(1)Cyn 1 Ebrill 2025 rhaid i’r Comisiwn—

(a)gwneud adroddiad terfynol a chyhoeddi’r adroddiad hwnnw, a

(b)anfon yr adroddiad hwnnw at Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r adroddiad terfynol nodi etholaethau’r Senedd, gan gynnwys—

(a)pa etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol sydd i’w cyfuno i greu ardaloedd yr 16 o etholaethau’r Senedd,

(b)enw pob etholaeth, ac

(c)pa un a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(3)Rhaid i’r adroddiad terfynol hefyd bennu manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a nodir yn yr ail adroddiad, ac esbonio pam y gwnaed y newidiadau hynny.

(4)Nid yw methiant gan y Comisiwn i gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru cyn 1 Ebrill 2025 yn annilysu’r adroddiad.

(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael yr adroddiad terfynol, rhaid iddynt ei osod gerbron y Senedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Gweithredu’r adroddiad terfynol gan Weinidogion CymruLL+C

9(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn rhoi effaith i’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod yr adroddiad gerbron y Senedd, a

(b)sut bynnag, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, cyn diwedd y cyfnod o 14 o wythnosau sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron y Senedd.

(2)Pan na fo rheoliadau wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Senedd yn nodi’r amgylchiadau eithriadol.

(3)Rhaid i ddatganiad o dan is-baragraff (2) gael ei osod cyn diwedd y cyfnod o 14 o wythnosau sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron y Senedd.

(4)Rhaid i ddatganiadau pellach sy’n nodi’r amgylchiadau eithriadol gael eu gosod gerbron y Senedd cyn diwedd pob cyfnod dilynol o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y datganiad blaenorol, hyd nes bod y rheoliadau wedi eu gwneud.

(5)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn wneud darpariaeth ar gyfer unrhyw faterion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddeilliadol i’r penderfyniadau yn yr adroddiad terfynol, neu’n ganlyniadol arnynt.

(6)Rhaid i reoliadau o dan y paragraff hwn gael eu gwneud drwy offeryn statudol.

(7)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y paragraff hwn gael ei osod gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheoliadau gael eu gwneud.

(8)Nid yw dod i rym y rheoliadau yn effeithio ar ddychwelyd Aelod o’r Senedd i’r Senedd, na chyfansoddiad y Senedd, hyd nes y diddymir y Senedd mewn cysylltiad â’r etholiad cyffredinol cyntaf i’w gynnal ar ôl 6 Ebrill 2026.

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Addasu’r adroddiad terfynol gan y ComisiwnLL+C

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod yr adroddiad terfynol gerbron y Senedd o dan baragraff 8(5),

(b)pan fo’r Comisiwn yn ystyried bod angen addasu’r adroddiad i gywiro gwall neu wallau mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir ym mharagraff 8(2), ac

(c)pan na fo’r rheoliadau wedi eu gwneud hyd hynny o dan baragraff 9.

(2)Caiff y Comisiwn anfon datganiad at Weinidogion Cymru yn pennu—

(a)yr addasiadau a wnaed i’r adroddiad, a

(b)y rhesymau dros wneud yr addasiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad a anfonir at Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (2).

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael datganiad, rhaid iddynt ei osod gerbron y Senedd.

(5)Pan fo datganiad wedi ei anfon at Weinidogion Cymru, rhaid i’r rheoliadau a wneir o dan baragraff 9 roi effaith i’r adroddiad terfynol gyda’r addasiadau a bennir yn y datganiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Dirprwyo swyddogaethau gan y Comisiwn o dan yr Atodlen honLL+C

11Mae adran 13(1) o Ddeddf 2013 (dirprwyo) i’w darllen fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at swyddogaethau’r Comisiwn o dan yr Atodlen hon (ac yn unol â hynny caniateir dirprwyo’r swyddogaethau hynny o dan yr adran honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau i’r Comisiwn ynghylch swyddogaethau o dan yr Atodlen honLL+C

12Nid yw adran 14 o Ddeddf 2013 (cyfarwyddiadau) yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

DehongliLL+C

13Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “y Comisiwn”(“the Commission”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2(2);

  • mae i “dyddiad yr adolygiad” (“review date”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3;

  • mae “etholaeth Senedd” (“Senedd constituency”) i’w ddehongli yn unol â pharagraff‍ 1;

  • ystyr “etholaeth seneddol y DU” (“UK parliamentary constituency”) yw etholaeth‍ , a bennir yng Ngorchymyn Etholaethau Seneddol 2023 (O.S. 2023/1230), sy’n dychwelyd aelod o Senedd y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “ffiniau llywodraeth leol (“local government boundaries”) yw ffiniau siroedd, ffiniau bwrdeistrefi sirol, ffiniau wardiau etholiadol, ffiniau cymunedau a ffiniau wardiau cymunedol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

14Pan fo’r Atodlen hon yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi hysbysiad, adroddiad neu ddogfen arall, rhaid i’r hysbysiad, adroddiad neu ddogfen arall gael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—

(a)ar wefan y Comisiwn, a

(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

(a gyflwynir gan adran 18)

ATODLEN 3LL+CRHAN NEWYDD 3A O DDEDDF 2013

Yn ddilys o 24/08/2024

Rhan 3A o Ddeddf 2013LL+C

1Yn Neddf 2013, ar ôl Rhan 3 mewnosoder—

RHAN 3ALL+CADOLYGIADAU O FFINIAU ETHOLAETHAU’R SENEDD

49AAdolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd

(1)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd unwaith ym mhob cyfnod adolygu.

(2)Adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd yw adolygiad o etholaethau’r Senedd at ddiben penderfynu a ddylai’r ffiniau hynny newid er mwyn rhoi effaith i’r rheolau a nodir yn adran 49C.

(3)Os yw’r Comisiwn yn penderfynu yn ystod adolygiad y dylai ffiniau etholaeth Senedd newid, rhaid i’r Comisiwn hefyd benderfynu—

(a)yr hyn ddylai fod yr enwau ar yr etholaethau yr effeithir arnynt;

(b)pa un a yw pob etholaeth yr effeithir arni yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(4)Ond os yw’r Comisiwn yn penderfynu yn ystod adolygiad, er na ddylai ffiniau etholaeth Senedd newid, y dylai enw’r etholaeth newid neu y dylai ei dynodiad yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol newid, caiff y Comisiwn benderfynu—

(a)yr hyn ddylai fod yr enw ar yr etholaeth;

(b)pa un a ddylai fod yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(5)At ddiben is-adran (1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)y cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 30 Tachwedd 2028,

(b)y cyfnod o 8 mlynedd sy’n dechrau ag 1 Rhagfyr 2028, ac

(c)pob cyfnod dilynol o 8 mlynedd.

49BHysbysiad cychwyn adolygiad ffiniau etholaethau’r Senedd

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cychwyn adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad—

(a)yn datgan bod y Comisiwn wedi cychwyn adolygiad, a

(b)yn pennu’r dyddiad y cychwynnodd yr adolygiad arno.

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “dyddiad yr adolygiad” yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (1)(b).

49CRheolau ynghylch etholaethau

(1)Rhaid i’r etholyddiaeth ar gyfer pob etholaeth Senedd fod yn—

(a)dim llai na 90% o’r cwota etholiadol, a

(b)dim mwy na 110% o’r cwota etholiadol.

(2)Wrth ystyried, yn ystod adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd, pa un a ddylid gwneud newidiadau i etholaethau’r Senedd, a pha newidiadau y dylid eu gwneud—

(a)caiff y Comisiwn roi sylw i—

(i)ffiniau llywodraeth leol sy’n bodoli neu sy’n ddarpar ffiniau ar ddyddiad yr adolygiad;

(ii)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd etholaeth Senedd arfaethedig neu etholaeth Senedd bresennol;

(iii)unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â’r defnydd o’r Gymraeg) a‍ fyddai’n cael ei dorri gan y newidiadau hynny; ond

(b)sut bynnag, rhaid i’r Comisiwn—

(i)ceisio sicrhau y gwneir cyn lleied o newidiadau â phosibl i etholaethau’r Senedd sy’n bodoli ar ddyddiad yr adolygiad, a

(ii)rhoi sylw i’r anghyfleustra a achosir drwy wneud newidiadau i etholaethau’r Senedd.

(3)At ddibenion is-adran (1)—

(a)yr etholyddiaeth yw cyfanswm nifer yr etholwyr llywodraeth leol, a

(b)y cwota etholiadol yw etholyddiaeth Cymru wedi ei rannu ag 16 (sef nifer etholaethau’r Senedd), ac

at ddibenion paragraff (a), etholwr llywodraeth leol yw person sydd wedi ei gofrestru yn y fersiwn berthnasol o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd.

(4)Y fersiwn berthnasol o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, ar ddyddiad yr adolygiad, yw’r fersiwn ddiweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2).

(5)Yn achos ffin llywodraeth leol sy’n ddarpar ffin ar ddyddiad yr adolygiad, y ffin honno (yn hytrach nag unrhyw ffin sy’n bodoli eisoes a ddisodlir ganddi) yw’r ffin y mae rhaid ei hystyried o dan is-adran ‍(2)(a)(i).

(6)Mae ffin llywodraeth leol yn “ddarpar ffin” ar ddyddiad yr adolygiad—

(a)os yw’r ffin, ar y dyddiad hwnnw, wedi ei phennu mewn darpariaeth mewn—

(i)deddfwriaeth sylfaenol, neu

(ii)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol, a

(b)os nad yw’r ddarpariaeth sy’n pennu’r ffin mewn grym hyd hynny at bob diben ar y dyddiad hwnnw.

(7)Yn is-adran (6), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

(b)Mesur a ddeddfwyd o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

49DPenderfynu ar enwau etholaethau’r Senedd

(1)Rhaid i bob etholaeth Senedd gael‍ enw‍ unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol (os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg‍).

(2)Cyn gwneud ei adroddiad cychwynnol (gweler adran 49E) rhaid i’r Comisiwn, os yw’n bwriadu gwneud cynnig yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd—

(a)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(b)ystyried ei gynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.

(3)Mae gofyniad o dan y Rhan hon i nodi enw neu enw arfaethedig etholaeth Senedd mewn adroddiad, pan fo’r Comisiwn yn ystyried y dylai’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, yn ofyniad i nodi’r ddau enw—

(a)yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad, a

(b)yn fersiwn Saesneg yr adroddiad‍.

49EAdroddiad cychwynnol ar yr adolygiad ffiniau a’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau

(1)Ar ôl cymryd y camau yn adrannau 49B(1) a 49D(2), rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad cychwynnol yn nodi—

(a)cynigion y Comisiwn ar gyfer newid i—

(i)ffiniau etholaethau’r Senedd;

(ii)enwau etholaethau’r Senedd, neu

(b)os nad yw’n ystyried bod unrhyw newid yn briodol, datganiad i’r perwyl hwnnw.

(2)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r adroddiad cychwynnol,

(b)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad,

(c)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, a

(d)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau.

(3)Yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.

(4)Mae’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau yn gyfnod o wyth wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad cychwynnol.

49FCyhoeddi sylwadau ac ymgynghori arnynt

(1)Ar ddiwedd y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dogfen yn nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr adroddiad cychwynnol a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan adran 49E(3)).

(2)Rhaid i’r Comisiwn hefyd—

(a)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r ddogfen a gyhoeddir o dan is-adran (1),

(b)gwahodd sylwadau mewn cysylltiad â’r sylwadau a nodir yn y ddogfen a gyhoeddir o dan is-adran (1),

(c)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a

(d)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch yr amseroedd a’r lleoedd y cynhelir gwrandawiadau cyhoeddus o dan adran 49G a, phan fo gwrandawiadau i’w cynnal yn rhannol wyneb yn wyneb ac yn rhannol drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell, bennu cyfarwyddiadau ynghylch sut i wneud sylwadau drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell.

(3)Mae’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau yn gyfnod o chwe wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir y ddogfen o dan is-adran (1).

(4)Yn is-adran (2)(d), ystyr “cyfleusterau o bell” yw unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi pobl nad ydynt yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad i wneud sylwadau yn y gwrandawiad.

49GGwrandawiadau cyhoeddus

(1)Yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, rhaid i’r Comisiwn gynnal o leiaf ddau o wrandawiadau cyhoeddus, ond nid mwy na phump o’r gwrandawiadau cyhoeddus hynny, i alluogi gwneud sylwadau ynghylch ei gynigion.

(2)Rhaid i’r gwrandawiadau cyhoeddus rhyngddynt gwmpasu Cymru gyfan.

(3)Rhaid i wrandawiad cyhoeddus gael ei gwblhau o fewn dau ddiwrnod.

(4)Os yw gwrandawiad i’w gynnal yn rhannol drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 49F(4)), rhaid i’r cyfleusterau o bell alluogi’r bobl sy’n gwneud sylwadau yn y gwrandawiad ond nad ydynt yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad i siarad ac i gael eu clywed gan (pa un a yw’n galluogi’r bobl hynny i weld ac i gael eu gweld ai peidio gan)—

(a)ei gilydd, a

(b)pobl yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad.

(5)Rhaid i’r Comisiwn benodi person i fod yn gadeirydd ar bob gwrandawiad (“y cadeirydd”).

(6)Rhaid i’r cadeirydd bennu’r weithdrefn sydd i lywodraethu’r gwrandawiad hwnnw.

(7)Rhaid i’r cadeirydd wneud trefniadau i wrandawiad cyhoeddus ddechrau gydag esboniad o—

(a)y cynigion y mae’r gwrandawiad yn ymwneud â hwy;

(b)sut y caniateir gwneud sylwadau ynghylch y cynigion.

(8)Rhaid i’r cadeirydd ganiatáu i sylwadau gael eu gwneud—

(a)gan bob plaid wleidyddol sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41) ac sydd naill ai—

(i)ag o leiaf un Aelod o’r Senedd, neu

(ii)wedi cael o leiaf 10% o’r pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholiad cyffredinol mwyaf diweddar;

(b)gan unrhyw berson arall y mae’r cadeirydd yn ystyried bod ganddo fuddiant yn unrhyw un neu ragor o’r cynigion y mae’r gwrandawiad yn ymwneud â hwy (yn ddarostyngedig i is-adran (9)(c)).

(9)Caiff y cadeirydd—

(a)pennu ym mha drefn y gwneir sylwadau;

(b)cyfyngu ar faint o amser a ganiateir ar gyfer sylwadau, ac nid oes angen iddo ganiatáu’r un faint o amser i bob person;

(c)os yw’n angenrheidiol oherwydd prinder amser, benderfynu pa rai o’r personau a grybwyllir yn is-adran (8)(b) nas caniateir iddynt wneud sylwadau.

(10)Caiff y cadeirydd holi cwestiynau i berson sy’n gwneud sylwadau yn y gwrandawiad, neu ganiatáu i gwestiynau cael eu holi i’r person hwnnw.

(11)Os caniateir holi cwestiynau, caiff y cadeirydd reoleiddio modd y cwestiynu neu gyfyngu ar nifer y cwestiynau y caiff person eu gofyn.

49HAil adroddiad ar yr adolygiad ffiniau a’r cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau

(1)Ar ddiwedd yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau—

(a)rhaid i’r Comisiwn ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau a’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a

(b)os yw’r Comisiwn‍, ar ôl ystyried ei gynigion, yn bwriadu gwneud cynnig nas nodwyd yn yr adroddiad cychwynnol yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd, rhaid iddo—

(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig‍.

(2)Ar ôl cymryd y camau yn is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn wneud ail adroddiad—‍

(a)yn nodi—

(i)cynigion y Comisiwn ar gyfer newid ffiniau ac enwau etholaethau’r Senedd, neu

(ii)os nad yw’r Comisiwn yn ystyried bod unrhyw newid yn briodol, ddatganiad i’r perwyl hwnnw;

(b)yn pennu manylion unrhyw newidiadau y mae’r Comisiwn wedi eu gwneud i’r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad cychwynnol, ac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newidiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r ail adroddiad,

(b)cyhoeddi dogfen—

(i)yn cynnwys cofnodion o’r gwrandawiadau cyhoeddus a gynhaliwyd o dan adran 49G, a

(ii)yn nodi unrhyw sylwadau (o’r math a ddisgrifir yn adran 49F(2)(b)) a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau,

(c)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad a’r ddogfen a gyhoeddwyd o dan baragraff (b),

(d)gwahodd sylwadau—‍

(i)ar yr adroddiad‍,

(ii)mewn cysylltiad ag unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod y gwrandawiadau cyhoeddus, a

(iii)mewn cysylltiad ag unrhyw sylwadau (o’r math a ddisgrifir yn adran 49F(2)(b)) a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a

(e)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau.

(4)Yn ystod y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.

(5)Mae’r cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau yn gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr ail adroddiad.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnws unrhyw sylwadau wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg, pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan is-adran (4), ar yr ail adroddiad ac ar y sylwadau a grybwyllir yn is-adran (3)(d)(ii) a (iii)),

(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac

(c)os yw’r Comisiwn‍, ar ôl ystyried ei gynigion, yn bwriadu gwneud cynnig nas nodwyd yn yr ail adroddiad yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd, rhaid iddo—

(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig‍.

49IAdroddiad terfynol ar adolygiad ffiniau

(1)Cyn 1 Rhagfyr 2028, a chyn 1 Rhagfyr bob wythfed flynedd ar ôl hynny, rhaid i’r Comisiwn—

(a)wneud adroddiad terfynol a’i gyhoeddi, a

(b)anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r adroddiad terfynol—

(a)naill ai—

(i)nodi manylion unrhyw newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd, neu

(ii)datgan nad yw’n ofynnol gwneud unrhyw newid i etholaethau’r Senedd, a

(b)pennu manylion unrhyw newidiadau y mae’r Comisiwn wedi eu gwneud i’r cynigion a nodir yn yr ail adroddiad, ac esbonio pam y gwnaed y newidiadau hynny.

(3)Os yw’n ofynnol gwneud newidiadau i ffiniau etholaethau’r Senedd, rhaid i’r adroddiad terfynol nodi—

(a)ffiniau‍ yr holl etholaethau y dychwelir Aelodau o’r Senedd ar eu cyfer,

(b)enwau’r holl etholaethau hynny, ac

(c)a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(4)Os nad oes newid i’w wneud i ffiniau un o etholaethau’r Senedd ond bod angen newid y naill neu’r llall neu’r ddau o’r pethau a ganlyn—

(a)enw’r etholaeth;

(b)ei dynodiad yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol,

rhaid i’r adroddiad terfynol nodi’r newid.

(5)Nid yw methiant gan y Comisiwn i gydymffurfio â therfyn amser yn is-adran (1) yn annilysu adroddiad terfynol.

(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael adroddiad terfynol, rhaid iddynt ei osod gerbron Senedd Cymru.

49JGweithredu adroddiad terfynol gan Weinidogion Cymru

(1)Pan fo adroddiad terfynol yn nodi newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd, rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn rhoi effaith i’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru, a

(b)sut bynnag, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, cyn diwedd y cyfnod o‍ bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad gerbron y Senedd.

(2)Pan na fo rheoliadau wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Senedd Cymru yn nodi’r amgylchiadau eithriadol.

(3)Rhaid i ddatganiad o dan is-adran (2) gael ei osod cyn diwedd y cyfnod o‍ bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron Senedd Cymru.

(4)Rhaid i ddatganiadau pellach sy’n nodi’r amgylchiadau eithriadol gael eu gosod gerbron Senedd Cymru cyn diwedd pob cyfnod dilynol o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y datganiad blaenorol, hyd nes bo’r rheoliadau wedi eu gwneud.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer unrhyw faterion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddeilliadol i’r penderfyniadau yn yr adroddiad terfynol, neu’n ganlyniadol arnynt.

(6)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon gael eu gwneud drwy offeryn statudol.

(7)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheoliadau gael eu gwneud.

(8)Nid yw dod i rym y rheoliadau hyn yn effeithio ar ddychwelyd Aelod o’r Senedd i Senedd Cymru, na chyfansoddiad Senedd Cymru, hyd nes y diddymir y Senedd mewn cysylltiad ag‍‍—

(a)yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf, neu

(b)etholiad cyffredinol eithriadol, y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer—

(i)yn ystod y cyfnod o fis sy’n gorffen â’r diwrnod cyn y diwrnod y byddai’r bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei chynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), gan ddiystyru paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno, neu

(ii)ar y diwrnod y byddai’r bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei chynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan ddiystyru paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno.

49KAddasu adroddiad terfynol gan y Comisiwn

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod adroddiad terfynol gerbron Senedd Cymru o dan adran 49I(6),

(b)pan fo’r adroddiad yn nodi newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd,

(c)pan fo’r Comisiwn yn ystyried bod angen addasu’r adroddiad i gywiro gwall neu wallau mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir yn adran 49I(3) neu (4), a

(d)pan na fo’r rheoliadau wedi eu gwneud hyd hynny o dan adran‍ 49J.

(2)Caiff y Comisiwn anfon datganiad at Weinidogion Cymru yn pennu—

(a)yr addasiadau i’r adroddiad, a

(b)y rhesymau dros yr addasiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad a anfonir at Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael datganiad, rhaid iddynt ei osod gerbron Senedd Cymru.

(5)Pan fo datganiad wedi ei anfon at Weinidogion Cymru, rhaid i’r rheoliadau a wneir o dan adran 49J roi effaith i’r adroddiad terfynol gyda’r addasiadau a bennir yn y datganiad.

49LDehongli’r Rhan

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “cyfleusterau o bell” (“remote facilities”) yr ystyr a roddir gan adran 49F(4);

  • mae i “dyddiad yr adolygiad” (“review date”) yr ystyr a roddir gan adran 49B(2);

  • ystyr “etholaeth Senedd” (“Senedd constituency”) yw etholaeth y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 49J;

  • ystyr “etholiad cyffredinol” (“general election”) yw etholiad cyffredinol cyffredin neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir o dan Ran 1 o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

  • ystyr “ffiniau llywodraeth leol” (“local government boundaries”) yw ffiniau siroedd, ffiniau bwrdeistrefi sirol, ffiniau wardiau etholiadol, ffiniau cymunedau a ffiniau wardiau cymunedol yng Nghymru.

(2)Pan fo’r Rhan hon yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi hysbysiad, adroddiad neu ddogfen arall, rhaid i’r hysbysiad, yr adroddiad neu ddogfen arall gael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—

(a)ar wefan y Comisiwn, a

(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(c)

Diwygiadau cysylltiedigLL+C

2(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio yn unol ag is-baragraffau (2) i (6).

(2)Yn adran 1 (trosolwg), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Mae Rhan 3A yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd a gynhelir gan y Comisiwn.

(3)Yn adran 13(1) (dirprwyo), yn lle’r geiriau o “Benodau 2” hyd at y diwedd rhodder

(a)Penodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau sy’n ymwneud â chynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol);

(b)Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd);

(c)Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),

fel a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.

(4)Yn adran 14 (cyfarwyddiadau), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)Nid yw’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn yn ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd).

(5)Yn adran 71(4) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl “adran 45 neu 75” mewnosoder “, neu reoliadau a wneir o dan adran 49J”.

(6)Yn Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl ‍2—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Cyfleusterau o bell (Remote facilities)Adran 49F(4);
Dyddiad yr adolygiad (Review date)Adran 49B(2);
Etholaeth Senedd (Senedd constituency)Adran 49L(1);
Etholiad cyffredinol (General election)Adran 49L(1);
Ffiniau llywodraeth leol (Local government boundaries)Adran 49L(1);

(b)yn y cofnod ar gyfer “Etholwr llywodraeth leol (Local government elector)”, yn yr ail golofn, ar ôl “Adran 30” mewnosoder “at ddibenion Rhan 3 ac adran 49C(3) at ddibenion Rhan 3A”.

(7)Yn Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, hepgorer paragraff 13 (dirprwyo swyddogaethau o dan yr Atodlen honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(2)(c)

Darpariaeth drosiannolLL+C

3(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, pa un a yw’r adroddiad terfynol ar yr adolygiad cyntaf o ffiniau a gynhaliwyd o dan Ran 3A o Ddeddf 2013 yn nodi newidiadau sy’n ofynnol i’r etholaethau y dychwelir Aelodau o’r Senedd ar eu cyfer ai peidio, wneud rheoliadau o dan adran 49J sy’n nodi, yn unol â’r penderfyniadau yn yr adroddiad hwnnw—

(a)ffiniau’r holl etholaethau hynny,

(b)enwau’r holl etholaethau hynny, ac

(c)a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol, ac

mae adran 49J(1) o Ddeddf 2013 i’w darllen yn unol â hynny.

(2)Hyd nes y mae’r rheoliadau‍ a grybwyllir yn is-baragraff (1) yn cymryd effaith, mae’r cyfeiriad yn y diffiniad o “etholaeth Senedd” yn adran 49L(1)‍ o Ddeddf 2013 at “adran 49J” i’w ddarllen fel cyfeiriad at “baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (dsc 4)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(2)(c)

Yn ôl i’r brig

Options/Help