Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024

Rhan 2 – Cyrff Etholedig a’u Haelodau

9.Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o ffiniau a threfniadau etholiadol awdurdodau lleol, cydnabyddiaeth ariannol aelodau awdurdodau lleol, anghymhwyso rhag aelodaeth o Senedd Cymru ac awdurdodau lleol a’r drosedd o ddylanwad amhriodol. Mae’r Rhan wedi ei rhannu’n 4 pennod.

10.Mae Pennod 1 yn diwygio Rhan 3 o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (y cyfeirir ati fel “Deddf 2013” o hyn ymlaen), sy’n gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o ffiniau a threfniadau etholiadol cynghorau siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru. Mae’r bennod—

  • yn newid yr ystyriaethau sy’n gymwys i adolygiadau sy’n ymwneud â siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau a’r cyfnodau adolygu cymwys;

  • yn ei gwneud yn glir y caiff adolygiad o ffiniau atfor gynnwys mwy nag un ardal llywodraeth leol;

  • yn gwneud newidiadau i’r gofynion sy’n ymwneud ag ymgynghori ac ystyried sylwadau ar adolygiadau;

  • yn gwneud darpariaeth fel bod Gweinidogion Cymru yn gallu cyfarwyddo oedi adolygiadau etholiadol ac mae’n nodi gofynion ynghylch cyhoeddi gorchmynion adolygu a gwybodaeth gysylltiedig arall.

11.Mae Pennod 2 yn diddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn rhoi ei swyddogaethau i’r Comisiwn.

12.Mae Pennod 3 yn cynnwys darpariaethau ar gyfer anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd ac yn gynghorydd cymuned, ac am y drosedd o ddylanwad amhriodol. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n atal person sy’n dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol, pan fo’r swydd honno o dan gyngor cymuned, cyd-bwyllgor corfforedig, neu awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr, rhag dod yn aelod o gyngor cymuned neu barhau i fod yn aelod o gyngor cymuned.

13.Mae Pennod 4 yn gwneud newidiadau i Ddeddf 2013 sy’n ymwneud â phersonau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn, yn brif weithredwr arno nac yn gomisiynydd cynorthwyol arno. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer pwyllgor llywodraethu ac archwilio i’r Comisiwn ac yn rhoi pŵer i’r Comisiwn i godi tâl am nwyddau a gwasanaethau y mae’n eu darparu.

Yn ôl i’r brig

Options/Help