Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 10

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, Adran 10. Help about Changes to Legislation

10Cynigion ar gyfer peilotau a wneir ar y cyd gan y Comisiwn Etholiadol a phrif gynghorauLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff y Comisiwn Etholiadol ac un neu ragor o brif gynghorau (“cynghorau perthnasol”), gan weithredu ar y cyd, gynnig i Weinidogion Cymru fod rheoliadau peilot yn cael eu gwneud mewn perthynas ag unrhyw fater etholiadol perthnasol i’r graddau y mae’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol.

(2)Cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn Etholiadol a phob cyngor perthnasol sy’n gweithredu ar y cyd ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)Ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (2) a chyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn Etholiadol a phob cyngor perthnasol sy’n gweithredu ar y cyd—

(a)cyflwyno’r cynnig i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer y peilot y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau, a

(b)rhoi sylw i adroddiad y Comisiwn ar y cynnig o dan adran 14.

(4)Os yw’r Comisiwn Etholiadol a phob cyngor perthnasol sy’n gweithredu ar y cyd yn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid iddynt anfon copi o adroddiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar y cynnig o dan adran 14 at Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(a)

Yn ôl i’r brig

Options/Help