5Rheoliadau peilot: pwerauLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth peilota etholiadau Cymreig (“rheoliadau peilot”).
(2)Mae darpariaeth peilota etholiadau Cymreig yn ddarpariaeth—
(a)sy’n ymwneud ag un neu ragor o faterion etholiadol perthnasol,
(b)sy’n cael effaith am gyfnod penodedig neu ar gyfer etholiad Cymreig penodedig,
(c)sy’n gymwys mewn perthynas ag ardal etholiadol neu ddwy neu ragor o ardaloedd etholiadol, a
(d)naill ai—
(i)nad yw mewn deddfwriaeth etholiadau,
(ii)sy’n wahanol i ddarpariaeth mewn deddfwriaeth etholiadau, neu
(iii)sy’n gysylltiedig â darpariaeth o’r math a bennir yn is-baragraff (i) neu (ii).
(3)Y materion etholiadol perthnasol yw—
(a)cofrestru personau sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiad Cymreig, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill)—
(i)hawliau a dyletswyddau unigolion o ran cofrestru,
(ii)gweinyddu’r broses gofrestru a’r gofrestr etholwyr,
(iii)mynediad at y gofrestr etholwyr a chyhoeddi’r gofrestr honno,
ond nid yw’n cynnwys unrhyw amod cymhwystra ar gyfer cofrestru y darperir ar ei gyfer mewn deddfwriaeth sylfaenol;
(b)pryd, ble a sut y mae pleidleisio mewn etholiad Cymreig i ddigwydd;
(c)sut y mae’r pleidleisiau a fwrir mewn etholiad Cymreig i’w cyfrif;
(d)cyfathrebu â phleidleiswyr ynghylch etholiad Cymreig;
(e)y prosesau a’r gweithdrefnau cyn pleidleisio, wrth bleidleisio neu ar ôl pleidleisio mewn etholiad Cymreig.
(4)Mae darpariaeth peilota etholiadau Cymreig hefyd yn cynnwys darpariaeth a wneir at ddiben profi sut y mae’r newidiadau a wneir gan adrannau 3 a 4yn gweithio yn ymarferol—
(a)sy’n cael effaith am gyfnod penodedig neu ar gyfer etholiad Cymreig penodedig,
(b)sy’n gymwys mewn perthynas ag ardal etholiadol neu ddwy neu ragor o ardaloedd etholiadol, ac
(c)y mae ei heffaith yn cyfateb i effaith y diwygiadau a wneir gan adrannau 3 a 4 (neu’r is-ddeddfwriaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd yr adrannau hynny).
(5)Caiff rheoliadau peilot roi ar waith gynigion ar gyfer rheoliadau peilot a wneir o dan y Ddeddf hon gydag addasiadau i’r cynnig neu hebddynt.
(6)Caiff rheoliadau peilot greu, dileu neu addasu troseddau.
(7)Ni chaiff rheoliadau peilot greu trosedd y caniateir ei chosbi (nac addasu trosedd fel y daw’n drosedd y caniateir ei chosbi)—
(a)ar euogfarn ar dditiad, drwy garcharu am gyfnod sy’n hwy nag un flwyddyn;
(b)ar euogfarn ddiannod, drwy garcharu am gyfnod sy’n hwy na’r terfyn cymwys ar gyfer trosedd ddiannod neu drosedd neillffordd (yn ôl y digwydd) o dan adran 224(1A) o’r Cod Dedfrydu (fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd).
(8)Yn yr adran hon—
ystyr “ardal etholiadol” (“electoral area”) yw—
(a)
mewn perthynas â dychwelyd aelod o Senedd Cymru, un o etholaethau’r Senedd;
(b)
mewn perthynas ag etholiad llywodraeth leol, ardal cyngor y mae’r etholiad yn gymwys iddo neu unrhyw ran o ardal cyngor o’r fath;
ystyr “deddfwriaeth etholiadau” (“elections legislation”) yw deddfiad (pryd bynnag y caiff ei basio neu ei wneud) sy’n gymwys mewn perthynas—
(a)
ag etholiad Cymreig, neu
(b)
â chofrestru personau sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiad Cymreig;
ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” (“primary legislation”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;
ystyr “etholiad Cymreig” (“Welsh election”) yw etholiad ar gyfer dychwelyd aelod o—
(b)
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(c)
cyngor cymuned yng Nghymru;
ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau peilot.