Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Newidiadau dros amser i: Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 31/12/2020

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 02/04/2018.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 07 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Prif dermauLL+C

1Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwnLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

(2)Trefniadau teithio, ni waeth beth fo'r disgrifiad ohonynt, yw “trefniadau teithio” ac maent yn cynnwys—

(a)darparu cludiant;

(b)darparu un person neu fwy i hebrwng plentyn pan fydd yn teithio;

(c)talu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;

(d)talu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio dulliau teithio penodol.

(3)Ystyr “dysgwyr” yw personau sy'n cael addysg neu hyfforddiant.

(4)Mae “mannau perthnasol” fel a ganlyn—

(a)ysgolion a gynhelir;

(b)sefydliadau yn y sector addysg bellach;

(c)ysgolion annibynnol a enwir mewn datganiadau a gedwir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);

(d)ysgolion arbennig nas cynhelir;

(e)unedau cyfeirio disgyblion;

(f)mannau ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion lle y trefnir addysg o dan adran 19(1) o Ddeddf Addysg 1996;

(g)mannau lle y darperir addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21);

(h)sefydliadau lle y sicrhawyd addysg a hyfforddiant a llety byrddio gan Weinidogion Cymru o dan adran 41 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;

(i)mannau lle y darperir addysg feithrin—

(i)gan awdurdod lleol, neu

(ii)gan unrhyw berson arall sy'n cael cymorth ariannol a roddir gan awdurdod lleol o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yn unol â'r ddyletswydd a osodir gan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);

(j)mannau lle yr ymgymerir â phrofiad gwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 1(1)-(3)(4)(a)-(i) mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

I3A. 1(4)(j) mewn grym ar 30.10.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/2819, ergl. 2(1)(a)

Trefniadau teithio i ddysgwyrLL+C

2Dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyrLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â—

(a)dysgwyr nad ydynt eto'n 19 oed;

(b)dysgwyr sydd wedi cyrraedd 19 oed ac sydd wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw;

(c)y cyfryw ddysgwyr eraill ag a ragnodir.

(2)Ym mhob blwyddyn academaidd, rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion teithio dysgwyr ei ardal ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.

(3)At ddibenion is-adran (2), anghenion dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod am gael trefniadau teithio addas bob dydd i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno yw “anghenion teithio dysgwyr” ardal awdurdod lleol.

(4)Wrth wneud asesiad o dan is-adran (2) rhaid i awdurdod lleol roi sylw yn benodol i—

(a)anghenion dysgwyr sy'n bersonau anabl,

(b)anghenion dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu,

(c)anghenion dysgwyr sy'n blant ac sy'n derbyn gofal, neu a fu gynt yn derbyn gofal, gan awdurdod lleol,

(d)oed dysgwyr, ac

(e)natur y ffyrdd y gellid yn rhesymol ddisgwyl i ddysgwyr eu dilyn i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I5A. 2 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

3Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludoLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—

(a)os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol,

(b)os yw'r amgylchiadau a nodir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl canlynol yn gymwys i'r plentyn, ac

(c)os bodlonir yr amod, neu'r holl amodau, a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl mewn perthynas â'r plentyn.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau cludo addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.

TABL

Colofn 1Colofn 2
AmgylchiadauAmod(au)

Mae'r plentyn yn cael addysg gynradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

(a)

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

(b)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn—

(i)

ysgol a gynhelir sy'n ysgol addas,

(ii)

uned cyfeirio disgyblion sy'n uned addas,

(iii)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(iv)

ysgol arbennig nas cynhelir sy'n ysgol addas,

ac sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.

(c)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awrdurdod lleol ar gyfer llety byrddio addas i'r plentyn yn yr ysgol neu'r uned neu'n agos at yr ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn cael addysg uwchradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

(a)

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

(b)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn—

(i)

ysgol a gynhelir sy'n ysgol addas,

(ii)

uned cyfeirio disgyblion sy'n uned addas,

(iii)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(iv)

ysgol arbennig nas cynhelir sy'n ysgol addas,

ac sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.

(c)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol ar gyfer llety byrddio addas i'r plentyn yn yr ysgol neu'r uned neu'n agos at yr ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn wedi ymrestru fel myfyriwr llawnamser.
(a)

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r sefydliad.

(b)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ymrestru mewn sefydliad addas sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.

Mae'r plentyn—

(a)

yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, a

(b)

yn cael addysg uwchradd mewn man perthnasol ac eithrio'r ysgol honno.

Addysg sydd wedi ei threfnu gan y canlynol yw'r addysg uwchradd y cyfeirir ati ym mharagraff (b)—

(i)

gan yr awdurdod lleol, neu

(ii)

gan gorff llywodraethu yr ysgol lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig, neu ar ran y corff llywodraethu.

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r man perthnasol.

Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg gynradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg uwchradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

Mae'r plentyn fel arfer yn preswylio mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am unrhyw drefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon.

(4)Caiff trefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon gynnwys—

(a)darparu cludiant;

(b)talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau cludo plentyn.

(5)At ddibenion is-adran (2), nid yw trefniadau cludo'n addas—

(a)os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,

(b)os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu

(c)os nad ydynt yn ddiogel.

(6)At ddibenion pob paragraff (b) yn ail golofn y tabl yn yr adran hon, mae'r ysgol, yr uned neu'r sefydliad yn addas i'r plentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.

(7)Mae'r pellteroedd a grybwyllir yng ngholofn 2 y tabl yn yr adran hon i'w mesur ar hyd y ffordd fyrraf sydd ar gael.

(8)Mae ffordd “ar gael” at ddibenion is-adran (7)—

(a)os yw'n ddiogel i blentyn heb anabledd neu anhawster dysgu gerdded y ffordd ar ei ben ei hun, neu

(b)os yw'n ddiogel i'r cyfryw blentyn gerdded y ffordd gyda hebryngwr, pe byddai oed y plentyn yn galw am ddarparu hebryngwr.

(9)Caiff rheoliadau bennu amgylchiadau ac amodau at ddibenion paragraffau (b) ac (c) o is-adran (1); caiff y cyfryw reoliadau ddiwygio'r tabl neu ddiwygio is-adrannau (6), (7) ac (8) (gan gynnwys diddymu cofnod yn y tabl neu yn yr is-adrannau hynny).

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I7A. 3 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

4Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio eraillLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—

(a)os yw'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn man perthnasol,

(b)os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol, ac

(c)os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod angen trefniadau teithio er mwyn hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y man perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau teithio addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.

(3)Rhaid i awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am unrhyw drefniadau teithio a wneir yn unol ag is-adran (2).

(4)Caiff trefniadau teithio a wneir yn unol ag is-adran (2) gynnwys talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau teithio plentyn.

(5)Wrth ystyried a yw trefniadau teithio yn addas at ddibenion yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw'n benodol—

(a)i'r asesiad a wneir ganddo yn unol ag adran 2(2);

(b)i'r trefniadau cludo y mae dyletswydd arno i'w gwneud ar gyfer y plentyn o dan adran 3;

(c)i oed y plentyn;

(d)i unrhyw anabledd neu anhawster dysgu sydd gan y plentyn;

(e)i natur y ffyrdd y gellid yn rhesymol ddisgwyl i'r plentyn eu dilyn.

(6)At ddibenion yr adran hon nid yw trefniadau teithio'n addas—

(a)os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,

(b)os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu

(c)os nad ydynt yn ddiogel.

(7)Wrth ystyried a yw trefniadau teithio'n angenrheidiol at ddibenion yr adran hon—

(a)rhaid i awdurdod lleol roi sylw'n benodol i'r materion a bennir yn is-adran (5);

(b)caiff awdurdod lleol roi sylw'n benodol i ba un a yw'r plentyn yn mynychu'r man perthnasol addas agosaf at fan preswyl arferol y plentyn ai peidio.

(8)Mae is-adran (7)(b) yn gymwys—

(a)os nad yw'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)os yw trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i fynychu man perthnasol addas sy'n nes at fan preswyl arferol y plentyn.

(9)At ddibenion yr adran hon, mae man perthnasol yn addas i blentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I9A. 4 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

5Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyrLL+C

Nid yw adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i asesu anghenion teithio dysgwyr ac nid yw adrannau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau teithio—

(a)er mwyn i ddysgwyr deithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng gwahanol safleoedd yr un sefydliad, neu

(b)at unrhyw ddiben ac eithrio mynychu man perthnasol i gael addysg neu hyfforddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I11A. 5 mewn grym ar 6.3.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

I12A. 5 mewn grym ar 1.9.2009 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

6Pŵer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyrLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â dysgwr—

(a)os yw'r dysgwr yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)os yw'r dysgwr yn cael addysg neu hyfforddiant yn ardal yr awdurdod lleol.

(2)Caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau teithio i hwyluso'r ffordd i'r dysgwr fynychu man lle y mae'r person hwnnw'n cael addysg neu hyfforddiant.

(3)Caiff awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio a wneir o dan yr adran hon ar gyfer disgyblion cofrestredig o oedran ysgol gorfodol yn unol â darpariaethau adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996.

(4)Caiff awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio a wneir o dan yr adran hon ar gyfer dysgwyr eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I14A. 6 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

7Trefniadau teithio i ddysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru a'r rheini —

(a)yn ddysgwyr—

(i)sydd dros oedran ysgol gorfodol ond heb fod eto'n 19 oed, neu

(ii)sydd wedi cyrraedd 19 oed ac wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant penodol cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw; a

(b)yn ddysgwyr sy'n cael addysg neu hyfforddiant—

(i)mewn man yng Nghymru, neu

(ii)a gyllidir gan Weinidogion Cymru mewn man y tu allan i Gymru.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i ddysgwyr i'r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno.

(3)Caiff y rheoliadau yn benodol—

(a)rhoi pwerau i'r canlynol neu osod dyletswyddau arnynt—

(i)Gweinidogion Cymru;

(ii)awdurdodau lleol;

(iii)sefydliadau yn y sector addysg bellach;

(b)pennu'r mathau o fan y caniateir, neu y mae'n rhaid, gwneud trefniadau teithio i fynd yno ac oddi yno;

(c)pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;

(d)pennu'r materion y mae'n rhaid rhoi ystyriaeth iddynt wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;

(f)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r person arall o dan y rheoliadau;

(g)gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr eu harddel tra byddant yn teithio i'r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant neu o'r mannau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I16A. 7 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

8Trefniadau teithio i fan lle y darperir addysg feithrin ac oddi ynoLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i blant o dan oedran ysgol gorfodol i'r mannau lle y maent yn cael addysg feithrin ac oddi yno.

(2)Caiff y rheoliadau'n benodol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;

(b)caniata[acute]u i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;

(c)pennu'r mathau o fan y caniateir gwneud, neu y mae'n rhaid gwneud, trefniadau teithio yno ac oddi yno;

(d)pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;

(e)pennu'r materion y mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;

(f)gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;

(g)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan y rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I18A. 8 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

9Trefniadau teithio i ddysgwyr a'r rheini'n drefniadau nad ydynt i ffafrio mathau penodol o addysg neu hyfforddiantLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os gwneir trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 mewn cysylltiad â dysgwyr o fath a ddisgrifir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl a ganlyn.

(2)Rhaid gwneud trefniadau hefyd yn unol â'r adrannau hynny mewn cysylltiad â'r dysgwyr o fath a ddisgrifir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl.

(3)Rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) beidio â bod yn llai ffafriol na'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

TABL

Colofn 1Colofn 2
Plant o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.Plant yr un oed sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.
Dysgwyr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn ysgolion a gynhelir.Dysgwyr yr un oed sy'n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn mannau perthnasol eraill.
Dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.Dysgwyr yr un oed a chanddynt anawsterau dysgu sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.
Dysgwyr a chanddynt anabledd sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.Dysgwyr yr un oed a chanddynt anabledd sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.
Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.Plant yr un oed sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I20A. 9 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

Hybu mynediad i addysg cyfrwng CymraegLL+C

10Hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y GymraegLL+C

Rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddant yn arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I22A. 10 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

Dulliau teithio cynaliadwyLL+C

11Dulliau teithio cynaliadwyLL+C

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu'r defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy pan fyddant yn arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

(2)Dulliau teithio yw “dulliau teithio cynaliadwy” y mae'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) o'r farn eu bod yn ddulliau a all wella'r naill beth a ganlyn neu'r llall neu'r naill beth a ganlyn a'r llall sef—

(a)llesiant corfforol y rhai sy'n eu defnyddio;

(b)llesiant amgylchedd—

(i)ardal gyfan yr awdurdod lleol neu ran ohoni, yn achos awdurdod, neu

(ii)Cymru gyfan neu ran ohoni, yn achos Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I24A. 11 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

Cod ymddygiad wrth deithioLL+C

12Cod ymddygiad wrth deithioLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cod ymddygiad wrth deithio.

(2)Cod yw cod ymddygiad wrth deithio sy'n nodi'r safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt eu harddel tra byddant yn teithio i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno (pa un a ydynt yn manteisio ar drefniadau teithio a wneir gan awdurdod lleol ai peidio).

(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys—

(a)i ddysgwyr nad ydynt eto'n 19 oed;

(b)i ddysgwr sydd wedi cyrraedd 19 oed ac wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw;

(c)i'r cyfryw ddysgwyr eraill ag a ragnodir.

(4)O bryd i'w gilydd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r cod ymddygiad wrth deithio.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r cod.

(6)Cyn llunio cod neu ei adolygu rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyfryw bersonau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I26A. 12 mewn grym ar 30.10.2009 gan O.S. 2009/2819, ergl. 2(1)(b)

13Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: disgyblion mewn ysgolion perthnasolLL+C

(1)Diwygir adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), ar ôl “The head teacher” mewnosoder “of a relevant school in England”.

(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)The head teacher of a relevant school in Wales must in determining such measures—

(a)act in accordance with the current statement made by the governing body under section 88(2)(a),

(b)have regard to any notification or guidance given to him under section 88(2)(b), and

(c)require pupils at the school to comply with the travel behaviour code made by the Welsh Ministers under section 12 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008.

(4)Yn is-adran (3) yn lle “The” rhodder “In relation to a relevant school in England, the”.

(5)Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)In relation to a relevant school in Wales, the standard of behaviour which is to be regarded as acceptable must be determined by the head teacher, so far as it is not determined by—

(a)the governing body, or

(b)the Welsh Ministers.

(6)Yn is-adran (5), ar ôl “head teacher” mewnosoder “of a relevant school in England”.

(7)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)The measures which the head teacher of a relevant school in Wales determines under subsection (1) may, to such extent as is reasonable and not required by subsection (2A)(c), include measures to be taken with a view to regulating the conduct of pupils at a time when they are not on the premises of the school and are not under the lawful control or charge of a member of the staff of the school.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I28A. 13 mewn grym ar 4.1.2010 gan O.S. 2009/2819, ergl. 2(2)(a)

I29A. 13 mewn grym ar 4.1.2010 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2)(a)

14Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithioLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i ddysgwyr y gwneir trefniadau teithio ar eu cyfer o dan adran 3 neu 4.

(2)Caiff yr awdurdod lleol dynnu'n ôl drefniadau teithio a wnaed ar gyfer dysgwr—

(a)os yw'r awdurdod yn fodlon bod y dysgwr wedi methu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad wrth deithio a wnaed o dan adran 12, a

(b)os bodlonir yr amodau canlynol sy'n gymwys i'r dysgwr.

(3)Mae'r chwe amod canlynol i gyd yn gymwys i unrhyw ddysgwr sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.

(4)Mae'r cyntaf, y trydydd a'r pedwerydd o'r amodau canlynol yn gymwys i unrhyw ddysgwr nad yw'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.

(5)Yr amod cyntaf yw, cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud i dynnu'n ôl drefniadau teithio—

(a)bod cyfle'n cael ei roi i'r dysgwr ac i riant y dysgwr i wneud sylwadau, a

(b)bod yr awdurdod lleol yn ystyried y sylwadau hynny.

(6)Yr ail amod yw—

(a)yr ymgynghorir â phennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig ynghylch y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio; a

(b)yr hysbysir pennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig o'r penderfyniad o leiaf 24 awr cyn bydd tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol.

(7)Y trydydd amod yw bod y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(8)Y pedwerydd amod yw bod yr awdurdod lleol yn hysbysu rhiant y dysgwr, o leiaf 24 awr cyn i dynnu'n ôl y trefniadau ddod yn effeithiol, bod y trefniadau teithio'n cael eu tynnu'n ôl.

(9)Y pumed amod yw nad yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn fwy na 10 niwrnod ysgol dilynol.

(10)Y chweched amod yw na fyddai'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn arwain at dynnu'n ôl drefniadau teithio oddi wrth y dysgwr am fwy na 30 o ddiwrnodau ysgol yn y flwyddyn ysgol y mae tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol ynddi.

(11)Wrth benderfynu a yw penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol at ddibenion is-adran (7), rhaid ystyried yn benodol y materion canlynol—

(a)a yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn gymesur ag amgylchiadau'r achos,

(b)unrhyw amgylchiadau arbennig sy'n berthnasol i dynnu'n ôl drefniadau teithio ac sy'n hysbys i'r awdurdod lleol (neu y dylai'r awdurdod lleol fod yn ymwybodol ohonynt) gan gynnwys yn arbennig—

(i)oed y dysgwr,

(ii)unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod gan y dysgwr,

(iii)unrhyw anabledd a all fod gan y dysgwr,

(iv)a fyddai'r dysgwr yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, a

(v)a all rhiant y dysgwr yn rhesymol wneud trefniadau teithio amgen sy'n rhai addas.

(12)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (6) neu is-adran (8) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi'n benodol—

(a)y cyfnod pan yw trefniadau teithio wedi eu tynnu'n ôl, a

(b)rhesymau'r awdurdod dros dynnu'n ôl y trefniadau teithio.

(13)At ddibenion yr adran hon ac adran 17, ystyr “ysgol berthnasol” yw—

(a)ysgol a gynhelir,

(b)uned cyfeirio disgyblion, neu

(c)ysgol arbennig nas cynhelir.

(14)Caiff rheoliadau—

(a)diwygio neu ddiddymu y naill neu'r llall o is-adrannau (9) a (10), neu'r ddwy;

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2);

(c)gwneud darpariaeth ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2).

(15)Caiff rheoliadau o dan is-adran (14)(c) yn benodol—

(a)pennu'r categorïau o berson a gaiff apelio;

(b)pennu'r amgylchiadau pan ganiateir apelio;

(c)darparu ar gyfer cyfansoddiad panelau apelio;

(d)darparu ar gyfer gweithdrefnau apelio;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch effaith penderfyniadau apêl;

(f)darparu ar gyfer talu lwfansau i aelodau o banelau apelio;

(g)ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag apelau.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I31A. 14 mewn grym ar 4.1.2010 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2)(b)

I32A. 14 mewn grym ar 4.1.2010 gan O.S. 2009/2819, ergl. 2(2)(b)

[F1Diogelwch ar gludiant i ddysgwyrLL+C

Diwygiadau Testunol

F1A. 14A ac cross-heading wedi ei fewnosod (1.10.2014) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 1, 16(1)

14AGofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyrLL+C

(1)Rhaid i gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae'n ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.

(2)Rhaid i berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir ar gyfer cludiant o'r fath yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.

(3)Mae person sy'n methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Mae'n amddiffyniad i ddangos bod y methiant i gydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) wedi ei gyfiawnhau oherwydd amgylchiadau eithriadol.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon i'w ddehongli fel petai'n gosod safonau technegol ar gyfer gwneuthuriad neu gyfarpar cerbyd sy'n wahanol i'r safonau a fyddai neu a allai fod yn gymwys mewn modd arall i'r cerbyd hwnnw yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy'n uniongyrchol gymwysadwy.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “bws” yw cerbyd modur sydd wedi ei wneuthur neu wedi ei addasu i gario mwy nag wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ychwanegol at y gyrrwr;

  • ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o'r canlynol, pryd bynnag y'i pasiwyd neu y'i gwnaed—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol;

    (c)

    darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu is-ddeddfwriaeth o'r fath;

  • ystyr “gwregys diogelwch” yw gwregys sydd wedi ei fwriadu ar gyfer ei wisgo gan berson mewn cerbyd ac sydd wedi ei ddylunio i atal neu leihau anafiadau i'r sawl sy'n ei wisgo os bydd damwain i'r cerbyd.]

[F2Diogelwch ar gludiant i ddysgwyrLL+C

Diwygiadau Testunol

F2A. 14B ac cross-heading wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 2, 16(2)

14BRhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach er mwyn—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sicrhau mai dim ond cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol ddefnyddio cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig yn unig;

(c)darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan baragraffau (a) a (b) o is-adran (1) ddisgrifio cerbydau drwy gyfeirio at wneuthuriad, cyfarpar neu nodweddion eraill cerbyd.]

[F314CRecordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i drefniadau rhagnodedig gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain o ddigwyddiadau sy'n digwydd ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol;

(b)darparu ynghylch defnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain a recordir ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir gan gorff perthnasol;

(c)darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) roi pwerau neu ddyletswyddau ar unrhyw un o'r canlynol—

(a)corff perthnasol;

(b)person sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi na'i gwneud yn ofynnol bod recordio yn digwydd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw personau sy'n ddarostyngedig iddo yn gwybod ei fod neu y gall fod yn digwydd.]

Diwygiadau Testunol

[F414DAsesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch o'r cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)gosod gofynion ynghylch natur yr asesiad i'w gynnal;

(b)ei gwneud yn ofynnol i lunio a chyhoeddi adroddiadau;

(c)rhagnodi ffurf a dull y cyhoeddi;

(d)rhagnodi pa mor aml y mae'n rhaid cynnal yr asesiadau.]

Diwygiadau Testunol

[F514EHyfforddi gyrwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sy'n darparu neu yn sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu sicrhau bod gyrwyr cerbydau a ddefnyddir at y cyfryw gludiant wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig i safon ragnodedig.

(2)Caniateir rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.

(3)Yn yr adran hon ystyr “hyfforddiant” yw hyfforddiant am ddiogelwch ar gludiant i ddysgwyr a gweithio gyda phlant.]

Diwygiadau Testunol

[F614FGoruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer goruchwylio dysgwyr sy'n defnyddio cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pwerau i gorff perthnasol neu osod dyletswyddau arno;

(b)darparu ynghylch hyfforddiant i bersonau sy'n goruchwylio dysgwyr.]

Diwygiadau Testunol

[F714GCosbau sifilLL+C

Mae i Atodlen A1 effaith.]

Diwygiadau Testunol

[F814HAwdurdod gorfodiLL+C

(1)Caiff rheoliadau benodi person neu gorff (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) i fod yn awdurdod gorfodi.

(2)Caniateir penodi mwy nag un person neu gorff yn awdurdod gorfodi.

(3)Caiff rheoliadau roi pwerau i awdurdod gorfodi neu osod dyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adrannau 14B a 14C ac Atodlen A1 a chânt (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i awdurdodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “arolygydd”) i arfer y pwerau yn adrannau 14I a 14J,

(b)gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy'n gymwys i'r awdurdod gorfodi, neu

(c)darparu i'r cyfryw ddeddfiad fod yn gymwys, gyda neu heb addasiadau, at ddibenion adran 14A a rheoliadau o dan adrannau 14B a 14C, yr adran hon ac Atodlen A1.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at berson neu gorff a benodir o dan yr adran hon ac maent yn cynnwys person a benodir gan awdurdod gorfodi.

(5)Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys—

(a)deddfiad pryd bynnag y'i pasiwyd neu y'i gwnaed,

(b)deddfiad a geir mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac

(c)darpariaeth a geir mewn is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr is-ddeddfwriaeth yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru).]

Diwygiadau Testunol

[F914IPŵer mynediadLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i—

(a)cerbyd neu unrhyw fangre dan berchnogaeth neu reolaeth corff perthnasol;

(b)cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn is-adran (2).

(2)Cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn yr is-adran hon yw—

(a)y rhai a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol, neu

(b)y rhai y mae arolygydd yn credu yn rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu y bwriedir eu defnyddio felly.

(3)Caiff arolygydd ar unrhyw adeg resymol—

(a)cadw cerbyd yn gaeth;

(b)mynd i gerbyd neu fangre.

(4)Ond nid yw'r pŵer yn is-adran (3) yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.

(5)Rhaid i arolygydd sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir o dan is-adran (3) neu adran 14J, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny, ddangos dogfen a awdurdodwyd yn briodol sy'n dangos bod gan yr arolygydd yr awdurdod i wneud felly.]

Diwygiadau Testunol

[F1014JPŵer arolyguLL+C

(1)Caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu yn mynd i mewn i gerbyd neu fangre o dan adran 14I—

(a)arolygu'r cerbyd neu'r fangre;

(b)arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, cymryd copïau ohonynt a mynd â hwy o'r cerbyd neu'r fangre;

(c)arolygu unrhyw eitem arall a mynd ag ef o'r cerbyd neu'r fangre.

(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y cerbyd neu'r fangre neu sy'n gyfrifol am y dogfennau neu'r cofnodion hynny i'w dangos hwy, a

(b)o ran cofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, pŵer i'w gwneud yn ofynnol dangos y cofnodion ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.

(3)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

(b)i gymryd copïau o'r cyfryw ddogfennau neu gofnodion neu i fynd â hwy i ffwrdd.

(4)Mewn cysylltiad ag arolygu'r cyfryw ddogfennau, caiff arolygydd—

(a)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd yn ei dyb ef yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar cysylltiedig neu'r deunydd, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (5) roi unrhyw gymorth rhesymol a all fod yn ofynnol at y diben hwnnw.

(5)Mae person o fewn yr is-adran hon—

(a)os y person hwnnw yw'r person sy'n defnyddio'r cyfrifiadur neu a'i defnyddiodd neu'r person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran, neu

(b)os yw'r person hwnnw yn berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu'n ymwneud fel arall â'u gweithrediad.

(6)Caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu'n mynd i gerbyd neu fangre ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau neu gymorth iddo o ran materion o fewn rheolaeth y person ag sy'n angenrheidiol er mwyn ei alluogi i arfer pwerau o dan adran 14I neu'r adran hon.

(7)Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro arolygydd rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14I neu'r adran hon, neu

(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.]

Diwygiadau Testunol

[F1114KY pŵer i fynnu gwybodaethLL+C

(1)Caiff awdurdod gorfodi ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (2) roi iddo unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion neu eitemau eraill—

(a)sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, a

(b)sydd, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn angenrheidiol neu'n hwylus i'w cael at ddibenion ei swyddogaethau fel yr awdurdod gorfodi.

(2)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—

(a)corff perthnasol;

(b)unrhyw berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.

(3)Mae'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, y pŵer i'w gwneud yn ofynnol eu darparu ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.

(4)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol yn cael eu darparu.

(5)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar yr raddfa safonol.]

Diwygiadau Testunol

[F1214LTramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaidLL+C

(1)Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o'r corff corfforaethol, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o'r corff corfforaethol, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y swyddog yn atebol yn ogystal â'r corff corfforaethol ei hun.

(2)Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan bartneriaeth wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner yn y bartneriaeth, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner yn y bartneriaeth, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y partner yn atebol yn ogystal â'r bartneriaeth ei hun.]

Diwygiadau Testunol

[F1314MRheoliadau: ymgynghoriLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob awdurdod lleol ac ag unrhyw bersonau eraill y mae yn eu barn hwy yn briodol ymgynghori â hwy cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1.]

Diwygiadau Testunol

[F1414NDehongli adrannau 14A i 14KLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 14A i 14K.

(2)Mae pob un o'r canlynol yn “gorff perthnasol”—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir.

(3)Ystyr “cludiant i ddysgwyr” yw cludiant i'w gwneud yn hwylus i blentyn fynychu unrhyw fan perthnasol lle y caiff addysg neu hyfforddiant; ond nid yw'n cynnwys cludiant a ddarperir er mwyn teithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng safleoedd gwahanol o'r un sefydliad.

(4)Nid yw'r weithred o wneud unrhyw un o'r trefniadau a ganlyn i'w hystyried, ynddi'i hun, fel petai'n darparu cludiant i ddysgwyr neu'n sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu.

(5)Y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (4) yw—

(a)trefniadau i dalu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;

(b)trefniadau i dalu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio cludiant.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio is-adran (3) yn y fath fodd ag i hepgor y geiriau o “ond nid yw'n cynnwys” hyd at ddiwedd yr is-adran.]

Diwygiadau Testunol

AtodolLL+C

15Canllawiau a chyfarwyddiadauLL+C

(1)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn, rhaid i'r cyrff canlynol roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru—

(a)awdurdodau lleol;

(b)cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;

(c)cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach.

(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud y cyfryw drefniadau teithio i ddysgwyr o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo i'w gwneud.

(3)Wrth wneud trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon gael eu rhoi i un awdurdod lleol neu fwy neu i awdurdodau lleol yn gyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I34A. 15 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

16Gwybodaeth am drefniadau teithioLL+C

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi, ar y cyfryw adegau ac yn y cyfryw fodd ag a ragnodir, wybodaeth—

(a)a ddaw i law wrth wneud asesiadau o dan adran 2(2);

(b)am asesiadau a wneir o dan yr adran honno;

(c)am y trefniadau teithio a wneir o dan y Mesur hwn;

(d)am y cod ymddygiad wrth deithio a wneir o dan adran 12.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I36A. 16 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

17Cydweithredu: gwybodaeth neu gymorth arallLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru roi i awdurdod lleol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar awdurdod lleol ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

(2)Rhaid i awdurdod lleol roi i awdurdod lleol arall unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar awdurdod lleol arall ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 2, 3, 4 a 6.

(3)Rhaid i awdurdod lleol roi i bennaeth ysgol berthnasol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar bennaeth ei hangen neu ei angen ynghylch ymddygiad disgybl cofrestredig yn ei ysgol tra oedd y disgybl yn manteisio ar drefniadau teithio a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan y Mesur hwn.

(4)Rhaid i bennaeth ysgol berthnasol roi i awdurdod lleol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar yr awdurdod lleol ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 14.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I38A. 17(1)(2) mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

I39A. 17(3) mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

I40A. 17(4) mewn grym ar 4.1.2010 gan O.S. 2009/2819, ergl. 2(2)(c)

I41A. 17(4) mewn grym ar 4.1.2010 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2)(c)

18Talu costau teithio gan awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddoLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn gwneud trefniadau teithio o dan adran 3 neu adran 4 ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ardal wahanol (“awdurdod B”).

(2)Caiff awdurdod A alw ar i awdurdod B ad-dalu'r cyfan neu ran o'r gost o wneud trefniadau teithio.

(3)Rhaid i awdurdod B gydymffurfio â'r galw am ad-dalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I43A. 18 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

19Penderfynu ar breswylfa arferol mewn amgylchiadau arbennigLL+C

(1)Os nad oes gan berson breswylfa arferol, mae'r person hwnnw i'w drin at ddibenion y Mesur hwn fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y man lle y mae'n preswylio am y tro.

(2)Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sydd naill ai—

(a)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, neu

(b)wedi ymrestru yn fyfyriwr llawnamser mewn sefydliad yn y sector addysg bellach.

(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)nad yw ei rieni'n cyd-fyw, a

(b)sy'n byw fel arfer gyda mwy nag un rhiant yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.

(4)Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sy'n byw fel arfer gyda rhiant ac mewn cartref plant hefyd yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.

(5)At ddibenion y Mesur hwn—

(a)mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (3) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y mannau lle y mae y naill o'i rieni a'r llall yn preswylio fel arfer;

(b)mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (4) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y cartref plant ac yn y man lle y mae ei riant yn preswylio fel arfer.

(6)Ond os oes mwy na dau o'r cyfryw fannau, mae'r plentyn neu'r person ifanc yn preswylio fel arfer yn y ddau fan sydd agosaf—

(a)at yr ysgol lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig, neu

(b)at y sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc wedi ymrestru'n fyfyriwr llawnamser.

(7)Yn yr adran hon—

[F15(a)ystyr “cartref plant” yw mangre lle y mae—

(i)gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant neu bobl ifanc; neu

(ii)gwasanaeth llety diogel yn cael ei ddarparu;

ac yn y paragraff hwn mae i “gwasanaeth cartref gofal” a “gwasanaeth llety diogel” yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2);]

(b)ystyr “rhiant” yw rhiant o fewn yr ystyr sydd i “parent” yn adran 576(1) o Ddeddf Addysg 1996 ac sy'n unigolyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I45A. 19 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

20Diwygiadau i adran 444 o Ddeddf Addysg 1996LL+C

(1)Diwygir adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 (mynychu'r ysgol) fel a ganlyn.

(2)Yn lle is-adran (4) rhodder—

(4)The child is not to be taken to have failed to attend regularly at the school if the parent proves that the local authority have failed to discharge—

(a)a duty to make transport arrangements in relation to the child under section 3 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008, or

(b)a duty to make travel arrangements in relation to the child under section 4 of that Measure.

(3)Yn is-adran (5) yn lle “subsections (3D) and (4)” rhodder “subsection (3D)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 20 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I47A. 20 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

21Diwygiadau i Ddeddf Addysg 2002LL+C

(1)Diwygir Deddf Addysg 2002 fel a ganlyn.

(2)Diwygir adran 32 (pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol) fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (1)(b) o flaen “the governing body” mewnosoder “subject to subsections (5) to (9),”;

(b)yn is-adran (2)(b) o flaen “the times” mewnosoder “subject to subsections (5) to (9)”;

(c)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)Subsections (1)(b) and (2)(b) do not apply in relation to a school in Wales in the circumstances specified in subsection (6).

(6)The circumstances are—

(a)that the local education authority in whose area the school is situated have given notice in writing to the governing body of the school that the times of the school sessions are to be determined in accordance with subsection (8), and

(b)that the notice has not been withdrawn by the local education authority.

(7)A local education authority must not issue a notice of the kind mentioned in subsection (6)(a) unless they consider a change in the times of the sessions of that school to be necessary or expedient in order to—

(a)promote the use of sustainable modes of travel within the meaning of section 11 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008, or

(b)improve the effectiveness or efficiency of travel arrangements made, or to be made, by the authority under that Measure.

(8)In relation to a school subject to a notice of the kind mentioned in subsection (6)(a)—

(a)where there are two school sessions on the relevant school day—

(i)the local education authority must determine the time each day at which the first school session starts and the second school session ends, and

(ii)the governing body must determine the time each day at which the first school session ends and the second school session starts;

(b)where there is one school session on the relevant school day the local education authority must determine the time each day at which the school session starts and ends.

(9)The Welsh Ministers may make provision by regulations—

(a)as to the procedure to be followed where the local education authority propose to issue a notice of the kind mentioned in subsection (6)(a);

(b)as to the matters to be included in such a notice;

(c)as to the implementation of any determination under subsection (8);

(d)for enabling the local education authority to determine, for any purposes of the regulations, whether any person is to be treated as a parent of a registered pupil at the school.

(10)In giving notice as described in subsection (6) and in discharging any function conferred by subsections (7) or (8) or by regulations under subsection (9), a local education authority must have regard to guidance given by the Welsh Ministers.

(3)Yn adran 210 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Ministers”;

(b)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(6A)Any statutory instrument containing regulations made under section 32(9) by the Welsh Ministers is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

(6B)Paragraphs 33 to 35 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 make provision about the National Assembly for Wales procedures that apply to any statutory instrument containing regulations or an order made in exercise of functions conferred upon the National Assembly for Wales by this Act that have been transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of that Schedule.;

(c)yn is-adran (7)—

(i)yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Ministers”,

(ii)yn lle “the Assembly thinks” ym mharagraff (c) rhodder “the Welsh Ministers think”.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I49A. 21 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

22Diwygiadau i adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996LL+C

(1)Diwygir Deddf Addysg 1996 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 455 (taliadau a ganiateir)—

(a)ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—

(ba)travel arrangements provided under section 6 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008 (“the Measure”) for a registered pupil at a maintained school in Wales, other than arrangements in respect of which, by virtue of section 454(3) of this Act or sections 3 or 4 of the Measure, no charge may be made,;

(b)yn is-adran (1)(c) ar ôl “maintained school” mewnosoder “in England” a hepgorer “or 509(2)”;

(c)ar ddiwedd is-adran (2)(b) hepgorer “or”;

(d)ar ôl is-adran (2)(b) mewnosoder—

(ba)by virtue of subsection (1)(ba) in respect of the provision for a pupil of travel arrangements, or;

(e)yn is-adran (3) ar ôl “entry” mewnosoder “travel arrangements,”.

(3)Yn adran 456 (rheoleiddio taliadau a ganiateir), yn is-adran (3) ar ôl “A regulated charge” mewnosoder “, except any charge permitted by virtue of section 455(1)(ba),”.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I51A. 22 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

23Diwygiadau i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006LL+C

(1)Diwygir Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 162 (pŵer i ddiddymu cyfeiriadau at “local education authority”), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)The Welsh Ministers may by order make such provision as appears to them to be appropriate for the purpose of—

(a)repealing any reference in a Measure of the National Assembly for Wales to a local education authority (however expressed), and

(b)replacing it, where it appears to them to be appropriate, with a reference (however expressed) to a Welsh local authority.

(3)Yn adran 181—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Any power of the Secretary of State or the Welsh Ministers to make an order or regulations under this Act is exercisable by statutory instrument.;

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “the Assembly”, y tro cyntaf y ceir yr ymadrodd hwnnw, rhodder “the Welsh Ministers”,

(ii)yn lle “the Assembly thinks” ym mharagraff (c) rhodder “the Welsh Ministers think”.

(4)Ar ôl adran 182 mewnosoder—

182AAssembly control of orders and regulations

(1)Any statutory instrument containing an order made under section 162(5A) by the Welsh Ministers may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the Assembly.

(2)Paragraphs 33 to 35 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 make provision about the Assembly procedures that apply to any statutory instrument containing regulations or an order made in exercise of functions conferred upon the Assembly by this Act that have been transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of that Schedule.

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I53A. 23 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

CyffredinolLL+C

24Dehongli cyffredinolLL+C

(1)Yn y Mesur hwn—

  • nid yw “addysg” (“education”) yn cynnwys addysg uwch;

  • ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg sy'n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

  • mae i “anabledd” yr ystyr sydd i “disability” ac i “person anabl” yr ystyr sydd i “disabled person” yn adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p.50);

  • ystyr “anhawster dysgu” (“learning difficulty”) mewn cysylltiad â pherson yw—

    (a)

    anhawster i ddysgu sy'n sylweddol fwy nag sydd gan y mwyafrif o bersonau yr un oed, neu

    (b)

    anabledd sydd naill ai'n atal y person hwnnw rhag defnyddio cyfleusterau o fath a ddarperir mewn mannau perthnasol, neu sy'n ei lesteirio wrth iddo eu defnyddio,

    ond ni ddylid cymryd bod gan berson anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith (neu'r ffurf ar yr iaith) y dysgir y person drwyddi (yn awr neu yn y dyfodol) yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sydd wedi ei siarad ar unrhyw adeg yng nghartref y person;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw [F16awdurdod lleol] yng Nghymru; ond mewn unrhyw gyfeiriad at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ei ystyr yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o fewn yr ystyr yn [F17Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.] 1970 (p.42);

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw unrhyw gyfnod o 1 Awst i 31 Gorffennaf;

  • ystyr “profiad gwaith” (“work experience”) yw profiad gwaith a drefnir ar gyfer—

    (a)

    un o ddisgyblion cofrestredig ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, neu

    (b)

    myfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach,

    gan gorff llywodraethu'r sefydliad addysg perthnasol, neu ar ran y corff llywodraethu;

  • ystyr “rhagnodi” (“prescribed”) yw rhagnodi mewn rheoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;

  • ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol a gymeradwywyd o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996.

(2)Mae i gyfeiriadau yn y Mesur hwn at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddynt yn [F18adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014] 1989 (p.41).

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.

(4)Os rhoddir i ymadrodd, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr sy'n wahanol i'r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, yr ystyr a roddir iddo at ddibenion y ddarpariaeth honno sydd i fod yn gymwys yn lle'r ystyr a roddir at ddibenion y Ddeddf honno.

25Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n ymwneud â'r darpariaethau a wneir gan y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I57A. 25 mewn grym ar 6.3.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

I58A. 25 mewn grym ar 1.9.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

26DiddymiadauLL+C

Diddymir y deddfiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r graddau a bennir.

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 26 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I60A. 26 mewn grym ar 6.3.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

I61A. 26 mewn grym ar 1.9.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

I62A. 26 mewn grym ar 30.10.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/2819, ergl. 2(1)(c)

27Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu [F19ddosbarthau ar achos neu ddibenion gwahanol neu] ardaloedd gwahanol;

[F20(aa)i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;]

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion [F21neu ddosbarthau ar achos] penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3(9), F22... [F237, 8, 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1] hefyd yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda ei gwneud.

(4)Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—

(a)y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;

(b)Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;

(c)is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.

[F24(4A)Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae'r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i'w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2011.]

(5)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.

(7)Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)—

(a)rheoliadau o dan adran 3(9),

(b)rheoliadau o dan adran 7,

(c)rheoliadau o dan adran 8,

(d)rheoliadau o dan adran 14(14)(a), F25...

[F26(da)rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu]

[F26(db)gorchymyn o dan adran 14N(6).]

(e)rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

28CychwynLL+C

(1)Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor—

  • yr adran hon;

  • adran 27;

  • adran 29.

(2)Daw darpariaethau'r Mesur hwn sy'n weddill i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 28 mewn grym ar 10.2.2009, gweler a. 28(1)

29Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau AddysgLL+C

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

(2)Mae'r Mesur hwn i'w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a geir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 29 mewn grym ar 10.2.2009, gweler a. 28(1)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill