Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

Adran 10 – Sancsiynau sifil mewn cysylltiad â gollwng gwastraff ar safle tirlenwi

45.Mae'r adran hon yn pennu bod y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 9 yn cynnwys pŵer i ddarparu ar gyfer sancsiynau sifil o ran tramgwyddau a grëir o dan adran 9. Mae sancsiynau sifil yn ddewis amgen i gosbau troseddol fel dull o fynd i’r afael â thorri rheoliadau.

46.Mae'r pŵer yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth gyfatebol, mewn perthynas ag awdurdod gorfodi, i ddarpariaeth y gellid ei gwneud drwy orchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13) (“RESA”) mewn perthynas â rheoleiddiwr.

47.Mae hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud darpariaeth sy’n galluogi awdurdod gorfodi wneud y canlynol—

  • gosod cosb ariannol sefydlog (gweler adran 39 o RESA);

  • gosod cosb ariannol amrywiadwy a ddyfarnwyd gan yr awdurdod gorfodi (gweler adran 42 o RESA);

  • ei gwneud yn ofynnol bod camau penodedig yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau nad yw’r tramgwydd yn parhau neu’n digwydd eto (ibid);

  • ei gwneud yn ofynnol bod camau penodedig yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod y sefyllfa yn cael ei hadfer i'r hyn a fyddai wedi bod pe na bai'r tramgwydd wedi ei gyflawni (ibid);

  • dyroddi hysbysiad stop, sy'n hysbysiad sy'n gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd hyd nes y bydd y camau a bennir yn yr hysbysiad wedi eu cymryd (adran 46 o RESA);

  • derbyn ymrwymiad gorfodi gan berson mewn achos lle mae gan yr awdurdod sail resymol dros amau bod y person wedi cyflawni tramgwydd perthnasol (adran 50 o RESA) (ymrwymiad gorfodi yw ymrwymiad i gymryd camau a bennwyd; mae cyflawni’r ymrwymiad yn cael yr effaith o atal y person hwnnw rhag cael ei gollfarnu o dramgwydd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred y mae’r ymrwymiad yn berthnasol iddi neu rhag bod yn destun cosbau ariannol sefydlog neu ofynion disgresiynol a osodir arno mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno).

48.Mae adrannau 39(4) a 42(6) wedi eu datgymhwyso yn achos darpariaeth a wneir o dan adran 9(1) o'r Mesur yn rhinwedd is-adran 3. Mae hyn oherwydd bod y ddwy ddarpariaeth yn RESA yn gosod terfynau ar gosbau, ac mae’r terfynau y maent yn eu gosod yn gallu bod yn uwch na’r terfynau a ganiateir mewn Mesurau yn rhinwedd paragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gweler paragraff 37 uchod).

49.Mae is-adran (3)(b) hefyd yn addasu is-adran 49(1) o RESA, am yr un rheswm. Mae adran 49 o RESA yn gwneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i orfodi hysbysiadau stop drwy greu tramgwyddau troseddol. Mae'r ddirwy uchaf ar gollfarn ddiannod a bennir yn adran 49 yn fwy na'r swm y gellir ei osod mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd gan neu o dan Fesur Cynulliad (gweler uchod, paragraff 37). Mae is-adran (3)(b) yn addasu is-adran 49(1) o RESA er mwyn cael gwared o’r anghysondeb hwn drwy ei gwneud yn glir bod y cyfeiriad yn adran 49(1)(a) at “£20,000” i'w ddarllen fel cyfeiriad at “level 5 on the standard scale” – sef y ddirwy uchaf a ganiateir o dan baragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

50.Mae is-adran (4) yn cymhwyso adrannau 63 i 69 o RESA i reoliadau a wneir o dan adran 9 o'r Mesur yn yr un modd ag y byddent yn gymwys i orchymyn a wneid o dan Ran 3 o RESA. Mae is-adrannau (5) a (6) yn gwneud darpariaeth gysylltiedig.

51.Nodir effaith gyfunol is-adrannau (4) i (6) yn y paragraffau a ganlyn.

52.Pan fo Gweinidogion Cymru’n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thramgwydd, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd sicrhau'r canlyniadau canlynol (gweler adran 63 o RESA)—

  • bod yr awdurdod yn cyhoeddi canllawiau am ei ddefnydd o'r sancsiwn;

  • bod y canllawiau’n cynnwys gwybodaeth benodedig, gan ddibynnu ar y math o sancsiwn, megis o dan ba amgylchiadau y byddai gosod cosb ariannol neu hysbysiad stop yn debygol, ac o dan ba amgylchiadau na ellid eu gosod; swm unrhyw gosb ariannol; sut i ryddhau cosbau a hawliau i apelio a phethau tebyg;

  • bod y canllawiau yn cael eu diwygio lle y bo hynny’n briodol;

  • bod yr awdurdod yn ymgynghori â'r personau a bennir yn rheoliadau Gweinidogion Cymru cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau;

  • bod yr awdurdod yn rhoi sylw i'r canllawiau wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

53.Pan fo pŵer yn cael ei roi i awdurdod gorfodi i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thramgwydd rhaid i'r awdurdod hefyd—

  • paratoi a chyhoeddi canllawiau ynghylch sut y gorfodir y gyfraith ynglŷn â’r tramgwydd (gweler adran 64 o RESA);

  • cyhoeddi adroddiadau ynghylch yr achosion lle mae'r sancsiwn sifil wedi ei osod (gweler adran 65 o RESA).

54.Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod gorfodi i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thramgwydd oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd yr awdurdod yn gweithredu'n unol â'r egwyddorion canlynol (y cyfeirir atynt yn RESA fel yr egwyddorion rheoleiddiol (“the regulatory principles”)) wrth arfer y pŵer hwnnw—

  • y dylai gweithgareddau rheoleiddiol gael eu cyflawni mewn ffordd sy'n dryloyw, atebol, cymesur a chyson; ac

  • y dylai gweithgareddau rheoleiddiol gael eu targedu'n unig ar achosion lle mae angen gweithredu.

55.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi pŵer i osod sancsiynau sifil, rhaid iddynt adolygu'r modd y gweithredir y pŵer hwnnw (gweler adran 67 o RESA) a chânt atal dros dro bŵer awdurdod gorfodi i osod sancsiynau o’r fath (gweler adran 68 o RESA).

56.Rhaid i dderbyniadau o sancsiynau sifil – e.e. oddi wrth gosbau am daliadau ariannol – gael eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru pan fo gan yr awdurdod gorfodi swyddogaethau mewn perthynas â Chymru'n unig, ac i Gronfa Gyfunol y DU pan fo gan yr awdurdod gorfodi swyddogaethau mewn perthynas â Chymru a rhan arall o'r DU (gweler adran 69 o RESA).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill