Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

Adran 9 – Rheoliadau yn gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwi

40.Mae is-adran (1) yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng mathau penodedig o wastraff ar safleoedd tirlenwi yng Nghymru. Ystyr “pennu” yw pennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o’r fath (adran 17).

41.Mae'r weithred o ollwng gwastraff ar safle tirlenwi yn cael ei reoleiddio (yn rhannol) ar hyn o bryd gan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007 (OS 2007/3538). Mae'r Rheoliadau hynny wedi eu gwneud o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p. 24). Diben adran 2 o Ddeddf 1999 (ymhlith pethau eraill) yw rheoleiddio gweithgareddau a allai achosi unrhyw lygredd amgylcheddol. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 2 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru(4). Diben adran 9 o'r Mesur hwn yw rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng gwastraff ar safle tirlenwi p'un a fyddai gollwng y math hwnnw o wastraff yn gallu achosi llygredd amgylcheddol ai peidio.

42.Mae is-adran (2) yn pennu y caiff y rheoliadau ddiwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 sy'n ymwneud â gweithredu safle tirlenwi. Bydd hyn yn caniatáu i ddarpariaeth o dan adran 9 o'r Mesur hwn gael ei hymgorffori yn y drefn bresennol ar gyfer caniatáu amgylcheddol. Mae'r is-adran yn darparu hefyd y caiff rheoliadau (ymhlith pethau eraill) wneud i fethiant i gydymffurfio â'r rheoliadau yn dramgwydd; darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny; a nodi pwy fydd yr awdurdodau gorfodi a beth fydd eu swyddogaethau.

43.Mae pŵer Gweinidogion Cymru i greu tramgwyddau troseddol o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i'r terfynau a osodir gan baragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni fyddent yn gallu defnyddio'r pŵer hwn i greu unrhyw dramgwydd troseddol y gellid ei gosbi—

  • ar gollfarn ddiannod, â charchariad am gyfnod hwy na’r tymor rhagnodedig neu â dirwy sy'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd), neu

  • ar gollfarn ar dditiad, â chyfnod o garchariad sy'n hwy na dwy flynedd.

Ar hyn o bryd y cyfnod rhagnodedig yw chwe mis mewn perthynas â chollfarn ddiannod, p’un a oedd y tramgwydd yn ddull neillffordd ai peidio.    Ond pan ddaw adrannau 154(1) a 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) i rym, bydd y cyfnod yn 51 o wythnosau mewn achos o dramgwydd diannod ac yn 12 mis pan fydd y tramgwydd yn un neillffordd(5).

44.Mae rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 20(3).

4

Ac eithrio i'r graddau y mae'r pŵer yn arferadwy mewn perthynas â chwilio am olew a nwy alltraeth ac elwa arnynt: erys y pŵer gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr amgylchiadau hyn. Os yw’r pŵer yn arferadwy mewn perthynas â chorff trawsffiniol ond, o ran eu natur, ni ellir ei arfer yn benodol mewn perthynas â Chymru, mae'r pŵer yn arferadwy gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r corff hwnnw yn gydamserol â'r Ysgrifennydd Gwladol (Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2005 (OS 2005/1958), erthygl 3).

5

Paragraff 52, Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill