Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Erthygl 17
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/11/2020
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 17.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 17LL+C
Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod y swyddogaeth bwysig sy'n cael ei chyflawni gan y cyfryngau torfol a rhaid iddynt sicrhau bod modd i'r plentyn gael gafael ar wybodaeth a deunyddiau o amryfal ffynonellau cenedlaethol a rhyngwladol, yn enwedig y rhai sydd wedi eu hanelu at hybu ei lesiant cymdeithasol, ysbrydol a moesol a'i iechyd corfforol a'i iechyd meddwl.
I'r perwyl hwn, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau:
(a)annog y cyfryngau torfol i ledaenu gwybodaeth a deunyddiau a fyddai o fudd cymdeithasol a diwylliannol i'r plentyn ac yn unol ag ysbryd erthygl 29;
(b)annog cydweithrediad rhyngwladol i gynhyrchu, cyfnewid a lledaenu gwybodaeth a deunyddiau o'r fath o amryfal ffynonellau diwylliannol, cenedlaethol a rhyngwladol;
(c)hyrwyddo'r broses o gynhyrchu a lledaenu llyfrau plant;
(d)annog y cyfryngau torfol i roi sylw penodol i anghenion ieithyddol plentyn sy'n perthyn i grŵp lleiafrifol neu sy'n blentyn brodorol;
(e)hyrwyddo'r broses o lunio canllawiau priodol i amddiffyn y plentyn rhag gwybodaeth a deunyddiau a fyddai'n niweidiol i'w lesiant, gan gadw mewn cof ddarpariaethau erthyglau 13 a 18.
Yn ôl i’r brig