Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Erthygl 18
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/11/2020
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 18.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 18LL+C
1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau wneud eu gorau glas i sicrhau y cydnabyddir yr egwyddor bod gan y ddau riant gyfrifoldebau cyffredin dros fagwraeth a datblygiad y plentyn. Mae gan rieni neu, yn ôl y digwydd, warcheidwaid cyfreithiol, y prif gyfrifoldeb dros fagwraeth a datblygiad y plentyn. Eu consýrn sylfaenol hwy fydd lles pennaf y plentyn.
2LL+CEr mwyn gwarantu a hybu'r hawliau sydd wedi eu nodi yn y Confensiwn presennol, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi cymorth priodol i rieni a gwarcheidwaid cyfreithiol i gyflawni eu cyfrifoldebau magu plant a rhaid iddynt sicrhau bod sefydliadau, cyfleusterau a gwasanaethau'n cael eu datblygu i ofalu dros blant.
3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i sicrhau bod gan blant rhieni sy'n gweithio hawl i fanteisio ar wasanaethau a chyfleusterau gofal plant y maent yn gymwys i'w cael.
Yn ôl i’r brig