Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2021.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Erthygl 23.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Erthygl 23LL+C
1LL+CMae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod y dylai plentyn sydd ag anabledd meddyliol neu gorfforol fwynhau bywyd llawn a gweddus, mewn amodau sy'n sicrhau urddas, yn hybu hunanddibyniaeth ac yn hwyluso cyfranogiad gweithredol y plentyn yn y gymuned.
2LL+CMae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn anabl i gael gofal arbennig a rhaid iddynt hyrwyddo'r broses, yn ddarostyngedig i'r adnoddau sydd ar gael, o estyn i'r plentyn cymwys a'r rhai sy'n gyfrifol dros ofalu amdano, y cymorth y mae cais yn cael ei wneud amdano ac sy'n briodol i gyflwr y plentyn ac i amgylchiadau'r rhieni neu'r personau eraill sy'n gofalu am y plentyn a rhaid iddynt sicrhau y caiff y cymorth hwnnw ei estyn iddo.
3LL+CGan gydnabod anghenion arbennig plentyn anabl, rhaid i gymorth a estynnir yn unol â pharagraff 2 o'r erthygl bresennol gael ei roi yn ddi-dâl, pryd bynnag y bo'n bosibl, gan ystyried adnoddau ariannol y rhieni neu'r personau eraill sy'n gofalu am y plentyn, a rhaid iddo fod wedi ei gynllunio i sicrhau bod y plentyn anabl yn cael mynediad effeithiol at addysg, hyfforddiant, gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau adsefydlu, cyfleoedd i baratoi ar gyfer cyflogaeth a chyfleoedd hamdden, a'i fod yn eu cael, a hynny mewn modd sy'n ei gwneud hi'n hwylus i'r plentyn integreiddio i'r graddau llawnaf posibl â'r gymdeithas ac i ddatblygu fel unigolyn, gan gynnwys datblygu yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol.
4LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu, yn ysbryd cydweithrediad rhyngwladol, y broses o gyfnewid gwybodaeth briodol ym maes gofal iechyd ataliol ac ym maes triniaeth feddygol, seicolegol a gweithredol plant anabl, gan gynnwys lledaenu gwybodaeth ynghylch dulliau adsefydlu, addysg a gwasanaethau galwedigaethol a mynediad at yr wybodaeth honno, gan anelu at alluogi Partïon Gwladwriaethau i wella eu galluoedd a'u sgiliau ac ehangu eu profiad yn y meysydd hyn. Yn hyn o beth, rhaid rhoi sylw penodol i anghenion gwledydd sy'n datblygu.
Yn ôl i’r brig