Rhan 3 – Trefniadau Llywodraethu sydd ar gael
Adran 34 – Diddymu gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor
53.Mae’n diwygio Deddf 2000 i ddileu opsiwn y weithrediaeth maer a rheolwr cyngor o’r trefniadau gweithrediaeth sydd ar gael yng Nghymru.
Adran 35 –Awdurdodau i roi trefniadau gweithrediaeth yn lle trefniadau amgen
54.Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gweithredu trefniadau amgen (y cyfeirir atynt hefyd fel y “Pedwerydd Opsiwn”) i roi’r gorau i wneud hynny ac i ddechrau gweithredu yn lle hynny ffurf a ganiateir, sef ffurf ar drefniadau gweithrediaeth. Mae’r weithdrefn ar gyfer y trosiad o drefniadau amgen i drefniadau gweithrediaeth wedi ei nodi yn Atodlen 1 i’r Mesur hwn y mae’r adran hon yn rhoi ei heffaith iddo. Wrth gydymffurfio â’r adran hon a’r Atodlen, bydd yn rhaid i unrhyw awdurdod lleol y mae arno angen roi’r newid ar waith gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Mae paragraff 13(2) o Ran 2 o’r Atodlen yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu, drwy orchymyn, i’r awdurdod lleol roi’r gorau i weithredu trefniadau amgen a dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.