Adran 89 – Hysbysiad am gyfarfod cymunedol a gafodd ei gynnull gan etholwyr llywodraeth leol
100.Mae’n mewnosod paragraff 30B newydd yn Atodlen 12 i Ddeddf 1972 sy'n rhoi'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'w darparu i alluogi'r cyngor lleol perthnasol i benderfynu a gafodd cyfarfod cymunedol ei gynnull yn briodol pan fo cynullwyr y cyfarfod yn etholwyr llywodraeth leol. Cyngor cymuned mewn cymunedau lle y mae cyngor cymuned yn bod a'r prif gyngor lle nad oes un yn bod yw'r cyngor lleol perthnasol y mae'n rhaid rhoi hysbysiad am gyfarfod cymunedol iddo.
101.Nodir yr wybodaeth y mae’n ofynnol i'w chynnwys mewn hysbysiad yn is-adrannau (2) - (7). Mae'r darpariaethau yn caniatáu i'r hysbysiad gael ei roi ar ffurf electronig i brif gyngor (ar yr amod ei fod yn bodloni'r gofynion technegol a osodir gan y prif gyngor o dan adran 90) ac i'r etholwyr sy'n cefnogi cynnull cyfarfod cymunedol i aros yn ddienw os cofrestrwyd hwy yn ddienw ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol.