- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, RHAN 10 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 07 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Measure (including any effects on those provisions):
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol gael ei wneud onid oes drafft o'r gorchymyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
(a)rheoliadau o dan adran 9(1)(i) [F1F2...F3... neu Ran 2] ;
(b)gorchymyn o dan adran F4...[F5158 ]F6...;
F7(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(d)gorchymyn o dan adran 177 sy'n cynnwys addasiadau i ddeddfiad (ac eithrio deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth).
F8(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 178 (cychwyn), yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn i gymhwyso deddfiad yn bŵer i'w gymhwyso gydag addasiadau neu hebddynt.
(6)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer (ond heb fod yn gyfyngedig iddo)—
(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol, neu ardaloedd daearyddol gwahanol;
(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
(c)i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, drosiannol, ddarfodol, ganlyniadol, arbed, gysylltiedig a darpariaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 172(2)(a) wedi eu hamnewid (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(1)(b)(i), 175(1)(f)(2)
F2Geiriau yn a. 172(2)(a) wedi eu hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 3 para. 13(4)(a); O.S. 2021/231, ergl. 6(r)
F3Geiriau yn a. 172(2)(a) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(1)(b)(ii), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
F4Geiriau yn a. 172(2)(b) wedi eu hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 3 para. 13(4)(b); O.S. 2021/231, ergl. 6(r)
F5Geiriau yn a. 172(2)(b) wedi eu hamnewid (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(1)(b)(iii), 175(1)(f)(2)
F6Geiriau yn a. 172(2)(b) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(1)(b)(iv), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
F7A. 172(2)(c) wedi ei hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(1)(b)(v), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
F8A. 172(3) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(1)(b)(vi), 175(1)(f)(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 172 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F9A. 173 wedi ei hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 3 para. 13(5); O.S. 2021/231, ergl. 6(r)
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi canllawiau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r canllawiau a roddwyd.
(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r cyfarwyddiadau a roddwyd.
(3)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol, neu ardaloedd daearyddol gwahanol;
(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.
(4)Nid yw is-adrannau (1) i (3) yn cyfyngu ar y pwerau o dan y Mesur hwn i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 174 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)
Yn y Mesur hwn—
mae'r term “addasiadau” (“modifications”) yn cynnwys diwygiadau, diddymiadau a dirymiadau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru;
[F10ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]
mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys y canlynol—
deddfiad pryd bynnag y bydd wedi ei basio neu wedi ei wneud,
deddfiad a gynhwysir yn y Mesur hwn, a
darpariaeth a gynhwysir mewn is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978);
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn a. 175 wedi eu mewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 41
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 175 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)
(1)Yn adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Cymru), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)The power of the Welsh Ministers to make an order under section 21A(13)(b) or section 21G is exercisable by statutory instrument.
(6)A statutory instrument which contains an order made by the Welsh Ministers under section 21A(13)(b) is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.
(7)A statutory instrument which contains an order under section 21G may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales.”.
(2)Mae Atodlen 4 (diddymiadau a dirymiadau) yn cael effaith.
(3)Nid yw dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1086), gan is-adran (2) yn effeithio ar bŵer y Panel i ragnodi materion mewn perthynas â chynllun a wneir o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hynny pan fo'r cynllun hwnnw'n weithredol yn ystod unrhyw ran o'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011 (ac at y dibenion hyn, mae i “panel” a “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 8 o'r Mesur hwn).
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 176(2) mewn grym ar 11.5.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 178(1)(c)
I5A. 176(2) mewn grym ar 11.7.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 178(2)(d)
I6A. 176(1) mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(p)
I7A. 176(2) mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(l)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol ac arbed y maent o'r farn eu bod yn briodol mewn cysylltiad â'r Mesur hwn.
(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (1) yn cynnwys addasiadau i unrhyw ddeddfiad (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).
(3)Mae'r addasiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (2) yn ychwanegol at y rhai a wnaed neu y caniateir eu gwneud o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 177 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)
(1)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—
(a)adrannau 58, 77, 79, 80 a 159;
(b)y Rhan hon (ac eithrio adran 176);
(c)Rhan E o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan E o Atodlen 4).
(2)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—
(a)Rhannau 3 a 4;
(b)adran 55 ac adran 76;
(c)Penodau 2 i 9 o Ran 7;
(d)Rhannau B ac C o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhannau B ac C o Atodlen 4).
(3)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), daw'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 178 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)
Enw'r Mesur hwn yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 179 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)
The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Mesur Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Mesur Cyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys