Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 7

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/05/2012. Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Paragraff 7. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

Cyhoeddusrwydd i gynigionLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

7(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo cynigion drwy benderfyniad.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig ar gael yn ei brif swyddfa i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)sy'n datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, sy'n datgan—

(i)ei bod yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm, a

(ii)dyddiad y refferendwm

(c)sy'n datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau gweithredu'r trefniadau hynny,

(d)sy'n disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny,

(e)sy'n datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar yr adegau a bennir yn yr hysbysiad, ac

(f)sy'n rhoi cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.

(4)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adrannau (2) a (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo basio'r penderfyniad yn cymeradwyo'r cynigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth