Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/05/2012.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Paragraff 3. Help about Changes to Legislation

CyfarfodyddLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

3(1)Rhaid i'r Panel gyfarfod o leiaf unwaith bob blwyddyn galendr.

(2)Cworwm y Panel yw tri a rhaid iddo gynnwys y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd.

(3)Y Cadeirydd(neu, yn absenoldeb y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd) sy'n llywyddu yng nghyfarfodydd y Panel.

(4)Caiff aelodau'r Panel (yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan 8) reoleiddio gweithdrefnau'r Panel.

(5)Rhaid i gwestiwn sydd i'w benderfynu gan y Panel gael ei benderfynu mewn cyfarfod o aelodau'r Panel drwy fwyafrif o'r pleidleisiau sy'n cael eu bwrw gan yr aelodau hynny sy'n bresennol yn y cyfarfod.

(6)Os yw nifer y pleidleisiau ar gwestiwn sydd i'w benderfynu yn gyfartal, mae gan y person sy'n llywyddu'r cyfarfod ail bleidlais neu'r bleidlais fwrw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth