[143ASwyddogaethau sy’n ymwneud â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedigLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys am—
(a)unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy’n ymwneud â chyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod;
(b)unrhyw newid arfaethedig i gyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod.
(2)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).
(3)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys, cyn iddo newid cyflog pennaeth ei wasanaeth cyflogedig mewn modd nad yw’n gymesur â newid i gyflogau staff arall yr awdurdod—
(a)ymgynghori â’r Panel am y newid arfaethedig, a
(b)rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo benderfynu p’un ai i fynd rhagddo i wneud y newid ai peidio.
[(3A)Ond caiff awdurdod perthnasol cymwys sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig mewn cyflog wneud y gostyngiad cyn derbyn argymhelliad gan y Panel os nad yw’r contract y mae’r cyflog yn daladwy oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y cyflog ar ôl derbyn argymhelliad.
(3B)Pan fo awdurdod perthnasol cymwys yn newid cyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig yn unol ag is-adran (3A) ac yn derbyn argymhelliad gan y Panel ynghylch y newid wedi hynny—
(a)rhaid iddo ailystyried y cyflog, a
(b)wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i’r argymhelliad.]
(4)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi unrhyw wybodaeth i’r Panel y mae’n rhesymol i’r Panel ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei rhoi iddo mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
[(4A)Rhaid i’r Panel hysbysu Gweinidogion Cymru am bob argymhelliad y mae’n ei wneud o dan yr adran hon.]
(5)Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion y mae yn eu gwneud o dan yr adran hon.
[(5A)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys—
(a)hysbysu’r Panel a Gweinidogion Cymru am ei ymateb i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i gyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn penderfynu ar yr ymateb, a
(b)peidio â newid y cyflog cyn—
(i)diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (a), neu
(ii)os yw Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn hysbysu’r awdurdod na fyddant yn rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod o dan is-adran (5B), y diwrnod y derbynnir yr hysbysiad hwnnw.
(5B)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ymateb awdurdod perthnasol cymwys i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i gyflog yn golygu y bydd yr awdurdod yn talu (neu, o dan is-adran (3A), ei fod yn talu) cyflog sy’n anghyson â’r argymhelliad, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried y cyflog, a
(b)pennu yn y cyfarwyddyd erbyn pryd y mae’n rhaid i’r awdurdod wneud hynny.]
(6)Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod perthnasol cymwys” (“qualifying relevant authority”) yw awdurdod perthnasol (yn ystyr y Rhan hon) y mae’n ofynnol iddo lunio datganiad ar bolisïau tâl;
mae “cyflog” (“salary”) yn cynnwys, yn achos pennaeth gwasanaeth cyflogedig y mae awdurdod perthnasol cymwys yn ei gymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau, daliadau gan yr awdurdod i bennaeth y gwasanaeth cyflogedig am y gwasanaethau hynny;
ystyr “datganiad ar bolisïau tâl” (“pay policy statement”) yw datganiad ar bolisïau tâl a lunnir gan awdurdod perthnasol (yn ystyr adran 43(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) o dan adran 38 o’r Ddeddf honno;
ystyr “pennaeth gwasanaeth cyflogedig”(“head of paid service”) yw pennaeth gwasanaeth cyflogedig a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.]
Diwygiadau Testunol
Addasiadau (ddim yn newid testun)