Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 172

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 21/01/2021

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/05/2012. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Adran 172. Help about Changes to Legislation

172Gorchmynion a rheoliadauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol gael ei wneud onid oes drafft o'r gorchymyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 9(1)(i), Rhan 2, adran 140, 165 neu 166(2) ;

(b)gorchymyn o dan adran 127, 158, 162 neu 170;

(c)gorchymyn yn diwygio gorchymyn o dan adran 162;

(d)gorchymyn o dan adran 177 sy'n cynnwys addasiadau i ddeddfiad (ac eithrio deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth).

(3)O ran gofynion ychwanegol mewn perthynas â Gweinidogion Cymru'n gwneud gorchmynion o dan adrannau 127 a 162, gweler adrannau 173 a 169 yn ôl eu trefn.

(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 178 (cychwyn), yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn i gymhwyso deddfiad yn bŵer i'w gymhwyso gydag addasiadau neu hebddynt.

(6)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer (ond heb fod yn gyfyngedig iddo)—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol, neu ardaloedd daearyddol gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, drosiannol, ddarfodol, ganlyniadol, arbed, gysylltiedig a darpariaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 172 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules as a PDF

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?