- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig)
- Gwreiddiol (a wnaed Fel)
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
DYMA'R FFURFLEN GAIS I'W DEFNYDDIO WRTH WNEUD CAIS AM GRANT RHANNAU CYFFREDIN, AR GYFER CYFLAWNI GWAITH GWELLA NEU AT- GYWEIRIO I RANNAU CYFFREDIN ADEILAD SY'N CYNNWYS UN NEU RAGOR O FFLATIAU. DYLID DEFNYDDIO FFURFLENNI ERAILL OS YDYCH YN GWNEUD CAIS AM GRANT ADNEWYDDU (FFURFLEN 1), GRANT CYFLEUSTERAU I'R ANABL (FFURFLEN 2) NEU GRANT Ty MEWN AMLDDALIADAETH (FFURFLEN 4). AR ÔL I CHI LENWI'R FFURFLEN HON, DYCHWELWCH HI I'R CYNGOR:
OS YDYCH YN ANSICR YNGHYLCH SUT MAE ATEB UNRHYW UN O'R CWEST- IYNAU, CYSYLLTWCH Å:
(Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person i gysylltu ag ef/hi yn y Cyngor)
A. Rhaid trin pob cyfeiriad at “chi” ac “eich” yn y ffurflen gais hon— ac eithrio yn Adran A Rhan 3-fel cyfeiriad at yr ymgeisydd am grant neu, fel y bo'r achos, at bob un o'r ymgeiswyr.
B. Ni fydd eich cais yn ddilys oni lenwch hôll rannau perthnasôl y ffurflen hon ac amgáu'r dogfennau angenrheidiôl a fynnir yn Rhan 4.
C. Mae “tenant” yn y ffurflen hon yn cynnwys rhywun sydd a thenantiaeth fflat lle mae o leiaf 5 mlynedd o'r denantiaeth honno eto i redeg adeg gwneud y cais.
D. Mae dau fath o gais ar gyfer grantiau rhannau cyffredin, ac ymdrinir â'r ddau ohonynt yn y ffurflen hon. Os ydych yn berchen rhyddfraint yr adeilad neu denantiaeth ohono ac o leiaf 5 mlynedd ohoni i fynd, gallwch wneud “cais rhannau cyffredin gan landlord” cyhyd a bod gennych hefyd bwer neu ddyletswydd i gyflawni'r gwaith dan sylw. Fel rheôl, os ydych yn denant fflat yn yr adeilad, neu'n meddiannu'r fflat fel eich unig neu eich prif breswylfan a bod dyletswydd arnoch i gyflawni peth neu'r cyfan o'r gwaith neu i gyfrannu at gostau eu cyflawni, gallwch ymuno a “chais rhannau cyffredin gan denantiaid”. Bydd angen i o leiaf dri-chwarter y tenantiaid sydd yn y sefyllfa hon yn yr adeilad ymwneud a chais rhannau cyffredin gan denantiaid: ni allwch wneud cais ar eich pen eich hun. Gall landlordiaid hefyd ymuno a'u tenantiaid (fel “landlordiaid cyfranogi” ) mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid.
E. Os ydych yn gwneud cais rhannau cyffredin gan denantiaid, gall fod angen caniatâd eich landlord arnoch i gyflawni gwaith-er enghraifft, os oes dyletswydd arnoch i gyfrannu at gostau'r gwaith, ond lle mae'n ddyletswydd ar y landlord i'w gyflawni. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael unrhyw ganiatad angenrheidiôl cyn cyflwyno eich cais.
F. Gall y rhai sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid ddymuno penodi rhywun i gydgysylltu eu cais, ac os cymeradwyir y cais gallai unrhyw ffioedd a dynnwyd gael eu cynnwys yn y costau sy'n sail i gyfrif y grant. Rhagwelir mai un yn unig o'r rhai sy'n cyfranogi fydd yn cyflwyno'r wybodaeth a fynnir yn Rhannau 1 a 4 y ffurflen; yn achos y wybodaeth a fynnir gan Rannau 2 a 3, rhaid i bob un sy'n cyfranogi gyflwyno'r wybodaeth honno ohono'i hun.
G. Nid yw grant rhannau cyffredin ar gael ar gyfer unrhyw adeilad sy'n llai na 10 mlwydd oed neu, lle crewyd y rhannau cyffredin wrth addasu adeilad, lle gwnaed yr addasu lai na 10 mlynedd yn ôl.
H. Os oes gennych forgais, fe allwch gael bod y telerau'n gofyn i chi gael caniatâd eich morgeisiai i wneud cais am grant (neu gyflawni gwaith). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael unrhyw ganiatad angenrheidiôl cyn cyflwyno cais.
I. Nid yw grant rhannau cyffredin ar gael i ddarpar-brynwyr adeiladau neu fflatiau.
J. Os yw'r gwaith y dymunwch ei gyflawni yn addasiadau neu'n welliannau i rannau cyffredin er lles person anabl sy'n byw mewn fflat yn yr adeilad, dylech wneud cais am grant cyfleusterau i'r anabl (Ffurflen 2).
K. Fel rheôl, ni thelir y grant os ydych chi, neu unrhyw un arall sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau ar y gwaith cyn i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig o'r cais hwn. Gellir gwneud eithriadau lle bo'r gwaith yn ofynnôl er mwyn cydymffurfio a rhai rhybuddion (e.e. y rhai a gyflwynir o dan adrannau 189 neu 190 Deddf Tai 1985). Fel rheôl, fe wrthodir grant os cwblheir y gwaith cyn cymeradwyo'r cais. Nid yw caniatâd cynllunio na chymeradwyaeth o dan y rheôliadau adeiladu yr un peth a chymeradwyo'r grant.
L. Mae pedair rhan i'r ffurflen hon—
Rhan 1
sy'n gofyn am wybodaeth am yr eiddo â'r gwaith sydd i'w gyflawni.
Rhan 2
sy'n gofyn am wybodaeth am y diddordeb sydd gennych yn yr adeilad neu mewn fflat yn yr adeilad, ac am y ffordd y'i meddiennir. Mae dwy ran i'r adran hon, a rhaid i bob un sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid lenwi'r Adran berthnasôl yn y rhan hon*.
Rhan 3
sydd mewn dwy adran, a rhaid i chi lenwi un yn unig o'r rhain. Mae Adran A yn gofyn am wybodaeth am deulu ac adnoddau ariannôl y tenantiaid. Rhaid i bob un sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid lenwi Adran A y rhan hon.* Mae Adran B yn gofyn am wybodaeth ariannôl oddi wrth landlordiaid.
Rhan 4
sy'n ei gwneud yn ofynnôl amgau amrywiôl ddogfennau gydâ'r cais. Mae'n ofynnôl hefyd i bob un sy'n cyfranogi lofnodi datganiad ynglyn â'r wybodaeth y mae'n ei rhoi yn y cais.
Gwnewch yn siŵr bod pob un sy'n cyfranogi yn cael copiu dyblyg o Rannau 2 a 3 i'w llenwi.
M. Mae'r cyfeiriadau at nodiadau yn y ffurflenni yn gyfeiriadau at y nodiadau a rifwyd ar ddiwedd y ffurflen.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed): Mae'r wreiddiol fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: