- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
5 Hydref 1999
Yn dod i rym
5 Hydref 1999
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 38(1), (3), (4) a (6), 39, 78, 126(4) a 128(1) a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a phob p*wcirc;er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Rheoliadau 1997” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(3);
ystyr “Rheoliadau 1986” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(4);
ystyr “Rheoliadau 1999” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999(5) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999(6).
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
2. —Ar ddiwedd rheoliad 1 o Reoliadau 1997 mewnosoder y paragraff canlynol —
“(5) In respect of paragraph (2) of this regulation and regulation 8 the amendments made by the National Health Service (Optical Charges and Payments) and (General Ophthalmic Services) Regulations 1999(6)(7) shall also have effect in Wales.”.
3. —Ar ddiwedd rheoliad 2 o Reoliadau 1986 mewnosoder y paragraff canlynol —
“(3) In respect of paragraph (1) of this regulation and regulation 13 the amendments made by the National Health Service (Optical Charges and Payments) and (General Ophthalmic Services) Regulations 1999(6)(7) and the National Health Service (General Ophthalmic Services) (Amendment) Regulations 1999(7)(8) shall also have effect in Wales.”.
4.—(1) Lle'r oedd person, neu aelod o'i deulu, yn union cyn 5 Hydref 1999 yn cael lwfans gweithio i'r anabl neu gredyd teulu, fel y bo'r achos, ni fydd y diwygiadau a wneir gan Reoliadau 1999, fel y maent yn cael effaith yng Nghymru yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yn ei achos ef cyhyd a'i fod ef, neu aelod o'i deulu, fel y bo'r achos, yn parhau i gael lwfans gweithio i'r anabl neu gredyd teulu.
(2) Yn y rheoliad hwn, bydd “lwfans gweithio i'r anabl” a “chredyd teulu” yn parhau gyda'r ystyr a roddir i “disability working allowance” a “family credit” yn Rheoliadau 1997 neu Reoliadau 1986, fel y bo'r achos, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Hydref 1999
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) sy'n darparu i daliadau gael eu gwneud drwy gyfrwng system dalebau ar gyfer costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â darparu, amnewid a thrwsio offer optegol. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasnaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) sy'n darparu ar gyfer y trefniadau y mae ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr offthalmig yn darparu gwasanaethau offthalmig odanynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud i'r diwygiadau testunol i Reoliadau 1997 a Rheoliadau 1986, sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Offthalmig) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 ac sy'n gymwys i Loegr, gael effaith yng Nghymru.
Mewn perthynas â Rheoliadau 1997 a Rheoliadau 1986 mae'r diwygiadau yn mewnosod diffiniad o “amount withdrawn” ac yn rhoi diffiniad o “disabled person’s tax credit” yn lle'r diffiniad o “disability working allowance” a hefyd yn rhoi diffiniad o “working families' tax credit” yn lle'r diffiniad o “family credit”.
Mae Rheoliad 8 o Reoliadau 1997 yn diffinio'r personau sy'n gymwys i gael taliadau i dalu costau sbectol ac offer optegol arall a ddarparwyd iddynt, neu i gyfrannu at y costau hynny. Mae'r diwygiadau i'r rheoliad hwn yn cymryd i ystyriaeth y newidiadau sy'n digwydd ar 5 Hydref 1999 yn y systemau treth incwm a nawdd cymdeithasol pan ddisodlir credyd teulu a lwfans gweithio i'r anabl gan gredyd treth teuluoedd mewn gwaith a chredyd treth person anabl.Yn yr un modd mae'r diwygiadau yn newid rheoliad 13 o Reoliadau 1986 sy'n diffinio pwy sy'n gymwys i gael profion golwg rhad ac am ddim.
Mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n darparu bod yr hawl i gael profion golwg rhad ac am ddim neu daliadau at gostau sbectol ac offer optegol arall yn parhau tra bod credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl yn parhau i gael ei dalu.
1997 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) (“Deddf 1980”), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.53) (“Deddf 1984”), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (“Deddf 1988”), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 27. Estynwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf 1980, adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52; gan Ddeddf 1984, adran 1(4), Atodlen 1, Rhan I, paragraff 1 ac Atodlen 8, rhan I; gan O.S. 1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); ac (ynglŷn â Lloegr) gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Disodlwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1); mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan I paragraff 3 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1988, adran 13(2) and (3).
Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38(1), (3), (4) a (6), 39, 78, 126(4) a 128(1) a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 i Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1997/818; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/609.
O.S. 1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1989/395, 1995/558 and 1996/2320.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: