Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 2862 (Cy. 22)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

26 Awst 1999

Yn dod i rym

1 Medi 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(1) (e) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn a dehongliLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

CymhwysoLL+C

2.  Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r diffiniad o ffioedd sy'n daladwy i sefydliadau yng Nghymru at ddibenion Pennod 1 o Ran II o'r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

Ffioedd a eithrir o'r diffiniad o ffioedd yn adran 28(1) o'r Ddeddf.LL+C

3.  Rhagnodir unrhyw ffi o ddisgrifiad a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn at ddiben adran 28(1)(e) o'r Ddeddf (sy'n darparu bod ffioedd sy'n cael eu rhagnodi wedi'u heithrio o ystyr ffioedd ym Mhennod 1 o Ran II o'r Ddeddf).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

Dayfdd Elis Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Awst 1999

Rheoliad 3

ATODLENLL+CFFIOEDD A EITHRIR O'R DIFFINIAD O FFIOEDD YN ADRAN 28(1) O'R DDEDDF.

RHAN 1LL+CDEHONGLI

1.  Yn yr Atodlen hon ystyr “darpariaeth graidd” mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau yw darparu nwyddau neu wasanaethau sy'n ymwneud â chwrs a fwriedir, drwy alluogi'r myfyriwr i gael medrau neu wybodaeth, i roi cyfle i'r myfyriwr gyrraedd hyd at y radd neu'r cymhwyster uchaf ar gyfer y cwrs (neu, lle bo mwy nag un radd neu gymhwyster yn gynwysedig mewn cwrs, yr uchaf o'r holl raddau neu gymwysterau ar gyfer y cwrs).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. para. 1 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

RHAN IILL+CDISGRIFIAD O'R FFIOEDD

2.  Unrhyw ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â darparu nwyddau i'r myfyriwr (p'un ai drwy werthu neu hurio) heblaw nodiadau ar ddarlithoedd unigol, crynodebau o ddarlithoedd neu ddeunyddiau tebyg —LL+C

(a)lle nad yw'r nwyddau yn rhan o'r ddarpariaeth graidd ar gyfer y cwrs, neu

(b)lle daw'r nwyddau yn eiddo i'r myfyriwr (p'un ai adeg talu'r ffi neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny),

ar yr amod, lle mae nwyddau'n ffurfio rhan o'r ddarpariaeth graidd i'r cwrs a'i bod yn angenrheidiol trefnu bod y nwyddau ar gael i'r myfyriwr mewn cysylltiad ag iechyd neu ddiogelwch y myfyriwr wrth fynychu'r cwrs, ni fydd is-baragraff (b) yn gymwys oni fydd y sefydliad hefyd yn trefnu bod y nwyddau ar gael i'r myfyriwr (heb i'r nwyddau ddod yn eiddo i'r myfyriwr) heb dâl.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 2 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

3.  Unrhyw ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau i'r myfyriwr lle nad yw'r gwasanaethau yn rhan o'r ddarpariaeth graidd ar gyfer y cwrs.LL+C

At ddibenion y paragraff hwn ymdrinnir â rhoi llyfrau neu ddeunyddiau eraill ar gadw mewn llyfrgell fel darpariaeth graidd ar gyfer y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. para. 3 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

4.  Unrhyw ffi sy'n ad-daliad o gost unrhyw ffi neu bris y mae'r sefydliad yn ei dalu i ryw berson arall ac eithrio pris a godir mewn perthynas â darparu nwyddau i'r sefydliad, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs, neu â chwblhau'r cwrs gan y myfyriwr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. para. 4 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

5.  Unrhyw ffi mewn perthynas ag unrhyw dreuliau gweinyddol ychwanegol a dynnir gan y sefydliad o ganlyniad i unrhyw esgeulustod neu fethiant gan y myfyriwr (gan gynnwys treuliau gweinyddol sy'n deillio o'r ffaith bod y myfyriwr yn ailsefyll arholiad, asesiad o waith cwrs, neu fodiwl cwrs).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. para. 5 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

6.  Unrhyw ffi mewn perthynas â chyfleusterau teithio a ddarperir gan y sefydliad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. para. 6 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn eithrio ffioedd penodol o ystyr “ffioedd” ym Mhennod 1 o Ran II o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (“Deddf 1998”).

Mae Adran 28 o Ddeddf 1998 yn darparu diffiniad o “ffioedd” at ddibenion Pennod 1 o Ran II o'r Ddeddf honno, sy'n eithrio categorïau penodol o ffioedd a “such other fees as may be prescribed”.

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 28 o Ddeddf 1998 ac maent yn rhagnodi categorïau pellach o ffioedd a eithrir. Mae'r rhain wedi'u nodi yn yr Atodlen.

Gwaherddir sefydliadau addysg bellach rhag codi ffioedd “atodol”. Mae'r gwaharddiad yn cael ei wneud o dan bwerau a roddir gan Adran 26 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998: gorfodir amod ar Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo osod amod ar y cyllid y mae'n ei ddyrannu i sefydliadau sy'n darparu addysg uwch.

O dan drefniadau'r Llywodraeth ar gyfer cyllido addysg bellach, mae myfyrwyr sy'n gymwys i gael cymorth yn gwneud cyfraniad personol at eu ffioedd ar sail asesiad o'u hincwm. Mae'n bosibl na fydd hyn yn fwy na œ1,025 am y flwyddyn sy'n dechrau yn hydref 1999.

Er hynny, yn y gorffennol mae prifysgolion a cholegau wedi codi tâl am nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn rhan o “ddarpariaeth graidd” cwrs. Byddai'r gwaharddiad yngŷyn â ffioedd atodol yn atal hynny, felly mae'r Rheoliadau hyn yn eithrio taliadau penodol o'r fath o'r diffiniad o ffioedd a gwmpesir gan yr amod sydd wedi'i orfodi. Diben y Rheoliadau hyn yw caniatáu i brifysgolion a cholegau barhau i godi tâl am nwyddau neu wasanaethau fel y maent wedi'i wneud yn draddodiadol. Mae'r Rheoliadau felly yn rhoi sail gyfreithiol ar gyfer parhau ag arferiad sy'n bodoli eisoes.

Mae'r Rheoliadau yn diffinio “darpariaeth graidd” i olygu darparu nwyddau neu wasanaethau sy'n gysylltiedig â chwrs sydd wedi'i fwriadu, drwy alluogi'r myfyriwr i gael medrau neu wybodaeth, i roi cyfle i'r myfyriwr ennill hyd at y radd neu'r cymhwyster uchaf ar gyfer y cwrs (neu, lle mae mwy nag un radd neu gymhwyster wedi'i gynnwys mewn cwrs, yr uchaf o'r holl raddau neu gymwysterau ar gyfer y cwrs).

Bydd y Rheoliadau hyn yn caniatáu codi tâl am nwyddau nad ydynt yn rhan o'r ddarpariaeth graidd neu lle daw'r nwyddau yn eiddo i'r myfyriwr; am wasanaethau nad ydynt yn rhan o'r ddarpariaeth graidd; unrhyw ffi sy'n ad-daliad o unrhyw ffi neu dâl y mae'r sefydliad yn ei dalu i rywun arall mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs, neu â chwblhau'r cwrs; unrhyw ffi mewn perthynas ag unrhyw dreuliau gweinyddol ychwanegol a dynnir gan y sefydliad o ganlyniad i unrhyw esgeulustod neu ddiffyg gan y myfyriwr; unrhyw ffi mewn perthynas â chyfleusterau teithio a ddarperir gan y sefydliad.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill