- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
15 Rhagfyr 1999
Yn dod i rym
1 Ionawr 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 5(1) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(1) a pharagraffau 1,3,4 a 5 o Atodlen 2 iddi, adran 25(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) a phob pŵer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3), ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(4):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro 1999 a daw i rym ar 1 Ionawr 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (“the Act”);
ystyr “dyddiad gweithredol” yw'r dyddiad y mae'r ymddiriedolaeth i fod i ddechrau ymgymryd â'r cyfan o'r swyddogaethau a drosglwyddid iddi (“operational date”);
ystyr “dyddiad sefydlu” yw 1 Ionawr 2000 (“establishment date”);
ystyr “yr ymddiriedolaeth” yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn (“the trust”).
2. Sefydlir drwy hyn Ymddiriedolaeth NHS a elwir Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro neu Cardiff and Vale National Health Service Trust.
3.—(1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y dibenion a bennir yn adran 5(1) o'r Ddeddf.
(2) Darparu nwyddau a gwasanaethau er diben y gwasanaeth iechyd o'r ysbytai a bennir ym mharagraff (3) neu o ysbytai a thir ac adeiladau cysylltiol fydd swyddogaethau'r ymddiriedolaeth.
(3) Dyma'r ysbytai a bennir er diben paragraff (2) —
i)Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4WZ;
ii) Ysbyty Llandoche, Llandoche, Penarth, CF64 2XX;
iii)Ysbyty'r Eglwys Newydd, Park Road, Caerdydd, CF14 7XB;
iv)Ysbyty Royal Hamadryad, Hunter Street, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 5UQ; a
v)Yr Ysbyty a'r Ysgol Ddeintyddol, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XW.
4.—(1) Yn ychwanegol at y cadeirydd, bydd gan yr ymddiriedolaeth 7 cyfarwyddwr anweithredol a 5 o gyfarwyddwyr gweithredol.
(2) Gan y bydd yr ymddiriedolaeth yn cael ei hystyried fel un a chanddi ymrwymiad addysgu sylweddol o fewn ystyr y paragraff 3(1)(d) o Atodlen 2 i'r Ddeddf, penodir un o'r cyfarwyddwyr anweithredol o Brifysgol Cymru.
5.—(1) 1 Ebrill 2000 fydd dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth.
(2) 31 Mawrth fydd dyddiad cyfrifo'r ymddiriedolaeth.
6. Rhwng ei dyddiad sefydlu a'i dyddiad gweithredol bydd gan yr ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol —
(a)gwneud contractau NHS;
(b)gwneud contractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c)gwneud y pethau eraill sy'n rhesymol angenrheidiol i'w galluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'i dyddiad gweithredol ymlaen.
7.—(1) Bydd Awdurdod Iechyd Bro Taf —
(a)yn trefnu bod y staff a'r cyfleusterau hynny y mae eu hangen i alluogi'r ymddiriedolaeth i gyflawni ei swyddogaethau cyfyngedig ar gael i'r ymddiriedolaeth tan y dyddiad gweithredol hyd nes bod staff yn cael eu trosglwyddo neu eu penodi i'r ymddiriedolaeth neu ganddi a bod cyfleusterau yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth;
(b)yn trefnu bod yr adeiladau hynny y bydd eu hangen ar gael i alluogi'r ymddiriedolaeth i gyflawni ei swyddogaethau cyfyngedig tra'n aros i'r adeiladau hynny gael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth.
(2) Bydd Awdurdod Iechyd Bro Taf yn talu dyledion yr ymddiriedolaeth, y bydd wedi mynd iddynt rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol, ac sy'n cyd-fynd â'r disgrifiad a nodir ym mharagraff (3) o'r erthygl hon.
(3) Mae'r dyledion y cyfeirir atynt yn y paragraff blaenorol fel a ganlyn —
(a)dyled am dâl a lwfansau teithio a lwfansau eraill y cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol yr ymddiriedolaeth;
(b)dyled am lwfansau teithio a lwfansau eraill aelodau'r pwyllgorau ac is-bwyllgorau'r ymddiriedolaeth nad ydynt yn gyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth hefyd;
(c)dyled am dâl personau a gyflogir gan yr ymddiriedolaeth; ac
(ch)unrhyw ddyled arall y gellid yn rhesymol fynd iddi gan yr ymddiriedolaeth er mwyn ei galluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.(5)
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
15 Rhagfyr 1999
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro fel Ymddiriedolaeth NHS o dan adran 5 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990, fel y'i diwygiwyd, yn benodol, gan Ddeddf Iechyd 1999.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am y gwasanaethau a reolwyd gynt gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymunedol Caerdydd a'r Cylch. Darperir ar gyfer diddymu'r ddwy ohonynt, o 1 Ebrill 2000 ymlaen, gan Orchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)(Diddymu Rhif 2) 1999.
Mae'r Gorchymyn Sefydlu yn darparu ar gyfer enw'r Ymddiredolaeth (erthygl 2); swyddogaethau'r Ymddiriedolaeth (erthygl 3); ar gyfer nifer y cyfarwyddwyr anweithredol, y mae un ohonynt i'w benodi o Brifysgol Cymru i adlewyrchu ymrwymiad addysgu sylweddol yr Ymddiriedolaeth, a nifer y cyfarwyddwyr gweithredol (erthygl 4); ar gyfer y dyddiad (1 Ebrill 2000) pan fydd yr Ymddiriedolaeth yn llwyr weithredol ac ar gyfer ei dyddiad cyfrifo (erthygl 5); ar gyfer cyflawni swyddogaethau cyn y dyddiad gweithredol (erthygl 6); ac ar gyfer atebolrwydd dros dreuliau'r Ymddiriedolaeth a'r dyledion eraill yr eir iddynt rhwng dyddiad ei sefydlu a'r dyddiad pan fydd yn ysgwyddo ei holl swyddogaethau (erthygl 7).
1990 p.19; diwygiwyd adran 5(1) a pharagraff 3(2) o Atodlen 2 gan adran 13(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”); enwir paragraff 1 o Atodlen 2 ar gyfer dehongli cyfeiriadau at “an order” o dan adran 5(1); diwygiwyd paragraffau 3, 4 a 5 gan baragraff 85 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”).
Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 5 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990, ac Atodlen 2 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Disodlwyd adran 5(2) gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf 1995.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: