- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Mathemateg) (Cymru) 2000 ac, yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, daw i rym ar 1 Awst 2000.
(2) Bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau mae a wnelont â'r pedwerydd cyfnod allweddol yn dod i rym—
(a)ar 1 Awst 2001 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod allweddol hwnnw; a
(b)ar 1 Awst 2002 ar gyfer pob disgybl arall yn y cyfnod allweddol hwnnw.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “yr Awdurdod” yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(1) (“the Authority”);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“the National Assembly”);
ystyr “y Ddogfen” yw'r ddogfen a gyhoeddir gan yr Awdurdod yn 2000 o dan y teitl “Mathemateg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol”(2) (“the Document”); a
dehonglir cyfeiriadau at gyfnodau allweddol yn unol â'r diffiniad o “key stages” yn adran 355(1) o Ddeddf Addysg 1996
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru'n unig.
2. Bydd Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Mathemateg) 1995(3) yn peidio â bod yn gymwys—
(a)ar 1 Awst 2000 ar gyfer disgyblion yn y cyfnodau allweddol cyntaf, ail a thrydydd; a
(b)ar 1 Awst 2001 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac
fe'i diddymir ar 1 Awst 2002.
3. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo bod y darpariaethau ynglŷn â thargedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a nodir yn y Ddogfen i gael effaith i'r diben o bennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio ynglŷn â mathemateg.
4. Nid yw'r enghreifftiau a italeiddiwyd yn y Ddogfen (er mwyn dangos y rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Ebrill 2000
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: