Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1157 (Cy.88)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

10 Ebrill 2000

Yn dod i rym

1 Awst 2000

Cyflawnwyd y gofynion a nodir yn yr Atodlen.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 356(2)(a) a (b) a (4) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chwmpas

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Awst 2000.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “yr Awdurdod” yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(3) (“the Authority”);

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“the National Assembly”);

  • ystyr “y Ddogfen” yw'r ddogfen a gyhoeddir gan yr Awdurdod yn 2000 o dan y teitl “Ieithoedd Tramor Modern yn y Cwricwlwm Cenedlaethol”(4) (“the Document”).

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru'n unig.

Diddymu

2.  Diddymir Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Ieithoedd Tramor Modern) 1998(5).

Pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio

3.  Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo bod y darpariaethau ynglŷn â thargedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a nodir yn y Ddogfen i gael effaith i'r diben o bennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio ynglŷn ag ieithoedd tramor modern.

4.  Nid yw'r enghreifftiau a italeiddiwyd yn y Ddogfen (er mwyn dangos y rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ebrill 2000

ATODLENGOFYNION O DAN ADRAN 368 O DDEDDF ADDYSG 1996(7)

  • Adran 368(2)

    Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig i'r Awdurdod gan roi cyfarwyddiadau amser ynglŷn â'r cyfnod yr oedd yr Awdurdod i roi adroddiad(8).

  • Adran 368(3)

    Hysbysodd yr Awdurdod y cynnig i'r cyrff a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 368(3) o Ddeddf Addysg 1996 a rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ar y materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(5)

    Cyflwynodd yr Awdurdod ei adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

  • Adran 368(5)

    Trefnodd yr Awdurdod gyhoeddi'r adroddiad.

  • Adran 368(6) a (7)

    Cyhoeddwyd drafft o'r Gorchymyn a'r ddogfen gysylltiedig a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(6) a (7)

    Anfonwyd copi o'r Gorchymyn drafft a'r ddogfen gysylltiedig i'r Awdurdod ac at bob un person yr ymgynghorodd yr Awdurdod â hwy a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Caiff Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer ieithoedd tramor modern ei ddiwygio o 1 Awst 2000 ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i raglenni astudio newydd, sy'n nodi beth ddylid ei addysgu i ddisgyblion, ac yn gosod targedau cyrhaeddiad iddynt. Rhoddir y manylion amdanynt mewn dogfen o'r enw “Ieithoedd Tramor Modern yn y Cwricwlwm Cenedlaethol” sydd ar gael gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn disodli Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 1995.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 356(4) gan baragraff 87(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 356 o Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.

(4)

ISBN 07504 24117

(7)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 368 gan baragraff 28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 368 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(8)

O dan adran 23(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) caiff y Cynulliad Cenedlaethol barhau gydag unrhyw beth a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â swyddogaethau a freiniwyd ynddo gynt a bydd yn cael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill